#yr iaith cymraeg
Explore tagged Tumblr posts
Text
35 notes
·
View notes
Note
Do you know any free and/or online resources to learn Welsh?
Hello @runin-reads Just getting round to this ask now but there's a few things I know of which might help. Followers feel free to add on any more as well!
Resources:
Free Welsh coursebooks from DysguCymraeg available to download on their website
Free collection of Welsh dictionaries available to view on The Internet Archive
Cysill and Cysgeir are free to download here. Cysill is a Welsh grammar checker that checks for correct spelling, mutations etc. Cysgeir is a Welsh dictionary app. Both were developed by Bangor University and are free to download on Windows.
Gweiadur is a free online Welsh dictionary which not only has a comprehensive guide to Welsh words, but also provides example sentences, idioms and conjugation tables.
Followers add on any more if you can think of any!
#cymraeg#welsh#dysgu cymraeg#ask#gofyn#cwestiwn#gymraeg#language learning#welsh language#yr iaith gymraeg#free language resources#language learning resources#celtic languages
689 notes
·
View notes
Text
Croeso i Gymru Swyddogol (Welcome to Official Wales)
One of the four countries of the United Kingdom, and the one with the best flag. (Shout-out to Bhutan. Dragon solidarity. 🇧🇹🏴)
Bringing you the best in singing, mountains, sheep, cawl, leeks, daffodils, the Welsh language, Michael Sheen, dragons, King Arthur, rugby, rain, mud, Cardiff City, the coal industry, and the most castles per square metre in the world (true fact!).
My brothers in arms include @wales-official, @the-official-wales and @official-ottawa. Together, we will make every tumblr user have Yma o Hyd stuck in their heads for eternity.
Feel free to submit Welsh-themed posts. The criteria is that it must be connected to our glorious nation, or about defeating the English in battle/football.
CURRENT SCOTS OUT THERE TONIGHT COUNT:
4
Tag Translations
anifeiliaid anwes - pets
argymhelliad - submission
bwyd - food
caerdydd - cardiff
castellau - castles
celf - art
cerddoriaeth - music
chwaraeon - sport
cwestiynau - questions
cymraeg - welsh
cymru (am byth) - wales (forever)
ffilmiau - films
hanes - history
ieithoedd celtaidd - celtic languages
iaith - language
lhdtc+ - lgbtq+
postio cymru - wales posting (come get your gossip)
prydain fawr - great britain
rygbi - rugby
teledu - television
y ddraig goch - the red dragon (our national animal)
yr alban - scotland
Diolch yn fawr! (Thank you very much!)
dividers by @sweetmelodygraphics, @animatedglittergraphics-n-more, @saradika-graphics
35 notes
·
View notes
Text
welsh remus guide pt.2
Second Lesson
Wales vs Cymru
Wales is the English term for the country, deriving from an old Germanic term with a meaning along the lines of “foreigner” or “other”. Cymru is the Welsh term for the country, meaning something along the lines of “countrymen”.
Not to be confused with Cymry which is pronounced exactly the same but means “welsh people”.
To put in a phrase - The Cymry live in Cymru. Welsh - Cymraeg
The Welsh Language - Yr Iaith Gymraeg
Welsh Man/Person - Cymro
Welsh Woman - Cymraes
Cymro is technically masculine but can serve as a gender neutral term if you don’t want to use the plural Cymry. Welsh, like Spanish and many others, is quite gendered.
A Welsh speaking Welsh person might refer to themselves, especially if they’re first language, as a “Cymry Cymraeg” which sounds silly in English as “Welsh Welsh” lmao. If my Mam were to tell me “Arwen is a Cymry Cymraeg” I would know that Arwen is a Welsh speaker. Alternatively you say the more literal “Siaradwr Cymraeg” (Welsh speaker) or “Dysgwr Cymraeg” (Welsh learner).
Side note: These days, there’s a lot of discussion over how labels influence identity. So there’s lots of debates over going by Cymru in official capacities and such, however dw you are not committing any mistakes or hate crimes by using “Wales” or “Welsh”. You are however, definitely an asshole if you criticise a Welsh person’s decision to personally only use “Cymru” or “Cymraeg”.
Next up is a quick guide to the alphabet/sounds before finally, the main meal: slang and terms of endearment
Note: I am not the collective consciousness of every Welsh person. My experience is not universal - especially when it comes to North Walian things. This is just meant to serve as a general guide. Hope this helps and good luck with your writing!
pt.3
#if any of you pronounce the c in cymru as anything but a hard k sound i will haunt you#welsh remus lupin#welsh remus#welsh language#cymru#cymraeg#the marauders#marauders#marauders era#wolfstar#sirius black#james potter#lily evans#peter pettigrew#hp marauders#wales#language
39 notes
·
View notes
Text
Enillodd E. Prosser Rhys y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Pontypŵl gydag ‘Atgof’ yn 1924.
Yn ddylanwadol yn ei fywyd fel bardd, golygydd, newyddiadurwr a chyhoeddwr, mae Prosser Rhys yn cael ei gofio heddiw am gipio’r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1924. Mor ddylanwadol ag oedd ei gerdd fuddugol, ‘Atgof,’ a’n parhau i fod, cafodd Prosser mwy fyth o effaith ar lenyddiaeth Gymraeg yn ei fywyd nag a gofir heddiw.
Ganed Edward Prosser Rees ar y 4ydd o Fawrth 1901 yn Nhrefenter, Mynydd Bach yng Ngheredigion, a'i fedyddio ar y 9fed o Fawrth yng Nghapel Bethel. Gof (blacksmith) oedd ei dad, David Rees, a'i fam oedd Elizabeth Rees. Daeth Prosser o deulu o ofaint (blacksmiths), a symudasant yn ddiweddarach i’r Morfa Du yn Nhrefenter (wedi i Prosser symud i ffwrdd, ym mis Mawrth 1918). Cyn hyn, buont yn byw yn Llainffwlbert hyd 1900, lle bu iddynt eu chwe phlentyn blaenorol.
Aeth Prosser Rhys i Ysgol Gynradd Cofadail yn Nhrefenter ac yna Ysgol Ramadeg Ardwyn yn Aberystwyth yn 1914. Aeth llenorion, academyddion a gwleidyddion eraill yma, a elwid yn 'Hen Ardwyniaid'. Cafodd ei lwyddiant academaidd cynnar ei atal wedyn gan afiechyd - cafodd ddiagnosis o dwbercwlosis yn ifanc, yn 1915, a effeithiodd arno am weddill ei oes, ond ar unwaith fe'i cadwodd adref am y 3 blwyddyn nesaf.
Dechreuodd ei enw ymddangos ym myd ysgrifennu Cymraeg mor gynnar â 1916, gyda'r gerdd 'Y Fam a'i Baban' yn y Baner ac Amserau Cymru, lle cyhoeddwyd fel E. Prosser Rees (o dan y ffugenw Eiddwenfab) o Drefenter, Llangwyryfon, Ceredigion. Yn 1917, ysgrifennodd lythyrau huawdl at ‘Y Darian’, papur radicalaidd, lle ysgrifennodd am ymuno ag undeb gwladgarol a’r Eisteddfod. Roedd hyn yn addas gan iddo ymddangos nesaf yn Y Darian yn 1918 oherwydd ei fuddugoliaethau cynnar yn yr Eisteddfod, yna yn Eisteddfodau lleol, a restrwyd o fewn yr enillwyr o Geredigion. Ymddangosodd yn aml yn Y Darian fel rhan o ‘Aelwyd y Beirdd,’ lle caiff ei ddisgrifio fel bardd ifanc â photensial mawr, ond yn 17 oed, a brawd y Parchedig Wyre Rees.
Yn amlwg, roedd Prosser yn aml yn ysgrifennu, cystadlu a’’n perfformio ei farddoniaeth yn ei arddegau. Ceir un o’i gerddi cynnar yn ‘Cymru,’ cylchgrawn misol a sefydlwyd gan O.M. Edwards yn 1891. Yn 1919 ymddangosodd ‘Canu’r Merched’ gan E. Prosser Rhys yn y cylchgrawn ‘Cymru’. Dyma'r tro gyntaf, mae’n debyg, o'i farddoniaeth i ymddangos dan yr enw hwn. Roedd ‘Prosser Rees,’ ei enw genedigol, yn ymddangos hefyd. Fel Prosser Rees, cyhoeddodd hefyd gerdd yn 1917 yn The Cambrian News and Merionethshire Standard i gydymdeimlo â Mr a Mrs Thomas Evans, Penbont, a gollodd eu mab, David Morgan, yn Ffrainc yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Gweithiodd Prosser fel clerc yn Western Ocean Colliery yn Nant-y-Moel, Cwm Ogwr, cyn dychwelyd yn ôl o’r ‘sowth’ fel newyddiadurwr. Yn Nantymoel yr oedd, yn ôl pob tebyg yn byw gydag un o'i frodyr, John, a oedd yn löwr. Roedd yn dal i dderbyn triniaeth ar gyfer twbercwlosis ac mae'n debyg wedyn wnaeth dychwelyd i'r teulu yn eu cartref newydd ym Morfa-Du. Gweithiodd wedyn ym mhapurau Rhyddfrydol y Welsh Gazette yn Aberystwyth a'r Herald Cymraeg yng Nghaernarfon yn 1919 (lle cyfarfodd Morris T. Williams). Symudodd yn ôl i Aberystwyth yn 1921 a daeth yn olygydd Baner ac Amserau Cymru yn 1923, pan symudasant eu swyddfeydd o Ddinbych i Aberystwyth.
