#CronfaCynhwysiantGweithredol
Explore tagged Tumblr posts
wcva · 7 years ago
Text
Cronfa Cynhwysiant Gweithredol: Profiad llygaid fy hun
Tumblr media
Mae Catrin Davies, Swyddog Cymorth Cyfathrebu Gweithrediadau Ewropeaidd WCVA, wedi llunio blog ar ôl cael agoriad llygad wrth ymweld â phrosiect Steps to Care GAVO a ariennir gan y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol.
Be’ dwi’n ei wneud…
Fy ngwaith i yn WCVA yw hyrwyddo’r cyfleoedd am gyllid sydd ar gael i’r trydydd sector drwy’r Undeb Ewropeaidd. Fel rhan o hyn, dwi’n tynnu sylw at y gweithgareddau anhygoel sy’n cael eu cynnal gan brosiectau ledled Cymru diolch i’r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol.
Alla’i ddim gwadu, gall fod yn anodd weithiau peidio â chael eich colli yn yr holl brosesau (asesu, trafod, gweithredu, hawliadau, gwirio, cefnogi, cydymffurfio...) achos mae proses a chyllid Ewropeaidd yn mynd law yn llaw; allwch chi ddim cael y naill heb y llall. Ar ben hynny, mae fy ngwaith i’n dueddol o fod y tu ôl i’r llenni felly anaml dwi’n cael cyfle i weld â’m llygaid fy hun waith caled ac effaith y prosiectau hyn.
Dianc o’r swyddfa…
Yn awr ac yn y man, fodd bynnag, dwi’n ddigon ffodus o gael gwahoddiad i ddigwyddiad dathlu, seremoni wobrwyo neu ymweliad cyffredinol â phrosiect i gael gwybod mwy amdano. Felly, pan ges i wahoddiad i seremoni tystysgrifau prosiect Steps to Care GAVO (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent), neidiais ar y cyfle i ddianc o’r swyddfa am sbel a chael gweld y budd uniongyrchol y mae’r cyllid yn ei roi i bobl.
Yn gyntaf, hoffwn ddweud gymaint y gwnaeth y profiad fy ysbrydoli a chodi fy nghalon, yn enwedig wrth feddwl pa mor bell y mae rhai o’r unigolion hyn wedi dod. Mae’r prosiect yn gweithio’n bennaf (ond nid yn unig) gyda phobl sydd wedi bod yn ddi-waith yn yr hirdymor oherwydd cyflyrau iechyd meddwl. I rai, doedden nhw ddim wedi mentro allan o’r tŷ ers blynyddoedd neu heb ymwneud â neb y tu hwnt i’w teulu agos ac eto dyma ble oedden nhw, yn siarad â mi, rhywun hollol ddieithr iddynt.
Be’ mae’r prosiect yn ei wneud…  
Nod y prosiect yw ennyn diddordeb cyfranogwyr mewn cyfleoedd dysgu pellach, cyfleoedd datblygu, gwaith, gwirfoddoli a hyfforddi. Gwneir hyn drwy weithgareddau amrywiol megis cymorth pwrpasol, un wrth un, i ddefnyddio TG, dysgu sut i greu’r CV cywir, dod o hyd i opsiynau gwaith a gwirfoddoli addas, yn ogystal ag annog cyfranogwyr i ‘roi cynnig ar rywbeth newydd’.
Y canlyniadau…
Mae’r prosiect wedi sbarduno pobl i beidio ag ofni technoleg newydd, i geisio rhoi cynnig ar ddysgu pellach a chyrsiau, i wirfoddoli, i helpu i ddatblygu prosiectau eraill ac i weithio mewn meysydd eraill. Yn y bôn mae’r prosiect wedi ysbrydoli’r bobl hynny sydd bellaf o’r farchnad swyddi i edrych tuag at ddyfodol mwy disglair sy’n eu gwobrwyo ac yn eu dathlu fel unigolion yn hytrach na rhif yn y ganolfan waith.
