#WCVA Diogelu
Explore tagged Tumblr posts
wcva · 8 years ago
Text
Sut ydych yn diogelu’ch gwirfoddolwyr?
Tumblr media
Mae swyddog y gwasanaeth diogelu Suzanne Mollison wedi bod am sgwrs â Fiona Liddell, Rheolwr Datblygu Gwirfoddoli WCVA, ynglŷn â diogelu gwirfoddolwyr.
Mae gan bob mudiad ddyletswydd tuag at ei wirfoddolwyr i’w diogelu rhag cael eu cam-drin, yn union fel y maent yn diogelu eu buddiolwyr sy’n debygol o fod yn agored i niwed. Ydych chi’n credu bod mudiadau gwirfoddoli yn deall hyn?
‘Mae diogelu gwirfoddolwyr yn bwnc pwysig iawn i dynnu sylw ato. Rwy’n siwr fod y rhan fwyaf o fudiadau gwirfoddoli yn deall bod eu dyletswydd o ofal yn golygu y dylent sicrhau cyn lleied o risgiau â phosib fel nad oes neb yn cael ei niweidio wrth wirfoddoli.
‘Efallai nad yw’n glir bod hyn yn cynnwys eu diogelu rhag niwed neu gam-drin posib gan bobl eraill. Mae’n bwysig ein bod yn cofio y gall gwirfoddolwyr hefyd fod yn agored i niwed; efallai eu bod o dan 18 oed ac felly’n blant yn llygad y gyfraith; efallai y bydd gan oedolion sy’n gwirfoddoli anghenion o ran gofal a chymorth, p’un ai a yw’r rhain yn cael eu diwallu ai peidio, gan gynnwys materion yn ymwneud ag iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, anableddau dysgu, galluedd meddyliol.’
Sut y byddech chi’n awgrymu i fudiad gwirfoddoli roi sylw i anghenion gwirfoddolwyr a’u diogelu?
‘Dylai polisi diogelu cyffredinol gyfeirio’n benodol at anghenion gwirfoddolwyr. Dylid recriwtio gwirfoddolwyr drwy systemau priodol fel eu bod yn annhebygol o gael eu rhoi mewn sefyllfaoedd y byddent yn eu cael yn anodd neu’n ofidus. Dylid rhoi cyfle iddynt gael eu hyfforddi yn yr hyn mae angen iddynt ei wybod i chwarae rhan weithgar yn y mudiad, ac i gyflawni’r tasgau o’u blaenau yn ddigonol, a pheidio â’u hanafu na’u niweidio eu hunain, na neb arall, mewn unrhyw ffordd wrth wneud hynny.’
Mae yna lawer o arfer da cyffredinol mewn mudiadau a ddylai fod yn berthnasol i wirfoddolwyr megis iechyd a diogelwch, arferion gweithio diogel, polisi gweithio’n unigol, ymwybyddiaeth o gam-drin domestig, goruchwyliaeth ac yn y blaen. A fyddech chi’n argymell y gellid defnyddio polisïau eraill sy’n ceisio cefnogi pobl nad ydynt wedi arfer â’r gweithle, er enghraifft, cynlluniau cyfaill, mannau i gael seibiant, cefnogi trefniadau teithio?
‘Yn bendant. Dylai pob polisi diogelu nodi’r ffyrdd y gallai pobl gael eu brifo, eu niweidio neu eu cam-drin a dweud beth sydd wedi’i roi yn ei le i leihau’r risgiau. Mae asesiad risg rheolaidd o gymorth mawr.’
Rwy’n aml yn sôn am ddull diogelu sy’n cynnwys y mudiad cyfan. Ydych chi’n credu bod hyn o gymorth i fudiadau gwirfoddoli?
‘Ydw, mae angen i bolisïau a hyfforddiant gyrraedd pawb. Mae fersiwn hawdd ei deall neu restr gyfeirio sydyn o bolisïau arferol staff yn ddefnyddiol iawn. Mae hyfforddiant yn hanfodol i’r unigolion sy’n gyfrifol am sicrhau arfer diogelu da; yr ymddiriedolwyr, swyddogion diogelu, rheolwyr llinell, swyddogion lleoliadau gwirfoddoli, ac yn y blaen, a sicrhau bod pawb yn gwybod pwy sy’n gwneud beth.’
A ydych yn meddwl bod rhai pobl yn dal i gredu nad yw diogelu yn rhywbeth y dylent fod yn ei wneud?
‘Mae gan bawb gyfrifoldeb i ddiogelu. Mae’n helpu os yw polisïau diogelu yn dweud yn union sut y dylid ymateb i bryderon ynghylch diogelwch rhywun, gyda sensitifrwydd a chymorth, a sut y dylid eu rhannu/adrodd yn briodol o fewn eich mudiad, a’r tu hwnt os oes angen.’
Dylid sicrhau bod pob unigol dynodedig yn gwybod sut i adrodd bygythiad difrifol neu niwed i’r heddlu neu’r gwasanaethau cymdeithasol. Rhaid pwysleisio nad cyfrifoldeb neb yn y mudiad gwirfoddoli yw penderfynu a oes niwed neu gam-drin wedi bod, nid eu dyletswydd nhw yw ymchwilio, dim ond adrodd yr hyn maent yn ei wybod.
Mae Gwasanaeth Diogelu WCVA yn darparu gwybodaeth, adnoddau, cyngor a hyfforddiant i fudiadau trydydd sector sy’n gweithio gyda grwpiau agored i niwed i wella polisïau ac arferion diogelu. I gael gwybod mwy ewch i http://www.wcva-safeguarding.org.uk/Hafan sy’n cynnwys offeryn hunanasesu diogelu, a gallwch gysylltu â’r llinell ymholiadau diogelu drwy ffonio 01745 357 574, neu drwy ein desg gymorth 0800 2888 329 neu drwy ebostio [email protected].