Ym 1923, cyhoeddwyd barddoniaeth Prosser mewn llyfr am y tro yn Gwaed Ifanc gyda bardd arall, J.T. Jones (John Tudor Jones). Fel mae’r teitl yn awgrymu, roedden nhw’n falch o fod yn ‘waed newydd’ i farddoniaeth ac ysgrifennu Cymraeg, gyda Prosser bryd hynny yn 22 a J.T. Jones yn 19 oed. Yn sicr bu bu cryn ddadlau am y gyfrol, hefyd am fod eu barddoniaeth yn fwy rhywiol na beirdd hŷn y cyfnod. Roedd traddodiad o’r math newydd o ysgrifennu Cymraeg eisoes, a ddechreuwyd gan fuddugoliaeth T H Parry-Williams yn Eisteddfod 1915 gyda ‘Y Ddinas,’ ac roedd Prosser yn ymwybodol o’r syniadau newydd hyn o herio ysgrifennu Cymraeg, yr Eisteddfod ac felly cymdeithas iaith Gymraeg, y cafodd ei ysbrydoli ganddi a cheisiodd bod yn rhan ohoni - a llwyddo. Ymgais oedd hon i herio ysgrifennu beirdd hŷn, yn ogystal â thynnu sylw at y cnwd mwy newydd o lenorion iau, y dynion oedd wedi goroesi’r Rhyfel Byd Cyntaf ac yn mynnu sylw.
Wrth gwrs, heriodd yn arbennig status quo yr Eisteddfod pan enillodd y Goron yn 1924 yn Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-pŵl gyda’i gerdd ‘Atgof’. Mae’r pryddest yn dilyn taith ‘llanc synhwyrus’ sy’n profi ei rywioldeb, o weld ‘Rhyw’ yn difetha perthynas ei rieni, i archwilio ei rywioldeb gyda merched, ac yna gyda dyn hefyd (Morris T. Williams, mae’n debyg), tra yn ymdrechu yn erbyn moesau a rhinweddau cymdeithas a chrefydd Cymru. Roedd beirniaid yr Eisteddfod yn groes, yn ei chael hi'n anfoesol a’n ei chanmol.
Wrth gwrs, pan enillodd Prosser, roedd yr ymateb yn sgandal a daeth ‘Atgof’ yn bur ddadleuol, oherwydd ei drafodaethau amlwg am ryw ac wrth gwrs y rhan cyfunrywiol o’r gerdd. Ers hynny, mae wedi cael ei galw’n ‘homoerotig’ gan lawer o lenorion, acheddiw yn cael ei hystyried yn fwy fel cerdd ddeurywiol, neu gerdd cwiar. Mae Mihangel Morgan, yn ysgrifennu yn Queer Wales, yn gweld ‘Atgof’ yn ddarlun negyddol o gyfunrywioldeb ac yn bychanu ei arwyddocâd fel cerdd hoyw.
A’n cael ein hunain yn cofleidio ‘dynn;
A Rhyw yn ein gorthrymu; a’i fwynhau;
A phallu’n sydyn fel ar lan y llyn…
Mae’r llinellau hyn yn disgrifio’r rhan cyfunrywiol ac mae’n wir nad yw’n cymryd llawer iawn o’r gerdd, ond mae’n ymddangos bod siom Mihangel Morgan yn deillio o’r ffaith nad yw’r gerdd yn ddigon hoyw. Ac yn wir nid yw, ond mae’n darllen fel cerdd ddeurywiol sy’n mynd â ni drwy holl daith Prosser o sylweddoli a brwydro yn erbyn ei rywioldeb yn yr oes hon. Mae’n dal i atseinio gyda llawer o’r gymuned LHDTC+, yn enwedig wrth sylweddoli pa mor amlwg ydoedd ar gyfer 1924 (neu ni fyddai wedi bod mor ddadleuol), 40 mlynedd cyn dad-droseddoli cyfunrywioldeb, ac roedd ei fuddugoliaeth yn yr Eisteddfod ymhell o blaen ei amser.
Ar y llaw arall, yn ddiweddarach ym mywyd Prosser, awgrymwyd ei fod wedi cael cymaint o sioc gan sodomiaeth yn ysgrifen rhywun arall i beidio â’u cyhoeddi. Mae’n bosibl y newidiodd safbwyntiau Prosser a’i rywioldeb ei hun yn ei fywyd, er mai dim ond dyfalu yw hyn bod Prosser wedi’i ‘syfrdanu’ wrth ysgrifennu am gyfunrywioldeb. Mae yna lawer o bosibiliadau yma o ran teimladau a rhywioldeb Prosser ei hun, ond mae’n sicr eu bod wedi cael dylanwad mawr ar ysgrifennu LHDTC+ a’r gymuned yng Nghymru ac yn enwedig yn y Gymraeg.
Soniwyd hefyd am ‘Atgof’ a Prosser yn Time yn 1924, gan ychwanegu at dystiolaeth o ddylanwad ac etifeddiaeth y gerdd hon. Yn rhyngwladol, gwelwn gysylltiadau yn y cerddi â rhywoleg a seiciatreg y cyfnod – soniodd y seicdreiddiwr (ac o bosibl gŵr sarhaus y gyfansoddwraig Morfydd Llwyn Owen) Ernest Jones am y gerdd mewn llythyr at Sigmund Freud, er nad yw’n glir bod y naill na’r llall wedi darllen y gerdd.
Ysgrifennodd Caradog Pritchard yn ei hunangofiant y credai mai’r gŵr yr ysgrifennodd Prosser amdano oedd Morris Williams, fel ffrind i’r dau, ac mae hyn wedi’i dderbyn fel y gwir tebygol ers hynny. Roedd Morris T. Williams yn agos i Prosser, pan oeddynt yn gyd-letywyr yn Twthil ger Caernarfon tra yn gweithio yn yr ‘Herald Cymraeg,’ a chyfnewidiasant lythyrau wedi hynny sy’n dangos eu perthynas agos — roedd hyn cyn i Morris briodi Kate Roberts a phrynu Gwasg Gee gyda’i gilydd. Arhosodd y tri yn agos, gan fod yn ffrindiau ac yn yr un cylchoedd cymdeithasol â llenyddol, yn ogystal ag ym myd cyhoeddi Cymraeg. Yn fwy diweddar, damcaniaethwyd bod Kate Roberts hefyd yn cwiar, yn seiliedig ar ei hysgrifennu personol â'i straeon byrion am berthnasoedd rhamantus rhwng merched (fel ‘Nadolig' a 'Y Trysor'). Bu farw Morris T. Williams ym 1946, flwyddyn ar ôl Prosser Rhys, ar ôl brwydr hir ag alcoholiaeth.
Cyhoeddwyd ‘Atgof’ fel llyfryn, gyda chyfieithiad o’r enw ‘Memory’ gan Hywel Davies hefyd wedi’i gyhoeddi fel llyfryn. Mae'r gerdd yn darllen yn llai amlwg na'r fersiwn Gymraeg, er ei bod yn cael ei chanmol ar y pryd. Gellir ei ddarllen yma - er bod angen cyfieithiad Saesneg modern.
Ym 1928, priododd Prosser â Mary Prudence Hughes yn Aberystwyth, a dyna pryd y cymerodd ef a hi y cyfenw ‘Rhys’. Bu iddynt un ferch, Eiddwen Rhys. Sefydlodd Wasg Aberystwyth hefyd yn 1928 a dechreuodd gyhoeddi llyfrau, gyda Gwasg Aberystwyth yn tyfu'n sylweddol yn y blynyddoedd i ddod.
Fel golygydd Baner ac Amserau Cymru, anogodd Prosser fwy o feirdd i ysgrifennu a chyhoeddi eu gwaith. Sefydlodd Y Clwb Llyfrau Cymraeg yn 1937; tanysgrifiad o lyfrau Cymraeg, lle byddai darllenwyr yn derbyn 4 llyfr y flwyddyn am hanner coron, ac a gyhoeddodd 45 o gyfrolau hyd at 1945. Mor llwyddiannus ag y bu o dan Prosser, wedi ei farwolaeth, penderfynwyd nad oedd digon o lenorion iaith-Cymraeg i'w barhau.
(Pwyllgor gwaith Plaid Genedlaethol Cymru, 1927- Lewis Valentine, Ambrose Bebb, D. J. Williams, Mai Roberts, Saunders Lewis, Kate Roberts, H. R. Jones, Prosser Rhys.)
