#Sir Fynwy
Explore tagged Tumblr posts
Note
Heyaaa, I absolutely love your fic (I wanna eat it so bad). I swear I'm autistic about it.
Fool's my favourite, so I have a quick question:
You mentioned in the Halloween q&a that he's from the UK, so does he have a British accent? If so, which one? Southend London, posh (royal), Manchester,...?
Anyway I love you and can't wait for the new chapter ❤️
Fool has a fairly posh uk accent (he enunciates a lot) with a slight South Welsh lilt if you squint. His location was in Sir Fynwy <3
61 notes
·
View notes
Text
Gwent (Shir)
Ma Gwent yn sir ti catw, a fa rows Shir Llywodrâth Leol yn Ne-Ddwyrân Cymru. Ma Shir ti câl i greu ar y cynta o mish Ebrill, mil now cant sîth deg pedwar (1974), gan y deddyf llywodrâth leol mil now cant sîth deg dou (1972); Fa rows câl i enoi am ydd en tyrnas Gwent. Fa rows y sir olynydd i Shir Gwînyddol Mynwy (ta thrôata bâch ydd ymyla) ag y shir trefol Casnewydd yn ddou.
Ta Deddyf Llywodrâth Leol Cymru mil now cant now deg pedwar (1994), fe rows y Shir Gwent câl i dorri ar y cynta mish Ebrill, mil now cant now deg wech (1996).
Ta pin, ma eno’n aros yn nithur wel shir ti catw Cymru am resyma tarddodiatol Lefftenantâth a shiryfiâth, a i eno’n bará yn brifenoa wänol, am eshampyl, ydd Eddlu Gwent, y Spyty Gwent Breninol, Sosiashwn Bŵyd Gwyllt, a Choleg Gwent.
Fe rows y shir gwínyddol câl i rannu i rif o bartha, Blâna Gwent, Islwyn, Mynwy, Casnewydd a Thorfân. Ma siródd olynol yn Blâna Gwent, Cârffili (ti dod yn annar o Morgannwg Ganol), Shir Fynwy (palan chwe deg y cant 60% Dwyrînol y shir anesol run eno), Casnewydd a Thorfân.
Yn dwy fil tri (2003), fe rows y shir ti catw’n gorwtho i ddiddeori Shir Cârffili’n gron. Yn dwy fil sîth (2007), fe meddwlir pobolgâth ydd artal ma mwyetic bod pump chwe deg mil, pump cant (560,500), sydd yn i fod yn y shir ti catw mwya pobolog Cymru.
0 notes
Text
That's a great point! The way the States - and, to be fair, a lot of settler colonies, this appears to be a British (European? I'm less familiar with the naming conventions of other coloniser nations) People Going And Colonising Another Place thing, I used to get constant weather reports for [redacted] in Canada when I lived in [redacted] England - has taken this sort of scattergun, decontextualised approach to names is wild.
(There's a thesis brewing in my brain about decontextualisation and coloniality and violence, which I think this could be relevant to, but it ain't there yet lmao.)
Like, what possesses one to name an area of eastern Australia 'New South Wales'? (And this is why I'm saying Britain instead of England most of the time - we were all at it, there have been at least 13 Cardiffs in the US, according to WalesOnline. And Wales' second city, Swansea, is also represented in Bristol County, Massachussetts, Bristol in the UK being an English city and shire (though not named Bristolshire) about three hours from Swansea by road. Which I think sums this madness up. Was England the dominant nation within Britain at the time and now? Absolutely! But we were all doing this stupid thing.)
Interesting fact/s about Lancashire - the Lanca part comes from Lancaster, the main city and cultural hub (though not administrative centre, these days) in the area, and also the seat of the House of Lancaster, a branch of the British royal house most famous for forming one side in the Wars of the Roses (the current king is also still the duke of Lancaster) and the obvious inspiration for George R R Martin's Lannister family name.
'Lan' is from the River Lune, and the 'caster' suffix comes from the same origin (Roman 'castrum', Old English caester) as all the 'chester' names further south, so the shire name is actually formed by chopping the suffix up. I suspect this is because this would have come later, but don't know.
(Wales' shires - Monmouthshire | Sir Fynwy, Carmarthenshire | Sir Gaerfyrddin, etc - are definitely newer than the place names they're based on, bc England had to conquer us first, but England's are often much older; Wikipedia says a thousand years or more, which is also about the timespan we've got records for a place called Lancaster (Loncastre, Domesday Book).)
Hey so you know that phenomenon where words come into the language from different directions so you get stuff like 'chai tea' (tea tea, literally) or 'Sahara Desert (desert desert)?
Came across a possible baby one today.
So I was just listening to a podcast about rickrolling - til that Rick Astley is not only British but *Northern* - and the hosts were American and they were talking about how he came from 'Lancashire county'
and I'm there like, you're making it sound like he's from somewhere in the US that's named after somewhere in the UK, like Birmingham or Dallas or whatever (there are So Many) and then i realised
it makes complete sense for Americans to do that, bc a lot of their land divisions are referred to like that! that's normal! but i speak British English and to me, 'shire' is just The Word For Normal Land Divisions, it's historical, geographical and cultural, with administrative functions having drifted - the administrative and political boundaries have shifted some with the passage of time, but the old customary divisions remain
we *do* sometimes use the formulation 'x county', sometimes even 'xshire county', for the modern administrative units though it's usually with 'council' at the end, bracketed with the county - Essex County Council (the county council for Essex), Hampshire County Council (the county council for Hampshire). 'Staffordshire County' is something you'd only say if you needed to make a very specific political and administrative point. it's not something you'd say about your area of origin or cultural background, because it's just not relevant.
I have family in Derbyshire. somewhere. who the fuck knows if they're in the admin boundaries of Derbyshire County! i have a friend who's from Yorkshire, but there *is no* straight Yorkshire county - it's split into several administrative areas.
so anyway hearing someone say 'he grew up in Lancashire County' just sounds really, really wrong to me, while it sounds perfectly normal and reasonable to Americans. the Brits have counties, right?
and I'm there like YESSSS I LOVE IT WHEN THIS SHIT HAPPENS AND IT FEELS LIKE I'M WATCHING A RIVER AVON HAPPEN IN REAL TIME.