Gweler hefyd ein templed a’n harweiniad ar bolisi diogelu a’r daflen wybodaeth wirfoddoli ar ddiogelu.  
Yn fuan
Cynhelir y cwrs ‘Hyfforddiant sylfaenol Cymru gyfan ar ymwybyddiaeth o ddiogelu’ gydag achrediad lefel 2 yn y Rhyl ar 28 Tachwedd 2017 ac yng Nghaerdydd ar 13 Mawrth 2018.
Bydd modiwlau diogelu newydd ar gael ar Hafan Dysgu WCVA a bydd gweminar ar y cyd rhwng WCVA a Swydddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn edrych ar ddiogelu data a diogelu – mwy am hyn yn y man!
Gallwch gofrestru ar gyfer ein diweddariadau hyfforddi i gael gwybod am holl gyfleoedd hyfforddi WCVA.  
0 notes
wcva · 8 years ago
Text
Chwe rheswm dros fod â pholisi diogelu
Tumblr media
Suzanne Mollison, Swyddog Diogelu WCVA, sy’n edrych ar bwysigrwydd polisi diogelu i elusennau. 
Weithiau dwi’n darllen ebost gan fudiad sy’n gofyn a oes arnynt angen polisi diogelu a gallaf deimlo’r amharodrwydd y tu ôl i’r geiriau. Wrth ateb, dwi’n ceisio dangos perthnasedd diogelu i’w gwaith er mwyn eu hannog a’u cefnogi i fabwysiadu polisïau ac arferion sy’n briodol i’w mudiad nhw.
Mae arweiniad y Comisiwn Elusennau yn glir o ran y gofyniad cyfreithiol: os yw’ch elusen yn gweithio gyda phobl agored i niwed, mae angen i chi gymryd y camau angenrheidiol i’w diogelu. Rhaid i’ch elusen roi mesurau diogelu yn eu lle i warchod pobl agored i niwed (pob plentyn, ac oedolion mewn perygl) rhag camdriniaeth, ac atal camdriniaeth rhag digwydd yn y lle cyntaf.
Dyma fy mhrif resymau i dros roi polisi diogelu yn ei le.
Mae polisi diogelu yn:
Darparu proses glir - mae polisi yn gosod eich gweithdrefnau mewnol; yn creu dealltwriaeth gyffredin o beth yw diogelu a sut y bydd y mudiad yn mynd ati i ddiogelu, gan wneud ymddiriedolwyr, staff a gwirfoddolwyr yn ymwybodol o beth yw camdriniaeth a sut i’w hadnabod.
Eich helpu i ‘fod yn barod’ - ni all yr un mudiad wybod pwy fydd yn cerdded drwy ei ddrysau, na beth yn union y gallai’r risgiau fod. Mae rhywun nad ystyrir yn agored i niwed yn cael ei roi mewn mwy o berygl. Gall cynllunio a pharatoi leihau’r perygl.
Creu ‘ffordd o wneud pethau’ - mae polisi yn sefydlu system glir ar gyfer rhoi gwybod am bryder cyn gynted ag y mae’n cael ei godi neu am gamdriniaeth cyn gynted ag y mae’n cael ei hadnabod, yn ddelfrydol drwy swyddog diogelu/swyddog dynodedig neu bwynt cyswllt sengl.
Atal niwed a chamdriniaeth - trwy broses recriwtio a chyfweld drwyadl, sydd, gyda phroses gynefino, goruchwylio a chefnogi, yn helpu i sicrhau’r bobl orau posib a sicrhau eu bod yn rhoi eu gwaith gorau i ofalu am eich buddiolwyr. Mae hefyd yn darparu prosesau disgyblu a diswyddo cyson, pe bai angen hynny.
Cefnogi ceisiadau am gyllid - yn aml, gofynnir am bolisi diogelu fel rhan o’r broses ymgeisio am gyllid, hyd yn oed pan nad yw’r gwaith yn canolbwyntio’n uniongyrchol ar bobl sy’n agored i niwed. Mae hi bob amser yn syniad da rhoi polisi yn ei le ar gyfer pethau annisgwyl, megis plant yn mynd ar goll yn ystod diwrnod agored.
Cryfhau’ch enw da - mae meddu ar dystiolaeth weladwy o fwriadau diogelu yn cynnal enw da’ch mudiad ac enw da cymuned gyfan y trydydd sector.   
Trwy roi mesurau diogelu priodol yn eu lle, gall eich elusen hyrwyddo lle diogel i’ch buddiolwyr, a rhoi hyder i’r cyhoedd yn eich elusen a’ch ymddiriedolwyr 
(Comisiwn Elusennau - https://www.gov.uk/guidance/charities-how-to-protect-vulnerable-groups-including-children.cy)
  Mae Gwasanaeth Diogelu WCVA yn darparu gwybodaeth, adnoddau, cyngor a hyfforddiant i fudiadau trydydd sector sy’n gweithio gyda grwpiau agored i niwed er mwyn gwella polisïau ac arferion diogelu. I gael gwybod mwy, ewch i www.wcva-safeguarding.org.uk, gan gynnwys adnodd hunanasesu diogelu, a chysylltwch â’r llinell ymholiadau diogelu sef 01745 357 574, trwy ein desg gymorth sef 0800 2888 329 neu drwy ebostio [email protected]  
0 notes
wcva · 5 years ago
Text
Be all y trydydd sector ddysgu o’r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol (IICSA)
Tumblr media
Mae Swyddog Diogleu CGGC, Suzanne Mollison, yn blogio ar gyfer Wythnos Diogelu am yr hyn gall y trydydd sector ei ddysgu gan ychwiliad IICSA.  
Mae'r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol (IICSA) yn adolygu'r amgylchiadau adawodd i sefydliadau a ddylai fod wedi amddiffyn plant o niwed a chamdriniaeth wneud cam â’r plant hynny. 