Roedd Prosser Rhys yn un o aelodau sylfaenol Plaid Cymru, a sefydlwyd yn 1925. Ef hefyd oedd golygydd ‘Y Ddraig Goch’ gyda Saunders Lewis ac Iorwerth C. Peate - y bu Prosser hefyd yn gymorth i’w ffurfio gyda H. R. Jones, er ei fod yn wrthwynebus i ddechrau oherwydd diffyg arian. Daeth Prosser yn lleisiol yn erbyn safbwyntiau adain dde Saunders Lewis. Ysgrifennodd yn Y Faner fod llawer o aelodau Plaid Cymru wedi dod o'r blaid Lafur neu'r blaid Ryddfrydol, neu'n radicaliaid a ddaeth o ddim plaid wleidyddol, lle nad oedd yr un yn gefnogol i'r safbwyntiau a ymddangosodd yn y Daily Mail, gan awgrymu bod barn Saunders Lewis yn rhy agos at y mater, ond bod y rhan fwyaf o gefnogwyr Plaid Cymru yn rhy deyrngar i leisio eu pryderon am hyn. Trafodwyd ac awgrymwyd diarddel Prosser o'r blaid ond roedd Saunders Lewis yn gwrthwynebu hyn.
Yn dilyn ei lwyddiannau niferus, symudodd Prosser a’i deulu i 33 North Parade, Aberystwyth, lle bu’n byw hyd ei farwolaeth.
Wedi i'w iechyd ddirywio eto o 1942, bu farw Prosser Rhys yn 1945 - yn 43 oed, a llai na mis cyn ei ben-blwydd yn 44 oed. Fe’i claddwyd ym Mynwent Llanbadarn Fawr, a’i fedd yn dyfynnu T. Gwynn Jones: “Gwyrodd êfo î’r drugaredd fawr, Ni wyr namyn Duw ddirgelwch ei wên.” Yma hefyd y claddwyd Mary Prudence Rhys, ei wraig, a fu farw yn 1991, yn 87 oed. Maent hefyd wedi eu claddu gyda William Dewi Morris Jones, a fu farw yn 1983, yn 56 oed. Bu marwolaeth Rhys yn sicr yn golled i gyhoeddi ac ysgrifennu Cymraeg.
Prynwyd Gwasg Aberystwyth gan J. D. Lewis & Sons o Landysul ar ôl marwolaeth Rhys, sylfaenydd Gwasg Gomer, a barhaodd â’r Clwb Llyfrau Cymraeg a chymerodd drosodd y gwaith o gyhoeddi llyfrau’r clwb hyd 1952. Daeth hyn, fodd bynnag, yn dilyn anghytundeb cyfreithiol rhwng Mary Prudence Rhys a Morris T. Williams, a oedd i fod i gael y cynnig cyntaf a’r cyfle o wrthod i Wasg Aberystwyth, yn ôl dogfennau cyfreithiol y cytunodd Prosser a Morris arnynt - nad oedd Morris Williams yn teimlo ei fod wedi’i gael.
Cyhoeddwyd Cerddi Prosser Rhys yn 1950 gan Wasg Gee, casgliad cyntaf Prosser yn gyfan gwbl o’i gerddi ei hun – a gyhoeddwyd 5 mlynedd ar ôl ei farwolaeth. Wedi’i olygu gan J.M. Edwards, cyd-fardd a fu’n cystadlu mewn Eisteddfodau ac a oedd o ardal debyg i Rhys, mae Edwards hefyd yn ysgrifennu cyflwyniad y casgliad barddoniaeth. Mae'n nodi iddo benderfynu bod 4 blynedd ar ôl marwolaeth Rhys yn ddigon o amser i gyhoeddi o'r diwedd gasgliad cyfan o gerddi gorau Rhys (ysgrifennwyd y rhagymadrodd ym mis Gorffennaf, 1949, a chyhoeddwyd y llyfr ym mis Chwefror, 1950.) Mae'n ysgrifennu bod ei farddoniaeth flaenorol casgliad, yn ‘Gwaed Ifanc’, yn gyfrol a ddenodd gryn dipyn o sylw ac a ddaeth hefyd â nodyn newydd, beiddgar i fyd barddoniaeth Gymraeg y cyfnod, rhywbeth yr oedd dirfawr ei angen. Ei atgofion o Rhys wrth dyfu i fyny dangos ei fod yn fardd adnabyddus hyd yn oed yn ei ieuenctid, y clywodd Edwards ac eraill yn ei ysgol ei hun amdano cyn cyfarfod, a oedd yn adnabyddus am gystadlu a chael llwyddiant mewn nifer o Eisteddfodau.
O’i farddoniaeth a geir yn Cerddi Prosser Rhys, noda Edwards fod ‘Y Gof’ yn deyrnged i’w rieni a’i fywyd cynnar yng nghefn gwlad Cymru. Ei ddau soned y mae’n eu canmol fwyaf yw ‘Y Pechadur’ a ‘Duw Mudan’. O 'Atgof,' noda Edwards yn arwyddocaol ei bod yn gerdd feiddgar a greodd gryn gyffro ac a ganmolwyd gan rai ond a gafodd ei damnio gan eraill, a’i nodwedd tristaf yr holl ddigwyddiad oedd ei bod yn adlewyrchu agwedd meddwl yng Nghymru sef rhy barod i farnu gwerthoedd byd y celfyddydau yn ôl y safonau anghywir. Mae’r rhagymadrodd yn gorffen drwy ailadrodd yr hyn y mae llawer o bobl eraill wedi’i ddweud am golled gynamserol Rhys i fyd ysgrifennu a chyhoeddi Cymraeg. Roedd Edwards hefyd yn gobeithio y byddai yna hefyd gasgliad o ryddiaith Rhys, nad yw wedi dod i fod, yn anffodus.
Mae ‘Mab ei Fam’ i “M.T.W,” Morris T. Williams mae’n debyg – fel Strancio: ‘I’d disgwyl a fu’n cyd-letya â mi.’
Do, bûm yn flin. Ond weithian gwybydd di Fod Fflam yn llosgi ynof, ac aml dro Yn llamu ar draws fy nghorff materol i, A’m hysu hyd fy nghyrru i maes o’m co’,
A strancio a wnaf eto rhag fy ffawd Nes torro’r Fflam ei ffordd o’i charchar cnawd.
Fel yn achos ‘Atgof,’ mae Mihanel Morgan yn bychanu Strancio drwy ddatgan ei fod yn cryptig a gochel - tra byddwn yn dadlau bod cyfaddefiad ei deimladau tuag at ddyn yn y 1920au, yn enwedig yn dilyn y farddoniaeth Fictoraidd honno oedd yn boblogaidd cyn y 'Gwaed Newydd'. Tra y dywed Mihangel Morgan y tybir mai am Morris T. Williams, y mae’r cysegriad ar ddechrau’r gerdd yn ddigon clir, yn hanesyddol, i Morris T. Williams, yn enwedig pan gyflwynir cywydd blaenorol iddo hefyd.
Nid tan 1980 y dathlwyd Prosser Rhys gyda llyfr am ei fywyd, gan Rhisiart Hincks. Ysgrifennodd T. Robin Chapman yn Y Traethodydd yn 2006 fod Hincks yn ôl pob tebyg yn gwybod am natur perthynas Prosser â Morris ond eto fe gadodd allan - o unig gofiant cyfan Prosser Rhys. Mae hyn yn arwydd o'r amserau y cafodd ei ysgrifennu a'i gyhoeddi ond mae'n dangos yr angen nawr i ysgrifennu cofiannau Rhys sy'n cynnwys yr hyn a eithriwyd yn flaenorol, ei hunaniaeth cwiar. Mae Hincks yn sôn, fel y daeth Morris yn gyflym ‘ei gyfaill pennaf’i pan gyfarfuant yng Nghaernarfon, iddynt symud gyda'i gilydd i 15 Stryd Eleanor ac mai Prosser a gyflwynodd Williams i lenyddiaeth. ‘Cyfeillgarwch clos’. Mae hefyd yn crybwyll bod agosrwydd o'r fath wedi arwain at cwympo mas, unwaith pan oeddent yn cwympo mas drwy'r nos, sy'n dangos dwyster eu perthynas. Efallai, yr is-destun hwn y gobeithiai Hincks ei ddeall gan gynulleidfa’r oes. O ‘Atgof,’ noda Hincks fod Prosser wedi mynegi o’r blaen fod diffyg rhyw yn y Gymraeg mewn barddoniaeth ddiweddar, rhywbeth y mae’n ei feio ar y capel. Mae'r cofiant hwn yn parhau i fod y mwyaf manwl ar fywyd Prosser.
Dadorchuddiwyd cofeb ar y Mynydd Bach, yn edrych dros Lyn Eiddwen ger Trefenter, lle cafodd Rhys ei eni a byw yn ei blentyndod, yn 1992, yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth. Gan gynnwys Prosser, mae ‘Cofeb i Feirdd y Mynydd Bach’ yn dathlu 4 bardd o’r ardal leol. Enillodd J.M. Edwards o Lanrhystud y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol hefyd, yn 1937, 1941 ac yn 1944, ac ysgrifennodd y rhagymadrodd i Cerddi Prosser Rhys. Bu pob un o'r 4 bardd a enwir ar blac y gofeb yn llwyddiannus yn yr Eisteddfod. Bardd llwyddiannus o Geredigion oedd B. T. Hopkins (Benjamin Thomas Hopkins), a oedd yn byw ac yn ffermio ar y Mynydd Bach. Bardd a llenor Cymraeg o Geredigion oedd T Hughes Jones (Thomas Hughes Jones) a enillodd fedal yn Eisteddfod Genedlaethol 1940 am stori fer, ‘Sgwier Hafila,’ a feirniadwyd yn rhannol gan Kate Roberts.