Peter…
Tumblr media
Fel y soniais, roedd rhai o’r unigolion y mae’r prosiect yn gweithio gyda nhw yn wynebu sawl rhwystr a oedd yn gwneud gweithgareddau bob dydd yn anodd, heb sôn am gael gwaith. Roeddwn yn sgwrsio â dyn o’r enw Peter a oedd wedi bod yn ddi-waith ers bron i ddeng mlynedd oherwydd ei iechyd meddwl pan sylweddolais pa mor bwysig yw’r mathau hyn o brosiectau.
Dywedodd Peter wrtha’i ei fod bob amser wedi teimlo bod cyflogaeth yn nod nad oedd modd iddo’i gyflawni gan fod ei iechyd meddwl yn rhy ansefydlog. Ond, gyda chymorth, arweiniad, mentora a hyfforddiant gan y bobl wych yn GAVO a Gofal, llwyddodd i gynyddu ei hunanhyder, gwella ei sgiliau cymdeithasol, sefydlogi ei rwtîn a chynnal dwy rôl wirfoddol ac roedd e’ hyd yn oed yn ystyried ymgeisio am gyflogaeth yn y dyfodol.
Cefais fy ysbrydoli o ddifrif wrth siarad ag ef a holl gyfranogwyr eraill y prosiect, a’u gwylio yn derbyn y tystysgrifau yr oeddynt wedi gweithio mor galed i’w hennill.
Tumblr media
Nid oedd pawb a welais y diwrnod hwnnw wedi dod mor bell â Peter, ond wrth i mi ddynesu at ddiwedd y blog hwn, hoffwn bwysleisio rhywbeth: mae’r cyllid ar gael i gynorthwyo pobl i symud yn nes at y farchnad gyflogaeth. Symud yn nes. Mae’r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol yn helpu pobl i sicrhau cyflogaeth; ond ar yr un pryd mae’n gwneud llawer iawn mwy na hynny. Mae’n helpu pobl i wneud newidiadau positif, cyrraedd eu potensial llawn a sylweddoli y gall hyd yn oed y camau lleiaf newid eu bywydau.
Efallai nad yw rhedeg prosiect a ariennir gan Cynhwysiant Gweithredol yn hollol ddidrafferth, ac mae’n sicr yn waith caled, ond pan welwch ei effaith ar fywydau pobl, mae’r pethau cadarnhaol yn bendant yn drech na’r rhai negyddol.
0 notes
wcva · 7 years ago
Text
Chwalu chwedlau Cronfa Cynhwysiant Gweithredol
Tumblr media
Mae Tessa White, Pennaeth Grantiau a Gwiriadau yn WCVA wedi llunio blog i chwalu camdybiaethau cyffredin wrth ymgeisio i’r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol. Dyma hi’n chwalu’r chwedlau…
“Dwi wedi bod yn rheoli grantiau yn WCVA ers dros 12 mlynedd. O’r Gronfa Risg Gymdeithasol drwodd i’r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol bresennol, mae pob un wedi bod yn wahanol i’r un nesaf. Er bod pob cronfa’n unigryw, mae rhaglenni cyllido newydd yn aml yn cael eu cysylltu â rhai blaenorol a gall hyn weithiau achosi ychydig o ddryswch.
Gall y dryswch hwn wneud i bobl a mudiadau feddwl na allant ymgeisio oherwydd rhwystrau tybiedig a chamdybiaethau cyffredin. Felly, hoffwn geisio chwalu’r chwedlau hyn i sicrhau bod pawb yn cael cyfle i fanteisio ar y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol tra mae’r cyllid yn dal i fod ar gael.
Chwedl #1
Dim ond 50% o gost y prosiect y gall Cynhwysiant Gweithredol ei ddarparu yn Nwyrain Cymru.
Anghywir – ar gyfer prosiectau yn Nwyrain Cymru, gallwn ddarparu tua 70% o gostau’r prosiect i fudiadau trydydd sector. Gall hyn amrywio rywfaint o’r naill rownd i’r llall, felly mae’n bwysig edrych yn fanwl ar y manylebau grant ym mhob rownd.
A wyddoch chi, gellir hefyd defnyddio amser gwirfoddolwyr fel cyfraniadau cyllid cyfatebol?