Nod yr Ymchwiliad yw casglu gwybodaeth gan unigolion a sefydliadau i ffurfio gwell syniad  o'r hyn aeth o'i le yn y gorffennol. Trwy ddysgu'r gwersi hyn, gall sefydliadau cyfredol greu lle mwy diogel i blant yn y dyfodol. Un wers o'r fath yw bod diogelu yn fusnes i bawb. 
Gall unigolion sydd wedi dioddef camdriniaeth o fewn sefydliadau ddweud eu stori wrth y Truth Project. Gofynnir i rai sefydliadau gyflwyno adroddiadau i'r Ymchwiliad. Ers i'r Ymchwiliad agor yn 2015, mae mwy na 4,000 o ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin yng Nghymru a Lloegr wedi siarad â'r Truth Project.
 Datgelodd canfyddiadau’r Fforwm Dioddefwyr a Goroeswyr nad oedd bron i ddwy ran o dair o’r rhai a arolygwyd wedi adrodd am y cam-drin oherwydd pryderon ynghylch sut y byddent yn cael eu gweld gan y rhai o’u cwmpas. Dywedodd yr ymatebwyr y byddai annog sgwrs fwy agored am gam-drin plant yn rhywiol yn helpu i atal stereoteipio dioddefwyr a goroeswyr. 
Dywedodd 81 y cant eu bod wedi teimlo ystrydebu fel dioddefwr a goroeswr cam-drin plant yn rhywiol
Dywedodd 69 y cant nad oeddent yn siarad am y cam-drin oherwydd ofnau o gael eu stereoteipio 
Wrth wneud adroddiadau am gamdriniaeth i'r heddlu, roedd dioddefwyr a goroeswyr yn teimlo bod delwedd ystrydebol o'r hyn y dylai dioddefwr edrych, neu ymddwyn, effeithio ar yr ymateb a gawsant. Roedd hyn yn golygu nad oeddent yn teimlo nod pobl yn eu credu, nad oedd yr adroddiadau yr oeddent wedi'u gwneud yn cael eu hystyried yn ddifrifol, neu eu bod yn cael eu trin yn debycach i berson a ddrwgdybir na dioddefwr / goroeswr. Roedd agwedd ac iaith pobl a ymatebodd i adroddiadau, gan gynnwys swyddogion heddlu rheng flaen, yn awgrymu y dylid lleihau'r sefyllfa neu ei bychanu. 
Disgrifiodd un person sut oedd camymddwyn yn yr ysgol yn golygu nad oedd yr hyn a adroddasant yn cael ei gymryd o ddifrif, er bod hyn yn gallu bod yn arwydd o blentyn yn cael ei gam-drin yn rhywiol. Mae ymchwil presennol yn argymell gall hyn effeithio ar fechgyn a dynion ifanc yn benodol, wrth i ymatebwyr fethu i adnabod yr arwyddion mewn hogiau sy’n dioddef trawma o achos camdriniaeth.
Roedd y mwyafrif o ddioddefwyr a goroeswyr yn teimlo bod rhaid iddynt ymladd I bobl eu credu. Roeddynt ofn rhannu unrhyw wybodaeth am eu hiechyd, yn enwedig eu hiechyd meddwl, oherwydd gall gael ei ddefnyddio i beidio’u credu. Roedd nifer o ffactorau a oedd yn debygol o fod wedi deillio o’u trawma o gael eu cam-drin yn cael eu defnyddio I gwestiynnu eu honiadau. 
Mae hyn yn paentio llun difrifol iawn i unrhyw un sy'n ceisio siarad am gamdriniaeth. Gobeithiwn y gall sefydliadau'r trydydd sector gefnogi'r IICSA a'r Truth Project trwy rannu gwybodaeth am y prosiect ag unigolion a sefydliadau sydd wedi'u cam-drin yn ystod plentyndod. Gall goroeswyr gyfrannu at waith IICSA trwy'r Truth Project a'r Fforwm Dioddefwyr a Goroeswyr. 
Gobeithiwn hefyd y gall sefydliadau'r trydydd sector ddefnyddio'r themâu a'r gwersi a ddysgwyd o'r Ymchwiliad i wella eu harferion diogelu eu hunain. Un o'r themâu sy'n dod i'r amlwg yw bod rhai sefydliadau wedi ymwneud yn fwy â gwarchod eu henw a'u henw da eu hunain, mewn rhai achosion trwy gysgodi eu staff, yn hytrach na mynd i'r afael ag anghenion diogelu plant sydd dan eu gofal. 
Thema arall sy'n dod i'r amlwg yw oedolion cyfrifol nad ydynt yn gweithredu ar wybodaeth neu amheuon o gam-drin yn eu sefydliadau, boed yn staff neu'n ymddiriedolwyr. 
Gellir gweld enghraifft ddiweddar mewn ymchwiliad statudol gan y Comisiwn Elusennau a ganfu fod gan ymddiriedolwr Cymrodoriaeth Rigpa wybodaeth am achosion a honiadau o weithredoedd a cham-drin amhriodol yn erbyn myfyrwyr yn yr elusen, ond methodd â chymryd camau priodol mewn ymateb. Methodd Ms Burrows â chydnabod a cheisio bychanu difrifoldeb yr honiadau, methiant sy'n gyfystyr â chamymddwyn a / neu gamreoli wrth weinyddu'r elusen. Datganiad i'r wasg am Gymrodoriaeth Rigpa 
Dysgu ar gyfer Mudiadau Trydydd Sector 
Dylid cymryd pob honiad, datgeliad neu amheuaeth o gam-drin o ddifrif
Dylid gwrando ar yr unigolyn, p'un a yw'n blentyn neu'n oedolyn, a'i gefnogi
Mae'r sefydliad yn gyfrifol am gymryd camau i sicrhau diogelwch uniongyrchol yr unigolyn
Mae'r sefydliad yn gyfrifol am adrodd am y sefyllfa, bod ag “achos rhesymol i amau” bod camdriniaeth neu esgeulustod yn parhau neu wedi digwydd (gan gynnwys achosion hanesyddol) i'r Gwasanaethau Cymdeithasol, neu'r Heddlu lle mae bygythiad uniongyrchol i fywyd neu mae amheuaeth o drosedd.
