#gwirfoddolwyr
Explore tagged Tumblr posts
charlotte-of-wales · 2 years ago
Text
Tumblr media Tumblr media Tumblr media Tumblr media Tumblr media Tumblr media
princeandprincessofwales: What a wonderful day in South Wales today! 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
Leisure centres like the one at Aberavon are at the heart of our communities and play such an important part in helping us all lead a healthy lifestyle - including through regular spin classes.…🚴‍♀️🚴‍♂️
At the Wales Air Ambulance Charity the new family room will play a vital role in supporting families, nurses and volunteers. It's safe spaces like these that help our emergency workers who do so much to keep us safe, 24/7 🚁
Am ddiwrnod gwych yn Ne Cymru heddiw! 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
Mae canolfannau hamdden fel yr un yn Aberafan yn ganolog i'n cymunedau ac yn chwarae rhan hollbwysig wrth hyrwyddo bywyd iach. - gan gynnwys drwy wersi sbin rheolaidd...🚴‍♀️🚴‍♂️
Ym mhencadlys Wales Air Ambulance Charity bydd yr ystafell deuluol newydd yn chwarae rôl allweddol wrth gynnal teuluoedd, nyrsus a gwirfoddolwyr.
Mae lleoedd diogel fel hwn yn helpu gweithwyr ein gwasanaethau brys, sy'n gwneud cymaint i'n cadw yn ddiogel 24/7 🚁
30 notes · View notes
wcva · 6 years ago
Text
Meithrin gwirfoddoli arloesol
Tumblr media
Mae gymaint o engreifftiau penigamp ar hyd a lled Cymru o wirfoddoli sy’n gwneud gwahaniaeth mawr mewn iechyd a gofal cymdeithasol – felly pam nad yw’r arfer da hwn yn cael ei ddefnyddio ym mhob man? Mae Fiona Liddell yn ystyried yr her o ‘gynyddu’ syniadau newydd.
Mae Andrew Goodall (Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru) yn ei gyflwyniad i Gymru Iachach yn traethu ar y weledigaeth o newid ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol:
‘Drwy arloesedd lleol sy’n bwydo modelau newydd o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol di-dor, byddwn yn cynyddu syniadau newydd a ffyrdd gwell o weithio i lefel rhanbarthol ac yna lefel cenedlaethol. Bydd Rhaglen Drawsnewid genedlaethol yn dod â chyflymder a phwrpas i sut yr ydym yn cefnogi newid ar draws yr holl system… ein gwir brawf fydd yn ein darpariaeth o wasanaethau a gwellau canlyniadau ar hyd a lled Cymru’.
Nid yw’r broses a ddisgrifir yn gryno ac yn obeithiol yn y dyfyniad yn fater syml er hynny. Er enghraifft, roedd cyflwyno ffrwythau sitrig i ddiet morwyr yn 1601 heb amheuaeth yn ‘syniad da’ ar y pryd ond fe gymrodd dan 1795 i’r arfer gael ei ddefnyddio gan y llynges Brydeinig. Cant naw deg a phedwar o flynyddoedd!
Mae’r cwestiwn o sut i ‘gynyddu’ arfer da lleol yn un a aethom i’r afael ag o mewn gweithdy mewn cynhadledd diweddar ar rôl y trydydd sector yng Nghymru i gyflawni cynllun hirdymor Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.  
Rhai heriau
Roedd cyfranogwyr yn barod i adnabod (yn aml o brofiad!), y cyfyngiadau oblegid natur byr dymor yr ariannu. Yn aml mae hyn yn golygu nad oes modd o fewn y cyfnod byr yr ariennir y prosiect, i archwilio, i ddogfennu neu rannu’r gwersi a ddysgwyd gyda’r rhwydwaith ehangach. 
Mae swyddi’r staff yn aml yn dod i ben yr un pryd a’r prosiect ac felly collir profiad lleol gwerthfawr. Yn fwy na hynny, mae ariannu tymor byr yn arwain at feddwl tymor byr.
Yn llwyr arwahân i’r cwestiwn o gyllid, os yw prosiect gwirfoddoli yn effeithiol mewn un ardal, beth yw’r tebygoliaeth y bydd yn gweithio mewn ardal wahanol, ble mae’r cynnwys a’r personoliaethau yn wahanol? 
Os yw’n gweithio’n dda ar raddfa fach, beth yw’r tebygoliaeth y bydd yn gweithio ‘run mor dda pan fydd ar raddfa fwy?
Trawsblanwch model craidd neu weithgaredd gwirfoddoli o un amgylchedd gysgodol mewn ‘inciwbator’ i ardal fwy agored a ni all o reidrwydd ffynnu. 
Byddai’n well i ni mewn unrhyw achos siarad am ‘ledaenu’ yn hytrach na ‘chynyddu’ o ran ymyriadau gwirfoddoli, gyda mwy o bwyslais ar ddyblygu rheolaidd o syniad yn hytrach na masgynhyrchu.
Gall ‘llwyddiant’ gael ei farnu drwy wahanol lensiau: o economeg, i ganlyniadau clinigol, i lesiant ungiol neu effeithionlrwydd cyflenwei gwasanaeth, yn dibynnu ar byw ydych chi – neu bwy yr ydych yn bwriadu ei argyhoeddi.
Mae her benodol yn ein hwynebu o ran sut yr ydym yn ‘pecynnu’ a chyfathrebu ymyriadau gwirfoddoli sydd wedi eu profi’n effeithiol mewn un ardal, mewn ffordd sy’n galluogi eraill i’w gwneud yr un mor effeithiol mewn ardal arall.  
Lledaenu arfer da
Cynhaliodd The Health Foundation ymchwil ymhlith y rhai a oedd yn derbyn grantiau ganddynt a phartneriaid yn ystod 2017-18. Daethant i’r casgliad yn eu hadroddiad The Spread Challenge y dylid rhoi mwy o sylw i’r rôl mabwysiadwyr yn hytrach na sylw penodol i arloeswyr y modelau newydd ac arferion newydd mewn gofal iechyd.
‘I ledaenu ymyriadau gofal iechyd cymhleth yn llwyddiannus bydd gofyn eu pecynnu mewn ffordd fwy soffistigedig a dylunio rhaglenni bydd yn eu lledaenu mewn ffyrdd mwy soffistigedig.’
Gellir dadlau, bod y rhan fwyaf o raglenni gwirfoddoli yn ‘ymyriadau cymhleth’ o ganlyniad i bresenoldeb bod dynol.  
Bydd gofyn efallai hefyd i fabwysiadwyr fod yn addaswyr wrth iddynt gyfieithu, coethi, ac weithiau yn fwy neu lai ailddyfeisio ymyriad peilot. 
Mae’r cam hwn yn hanfodol ac yn datblygu ein dealltwriaeth o beth yw’r elfennau hanfodol o’r prosiect, yr hy’n sydd, yn anghenrheidiol ar gyfer ei lwyddiant a beth sydd angen ei deilwra i weddu gydag amgylchiadau lleol.
Helplu yng Nghymru
Mae Helpforce, a’i brif bartner WCVA yng Nghymru, yn gweithio gyda phartneriaid ar hyd a lled y DU i feithrin a lledaenu arloesedd mewn gwirfoddoli o fewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. 
Bydd yn canolbwyntio’n fwyfwy ar sut y gall gwirfoddoli llwyddiannus gael ei ‘becynnu’ a’i ‘ledaenu’ ar gyfer buddion ehangach. Mae swydd newydd wedi cael ei chreu er mwyn datblygu’r gwaith.  
Yng Nghymru gallwn ddysgu o brofiadau ar hyd a lled y DU ac o dystiolaeth a’r fethodoleg sy’n dod i’r wyneb. Byddwn yn adolygu’r llenyddiaeth a gyhoeddir gyda phartneriaid ymchwil yn y dyfodol, yn ogystal â thynnu sylw at engreifftiau o wirfoddoli effeithiol sydd â photensial strategol. Os ydych yn gwybod am brosiect o’r fath, cysylltwch â ni!
Mae’r Comisiwn Bevan yn cychwyn ar raglen arall yn fuan i gefnogi’r penodiad o fabwysiadwyr arloesedd gofal iechyd ym mhob Bwrdd Iechyd. Bydd rhain yn dod yn gydnabyddion clos i’r achos.
I gloi..
Gadewch i mi ddod yn ôl at gydweddiad garddwriaethol, unwaith eto er mwyn gwneud fy mhrif bwynt: er mwyn i arloesedd mewn gwirfoddoli wreiddio, mae angen i ni hefyd baratoi’r tir, hynny yw, i greu’r capasiti a’r parodrwydd ar gyfer cymryd rhan mewn gwirfoddoli. 
Mae hyn yn golygu datblygu diwylliant mudiad, agweddau staff a’r polisi isadeiledd er mwyn galluogi gwirfoddoli i ffynnu. Wrth gydweithredu gyda WCVA ar lefel genedlaethol, mae Canolfannau Gwirfoddoli ym mhob sir yn cefnogi mudiadau i ddatblygu rhaglenni gwirfoddoli addas a pholisïau. 
Bydd WCVA hefyd yn paratoi’r sylfaen drwy drafodaethau cenedlaethol gydag ystod o rhanddeiliaid a thrwy ddatblygiad o safonau arfer fwy cyson.
Fiona Liddell yw Rheolwr Helpforce Cymru, wedi’i lleoli o fewn WCVA. Gellir cysylltu â hi ar   [email protected]  029 2043 1730.
