#wythnos 5
Explore tagged Tumblr posts
Text
Wythnos Pump
Heddiw dw i eisiau siarad am gerddoriaeth. (Echdoe roedd y Dydd Miwsig Cymru ond dw i'n hwyr, y thema fy mlog i) Dw i'n mynd i rannu pum cerddor/band. Heb drefn penodol:
Chwalaw: Darganfyddais i nhw trwy Rownd a Rownd ac eu cân "Diflanu". Mae'n well gyda fi eu cân "Dim Arwyr". Dyna gân efo alaw sorbiaidd, iaith lleiafrifol o'r Sorbiaid yn Sacsoni a Brandenburg (taleithiau yr Almaen)
Adwaith: Dw i ddim yn cofio sut darganfyddais i nhw ond dw i'n hoffi eu cerddoriaeth. Gaethon nhw gynherddau yn yr Iseldiroedd yr wythnos 'ma a ro'n i eisiau mynd. Ond does dim amser gyda fi (a dw i ddim yn byw ger yr Iseldiroedd ar hyn o bryd) Er hynny dw i eisiau mynd ar gyngerdd yn y dyfodol. (Ella ym mis Mai yn Antwerpen, gwelwn ni) Un rhwng fy hoff gân yw "Cwympo".
Sŵnami: Dw i ddim yn cofio chwaith, ond dw i'n gwybod bod nhw fy hoff fand cynta pwy sy'n canu yn y Gymraeg. Dw i'n meddwl oedd "Mynd a Dod" y cân cynta clywais i ganddyn nhw, ond dw i ddim yn siŵr. Dw i'n hoffi "Wyt Ti'n Clywed".
Gwilym: Dw i'n nabod nhw ers sbel ond oedd y fideo ar Lŵp am eu halbwm newydd "ti are dy ora' pan ti'n canu" yn... ansefydlog ond grêt. Yr holl albwm yw grêt. Dw i'n hoffi "Dwi'n cychwyn tân"
Thallo: Darganfyddais i nhw trwy Lŵp, sianel YouTube efo cerddoriaeth Cymraeg. Dw i'n hoffi ei chân "Pluo", y clarinét yn arbennig.
Os gennych chi argymhellion dwedwch wrtha i! :D
Geiriau newydd:
thema, themâu, eb - theme cerddor, cerddorion, eg - musician trefn, trefnau, eb - order penodol - particular, specific argymhelliad, argymhellion, eg - recommendation darganfod - discover alaw, alawon, eb - melody sorbiaidd - Sorbian lleiafrifol - minority Sacsoni - Saxony clarinét, clarinetau, eg - clarinet er hynny - nevertheless ansefydlog - unsettling
#cymraeg#corrections welcome#welsh#learning#writing practice#wythnos 5#walisisch#dysgwr#cerddoriaeth#dydd miwsig cymru
13 notes
·
View notes
Text
Abertawe! Swansea! 🦢
Starting in one week - 3 sessions exploring LGBTQ+ clips, films, music and TV shows in the Welsh Broadcast Archive (National Library Wales) 🏳️🌈🏳️⚧️🏴
100% free, with refreshments, you can come to 1, 2 or 3 of the sessions ☕️
In Elysium Gallery & Bar, Swansea, at 5:30pm on the 10th, 17th and 29th of October!
-
Yn dechrau mewn 1 wythnos - 3 sesiwn yn archwilio clipiau, ffilmiau, cerddoriaeth a rhaglenni teledu LHDCT+ o'r Archif Ddarlledu Cymru (Llyfrgell Genedlaethol Cymru) 🏳️🌈🏳️⚧️🏴
100% Am ddim, gyda the a choffi, ac mae croeso i chi dod i 1, 2 neu 3 o'r sesiynau ☕️
Yn Elysium, Abertawe, am 5:30yh ar y 10fed, 17eg a 29ain o Hydref
(Bydd y sesiynau'n ddwyieithog)
Dewch yn llu!
#swansea#wales#welsh#national library wales#national library of wales#lgbtqia#queer wales#queer welsh#history#welsh history#queer history#lgbtq history#etc
70 notes
·
View notes
Text
Dyddiadur - wythnos o’r Cyfnod Clo - Gaenor Mai Jones, Pontypridd (ffugenw: Blank 6)
Dydd Iau Rhagfyr 31 2020
Roedd rhaid mynd allan i brynu diod o rywfath ar gyfer hanner nos ac anghofio'r mwgwd ond ma' gen i un sbar yn y car. Marciau a Gwreichion yn hytrach na siop y carotsyn. Safon y nwyddau a'r glanweithdra ar raddfeydd gwahanol. Falle mod i'n talu mwy a dyw hynna ddim yn eistedd yn esmwyth gyda Cardi ond dwi am wneud popeth allaf i osgoi Corona. Dal i gofio y poteli pop o'm mhlentyndod. Dwi 'di edrych y "covid vaccination calculator" a gweld bo' fi yn yr wythfed safle i gael y brechiad a fydd hynna ddim yn digwydd tan adeg fy mhenblwydd ym mis Mai.
Ydw i fod i 'sgrifennu'r addunedau heno neu fory? Wel heno amdani gan bo fi ar fy mhen fy hun yn gwylio'r cloc yn araf dician tuag at hanner nos. Dwn i ddim pam dwi'n aros lan beth bynnag, dim gwahaniaeth rhwng 23.59 a 24.00 yn fy marn i. Ta beth edrychais y geiriadur i weld ystyr y gair adduned, dim ond rhestr arall ac 'rwy'n dda iawn am wneud rhestrau ond mae adduned yn golygu addewid o ddifrif neu benderfyniad cryf. Dim iws rhoi colli pwysau lawr te achos mi fyddai wedi methu o fewn dyddiau. Mi wnes i addunedau amser y clo mawr, dim byd arbennig, tacluso'r ardd, eistedd allan yn yr ardd tra'n disgwyl i ddanteithion gwcio. Hwnna oedd y drwg ond nid dim ond fi wna'th e.
Un adduned sy' 'di bod 'da fi ers blynydde yw tacluso'r bocsys sy' yn y garej ers i fi symud 'ma a dyma'r amser i ddidoli'r lluniau a gosod nhw yn daclus, efallai hyd yn oed symud 'da'r oes a'u gosod yn ddigidol. Mi wnai wneud un bob dydd.
Mae'n hanner nos ac yn amser am lymaid neu photelaid.
Dydd Gwener Ionawr 1 2021
Ma' gen i ben tost a'r gwendid corfforol a meddyliol bron fy llethu ond allai ddim torri adduned ar y diwrnod cyntaf!
Lluniau fy nhaith i Rufain sy gen i. 'Roedd pedwar ohonom yn tueddu i fynd dramor dros benwythnos Calan ac wedi bod yn yr Eidal sawl gwaith ond does dim all wella ar y profiad o fod yng ngwasanaeth Calan y Pab yn y Vatican City. Cyrraedd yno ar hap heb drefnu dim ymlaen llaw. Gweld ciw i fynd fewn a meddwl dim mwy tan i ni gael ein harwain drwy'r cefn a'n rhoi i eistedd ar yr ochr a dyna lle 'roedd Pab Ioan Paul yn pregethu. Mi wnes i astudio Lladin yn yr ysgol ond wnes i ddim deall dim un gair. Doedd dim gwahaniaeth ac er fy mod yn Fethodist mi ges i ryw wefr a thangnefedd wrth wrando ar y person carismatig hwn. Fynte yn gad'el a ninne yn crwydro o gwmpas gan edmygu pensaerniaeth ac awyrgylch euraidd y lle. Allan wedyn i'r sgwar a sylweddoli nad oedd lle i forgrugyn arall gan fod y lle yn orlawn o bobl yn disgwyl i'r Pab ymddangos ar y balconi i godi llaw ac wir, mi ddoth allan a ninnau wedi ca'l y profiad unigryw heb drefnu dim.
Dydd Sadwrn Ionawr 2 2021
Diwrnod arall o ddilyn y rheolau. Am dro o gwmpas fy ardal ac yn gweld amryw sy' fel pe baent ddim yn deall y rheol o beidio symud y car i ddechrau'r daith gerdded.