16 notes
·
View notes
Photo
Monmouthshire, Wales
Sir Fynwy, Cymru
#monmouthshire#Sir Fynwy#wales#cymru#travel#tourism#nature#landscape#architecture#photography#photographs#photograph
2 notes
·
View notes
Text
Gwthiwch!
0 notes
Text
Gwirfoddoli a Gwasanaethau Cyhoeddus
Cyn gofod3 ddydd Iau mae Owen Wilce, Arweinydd Gwirfoddoli yng Nghyngor Sir Fynwy, yn edrych ar ddatblygiad gwirfoddoli mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Mae llawer o sôn wedi bod am y pwysau cyson sydd ar Wasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru ac nid ydym yn ddim gwahanol, ond mae ein taith wirfoddoli ni’n dechrau o gymhelliant gwahanol.
Fel nifer o fudiadau gwasanaeth cyhoeddus eraill mae gan Gyngor Sir Fynwy hanes hir a balch o gefnogi gwirfoddolwyr. Serch hynny, yn 2015 fe wnaethom waith ymchwil i ddatblygu cyfeiriad strategol clir ar gyfer gwirfoddoli yn ein sir, a oedd yn cynnwys ein gweledigaeth i weithio gyda’n cymunedau a’n partneriaid allweddol ar draws sectorau. Rhoddodd hyn ddiben a chyfeiriad cyfunol i ni fel mudiad ac yn bwysicach i’n gwirfoddolwyr, ac fe ddechreuais innau yn fy swydd fel Arweinydd Gwirfoddoli i gefnogi’r datblygiadau. Seiliwyd ein strategaeth wirfoddoli a’n rhaglen weithredu ar egwyddorion gwirfoddoli Cities of Service.
Ni ellir gorbwysleisio’r angen am arweinyddiaeth gefnogol gref ar lefel swyddog a lefel wleidyddol ar gyfer gwirfoddoli mewn mudiad gwasanaeth cyhoeddus fel un y ni. Daeth yr uchelgais i ddilyn model Cities of Service yn uniongyrchol o’n Prif Weithredwr Paul Matthews, ac yntau wedi ymweld â gwreiddiau’r model yn Efrog Newydd yn swyddfa’r Maer Bloomberg. Os cewch gyfle i glywed Paul yn siarad am wirfoddoli a’n rhaglen wirfoddoli ein hunain, Sir sy’n Gwasanaethu, yn y sesiwn ‘Gwirfoddoli mewn Gwasanaethau Cyhoeddus’ am 11 y bore yn gofod3 fe fyddwch yn deall ei angerdd.
Llu o ddinasyddion gweithgar
Mae ein pwyslais ar wirfoddoli wedi’i seilio ar ddealltwriaeth ei fod yn dod â buddion sylweddol i’n dinasyddion ar lefel unigol, ein cymunedau ehangach drwy gysylltiadau a hefyd yn gwella ein mudiad. O’i roi’n syml, ei hanfod yw pobl yn helpu pobl. Heb os, mae gwirfoddoli wedi dod â’n mudiad yn agosach at ddeall o ddifrif anghenion ein cymunedau, mae ein gwirfoddolwyr yn helpu i siapio gwasanaethau yn seiliedig ar eu profiadau go iawn. Mae eu sgiliau, eu brwdfrydedd a’u doniau yn cael eu rhannu’n gyson â’n cymuned ehangach, rydym wedi bod yn lwcus iawn o gael cymorth ein llu o ddinasyddion gweithgar. Er enghraifft, pwy well i roi croeso cynnes i Eisteddfodwyr yn y Genedlaethol yn 2016 na chriw ymroddedig o wirfoddolwyr Cymraeg, lleol – ein Llysgenhadon Sir Fynwy.
I ni, mae Gwirfoddoli yn rhan o’n gwaith craidd, ac mae’n daith na fyddwn yn gwyro ohoni. Mae pob polisi rydym yn ei ddatblygu a phob penderfyniad bellach yn cynnwys anghenion ein gwirfoddolwyr. Dwi’n cyfeirio ati fel taith gan ein bod yn parhau i ddysgu oddi wrth ein gwirfoddolwyr a hefyd partneriaid arbenigol allweddol yn y trydydd sector. Mae ein Canolfan Wirfoddoli leol, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO), wedi bod yn gefnogol ers i mi ddechrau yn fy swydd, ac rydym yn parhau i weithio ar ffyrdd o gydweithredu mewn mentrau newydd a’r rheini sydd eisoes ar waith. Rydym eisiau ychwanegu gwerth at waith pwysig ein Canolfan Wirfoddoli ac fel un o’r mudiadau mwyaf yn ein sir sy’n cefnogi gwirfoddolwyr mae perthynas waith dda yn hanfodol.
Yn Sir Fynwy, rydym wedi creu grŵp partneriaeth Cydgysylltu Gwirfoddoli, yr wyf yn ei gadeirio, er mwyn cynyddu cydweithredu a hyrwyddo’r hyn a gynigir i wirfoddolwyr yn ein sir. Mae’r grŵp mawr hwn, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o sawl sector, yn mynd ati i gymryd camau gwirioneddol ac mae ynddo fudiadau sy’n cynorthwyo gwirfoddolwyr i ganfod cyfleoedd yn ogystal â’r rheini sydd am recriwtio gwirfoddolwyr. Mae ein cyfraniad at y gwaith strategol ehangach yn dangos nad ydym fel mudiad yn canolbwyntio ar wirfoddoli o fewn y Cyngor Sir yn unig, ond rydym hefyd yn cynorthwyo ein trigolion i ddod yn ddinasyddion gweithgar. Ac i ni mae gwirfoddoli yn allweddol i ysgogi’r newid hwnnw. Un ffordd rydym yn dangos hyn yw ein bod, ar y cyd â GAVO a Volunteering For Wellbeing, wedi bod wrthi’n hyrwyddo cymorth gwirfoddoli sydd ar gael i 44,000 o aelwydydd wrth gyfathrebu â nhw ynglŷn â’r dreth gyngor.