Erthyglau perthnasol
Datblygu gwirfoddoli i gefnogi gofal iechyd yng Nghymru
Amser i ddathlu
0 notes
theventure78 · 7 years ago
Photo
Tumblr media
Diolch i @TravisPerkinsCo 🏗️ & special thanks to Louise and Julie for providing a bit of muscle! #gwirfoddolwyr #volunteers #Wrecsam #wrexham (at The Venture)
0 notes
mantellgwynedd · 8 years ago
Photo
Tumblr media
#volunteer #gwirfoddoli #volunteering #gwirfoddolwyr #gwynedd #mv #millenniumvolunteers #gwirfoddolwyrymileniwm
0 notes
atscorpsblog · 4 years ago
Text
Trydydd brechiad Covid yn rhan o brawf clinigol yn Wrecsam
Trydydd brechiad Covid yn rhan o brawf clinigol yn Wrecsam
Gwirfoddolwyr yn rhan o dreial i weld a fyddai mwy o bigiadau atgyfnerthu o werth wrth frwydro coronafeirws. Source link
View On WordPress
0 notes
pontiobangor · 4 years ago
Text
Blog Emyr
Pan ddechreuais weithio fel Cydlynydd Sinema yma yn Pontio doedd gen i ddim syniad y byddai dros flwyddyn yn pasio heibio cyn i ni allu agor ein drysau a dangos ein ffilm gyntaf. Mae dwyn i gof y profiad ffurfiannol hwn heddiw yng nghanol y cloi bresennol hon yn fy atgoffa o'r egni, y brwdfrydedd a'r ymrwymiad gwreiddiol a oedd gennym fel tîm ifanc, yn ôl yn 2014, wrth i ni baratoi’r fenter gyffrous newydd hon ym Mangor. Rwyf am ategu yn y blog yma fy mod i'n profi ymdeimlad tebyg o gyffro cynyddol ac egni cadarnhaol heddiw wrth i ni fynd ati i baratoi ar gyfer ailagor y sinema ar ôl cyfnod mor hir ac anodd i ffwrdd o'n cynulleidfaoedd.
Tumblr media
Ers y dangosiad cyntaf hwnnw, dros bum mlynedd yn ôl, mae rhedeg y rhaglen sinema wedi bod yn llawenydd di-dor i mi. Mae natur y gwaith a rhinweddau y swydd wedi cael ei datgelu i mi yn araf bach dros y cyfnod yma. Rwyf wedi dysgu bod problemau yn bodoli er mwyn cael ei datrys; mae bron bob amser y penderfyniad cywir rhoi yr hyn maen pobl yn dymuno gweld ar y sgrin iddyn nhw; ni fyddai unrhyw beth yn digwydd heb waith y staff a'r gwirfoddolwyr sy'n rhedeg blaen tŷ a’r swyddfa docynnau ac yn ola’ ni all neb reoli'r tywydd!
Ond y peth pwysicaf rydw i wedi'i ddysgu yw mai cyfrifoldeb mwyaf y swydd yw sicrhau bod ein cynulleidfaoedd yn mwynhau, yn ymgysylltu, yn cael eu difyrru ac yn cymryd rhan yn y broses o greu ein rhaglen ffilm. Mae rhedeg y rhaglen ffilm i mi yn rhyw fath o sgwrs gyda'r gymuned ac mae medru cymryd cyfrifoldeb am lunio'r broses hon gyda chi wedi bod yn anrhydedd enfawr i mi dros y blynyddoedd.
Wrth i'r cloi roi sdop ar yr ymgysylltiad uniongyrchol hwn, bûm yn ymwneud â mwy o weithgareddau ar-lein ac yn anuniongyrchol dwi wedi llwyddo i dderbyn addysg lawer ehangach o ran sut mae'r busnes ffilm yn gweithio, ym maes arddangos a chynhyrchu, yma yng Nghymru a thramor.
Ymunais â bwrdd Ffilm Cymru Wales ar ddechra 2020 a thrwy gydol y cyfnod clo rwyf wedi gweld yr asiantaeth yn gweithio’n ddiflino i ymladd yn frwd dros sicrhau buddiannau y sector arddangos yma yng Nghymru a parhad canolfannau ar draws y wlad. Rwyf wedi dysgu llawer am economeg cymhleth byd y ffilmiau yn ogystal â dod i ddeall pa mor fregus yw sdad llawer o weithwyr llawrydd yn y diwydiant ffilm a theledu. Mae gwybod fod yr asiantaeth wedi cymryd rhan uniongyrchol mewn llunio cronfaoedd adfer ar gyfer staff cynhyrchu llawrydd a wedi cynnig cyfleoedd a cymorth uniongyrchol yn dystiolaeth pwysig fod rôl gan pawb i chwarae wrth ddygymod â phroblemau Covid a chynnig cefnogaeth a dyfodol i rhai sy'n dioddef. Mae’r asiantaeth wedi chwarae rhan bwysig trwy lywio'r sector cynhyrchu ffilm yn ôl o'r dibyn er mwyn hwyluso gweld y ffilmio yn dychwelyd i Gymru mewn modd diogel ac wrth gwrs pob tro yn gweithio yn galed i sicrhau bod gennym ffilmiau Cymraeg newydd i'w dangos i chi yn ein sinema pan fydd yr ail agor yn digwydd.
Mae wedi dod yn amlwg iawn i mi yn y pandemig hwn trwy weld sut mae diwydiant byd-eang cyfan fel y diwydiant ffilm yn ymateb i fygythiad dirfodol, trwy weithio fel un y gallwn gyflawni llawer mwy ac y bydd y sylweddoliad hwn yn cael effaith ar sut y bydd sinemâu yn gweithio pan fyddwn yn ailagor ar draws y wlad.
Bydd rhai pethau'n sicr yn wahanol. Credaf fod natur fy swydd, a gwaith pawb arall yn anorfod yn gorfod newid. Teimlaf y bydd y gwaith sydd i ddod yn golygu ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd lawer mwy ac yn adeiladu ar y gwirionedd syml a cadarnhaol ein bod ni i gyd yn gysylltiedig ac yn ddibynnol ar ein gilydd.
Mae sinema yn ddiwydiant fyd-eang a chredaf fod y rhan fach yr ydym yn ei chwarae yn Sinema Pontio yr un mor bwysig fel cyfraniad i iechyd a pharhad y diwylliant ffilm, ac rwyf am i fwy a mwy o bobl yn ein cymunedau gymryd rhan yn y broses honno pan fyddwn yn ailagor.
Rwy'n gobeithio y gallwn ni gyd wneud rhywbeth mor syml ac mor bwysig â phrynu tocyn ar gyfer ffilm rydym ni am ei weld, aros i'r goleuadau fynd i lawr a mynd i mewn i'r ffilm gyda'n gilydd cyn bo hir.
Tumblr media
0 notes
ffrindiaugigiau · 7 years ago
Text
Gig Buddies Cardiff is looking for a Project Administrator
Tumblr media
++Sgroliwch i lawr am y Gymraeg / Scroll down for Welsh++
LDW Salary Scale Grade 2 (£14,973) pro-rata + Pension. 15 hours per week (flexible).
Do you want to join our exciting new Gig Buddies project in Cardiff?
We have a great opportunity for an experienced Administrator to support and promote this project.  
This new befriending scheme matches people with a learning disability with volunteers who share the same interests so they can go to gigs together.
Working for 15 hours per week you will meet both volunteers and gig-goers, maintain a matching database, process DBS disclosures, manage appointments and be the first point of contact for project enquiries.  
The post will be based at our newly awaited office accommodation in Cardiff.
Closing date: Friday 6 April 2018
Interview date: Monday 16 April 2018
To apply please download the recruitment pack below and return your completed application to: [email protected]. Please label the subject of your email as ‘Gig Buddies Project Administrator’.
This is our preferred method of applying.
If you prefer to post your application, then please send to:
Gig Buddies administrator recruitment Human Resources & Governance Manager Learning Disability Wales 41 Lambourne Crescent Llanishen Cardiff CF14 5GG
For more information contact Zoe Richards or Kai Jones on 029 2068 1160, email [email protected].
Application pack
Gig Buddies Project Administrator information pack
Project Administrator job description
Person spec
Application form
Mae Ffrindiau Gigiau Caerdydd yn chwilio am Weinyddydd Prosiect
Cyfradd Cyflog ADC Gradd 2 (£14,973) pro-rata + Pensiwn. 15 awr yr wythnos (hyblyg).
Hoffech chi ymuno gyda’n prosiect Ffrindiau Gigiau newydd cyffrous yng Nhaerdydd?
Mae gennym gyfle gwych i Weinyddydd profiadol i gefnogi a hyrwyddo’r prosiect yma.  
Mae’r cynllun ymgyfeillio newydd yma yn cydweddu pobl gydag anabledd dysgu â gwirfoddolwyr sydd yn rhannu’r un diddordebau, er mwyn iddyn nhw allu mynd i gigiau gyda’i gilydd.
Gan weithio 15 awr yr wythnos, fe fyddwch yn cyfarfod y gwirfoddolwyr a’r rhai sy’n mynd i gigiau, yn cynnal cronfa ddata cydweddu, yn prosesu datgeliadau DBS, yn rheoli apwyntiadau  a chi fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau ynghylch y prosiect.  
Fe gaiff y swydd ei lleoli yn ein swyddfeydd newydd yng Nghaerdydd.
Dyddiad cau: Gwener 6 Ebrill 2018
Dyddiad cyfweliad: Llun 16 Ebrill 2018
I ymgeisio lawrlwythwch y pecyn recriwtio isod a dychwelwch eich cais wedi’i chwblhau i: [email protected]. Labelwch destun pwnc eich ebost fel ‘Gweinyddydd Prosiect Ffrindiau Gigiau’ os gwelwch yn dda.
Dyma ein dull dewisol o wneud cais.
Os yw’n well gennych bostio eich cais, yna anfonwch os gwelwch yn dda at:
Gweinyddydd Prosiect Ffrindiau Gigiau Rheolwraig Adnoddau Dynol a Llywodraethiant Anabledd Dysgu Cymru 41 Lambourne Crescent Llanisien Caerdydd CF14 5GG
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Zoe Richards ar 029 2068 1160, ebost [email protected].
Pecyn Cais
Pecyn gwybodaeth Gweinyddydd Prosiect Ffrindiau Gigiau
Disgrifiad swydd Gweinyddydd Prosiect
Manyleb person
Ffurflen ymgeisio
2 notes · View notes
aaronpleming · 8 years ago
Text
Adolygiad o Recordiad Noson Lawen - 17th Mehefin 2017 (Fersiwn Cymraeg)
Heddiw ma dwi am adolygu y Rhaglen Noson Lawen cafodd ei chynnal yn Mhontio Bangor ar y 17th o Fehefin, oedd nhw ddim yn Recordio mewn order so mi oedd o’n braidd yn Confusing i ddechra, so y cyntaf ar y llwyfan oedd y Band Calfari yn Perfformio un o’i Caneuon sef Rhydd, track great oedd hi fyd i gnesu pawb am gweddill y Noson. Mi gafodd ni glywed y track 2 Waith oherwydd oedd y Criw Teledu ishio neud siwr bod nhw di gal popeth yn iawn.