Nawr dwi wedi cyrraedd albwm Prague. Wedi bod yna fwy nag unwaith a chael profiadau gwahanol bob tro. Dyw penwythnos ddim yn ddigon i gyffwrdd ar hanes yr ardal a phwy allai anghofio y Brenin Wenceslas yr amser hyn o'r flwyddyn. Do, mi fum i yn y sgwar ac yng Nghadeirlan St Vitus lle gorwedd ei olion. Ond i mi profiad dwysaf y teithiau oedd ymweliad plygeiniol yn Terezin tua 30 milltir i'r gogledd o Prague. Carchar rhyfel i'r Iddewon yn cael ei redeg gan y Gestapo. Llawer yn aros yno ar eu ffordd i Auschwitz. 'Roedd y tarth yn dal ar lawr a niwl o gwmpas y fynedfa gan hanner orchuddio Seren Dafydd. Doedd dim troi nôl ond dim blas mynd ymlaen. Teimlwn yn anhyfforddus iawn fy mod yno ar daith dwristiaeth gan gofio yr holl ddioddefaint a fu yn yr adeiladau. Buom mewn un ystafell lle roedd cannoedd o blant yn cysgu ac heb air o gelwydd teimlais fod llygaid yn fy nilyn o gwmpas. Allan i'r gwyrddni i fan oedd yn ymddangos fel llecyn o brydferthwch ond wrth edrych yn fanwl 'roedd modd gweld uwchdir i ddefnydd y saethwyr oedd yna i ladd yr Iddewon.
Dydd Sul Ionawr 3 2021
Dim oedfa ar wahan i rai ar Zoom. Mae'n bosib edrych ar sawl un mae'n rhaid cyfadde ond y drwg wedyn yw dechre beirniadu a dyw hynna ddim yn yr ysbryd Cristionogol ond a yw rhywbeth yn well na dim, dwn i ddim. Dwi ddim yn siwr chwaith a y'n nhw'n anelu at y gynulleidfa arferol. Faint o aelodau oedrannus ein capeli sydd yn medru defnyddio Zoom yn y lle cynta'?
Ta waeth, dwi 'di cyrraedd Venice. Popeth yn brydferth ond drud a drud iawn. Wrth gwrs 'roedd rhaid cael taith ar y gondola, rhywbeth twristiaidd i'w wneud a drud ond pwy fydde'n dod nôl o Venice heb fod ar un. Mi wnes i hefyd gael taith ar y traghetto, yr un syniad ond y rhan fwyaf o'r teithwyr yn sefyll i groesi'r gamlas a'r gost ond yn ddwy euro. Gan bo' fi ddim yn gallu nofio wnes i ddim meiddio sefyll, rhag ofn, ond dyma'r ffordd mae'r bobl leol yn croesi'n ddyddiol.
Rhyfeddod arall oedd cael coffi drud yn un o siopau coffi Sgwar San Marco a gwylio pobl un prynhawn ond gweld y cyfan dan ddŵr y bore wedyn. 'Roedd dŵr y gamlas wedi codi ond yn amlwg bod hyn yn ddigwyddiad rheolaidd gan fod bordiau pren wedi cael eu gosod i groesi'r sgwar ond yn rhyfedd ddigon 'roedd rhaid mynd drwy borth yr eglwys. Un prynhawn mynd i ynysoedd Murano, Burano a Torcello. Y cyntaf yn enwog am y gwydr, yr ail am y lês a'r trydydd wnai ddim ond disgrifio fel twll o le. Er yno mae Gorsedd o garreg Attila a'r chwedl leol yw bydd rhywun yn priodi o fewn blwyddyn o eistedd ynddi. Wnes i ddim a tybed ai dyna pam wnes i ddim priodi? Golygfa annisgwyl ond wrth gwrs sy'n gwneud synnwyr oedd gweld traddodiad angladdol yr ynysoedd. Yr arch yn amlwg ar gwch a'r cychod eraill yn dilyn i gyrchu'r teulu i'r tir mawr. Rhyfedd nad yw rhywun yn meddwl am draddodiadau gwahanol ond angenrheidiol.
Dydd Llun Ionawr 4 2021
Gŵyl y Banc arall heb gyfle i wneud unrhywbeth gwahanol. Sawl un arall fyddwn ni'n colli cyn daw trefn at bethau?
Erbyn hyn 'rwy'n yr albwm B. Budapest, Barga, Barcelona a Berlin. A'r mwya o'r rhai hyn Berlin. Yno fel rhan o gôr i ganu The Armed Man o dan arweinyddiaeth Syr Karl Jenkins. Ysgytwol y profiad o fod yn canu fel rhan o fil o leisiau yn Stadiwm Mercedez Benz dafliad carreg o ran o wal Berlin. Wedi'r ymarfer pawb ohonom yn mynd i'r lanfa i ganu ein hanthem genedlaethol ein hunain, Profiad na ellir byth ei ail greu. Tê prynhawn un diwrnod yn y Reichstag ond 'roedd rhaid archebu ymlaen llaw gyda holl fanylion pasport ac er yr ysblander a'r cyfle i weld goleuadau'r ddinas yn cynnau yn drawiadol pwy allai anghofio'r erchyllterau y bu y Gestapo yn trefnu yn yr union adeilad.
Dydd Mawrth Ionawr 5 2021
Apwyntiad rhoi gwaed heddiw ac mae hawl gan rywun i deithio i wneud hyn. 'Rwy'n hynod falch o'r ffaith fy mod wedi rhoi dros i 50 ond wedi colli allan ar noson ddathlu oherwydd y Cofid ond mi gefais garden Nadolig ganddynt yn ymddiheurio. Euogrwydd wnaeth i fi ddechrau rhoi gwaed oherwydd pan yn fyfyrwraig nyrsio 'roeddwn yn teimlo chwithdod bob tro 'roeddwn yn rhoi uned i glaf a dim un rheswm gen i i beidio cyfrannu. Yn raddol dros y blynydde mae'r broses wedi cyflymu a beth yw hanner awr o amser rhywun os oes daioni yn dod ohono. Er gan fy mod yn un o'r grwpiau arbennig nid y'n nhw eisie fy ngwaed bob tro.
Gan fy mod wedi crybwyll fy ngyrfa mae'n addas fy mod yn mynd i albwm California. Wedi bod yna ddwy waith gan fod un o'm ffrindiau nyrsio wedi symud allan yna ers blynydde maith. Mi fum yn ddewr a mynd fy hun un tro ond diflas y daith heb siarad a neb. Oleiaf fy mharatoi ar gyfer y cyfnodau clo yma.
Ar un o'm teithiau penderfynu mynd i barc Yosemite a gweld yr arwydd am wylio allan rhag ofn i arth groesi'r ffordd a chwerthin yn braf gan gofio am arwyddion ceirw yng Nghymru ac erioed wedi gweld un. Ond yr un fath â llwynog R.Williams Parry, "digwyddodd, darfu megis seren wib" pan groesodd un o flaen y car ond y camera wrth gwrs ddim ar gael.
Anghofiai fyth y daith lan Cwm Napa ac ymweld â’r gwinllannau a chael diod ymhob un. Fy ffrind oedd yn gyrru a'r diweddglo oedd mynd lan mewn cable car i winllan ar ochr y mynydd. Yn anffodus mae'n amhosib cael y gwin yn y wlad hon. Mi fydd yn rhaid mynd nôl eto.
Dydd Mercher Ionawr 6 2021
Diwrnod datgelu gwobrau y Premuim Bonds. Wedi medru gosod yr app ar y ffôn felly does dim rhaid aros mewn gobaith am ddyddiau cyn i'r siec gyrraedd. Yn gweld bo' nhw eisiau diddymu sieciau ond cymaint o gwsmeriaid eisiau parhau gyda'r sistem gan nad ydynt yn gwneud gwaith bancio ar lein. Dim miliwn neu ddau i mi eto'r mis hwn ond mae £25 yn well na dim.