Disgwylir i elusennau cofrestredig gyflwyno adroddiad digwyddiadau difrifol  i'r Comisiwn Elusennau 
Cofiwch, nid yw byth yn dderbyniol i warchod, bychanu neu anwybyddu adroddiadau am gam-drin mewn ymgais i “amddiffyn” enw da sefydliad. 
Gall Gwasanaeth Diogelu WCVA eich helpu chi i ddatblygu polisïau diogelu cadarn, eu gweithredu ledled y sefydliad, a dysgu parhaus. Ewch ar ein tudalen we  gwasanaeth diogelu’r trydydd sector neu e-bostiwch eich ymholiad i: [email protected] 
Manylion cyswllt
Truth Project
Fforwm Dioddefwyr a Goroeswyr 
Gallwch wylio ffrydiau byw o Wrandawiadau o flaen y Panel Ymchwilio yma (Byddwch yn ymwybodol y gall hyn beri gofid mawr yn aml).
Swyddfa Ymchwilio Cymru / tystiolaethiaethiad Cymru
0 notes
wcva · 5 years ago
Text
Amser i edrych yn y drych
Tumblr media
Cynhaliodd WCVA drafodaeth panel yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar y pwnc ‘Beth nesaf i gymdeithas sifil yng Nghymru?’’. Rhannodd Menai Owen-Jones, aelod o’r panel a Phrif Swyddog Gweithredol y Pituitary Foundation, ei meddyliau.
Yn ddiamau, rydym yn wynebu cyfnod o newid mawr a chyfleoedd digyffelyb yng Nghymru a thu hwnt. Y cwestiwn yw, ydyn ni, fel sefydliadau gwirfoddol yng Nghymru, yn barod am y dyfodol?
Nid yw’r byd erioed wedi newid mor gyflym, a chyda’r fath gymhlethdod. Mae heriau cymdeithasol mawr yn yr oes sydd ohoni: newid yn syr hinsawdd, tlodi, drwgdybio sefydliadau a rhaniadau yn ein cymdeithas, gyda phobl yn teimlo’n ddigyswllt, wedi’u difreinio a’u hanwybyddu. 
Mae cyfleoedd allweddol hefyd, fel datblygiadau technolegol a allai arwain at newidiadau cadarnhaol.
Mae’r sector gwirfoddol ar groesffordd o safbwynt ein gallu a’n parodrwydd i ymgysylltu â’r newidiadau cymdeithasol mawr hirdymor hyn ac mae perthnasedd y gymdeithas sifil yn cael ei gwestiynu.
A oes gennym rôl mewn llunio dyfodol cadarnhaol? 
Mae’r gymdeithas sifil, dros gannoedd o flynyddoedd, wedi newid cymdeithas yng Nghymru a thu hwnt, drwy ymateb gydag arddeliad i’r hyn sy’n digwydd, gan mai dyma’r peth iawn i wneud.  
Fel sector, cawn ein symbylu gan y gred o wneud gwahaniaeth, gan angerdd, egwyddorion a rhoi’n wirfoddol o’n hamser i helpu eraill a’n cymunedau. Dyna pam mae ein sector mor bwysig i lunio dyfodol cadarnhaol, mwy unedig. 
Mae gennym rôl ganolog i’w chwarae mewn gwella ein llesiant cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd yng Nghymru a throi nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn realiti.
Os edrychwn yn y drych, beth rydym yn ei weld?
Mae llawer i’w ddathlu yn ein gwaith fel sefydliadau gwirfoddol, gydag enghreifftiau ysbrydoledig o wirfoddoli, sefydliadau, elusennau, grwpiau cymunedol, yn newid bywydau ac yn cael effaith gadarnhaol ar gymunedau ledled Cymru.
Wedi dweud hyn, os byddwn yn dal y drych er mwyn edrych ar y sector, mae’n rhaid gofyn y cwestiwn beth yn union rydym yn ei weld?  A ydym yn addas ar gyfer y dyfodol ar hyn o bryd?  
Cyfleoedd i newid
·         Mae ymddiriedaeth yn bwysig 
Mae’r ymddiriedaeth yn y sector gwirfoddol yn parhau i fod yn bwnc llosg yn y penawdau newyddion, am amryw o resymau, gan gynnwys digwyddiadau diogelu difrifol a sawl sgandal ynglŷn â chodi arian yn y sector. Bydd diffyg ymddiriedaeth yn ein rhwystro rhag cyflawni ein pwrpas fel sefydliadau gwirfoddol.
Roedd ymddiriedaeth yn thema a gododd yn yr Ymchwiliad gan Civil Society Futures a gyhoeddodd ei adroddiad terfynol y llynedd, yn edrych ar ddyfodol y gymdeithas sifil.  (Roedd yr Ymchwiliad yn canolbwyntio ar Loegr, ond ceir ynddo ganfyddiadau sy’n berthnasol i ni yng Nghymru).  
Roedd yr Ymchwiliad yn amlygu’r heriau sylfaenol a wynebwn fel sector, gan amlygu nid yn unig y rhaniadau dwfn yn ein cymdeithas, ond y rhaniadau o fewn y gymdeithas sifil ei hun, yn deillio o’r diffyg ymddiriedaeth rhwng sefydliadau.  
Gyda’n gilydd mae’n rhaid i ni flaenoriaethu meithrin ymddiriedaeth – o fewn y sector, ar draws y sectorau a chyda’r cyhoedd.  Mae’n rhaid i ni edrych arnom ni ein hunain a’n hymddygiad. Ydyn ni’n rhannu adnoddau? Ydyn ni’n agored a chydweithredol?  Ydyn ni’n cydweithio hyd eithaf ein gallu? 