Mae diddordeb yn Rhys, ei fywyd a’i yrfa, wedi’i adnewyddu gan ymchwil i hanes ac ysgrifennu LHDTC+ Cymru. Yn nodedig, ym 1998, darlledwyd dogfen hanesyddol o’r enw ‘Atgof’ ar S4C, a gyfarwyddwyd gan Ceri Sherlock, a oedd yn darlunio Prosser yn ysgrifennu’r gerdd a’i berthynas â Morris T. Williams, a gynrychiolwyd fel un rhywiol a rhamantus. Bu dadlau o gwmpas y ffilm, fel ‘Atgof’ y gerdd, gyda rhai’n cwestiynu sut yr oedden nhw’n darlunio’r berthynas (gyda rhai manylion ffuglennol) a rhai hefyd yn cwestiynu a ddylid ei darlunio neu ei ddyfalu o gwbl. Er gwaethaf y disgwrs, roedd Prosser Rhys eisoes wedi dod yn ysbrydoliaeth i gymuned LHDTC+ Cymru.
Yn 2019, perfformiwyd y sioe ‘Corn Gwlad’ yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst, a grëwyd gan Seiriol Davies, a oedd yn dathlu buddugoliaeth Prosser yn yr Eisteddfod ac yn darlunio ei deimladau tuag at Morris T. Williams. Roedd hi wedyn yn sioe waith ar y gweill, gyda chomedi a cherddoriaeth, ac yn rhan o raglen o ddigwyddiadau ‘Mas ar y Maes’ yn yr Eisteddfod Genedlaethol, sy’n arbennig ar gyfer y gymuned LHDTC+, neu a allai fod yn berthnasol i’r cymuned LHDTC+. Cafodd Prosser sylw hefyd mewn digwyddiadau ‘Mas ar y Maes’ gyda ‘Cariad yw Cariad,’ ac wrth gwrs mae’n cael sylw mawr yn Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd 2024, ar ganmlwyddiant i Prosser ennill y Goron gydag Atgof. ‘Atgof’ oedd hefyd eto pwnc barddoniaeth i’r Goron - a enillwyd gan Gwynor Dafydd.
Etifeddiaeth barhaol Prosser Rhys yw bod yn llais i’r gymuned hon o Gymru’r 20fed ganrif, ac yn eicon yn arbennig i bobl LHDTC+ Cymraeg eu hiaith, dynion queer a phobl ddeurywiol. Dyma sydd wedi dod â Prosser Rhys yn ôl i lygad y cyhoedd yn y 1990au, gyda’r ffilm Atgof, ac yn y 2010au gyda Mis Hanes LHDTC+, ac yn y 2020au tua 100 mlynedd ers iddo ennill Coron yr Eisteddfod gydag ‘Atgof’. Cafodd Prosser hefyd effaith sylweddol ym myd cyhoeddi yng Nghymru, y gymdeithas Gymreig, yn ei ysgrifau erthyglau, mewn gwleidyddiaeth. Roedd Prosser Rhys yn berson hynod ddiddorol, cymhleth, yn eiriolwr brwd dros farddoniaeth, ysgrifennu a chyhoeddi Cymraeg ac mae’n arwr y cymunedau y perthynai iddynt, gan gynnwys y gymuned leol yng Ngheredigion a Gorllewin Cymru.
Darllenwch Atgof yma.
11 notes
·
View notes
Note
Shwmae! Dych chi'n dod o Gymru? (Neu dych chi'n siarad Cymraeg?) I saw the Welsh on your blog (nyth y gigfran) and was curious if you happen to be or know Welsh at all. I'm still learning Welsh, although I'm not Welsh myself. Hwyl! :)
Helo! Dwi wedi byw mewn Eryri ers talwm. I'm still learning Welsh too! I'm ashamed to say, that although living in Wales for 49 years, I'm not very good at it. I started to learn in earnest a couple of years ago, but sort of let it drift. Ond, mae dal gen i ddiddordeb mawr mewn yr iaith. Hwyl fawr! And I hope you become rhugl very soon, I don't think I ever will... I'm too wayward with my learning :o)
10 notes
·
View notes
Text
Wythnos Pump
Heddiw dw i eisiau siarad am gerddoriaeth. (Echdoe roedd y Dydd Miwsig Cymru ond dw i'n hwyr, y thema fy mlog i) Dw i'n mynd i rannu pum cerddor/band. Heb drefn penodol:
Chwalaw: Darganfyddais i nhw trwy Rownd a Rownd ac eu cân "Diflanu". Mae'n well gyda fi eu cân "Dim Arwyr". Dyna gân efo alaw sorbiaidd, iaith lleiafrifol o'r Sorbiaid yn Sacsoni a Brandenburg (taleithiau yr Almaen)
Adwaith: Dw i ddim yn cofio sut darganfyddais i nhw ond dw i'n hoffi eu cerddoriaeth. Gaethon nhw gynherddau yn yr Iseldiroedd yr wythnos 'ma a ro'n i eisiau mynd. Ond does dim amser gyda fi (a dw i ddim yn byw ger yr Iseldiroedd ar hyn o bryd) Er hynny dw i eisiau mynd ar gyngerdd yn y dyfodol. (Ella ym mis Mai yn Antwerpen, gwelwn ni) Un rhwng fy hoff gân yw "Cwympo".
Sŵnami: Dw i ddim yn cofio chwaith, ond dw i'n gwybod bod nhw fy hoff fand cynta pwy sy'n canu yn y Gymraeg. Dw i'n meddwl oedd "Mynd a Dod" y cân cynta clywais i ganddyn nhw, ond dw i ddim yn siŵr. Dw i'n hoffi "Wyt Ti'n Clywed".
Gwilym: Dw i'n nabod nhw ers sbel ond oedd y fideo ar Lŵp am eu halbwm newydd "ti are dy ora' pan ti'n canu" yn... ansefydlog ond grêt. Yr holl albwm yw grêt. Dw i'n hoffi "Dwi'n cychwyn tân"
Thallo: Darganfyddais i nhw trwy Lŵp, sianel YouTube efo cerddoriaeth Cymraeg. Dw i'n hoffi ei chân "Pluo", y clarinét yn arbennig.
Os gennych chi argymhellion dwedwch wrtha i! :D
Geiriau newydd:
thema, themâu, eb - theme cerddor, cerddorion, eg - musician trefn, trefnau, eb - order penodol - particular, specific argymhelliad, argymhellion, eg - recommendation darganfod - discover alaw, alawon, eb - melody sorbiaidd - Sorbian lleiafrifol - minority Sacsoni - Saxony clarinét, clarinetau, eg - clarinet er hynny - nevertheless ansefydlog - unsettling
#cymraeg#corrections welcome#welsh#learning#writing practice#wythnos 5#walisisch#dysgwr#cerddoriaeth#dydd miwsig cymru
13 notes
·
View notes
Note
this isnt really a question but i feel like this is something worth u knowing, please excuse my wenglish
pan wnes i ddarganfod dy cyfrif, yn ystod yr haf o genloss, roeddwn i'n astudio blodeuwedd...this freaked me out quite a bit
anyways, yn bwysicach roeddwn i eisiau dweud pa mor neis mae e i weld person sy'n mor falch o'i chymreictod ar lein, dwi ddim yn cymryd rhan yn y gymuned cymraeg ar lein yn aml ond mae'n mor hyfryd i weld person sy'n rhannu fy niddordebau ac yn falch o'u gwlad a'i hiaith
anon <33 diolch yn fawr am eich neges, mae hynny mor ‘wych i glywed !!!
rhan o’r reswm rydw i’n siarad ac rhannu llawer amdano ein diwylliant a hiaith yw oherwydd nad oes lawer o cynrycholiaeth ar-lein am ni neu yr iaith ac roeddwn i eisiau defnyddio fy phlatfform i ddangos faint mor brydferth mae’r dau !!!
hefyd paid a becso am eich wenglish, rwy’n gallu dy deall felly ti’n iawn !
2 notes
·
View notes
Text
Trechaf Treisied, Gwannaf Gwaedded - Bwlio a’r Iaith Gymraeg
Deugain mlynedd a mwy yn ôl, ar ôl i mi symud i Ogledd Cymru, dechreuais weithio am gyfnod gyda chwmni preifat ar Ynys Môn. Wna i ddim enwi’r cwmni. Y cyfan wna i ddweud oedd mai Saeson cefnog oedd y perchnogion ac mai Cymru dosbarth gweithiol oedd y gweithwyr. Yn gyffredinol roedd y berthynas rhwng y cyflogwyr a’r gweithwyr yn un bur ormesol ac ymdeimlad eithaf cryf o ‘ni a nhw’ yn y lle.
Yn fy naïfrwydd ifanc roeddwn i’n credu na fyddai’r math o berthynas ormesol wedi bodoli yn y cwmni petai’r perchnogion a’r gweithwyr fel ei gilydd yn siaradwyr Cymraeg. Wedi’r cyfan, mewn sefyllfa felly oni fyddem i gyd yn Gymry Cymraeg oedd yn rhannu’r un Iaith a’r un hanes? Oni fyddem i gyd yn rhan o’r un teulu Cymraeg?