Hefyd Aled Hughes oedd yn Cyflwyno’r Rhaglen felly oedd o yn dod allan ar ol rhai perfformiadau a deud ambell i jokes a ballu.
Y nesa ar y Llwyfan oedd Meinir Gwilym yn Perfformio can newydd sbon sef Gwallgo, Mi wnesi Mwynhau y Perfformiad yna.
Wedyn y nesa ar y Llwyfan oedd y deuawd Daf a Lisa yn Perffomio Cofion Gorau sef yn gan sydd di cael ei neud yn enwog gan Tony ac Aloma wrth gwrs. Nath un o’n Cyd Gwirfoddolwyr deud wrtha’i pan oedd hi’n cau ei llygaid, Tony ac Aloma oedd ar y Llwyfan oherwydd oedd nhw’n sowndio’n union ry’n peth.
Y Nesa ar y Llwyfan oedd y Cwmni Bach a Mawr, Sketch comedy oedd hwn di gael ei setio mewn “Ysbyty” lle oedd “Nurse” yn gwarchod “Taid” ac oedd Taid ddim ishio Camera fyny ei... wel dachi’n gedru dyfalu be sydd yn dod nesa gobeithio, neshi fwynhau’r Sketch yma oherwydd dwi yn berson sy’n mwynhau Comedy.
Nesa ar y llwyfan oedd Llio Evans yn Perfformio darn Opera o Romeo and Juliet, dydwi ddim yn berson Opera fel arfer ond mi wnesi fwynhau ei perfformiad hi yn fawr iawn, gafodd ni glywed y Perfformiad 2 waith.
Nesa ar y Llwyfan oedd y Deuawd Dylan a Neil yn perfformio Tafarn y Garddfon, oedd y Perfformiad yma yn wych.
Nesa ar Llwyfan Noson Lawen oedd Jams Coleman yn chwarae rhyw darn bach ar y Piano, oedd ei Perfformiad yn wych ac oedd yna dipyn bach o boogie yn y tune os mae hynna’n neud sense?.
Nesa ar y Llwyfan oedd Llio Evans yn ei ol efo Jams Coleman yn chwarae’r Piano, oedd y Perfformiad yma yn mwy o Gan na darn o Opera.
Nesa ar y Llwyfan oedd Cor Aelwyd yr Ynys yn Perfformio Ceidwad y Goleudy, sef yn gan sydd wedi gael ei neud yn enwog gan Bryn Fon, oedd genai ddeugryn bach yn fy llygaid pan oedd hein yn Perfformio, oedd y Perfformiad yn mor hyfryd a gafodd ni weld y Perfformiad 2 waith.
Yna i orffan y Noson oedd Meinir Gwilym wedi ymuno efo Cor Aelwyd yr Ynys i Perfformio Gormod, oedd y Perfformiad yma’n wych i orffan Noson Wych
Edrych ymlaen am Noson wych arall yna heno ma.
Tumblr media Tumblr media Tumblr media
0 notes
wcva · 7 years ago
Text
Rwyf ar lwyfan newydd Gwirfoddoli Cymru - beth nawr?
Tumblr media
Yn ei hail flog ar y pwnc, mae Fiona Liddell, Rheolwr Datblygu Gwirfoddoli yn WCVA, yn cynnig rhagor o awgrymiadau ar ddefnyddio gwefan newydd Gwirfoddoli Cymru, a fydd yn cael ei lansio ddechrau mis Mehefin.
Yn fy mlog blaenorol soniais am gofrestru eich mudiad ar y llwyfan a sut i greu cyfleoedd gwirfoddoli. Dewch i ni edrych ar nodweddion eraill a all fod yn ddefnyddiol i chi.
Yn ddiweddar prynais gamera newydd sy’n gwneud llawer mwy nag ydwi’n gallu’i wneud gydag ef, ar y funud - er dwi’n dysgu. I fod yn onest mae’n gwneud llawer mwy na fydda’ i’n debygol o fod eisiau ei wneud fyth. Ond mae’n tynnu lluniau gwell na mae fy ffôn yn ei wneud, a dwi’n hapus gyda hynny.
Yn yr un modd, mae nifer o nodweddion ar y llwyfan newydd na fyddwch chi’n teimlo’n barod i’w defnyddio, yn gallu eu defnyddio neu angen eu defnyddio, ac mae hynny, wrth gwrs, yn berffaith iawn. Byddwch er hynny, efallai’n darganfod eich bod eisiau meddwl am sut y byddwch yn defnyddio’i nodweddion yn llawnach yn y dyfodol ac i wneud hynny’n nod yn y tymor canolig i’r hirdymor.  
Mae’r cyfleuster wedi’r cyfan, ar gael i chi am ddim yn rhan o seilwaith Gwirfoddoli Cymru, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru. Mae yno i’w gwneud yn haws i wirfoddolwyr gael at gyfleoedd gwirfoddoli ac i’ch helpu i reoli gwirfoddolwyr.  
Felly, rydych wedi creu ychydig o gyfleoedd, beth nawr?
Ymateb i wirfoddolwyr
Gwahaniaeth pwysig o gymharu â’r hen system yw pan fydd gwirfoddolwyr yn gofyn i ‘ymuno’ neu ‘ymgeisio’ (pa bynnag un rydych chi wedi’i ddewis - gwelwch y blog blaenorol sy’n egluro’r gwahaniaeth) bydd hysbysiad e-bost yn mynd yn syth atoch chi ac nid, fel yn flaenorol (yn y rhan fwyaf o achosion), i’r ganolfan wirfoddoli.
Afraid dweud bod ymateb i’r hysbysiadau hyn yn brydlon o bwysigrwydd mawr. Mae gwirfoddolwyr eisiau system recriwtio sy’n sydyn, hawdd ac uniongyrchol. Gall y llwyfan hwn alluogi hynny’n union, ond mae’n gofyn am berson cyswllt y mudiad i fod yn barod ac yn gallu ymateb yn briodol.
Mae canolfannau gwirfoddoli weithiau wedi bod yn gyfryngwr yn y broses recriwtio, yn dewis ac yn gyrru ymgeiswyr argymelledig i gael eu hystyried gennych. Pe byddai hyn yn ddefnyddiol yna cysylltwch â’ch canolfan wirfoddoli leol; efallai y gallant reoli rhai agweddau ar y broses recriwtio ar eich rhan.
Creu tudalen broffil darparwr
Tumblr media
Pan fyddwch yn cofrestru fel ‘darparwr’ cyfleoedd gwirfoddoli, byddwch yn cael eich tudalen we unigryw eich hun a chyfeiriad gwe ble gallwch ychwanegu eich logo, delwedd clawr a gwybodaeth am eich mudiad. Pan fydd gwirfoddolwr yn chwilio ac yn dod o hyd i gyfle yr ydych wedi’i bostio, gallant glicio ar enw eich mudiad i fynd ar eich tudalen broffil. Yno byddant yn gweld yr holl gyfleoedd yr ydych yn eu cynnig.
Drwy gyhoeddi URL/ cyfeiriad gwe eich tudalen broffil gallwch arwain pobl yn syth bin at eich tudalen broffil. Gallant weld ac ymuno â chyfleoedd, neu gallant gysylltu â chi, o’r dudalen hon.
Gallwch ddod o hyd i help i greu tudalen darparwr yma: http://guide.teamkinetic.co.uk/provider-profile-page
Cofnodi oriau gwirfoddolwyr
Gallwch gofnodi oriau gwirfoddolwyr ar y system. Mae’n rhoi adborth gweladwy o’r cyfraniad y maent yn ei wneud. Unwaith maent wedi gwneud 50, 100, 200, 500 a 1,000 o oriau, bydd bathodyn lliw Gwirfoddoli Cymru yn ymddangos ar eu proffil yn gydnabyddiaeth.
Tumblr media
Gall gwirfoddolwyr gofnodi eu horiau eu hunain ar eu dangosfwrdd. Bydd y system yn ‘cyfrif’ yr oriau hyn pan fyddant yn cael eu gwirio gennych fel darparwr. Gall gweinyddwyr hefyd gofnodi neu gymeradwyo oriau ar ran darparwr. Os yw hyn yn rhywbeth na allwch ei wneud am ba bynnag reswm, efallai gall eich canolfan wirfoddoli helpu.  
Mwy na recriwtio yn unig
Mae yna sawl rheswm da pam y dylech fynd ati i annog eich gwirfoddolwyr presennol i gofrestru ar gyfer y llwyfan.
Tumblr media
Byddai’n eich galluogi i greu cyfleoedd caeedig, y gallwch eu cyfyngu i’ch grŵp gwirfoddoli. Gall y rhain fod yn sesiynau gwirfoddoli fel eich bod yn gallu cwblhau eich rota ar-lein, gallant yn ogystal fod yn hyfforddiant neu’n sesiynau gwybodaeth yr ydych eisiau i bobl gofrestru ar eu cyfer.
Os ydi gwirfoddolwyr wedi cofrestru ar eich system gallwch fonitro oriau gwirfoddoli - a all fod yn ddefnyddiol i gefnogi ceisiadau cyllid, ynghyd â’ch galluogi i roi adborth positif i wirfoddolwyr a rhanddeiliaid.
Creu a rheoli grwpiau gwirfoddoli
Tumblr media
Os ydi gwirfoddolwyr wedi cofrestru ar eich system gallwch greu a rheoli grwpiau gwirfoddoli a gyrru e-byst grŵp.
Gallwch, er enghraifft, greu grŵp a’i alw yn ‘myfyrwyr’ (y mae’n debygol y bydd eu hargaeledd yn cael ei gyfyngu i gyfnodau gwyliau). Gallwch anfon dolen arbennig at wirfoddolwyr sy’n fyfyrwyr a phan fyddant yn cofrestru byddant yn cael eu rhoi’n awtomatig yn y grŵp gweinyddol hwn.