·         Arwain i’r dyfodol
Mae angen arweinyddiaeth ddewr yn y sector heddiw yn fwy nag erioed. Byrddau o ymddiriedolwyr ac arweinwyr sy’n fodlon cofleidio newid a threialu pethau newydd, sy’n canolbwyntio ar baratoi ar gyfer y dyfodol ansicr sydd o’n blaenau. Wyddon ni ddim beth fydd yn digwydd, ond gallwn baratoi a chynllunio ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd.   
Arweinwyr sydd hefyd yn blaenoriaethu gwerthoedd megis caredigrwydd ac empathi, ac yn cofleidio amrywiaeth yn ei holl ffurfiau ac sy’n gynhwysol o ran eu dulliau o weithio, rhain yw’r allwedd i’r dyfodol. 
Mae llawer o bobl yn y gymdeithas yn teimlo nad ydynt yn cael eu clywed; ydy’r bobl yn ein sefydliadau yn teimlo nad ydynt yn cael eu clywed hefyd? Ydyn ni’n gwrando ar y bobl ifanc, er enghraifft? 
Dylai arweinwyr y sector sicrhau eu bod yn gwrando ar yr holl rhanddeiliaid ac yn clywed eu barn, hyd yn oed os yw’r farn honno’n ein gwneud yn anghyfforddus neu bod eu safbwyntiau’n wahanol i’n rhai ni.   
I sicrhau’r effaith fwyaf mewn amgylchedd sy’n newid yn barhaus, mae’n rhaid i arweinwyr cymdeithas sifil hefyd ddatblygu a gweithredu sgiliau newydd yn gyson. 
Mae’n amser i fuddsoddi mewn datblygu arweinyddiaeth ac i ddod at ein gilydd i ymuno â rhwydweithiau a chyrff ambarél gwerthfawr fel Cymdeithas Prif Weithredwyr Sefydliadau Gwirfoddol a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. 
Dolen perthnasol: Ydych chi’n arweinwr yn y sector gwirfoddol sydd am ddatblygu ei sgiliau? Ymgeisiwch i Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie cyn 18 Hydref             
·         Penbleth codi arian
Mae cyllid bob amser yn her i’r sector gwirfoddol ac mi fydd yn parhau i fod yn fater pwysig yn y dyfodol, yn enwedig o ystyried yr ansicrwydd economaidd digynsail sydd o’n blaenau.  
Er enghraifft, ni ddylai’r sefydliadau ddibynnu ar un, neu lond dwrn o gyllidwyr; mae hyn yn risg fawr. Yn hytrach, mae gweithio i ddatblygu ffrydiau incwm newydd a gwahanol yn hanfodol i reoli risg ac yn galluogi sefydliadau i fod yn fwy gwydn.  
Yng Nghymru, mae cyfle i helpu i ddatblygu gallu’r sefydliadau gwirfoddol i godi arian ac i annog mwy o sgiliau entrepreneuraidd a sgiliau busnes. Dylid rhoi mwy o ystyriaeth i ddatblygu datrysiadau cyllido cydweithredol a phartneriaethau a rhannu adnoddau ac arbenigedd.    
Dylai’r byrddau ymddiriedolwyr ac arweinwyr hefyd gydnabod bod codi arian yn broffesiwn medrus sy’n galw am feddwl yn strategol ac arbenigedd strategol. Yn wir, yn ddiweddar derbyniodd y Sefydliad Codi Arian statws siartredig i godi proffil a statws codi arian.
·         Meddwl yn ddigidol 
“If you don’t do technology, technology will do you.” Neges bwerus gan siaradwr yng Nghynhadledd Flynyddol Arweinyddiaeth Cymdeithas Prif Weithredwyr Sefydliadau Gwirfoddol. 
Mae’r trawsnewid digidol yn her go iawn i ni mewn sefydliadau gwirfoddol.  Mae rhai elusennau wedi achub y blaen yn nhermau sylweddoli potensial technoleg ddigidol i’w sefydliadau. Sawl sefydliad gwirfoddol yn ein sector amrywiol sydd wedi clywed am y Cod Ymarfer Digidol i Elusennau? Mae dipyn mwy iddo na dim ond gwefan newydd! 
Yn gyffredinol, mae’n rhaid i sefydliadau gwirfoddol ymgysylltu mwy â thechnoleg ddigidol a buddsoddi mwy ynddi. Mae rhai cyllidwyr grant yn symud i’r cyfeiriad hwn, sy’n newyddion da, ac yn darparu cyllid penodol ar gyfer prosiectau digidol.  Mae yna hefyd gyfleoedd am fwy o gydweithio ar draws y sector a phosibiliadau o weithio’n agosach gyda’r diwydiant technoleg i gefnogi ein sector i fabwysiadu technoleg.   
·         Siarad mewn ffordd sy’n sicrhau bod ein llais yn cael ei glywed
I gloi, mae’n amser i’r sector siarad mewn llais cryfach a gyda mwy o hyder.  Byddai amgylchedd mwy agored sy’n cefnogi ein hawliau fel sefydliadau gwirfoddol i ymgyrchu ac eirioli yn cefnogi hyn.   Mae ymgyrchu yn rhan sylfaenol o gymdeithas sifil ar gyfer creu newid cymdeithasol.
Roedd y Strategaeth Cymdeithas Sifil a lansiwyd yn ystod haf 2018 yn cydnabod yr angen i archwilio’r camau gweithredu i gryfhau hyder y gymdeithas sifil i ddweud ei dweud. Amser a ddengys p’un a fydd newid yn digwydd.
Mae’n rhaid i ni hefyd gydweithio i wneud y sefydliadau gwirfoddol yn fwy gweladwy ac amlwg a’u rhoi ar sylfaen cyfartal i’r sectorau preifat a chyhoeddus. Efallai mai nawr yw’r amser i edrych ar ffyrdd gwell o fesur ein cyfraniad cymdeithasol, i ddangos gwir werth gwirfoddoli a’n sector cyfan i gymdeithas?