Chwedl #2
Ni allwch gynnal prosiect yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf
Gallwch gynnal prosiectau Cynhwysiant Gweithredol yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf a bwrw bod yna ddadl gref fod y prosiect yn wahanol i ddarpariaeth Cymunedau am Waith. Er enghraifft, mae’n bosib y gallwch gynnal prosiect Cyflawni gan nad oes yna gyfleoedd cyflogaeth â chymorth yn rhan o raglen Cymunedau am Waith. Serch hynny, bernir hyn fesul achos, felly mae hi bob amser yn werth siarad â thîm y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol cyn cyflwyno’ch cais.
Chwedl #3
Gan ein bod yn gadael yr UE, ni allwch ymgeisio am brosiectau a ariennir gan yr UE
Hollol anghywir! Mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru wedi gwarantu y bydd Cyllid Ewropeaidd yn parhau tan ddiwedd 2020. Mae’r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol yn parhau ar waith fel yr arfer, os unrhyw beth, rydym annog mudiadau i ymgeisio am y cyllid tra mae’r cyfle yn dal i fod ar gael i ni. Mae hi hefyd yn bwysig ein bod yn dangos bod yr arian wedi’i ddefnyddio’n dda ac wedi cael effaith ar fywydau’r rheini sydd bellaf o’r farchnad lafur.
Chwedl #4
Dim ond i fudiadau trydydd sector y mae’r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol ar gael
Gan fod y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol yn cael ei rheoli gan WCVA, camdybir yn aml mai dim ond i’r trydydd sector y mae’r arian ar gael. Mae’r gronfa, mewn gwirionedd, yn agored i’r sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector. Gall y manylebau grant amrywio o’r naill sector i’r llall ond ar y cyfan, mae’r hyn sydd ar gael yn eitha’ tebyg.
Chwedl #5
Dim ond o fewn un ardal/awdurdod lleol y gallwch weithredu
Ar ddechrau’r flwyddyn, yma yn WCVA fe wnaethom newid a gwella ambell i beth ynglŷn â’r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol, sy’n golygu bod y rowndiau grant yn llai caeth. Gallwch nawr gynnal prosiectau ar yr un pryd yn rhanbarth Dwyrain Cymru a rhanbarth Gorllewin Cymru a’r Cymoedd, gan eu rheoli ar y cyd. Gallwch hefyd gynnal prosiect ar draws mwy nag un ardal awdurdod lleol wrth ddarparu gweithgareddau ymgysylltu a chyfleoedd cyflogaeth â chymorth.
Gyda’r terfynau ehangach hyn a’r chwedlau wedi’u chwalu, mae yna lawer iawn mwy o opsiynau ar gael i chi. Felly, yn lle cyflwyno’ch cais yn syth bin, meddyliwch am yr hyn rydych am ei wneud i helpu pobl i fod yn fwy cyflogadwy ac yna dewch i siarad â ni i weld sut y gall eich syniadau gyd-fynd â meini prawf y pedair cronfa sydd ar gael drwy Cynhwysiant Gweithredol... efallai y cewch eich synnu gan yr hyn y gallwn eich helpu i’w gyflawni.”
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm Cynhwysiant Gweithredol ar [email protected] neu Lein Gymorth 0800 2888 329
0 notes
wcva · 7 years ago
Text
Hybu sgiliau a thorri’n rhydd – fy nhaith gyda Cynhwysiant Gweithredol
Tumblr media
Mae Chris* (nad oedd am ddatgelu ei enw go iawn) wedi ysgrifennu blog ynglŷn â’i brofiad gyda phrosiect ardderchog, sydd ag enw addas iawn, sef Skill Up, Break Free, a gefnogir gan y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol.
Dwi wedi dioddef iselder a gorbryder i’r fath raddau nes i mi ddod yn agoraffobig ac yn methu â gadael y tŷ. Doeddwn i ddim wedi gweithio ers rhai blynyddoedd ac ychydig iawn o gysylltiad cymdeithasol roeddwn yn ei gael. Roeddwn yn teimlo’n isel o ran hunan-werth, yn teimlo’n sownd mewn cylch ac allwn i ddim gweld ffordd allan. Cafodd hyn effaith ddifrifol ar fy nghymelliant; roedd arna’i awydd rhoi’r gorau i ymdrechu i ddod allan o’r unigedd ac roeddwn yn credu na fyddwn byth yn cael swydd. Roedd y cymorth gan y Ganolfan Waith a’r gwasanaethau iechyd meddwl yn ymddangos yn gyfyngedig. Doeddwn i byth yn teimlo  fy mod yn cael fy nhrin gyda phryder gwirioneddol; doedd pobl ond yn gwneud eu gwaith a heb lawer o ddiddordeb mewn fy nghynorthwyo i greu’r newid roedd arna’i ei angen i oresgyn fy mhroblemau ac ailintegreiddio.