Diwrnod tynnu'r addurniadau i lawr. Dwi ddim yn ofergoelus iawn ond yn cadw at y traddodiad o'u tynnu cyn nos Ystwyll. Bu i mi gael profiad un flwyddyn o fethu tynnu nhw lawr gan fod galwadau salwch teuluol wedi gorfodi i fi fod oddi cartref tan yn hwyrach ac 'roedd rhaid i mi wneud y gwaith wedi'r diwrnod tyngedfennol. Ond y goel yw bod gadael un addurn ar ôl yn lleddfu'r lwc wael. Dyna wnes i ac ni weles i unrhyw drafferthdod y flwyddyn honno. Rwtsh llwyr yn te?
Mae'n ddydd Mercher ac mae'n noson ymarfer côr, ar zoom wrth gwrs ond dyw e ddim yr un peth. Does dim i anelu ato, dim eisteddfodau mawr na bach ers misoedd ac er i rai ardaloedd gynnal eisteddfodau rhithiol roedd rhaid dibynnu ar yr ochr lenyddol fwy na heb. Er mae hyn yn f'atgoffa o gystadlu ar goginio yn Sioe Aberteifi ac ennill Prif Bencampwr Coginio heb i neb flasu un gacen. Tybed yw fy ngallu cogyddol cystal â’m gallu fel ffotograffydd!
2 notes
·
View notes
Link
Her yr Haf 2020
Mae haf 2020 yn wahanol ond mae digon o gyfleoedd i ddefnyddio a mwynhau eich Cymraeg. Dewiswch chwech o’r heriau isod. Nodwch y dyddiad y gwnaethoch chi’r her a brawddeg neu ddwy yn sôn am eich profiad. Cwblhewch eich ffurflen erbyn 21 Awst i gael cyfle i ennill cwrs am ddim ym mis Medi (os dych chi’n ennill a dych chi wedi talu am eich cwrs newydd yn barod, byddwn yn trefnu ad-daliad).
Siarad â rhywun sy’n rhugl
Siarad â dysgwr neu ddysgwyr eraill
Darllen llyfr Cymraeg
Darllen cylchgrawn Cymraeg (copi caled neu ar-lein)
Gwrando ar Radio Cymru
Edrych ar S4C
Gadael neges Gymraeg ar Facebook neu Trydar
Gwneud fideo
Dysgu deg o eiriau newydd mewn wythnos
Ymweld â’r Eisteddfod AmGen
Dilyn rysáit Gymraeg
Dysgu cân Gymraeg
Dysgwch enwau Cymraeg 5 o adar yn eich gardd neu barc lleol
Mae mwy o syniadau yma
Summer Challenge 2020
Summer 2020 is different, but there are plenty of opportunities to use and enjoy your Welsh. Choose six of the challenges below. Write down the date you took the challenge and a couple of sentences about your experience. Complete your form by 21 August for a chance to win a free course in September (if you win and you've already paid for your new course, we will arrange a refund).
Talk to someone who is fluent Talk to a learner or other learners Read a Welsh book Read a Welsh language magazine (hard copy or online) Listen to Radio Cymru View S4C Leave a Welsh message on Facebook or Twitter Make a video Learn ten new words in a week Visit the AmGen Eisteddfod Follow a Welsh recipe Learn a Welsh song Learn the 5 names of 5 birds in your local garden or park
1 note
·
View note
Audio
Newyddion / News: Carys Eleri Announces New Album - An Unexpected Pandemic Pop Album Volume 1. Let's hope there's no Volume 2. Enough Volume.
Dyma albwm gomedi-pop sy’n hedfan drwy bob un clo ers yr un mawr cynta ym mis Mawrth 2020, ac yn glanio yn y presennol wrth ini gyd gael ein rhddhau i’r byd eto – fe’u comissiynwyd yn wreiddiol i BBC Wales Live from Lockdown.
Gall bawb uniaethu a’r straeon, o gael eich dympio ar Zoom gorfod ffeindio lle tu allan i bîpî pan oedd bob dim di cau – mae e i gyd yma. Fydd yr albwm yn eich atgoffa o’r hyn ni wedi ei ddysgu a gwallgofrwydd ein profiade ni gan gael ni i gyd i ddawnsio.
Awn ar daith wallgof Carys drwy’r pandemic tan ei bod yn ffeindio ei hun yma nawr yn wynebu'r byd yn ail agor gan ganu ‘I’m coming like a meteor!’ ar dop ei llais – sy’n gadel hi yn llawn existential angst ac yn poenu am y dyfodol (ENOUGH VOLUME!) .
Mae yna 7 cân i gyd, bob un wedi eu recordio o bell. Rhyddhawyd y 5 cyntaf ar bob platform adnabyddus ac fe allwch weld bob fide o ar wefan amam.cymruneu youtube. Ond dim ond trwy brynu a ffrydio’r albwm ar Bancamp y cewch chi’r holl albwm a’r stori gyfan.
‘Meteor’– yw lead track yr albwm yn crynhoi beth sy’n digwydd nawr yn y byd. Anthem roc-pop anferth yn adleisio pobl fel ‘Meatloaf’ a ‘Bonnie Tyler’ – cyfansoddwyd y gân wythnos y bu Jim Steinman farw.
Mae’r albwm yn codi ymwybyddiaeth i elusen ‘Save Live Comedy’ – sydd yn helpu’r rhai a cafodd eu bwrw gan y pandemic.
------------------------------------------------------------------------------------------
A full story-arc, multi-genre comedy pop album which charts the challenges of each lockdown from March 2020 as we enter the real world all initially commissioned and featured on BBC Radio Wales’ ‘Live from Lockdown.’
Everyone will relate to these tracks, from the harshness of being dumped on Zoom to the challenge of finding a place to pee when everywhere is closed – it’s all here. This album will remind you of what you’ve learned and the madness you experienced and get you dancing.
We journey with Carys’ madness throughout the pandemic, until she finds herself in the here and now, with the rest of the UK – so very ready to re-enter the world in all her glory. She sings ‘I’m coming like a meteor!’ at the top of her lungs - which actually leaves her existentially terrified and worried for future lockdowns… hence the album’s title.
There are 7 songs altogether, all recorded remotely in lockdown. The first 5 have been released on all major platforms with accompanying videos but only by buying and streaming on Bandcamp will you get the whole album and story arc including:
‘Meteor’– the album’s lead track, which encapsulates our current state of reemerging, - the excitement, and the terror ‘I want to leave my house like an angel on fire!’ A huge pop-rock anthem echoing the likes of Bonnie Tyler and Meatloaf about our dramatic reentry into the world - was written the week Jim Steinman passed away and can be downloaded above for airplay.
A percentage of the proceeds will go to ‘Save Live Comedy’ – a charity to help those in the live comedy industry hit by the pandemic.
#Carys Eleri#'AN UNEXPECTED PANDEMIC POP ALBUM VOLUME 1. LET'S HOPE THERE'S NO VOLUME 2. ENOUGH VOLUME'
0 notes
Text
Pontio mis Hydref - yn archwilio’r bod dynol
Efallai bod y tywydd wedi troi a’r nosweithiau’n tywyllu, ond mae rhaglen mis Hydref Pontio yn fwy na digon i’ch denu allan o’r ty….
Be well na noson o chwerthin, ac mae’r mis yn dechrau gyda SUZI RUFFELL yn y Stiwdio (Iau 3 Hydref), yn dilyn deuddeg mis o lwyddiant ysgubol gan gynnwys taith drwy’r DU, proffil uchel ar y teledu ac adolygiadau anhygoel am y ffordd y mae Suzi'n llwyddo i droi angst personol yn hiwmor sy'n gwneud i'ch ochrau chi frifo.
Hefyd ar Nos Iau 3 Hydref, bydd Pontio yn cynnal noson gyda’r awdur, newyddiadurwr a chyn-filwr JAN MORRIS (Pax Britannica), fydd yn sgwrsio gyda’i mab TWM MORYS drannoeth ei phen-blwydd yn 93. Fel un sydd wedi dod â chymaint o hanes a theithio i’w ysgrifennu, mae’n siwr o fod yn noson fendigedig gyda chyfraniadau am y cyd-destun Cymreig gan Yr Athro Angharad Price o Brifysgol Bangor a darlleniadau gan Gwyneth Glyn.