Mae gweithredu’n arwain at obaith 
Mae gan y sefydliadau gwirfoddol rôl arweiniol er mwyn cyfrannu’n gadarnhaol tuag at lesiant cymunedau Cymru yn y dyfodol.  Dylem fod yn y rheng flaen, yn gosod esiampl i’r sectorau eraill.
Nawr yw’r amser i weithredu, i wneud pethau’n wahanol a dod at ein gilydd i ddarganfod atebion i sicrhau bod y gymdeithas sifil yn barod am y dyfodol.
Mae Menai Owen-Jones yn Brif Swyddog Gweithredol y Pituitary Foundation, elusen iechyd genedlaethol y DU, yn Ymddiriedolwr yr elusen a’r rhwydwaith arweinwyr menter cymdeithasol ACEVO (Cymdeithas Prif Weithredwyr Sefydliadau Gwirfoddol) ac yn gyd-drefnydd y rhwydwaith anffurfiol arweinwyr elusen Cymru, Heads Up.
0 notes
wcva · 6 years ago
Text
Amser dathlu
Fiona Liddell yw’r Rheolwr Helplu newydd i Gymru yn WCVA. Yn y blog hwn, mae'n cyhoeddi lansiad Helpforce yng Nghymru, a'i gynllun i drawsnewid gwirfoddoli yn y GIG a'r cyffiniau.
Tumblr media
Mae hi bob amser yn amser da i ddathlu gwirfoddolwyr, ond mae Wythnos Gwirfoddolwyr (1 – 7 Mehefin bob blwyddyn) yn amser arbennig o dda i wneud hynny; mae geiriau ac arwyddion o ddiolch, cydnabyddiaeth a gwerthfawrogiad o amgylch y Deyrnas Unedig gyfan yn cael mwy o effaith yn ystod yr Wythnos nag y gallwn ei chael ar ein pen ein hunain.
Dwi am fanteisio ar y cyfle, eleni, i ddathlu cyfraniad gwirfoddolwyr at iechyd a gofal cymdeithasol ac i nodi lansiad Helplu yng Nghymru.
Mae ein poblogaeth yn heneiddio ac mae disgwyliad oes ar gynnydd sydd, ynghyd â llai o adnoddau ariannol, yn rhoi pwysau ar wasanaethau cyhoeddus. Mae llawer o unigolion yn brif ofalwyr i aelodau o’u teulu; mae eraill yn cyfrannu’n fwy anffurfiol at lesiant pobl eraill drwy wneud cymwynas â’u cymdogion a ‘chadw llygad’ ar y rheini sydd efallai’n fregus.
Yn gynyddol, mae cyfle i bobl wirfoddoli yn y Gwasanaeth Iechyd neu fudiadau cymunedol a chyfrannu mewn ffyrdd penodol sy’n gwneud gwahaniaeth i gleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Ymysg y gweithgareddau lu a wneir gan wirfoddolwyr y mae cynlluniau teithio i’r ysbyty, cymorth cyfeillio, cymorth mewn profedigaeth, helpu mâs ar wardiau,  Gall y rhain fod yn gyfleoedd buddiol iawn i’r rheini sydd â phrofiad bywyd a thosturi i’w rhannu, yn ogystal â chynnig profiad i’r rheini sy’n ystyried gyrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.  
Mae Helplu yn ymdrechu i weddnewid gwirfoddoli mewn lleoliadau gofal iechyd. Yn Lloegr, mae’r fenter wedi bod yn ariannu arloesedd ac yn datblygu sylfaen dystiolaeth ar gyfer ymyriadau gwirfoddol effeithiol ers dros 2 flynedd nawr. Yng Nghymru, mae Helplu wrthi’n bwrw gwreiddiau ac yn datblygu rhaglen waith sy’n cyd-fynd â’n blaenoriaethau a’n cyd-destun penodol ni.
Tumblr media
Mae Cymru Iachach a’n fframwaith deddfwriaeth (Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a’r Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodolo (Cymru) yn sefydlu egwyddorion arloesedd, partneriaeth a chydweithio, a datblygu gwasanaethau wedi’u seilio ar egwyddorion cyd-gynhyrchu a’r hyn sy’n bwysig i gleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o weithio ar draws ffiniau traddodiadol er mwyn gwireddu ein hymrwymiad i integreiddio gwasanaethau. At ei gilydd, mae gwirfoddolwyr yn gyfle i roi cynnig ar ddulliau newydd a gweithio mewn ffyrdd hyblyg.
Mae angen i ni adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn digwydd, i ganfod beth sy’n gweithio’n dda a chasglu tystiolaeth i roi gwybodaeth i’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau strategol. Hoffem weld mwy a mwy, gwirfoddolwyr yn cael eu cydnabod am wneud gwahaniaeth go iawn ym mywydau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau ac yn hybu effeithiolrwydd gwasanaethau.
Hoffem ddatblygu’r offer a’r diwylliant i gefnogi twf gwirfoddoli, gan gynnwys diogelu priodol a dealltwriaeth dda gydag undebau a rhanddeiliaid eraill o rôl briodol gwirfoddolwyr. Hoffem ddysgu oddi wrth ein gilydd i wella’n barhaus yr hyn rydym yn ei wneud ac i godi llais uchel ynglŷn â’n llwyddiannau.
Rôl y Trydydd Sector ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yw pwnc cynhadledd am ddim a gynhelir ar 23 Mai yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Yn un o’r gweithdai byddwn yn ystyried sut ellir canfod prosiectau gwirfoddoli peilot neu untro, eu rhoi ar waith yn ehangach a’u prif-ffrydio yn effeithiol. Bydd y drafodaeth hon yn llywio datblygiad gwaith Helplu yng Nghymru.