Enghraifft ardderchog o’r ffordd y mae uchelgais i ddatblygu gwirfoddoli mewn gwasanaethau cyhoeddus yn rhoi cyfle i’r trydydd sector dyfu yw’r prosiect rhagorol, Volunteering for Wellbeing. Ar ôl gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Fynwy i sicrhau arian o’r Gronfa Gofal Integredig, mae Bridges Centre yn cyflogi cydlynwyr gwirfoddoli i gynorthwyo pobl i fanteisio ar gyfleoedd gwirfoddoli sydd o fudd i’w llesiant eu hunain a llesiant y gymuned ehangach. Mae’r bartneriaeth hon wedi cael effaith bositif ar ein diwylliant gwirfoddoli fel mudiad ac wedi gwneud gwahaniaeth nodedig yn ein cymunedau.
Rydym wedi gweithio’n galed i gynllunio at gynnwys gwirfoddolwyr, gan gynnwys yr amodau a’r diwylliant sy’n caniatáu i wirfoddoli ffynnu a hefyd ein seilwaith. Datblygu pecynnau cymorth gwirfoddoli syml ond effeithiol, hyfforddiant i’n cydweithwyr i gyd ar Arwain Gwirfoddolwyr a mynd ati i wella’r ffordd rydym yn cefnogi ac yn datblygu ein gwirfoddolwyr.
Cyfle i glywed am y papur ‘Gwirfoddoli mewn Gwasanaethau Cyhoeddus’
Yn Sir Fynwy, rydym yn credu bod dyfodol disglair i wirfoddoli, ar draws y sectorau mae yna gefnogaeth dda i wirfoddolwyr ac mae’n iawn bod gwirfoddoli yn cael cryn dipyn o sylw. Croesawn bapur WCVA, Gwirfoddoli mewn Gwasanaethau Cyhoeddus, ac edrychwn ymlaen at fod yn rhan o’r trafodaethau yn y sesiwn yn gofod3 am 11 y bore; os hoffech ddod iddi cofrestrwch ar www.gofod3.cymru
0 notes
Note
Ble rwyt ti’n byw yng Nghymru? Dwi’n byw yn Lloegr ond es i i’r Ysgol yn Nhrefynwy (Sir Fynwy) felly dwi’n siarad tipyn bach o Gyrmaeg. Where are you from in Wales? I’m from England but I went to school in Wales - Monmouth specifically - so I speak a little bit of welsh. ( I know it’s not a direct translation but...)
aaaaa dwi ddim yn byw yng nghymru bellach! dwi’n dod o geredigion yn y dde-orllewin, ond nawr dwi’n byw yn lloegr ger brighton ^_^
1 note
·
View note
Photo
(via St Faith's Church, Llanfoist, Monmouthshire (Sir Fynwy), Wales)
0 notes
Text
Cymraeg ail iaith - darn o ryddiaith neu farddoniaeth yn ymwneud ag unrhyw le - Alan Iwi, Didcot (a’i ddau gynnig yn gydradd gyntaf!)
MAGWYR
Pentref yn Sir Fynwy yw Magwyr, gydag ychydig dros chwe mil o drigolion. Fe honnir bod ei enw’n dod o’r gair Lladin ‘maceria’, sef waliau maenwaith. Saif gweddillion hen blasty yng nghanol y pentre, wrth ymyl Eglwys Santes Fair.
Ond nid dyma’r rheswm pam mae’r enw ‘Magwyr’ (neu ‘Magor’ yn Saesneg) mor enwog, eithr lleoliad y pentref ger cyffordd 23A yr M4, allanfa gyntaf y draffordd ar ôl i deithwyr gyrraedd Cymru wedi croesi Ail Groesfan Hafren (neu, gan roi iddi ei henw newydd ofnadwy, Pont Tywysog Cymru). Dyma borth Cymru, felly, ar gyfer y cannoedd o filoedd o bobl sy’n croesi’r bont bob blwyddyn, ac un o’r llefydd ledled y byd, megis Gretna neu Schengen, gyda nodolrwydd sy’n tarddu’n fwy o’r ffiniau cyfagos nag o’r llefydd eu hunain.
Ar y draffordd, mae’r arwydd ‘Gwasanaethau Magwyr’ yn cyhoeddu i’r byd bod bwyd neu betrol ar gael, wrth gwrs. Ond llawer mwy na hynny, mae’n datgan bod yr ymwelwr, neu’r Cymro neu Gymraes ar ei ffordd adref, wedi cyrraedd yr Hen Wlad o’r diwedd. Gall fod taw taith hir oedd y tu ôl iddynt, neu bod llawer mwy o filltiroedd o darmac a chiwiau i ddod o’u blaen, ond o hyn ymlaen maen nhw yng Nghymru, gwlad beirdd a chantorion, gwlad Iaith y Nefoedd.
Nawr ’te, rhwng pasio olion yr hen fythau tollau a chyrraedd yr allanfa dan sylw, mae ’na ddau arwydd matrics wrth ochr yr heol. Mae’r awdur wedi mynd heibio iddynt yn ystod haf y llynedd, a dyma’r neges bwysig oedd i’w gweld ar un cyntaf ohonynt: “WELSH COVID RULES APPLY”. Nid yn Lloegr ydych chi o hyd, annwyl ymwelwr, ond hanner awr i ffwrdd o Fae Caerdydd, lle mae hawliau deddfu gyda’r Senedd, fel mae wedi bod ers blynyddoedd. Peidiwch â dychmygu y bydd pob rheol yn ddelwedd ddrych o’r un Seisnig; nid fel ’na yw’r byd yn gweithio. Senedd Cymru a benderfyna ai i ganiatáu neu i wahardd i fusnesau gael eu hagor – nid San Steffan.