Wedyn ar y penwythnos mae’n amser i’r teulu cyfan ymuno wrth i Pontio gymeryd rhan yn ymgyrch PALASAU HWYL, sy’n hyrwyddo ‘diwylliant yng nghalon ein cymuned, a chymuned yng nghalon diwylliant’, ar ddydd Sadwrn 5 Hydref rhwng 10am a 4pm. Mae Pontio wedi cydlynu ystod eang o ddigwyddiadau sy’n amlygu’r bwrlwm sy’n digwydd o gwmpas Bangor ac yn rhoi blas ar yr hyn sydd ar gael – a’r peth gorau? Mae i gyd am ddim!
Ydych chi erioed wedi bod eisiau rhoi cynnig ar actio, ballet, jazz neu ddawns gyfoes? Beth am slalom cadair olwyn? Ydych chi’n mwynhau gemau bwrdd ac eisiau trio rhai newydd? Beth am roi cynnig ar wau gyda grwp Maesgeirchen, neu dipyn o karate gyda’r gymdeithas o Brifysgol Bangor, neu rhannu hen luniau? Fyddech chi’n mwynhau blasu pethau newydd neu creu cwci gyda chriw caffi Pontio, Cegin? Ein thema eleni yw RHANNU, felly dewch i ymuno yn yr hwyl – i gyd am ddim, gadewch i bobl rannu eu sgiliau gyda chi a rhannwch eich amser gyda nhw. Mae’r amserlen lawn ar gael ar wefan a chyfryngau cymdeithasol Pontio.
Ar benwythnos 11+12 Hydref cerddoriaeth yw’r pwnc – ac am gerddoriaeth. Bydd y pianydd arobryn LLYR WILLIAMS yn chwarae’r Steinway D y dewisiodd ar gyfer Theatr Bryn Terfel ar Ddydd Gwener 11 Hydref, ac mae’r rhaglen yn un hyfryd – gan gynnwys Chopin, Poulenc, Ravel a Liszt. Fel un o Gymrodorion Anrhydeddus Prifysgol Bangor, mae Llyr yn cymryd y cyfle i berffomio yn Pontio fel rhan o flwyddyn brysur sy’n gweld y pianydd yn cydweithio gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac wrth iddo gynnig cylch sonata cyfan yn y Festival Cultural de Mayo yn Guadalajara, Mecsico a cylchau rhannol yn Moscow a St Petersburg. Ar Ddydd Sadwrn 12 Hydref, bydd yr haul yn llenwi Theatr Bryn Terfel wrth i CARWYN ELLIS rannu ei albwm cyntaf o dan ei enw ei hun, casgliad lliwgar, arloesol a beiddgar o ganeuon wedi'i hysbrydoli gan bîts De America a'i daith i Rio. Yn enwog am fod yn brif ganwr Colorama, mae Carwyn wedi treulio mwyafrif y ddwy flynedd ddiwethaf yn teithio'r byd yn Cefnogi'r Pretenders, a CHRISSIE HYNDE ei hun sylwodd sawl record oedd Carwyn yn eu prynu tra ar daith yn Ne America yn gynnar yn 2018, ac awgrymu y dylai wneud albwm iaith Gymraeg gyda dylanwadau Lladin, felly dyna'n union y gwnaeth o - dewch i wrando ar y canlyniad yn y gig yma. Bydd y grwp lleol PLU yn cefnogi.
Daw THEATR GENEDLAETHOL CYMRU a'u cynhyrchiad diweddaraf, addasiad Mererid Hopwood o Der kaukasische Kreidekreis (The Caucasian Chalk Circle) Y CYLCH SIALC i brif lwyfan Pontio am chwe perfformiad rhwng Nos Fawrth 15 Hydref a Nos Wener 18 Hydref. Gyda'r berfformwraig GWENNO yn darparu'r gerddoriaeth wreiddiol yn fyw ar y llwyfan, gwisgoedd a chynllunio set bendigedig, talent Cymraeg cyffrous ac un o glasuron yr ugeinfed ganrif yn byrlymu â hiwmor thywyll a chymeriadau bywiog, dyma ddrama sy'n gwbl addas ar gyfer yr oes sydd ohoni, felly peidiwch â cholli allan ar y profiad. Bydd perfformiad gyda BSL yn rhan o'r rhediad, ac app Sibrwd ar gael.
Mae rhagor o gomedi ar y gweill ar gyfer Nos Iau 17 Hydref a 24 Hydref, wrth i Pontio groesawu TUDUR OWEN, RAY BADRAN ac INGRID DAHLE i'n Clwb Comedi misol a daw JAMES ACASTER i Fangor am y tro cyntaf -gyda'r sioe yma wedi gwerthu allan yn barod.
Ar ddydd Sadwrn 19 Hydref, mae strand Teulu Pontio yn dod a'r cwmni PICKLED IMAGE i'r Stiwdio, gyda'i sioe swynol 'Woodland Tales with Grandad', gyda chast o bypedau anghyffredin a neges bwysig a chyfredol am yr amgylchedd. Bydd y sioe 45 munud o hyd yn cael ei ddilyn gan weithdy creadigol gydag artist lleol a chriw Pontio.
Gan barhau ar thema'r amgylchedd, mae sioe gerdd Theatr Na Nóg EYE OF THE STORM ar Ddydd Mawrth 22 a Dydd Mercher 23 Hydref, eu cyntaf yn Theatr Bryn Terfel, hefyd yn cynnwys neges gref am ynni cynaladwy, wrth i wyth o actorion adrodd stori Emmie, merch fach o Gymru sy'n wynebu'r cyfyng-gyngor rhwng ei hangerdd am wyddoniaeth a'r tornados sy'n ei chyfareddu a'i dyletswyddau fel gofalwr ifanc sy'n meddwl y byd o'i mam. Gyda trac sain canu gwlad gan yr enillydd Grammy Amy Wadge (Thinking Out Loud gydag Ed Sheeran) dyma sioe gerdd i'r holl deulu.
Wrth i'r mis ddod i ben, bydd Pontio yn parhau i gynnal digwyddiadau lu gan gynnwys cynhadledd dau ddiwrnod o hyd yn archwilio hanesion unigryw a chysylltiedig Cymru, Iwerddon, Yr Alban a Lloegr yng NGWYL HANES Y PEDAIR GWLAD. Gyda siaradwyr yn cynnwys David Olusoga OBE gyda'i ddarlith ‘Slavery, Empire and Historical Amnesia’, David Starkey CBE ar ‘Henry VIII and Brexit’ a Lucy Worsley OBE ar ‘Queen Victoria: Daughter, Wife, Mother Widow’ mae'r tocynnau'n siwr o fod yn brin.
Mae gan Pontio berthynas hirdymor gyda'r grwp fydd yn perfformio i gau Hydref yn y brif theatr, 9BACH. Gyda sawl aelod o'r band o'r ardal, maent wedi perfformio sawl gwaith yn Pontio ers i'r ganolfan agor yn 2015, gyda ffans brwd yn lleol ond hefyd y gallu i ddenu ffans newydd pob tro y maent ar y llwyfan gyda'i sain unigryw a pherfformiadau cyfareddol. Ar Ddydd Sadwrn 26 Hydref, byddent yn edrych yn ôl i ryw raddau wrth berfformio caneuon o'r albwm gyntaf '9Bach' sydd wedi ei ail-ryddhau a'i ail-gymysgu ac yn ffurfio rhan o'u taith ledled y DU eleni. Gadewch i'w caneuon fynd a chi i grombil tirlun gogledd Cymru gyda lleisiau arallfydol, bîts 'dub', telyn a gitâr harmoniwm a threfniadau clyfar dros ben.
Mae Martin Hoyland o 9Bach hefyd yn gefnogol iawn o'r perfformiad olaf ym mis Hydref, sydd yn sicr o fod yn blatfform gwych i dalent o Fangor ar ffurf O IAITH I GÂN gan griw 8STARMUSIC. Peidiwch â cholli'r cyfle yma i weld sut mae'r cynllun a'r platfform pwysig hwn yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddatblygu eu cariad at wahanol fathau o gerddoriaeth o acwsteg i hip hop, a dewch i'w cefnogi wrth iddynt berfformio am y tro cyntaf mewn canolfan.