Mae creu grwpiau yn hwyluso cyfathrebu. Gallwch e-bostio’r holl wirfoddolwyr am gyfle penodol, neu efallai eich bod eisiau e-bostio gwirfoddolwyr mewn grŵp penodol yr ydych wedi’i greu. Gallwch hefyd wrth gwrs e-bostio gwirfoddolwyr unigol hefyd.
A ydych wedi cofrestru ar y llwyfan newydd eto?
Tumblr media
Cofiwch mai’r cam cyntaf pwysicaf yw rhoi cyfleoedd arno cyn i’r llwyfan fynd yn fyw, ddechrau mis Mehefin. Ar ôl y dyddiad hwnnw, ni fydd unrhyw gyfleoedd fydd gennych ar hen wefan Gwirfoddoli Cymry yn cael eu hyrwyddo.
Dechrau Arni
Ewch i’r cyfeiriad gwe dros dro https://volunteerwales.teamkinetic.co.uk/ i gofrestru ac i greu cyfleoedd. Gallech hefyd gofrestru fel gwirfoddolwr prawf, chwilio am eich cyfleoedd gwirfoddoli eich hun ac ymuno â nhw er mwyn ymgyfarwyddo â’r ffordd y mae’n gweithio. Ar ôl y dyddiad lansio, bydd y wefan ar gael ar www.volunteering-wales.net.
Gobeithiwn y bydd y system newydd o gymorth i chi wrth recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr. Fel yr wyf wedi ei ddweud eisoes, bydd y system a’n defnydd ohoni, yn broses esblygol. Yn y cyfamser byddwn yn awyddus i glywed sut hwyl rydych yn ei chael arni, beth sy’n ddefnyddiol a gwnawn ein gorau i helpu gydag unrhyw anawsterau a gewch chi.
Mae croeso i chi gysylltu â ni drwy ebostio [email protected] neu [email protected].  
0 notes
wcva · 7 years ago
Text
Llwyfan newydd Gwirfoddoli Cymru - Help! Lle dwi’n dechrau?
Tumblr media
Yma mae Fiona Liddell, Rheolwr Datblygu Gwirfoddoli WCVA, yn cynnig cyngor ar ddefnyddio gwefan newydd Gwirfoddoli Cymru, a fydd yn cael ei lansio ddechrau Mehefin.
Mae newid yn hoff beth gan rai ohonom ac yn gas beth gan eraill. Gall gwefan newydd godi ofn ar y rheini ohonom sydd ddim yn meddu ar athrylith dechnolegol naturiol.
Pam felly, dwi’n clywed chi’n gofyn, yr ydym yn newid gwefan Gwirfoddoli Cymru a ddefnyddir ar hyn o bryd (yn ddidrafferth gan y mwyafrif) i recriwtio gwirfoddolwyr gan tua 2,000 o fudiadau yng Nghymru?
Mae rhan o’r ateb yn ymwneud â chadw gyda’r oes ddigidol yr ydym yn byw ynddi a disgwyliadau darpar wirfoddolwyr - yn enwedig, ond nid dim ond, y rhai iau.
Mae rhan arall yn ymwneud â photensial technoleg i gynorthwyo staff prysur drwy leihau’r baich gweinyddol sydd ynghlwm wrth recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr, gan roi mwy o amser iddynt ganolbwyntio ar dasgau o bwys. (Rydym yn ymwybodol nad yw pob gwirfoddolwr eisiau defnyddio gwasanaeth digidol ac felly’n parhau i ymrwymo i ddarparu gwasanaeth wyneb yn wyneb yn ogystal drwy ein canolfannau gwirfoddoli).
Mae’n cymryd amser i ymgyfarwyddo ag unrhyw system newydd a chyrraedd y pwynt lle mae’n teimlo’n fuddiol yn hytrach nag yn rhwystredig.
Dyma rai o’r nodweddion ar y wefan newydd sy’n wahanol i’r hen un. Wrth gofrestru’ch mudiad ar y wefan newydd (y cyfeiriad dros dro yw https://volunteerwales.teamkinetic.co.uk) fe fydd hi’n ddefnyddiol i chi fod yn ymwybodol o’r gwahaniaethau hyn o’r dechrau.
Tumblr media
Cofrestru
Os oes gennych gysylltiad â Chyngor Gwirfoddol Sirol neu ganolfan wirfoddoli leol yna chwiliwch am y sir briodol o brif dudalen y wefan a chofrestrwch yno. Mae hyn yn golygu bod eich cymorth gweinyddol yn cael ei ddarparu o’r sir honno. Nid oes ots i raddau helaeth ble rydych yn cofrestru, serch hynny, ac os yw’n teimlo’n anghywir gallwn sortio’r peth yn ddigon hawdd.
Dim ond un enw cyswllt ac un cyfeiriad ebost y gellir eu rhoi ar gyfer mudiad (a elwir yn y system hon yn ‘ddarparwr’). Dyma’r person a fydd yn cael hysbysiadau gan ddarpar wirfoddolwr.
Os oes gennych fwy nag un person cyswllt allweddol mae dau ddewis gennych: naill ai defnyddio cyfeiriad ebost cyffredinol y gall y ddau gael ato, neu, os ydych yn gyfrifol am rolau gwirfoddoli gwahanol neu ardaloedd gwahanol, cofrestrwch fel 2 (neu fwy) o ddarparwyr ar wahân, gydag enwau gwahanol megis Mudiad (Gogledd) a Mudiad (De); yna gall y ddau fod ag enw cyswllt a chyfeiriad ebost eu hunain.
Creu cyfleoedd
Rhaid i chi benderfynu a ydych am i wirfoddolwyr ‘ymuno’ neu ‘ymgeisio’. Os ydych am iddynt gofrestru a ‘throi lan’, ar sail y cyntaf i’r felin, dewiswch ‘ymuno’. Gallwch ddynodi faint o lefydd sydd gennych ar gael i wirfoddolwyr; dyweder bod angen 10 gwirfoddolwr arnoch, bydd y system yn rhoi gwybod i’r unfed person a’r ddeg sy’n mynegi diddordeb fod y cyfle yn ‘llawn’.
Tumblr media
I lawer o rolau gwirfoddoli ceir gwahanol gamau yn y broses recriwtio; efallai ffurflen gais ac yna sgwrs anffurfiol a sesiwn brawf neu sesiwn gynefino, cyn derbyn gwirfoddolwr. Os felly, dewiswch ‘ymgeisio’ bob tro. Gallwch lanlwytho ffurflen gais ac unrhyw wybodaeth arall rydych am i wirfoddolwyr ei gweld ar yr adeg hon.
Os oes unigolion yn ymgeisio sy’n anaddas i’r hyn sydd gennych mewn golwg, gallwch ddewis ‘dileu’ i ddileu eu henw o’r rhestr ymgeiswyr a bydd ebost yn cael ei greu’n awtomatig yn cadarnhau eu bod wedi bod yn aflwyddiannus. (Gallwch hefyd anfon ebyst personol i gadw mewn cysylltiad ac efallai gynnig dewis arall a all fod yn fwy priodol).
Ar ddiwedd eich proses recriwtio, pa mor hir bynnag y mae’n ei gymryd, byddwch yn dewis ‘cadarnhau’ i anfon ebost wedi’i greu’n awtomatig at wirfoddolwyr ‘llwyddiannus’ yn cadarnhau eu bod wedi’u derbyn. Ni allwch newid testun y negeseuon sy’n cael eu creu’n awtomatig ond gallwch bob amser anfon eich ebyst eich hun, naill ai at unigolion neu at grŵp o wirfoddolwyr. Mae rhagor o gymorth ar greu cyfle ar gael yma: http://providerguide.teamkinetic.co.uk/introduction-2
Denu gwirfoddolwyr
Tumblr media
Fel o’r blaen, mae’n bwysig rhoi teitl clir ac atyniadol i’ch cyfle ynghyd â disgrifiad llawn. Nid yw’n orfodol rhoi gwybodaeth yn ddwyieithog ond anogir hynny’n gryf. Cofiwch y gall darpar wirfoddolwyr fod yn chwilio am gyfleoedd ar y wefan yn y naill iaith neu’r llall ac os nad yw’r allweddeiriau cywir yn eich cyfle ni fyddant yn dod o hyd i chi. Gallwch ddefnyddio tagiau, yn Gymraeg ac yn Saesneg, i helpu pobl i ddod o hyd i chi’n haws.
Tumblr media
Mae angen rhoi lleoliad penodol ar gyfer pob cyfle er mwyn mesur pellter, gan fod canlyniadau chwilio yn cael eu dangos yn ôl pellter o’r chwiliwr. Gall hyn fod yn broblem i rai cyfleoedd, efallai gan fod modd eu gwneud unrhyw le ac rydym wrthi’n ymchwilio i ffyrdd gwell o reoli hyn.
Am y tro, y peth gorau i’w wneud yw ei gwneud yn glir yn y disgrifiad ei fod yn gyfle y gellir ei wneud gartref, ledled y wlad, neu beth bynnag, a chreu copïau eraill o’r cyfle fel y gall pobl mewn lleoliadau gwahanol ddod o hyd i chi. Efallai hefyd y bydd defnyddio tagiau ar gyfer rhanbarthau neu drefi yn helpu.
Pa fath o gyfle gwirfoddoli yr ydych yn ei gynnig?
Tumblr media
Ar waelod y dudalen ‘Creu Cyfle’ gofynnir i chi benderfynu a yw’ch cyfle yn un sy’n ailadrodd, ddim yn ailadrodd neu’n hyblyg. Os yw’n gyfle untro, megis glanhau traeth neu ŵyl ar benwythnos, dewiswch yr opsiwn ddim yn ailadrodd. Os oes gan y cyfle sesiynau rheolaidd, ac rydych angen rota o wirfoddolwyr, dewiswch ailadrodd. Fel arall, mae’ch cyfle yn debygol o fod yn un hyblyg, h.y. dim oriau gosod, neu bydd y mudiad a’r gwirfoddolwr yn trafod yr oriau. Os nad ydych yn siwr, dewiswch y categori hwn.