Symudwn ymlaen at yr ail arwydd matrics, a dyfalwn sut defnyddiwyd y lle oedd ar gael arno fe. A dyma’r ateb: “WELSH COVID RULES APPLY”. Yr union eiriau unwaith eto. Ond y peth oedd ar goll, wrth gwrs, oedd unrhyw fersiwn Cymraeg. Mae’r gyfraith yn mynnu bod y ddwy iaith yn cael eu trin yn gyfartal gan awdurdodau cyhoeddus, felly pam dyrannwyd dau arwydd er mwyn cyfrathrebu’r neges yn Saesneg, a dim o gwbl yn y Gymraeg? Wel, ceir ei gyfiawnhau ar sail y ffaith nad siaradwyr Cymraeg yw’r gynulleidfa darged, tybiaf. Ond cawn ni feddwl fymryn. Roedd yr arwydd cyntaf yn ddigon fawr i’w weld. A dweud y gwir, ceir gyhuddo unrhyw yrrwr a fethodd ei weld o fod wedi gyrru heb ofal a’r sylw dyladwy! Oes angen un arall tebyg, rhag ofn bod y trosedd hwnnw wedi digwydd? Nac oes. Ychwanegu pwyslais oedd amcan yr ail arwydd. Ond holwn ni: beth yw’r ffordd orau i ddangos, yn glir ac heb os, bod deddfwriaeth Cymru’n wahanol i gyfraith Lloegr ac yn orfodol i’w hufuddhau? Arwain drwy enghraifft yw’r ateb, wrth reswm, nid pigo un rheol i’w dilyn a’r llall i beidio â’i dilyn, fel plentyn ffwdanllyd sy’n bwyta’i fyrgyr tra’n poeri mas y pys.
I derfynu, felly: gallaf argymell Gwasanaethau Magwyr o’r galon. Cewch brynu petrol a defnyddio’r tŷ bach, a phan fo’r rheolau Covid yn ei ganiatáu, eistedd lawr gyda phaned mawr o de i leihau’ch pwysedd gwaed pan yw’r iaith Gymraeg yn cael ei bychanu a’i hanwybyddu.
Hwyaden y Môr
CYSGOD RHITA GAWR
Dydd dedwydd ar yr Wyddfa,
A’r mynydd dan dywydd da,
A’r glud rheil ar gledrau’r rhiw
'n eu haddo i ni heddiw.
Tynnir llun neis i Facebook,
Gaiff glics a “likes”, efo lwc.
Ond daeth tempest trwm: cwmwl, Taran, iâ, y gwynt a'r niwl.
O'r bryn i Laslyn islaw,
Brochell gas; Llyn Glas llawn glaw.
A'r Lliwedd! Mor wyllt yw'r lle!
Byd cieiddlyd; dim cuddle.
O’r Grib Goch, gwaedd groch yn gri: Cerddwyr sy’n cael eu corddi.
Cybôl yw’u hawydd cwblhau
Y trip yn eu fflip-fflopiau!
Oer, gwael, gwan — ar glogwyni.
Cura’r storm eu crysau-T.
Mae’r gwynt yn troi, cnoi eu cnawd.
 chwymp, heb fap na chwmpawd, Syrthiodd y criw i'w diwedd,
Hyd lwybyr byr tua’r bedd:
Hen feddrod cysgod y cawr,
Porth i wynfa, parth enfawr.
Llanzoom
0 notes
Text
Y Pedair Cainc, The Mabinogion
Os ydyn ni'n darllen y fersiynau sydd ar gael o'r Mabinogion, mae'n hawdd gweld sut roedd Tolkien o'r farn bod gyda'r Cymry olygfa lygredig o'r Coblynnod.
Er enghraifft, yn "Pwyll Prince of Dyfed", mae Arawn yn amlwg Elf, er bod un o'r dyddiau diweddarach pan gafodd yr Ellyllon ei leihau o'u gwladwriaeth flaenorol. Fodd bynnag, mae’r rhesymau dros Pwyll’s ac Arawn yn cyfnewid teyrnasoedd am flwyddyn yn cael eu sensro a’u “Cristnogoli” yn drwm. Dim ond mewn gweithiau llawer cynharach y gellir dod o hyd i'r fersiwn wreiddiol. Ysgrifennwyd y rhain yn Gymraeg yn sgript Tengwar, ac maen nhw'n rhagddyddio dylanwad Cristnogol yn Ynysoedd Prydain.
Yn ffodus, mae rhai ychydig o'r dogfennau gwreiddiol hyn ar ôl.
Mae "Llyfr Llwyd Pen-y-Cae" yn llawysgrif wedi'i hysgrifennu ar groen lloi, a arferai gael ei gadw yn "Ysgol Mwyngloddiau De Cymru a Sir Fynwy" ym Mhontypridd. Pan ddaeth yr Ysgol yn Brifysgol Morgannwg ym 1992 gwerthwyd y llawysgrif iddi casglwr preifat. Dyma’r llawysgrif hynaf yn sgript Elvish, heblaw am lawysgrifau “Translations from the Elvish” a “The Red Book of Westmarch”, y dywedir ei bod ym meddiant "Cymdeithas Tolkien Prydain Fawr".
Nid ydw i wedi gallu edrych ar y Llyfr Llwyd gwreiddiol, ond dangoswyd rhai ffotograffau digidol imi. Rydw i’n atgynhyrchu un dudalen o’r “Math Son of Mathonwy” gwreiddiol yma. Mae’n amlwg yn y fersiwn wreiddiol hon fod Pryderi, etifedd teyrnas Pwyll, yn hanner Elven. Gwraig Arawn yn wreiddiol oedd Rhiannon, ac elf o Deulu Ffinrwd (Finrod). Yn wreiddiol, Pryderi oedd cymeriad canolog y Pedair Cangen. Cododd Gwydion Llew fel iawndal am ladd Pryderi. Roedd Llew yn fab i Arawn gan Arianrhod.
If we read the extant versions of the Mabinogion, it’s easy to see how Tolkien thought that we Welsh had a corrupted view of the Elves. For instance, in Pwyll Prince of Dyfed, Arawn is clearly an Elf, although one from later days when Elves were diminished from their former state. However, the reasons for Pwyll’s and Arawn’s exchanging kingdoms for a year are heavily censored and “Christianized”. The original version can only be found in much earlier works. These were written in Welsh in Tengwar script, and they predate Christian influence in the British Isles.
Fortunately, some few of these original documents do remain. The “Grey Book of Pen-y-Coed” is a manuscript of 84 vellum pages, once kept at the “South Wales and Monmouthshire School of Mines” in Pontypridd. When the School became The University of Glamorgan in 1992, the manuscript was sold into private hands. It is the oldest manuscript in Elvish script, except for the manuscripts of “Translations from the Elvish” and “The Red Book of Westmarch”, said to be in the possession of the Tolkien Society of Great Britain. I have not been able to examine the original Grey Book, but some digitally retouched pages have been made available to me. I reproduce one page from the original “Math Son of Mathonwy” here.