Roeddwn wedi bod yn astudio cerddoriaeth a’r gitâr ers amser hir ac wedi cwblhau rhai cymwysterau cerddoriaeth drwy ddysgu o bell, ond doeddwn i ddim yn teimlo fy mod yn gallu rhoi fy nghymwysterau a’m sgiliau ar waith oherwydd, o ganlyniad i’r anawsterau yn gadael y tŷ, roedd cymdeithasu a bod mewn llefydd cyhoeddus gyda phobl bron yn amhosib.
Diolch i’r rhaglen cyflogadwyedd Skill Up Break Free, a gynhelir gan Loose Canons ac a ariennir gan y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol, cefais amgylchedd diogel, heb neb yn eich beirniadu, i ddatblygu fy sgiliau cymdeithasol. Roedd yn anodd mynd i’r ganolfan a dechrau sgwrsio â phobl ar y dechrau, ond o’r cychwyn cyntaf, cefais groeso cynnes gan Kevin a’r cyfranogwyr eraill. Yn raddol, llwyddais i feithrin yr hyder i gymdeithasu â’r cyfranogwyr eraill, pobl rwyf bellach yn eu hystyried yn ffrindiau.
Roedd yr amgylchedd a’r ffordd o weithio yn Loose Canons yn teimlo’n wahanol i unrhyw gwrs arall roeddwn wedi’i wneud. Dwi’n falch bod lle fel hwn yn bodoli i bobl sy’n wynebu heriau tebyg gan fy mod wedi gweld cyfranogwyr eraill yn ffynnu wrth gael y gefnogaeth gywir a’r amgylchedd dysgu braf y mae Loose Canons yn ei ddarparu. Wrth wneud y cwrs dwi wedi cwrdd â phobl sydd â phroblemau tebyg ac fe wnaeth i mi deimlo’n rhan o rywbeth, gan oresgyn yr unigedd a’r arwahanrwydd a deimlwn o’r blaen.
Rhoddodd y cwrs wybodaeth fanwl am wahanol fathau o waith a fyddai’n addas i mi, yn ymwneud â cherddoriaeth ai peidio. Cefais gymorth i greu cynllun gyrfa sy’n realistig ac yn benodol i’m hamcanion a’m galluoedd i. Dysgais sgiliau ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg ddigidol a dwi’n teimlo fy mod wedi gwella fy ngallu i ddysgu, cymdeithasu a chwilio am swyddi arlein. Dwi wedi cael cipolwg ar ffyrdd amgen o weithio yn y diwydiannau creadigol ac opsiynau eraill heblaw am gyflogaeth draddodiadol.
Wrth gwblhau’r cymhwyster TG datblygais fy sgiliau prosesu geiriau, sgiliau ar gyfer taenlenni a sgiliau ebostio. Gallaf ddefnyddio’r sgiliau hyn i redeg fy musnes hunangyflogedig, ac mae gen i’r hyder i ymgeisio am swyddi mewn swyddfa na fyddwn wedi mo’u hystyried o’r blaen.
Rhoddodd y cwrs gyfle i mi ddefnyddio’r cymwysterau cerddoriaeth roedd gen i yn barod. Dwi wedi bod yn dysgu’r gitâr i’r cyfranogwyr eraill ac wedi arwain gweithgareddau cerddoriaeth mewn grwpiau. Mae hyn wedi fy ngalluogi i ddechrau dod dros yr ofn o sefyll a siarad o flaen grŵp o bobl, ofn sydd wedi bod arna’i ers tro.