Mae fy mhrofiad o fywyd ers hynny wedi newid fy meddwl yn llwyr ar y mater hwn ac rwyf wedi sylweddoli’r hyn y dylwn i fod wedi’i ddeall o’r cychwyn cyntaf sef mai yr un yw anian dyn (neu ddynes) ar saith cyfandir, er gwaethaf gwahaniaethau diwylliannol. Yn fwy na hynny rwyf wedi dod i’r casgliad efallai fod ymddygiad gormesol (bwlio, bychanu a thrin yn ddirmygus) yn waeth o fewn y byd Cymraeg gan fod sefydliadau Cymraeg, yn amlach na pheidio, yn gyndyn o weithredu i ddelio ag o rhag ofn i hynny niweidio’r fuwch sanctaidd honno, y Gymraeg.
Yn hyn o beth mae’r rheiny sy’n ceisio claddu unrhyw gwynion neu feirniadaeth am ymddygiad gormesol y tu fewn i sefydliadau Cymraeg yn debyg i arweinwyr yr eglwys Gatholig ac Eglwys Loegr (neu’r Met yn Llundain) a fabwysiadodd strategaethau tebyg i’w gilydd i i amddiffyn eu buchod sanctaidd hwythau. Fel arfer, gyda’r cyrff hyn, byddai’r cŵynion yn cael eu hanwybyddu cyn belled ag yr oedd modd. Os na fyddai hynny’n gweithio byddai’r sawl a gyhuddwyd yn cael ei symud yn ddistaw bach i rywle arall a byddai’r camymddygiad gwreiddiol yn parhau. Petai unigolion yn mynnu parhau i dynnu sylw at y camymddygiad, fodd bynnag, (boed hynny’n ymyrraeth rywiol, hiliaeth neu fisogynistiaeth) byddai’r cyrff hyn wedyn yn mynd am y dewis niwclear gan ddefnyddio holl rym eu sefydliadau i geisio tanseilio ac erlid y sawl oedd yn cynhyrfu’r dyfroedd.
O fewn y Gymru Gymraeg gallem feddwl am achos John Owen fel yr un mwyaf eithafol o beidio â gweithredu yn erbyn unigolyn carismataidd oedd yn denu sylw mawr i’r Gymraeg. Roedd ei aflonyddu rhywiol yn cael ei amau am flynyddoedd cyn iddo ddod yn destun archwiliad gan yr heddlu ond wnaethpwyd dim byd amdano.
Dw i’n cofio wedyn achos o fewn fy nheulu estynedig i o bennaeth un ysgol Gymraeg a oedd yn dwyn arian o’r ysgol. Pan aeth aelodau o’r staff at eu cynrychiolydd undeb i fynegi eu pryderon cawson nhw eu cynghori i gadw’r peth yn ddistaw rhag niweidio addysg Gymraeg.
Dydy’r ddwy stori a gyrhaeddodd y penawdau’n ddiweddar ynglŷn ag ymddygiad gormesol a bwlio (a misogynistiaeth ac ymyrraeth rywiol!) tu fewn i Blaid Cymru ac S4C, er yn ofidus iawn, ddim yn sioc i lawer ohonom sydd wedi gweithio yn y byd Cymraeg ers blynyddoedd. Yn aml iawn mae’r diwylliant gwaith mewn ambell sefydliad neu faes Cymraeg yn medru ymdebygu i rifyn o A Game Of Thrones, ond heb y rhyw (wel, mae hynny’n dibynnu ar ba straeon dych chi’n fodlon eu credu)
Y cwestiwn ydy, pa gorff fydd yr un nesaf i gael ei gyhuddo o nid yn unig o oddef ymddygiad gormesol o fewn y sefydliad ond o fynd ati’n gwbl fwriadol i danseilio ac erlid unrhyw un a geisiodd dynnu sylw at y camymddygiad? A wneith y datgeliadau hyn droi’n gaseg eira fel y digwyddodd gyda’r ffenomenwm Me Too? Ac o ba le y daw’r stori nesaf? O Bontcanna, o Ben-y-Bont, o Ben Llŷn?
Fasai hi ddim yn anodd iawn canfod enghreifftiau lluosog o ‘Gymry da’, hoelion wyth y byd diwylliannol Cymraeg, sy’n waradwyddus o euog o roi buddiannau sefydliadol a buddiannau (tybiedig) y Gymraeg uwchlaw buddiannau’r bobl sy’n gweithio i ryw sefydliad neu’i gilydd. Efallai eu bod nhw’n twyllo’u hunain trwy ddweud eu bod yn gyfeillion i’r Gymraeg trwy wneud hyn. Ond gyda chyfeillion felly does dim angen gelynion ar y Gymraeg.
Ychydig flynyddoedd yn ôl, yn dilyn achos o gamymddygiad go ddifrifol gan rai siaradwyr Cymraeg tuag at siaradwyr Cymraeg eraill, gofynnodd un cyfaill o ddysgwr o Sais i mi (yn dorcalonnus braidd). “Os mai dyma sut mae Cymry Cymraeg yn trin ei gilydd pam wnes i drafferthu dysgu Cymraeg?”. Doedd gen i ddim ateb iddo ar y pryd.
A dweud y gwir rwyf wedi gofyn yr un cwestiwn i mi fy hun dros y blynyddoedd, serch mai dysgu Cymraeg i eraill fel athro y bu hi yn fy achos i. Ond yr un yw’r emosiwn, teimlo eich bod chi wedi ymroi i rywbeth dim ond i weld camymddygiad ar bob llaw sy’n gwneud i chi amau gwerth yr hyn y dewisioch ei wneud.
Mi wnaeth hynny gyrraedd penllanw i mi ychydig flynyddoedd yn ôl ac rwy’n cofio ble’r oeddwn i. Yn sefyll yn fy nghegin ac yn meddwl – mae’r plant i gyd wedi hedfan y nyth (dros dro, fel y digwyddodd), yn byw dramor neu wedi gadael i’r brifysgol gyda’r bwriad o fynd tramor. A wnes i feddwl “Jest peidiwch â dod nôl i Gymru. Ewch i unrhyw le arall yn y byd i wneud bywyd newydd i chi’ch hunain yn hytrach na dychwelyd i’r twll yma ble mae Cymry Cymraeg uchelgeisiol yn aml yn ymddwyn yn y modd gwaethaf posib, yn gormesu eu cydwladwyr ac yn trywanu’i gilydd yn eu cefnau.”
Ond ys dywedodd T.H. Parry-Willams un tro “Ymollwng a wneuthum. Rwy’n tynnu fy ngeiriau yn ôl”. Oherwydd mae’n amlwg i mi erbyn hyn fod y math uchod o ymddygiad annerbyniol yn digwydd ble bynnag yn y byd y bydd gan rai unigolion bŵer dros eraill, yn enwedig os yw’r diwylliant ehangach yn ei oddef fel rhan o fywyd na ellir ei newid. A dyna’r allwedd : os yw’r diwylliant ehangach yn ei oddef.
Mae nifer o astudiaethau diweddar gan arbenigwyr ym maes paleontoleg ac anthropoleg megis Richard Wrangham, Brian Hare a Christopher Ryan wedi tanlinellu’r faith fod gwahaniaeth sylfaenol rhwng y ffordd yr oeddem yn arfer byw cyn y chwyldro amaethyddol a sut yr ydym yn byw o fewn cymunedau hierarchaidd trefniedig. Gweler, er enghraifft :
https://skeptics.stackexchange.com/questions/43350/were-hunter-gatherers-peaceful-egalitarians
Am ddegau o filoedd o flynyddoedd cyn y chwyldro amaethyddol a ddigwyddodd ryw 10,000 o flynyddoedd yn ôl roeddem yn byw mewn bandiau bach crwydrol, egalitaraidd. Ac roedd uchelgais personol, chwennych awdurdod dros eraill o fewn y band a’u trin yn amharchus yn cael ei ystyried yn rhywbeth peryglus i undod y band. Yr hyn fyddai’n digwydd i unigolyn oedd yn amlygu tueddiadau felly oedd yn y lle cyntaf cael ei watwar a’i fychanu gan weddill y band (yn ddynion a merched). Os nad oedd hynny’n llwyddo i newid yr ymddygiad yna byddai’r ‘cefndryd’ neu’r hynafgwyr (sef casgliad o ddynion priod y band) yn penderfynu cael gwared ar yr unigolyn peryglus ac yn trefnu i’w ladd (gweler : The Goodness Paradox gan y preimatolegydd Richard Wrangham sy'n casglu ynghyd dystoliaeth hanesyddol yn ogystal â thystiolaeth anthropolegol fwy cyfoes o bobloedd brodorol modern).
Am ddegau o filoedd o flynyddoedd felly roedd diwylliant egalitaraidd y grwpiau crwydrol cyn amaethyddol yn rhwystr i ymdrechion unigolion uchelgeisiol rhag codi uwchben eu stâd. Ond unwaith i’r chwyldro amaethyddol ddigwydd (The Worst Mistake in the History of the Human Race chwedl yr anthropolegydd a’r biolegydd Jared Diamond) dechreuodd rhai unigolion a grwpiau reoli adnoddau megis bwyd ac adeiladu stwythurau mwy hierarchaidd. Yn y pen draw esblygodd y cymdeithasau amaethyddol cynnar hyn yn deyrnasoedd ac ymerodraethau hierarchaidd gyda’r Brenin yn ben ar y cyfan.