It is clear in this original version that Pryderi, heir to Pwyll’s kingdom, is half-Elven. Rhiannon was originally Arawn's wife, and an elf of the House of Ffynrwd (Finrod). Pryderi was originally the central character of the Four Branches. Gwydon’s raising of Llew Llaw Gyffes is explicitly in recompense for slaying Pryderi. Llew was Arawn’s son by Arianrhod.
0 notes
Text
Sefydliad Cymunedol Cymru
Cronfa Gwydnwch Coronavirus Cymru
Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Conwy, Dinas Caerdydd, Gwynedd, I gyd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Ddinbych, Sir Fynwy, Sir Gar, Sir Penfro, Sir y Fflint, Torfaen, Wrecsam, a Ynys Môn
Mae’r gronfa hon wedi cael ei sefydlu i gynorthwyo grwpiau a sefydliadau sy’n addasu gwasanaethau a chymorth i unigolion a theuluoedd, boed yn unigol neu ar y cyd, wedi’u heffeithio gan bandemig y coronafeirws.
Yn bennaf, byddwn yn darparu cymorth ar gyfer y canlynol (Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr):
• gweithgareddau sy’n helpu pobl sy’n agored i niwed sy’n hunanynysu (yr henoed, pobl â chyflyrau meddygol sy’n bodoli eisoes ac ati)
• Anghenion parhaus pobl sy’n agored i niwed i sicrhau bod eu hiechyd a’u lles yn cael eu cynnal
• cymorth i fanciau bwyd a sefydliadau sy’n gweithio i frwydro yn erbyn caledi a achosir gan y pandemig, gan gynnwys newyn plant
• cydgysylltu ymateb cymunedol
• costau gwirfoddolwyr i’r rhai sy’n ymateb i effeithiau’r pandemig
• costau ychwanegol gweithio o bell ac addasu gwasanaethau a ddarperir yn y gymuned ehangach
• Cymorth ychwanegol yn ôl yr angen ar gyfer anghenion emosiynol ac iechyd meddwl a chymorth profedigaeth
Sylwch mai dim ond am 6 mis y byddwn yn ystyried cost cyflwyno’r gwasanaeth / cefnogaeth i ddechrau. Byddwch yn gallu ail-ymgeisio am gyllid pellach os yw’r angen yn dal i fodoli ar ôl Medi 2020.
Os bydd arian yn caniatáu, byddwn yn darparu cymorth i:
• atal colli incwm contractau a chodi arian ar gyfer sefydliadau sy’n rhoi cymorth i grwpiau sy’n agored i niwed
Sylwch fod ceisiadau sy’n gwneud cais am grant i lenwi’r gap o incwm rydych wedi’i golli yn cael eu roi ar restr wrth gefn ar hyn o bryd a byddwn yn eu hail-ystyried ym mis Gorffennaf pan fydd gennym well syniad o faint o arian sydd gennym i ddosbarthu. Byddwn yn annhebygol o gynnig cyllid i sefydliadau sydd gyda’g cronfeydd wrth gefn sydd dros 6 mis o gostau rhedeg y sefydliad
Y grantiau sydd ar gael
• Mae grantiau o rhwng £500 a £2,000 ar gael i grwpiau sydd ag incwm blynyddol o hyd at £200,000
• Mae grantiau o hyd at £5,000 ar gael i grwpiau sydd ag incwm blynyddol rhwng £201,000 a £500,000
Pwy all wneud cais?
Elusennau, grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol a cynghorau cymunedol a tref sydd yn cynnal gweithgareddau i gefnogi’r gymuned drwy effaith pandemig Coronafirus yng Nghymru.
Fyddem ond yn cefnogi grwpiau a sefydliadau a all ddangos tystiolaeth eu bod yn gweithio’n ddiogel ac yn cadw a ganllawiau’r Llywodraeth ynglŷn â’r firws.
Cysylltwch â ni ar 02920 379 580 neu e-bostiwch [email protected] fam ragor o wybodaeth
0 notes
Text
Arestio gyrrwr wedi marwolaeth beiciwr modur
Arestio gyrrwr wedi marwolaeth beiciwr modur
https://ift.tt/eA8V8J Dyn 71 oed wedi cael ei arestio wedi i berson gael ei ladd yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a beic modur yn Sir Fynwy.
Brought to you by BBC. Fead more: https://ift.tt/2GzZIMe
* * * * * Breaking news, sport, TV, radio and a whole lot more. The BBC informs, educates and entertains – wherever you are, whatever your age. https://www.bbc.com/
View On WordPress
0 notes
Text
Ann Watkins a Ruth Roberts - E. Tomos
Roedd trawsgludo yn rhan annatod o system gyfraith a threfn yng ngwledydd Prydain yn ystod y ddeunawfed ganrif. Pasiwyd Deddf Trawsgludo ym 1718. Bwriad y ddeddf hon oedd cael gwared â gwehilion cymdeithas drwy eu halltudio yn bell, bell o Brydain i diroedd newydd yr Ymerodraeth. Hyd nes 1776 America oedd prif gyrchfan llongau Prydeinig ond gyda dechrau Rhyfel Annibyniaeth yn America roedd gofyn canfod cyrchfan newydd, a dewiswyd Awstralia.
Rhwng 1787 ac 1852 anfonwyd 147,580 o droseddwyr o Brydain i Awstralia, ac yn eu plith roedd 283 o ferched o Gymru. Yn nechrau’r ddeunawfed ganrif ffurfiwyd cysyniadau ‘modern’ ynghylch rhywedd. Cred a oedd yn ennill lle blaenllaw gan gyfoeswyr oedd y gred awdurdodedig mai merched oedd y gwanaf o’r ddau ryw; yn gorfforol ac yn feddyliol. Ystyriwyd merched fel unigolion mamol, goddefol a chain. Yn ogystal â hyn, credai cyfoeswyr fod merched yn disgyn i mewn i ddau ddosbarth, y merched da a’r merched drwg. Lliwiwyd y gred hon gan draddodiadau Cristnogol; roedd merched un ai’n hollol dda, fel y Forwyn Fair, neu’n hollol ddrwg fel Efa yng Ngardd Eden. Gyda chredoau mor gadarn yn siapio’r ddelwedd o ferched roedd hi’n anochel y byddent hefyd yn lliwio’r system gyfreithiol ac yn arwain at amrywiaeth yn y driniaeth a dderbyniai troseddwyr benywaidd a gwrywaidd.