Hyd yn oed ar gyfer cyfle parhaus mae angen i chi ddynodi dyddiad gorffen - gallai hwn fod yn flwyddyn neu fwy yn y dyfodol os mynnwch a bydd yn sicrhau’ch bod yn adolygu ac yn diweddaru cyfleoedd yn rheolaidd.
Gallwch hefyd reoli gwiriadau DBS a geirdaon a threfnu sesiynau cynefino i’ch gwirfoddolwyr - ond rhaid i ni beidio â rhedeg cyn y gallwn gerdded. Y cam cyntaf pwysicaf yw rhoi cyfleoedd ar y wefan cyn iddi fynd yn fyw, ddechrau mis Mehefin. Ar ôl y dyddiad hwn, ni fydd cyfleoedd sydd gennych ar hen wefan Gwirfoddoli Cymru yn cael eu hysbysebu mwyach.
Sut i ddechrau arni
Ewch i’r cyfeiriad gwe dros dro https://volunteerwales.teamkinetic.co.uk i gofrestru ac i greu cyfleoedd. Gallech hefyd gofrestru fel gwirfoddolwr prawf, chwilio am eich cyfleoedd gwirfoddoli eich hun ac ymuno â nhw er mwyn ymgyfarwyddo â’r ffordd y mae’n gweithio. Ar ôl y dyddiad lansio, bydd y wefan ar gael ar www.volunteering-wales.net.
Gobeithiwn y bydd y system newydd o gymorth i chi wrth recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr a byddwn yn awyddus i glywed sut hwyl rydych yn ei chael arni, beth sy’n ddefnyddiol a gwnawn ein gorau i helpu gydag unrhyw anawsterau a gewch chi. Bydd y system a’n defnydd ohoni yn broses esblygol, heb os.
Mae croeso i chi gysylltu â ni drwy ebostio [email protected] neu [email protected].
Mwy o hyn
Darllenwch ail flog Fiona am lwyfan newydd gwirfoddoli cymru:
Rwyf ar lwyfan newydd Gwirfoddoli Cymru - beth nawr?
0 notes
wcva · 7 years ago
Text
Lle mae Gwirfoddoli yn Ffynnu... Gwirfoddoli yn y Sector Cyhoeddus - Beth Nesaf?
Tumblr media
Sandy Clubb, Ymgynghorydd Trydydd Sector, sy’n gofyn beth sy’n digwydd wrth i chi gyfuno galw cynyddol am wasanaethau cyhoeddus, â chyllidebau sy’n crebachu i’w darparu? Sut y gallwn sicrhau canlyniadau gwell, drwy gynnwys pobl mewn ffordd wahanol? Sut beth allai gwasanaethau cyhoeddus fod mewn deng mlynedd, gyda gwirfoddoli yn rhan lawer mwy o’r ffordd maent yn cael eu darparu?
Dyma rai o’r cwestiynau yr es i ati i’w hystyried pan gefais fy nghomisiynu gan WCVA i ysgrifennu papur ynglŷn â gwirfoddoli a darparu gwasanaethau cyhoeddus.
Ni fyddwn yn wynebu’r dasg ar fy mhen fy hun - yn gymdeithion i mi oedd y criw ffyddlon o ‘hyrwyddwyr gwirfoddoli’ sef Rhwydwaith Gwirfoddoli Cymru.
O Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i’r RSPB, o’r Gwasanaeth Tân i Discovery, Cyngor Sir Fynwy, Barnardo’s Cymru a llawer iawn mwy o fudiadau eraill yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector (gyda chymorth y gymuned o Gynghorau Gwirfoddol Sirol o Sir y Fflint i Abertawe), fe’m cadwyd ar y trywydd iawn gan yr arbenigedd cyfunol hwn.
Ar hyd y ffordd, fe wnaethom ddadbacio’r potensial a’r peryglon sy’n gorwedd dan wyneb y pwnc hwn, yn ogystal â’r ‘cwestiynau llosg’ i’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau, y rheini sydd â dylanwad a’r rheini sy’n rheoli gwariant ledled Cymru. Ar adegau gall fod yn bwnc sy’n ennyn emosiwn, wrth sôn am y wasgfa ariannol, gyson y mae ein gwasanaethau cyhoeddus a’r rheini yn y trydydd sector i gyd yn ei theimlo. Ond ceir hefyd lawer o greadigrwydd ac ysbrydoliaeth yn y maes hwn.
Roeddem yn gwybod bod gwirfoddoli yn digwydd yn barod, mewn llu o wahanol ffurfiau i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus, a hynny ers sawl blwyddyn. Mae llawer o aelodau Rhwydwaith Gwirfoddoli Cymru yn hwyluso gwirfoddoli naill ai’n uniongyrchol yn y sector cyhoeddus, neu ar y cyd â chyrff cyhoeddus. Ein nod oedd ystyried sut beth allai’r dyfodol fod pe bai’r gwirfoddoli yma yn chwarae rôl fwy, a sut y gellir gwneud hyn mewn ffordd sy’n manteisio ar yr holl fuddion, wrth oresgyn rhai o’r heriau.
Sut, er enghraifft, y gellir sicrhau cymorth priodol i wirfoddolwyr? Beth yw’r ffordd orau o benderfynu pa dasgau y gallai ac y dylai gwirfoddolwyr eu gwneud? Sut i wneud gwirfoddoli yn fwy hygyrch
Mae yna ofnau i’w goresgyn megis ‘dim ond ymgais yw hyn oll i lenwi bwlch toriadau ariannol’, a rhai materion ‘morthwyl i dorri cneuen’ o ran llywodraethu a chymesuroldeb i fynd i’r afael â nhw (a oes angen gwiriad DBS arnoch i stacio stondin pamffledi mewn cyntedd ysbyty?)
Roedd yna adegau pan oedd pethau’n hollol amlwg – er enghraifft, mynegi bod arweinyddiaeth gref yn allweddol i wireddu’r buddion. Efallai wir fod hyn yn amlwg. Ond os ydych yn gweithio i hybu’r achos dros wirfoddoli o’r gwaelod i fyny, a gefnogir yn dda, o fewn gwasanaethau cyhoeddus, gwirfoddoli sy’n cael ei ystyried ar ddechrau’r broses dylunio a chynllunio gwasanaethau yn hytrach na rhywbeth i’w ychwanegu wedyn, yna fe fyddwch yn gwybod pa mor hanfodol y gall arweinyddiaeth fod.
Ceir enghreifftiau ardderchog o brosiectau a gwirfoddoli sy’n digwydd ar y trothwy rhwng y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, a llawer iawn mwy ble mae pethau creadigol yn digwydd ‘er gwaetha’r system, nid o’i herwydd’. Gwirfoddoli sy’n dod â mwy o gyswllt dynol i wasanaethau cyhoeddus. Cwmnïaeth pan fo ar rywun ei hangen fwyaf, lifft i’r ysbyty. Rhywun i eistedd gyda chi wrth y bwrdd bwyd, mwy o  gwnstabliaid cymunedol ar y stryd. Y thema gyffredin sy’n codi ei phen dro ar ôl tro yw llesiant, a hanfod llawer o’r prosiectau sy’n bodoli yn y trothwy creadigol hwn yw dod â phobl at ei gilydd, gan fynd i’r afael ag unigedd ac arwahanrwydd.
Mewn byd cynyddol awtomataidd, ac o ystyried goblygiadau hyn ar gyfer gwaith â thâl, mae’n teimlo fel yr union amser i archwilio’r potensial y mae gwirfoddoli yn ei gynnig. I ystyried sut y gall y mathau hyn o rôl wau pobl, cysylltiad, ac amser gwerthfawr yn ôl i mewn i wasanaethau sy’n cael eu cyfyngu’n gynyddol gan eu cyllidebau.
Mae’r papur hwn yn fan cychwyn, yn ysgogiad, yn dechrau sgwrs yng Nghymru. Mae’n cynnig cwestiynau i’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau a’r rheini sydd â dylanwad, ac yn rhoi’r pwyslais ar arweinwyr lleol, gan eu gwahodd i ddod at ei gilydd a chreu gweledigaeth o’r hyn a ddaw nesaf yn eu cymunedau.
Os hoffech fod yn rhan o’r sgwrs ynglŷn â sut y gallwn greu mwy o botensial er mwyn i wirfoddoli ffynnu mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac i ble’r aiff y gwaith hwn nesaf, yna ymunwch â ni a’n panel o arbenigwyr yn gofod3 ar 8fed Mawrth.
Sandy Clubb, Ymgynghorydd Trydydd Sector
Mae Sandy wedi gweithio yn y gorffennol fel Ymgynghorydd i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, a thros nifer o sefydliadau eraill, gan gynnwys Sustrans Cymru a Valleys to Coast. Mae hi bellach yn gweithio fel Ymgynghorydd ar ei liwt ei hun, yn arbenigo ym maes cyfranogaeth, yn cynnig gwasanaethau i’r Trydydd Sector a’r Sector Cyhoeddus megis facilitation, hyfforddi a datblygu strategaethau. Cewch ddarganfod mwy am ei gwaith fan hyn.  
0 notes
wcva · 7 years ago
Text
Gwirfoddoli a Gwasanaethau Cyhoeddus
Tumblr media
Cyn gofod3 ddydd Iau mae Owen Wilce, Arweinydd Gwirfoddoli yng Nghyngor Sir Fynwy, yn edrych ar ddatblygiad gwirfoddoli mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Mae llawer o sôn wedi bod am y pwysau cyson sydd ar Wasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru ac nid ydym yn ddim gwahanol, ond mae ein taith wirfoddoli ni’n dechrau o gymhelliant gwahanol.
Fel nifer o fudiadau gwasanaeth cyhoeddus eraill mae gan Gyngor Sir Fynwy hanes hir a balch o gefnogi gwirfoddolwyr. Serch hynny, yn 2015 fe wnaethom waith ymchwil i ddatblygu cyfeiriad strategol clir ar gyfer gwirfoddoli yn ein sir, a oedd yn cynnwys ein gweledigaeth i weithio gyda’n cymunedau a’n partneriaid allweddol ar draws sectorau. Rhoddodd hyn ddiben a chyfeiriad cyfunol i ni fel mudiad ac yn bwysicach i’n gwirfoddolwyr, ac fe ddechreuais innau yn fy swydd fel Arweinydd Gwirfoddoli i gefnogi’r datblygiadau. Seiliwyd ein strategaeth wirfoddoli a’n rhaglen weithredu ar egwyddorion gwirfoddoli Cities of Service.