Credaf fod fy sgiliau i weithio mewn tîm wedi gwella’n sylweddol diolch i’r gweithgareddau cerddoriaeth mewn grwpiau y cymerais ran ynddynt. Dysgais i drwsio gitârs a all ddarparu ffrwd incwm i mi fel technegydd trwsio gitârs, ac fe wellodd hyn hefyd fy sgiliau i weithio a chyfathrebu gyda phobl eraill wrth i ni fynd ati gyda’n gilydd i roi llinynnau newydd ar gitârs a’u paratoi yn barod i’w chwarae.
Gyda’r wybodaeth a gefais ar y cwrs ynglŷn â hunangyflogaeth, fy sgiliau digidol gwell, a’r hyder newydd sydd gen i, dwi am fynd yn hunangyflogedig fel athro gitâr a dwi’n edrych ymlaen at gyfrannu at Loose Canons a’u cwrs Skill Up Break Free nesaf.
*Sylwer: ffugenw yw Chris.
Diben y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol, a gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, yw darparu cyllid i fudiadau a all gefnogi pobl i symud yn nes at y farchnad gyflogaeth, a’r nod cyffredinol yw lleihau anweithgarwch economaidd yng Nghymru. Nid yw telerau’r cynllun grant yn rhagnodi’r gweithgareddau a’r lleoliadau cyflogaeth gyda chefnogaeth a ddarparir gan y prosiectau hyn; nhw sy’n penderfynu beth fyddai’n gweddu orau i’w cyfranogwyr.
Os gallai’ch mudiad chi ddarparu’r gweithgareddau (anghonfensiynol ai peidio) i helpu unigolion di-waith ledled Cymru i wireddu eu potensial, cysylltwch â thîm y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol.
0 notes
wcva · 7 years ago
Text
Cymdeithas Tai Sir Fynwy a’n siwrnai gyda’r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol
Mae Farida Aslam, Rheolwr Cynhwysiant yng Nghymdeithas Tai Sir Fynwy, wedi ysgrifennu blog am ei phrofiad yn ymgeisio i’r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol a’r cymorth a gafodd drwy gydol y broses. Gallwch ddarllen am ei siwrnai isod!
Tumblr media
Mudiad trosglwyddo stoc tai yw Cymdeithas Tai Sir Fynwy sydd â thros 3500 o eiddo ledled Sir Fynwy. Cawsom ein sefydlu yn 2008 ac o’r cychwyn cyntaf rydym wedi ceisio sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau i’n tenantiaid yn seiliedig ar eu hanghenion penodol. Mae ein rhaglen yn cynnwys hyrwyddo datblygiad y gymuned, cynnwys y gymuned, hybu sgiliau a dyheadau o ran gwaith a’r nod cyffredinol o leihau tlodi ymysg ein tenantiaid.
Ers 2008, rydym wedi bod yn weithgar iawn yn ceisio am gyllid i’n helpu gyda’r agenda hon. Y llynedd, fe benderfynon ni ymgeisio i’r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol gan fod ei hamcanion yn adlewyrchu’r gweithgareddau roeddem eisoes yn eu cynnal. Tra mae gan Gymdeithas Tai Sir Fynwy brofiad o ddefnyddio cyllid dros y 9 mlynedd diwethaf i gynnal prosiectau datblygu cyflogadwyedd a sgiliau – dyma fyddai’r tro cyntaf i ni ddefnyddio cyllid yr UE. A ninnau wedi gweithio ar brosiect trawswladol Ewropeaidd o’r blaen – roeddem yn ymwybodol o rai o’r heriau sy’n gysylltiedig â chyllid yr UE, ond gydag awch i wneud llwyddiant ohoni, roeddem yn gwbl barod ar gyfer y siwrnai (a fu’n heriol ar adegau) o’n blaenau.
Y glwyd gyntaf – manyleb y grant
Roedd angen i ni ddechrau arni gyda’r broses ymgeisio ond allwn ni ddim gwneud hynny heb fanyleb y grant. Yn anffodus, cafodd dyddiad rhyddhau manyleb y grant ei ohirio ambell waith. Gan deimlo braidd yn rhwystredig o achos hyn, cysylltais â thîm Cynhwysiant Gweithredol i ofyn sut beth oedd y fanyleb fel arfer a pha fath o wybodaeth y byddwn yn ei chael. Bu’r tîm o gymorth mawr gan ddarparu manyleb i ni o rownd flaenorol mewn rhanbarth cyfagos. Roedd modd i ni wedyn ddefnyddio’r fanyleb hon yn fewnol i ddatblygu rhyw ffurf ar ein cynnig.