Am ragor o wybodaeth ynglyn â rhaglen artistig Pontio, a'r sinema 7 diwrnod yr wythnos sy'n agored i bawb, ewch i www.pontio.co.uk neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol, galwch i mewn yn y ganolfan am raglen neu ffoniwch 01248 38 28 28.
0 notes
Photo
AWGRYMIADAU AR GYFER CONFRA LANSIO 2017
Rydym newydd lansio Cronfa Lansio / Launchpad, lle gall cerddorion ac artistiaid yng Nghymru fanteisio ar grantiau hyd at £2,000 tuag at eu cerddoriaeth. Mae’n rhan bwysig o brosiect Gorwelion, gan fod cymorth ariannol yn hwb ymarferol iawn i’r byd cerddoriaeth yng Nghymru. Oherwydd y gronfa, mae llawer o'r bandiau wedi gallu recordio a chreu fideos ac mae’r gronfa hefyd wedi cyfrannu at ariannu swyddogion cyhoeddusrwydd (pluggers) i hyrwyddo’u cerddoriaeth yn y wasg neu ar y radio.
Mae artistiaid o bob cwr o Gymru wedi manteisio ar y Gronfa Lansio / Launchpad yn y gorffennol, ac maent i gyd wedi gallu defnyddio’r gronfa mewn ffyrdd ymarferol iawn. Gyda llawer o gerddorion yn ystyried gwneud cais unwaith eto eleni, roeddwn yn awyddus i ysgrifennu rhai awgrymiadau ymarferol a all helpu gyda’r cais. Bydd panel o arbenigwyr yn mynd drwy’r ceisiadau a bydd angen i chi ddangos i’r rhain y bydd y gronfa’n cyfrannu at brosiectau ysbrydoledig a fydd yn wirioneddol helpu’ch band i ddatblygu.
Beth sydd ei angen arnoch chi a sut gallwch brofi hyn?
1. Eglurder.
Atebwch y ffurflen gais mewn ffordd mor syml a chlir â phosibl.
Os ydych chi angen arian i deithio i gigs, peidiwch â gwneud cais am grant i'ch helpu chi i gael gitâr newydd. Os ydy’ch gitâr chi wedi torri, peidiwch â gwneud cais am grant i deithio i gigs.
2. Meddwl am brosiect.
Does dim rhaid i chi gael syniad mawr, ond a fydd creu’r un peth hwn yn gwneud gwahaniaeth i’ch blwyddyn chi? Roedd Estrons eisiau gwneud fideo, ac yn sicr mi wnaethon nhw fideo gwreiddiol a gwych. Mae fideo yn ffordd wych o hyrwyddo’ch cerddoriaeth - ond cofiwch feddwl am sut y byddwch yn ei hyrwyddo, beth fydd yn digwydd iddo, ydy'r fideo yn cefnogi gwaith newydd sy’n cael ei ryddhau? Pwy fydd yn gwneud y fideo, pryd, ydych chi wedi sgwrsio â'r cyfarwyddwyr, ydych chi wedi cael amcan-bris ganddyn nhw?
“Rydyn ni eisiau recordio gyda cherddorfa ar ben yr Wyddfa”. Bydd rhaid cael llond sach o arian i ariannu hynny. Gwnewch y syniad yn un creadigol ond yn realistig hefyd.
3. Cyllidebu
Hyd yn oed os yw’r symiau’n syml iawn, rhowch amser i ddangos faint y bydd rhywbeth yn ei gostio a gwnewch ychydig o ymchwil. Peidiwch â thanbrisio rhywbeth a rhowch ffocws i’ch cais. Er enghraifft, mae’n debyg ei bod yn well gwneud cais am un peth yn hytrach na chael sawl math o gostau.
Llwyddodd Reuel Elijah i rannu ei gyllideb yn dair rhan i gefnogi’i amser mewn stiwdio, recordio fideo cerddoriaeth a chyhoeddusrwydd ar gyfer sengl newydd.
4. Cyfarpar.
Mae cerddorion yn mwynhau prynu offer newydd, ac yn sicr mae’r Gronfa Lansio / Launchpad ar gael i helpu i ariannu eitemau fel hyn. Ond mae angen i chi ystyried sut y gallwch ddangos bod angen y drwm/cit/gitâr/allweddau newydd hyn arnoch chi.
Defnyddiodd Baby Queens eu gwobr i brynu microffonau newydd, er mwyn gallu mynd â nhw i gigs. A hwythau yn cynnwys 5 o gantorion, mae’n rhan bwysig o’u perfformiadau byw.
Defnyddiodd y Samoans arian y gronfa i brynu allweddellau gan eu galluogi i symud i gyfeiriadau newydd gyda’u gwaith cyfansoddi caneuon.
Ystyriwch, ai dyma’r peth pwysicaf mae’r band ei angen? Ydy hyn yn datblygu’ch cerddoriaeth neu a fyddai hyrwyddo/recordio mewn stiwdio yn fwy gwerthfawr yn eich sefyllfa?
5. Swyddogion Cyhoeddusrwydd (pluggers)
Os ydych chi wedi cael rhywfaint o lwyddiant yn barod gyda’ch cerddoriaeth, dyma rywbeth da i’w ystyried ar gyfer yr hyn y byddwch yn ei ryddhau nesaf. Pan ddewch o hyd i’r hyrwyddwr neu’r swyddog cyhoeddusrwydd iawn i gydweithio ag ef, gall eich helpu i gael rhywfaint o sylw yn y wasg neu ar-lein a allai eich helpu i lunio portffolio o adolygiadau, neu fe all ‘swyddog cyhoeddusrwydd radio’ (radio plugger) eich helpu i gael mwy o amser ar yr awyr y tu allan i Gymru. Ceisiwch ddod o hyd i swyddog cyhoeddusrwydd a fydd yn hoffi’ch cerddoriaeth, oherwydd eich bod yn edmygu’i restr o gleientiaid. Nid ydynt i gyd yn derbyn pob math o gerddoriaeth, gan y bydd ganddynt sioeau y maent yn cydweithio â nhw ac yn ymddiried ynddyn nhw ac felly mae angen iddynt gadw’u safonau cerddoriaeth eu hunain.
Gwnaeth grant Ellie Makes Music ariannu swyddog cyhoeddusrwydd cenedlaethol o safon uchel yn y maes recordio , a chafodd ei gwaith ei chwarae am y tro cyntaf ar yr awyr ar Radio 2 a BBC 6Music. Bu hefyd yn Artist yr Wythnos ar BBC Radio Wales.
6. Pwy sy’n malio?
Pwy sy’n hoffi'r band ar hyn o bryd? Faint o bobl sy’n dod i’ch gigs; pa mor bell oddi cartref fyddwch chi’n chwarae; pwy sydd wedi bod yn ysgrifennu amdanoch chi, yn chwarae’ch cerddoriaeth, yn cefnogi’ch gigs, yn mynd â chi ar daith fel band cefnogi? A gafodd y tocynnau eu gwerthu i gyd ar gyfer sioe yn y dref lle rydych yn byw? Os gallwch chi ddangos eich bod wedi cael cefnogaeth gan wahanol bobl yn y diwydiant cerddoriaeth, dyfynbris efallai oddi wrth hyrwyddwr gigs, cyflwynydd radio, newyddiadurwr, blogiwr, bydd hyn i gyd yn helpu’ch cais.