Yn y cyfamser, rhaid i ni beidio anghofio am Wythnos Gwirfoddolwyr. Os ydych wedi cyhoeddi straeon am wirfoddolwyr sy’n weithgar ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, anfonwch ddolenni at y rhain ac fe fyddaf yn falch o’u hyrwyddo yn ystod yr Wythnos. Croeso i chi anfon ebost ataf drwy [email protected] neu tryddar @FionaMLiddell
Os ydych yn cynllunio’ch gweithgareddau’ch hun ar gyfer Wythnos Gwirfoddolwyr, cymerwch olwg ar yr adnoddau sydd ar y wefan.  Gallwch darganfod beth sydd yn digwydd yn eich ardal, drwy cysylltu â’ch canolfan gwirfoddi lleol.
Fiona Liddell yw Rheolwr Helplu Cymru, gan weithio o fewn WCVA. Gellir cysylltu â hi drwy ebostio [email protected] neu ffonio 029 2043 1730. 
Erthygl gysylltiedig:
Datblygu gwirfoddoli i gefnogi gofal iechyd yng Nghymru
0 notes
wcva · 6 years ago
Text
Creu Mudiad Diogel
Dyma blog gan Mair Rigby, Rheolwr Llywodraethu a Diogelu WCVA, sy’n edrych ar ddatblygiadau diweddar ac yn cynnig gair o gyngor i greu diwylliant diogelu yn eich mudiad.
Tumblr media
Mae diogelu yn y sector elusennol wedi bod yn y newyddion eleni a dwi’n siwr fod llawer ohonoch wedi bod yn dilyn adroddiadau am fethiannau difrifol yn rhai o’r elusennau mawr, adnabyddus. Mae digwyddiadau o’r fath yn achosi cryn niwed i unigolion ac yn effeithio ar ffydd y cyhoedd yn y sector yn ehangach. Maent hefyd wedi dangos nad yw hyd yn oed yr elusennau sydd â’r adnoddau gorau o reidrwydd wedi ymsefydlu diwylliant diogelu yn eu mudiadau drwyddynt draw.
Mae’r sector wedi ymateb yn gyflym gydag Uwchgynadleddau Diogelu, Cod Moeseg drafft, tasglu gan y Comisiwn Elusennau ac adroddiad gan y Pwyllgor Datblygu Rhyngwladol. Mae’n amlwg bod yna ddiddordeb o’r newydd mewn sicrhau bod elusennau yn blaenoriaethu diogelu. Mae’r Comisiwn Elusennau wedi bod yn bendant yn ei ymateb gan ddweud bod diogelu yn flaenoriaeth llywodraethu allweddol i ymddiriedolwyr ym mhob elusen.
Un o’r prif ddatblygiadau y mae angen i elusennau fod yn ymwybodol ohono yw newid yn y ffordd o ystyried diogelu. O’r blaen, fe’i hystyrid yn fater o ganolbwyntio ar atal niwed i fuddiolwyr ‘agored i niwed’ (e.e., plant) ond erbyn hyn deellir diogelu yn ehangach ac yn fwy cyfannol fel dyletswydd gofal ar gyfer pawb a ddaw i gysylltiad â’ch elusen a’i gwaith. Gall hyn gynnwys buddiolwyr, staff, gwirfoddolwyr, rhoddwyr ac aelodau o’r cyhoedd.
Rhoddodd Harvey Grenville, Pennaeth Ymchwiliadau a Gorfodi yn y Comisiwn Elusennau, gyflwyniad yn ddiweddar i Grŵp Llywio Diogelu WCVA gan gynnig gwybodaeth bwysig. Yn y cyflwyniad, pwysleisiodd rôl hanfodol diwylliant y mudiad i sicrhau diogelu effeithiol, ni waeth beth fo maint yr elusen. Mae achosion diweddar wedi’i gwneud yn glir bod diogelu yn golygu mwy na dim ond polisïau, gweithdrefnau a gwiriadau DBS. Mae’r pethau hyn yn bwysig, ond maent yn annhebygol o fod yn effeithiol os nad oes neb yn eich mudiad yn gwybod sut i godi pryder neu os nad ydynt yn teimlo’n ddiogel i wneud hynny!
Dyma ambell i air o gyngor i ymsefydlu diogelu yn niwylliant eich mudiad:  
Cynnal adolygiad o’ch arferion diogelu a sicrhau’ch bod yn cynnwys cynifer o aelodau o staff, ymddiriedolwyr, a buddiolwyr â phosib. Gallwch ddefnyddio’r offer hunanarchwilio diogelu sydd ar gael ar ein gwefan diogelu, sy’n cynnwys gwiriad cyflym a hunanasesiad manylach
Rhoi diogelu ar yr agenda yn rheolaidd yng nghyfarfodydd yr ymddiriedolwyr a chyfarfodydd staff
Rhoi’r holl wybodaeth berthnasol mewn lle amlwg e.e. ystafell staff, neu mewn lle preifat e.e. tu ôl drysau ystafelloedd molchi, fel sy’n briodol
Creu cyfleoedd agored i drafod materion ac eitemau yn y cyfryngau
Darparu hyfforddiant priodol i staff ac ymddiriedolwyr
Defnyddio llawlyfrau staff a gwirfoddolwyr a chod ymddygiad ymddiriedolwyr i’w gwneud yn glir na fydd y mudiad yn goddef bwlio, aflonyddu na cham-drin a sicrhau bod hyn yn rhan o’r broses gynefino pan fo pobl yn ymuno â’ch mudiad
Penodi Swyddog neu arweinydd diogelu yn y mudiad sy’n cael ei enwi, sydd ar gael i bobl gysylltu ag ef/hi ac sydd wedi cael hyfforddiant neu brofiad perthnasol
Sicrhau bod ffyrdd clir o godi pryderon a digwyddiadau
Sicrhau bod y Comisiwn Elusennau yn cael gwybod yn amserol am unrhyw ddigwyddiadau diogelu difrifol
A wyddoch chi fod Wythnos Ymddiriedolwyr (12 – 16 Tachwedd) hefyd yn Wythnos Ymwybyddiaeth o Ddiogelu yng Nghymru? Beth am fanteisio ar y cyfle i godi ymwybyddiaeth o ddiogelu yn eich mudiad?  