Ni ellir gorbwysleisio’r angen am arweinyddiaeth gefnogol gref ar lefel swyddog a lefel wleidyddol ar gyfer gwirfoddoli mewn mudiad gwasanaeth cyhoeddus fel un y ni. Daeth yr uchelgais i ddilyn model Cities of Service yn uniongyrchol o’n Prif Weithredwr Paul Matthews, ac yntau wedi ymweld â gwreiddiau’r model yn Efrog Newydd yn swyddfa’r Maer Bloomberg. Os cewch gyfle i glywed Paul yn siarad am wirfoddoli a’n rhaglen wirfoddoli ein hunain, Sir sy’n Gwasanaethu, yn y sesiwn ‘Gwirfoddoli mewn Gwasanaethau Cyhoeddus’ am 11 y bore yn gofod3 fe fyddwch yn deall ei angerdd.
Llu o ddinasyddion gweithgar
Mae ein pwyslais ar wirfoddoli wedi’i seilio ar ddealltwriaeth ei fod yn dod â buddion sylweddol i’n dinasyddion ar lefel unigol, ein cymunedau ehangach drwy gysylltiadau a hefyd yn gwella ein mudiad. O’i roi’n syml, ei hanfod yw pobl yn helpu pobl. Heb os, mae gwirfoddoli wedi dod â’n mudiad yn agosach at ddeall o ddifrif anghenion ein cymunedau, mae ein gwirfoddolwyr yn helpu i siapio gwasanaethau yn seiliedig ar eu profiadau go iawn. Mae eu sgiliau, eu brwdfrydedd a’u doniau yn cael eu rhannu’n gyson â’n cymuned ehangach, rydym wedi bod yn lwcus iawn o gael cymorth ein llu o ddinasyddion gweithgar. Er enghraifft, pwy well i roi croeso cynnes i Eisteddfodwyr yn y Genedlaethol yn 2016 na chriw ymroddedig o wirfoddolwyr Cymraeg, lleol – ein Llysgenhadon Sir Fynwy.
I ni, mae Gwirfoddoli yn rhan o’n gwaith craidd, ac mae’n daith na fyddwn yn gwyro ohoni. Mae pob polisi rydym yn ei ddatblygu a phob penderfyniad bellach yn cynnwys anghenion ein gwirfoddolwyr. Dwi’n cyfeirio ati fel taith gan ein bod yn parhau i ddysgu oddi wrth ein gwirfoddolwyr a hefyd partneriaid arbenigol allweddol yn y trydydd sector. Mae ein Canolfan Wirfoddoli leol, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO), wedi bod yn gefnogol ers i mi ddechrau yn fy swydd, ac rydym yn parhau i weithio ar ffyrdd o gydweithredu mewn mentrau newydd a’r rheini sydd eisoes ar waith. Rydym eisiau ychwanegu gwerth at waith pwysig ein Canolfan Wirfoddoli ac fel un o’r mudiadau mwyaf yn ein sir sy’n cefnogi gwirfoddolwyr mae perthynas waith dda yn hanfodol.
Yn Sir Fynwy, rydym wedi creu grŵp partneriaeth Cydgysylltu Gwirfoddoli, yr wyf yn ei gadeirio, er mwyn cynyddu cydweithredu a hyrwyddo’r hyn a gynigir i wirfoddolwyr yn ein sir. Mae’r grŵp mawr hwn, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o sawl sector, yn mynd ati i gymryd camau  gwirioneddol ac mae ynddo fudiadau sy’n cynorthwyo gwirfoddolwyr i ganfod cyfleoedd yn ogystal â’r rheini sydd am recriwtio gwirfoddolwyr. Mae ein cyfraniad at y gwaith strategol ehangach yn dangos nad ydym fel mudiad yn canolbwyntio ar wirfoddoli o fewn y Cyngor Sir yn unig, ond rydym hefyd yn cynorthwyo ein trigolion i ddod yn ddinasyddion gweithgar. Ac i ni mae gwirfoddoli yn allweddol i ysgogi’r newid hwnnw. Un ffordd rydym yn dangos hyn yw ein bod, ar y cyd â GAVO a Volunteering For Wellbeing, wedi bod wrthi’n hyrwyddo cymorth gwirfoddoli sydd ar gael i 44,000 o aelwydydd wrth gyfathrebu â nhw ynglŷn â’r dreth gyngor.
Enghraifft ardderchog o’r ffordd y mae uchelgais i ddatblygu gwirfoddoli mewn gwasanaethau cyhoeddus yn rhoi cyfle i’r trydydd sector dyfu yw’r prosiect rhagorol, Volunteering for Wellbeing. Ar ôl gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Fynwy i sicrhau arian o’r Gronfa Gofal Integredig, mae Bridges Centre yn cyflogi cydlynwyr gwirfoddoli i gynorthwyo pobl i fanteisio ar gyfleoedd gwirfoddoli sydd o fudd i’w llesiant eu hunain a llesiant y gymuned ehangach. Mae’r bartneriaeth hon wedi cael effaith bositif ar ein diwylliant gwirfoddoli fel mudiad ac wedi gwneud gwahaniaeth nodedig yn ein cymunedau.
Rydym wedi gweithio’n galed i gynllunio at gynnwys gwirfoddolwyr, gan gynnwys yr amodau a’r diwylliant sy’n caniatáu i wirfoddoli ffynnu a hefyd ein seilwaith. Datblygu pecynnau cymorth gwirfoddoli syml ond effeithiol, hyfforddiant i’n cydweithwyr i gyd ar Arwain Gwirfoddolwyr a mynd ati i wella’r ffordd rydym yn cefnogi ac yn datblygu ein gwirfoddolwyr.
Cyfle i glywed am y papur ‘Gwirfoddoli mewn Gwasanaethau Cyhoeddus’
Yn Sir Fynwy, rydym yn credu bod dyfodol disglair i wirfoddoli, ar draws y sectorau mae yna gefnogaeth dda i wirfoddolwyr ac mae’n iawn bod gwirfoddoli yn cael cryn dipyn o sylw. Croesawn bapur WCVA, Gwirfoddoli mewn Gwasanaethau Cyhoeddus, ac edrychwn ymlaen at fod yn rhan o’r trafodaethau yn y sesiwn yn gofod3 am 11 y bore; os hoffech ddod iddi cofrestrwch ar www.gofod3.cymru  
0 notes
wcva · 7 years ago
Text
Gwirfoddoli ym mhob rhan o’r gymuned
Tumblr media
(O’r Chwith i’r Dde) Prif Weithredwr Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful Ian Davy, Cadeirydd Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful Brian Lewis, Prif Weithredwr WCVA Ruth Marks a Llywydd WCVA Michael Sheen
Aeth Prif Weithredwr WCVA Ruth Marks i Ddathliad Gwirfoddolwyr Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful ddoe ac yma mae hi’n rhannu ei phrofiad o’r achlysur arbennig.
Pleser oedd bod yn rhan o Ddathliad Gwirfoddolwyr Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful yn y Red House ym Merthyr ddoe gyda Michael Sheen yn bresennol yn ei rôl swyddogol gyntaf fel ein Llywydd.
Cyfarfu Michael ag aelodau o Fforwm Ieuenctid Merthyr Tudful a siaradon nhw ag angerdd am eu gwaith yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a phwysigrwydd eu gwaith gyda’r Panel Grantiau dan Arweiniad Pobl Ifanc. Yn ogystal fe welodd Michael griw yn ymarfer ar gyfer perfformiad o Julius Caesar.
Roy Noble oedd meistr y ddefod gan gyhoeddi’r 140 o wirfoddolwyr yr oedd eu hamser a’u hymroddiad yn cael eu cydnabod gyda thystysgrifau a gyflwynwyd gan Michael.
Roedd amrywiaeth drawiadol y sector yn amlwg gyda phobl yn rhoi o’u hamser i achosion a diddordebau yn amrywio o bysgota i’r amgylchedd, o hanes i iechyd, o unigedd ac arwahanrwydd i ddigartrefedd.
Tumblr media
Fforwm Ieuenctid Bwrdeistref Merthyr Tudful gyda Michael Sheen
Rhoddwyd cydnabyddiaeth arbennig i wirfoddolwyr iau a oedd wedi gwneud 50, 100 a 200 awr o wirfoddoli drwy eu cyflwyno â thystysgrifau Gwirfoddolwyr y Mileniwm i gydnabod eu llwyddiant.
Ar ôl y gwobrau i gyd, siaradodd Michael yn bwerus ynglŷn â’i ymrwymiad yntau i gymunedau a gwirfoddoli a diolchodd i bawb am eu hamser. Dywedodd ei bod yn fraint bod yn bresennol yn y digwyddiad hwn ar ei ymddangosiad cyntaf fel Llywydd WCVA ac nad oedd dim byd mwy pwerus na phobl yn gweld bod angen gwneud rhywbeth ac yn dweud ‘Mi alla’i wneud hynny – ddim am arian, ond dim ond achos bod angen.’
Cafodd llawer o bobl dynnu eu llun gyda Michael a chyflwynodd Cadeirydd Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful Brian Lewis lun o’r Red House ym Merthyr i Roy a Michael i ddiolch iddynt am eu cefnogaeth.
Prynhawn bendigedig a diolch o galon i Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful am y cyfle.
0 notes
wcva · 7 years ago
Text
Sut ydych yn diogelu’ch gwirfoddolwyr?
Tumblr media
Mae swyddog y gwasanaeth diogelu Suzanne Mollison wedi bod am sgwrs â Fiona Liddell, Rheolwr Datblygu Gwirfoddoli WCVA, ynglŷn â diogelu gwirfoddolwyr.
Mae gan bob mudiad ddyletswydd tuag at ei wirfoddolwyr i’w diogelu rhag cael eu cam-drin, yn union fel y maent yn diogelu eu buddiolwyr sy’n debygol o fod yn agored i niwed. Ydych chi’n credu bod mudiadau gwirfoddoli yn deall hyn?