Pan ryddhawyd y fanyleb, roeddem yn teimlo’n barod amdani diolch i’r cymorth a’r wybodaeth a ddarparodd y tîm. Roedd y fanyleb newydd yn debyg i’r un o’r hen rownd gyllido, felly roeddem yn teimlo ein bod wedi achub y blaen ar eraill gan fod gennym eisoes gynnig drafft.
Cymorth gyda BRAVO
Yna roedd angen cofrestru ar BRAVO. Eto, fe gysyllton ni â thîm Cynhwysiant Gweithredol am gymorth. Yn lle cyfarfod wyneb yn wyneb, rhoddodd y tîm gymorth manwl i ni ar y ffôn. Roeddem wedyn yn gwybod beth a ddisgwylid gennym drwy gydol y cais ac yn teimlo’n fwy hyderus.
Cymerodd hi dipyn o amser i lanlwytho’r holl ddogfennau ar BRAVO a chyflwyno’r wybodaeth berthnasol ac roedd angen rhoi sylw i bob manylyn megis nifer y geiriau, dyddiadau polisïau, dogfennau yswiriant. Roedd angen llawer iawn o wybodaeth ond unwaith yr oedd popeth ar y system, roeddem yn barod i fynd.
Ar y ffordd
Treuliom gryn dipyn o amser yn rhoi manylion y cynnig at ei gilydd gan roi dipyn o sylw i’r agweddau ariannol a’r rhifau. Roeddem yn gwybod ein bod eisiau sicrhau safon, yn fwy na nifer, felly yn fwriadol fe wnaethom gadw’r niferoedd yn isel. Tra’r oeddem yn teimlo ein bod yn ei mentro hi braidd a bod perygl o beidio â sicrhau’r cyllid, roedd hi’n glir yn ein meddyliau beth roeddem ei eisiau.
Roeddem eisiau gwybod a oeddem ar y trywydd iawn a bod gan ein cynnig siawns o gael ei gyllido! Felly eto, fe gysyllton ni â thîm Cynhwysiant Gweithredol am adborth ar ein cynnig. Er nad oeddynt yn gallu rhoi adborth penodol ar lunio ein cynnig cychwynnol, roeddynt yn gallu rhoi arweiniad i ni. Cawsom ein cyfeirio’n ôl at fanyleb y grant ac fe’n cynghorwyd i sicrhau bod y cynnig yn ateb y gofynion yn y fanyleb a’n bod yn cynnig rhaglen realistig, hyfyw a chyflawnadwy, gan ystyried y costau a nodwyd.
At ei gilydd, er bod y broses wedi cymryd dipyn o amser a’i bod braidd yn rhwystredig weithiau – rydym yn teimlo bod y gwasanaeth, y cymorth a’r arweiniad a gafwyd gan dîm Cynhwysiant Gweithredol o’r cychwyn cyntaf wedi bod yn bositif iawn a bod yna rywun wrth law i ddod yn ôl atoch gyda’r wybodaeth neu’r arweiniad roeddech yn chwilio amdano. Roedd hi’n broses hir, anodd weithiau, ond rydym bellach yn cynnal y prosiect, yn cefnogi ein tenantiaid yn ôl i fyd gwaith a, gobeithio, yn gwneud gwahaniaeth yn eu bywydau felly gallwn ddweud yn onest ei bod yn werth yr ymdrech.
Mae’r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol yn cael ei rheoli gan WCVA a’i chefnogi gan gyllid o’r Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd. Ei nod yw lleihau anweithgarwch economaidd yng Nghymru a gwella cyflogadwyedd pobl sydd dan anfantais ac sydd bellaf o’r farchnad lafur. Mae’r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol ar agor i geisiadau ar hyn o bryd, i fod â siawns o gael cyllid yn y rownd nesaf, mae angen i chi gyflwyno rhan gyntaf eich cais cyn gynted â phosib.
I gael gwybod mwy, cysylltwch â’r tîm:
0800 2888 329 [email protected]
0 notes