Ym 1866 mewn erthygl yn y Cornhill Magazine dywedwyd ‘Criminal women, as a class, are found to be more uncivilised than the savage… less true to all natural and womanly instincts… they are guilty of lying, theft, unchastity, drunkenness, slovenliness.’ Roedd cryn stigma yn amgylchynu’r merched hyn; cawsent eu hystyried fel puteiniad meddw, israddol ac anfoesol.
Ym marn sawl hanesydd blaenllaw megis Deidre Beddoe derbyniodd merched a oedd wedi troseddu gosb lem trawsgludiad oherwydd bod angen cywiro’r anghydbwysedd a fodolai rhwng y rhywiau o fewn y cytrefi cosb. Alltudiwyd troseddwyr benywaidd i Awstralia er mwyn bodloni chwantiau rhywiol y troseddwyr a’u swyddogion. O dan Ddeddf Trawsgludo mae lle i gredu fod merched wedi derbyn triniaeth wahanol i’w cyfatebwyr gwrywaidd am iddynt dderbyn y gosb hon am fân droseddau. Mae achosion llys yn ategu’r farn hon. Alltudiwyd Ann Watkins, 19 blwydd oed o Sir Fynwy am ddeng mlynedd i Van Diemen’s Land wedi iddi ddwyn darn o facwn a thorth o fara, ei throsedd cyntaf hyd y gwyddom. Gyrrwyd Ruth Roberts i Van Diemen’s Land am saith mlynedd wedi iddi ddwyn pedwar cabaets o ardd ger Y Bala.
Wrth edrych ar y driniaeth a dderbyniodd troseddwyr benywaidd, yr hyn sy’n dod i’r amlwg yw’r gwrthdaro cyson a geir rhwng y ddelwedd o’r ferch eiddil a’r gred fod rhai merched yn wirioneddol ddrwg. Sut oedd merch i ragdybio sut y byddai’r rheithgor yn ymateb iddi? Ai drwy gydymdeimlo â hi, gan ei bod hi’n ddyletswydd ar ddynion yn unol ag agweddau patriarchaidd yr oes i amddiffyn merched? Mae hi’n bosib dadlau fod y troseddwr benywaidd yn ymgorfforiad o’r ddwy gred - onid oedd angen gwarchod ‘Efa’r ferch ddrwg’ hefyd gan ei bod hithau fel y gweddill yn wan? Darllen Pellach: Beddoe, Deirdre, Welsh Convict Women (Y Bont-faen, 1979) Williams, Richard, J. Sentenced to Hell: The Story of men and women transported from north Wales 1730 – 1878 (Pwllheli, 2011) Mae Elin Tomos newydd raddio o Brifysgol Aberystwyth mewn Hanes gyda Chymraeg. Mi fydd hi’n mynd yn ôl i gwbwlhau gradd meistr yno ym mis Medi.
0 notes
Text
Lle mae Gwirfoddoli yn Ffynnu... Gwirfoddoli yn y Sector Cyhoeddus - Beth Nesaf?
Sandy Clubb, Ymgynghorydd Trydydd Sector, sy’n gofyn beth sy’n digwydd wrth i chi gyfuno galw cynyddol am wasanaethau cyhoeddus, â chyllidebau sy’n crebachu i’w darparu? Sut y gallwn sicrhau canlyniadau gwell, drwy gynnwys pobl mewn ffordd wahanol? Sut beth allai gwasanaethau cyhoeddus fod mewn deng mlynedd, gyda gwirfoddoli yn rhan lawer mwy o’r ffordd maent yn cael eu darparu?
Dyma rai o’r cwestiynau yr es i ati i’w hystyried pan gefais fy nghomisiynu gan WCVA i ysgrifennu papur ynglŷn â gwirfoddoli a darparu gwasanaethau cyhoeddus.
Ni fyddwn yn wynebu’r dasg ar fy mhen fy hun - yn gymdeithion i mi oedd y criw ffyddlon o ‘hyrwyddwyr gwirfoddoli’ sef Rhwydwaith Gwirfoddoli Cymru.
O Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i’r RSPB, o’r Gwasanaeth Tân i Discovery, Cyngor Sir Fynwy, Barnardo’s Cymru a llawer iawn mwy o fudiadau eraill yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector (gyda chymorth y gymuned o Gynghorau Gwirfoddol Sirol o Sir y Fflint i Abertawe), fe’m cadwyd ar y trywydd iawn gan yr arbenigedd cyfunol hwn.
Ar hyd y ffordd, fe wnaethom ddadbacio’r potensial a’r peryglon sy’n gorwedd dan wyneb y pwnc hwn, yn ogystal â’r ‘cwestiynau llosg’ i’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau, y rheini sydd â dylanwad a’r rheini sy’n rheoli gwariant ledled Cymru. Ar adegau gall fod yn bwnc sy’n ennyn emosiwn, wrth sôn am y wasgfa ariannol, gyson y mae ein gwasanaethau cyhoeddus a’r rheini yn y trydydd sector i gyd yn ei theimlo. Ond ceir hefyd lawer o greadigrwydd ac ysbrydoliaeth yn y maes hwn.
Roeddem yn gwybod bod gwirfoddoli yn digwydd yn barod, mewn llu o wahanol ffurfiau i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus, a hynny ers sawl blwyddyn. Mae llawer o aelodau Rhwydwaith Gwirfoddoli Cymru yn hwyluso gwirfoddoli naill ai’n uniongyrchol yn y sector cyhoeddus, neu ar y cyd â chyrff cyhoeddus. Ein nod oedd ystyried sut beth allai’r dyfodol fod pe bai’r gwirfoddoli yma yn chwarae rôl fwy, a sut y gellir gwneud hyn mewn ffordd sy’n manteisio ar yr holl fuddion, wrth oresgyn rhai o’r heriau.