‘Mae diogelu gwirfoddolwyr yn bwnc pwysig iawn i dynnu sylw ato. Rwy’n siwr fod y rhan fwyaf o fudiadau gwirfoddoli yn deall bod eu dyletswydd o ofal yn golygu y dylent sicrhau cyn lleied o risgiau â phosib fel nad oes neb yn cael ei niweidio wrth wirfoddoli.
‘Efallai nad yw’n glir bod hyn yn cynnwys eu diogelu rhag niwed neu gam-drin posib gan bobl eraill. Mae’n bwysig ein bod yn cofio y gall gwirfoddolwyr hefyd fod yn agored i niwed; efallai eu bod o dan 18 oed ac felly’n blant yn llygad y gyfraith; efallai y bydd gan oedolion sy’n gwirfoddoli anghenion o ran gofal a chymorth, p’un ai a yw’r rhain yn cael eu diwallu ai peidio, gan gynnwys materion yn ymwneud ag iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, anableddau dysgu, galluedd meddyliol.’
Sut y byddech chi’n awgrymu i fudiad gwirfoddoli roi sylw i anghenion gwirfoddolwyr a’u diogelu?
‘Dylai polisi diogelu cyffredinol gyfeirio’n benodol at anghenion gwirfoddolwyr. Dylid recriwtio gwirfoddolwyr drwy systemau priodol fel eu bod yn annhebygol o gael eu rhoi mewn sefyllfaoedd y byddent yn eu cael yn anodd neu’n ofidus. Dylid rhoi cyfle iddynt gael eu hyfforddi yn yr hyn mae angen iddynt ei wybod i chwarae rhan weithgar yn y mudiad, ac i gyflawni’r tasgau o’u blaenau yn ddigonol, a pheidio â’u hanafu na’u niweidio eu hunain, na neb arall, mewn unrhyw ffordd wrth wneud hynny.’
Mae yna lawer o arfer da cyffredinol mewn mudiadau a ddylai fod yn berthnasol i wirfoddolwyr megis iechyd a diogelwch, arferion gweithio diogel, polisi gweithio’n unigol, ymwybyddiaeth o gam-drin domestig, goruchwyliaeth ac yn y blaen. A fyddech chi’n argymell y gellid defnyddio polisïau eraill sy’n ceisio cefnogi pobl nad ydynt wedi arfer â’r gweithle, er enghraifft, cynlluniau cyfaill, mannau i gael seibiant, cefnogi trefniadau teithio?
‘Yn bendant. Dylai pob polisi diogelu nodi’r ffyrdd y gallai pobl gael eu brifo, eu niweidio neu eu cam-drin a dweud beth sydd wedi’i roi yn ei le i leihau’r risgiau. Mae asesiad risg rheolaidd o gymorth mawr.’
Rwy’n aml yn sôn am ddull diogelu sy’n cynnwys y mudiad cyfan. Ydych chi’n credu bod hyn o gymorth i fudiadau gwirfoddoli?
‘Ydw, mae angen i bolisïau a hyfforddiant gyrraedd pawb. Mae fersiwn hawdd ei deall neu restr gyfeirio sydyn o bolisïau arferol staff yn ddefnyddiol iawn. Mae hyfforddiant yn hanfodol i’r unigolion sy’n gyfrifol am sicrhau arfer diogelu da; yr ymddiriedolwyr, swyddogion diogelu, rheolwyr llinell, swyddogion lleoliadau gwirfoddoli, ac yn y blaen, a sicrhau bod pawb yn gwybod pwy sy’n gwneud beth.’
A ydych yn meddwl bod rhai pobl yn dal i gredu nad yw diogelu yn rhywbeth y dylent fod yn ei wneud?
‘Mae gan bawb gyfrifoldeb i ddiogelu. Mae’n helpu os yw polisïau diogelu yn dweud yn union sut y dylid ymateb i bryderon ynghylch diogelwch rhywun, gyda sensitifrwydd a chymorth, a sut y dylid eu rhannu/adrodd yn briodol o fewn eich mudiad, a’r tu hwnt os oes angen.’
Dylid sicrhau bod pob unigol dynodedig yn gwybod sut i adrodd bygythiad difrifol neu niwed i’r heddlu neu’r gwasanaethau cymdeithasol. Rhaid pwysleisio nad cyfrifoldeb neb yn y mudiad gwirfoddoli yw penderfynu a oes niwed neu gam-drin wedi bod, nid eu dyletswydd nhw yw ymchwilio, dim ond adrodd yr hyn maent yn ei wybod.
Mae Gwasanaeth Diogelu WCVA yn darparu gwybodaeth, adnoddau, cyngor a hyfforddiant i fudiadau trydydd sector sy’n gweithio gyda grwpiau agored i niwed i wella polisïau ac arferion diogelu. I gael gwybod mwy ewch i http://www.wcva-safeguarding.org.uk/Hafan sy’n cynnwys offeryn hunanasesu diogelu, a gallwch gysylltu â’r llinell ymholiadau diogelu drwy ffonio 01745 357 574, neu drwy ein desg gymorth 0800 2888 329 neu drwy ebostio [email protected].
Gweler hefyd ein templed a’n harweiniad ar bolisi diogelu a’r daflen wybodaeth wirfoddoli ar ddiogelu.  
Yn fuan
Cynhelir y cwrs ‘Hyfforddiant sylfaenol Cymru gyfan ar ymwybyddiaeth o ddiogelu’ gydag achrediad lefel 2 yn y Rhyl ar 28 Tachwedd 2017 ac yng Nghaerdydd ar 13 Mawrth 2018.
Bydd modiwlau diogelu newydd ar gael ar Hafan Dysgu WCVA a bydd gweminar ar y cyd rhwng WCVA a Swydddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn edrych ar ddiogelu data a diogelu – mwy am hyn yn y man!
Gallwch gofrestru ar gyfer ein diweddariadau hyfforddi i gael gwybod am holl gyfleoedd hyfforddi WCVA.  
0 notes
wcva · 8 years ago
Text
Mae bywyd yn fyr - gwirfoddolwch
Tumblr media
Ruth (ar y chwith) gyda chyn-Faer Efrog Newydd, Rudy Giuliani, yn gwirfoddoli gyda New York Cares
I nodi Wythnos Gwirfoddolwyr mae Prif Weithredwr WCVA, Ruth Marks, yn ystyried pam mae gwirfoddoli mor agos at ei chalon.
Mae hi’n Wythnos Gwirfoddolwyr a dwi wedi treulio dipyn o amser yn meddwl pam mae gwirfoddoli yn golygu gymaint i mi. Mae bywyd yn fyr - gwirfoddolwch yw’r slogan neu’r ymadrodd diweddaraf sydd wedi dal fy llygad ynglŷn â gwirfoddoli.
Cefais fy magu gyda gwirfoddoli o’m cwmpas ym mhob man. Roedd Dad yn arfer trwsio Llyfrau Llafar i’r Deillion ac roedd e’ hefyd yn cefnogi nifer o elusennau gwahanol. Mae Mam bob amser wedi rhoi o’i hamser ac mae’n canu clodydd yr hyfforddiant a gafodd fel Samariad, y wybodaeth a enillodd yn ei helusen gofal a chymorth leol a’r cyfeillgarwch mae hi’n ei rannu drwy Age UK. Dwi’n siwr mai ei chysylltiadau cymunedol yw’r rheswm pam y cafodd gymaint o gymorth ymarferol a chefnogaeth emosiynol pan dorrodd ei harddwrn a’i throed mewn codwm yn ddiweddar. Felly dyma ymadrodd rhif dau - fe gewch o fywyd yr hyn rydych yn ei fuddsoddi ynddo.
Tumblr media
Mam Ruth yn cael ei chydnabod am wirfoddoli
Ond wrth gwrs, dyw’r rhan fwyaf ohonom ddim yn gwirfoddoli i gael rhywbeth ohono. Yr hyn sy’n ein hysgogi yw ein dyhead i weithredu, i helpu, i ymgyrchu - i wneud gwahaniaeth.
Cefais fy atgoffa o hyn yn ddiweddar wrth gyfarfod â nifer o Lysgenhadon #iwill yng nghyfarfod Pwyllgor Cynghori Step Up To Serve a gadeiriwyd gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru. Yng nghanol ysblander Palas Buckingham, daeth criw at ei gilydd a oedd yn cynnwys y Prif Rabbi, aelod o Dŷ’r Arglwyddi, Prif Weithredwr y Sgowtiaid a Chadeirydd Cyngor Ieuenctid Prydain - Anna Barker. Eglurodd Anna ei bod wedi dechrau gwirfoddoli achos ei bod yn flin. Roedd hi’n byw mewn pentref bach yng nghefn gwlad Dorset a doedd yno ddim trafnidiaeth i fynd i nunlle na gwneud dim byd. Dechreuodd Anna ymgyrch, llwyddodd i sortio rhywbeth i ddatrys y broblem ac roedd hyn yn ysgogiad mawr iddi a arweiniodd at rolau gwirfoddoli eraill.
Dydw i ddim yn mynd yn flin yn aml iawn, ond dyw hynny ddim yn golygu nad ydw i’n pryderu am bethau ac mae fy mhrofiad gwirfoddoli personol yn ymwneud yn bennaf â’m pryderon.
Yn yr ysgol roeddwn yn ymwneud â’r Brownis, y Geidiaid a’r Rangers. Roeddwn wastad yn ffafrio gweithgareddau gwasanaethu a helpu yn hytrach na’r pethau anturus, awyr agored - ffafriaeth sy’n parhau hyd heddiw.
Yn y brifysgol cefais fy mlas cyntaf o wirfoddoli ffurfiol drwy’r Undeb Myfyrwyr. Cefais fy nghyflwyno i’r Gwasanaeth Prawf a’m hyfforddi i fod yn Diwtor Llythrennedd i Oedolion. Cyfarfyddais â phobl arbennig - yn gleientiaid ac yn staff - a dysgu llawer iawn am bobl a chefndiroedd nad oeddwn erioed wedi cael profiad ohonyn nhw o’r blaen.