7. Syniadau
Rydym wrth ein bodd yn darllen am syniadau creadigol a diddorol. Yn ogystal â'r enghreifftiau uchod, dyma syniadau eraill am sut y gallai’r grant eich helpu chi:
Pecyn hyrwyddo proffesiynol neu ‘epk’
Logo/gwaith celf gan artist penodol ar gyfer cerddoriaeth newydd yr ydych am ei rhyddhau
Decor llwyfan ar gyfer gigs a gwyliau
Deunydd gweledol mewn gigs byw
Cymysgu gyda pheiriannydd proffesiynol
Amser mewn stiwdio
Llogi lleoliad ar gyfer ysgrifennu
Fideo proffesiynol
Cwmni Hyrwyddo
Cerddorion ychwanegol ar gyfer recordio neu berfformiad
Recordio neu drefniannau cerddorfaol
Hyrwyddo a threfnu gig lansio arbennig
Cydweithio artistig
Cyfarpar
8. Rhaid i'r cais fod amdanoch chi neu eich band
Rhaid i'r cais ddod oddi wrth yr artist ar gyfer yr artist. Caiff pobl broffesiynol, cwmnïau, stiwdios neu labeli wneud cais ar ran yr artist ond nid ar gyfer y cwmni rheoli/stiwdio/label yn gyffredinol.
9. Bob lwc!
Gobeithio bod hyn wedi helpu ryw ychydig wrth i chi ystyried eich cais – gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y canllawiau a’r telerau ac amodau yn llawn. Maent ar gael ar wefan Gorwelion. www.bbc.co.uk/horizons
#Horizons#Gorwelion#Estrons#Launchpad#Violetskies#tibet#funding#wales#music#support#babyqueens#houdinidax#tenderprey#artscouncilwales#adwaith#bbcwales#Afrocluster#AledRheon#bbc#cadno#festivalNo6#casi#samoans#mellt
1 note
·
View note
Text
Wythnos Ymddiriedolwyr 2019: Y daith o fod yn Wirfoddolwr i Ymddiriedolwr
Mae Ymddiriedolwr Mind Abertawe, Lauren Burns, yn blogio ynghylch ei thaith o fod yn wirfoddolwr i ymddiriedolwr a beth a ddysgodd o’r profiad. Mae Lauren wedi bod yn gweithio gyda Phrosiect ‘Link Up’ yn Abertawe i ddatblygu ei sgiliau ar gyfer ymddiriedolaeth.
1. Beth a’ch cymhellod i fod yn ymddiriedolwr?
Dechreuais wirfoddoli i Mind Abertawe dros bedair blynedd yn ôl. Roedd yn benderfyniad hawdd gan fy mod eisiau helpu pobl gydag iechyd meddwl a chael profiad o weithio mewn elusen. Trwy gydol fy amser yno, roeddwn yn gobeithio cymryd mwy o ran, a arweiniodd at wneud cais i fod yn aelod o'r bwrdd. Roedd agoriad i gynrychiolydd gwirfoddolwyr, felly meddyliais pam lai! Efallai y bydd yn gyfle da i wella fy ngwybodaeth a'm dealltwriaeth o'r trydydd sector ac, wrth gwrs, ychwanegu rhywbeth gwahanol i'm CV gan wneud iddo sefyll allan.
2. Beth ydych wedi’i fwynhau/ ennill o’r profiad?
Mae'r profiad hwn wedi bod yn wych gan fy mod i wedi dysgu cymaint. Mae wedi rhoi persbectif hollol wahanol i mi o’r elusen, wedi fy nysgu i fynd i’r afael â phroblemau’n weithredol ac wedi rhoi gwell syniad imi o’r darlun ‘trydydd sector’ mawr. Rwyf wedi cael cymaint o hyfforddiant, fel ysgrifennu ceisiadau, ysgrifennu cofnodion, cydraddoldeb ac amrywiaeth ar y bwrdd, gan fy mod yn aelod effeithiol o'r bwrdd. Mae wir wedi bod yn brofiad gwerth chweil.
‘Mae’r profiad hwn wedi bod yn wych ac rwyf wedi dysgu gymaint.’
3. Beth fu’r heriau?
Mae dwy her yn dod i'r meddwl; fy oedran a meddwl yn weithredol. Roeddwn i'n 24 oed pan ymunais â'r bwrdd, felly roeddwn i'n teimlo mai ychydig iawn o brofiad bywyd oedd gen i. Roeddwn hefyd yn rhy nerfus i ofyn cwestiynau oherwydd roeddwn yn ofni edrych yn dwp ac roeddwn yn ymladd meddyliau negyddol mewnol am beidio bod yn ddigon da ar ei gyfer. Fodd bynnag, gyda’r hyfforddiant a ddarparodd SCVS, amlygiad graddol, a mwy o hyder i ofyn cwestiynau, sylweddolais y gallwn fod yn aelod effeithiol o’r bwrdd, a hyd yn oed ysgwyddo cyfrifoldebau ychwanegol, megis bod yn Ysgrifennydd y bwrdd yn ogystal â Chynrychiolydd Gwirfoddolwyr. .
Yr her arall oedd symud o feddylfryd gweithredol, gwirfoddolwyr i un aelod bwrdd strategol. Mae hyn yn rhywbeth y bu'n rhaid i mi weithio'n barhaus arno yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ond mae gan SCVS gyfle mentoriaeth y gwnes i gofrestru ar ei gyfer. Dyrannwyd mentor i mi ac mae hi wedi bod yn anhygoel. Fe helpodd hi fi i ddod o hyd i atebion i heriau, fy nghyfeirio at amrywiol bobl a ffynonellau gwybodaeth er mwyn i mi allu datblygu fy ngwybodaeth, a chynorthwyo i wahaniaethu rhwng y ddau feddylfryd - gan bwysleisio'r gwahaniaeth rhwng edrych ar broblem gyda het 'weithredol', a ' het strategol.
4. Beth y credwch y dylai elusennau wneud i annog fwy o bobl i fod yn ymddiriedolwyr?
Rwy'n teimlo mai’r ffocws ar gyfer elusennau yw amrywiaeth yr ymddiriedolwyr. Byddai bwrdd llai, amrywiol, yn fy marn i, yn fwy effeithiol na bwrdd mwy wedi'i lenwi â phobl sy'n cael profiadau bywyd tebyg. Mae cefndiroedd amrywiol a gwybodaeth mewn ymddiriedolwyr yn bwysig iawn; gall greu gwell trafodaethau, nodi atebion arloesol i heriau, a chynyddu effeithlonrwydd bwrdd.
5. Beth fyddech chi’n ddweud wrth rywun sy’n ystyried bod yn ymddiriedolwr?
Byddwn i'n dweud i fynd amdani! Mewn gwirionedd, hyd yn oed pe na bai rhywun wedi ystyried bod yn ymddiriedolwr o'r blaen, dywedaf y dylent ystyried y peth. Mae gan bawb wybodaeth y gallant ei chyfrannu, ac weithiau os yw'n elusen fach, mae aelodau'r bwrdd yn cynorthwyo gyda rhai tasgau gweithredol uwch - felly gwerthfawrogir pâr ychwanegol o ddwylo, rhywun sy'n barod i helpu. Hefyd, byddwn yn dweud os mai rhan o'r rheswm nad ydych wedi gwneud cais i fod yn ymddiriedolwr yw oherwydd pryder neu nerfusrwydd, yna cysylltwch â'r elusen neu wasanaeth gwirfoddol cyngor lleol. Trefnwch apwyntiad i drafod gwneud cais i fod yn aelod o'r bwrdd a siarad â rhywun amdano. Nid oes unrhyw rwymedigaeth, dim ond sgwrs. Gallai fod yn werth chweil, roeddwn i'n sicr yn meddwl ei fod.
0 notes
Text
The Year of Living Danishly
The Year of Living Danishly: Uncovering the Secrets of the World’s Happiest Country Helen Russell (Icon, 2015)
Eleni, y Ffindir sy di dod ar frig y tabl ‘hapusrwydd’, sy’n dweud wrthon ni pa wlad sy hapusa ac yn sbarduno erthyglau ac eitemau radio di-rif am beth y’n ni’n neud yn anghywir a beth yw cyfrinach bywyd y Scandis. Achos gwledydd Scandinafia sydd yn ennill bob tro - er gwaetha’r tywyllwch 6 mis o’r flwyddyn, ma nhw yn neud rhwbeth yn well na ni.