Sut, er enghraifft, y gellir sicrhau cymorth priodol i wirfoddolwyr? Beth yw’r ffordd orau o benderfynu pa dasgau y gallai ac y dylai gwirfoddolwyr eu gwneud? Sut i wneud gwirfoddoli yn fwy hygyrch
Mae yna ofnau i’w goresgyn megis ‘dim ond ymgais yw hyn oll i lenwi bwlch toriadau ariannol’, a rhai materion ‘morthwyl i dorri cneuen’ o ran llywodraethu a chymesuroldeb i fynd i’r afael â nhw (a oes angen gwiriad DBS arnoch i stacio stondin pamffledi mewn cyntedd ysbyty?)
Roedd yna adegau pan oedd pethau’n hollol amlwg – er enghraifft, mynegi bod arweinyddiaeth gref yn allweddol i wireddu’r buddion. Efallai wir fod hyn yn amlwg. Ond os ydych yn gweithio i hybu’r achos dros wirfoddoli o’r gwaelod i fyny, a gefnogir yn dda, o fewn gwasanaethau cyhoeddus, gwirfoddoli sy’n cael ei ystyried ar ddechrau’r broses dylunio a chynllunio gwasanaethau yn hytrach na rhywbeth i’w ychwanegu wedyn, yna fe fyddwch yn gwybod pa mor hanfodol y gall arweinyddiaeth fod.
Ceir enghreifftiau ardderchog o brosiectau a gwirfoddoli sy’n digwydd ar y trothwy rhwng y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, a llawer iawn mwy ble mae pethau creadigol yn digwydd ‘er gwaetha’r system, nid o’i herwydd’. Gwirfoddoli sy’n dod â mwy o gyswllt dynol i wasanaethau cyhoeddus. Cwmnïaeth pan fo ar rywun ei hangen fwyaf, lifft i’r ysbyty. Rhywun i eistedd gyda chi wrth y bwrdd bwyd, mwy o gwnstabliaid cymunedol ar y stryd. Y thema gyffredin sy’n codi ei phen dro ar ôl tro yw llesiant, a hanfod llawer o’r prosiectau sy’n bodoli yn y trothwy creadigol hwn yw dod â phobl at ei gilydd, gan fynd i’r afael ag unigedd ac arwahanrwydd.
Mewn byd cynyddol awtomataidd, ac o ystyried goblygiadau hyn ar gyfer gwaith â thâl, mae’n teimlo fel yr union amser i archwilio’r potensial y mae gwirfoddoli yn ei gynnig. I ystyried sut y gall y mathau hyn o rôl wau pobl, cysylltiad, ac amser gwerthfawr yn ôl i mewn i wasanaethau sy’n cael eu cyfyngu’n gynyddol gan eu cyllidebau.
Mae’r papur hwn yn fan cychwyn, yn ysgogiad, yn dechrau sgwrs yng Nghymru. Mae’n cynnig cwestiynau i’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau a’r rheini sydd â dylanwad, ac yn rhoi’r pwyslais ar arweinwyr lleol, gan eu gwahodd i ddod at ei gilydd a chreu gweledigaeth o’r hyn a ddaw nesaf yn eu cymunedau.
Os hoffech fod yn rhan o’r sgwrs ynglŷn â sut y gallwn greu mwy o botensial er mwyn i wirfoddoli ffynnu mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac i ble’r aiff y gwaith hwn nesaf, yna ymunwch â ni a’n panel o arbenigwyr yn gofod3 ar 8fed Mawrth.
Sandy Clubb, Ymgynghorydd Trydydd Sector
Mae Sandy wedi gweithio yn y gorffennol fel Ymgynghorydd i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, a thros nifer o sefydliadau eraill, gan gynnwys Sustrans Cymru a Valleys to Coast. Mae hi bellach yn gweithio fel Ymgynghorydd ar ei liwt ei hun, yn arbenigo ym maes cyfranogaeth, yn cynnig gwasanaethau i’r Trydydd Sector a’r Sector Cyhoeddus megis facilitation, hyfforddi a datblygu strategaethau. Cewch ddarganfod mwy am ei gwaith fan hyn.
0 notes
Text
Cymdeithas Tai Sir Fynwy a’n siwrnai gyda’r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol
Mae Farida Aslam, Rheolwr Cynhwysiant yng Nghymdeithas Tai Sir Fynwy, wedi ysgrifennu blog am ei phrofiad yn ymgeisio i’r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol a’r cymorth a gafodd drwy gydol y broses. Gallwch ddarllen am ei siwrnai isod!
Mudiad trosglwyddo stoc tai yw Cymdeithas Tai Sir Fynwy sydd â thros 3500 o eiddo ledled Sir Fynwy. Cawsom ein sefydlu yn 2008 ac o’r cychwyn cyntaf rydym wedi ceisio sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau i’n tenantiaid yn seiliedig ar eu hanghenion penodol. Mae ein rhaglen yn cynnwys hyrwyddo datblygiad y gymuned, cynnwys y gymuned, hybu sgiliau a dyheadau o ran gwaith a’r nod cyffredinol o leihau tlodi ymysg ein tenantiaid.
Ers 2008, rydym wedi bod yn weithgar iawn yn ceisio am gyllid i’n helpu gyda’r agenda hon. Y llynedd, fe benderfynon ni ymgeisio i’r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol gan fod ei hamcanion yn adlewyrchu’r gweithgareddau roeddem eisoes yn eu cynnal. Tra mae gan Gymdeithas Tai Sir Fynwy brofiad o ddefnyddio cyllid dros y 9 mlynedd diwethaf i gynnal prosiectau datblygu cyflogadwyedd a sgiliau – dyma fyddai’r tro cyntaf i ni ddefnyddio cyllid yr UE. A ninnau wedi gweithio ar brosiect trawswladol Ewropeaidd o’r blaen – roeddem yn ymwybodol o rai o’r heriau sy’n gysylltiedig â chyllid yr UE, ond gydag awch i wneud llwyddiant ohoni, roeddem yn gwbl barod ar gyfer y siwrnai (a fu’n heriol ar adegau) o’n blaenau.