Roedd materion yn ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a gwahaniaethu yn amlwg iawn yn fy 20iau a’m 30au wrth i mi weithio yn y diwydiannau adeiladu a cheir, yn ogystal â thai cymdeithasol a’r trydydd sector. Hyfforddais fel Cwnselydd HIV Aids gwirfoddol a chefais hyfforddiant sydd ymysg y mwyaf grymus a thrawiadol dwi erioed wedi’i gael gan London Lighthouse (nad yw’n bodoli mwyach ond mae eraill yn parhau â’u gwaith gan gynnwys Ymddiriedolaeth Terence Higgins).
Mae gwirfoddoli wrth ochr pobl sy’n sâl neu’n galaru yn fraint - ac yn fy marn i mae’n rhywbeth y gall unrhyw un ohonom ei wneud yn dda am gyfnodau penodol o amser ac yna da o beth yw cael seibiant a rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol.
I mi - cefais hyd i rywbeth gwahanol yn canu mewn côr yn ogystal â bod yn rhan o grwpiau yn gweithio ar wahanol brosiectau - gwaith pwyllgor yn aml, ond does dim byd tebyg i fynd ati a chymryd rhan mewn rhywbeth ymarferol.
Elfen allweddol arall i lawer o wirfoddolwyr yw codi arian ac mae llawer ohonom yn codi arian dros achosion agos atom boed hynny drwy nawdd, gwerthu cacennau neu hel pres gyda bwced.
Y tro cyntaf i mi ddod i gysylltiad â chodi arian yn broffesiynol oedd pan oeddwn yn arwain RNIB Cymru. Doeddwn i erioed wedi cwrdd â phobl a oedd â rhif ffôn personol enwogion, a allai wneud bargeinion â lleoliadau anhygoel, a chynnal ocsiynau distaw gyda gwobrau penigamp i godi arian i gefnogi ymgyrchoedd cenedlaethol. Serch hynny, yr ymdrechion lleol i godi arian a gafodd yr effaith fwyaf arnaf. Pobl mewn cymunedau lleol a fyddai, flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn treulio amser i gynnal digwyddiadau a fyddai’n codi arian hanfodol i helpu i gynhyrchu Llyfrau Braille a Llafar yn Gymraeg a Saesneg i blant bach eu mwynhau.
Dwi’n mwynhau ac yn cael hwyl wrth wirfoddoli. Dwi wedi dysgu gymaint, cwrdd â phobl arbennig ac wedi bod yn lwcus i wirfoddoli yn yr Unol Daleithiau, Awstralia, Sri Lanca, Lloegr a Chymru.
Pryd bynnag dwi’n gofyn i rywun - sut y dechreues di wirfoddoli? Maent fel arfer yn dweud - gofynnodd rywun i mi wneud. Felly fy neges i yn Wythnos Gwirfoddolwyr eleni yw i nid yn unig ddiolch i wirfoddolwyr - ond hefyd i ofyn i rywun sydd heb wirfoddoli eto i roi cynnig arni - gobeithio y byddwch yn ei fwynhau gymaint ag yr wyf i.  
0 notes
wcva · 5 years ago
Text
‘Mae Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn bwysig iawn i’n sector’
Korina Tsioni yw Swyddog Datblygu Nod Ansawdd CGGC. Yma, mae hi’n siarad â BulliesOut ar ôl iddyn nhw adnewyddu’r nod ansawdd Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (IiV) yn ddiweddar, a pham dylai sefydliadau eraill gymryd rhan.
Sefydlwyd BulliesOut ym mis Mai 2006, ac mae’n un o elusennau gwrth-fwlio mwyaf ymroddedig ac uchelgeisiol y DU. Mae eu gwaith sydd wedi ennill gwobrau yn cael ei ddarparu ledled y DU, ac wrth weithio gydag ysgolion, colegau a lleoliadau ieuenctid a chymunedol, maent yn addysgu, hyfforddi a chefnogi miloedd o bobl ifanc bob blwyddyn.
Tumblr media
Mae BulliesOut yn defnyddio eu profiad, eu hegni a’u brwdfrydedd yn eu gweithdai a’u rhaglen hyfforddiant arloesol a rhyngweithiol i ganolbwyntio ar ymwybyddiaeth, atal, meithrin empathi a pherthnasau cadarnhaol â chyfoedion. Mae’r rhain i gyd yn hanfodol i greu amgylchedd anogol lle gall pobl ifanc a staff ffynnu.
Mae BulliesOut wedi llwyddo i adnewyddu’r wobr am y trydydd gwaith ac maen nhw’n tyfu’n gryfach gyda’u tîm o 20 o wirfoddolwyr mewn amrywiaeth o swyddi. Siaradais â Linda James MBE, Sylfaenydd/Prif Swyddog Gweithredol BulliesOut, am daith Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (liV) y sefydliad:
Beth fu manteision cyffredinol cyflawni’r wobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr?
‘Yn BulliesOut, drwy wasanaethau mentora, gweithdai ymgysylltu a rhaglenni hyfforddiant, rydyn ni’n benderfynol o fynd i’r afael â bwlio. Mae cyflawni’r wobr yn dangos faint rydyn ni’n gwerthfawrogi ein gwirfoddolwyr gwych a’r rhan bwysig maen nhw’n ei chwarae yn yr elusen.’
‘Dim ond un gweithiwr rhan-amser sydd gennym, felly heb ein tîm o wirfoddolwyr ymrwymedig, ni fyddem yn gallu darparu ein gwasanaethau hanfodol i’r rheini sydd wedi’u heffeithio gan fwlio.’  
Sut byddech chi’n disgrifio unrhyw heriau a wyneboch ar y daith Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr?  
‘Nid yw’r daith Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr golygu llawer o waith ychwanegol i’r sefydliad, ond fe gymerodd amser i ni allu trefnu'r diwrnod asesu olaf.’  
Sut mae’r rhaglen Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr wedi effeithio ar eich gwirfoddolwyr?  
‘Mae ein gwirfoddolwyr wedi gweld bod ein brwdfrydedd i gyflawni’r wobr am y tro gyntaf ac yna i ddal ati i’w chyflawni’n bwysig iawn i ni fel sefydliad, ac rydyn ni’n awyddus i fuddsoddi yn y gwirfoddolwyr ac yn yr hyn mae’n ei gymryd i gyflawni’r wobr.’
‘Mae ein gwirfoddolwyr wedi teimlo’n rhan o’r daith ac rydyn ni’n gobeithio eu bod nhw’n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi o ganlyniad i hynny.  
Yn eich barn chi, pa mor bwysig yw’r safon ansawdd Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr i’ch sector?  
‘Mae safon ansawdd Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn bwysig iawn i’r sefydliadau yn ein sector.’
‘Mae’n arddangos y gwerth clir a chynhenid sy’n cael ei roi ar y cyfraniadau y gall gwirfoddolwyr eu gwneud at sefydliad, ac mewn nifer o achosion, mae’n dangos sut na fyddai sefydliadau yn bodoli nac yn ffynnu heb eu gwirfoddolwyr.’
Tumblr media
Yr hyn sy’n cymell BulliesOut yw eu gweledigaeth i rymuso ac ysbrydoli plant a phobl ifanc i oresgyn bwlio a chyflawni eu llawn potensial. Eu nod yw cefnogi unigolion, ysgolion a lleoliadau ieuenctid a chymunedol sydd wedi delio â bwlio.
Oes gennych chi unrhyw gyngor i sefydliadau eraill am sut i wneud y mwyaf o’u taith Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr?  
‘Ein cyngor i unrhyw sefydliad arall sy’n ystyried Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr fyddai ymchwilio i’r safon ansawdd ymlaen llaw i wneud yn siŵr pan fyddwch chi’n penderfynu ymgymryd â'r daith, eich bod chi wedi rhoi’r cyfle gorau posib i chi’ch hun gyflawni'r safon.’  
Byddai’n dda rhoi sylw i unrhyw arferion arloesol ymysg y sefydliadau sydd wedi cyflawni’r wobr. Gallwch chi rannu un neu fwy o enghreifftiau o arferion da/arloesol sydd ar waith nawr o ganlyniad i’ch taith Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr?
‘Ein henghraifft gorau o arfer da yw cyfathrebu’n dda ag unrhyw ddarpar wirfoddolwyr ar ddechrau eu taith.’
‘Mae hyn yn gwneud yn siŵr bod eu disgwyliadau yn cael eu rheoli a’u bod nhw’n llwyr ymwybodol o’r hyn y disgwylir iddyn nhw ei wneud os byddan nhw’n penderfynu ymuno â’r tîm.’  
Rydych chi wedi cael yr achrediad Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr ers blynyddoedd – sy’n ymdrech arbennig. Pam benderfynoch chi adnewyddu eich gwobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr?  
‘Rydyn ni'n credu’n gryf y byddai peidio ag ystyried dal ati i gyflawni’r safon yn gam yn ôl ar ôl ymdrechu i gyflawni’r safon yn y lle gyntaf.’
‘Hefyd, rydyn ni’n credu bod ail-gyflawni’r wobr yn dangos ein hymrwymiad i’n tîm arbennig o wirfoddolwyr. Mae’r wobr yn ein galluogi ni i adolygu ein polisïau a’n gweithdrefnau ac i ddiweddaru popeth yn rheolaidd.’
Hoffem wybod pa fentrau creadigol gyda gwirfoddolwyr sydd wedi cael effaith sylweddol ar fynd i’r afael â phroblem/mater yn eich cymuned leol.  
‘Ein menter fwyaf creadigol gyda gwirfoddolwyr yw’r Rhaglen Ymgysylltu ag Ieuenctid sy’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc wirfoddoli gyda’r Elusen.’
‘Cafodd y rhaglen ei datblygu ar ôl sawl cais gan bobl ifanc a oedd eisiau cymryd rhan yn ein gwaith. Mae’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc gael hyfforddiant seiliedig ar sgiliau ac i weithio at wobr sy’n cael ei chydnabod ar lefel genedlaethol.’
Cliciwch yma os hoffech ragor o wybodaeth am BulliesOut a chymryd rhan! https://bulliesout.com/get-involved/
Dysgu mwy am Fuddsoddi mewn Gwirfoddolwyr a chysylltu â Korina yn [email protected] neu @korinations os oes gennych unrhyw gwestiynau a/neu syniadau.
0 notes