Os hoffech siarad â rhywun am arferion da, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu, drwy ebostio [email protected] neu ffonio 0300 111 0124 (opsiwn 6).
0 notes
wcva · 7 years ago
Text
Ydy eich mudiad yn meddwl am Effaith?
Tumblr media
Mae Mair Rigby, Rheolwr Llywodraethu a Diogelu WCVA, yn cynnig prif gynghorion ar gyfer gwella eich arferion wrth ymdrin ag effaith.  
Pan fyddaf yn siarad gyda mudiadau trydydd sector am bwysigrwydd arferion da wrth ymdrin ag effaith, gall yr ymateb yn aml gael ei grynhoi fel hyn: ‘Byddem yn hoffi gwneud mwy ynghylch mesur ein heffaith, ond mae’n anodd iawn i wneud amser ar ei gyfer a ninnau mor brysur yn darparu ein gwasanaethau.’
A finnau wedi gweithio i lawer o fudiadau trydydd sector llai, rwy’n cydymdeimlo gyda’r math yma o sylwad. Mae cyflawni eich gwaith yn gallu teimlo’n dasg enfawr, yn enwedig mewn amser ble mae nifer o fudiadau wedi profi toriad yn eu hadnoddau. Gall ychwanegu ‘mesur effaith’ i restr hir iawn o bethau i’w gwneud yn barod swnio’n ofyn mawr!
Ond rwy’n mynd i ddadlau bod buddsoddi ychydig o amser ac adnoddau i ddatblygu eich arfer wrth ymdrin ag effaith yn gallu gwirioneddol bod o fantais i’ch mudiad a bydd yn talu ar ei ganfed yn yr hirdymor.
Yn syml, effaith yw’r gwahaniaeth mae eich mudiad yn ei wneud, a dyna mae mudiadau trydydd sector yma i’w wneud, i wneud gwahaniaeth! Mae cymryd yr amser i feddwl yn ofalus am yr hyn yr ydych yn ei wneud, sut yr ydych yn profi ac yn dangos y newid hwnnw, yn gallu eich helpu i ganolbwyntio eich ymdrechion ar beth yr ydych wirioneddol eisiau ei gyflawni fel mudiad.
Yn y pendraw dylai bod pawb yn eich mudiad yn gallu ateb y cwestiwn, “Pa wahaniaeth yr ydym yn ei wneud?” Dyma ychydig o dipiau i’ch cychwyn ar eich taith effaith:  
1.       Sicrhewch fod y bwrdd yn meddwl am effaith
Fel y dywed Alex Farrow o Gyngor Cenedlaethol ar gyfer Mudiadau Gwirfoddol (NCVO) yn ei flog, “Mae’n rhaid i ymddiriedolwyr fod yn bencampwyr ar effaith yn eu helusennau”. Os nad yw’r ymddiriedolwyr yn meddwl am effaith yn barod, yna mae’n rhywbeth y dylid ei roi ar eu hagenda cyn gynted â phosibl. Fel mae Alex yn tynnu ein sylw ato, mae angen i ymddiriedolwyr ddeall beth sy’n gweithio a beth sydd angen ei ddatblygu. Sut y gallant ddal staff i gyfrif a gwneud penderfyniadau effeithiol ynghylch strategaeth ac adnodddau heb ystyried effaith? Sicrhewch fod effaith ar yr agenda ar gyfer cyfarfod bwrdd, neu hyd yn oed yn well, diwrnod i ffwrdd i staff a bwrdd. Efallai y gall rhywun sydd ar y bwrdd ymgymryd ag effaith. Gall mudiadau mwy feddwl am sefydlu is-bwyllgor effaith neu weithgor.
 2.       Defnyddiwch Y Cod Ymarfer ar gyfer Adrodd Effaith i ddatblygu eich dealltwriaeth  
Mae’r Cod yn cynnwys 8 egwyddor, gyda phob un yn disgrifio sut byddai eich arferion wrth ymdrin ag effaith yn edrych pe byddech yn gweithredu’r egwyddor, eglurhad o bam y mae’n bwysig ac ychydig o syniadau ar gyfer ei roi ar waith.
 3.       Defnyddiwch Mesur Lan! i wneud ymarferiad hunanasesu
Bydd gweithio eich ffordd drwy Mesur Lan! yn eich helpu i adnabod eich mannau o gryfderau a gwendidau yn y ffordd yr ydych yn cynllunio, profi, cyfathrebu a dysgu o’ch gwaith. Mae’r offeryn yn rhad ac am ddim i’w ddefnyddio a gallwch gael mynediad iddo drwy gofrestru eich e-bost ar wefan Inspiring Impact. Cysylltwch â ni os yr hoffech y cwestiynau’n Gymraeg.  
 4.       Ewch ar wefan Inspiring Impact
Mae cofrestru yn rhad ac am ddim. Porwch y porth helaeth o adnoddau a chofrestru ar gyfer ein cylchlythyr.
 5.       Ewch i gael ychydig o hyfforddiant
Bydd WCVA a’n partneriaid CVC yn darparu mwy o hyfforddiant mewn effaith a gwerthusiad, gan gynnwys rhai pynciau cyffrous megis ‘theori o newid’, felly cadwch olwg ar ein cylchlythyr ac ar gyfleoedd cyfryngau cymdeithasol i gynyddu eich gwybodaeth.  
 Yn olaf, cysylltwch! Byddem wrth ein bodd yn clywed gan fudiadau yng Nghymru sy’n gweithio ar eu harferion wrth ymdrin ag effaith. Rydym hefyd yn mynd i ddatblygu rhwydwaith cyfoed i’ch helpu i rannu gwybodaeth a dealltwriaeth a dysgu gan y naill a’r llall.
Os yr hoffech siarad am effaith, gallwch gysylltu â Mair drwy e-bostio [email protected]
0 notes