Y glwyd gyntaf – manyleb y grant
Roedd angen i ni ddechrau arni gyda’r broses ymgeisio ond allwn ni ddim gwneud hynny heb fanyleb y grant. Yn anffodus, cafodd dyddiad rhyddhau manyleb y grant ei ohirio ambell waith. Gan deimlo braidd yn rhwystredig o achos hyn, cysylltais â thîm Cynhwysiant Gweithredol i ofyn sut beth oedd y fanyleb fel arfer a pha fath o wybodaeth y byddwn yn ei chael. Bu’r tîm o gymorth mawr gan ddarparu manyleb i ni o rownd flaenorol mewn rhanbarth cyfagos. Roedd modd i ni wedyn ddefnyddio’r fanyleb hon yn fewnol i ddatblygu rhyw ffurf ar ein cynnig.
Pan ryddhawyd y fanyleb, roeddem yn teimlo’n barod amdani diolch i’r cymorth a’r wybodaeth a ddarparodd y tîm. Roedd y fanyleb newydd yn debyg i’r un o’r hen rownd gyllido, felly roeddem yn teimlo ein bod wedi achub y blaen ar eraill gan fod gennym eisoes gynnig drafft.
Cymorth gyda BRAVO
Yna roedd angen cofrestru ar BRAVO. Eto, fe gysyllton ni â thîm Cynhwysiant Gweithredol am gymorth. Yn lle cyfarfod wyneb yn wyneb, rhoddodd y tîm gymorth manwl i ni ar y ffôn. Roeddem wedyn yn gwybod beth a ddisgwylid gennym drwy gydol y cais ac yn teimlo’n fwy hyderus.
Cymerodd hi dipyn o amser i lanlwytho’r holl ddogfennau ar BRAVO a chyflwyno’r wybodaeth berthnasol ac roedd angen rhoi sylw i bob manylyn megis nifer y geiriau, dyddiadau polisïau, dogfennau yswiriant. Roedd angen llawer iawn o wybodaeth ond unwaith yr oedd popeth ar y system, roeddem yn barod i fynd.
Ar y ffordd
Treuliom gryn dipyn o amser yn rhoi manylion y cynnig at ei gilydd gan roi dipyn o sylw i’r agweddau ariannol a’r rhifau. Roeddem yn gwybod ein bod eisiau sicrhau safon, yn fwy na nifer, felly yn fwriadol fe wnaethom gadw’r niferoedd yn isel. Tra’r oeddem yn teimlo ein bod yn ei mentro hi braidd a bod perygl o beidio â sicrhau’r cyllid, roedd hi’n glir yn ein meddyliau beth roeddem ei eisiau.
Roeddem eisiau gwybod a oeddem ar y trywydd iawn a bod gan ein cynnig siawns o gael ei gyllido! Felly eto, fe gysyllton ni â thîm Cynhwysiant Gweithredol am adborth ar ein cynnig. Er nad oeddynt yn gallu rhoi adborth penodol ar lunio ein cynnig cychwynnol, roeddynt yn gallu rhoi arweiniad i ni. Cawsom ein cyfeirio’n ôl at fanyleb y grant ac fe’n cynghorwyd i sicrhau bod y cynnig yn ateb y gofynion yn y fanyleb a’n bod yn cynnig rhaglen realistig, hyfyw a chyflawnadwy, gan ystyried y costau a nodwyd.
At ei gilydd, er bod y broses wedi cymryd dipyn o amser a’i bod braidd yn rhwystredig weithiau – rydym yn teimlo bod y gwasanaeth, y cymorth a’r arweiniad a gafwyd gan dîm Cynhwysiant Gweithredol o’r cychwyn cyntaf wedi bod yn bositif iawn a bod yna rywun wrth law i ddod yn ôl atoch gyda’r wybodaeth neu’r arweiniad roeddech yn chwilio amdano. Roedd hi’n broses hir, anodd weithiau, ond rydym bellach yn cynnal y prosiect, yn cefnogi ein tenantiaid yn ôl i fyd gwaith a, gobeithio, yn gwneud gwahaniaeth yn eu bywydau felly gallwn ddweud yn onest ei bod yn werth yr ymdrech.
Mae’r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol yn cael ei rheoli gan WCVA a’i chefnogi gan gyllid o’r Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd. Ei nod yw lleihau anweithgarwch economaidd yng Nghymru a gwella cyflogadwyedd pobl sydd dan anfantais ac sydd bellaf o’r farchnad lafur. Mae’r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol ar agor i geisiadau ar hyn o bryd, i fod â siawns o gael cyllid yn y rownd nesaf, mae angen i chi gyflwyno rhan gyntaf eich cais cyn gynted â phosib.
I gael gwybod mwy, cysylltwch â’r tîm:
0800 2888 329 [email protected]
0 notes
Text
Rhaglen 2016 – 17
Y cyfarfodydd i’w cynnal yng Nghaffi Emlyn, Tan-y-groes, i ddechrau am 7:30yh oni nodir yn wahanol
2 Medi 2016
Trafod cyfansoddiadau Eisteddfod Sir Fynwy a’r Cyffiniau dan ofan y Prifardd Tudur Dylan
1 Hydref
Gillian Jones: D. Jacob Davies a’i Waith
2 Tachwedd (ar nos Fercher)
Recordio rhagen Galwad Cynnar
3 Rhagfyr (am 7:00)
Parti’r Llywydd / Swper Nadolig
Adloniant: Malomo
7 Ionawr 2017
Rhiannon Ifans a Trefor Pugh: cyflwyniad am y Plygain
15 Ionawr (ar nos Sul)
Gwasanaeth Plygain – Capel Glynarthen
4 Chwefror
Sgwrs gan Caryl Lewis, Enillydd Llyfr y Flwyddyn 2016
4 Mawrth (am 7:00)
Cawl Gŵyl Dewi ac Eisteddfod Flynyddol y Gymdeithas (Beirniad: y Prifardd Ceri Wyn)
1 Ebrill
Brethyn Cartref a Chyfarfod Blynyddol
17 Mehefin
Gwibdaith
0 notes