Os ydym am weld diwedd ar y math o fwlio a chamdrin a amlygwyd yn adroddiad Plaid Cymru ac yn y cyhuddiadau ynglŷn â diwylliant gwaith S4C mae’n rhaid i ni greu diwylliant ehangach sy’n ymwrthod yn llwyr â breintiau hierarchaidd cyffredinol, diwylliant mwy egalitaraidd, diwylliant mwy agored, diwylliant sydd ar un ystyr yn fwy fel diwyllaint grwpiau cyn-amethyddol o ran eu hagwedd tuag at uchelgais personol. Mae angen i ni ddechrau amau cymhelliant a gwerth pobl uchelgeisiol gan fod unigolion felly yn tueddu i’n harwain i gorsydd peryglus. Meddylier am y llanast a grewyd gan Tony Blair a Boris Johnson.
Ydy, mae democratiaeth yn beth gwych. Ond efallai y dylem osgoi pleidleisio dros unigolion sy’n dymuno cael eu hethol (ac efallai y dylem ymatal rhag penodi unigolion sy’n ymgesisio am swyddi bras). Onid yw’r ffaith eu bod yn chwennych pŵer yn y lle cyntaf yn eu gwneud yn anaddas i’w dderbyn? Efallai fod hynny’n swnio fel jôc sy’n debyg i un o’r posau annatrysadwy Zen hynny megis Beth oedd eich wyneb gwreiddiol cyn i chi gael eich geni? Ond o ddarllen am helynt mewnol Plaid Cymru efallai fod mwy o wirionedd paradocsaidd iddo nag a welir ar yr olwg gyntaf.
Ond i ni yng Nghymru, ac yn benodol i ni Gymry Cymraeg, y prif angen ydy sicrhau nad yw’r ‘Cymry da’ hynny sydd wedi cael eu hunain i safleoedd o awdurdod (ac yn byw’m fras yno) yn cael camddefnyddio’r awdurdod hwnnw. Mae angen sicrhau nad ydynt yn medru amddiffyn eu sefydliadau neu’r fuwch sanctaidd haniaethol honno Y Gymraeg ar draul y bobl gyffredin (ac yn amlwg, y merched) sy’n ei siarad neu, yn achos y cyfaill o Sais y cyfeiriais ato uchod, a wnaeth ymdrech i’w dysgu. Cenedl heb Iaith, cenedl heb galon. Efallai. Ond cenedl heb gyfiawnder? Pa werth sydd i honno?
2 notes
·
View notes
Note
Diolch yn fawr! Roeddwn i poeni, achos nid wyf wedi astudio cymraeg yn am pedwar blwddyn. Er Cymraeg ydw i, a dwi'n wedi byw yng nghymru ar hyd fy oes, dim ond ychydig ddysgias i yn yr ysgol, a mae fy rhieni ydy Saesneg, felly nid wyf rhugl o gwbl, a dim ond brawddegau bach alla i wneud. Doeddwn i ddim cael mynd i ysgol Cymraeg achos fy rhieni, ond hoffwn i wella fy Cymraeg rhyw dydd, hyd yn oed os yw'n iaith ddiwerth; hyn o bryd, ae fy nghymraeg yn ymwneud â lefel twrist.
Beth am eich Saesneg? Wnest ti ddysgu yn yr ysgol, neu Saesneg yn gyffredin lle ti'n byw?
¡Creo que es genial que te estés dando el día para practicar! Es la mejor forma de ir mejorando, quizá puedes encontrar a otros hablantes si sigues buscando. Sé que puede ser difícil practicar si en tu entorno no te animan a hacerlo, pero con el tiempo vas a apreciar todo lo que sabes.
Yo diría que en Chile la mayoría de las personas no sabe mucho inglés, en especial las personas mayores. Se enseña en los colegios, pero la calidad cambia un montón dependiendo de tus profesores. Yo comencé a aprender desde primer año básico (the equivalent of first grade in usamerican school) pero muchos empiezan a aprender desde quinto y manejan inglés básico o intermedio.
Cuando tenía como 11 o 12 me surgió el interés por usar el inglés para leer o interactuar con fandoms y... así es como eventualmente fui mejorando.
((Espero que mi inglés se entienda fkwkt a veces siento que digo puras leseras.))
¿Cómo lo has hecho tú para estudiar galés?
4 notes
·
View notes
Text
40 notes
·
View notes
Text
On Cadi as the Welsh equivalent of Queer
(image: screenshot of the entry for Cadi in Geiriadur Prifysgol Cymru)
Some of you may already know this, but for those who don't, Cadi is a Welsh word which is analogous to the word Queer in English. I say analogous, since their meanings aren't quite a 1:1 match. But for shorthand, Welsh equivalent of Queer sums 90% of it up.
It has been suggested tentatively by some to use Cadi as the Welsh translation of Queer. I'm going to explore arguments for and against, but ultimately the choice to use/not use Cadi as a 1:1 with Queer is entirely up to you. Warning that this post is quite long, but I do hope you'll stick with it- please let me know what you think in the notes!
Without further ado, let's get into it:
Definition of Cadi:
Cadi is a term which has existed in Welsh since the 17th Century (roughly) and generally refers to effeminacy in men (real or perceived). Over time, the meaning of the term has expanded to refer to other (Queer) things as well. But the term itself largely has been applied to Queer men and queer masculinities through time.
The term itself derives from the girl's name Catrin and you will come across women who call themselves Cadi as a shortening of their name (like Liz from Elizabeth and so on). In this way, there is a strong point of comparison to be had with the English queer pejorative Nancy, which also derives from a girl's name.
Can Cadi be considered the Welsh equivalent of Queer?
So now to the real meat of the post. Can Cadi be considered the Welsh equivalent of Queer? The answer to that is, unsurprisingly, complicated.
As described above, Cadi is a term which has had strong associations with male effeminacy (real or perceived) and has close parallels to the English term Nancy, which is also nearly exclusively applied to Queer men and masculinities. What this presents is a quandary and I'll explain what I mean by that. But first, we need to outline the history of LGBTQIA+ terminology in general (in the West).
LGBTQIA+ Terminology and the inclination towards cis gay language:
This is a huge huge topic which I cannot possibly do justice to here alone, so I'd highly recommend reading up on these topics when you have time, but for the sake of brevity, here is a tldr on the history of LGBTQIA+ terminology (slightly UK-centric but similar events also happened in the US and Canada, as well as other parts of Europe).
Campaign for Homosexual Equality (CHE) is a British Lesbian and Gay rights organisation founded in the 1960s, during a time of great social and political change. The organisation's membership grew and grew well into the 70s before declining in the 80s. It was during this time that some lesbian members of the organisation left citing erasure of lesbian issues and misogyny in the movement. CHE and similar gay and lesbian rights movements in this period had been inclined to centre gay men's issues in their activism, which understandably led to many lesbians feeling alienated. Some lesbians left in the late 70s and early 80s and began to form their own advocacy groups. This indirectly fed into a wider feminist upheaval at the time and led to the rise of lesbian feminism, which aimed to centre lesbian issues within feminism, but unfortunately (for complex historical reasons) did then contribute to the proliferation of rad\ical femi\nism within the Queer community, which then unfortunately contributed to the rise of tra\ns exclu\sionary rad\ical fem\inism. Regardless of the unfortunate rise of transphobia within the lesbian feminist movement, the original catalyst for the formation of these groups was a sense of alienation from the rest of the Queer community because gay men's issues had been prioritised over lesbian issues, when both could have been tackled together, with each other. This alienation was echoed in the names of organisations and events- many early homosexual rights groups only had homosexual or gay in their group names. It took many years before advocacy groups started adding 'and lesbian' to their names and events.
(For further reading, I would suggest watching this video by Verilybitchie about the history of lesbian erasure in homosexual advocacy and how that led to (some) lesbian groups excluding bi and trans people in the same way they were excluded by gay men)
What does that history mean for Cadi?:
Because of a history of lesbian (and by extension, women's) exclusion from homosexual advocacy groups, is Cadi the best term to use as a catch-all given its strong associations with men's expressions of Queerness? (namely, that as a pejorative it is largely aimed at femininity in men and subsequent assumed homosexuality). It is important to consider if using Cadi as an equivalent of Queer would centre a (typically cis) gay experience/expression of Queerness and if that would alienate other members of the LGBTQIA+ community.
However, a counterpoint to this would be that there are variations of the term Cadi which do include other experiences of Queerness:
Cadi ffan (similar to just 'Cadi')- typically used to describe femininity in men and boys [N. Wales]
Cadi genod/ Cadi merched (similar to above) - effeminate man/boy [N. Wales]
Cadi bechgyn - Romping girl, tomboy [N. Wales]
Cati fachgen - (similar to above)- Romping girl, tomboy [S. Wales]
Cadi Haf - Male maypole dancer dressed as a girl
They are, however, somewhat limited for use in reclamation and have to be qualified by another noun to indicate diversion from the original term's meaning.
But when talking about the term Cadi, we often speak in the abstract- without the context in which the term is used. So here are a few extracts from texts which use the term Cadi (or variants). Since this is a mostly spoken slang term, it doesn't turn up in print often, but there are a few examples to draw on.