Adeg cyhoeddi’r llyfr yma, Denmarc oedd y wlad hapusa yn y byd, ac mae’r gyfrol yn dilyn hanes y newyddiadurwr Helen Russell wrth iddi gyfarwyddo gyda’i bywyd newydd, yn archwilio sut beth yw hi i symud yno a beth sy’n gwneud bywyd yn Denmarc mor arbennig. Y rheswm dros y symud yw bod ei gŵr wedi cael swydd gyda Lego - cwmni Daneg - ac maen nhw’n symud i ardal weddol wledig Jutland, lle mae pencadlys Lego.
Mae pob pennod yn dilyn misoedd y flwyddyn (gyda phennod ar wahan i’r Nadolig, ma’n rhwbeth mawr mas na), ac yn rhoi sylw i agwedd wahanol o fyw: Ionawr yw Hygge and Home (cyn bod hygge yn ffasiynol), Chwefror, Forgetting the 9-5, Mawrth, Leisure and Languages, ayyb. A bod yn deg, mae na sylw yn cael ei roi i bob agwedd o fywyd: bwyd, y system iechyd, gwyliau haf, traddodiadau, a sut beth yw hi i fod yn fenyw yn Denmarc (da o ran hawliau cydraddodldeb, dal ddim yn gret i fod yn fenyw ar trydar sy’n gyfrifol am gyfrif Everyday Sexism y wlad). Dwi’n sicr wedi dysgu dipyn am Ddenmarc - ac yn awyddus i fynd ar wyliau yno - ond dyw’r llyfr ddim yn mynd i newid fy mywyd i mewn unrhyw ffordd. Os rhywbeth mae e wedi fy neud i yn fwy grwgnachlyd am arferion gwaith y wlad yma - “Mae pobl yn Denmarc yn mynd adre nawr, pam nagyn ni’n neud yr un peth?” Dyw e chwaith ddim wedi neud i fi eisiau symud yno - dim ots pa mor cwl y’n nhw gyd a faint o wylie ma nhw’n cal - fi dal ddim yn meddwl bydde’r tywyllwch ac oerfel ac eira yn fy siwtio i, hyd yn oed os oes gan bobman wres dan y llawr (the dream!).
Ma na bethau eitha annisgywl yn y llyfr hefyd - er enghraifft yr ystadegau am ysgariad - mae’n uchel iawn yno. Ond dyw e ddim yn rhywbeth sy’n cael ei feirniadu, ac mae’r broses, yn ôl pob tebyg, yn hawdd iawn. Mae’r rhan fwya o bobl yn ysgaru ar ôl eu gwyliau haf - mae bron pawb yn mynd i ffwrdd am dair wythnos neu fwy, ac yn sylweddoli eu bod nhw ddim yn lico’i gilydd rhagor. Ond ma hyn yn ffaith bywyd sy’n cael ei dderbyn yn ddigon pragmataidd yno, yn ôl Russell. Maen nhw’n keen beans yn Denmarc hefyd - ma pawb yn aelod o rhyw fath o glwb, ac yn cymryd rhan mewn gweithgaredd allgyrsiol fel côr neu dîm chwaraeon o rhyw fath. Mae hyn yn rhywbeth sy’n cael ei drin gan Russell yn eitha rhyfedd - ond i fi sydd wedi bod yn aelod o gorau ers ysgol, dyw e ddim yn syniad mor rhyfedd i dalu i fod yn rhan o rhywbeth, Ma nhw hefyd yn super joio Dolig yn Denmarc, a’r dathliadau dechrau’r Dolig yn swno yn hollol nyts: sesh enfawr yn y strydoedd, sponsored by Carlsberg.
Er gwaetha’r ffaith fy mod i wedi dysgu dipyn am y wlad drwy ddarllen y llyfr, dwi ddim yn siwr os alla i ddweud fy mod i wedi mwynhau ei ddarllen yn fawr. Mae gen i bach o broblem gyda adroddwyr annoying - ac yn anffodus odd Helen Russell yn mynd ar fy nerfau i braidd. Cyn symud i Denmark, mae hi’n newyddiadurwr ‘lifestyle’ i gylchgrawn menywod yn Llundain, ac mae unrhywun sy di darllen erthygl yn Grazia neu Elle yn mynd i nabod arddull sgwennu Russell yn syth. Mae hi’n gwneud lot o jôcs sy ddim yn jôcs, ac i fi byddai well gen i fod yr asides hyn ddim yn y llyfr. Dyw hi ddim yn enwi unrhywun o’i chydnabod persool chwaith, ond yn hytrach yn cyfeirio atyn nhw fel ‘Beardy Neighbour’ a ‘Lego Man’. Weithie o’n i’n teimlo fydde’n iawn iddi weud ‘my husband’, gan fod ‘Lego Man’ yn gwnedu imi ei ddychmygu fel person sy wedi’i wneud mas o Lego yn hytrach na pherson sy’n gweithio i gwmni Lego. Roedd e’n weddol amlwg fod na fformiwla yn cael ei ddilyn yn bob pennod hefyd: dyma be sy wedi digwydd mis yma i neud i fi feddwl am yr agwedd yma o fywyd yn Denmarc. Beth am ffindo mwy mas? Dyma fy sgwrs gyda arbenigwr x (ohoho ma da nhw gyd yr un enw) air am air. Dyma fy nghasgliad am yr agwydd yma o fywyd yn Denmarc.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwybod mwy am Denmarc, ma’r llyfr ma yn werth darllen, Nes i ddim casau e, ond dyw e ddim y llyfr cynta fyswn i’n ei argymell chwaith. Ar y cyfan, digon diddorol, ond yn anffodus do’n i ddim yn gallu twymo at yr awdur oherwydd yr arddull.
0 notes
Text
Day 26 - Thoughts
Dw i ‘di dysgu heddiw bod “pnawn” isn’t just considered a contraction but a full word yn Gymraeg :D Dw i’n meddwl that is pretty cool. I mean I get bod etymologically mae’n a contraction ond for all intents a purposes nowadays mae’n a word in its own right. As for the rest of the lesson, pretty standard. Got plenty wrong ond not enough to require repeating e.
Alla i ddim believe bod dw i ‘di gneud lesson 20 yn barod though…! Time flies when you’re having fun I guess :) There are only 5 lessons left in level 1 so I’ll be looking to finish that by next wythnos. Then I’ll probably move pretty swiftly onto Level 2. Sure mae’n £3.95 bob mis ond dw i’n meddwl that’s a pretty da price for learning a whole language!
I figure I’m just not mynd i comment on the listenings anymore…we all gwbod bo' fi' ddim yn gnaed them properly despite occasional efforts to (like gyda’r newydd one heddiw). 🙈
0 notes
Text
Prydain a Saudi Arabia
(Munud I Feddwl 30 /5/ 2017)
Fel arfer bydda i’n paratoi testun fy sgwrs Munud I Feddwl ryw bum niwrnod yn gynnar a’i ddanfon i mewn at y golygydd. Yr wythnos diwethaf, fodd bynnag, digwyddodd yr ymosodiad terfysgol ym Manceinion ychydig oriau cyn i mi ddod i mewn i’r stiwdio. Er i mi hanner ystyried y peth, penderfynais beidio â newid testun ar y funud olaf nes i mi gael cyfle i bwyso a mesur fy ngeiriau’n ofalus. A dyma fi, wythnos yn ddiweddarach, wedi gwneud.
Flwyddyn yn ôl aeth fy ngwraig a finnau ar wyliau i Kazakhstan i ymweld â fy mrawd yng nghyfraith sy’n gweithio yno. Mae’r wlad yn un fwyafrifol Fwslemaidd ar y groesffordd rhwng Rwsia, y Dwyrain Canol a’r Dwyrain Pell. Mae hi’n gweld ei hun fel gwlad fodern, flaengar, gynhwysol ac mae’n ymfalchïo yn y modd y mae wedi llwyddo i sicrhau cynghanedd a chyd-ddealltwriaeth rhwng y gwahanol grefyddau a grwpiau ethnig sy’n trigo yn y wlad.