Examples of Cadi in texts:
Page 164- Cwm Eithin by Hugh Evans (1931):
"DAWNSIO HAF Ceir darnodiad o'r ddefod hynafol dawnsio haf yn Y Gwyl- fedydd, 1823, tudal. 306, gan un a'i geilw ei hun “ Callestrwr,” fel yr arferid hi yn Callestr (Fflint, mae'n debyg). Ym mis Ebrill arferai o ddwsin i ugain o bobl ieuainc ymuno i baratoi ar gyfer y ddawns. Gwisgai'r dawnswyr eu crysau yn uchaf wedi eu haddurno ag ysnodennau a blodau. Cariai'r arweinydd fforch bren ar lun y llythyren Y. Gwnïid lliain o'r naill fraich i'r llall, ac addurnid y fforch ag amryw lestri arian, tebotiau, llwyau, cigweiniau, efc. Byddai gyda hwy grythor yn ei ddillad ei hun, “cadi” mewn gwisg merch, ac ynfytyn mewn gwisg ryfedd â phlu yn ei ben"
[emphasis mine]
This extract is the author's account of Dawnsio Haf- a Summer dance held on May Day and his investigations into it. At his time of writing (1931) the practice has died out, but later in this chapter he interviews an old woman from the Conwy Valley who participated in the dances as a child. Evans draws upon a source from 1823 for his description of Dawnsio Haf. In it, he mentions that 20 young dancers meet up for the dance wearing shirts decorated with ribbons and flowers. A leader carries a fork in the shape of the letter "Y"- between each point on the "Y" a cloth was strung with silverware dangling from it to make noise. With the 20 dancers would be a crwth-player (crythor), a Cadi in women's clothes and a fool with a feather on his cap and odd clothes.
This usage is quite archaic and refers to a folk dance- much like mumming or morris-dancing. There is however, a picture in the People's Collection Wales titled 'Cadi'r Big' taken by the prolific photographer John Tomas c. 1875, near Y Ro-wen:
Which is very interesting as Cadi'r Big has dried flowers and ribbons attached to their clothes, much like in the description in Cwm Eithin. This is very likely a picture of a "Cadi" from a Dawnsio Haf.
Page 4- Y Ddraig Binc Issue 4 (1994):
Y Ddraig Binc was a Welsh-language Queer magazine published by CYLCH, a gay and lesbian rights organisation based in Aberystwyth. The term Cadi-ffan is included in an article about the commercialisation of Queer identity in the magazine's fourth edition.
"...Nawr te, medd wrtho’i hun, be’ gymera’ i’r mis hwn, copi o GQ ynte Arena neu ydw i, efallai, yn teimlo’n ddigon ifanc a trendi am Sky? Ond aros funud, beth yw hyn? Dau gylchgrawn steil newydd a gwynt digamsyniol cadi-ffan arnyn nhw?
Ydy, mae’r hyn a oedd y tu hwnt i ddychymyg wedi digwydd. Mae grymoedd y farchnad rydd a chystadleuaeth wedi cyrraedd y byd cyhoeddi hoyw - rhaid bod Lêdi T wrth ei bodd. Nawr fe gaiff llanc hoyw ddewis o ddeunydd darllen sgleiniog, llawn erthyglau a hysbysebion yn arbennig ar ei gyfer ef a’i rywioldeb. Hwrê! Fedr hynny ddim bod yn beth drwg. Neu a fedr o?..."
[emphasis mine]
This humorous article (dealing with an important topic, mind) pokes fun at the arrival of Queer commercialisation. The article opens by explaining that there's a ruckus in the gay world (and not two old queens getting into fisticuffs)- but that this ruckus is taking place at WHSmith (UK stationery shop and newsagents)- apparent winner of this year's most vulgar uniform award. The author goes on to describe a hypothetical situation in which a gay man walks into a WHSmith to buy a magazine. He wonders whether to get a copy of GQ or Arena (men's style magazines- remember this was published in Section 28 Era so explicitly gay magazines were not common) or is he trendy enough to read Sky? (film and tv magazine). But wait- what's this? Two new style magazines with a whiff of Cadi-ffan about them? The author explains that yes, the unimaginable has happened. The forces of the free market and competition have reached the world of gay publishing.
Now a gay youth has the choice of glossy reading material, full of articles and advertisements especially for him and his sexuality. Hooray! That can't be a bad thing. Or can it? Writes the author. The article is very witty and I recommend a read (find a pdf copy here). But the usage of Cadi-ffan here is very much in a reclaimed sense. Though it must be noted that the story is told through a stereotypical cis gay lens.
Conclusions:
As I said at the start of this post, you are free to claim or not claim Cadi as you wish. However, as awareness of Welsh LGBTQIA+ terminology increases, I wanted to raise important questions and start a conversation about the words we have, what we want them to be and how they have been used against us. I hope in any case that this post has been interesting to you. If it has, please reblog this or add any comments/thoughts in the notes, tags or in my asks.
Beth yw eich barn chi? I'd love to hear other's thoughts on this and start a conversation about it! Diolch am ddarllen
#cymraeg#cwiar#cadi#cadi ffan#Welsh#Gymraeg#yr iaith gymraeg#term reclaiming#hoyw#lhdt#deurywiol#lesbiaidd#cymru#long post
309 notes
·
View notes
Text
Am y funud hon ymlaen, bydd yr blog hyn yn yr iaith cymraeg yn unig!!!
Byddai yn gorffen ysgol yr blwyddyn hyn (yr unig lle dwi’n siarad yr iaith yn dyddiol) a wnes i teimlo ychydig bach yn pryderus am colli yr iaith arol eistedd fy arholiadau olaf, felly dwi moyn ymarfer ar-lein am y tro cyntaf >:)
oes unrhyw un eisiau fod yn penpals efo i cyn i mi fynd i’r prifysgol???
0 notes
Text
Cerdd - All neb y flwch Pandora yn ei chau
gan Alex Greene
Cynnig ar gyfer yr Eisteddfod Y Dysgwyr 2021. Nes i fyth ennill unrhyw beth. Gwaith fy hun yw hwn.
All neb y flwch Pandora yn ei chau. Rhyddhaodd Annoethder wae'r byd. Er gwaethaf hyn, mae gobaith yn parhau.
Pan fu Eurydice yn ei hangau, Dioddefodd Orffiws gymaint o adfyd. All neb y flwch Pandora yn ei chau.
All neb yn unman fyw heb boen bachau Drygioni, fel firysau, dros y byd. Er gwaethaf hyn, mae gobaith yn parhau.
Dioddef yw, i fyw ag i barhau. Cewch cloi dy galon, ond mae'r gost mor ddrud. All neb y flwch Pandora yn ei chau.
Gwnewch naws fy enaid trwm i ysgafnhau. Er gwaetha'r poen, mae'n bywyd dda o hyd. Er gwaethaf hyn, mae gobaith yn parhau.
Dymuna 'nghalon agor byth ei chau - Ni all neb ddwyn fy mywyd llawn o hud. All neb y flwch Pandora yn ei chau. Er gwaethaf hyn, mae gobaith yn parhau.
7 notes
·
View notes
Text
Calon Lân ... in Klingon
Just for the fun of it ...
Calon Lân
Nid wy'n gofyn bywyd moethus, Aur y byd na'i berlau mân: Gofyn wyf am galon hapus, Calon onest, calon lân.
Calon lân yn llawn daioni, Tecach yw na'r lili dlos: Dim ond calon lân all ganu Canu'r dydd a chanu'r nos.
tIq nIt
yIn mIp, qo' qo'lom bIQ'a' naghbochmey joq vIpoQbe' tIq Quch tIq yuDHa' tIq quv je vIpoQ.
naDtaHbogh tIq nIt Dun law' lI’lIy Dun puS qaStaHvIS wa' jaj wa' ram je bomtaHlaH tIq nIt neH.
9 notes
·
View notes
Text
Dw i isio bod yn Sais
Y llyfr Catalan cyntaf i mi ei brynu erioed oedd La Revolta dels Animals sef addasiad o Animal Farm, George Orwell ar ffurf nofel graffig. Fel y gwyddom mae’r llyfr yn alegori dychanol o sut y trodd arweinwyr y gwrthryfel yn erbyn gormes y Tsar yn ormeswyr eu hunain maes o law gan fradychu dyheadau’r werin bobl a oedd yn dyheu am gyfiawnder cymdeithasol.
Ysywaeth, dydy’r hyn a ddigwyddodd yn yr Undeb Sofietaidd - sef chwyldroadwyr gwleidyddool yn troi i mewn i fersiwn o’r union bobl yr oedden nhw’n ymladd yn eu herbyn - ddim yn unigryw. Mae rhywbeth ynglŷn â phŵer a grym sydd yn medru llygru pobl er gwaethaf eu dyheadau dyrchafol cychwynnol. Digwyddodd y llygru yn dilyn y Chwyldro Ffrengig, yn Tseina yn dilyn chwyldro Mao ac yn ystod fy mywyd i yn Nicaragua o dan aweinyddiaeth Daniel Ortega.
Yn ystod yr wythdegau Nicaragua oedd un o achosion mwyaf eiconig y chwith ryngwladol, yn ffagl rhyddid yng nghyfandir De America, cyfandir a oedd wedi dioddef cymaint o achosion o orthrwm gwaedlyd gan yr asgell dde yno (gyda chefnogaeth frwd ac ymyrraeth filwrol yr Unol Daleithiau). Roedd achos rhyddid pobloedd Nicaragua a gwledydd eraill Canolbarth a De America rhag gormes yn fater yr oeddwn i a’m gwraig wedi llwyr ymdaflu iddo fo yn ystod y cyfnod hwn gan gydweithio gyda llawer o Gymry eraill ar y pryd i godi ymwybyddiaeth o’r sefyllfa yn y rhan hon o’r byd. Roeddem yn aelodau o sawl corff cefnogi America Ladin ac yn gyd-sylfaenwyr cymdeithas Cymru-Cuba gan drefnu ymweliadau gan siaradwyr, cerddorion a hyd yn oed llysgenhadon o Guba, Nicaragua a Fietnam (gwlad arall a brofodd wrthryfel yn erbyn llywodraeth asgell dde ormsesol a gefnogwyd gan yr UDA) i Ogledd Cymru.
A rwan dyma ni yn ugeiniau’r unfed ganrif ar hugain. Mae Daniel Ortega a’i wraig, cyn-arweinwyr y Sandinistas yn yr wythdegau, bellach yn rhedeg y wlad gyda llaw haearn ac yn gormesu’u cydwladwyr. Mae achos Ortega yn un rhyfedd ar y naw. Dechreuodd fel gwrthryfelwr yn erbyn yr unben Somoza, daeth yn arweinydd clymblaid enfys o bleidiau asgell chwith ond yna, ar ôl colli etholiad trodd yn Gristion Ailanedig, symudodd i’r dde yn wleidyddol a throdd o a’i wraig yn barodi o’r unbebiaeth yr oedden nhw wedi ymladd yn ei erbyn nôl yn yr wythdegau.
Yma yng Nghymru mae llawer o’r hyn yr oedd ymgyrchwyr iaith y chwedegau yn ymladd drosto wedi’i ennill – y Gymraeg yn iaith gyd-swyddogol â’r Saesneg, sefydlu S4C a Radio Cymru a nifer o gyrff eraill sy’n gwasanaethu’r Gymraeg a thwf graddol addysg Gymraeg. Bellach, tu allan i i’r broydd Cymraeg o leiaf, mae siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o fod yn weithwyr dosbarth canol na chwarelwyr neu lowyr neu weithwyr ffatri. Mae rhai wedi dadlau fod y newid cymdeithasegol hwn wedi bod yn fuddiol i barhad yr iaith yn y Gymru fodern sydd ohoni - a phwy ydw i i ddadlau gyda hynny.
Ond mae digwyddiadau diweddar wedi awgrymu nad yw pob dim yn berffaith o fewn y Gymru Gymraeg fodern, yn fwyaf arbennig yr achosion o fwlio, gwraig gasineb a hierarchiaeth ormesol, gyffredinol mewn cyrff megis Plaid Cymru ac S4C. Yr amheuaeth ydy mai dim ond codi cwr y llen ar broblem ehangach a wnaeth yr achosion hyn a bod y math yma o ddiwylliant rheoli gormesol yn gyffredin iawn o fewn y Gymru Gymraeg.
Dw i’n cofio cael sgwrs flynyddoedd yn ôl gyda chyn-ddysgwr Cymraeg dosbarth gweithiol o Sir Y Fflint. Roedd o wedi ymroi i ddysgu’r iaith am ei fod yn teimlo’n gryf mai Cymro oedd o. Esboniodd y peth i mi fel hyn. Yn ei farn o roedd trigolion dosbarth gweithiol di-Gymraeg Cymru, o safbwynt eu bydolwg a’u delfrydau cymeithasol egalitaraidd, wedi aros yn Gymry ym mhob dim heblaw am yr iaith. Ond, meddai, ar ôl dysgu Cymraeg, daeth i gysylltiad fwy-fwy â rhai o’r Cymry Cymraeg dosbarth canol mwy breintiedig oedd â’u byd yn troi o gwmpas yr iaith yn lleol. Ei deimlad o, meddai wrthyf, oedd fod llawer o’r bobl hyn, yn eu hagweddau cymdeithasol a’r modd yr oedden nhw’n trin pobl ddosbarth gweithiol fel y fo, fel petaen nhw wedi troi’n Saeson ym mhob dim heblaw am yr iaith.
Yn ei ddefnydd o’r gair ‘Saeson’ sôn yr oedd o, wrth gwrs, am y stereodeip o Saeson Torïaidd fel pobl ariannog, grachaidd, hierarchaidd – stereodeip sydd, wrth gwrs yn rhy gul i gynnwys yr amrywiaeth dosbarth a geir ymhlith y Saeson fel ymhlith pob cenedl arall dan haul. Fel rhywun sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg i Saeson (gan fwyaf) ers deugain mlynedd mae fy nghanfyddiad ohonynt fel pobl yn un llawer mwy positif.
Ond dw i’n deall ei ddefnydd o’r gair. Byddai fy nheulu i yng nghymoedd y De ers talwm weithiau’n cyfeirio’n ddirmygus at Dorïaid lleol fel ‘Hen Saeson’, er mai Cymry oedden nhw o ran eu tras fel arfer. A dw i’n cofio gweithio wedyn am gyfnod yng nghynllun Heidro Drydanol Llanberis nôl ar ddechrau’r 80au. Bryd hynny roedd rhaniad cenedligrwydd go glir rhwng yr haen lywodraethol a’r gweithwyr cyffredin. Saeson oedd llawer o’r rheolwyr a Chymry Cymraeg oedd y gweithwyr. Roedd hi wastad yn rhyfedd i mi ar y pryd glywed y gweithwyr (cyn-chwarelwyr, Llafurwyr ac Undebwyr Llafur digymrodedd) yn yr un gwynt bron yn cael hwyl am ben rhywun oedd yn pleidleisio dros Blaid Cymru ac ar y llaw arall yn bytheirio yn erbyn rhyw ‘ddiawl o Sais’ (a rhai dywediadau mwy lliwgar) oedd yn rheolwr arnyn nhw. O ddeall mai’r unig gysylltiad yr oedd y mwyafrif ohonyn nhw wedi’i gael gyda Saeson oedd o fewn y cyd-destun cyflogaeth hierarchaidd doedd hi ddim yn syndod fod eu hagweddau rywfaint yn wahanol i’m heiddo i oedd wedi bod yn y brifysgol ac wedi gwneud ffrindiau mynwesol gyda rhai o’r Saeson oedd yno.
Sy’n dod â mi at y gân sy’n deitil i’r myfyrdod hwn. Mae dysgwyr o Saeson yn hapus iawn i forio canu Yma o Hyd a llawer o ganeuon eraill Dafydd Iwan. Yr ymdeimlad ydy bod ei ganeuon yn rhai positif, dyrchafol, ymryddhaol ac yn rhai y gallai unrhyw un uniaethu â nhw, beth bynnag eu cenedligrwydd. Ond am y gân Dw i isio bod yn Sais, na. Mae rhywbeth amdani sydd ddim cweit yn taro deuddeg. Mae’r dychan ynddi’n rhy gul a negyddol ac yn achosi i Saeson deimlo’n anniddig ac anesmwyth. Ys dywedodd un dysgwr o Sais wrthyf “Dw i ddim yn nabod unrhyw Saeson sy’n mynd i’r Country Club”. Prif ffocws y dychan, gellid dadlau, ydy’r Dic Siôn Dafyddion hynny sy’n troi’u cefnau ar y Gymraeg ac yn chwennych bod yn Saeson. Ond mae yn y gân hefyd islif sy’n rhwystro Saeson rhag closio ati hi, yn wahanol i ganeuon Dafydd Iwan. Mae’r un peth yn wir am Fy Ngwlad gan Gerallt Lloyd Owen, cerdd a gyflwynais un tro i grŵp o ddysgwyr Cymraeg eneiniedig, brwd, Mae’n deg dweud i dymheredd y dosbarth blymio sawl gradd oherwydd ymateb oeraidd eithriadol y dysgwyr i ddiweddglo’r gerdd.
Ond nôl â ni at La Revolta dels Animals. Ar ddiwedd y nofel mae’r anifeiliaid sy’n cynrychioli’r werin bobl yn edrych i mewn trwy ffenest y ffermdy ar y moch Napolean, Snowball a Squealer yn gloddesta yng nghwmni nifer o’r ffermwyr lleol. A’r eiliad honno mae’n ymddangos iddyn nhw fod y moch, i bob pwrpas, wedi troi’n ddynion.
O ystyried yr achosion o fwlio a gwraig gasineb sydd wedi’u hamlygu o fewn y Gymru Gymraeg yn ddiweddar efallai y gellid dadlau ein bod ninnau, Gymry Cymraeg, mewn perygl o droi i mewn i’r hyn y buom yn ymladd yn ei erbyn cyhyd. Ac efallai, petai’r sawl sydd ar y tu allan yn edrych i mewn trwy’r ffenest ar y Cymry Cymraeg pwerus, dyrchafedig hyn yn pesgi wrth y bwrdd, fe allai ymddangos iddyn nhw, am eiliad, fod y dynion hyn (ac ambell ferch, ysywaeth), i bob pwrpas, wedi troi’n foch.
1 note
·
View note