Ddim yn bell, fodd bynnag, o fflat fy mrawd yng nghyfraith yn Astana, prif ddinas Kazakhstan, roedd mosg anferth a godwyd gydag arian o Saudi Arabia. Mae hyn yn ddatblygiad sy’n gynyddol gyffredin, bellach, nid yn unig ar draws y byd Mwslemaidd ond hefyd yn y byd gorllewinol wrth i Saudi Arabia ddefnyddio’i chyfoeth sylweddol i godi addoldai a sefydliadau addysg grefyddol i allforio’r math piwritanaidd, eithafol a pheryglus o Islam y mae’n ei arddel.
Palas Heddwch a Chymod Kazhakstan (triongl) gyda thŵr y mosg a ariannwyd gan Saudi Arabia y tu ôl iddo.
Mae gan Saudi Arabia record hawliau dynol gyda’r gwaethaf yn y byd, sy’n cynnwys croesholio pobl ifainc am brotestio’n heddychlon, ac mae’n wybyddus mai diwinyddiaeth ormesol sect Wahhabi Saudi Arabia sydd y tu ôl i dwf mudiadau fel Al Qaeda, Isis a Boko Haram. Cafodd y mudiadau Salafi Wahhabi gwreiddiol eu creu a’u cefnogi’n ariannol gan wledydd y gorllewin, yn enwedig Yr Unol Daleithiau, mewn partneriaeth â Saudi Arabia, yn ystod cyfnod gwrthryfel y Mujahideen yn Afghanistan yn erbyn y Rwsiaid. .
O ystyried y ffeithiau digon hysbys hyn pam felly fod Prydain a’r Unol Daleithiau mor daer eisau gwerthu arfau i Saudi Arabia a chynnal ei breichiau ar y llwyfan rhyngwladol? Pam caniatâu iddi genhadu ar draws y byd os yw hynny’n debygol o arwain at radicaleiddio a therfysgaeth? Ai olew, elw o fasnachu mewn arfau ac ystyriaethau neo-drefedigaethol sydd y tu ôl i hyn? Os ydym am drechu terfysgaeth Fwslemaidd ryngwladol a’r ideoleg ddigymrodedd sy’n ei gyrru hwyr neu hwyrach mae cefnogaeth Prydain i Saudi Arabia yn fater y bydd angen i ni roi sylw canolog iddo.
Wele isod ferch ifanc Fwslemaidd yn galw am wahardd Mosgiau sydd wedi’u hariannu gan Saudi Arabia
https://www.youtube.com/watch?v=L-P7ffabOak
youtube
0 notes
Text
EISTEDDFOD CYMDEITHAS CEREDIGION 2021 (Mawrth 6ed)
Ni chyfyngir y cystadlaethau i aelodau Cymdeithas Ceredigion
Beirniad: Terwyn Tomos
Rhestr testunau:
Cystadleuaeth Cadair Pat Neill – Cerdd neu gasgliad o gerddi, caeth neu rydd - Aros
Gwobr: Cadair fechan a £50
1. Englyn - i unrhyw greadur
2. Englyn Ysgafn- Bolaheulo
3. Telyneg - Angor
4. Cywydd- i ofyn am ffafr
5. Cân Ysgafn (dim mwy na 24 llinell) - Ar Goll
6. Parodi - unrhyw gerdd gan T.Llew Jones
7.Trydargerdd - gair o gyngor i ymwelydd
8. Dyddiadur - wythnos o’r Cyfnod Clo
9. Ysgrif /Stori Fer - Storm
10. Erthygl Papur Bro neu Blog - yn ymwneud â hobi neu ddiddordeb
11. Cân werin neu baled - i ddigwyddiad hanesyddol o 1971 ymlaen
12. Cystadleuaeth Cymraeg Ail Iaith - darn o ryddiaith neu farddoniaeth yn ymwneud ag unrhyw le
Gwobr i bob cystadleuaeth; £10 yr un oni nodir yn wahanol.
Gwobrau eraill I’w cadw am flwyddyn). Cadair Her am y farddoniaeth orau (ac eithrio cystadleuaeth Pat Neill)
Cwpan Her Ben Owens am y darn rhyddiaith gorau.
Rhaid i bob ymgais unigol fod o dan ffugenw, gydag enw'r ymgeisydd ar wahân.
Derbynnir defnydd drwy bost neu ar ffurf electronig drwy e-bost.
Dyddiad cau: Dydd Llun, Chwefror 15fed 2021
Y cyfansoddiadau i law'r Ysgrifennydd, Carol Byrne Jones, Pencartws, Ffordd Tresaith, Aber-porth, Ceredigion, SA43 2EB. e-bost: [email protected]
01239 811024
0 notes
Text
Cipolwg o Pontio Behind the Scenes - Blog 4
Mae yna lawer o fanteision o wirfoddoli yn Pontio. Nid yn unig ydyn ni’n cael gweld nifer o bethau gwahanol am ddim, o ffilmiau a chomedïwyr i bale, cafodd y tîm daith cefnllwyfan unigryw fel rhan o Wythnos Gwirfoddolwyr – dwi am adael chi wybod am bopeth!
There are many perks to being a volunteer at Pontio. Not only do we get to see a wealth of different things for free, from films or comedians to ballet, the team were given an exclusive backstage tour as part of Volunteers’ Week – and I’m going to tell you all about it!
Lle well i ddechrau taith cefnllwyfan na mewn ystafell wisgo, cyn cael ein galw i’r llwyfan. Roedd dau o’r technegwyr (Gwion a Iolo) yn ein tywys o amgylch yr adeilad, ac roedd hi’n brofiad rhyfedd cerdded ar y llwyfan i ganol mwg a goleuadau yn hytrach na gwylio’r cyffro o’r gynulleidfa. Nesaf aethon ni lawr o dan y llwyfan a gweld sut mae llawr Theatr Bryn Terfel yn gallu gostwng a chodi yn galluogi’r technegwyr baratoi ar gyfer digwyddiadau gwahanol o gyngerdd clasurol gyda chadeiriau a phwll cerddorfa, i gig lle mae pawb angen lle i ddawnsio. Wedyn daeth rhan mwyaf cyffroes y daith sef y rigs. O’r rigs roedd golygfa hollol wahanol o’r theatr, ac fe ddringodd rhai o’n gwirfoddolwyr mwyaf dewr hyd yn oed yn uwch ond roedd gen i ormod o ofn! Yna cloi prynhawn gwych gyda darn blasus o deisen o Cegin – diolch i Sharon am drefnu ac i pawb am gymeryd rhan.
Where better to start a backstage tour than a dressing room, before being given our call to the stage. Two of the technicians (Gwion and Iolo) showed us around the building, it was a strange experience walking on stage with smoke and lights rather than watching the excitement from the audience. Next we went down to the basement to see how the floor of Theatr Bryn Terfel can sink and rise to allow the technicians to prepare for different events, from a classical concert with an orchestra pit and chairs, to a rock gig where everyone needs room to dance. Then came the most exciting part of the tour – the rigs. From the rigs you had a bird’s-eye view of the theatre and a few of the bravest volunteers climbed even higher, but I was too much of a chicken. Last but not least was a lovely piece of cake from Cegin to end a great afternoon – thanks Sharon for arranging, and to everyone for taking part.
WNO @ Pontio
Wythnos diwethaf ges i’r cyfle i fynychu gweithdai Opera Cenedlaethol Cymru dan arweiniad Jenny Pearson yn Ysgol Gwaun Gynfi ac Ysgol Gynradd Bethel. Wnes i wir fwynhau fy niwrnod ac roedd hi’n hyfryd gweld y plant yn mwynhau yr ymarferion a chanu Opera. Mae Jenny, Huw Llywelyn ac Annette Bryn Parry wedi bod yn hyfforddi 210 o blant o 8 ysgol gynradd a bydd pawb yn dod at ei gilydd i berfformio’r Hwyrol Weddi o’r opera Hansel a Gretel gyda cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yma yn Pontio ar Fehefin y 22ain. Mae plant Ysgol Llanrug ac Ysgol Llanfairpwll hefyd wedi bod yn rhan o brosiect animeiddio gyda Rhian Cadwaladr, Manon Llwyd a’r animeiddiwr Hywel Griffith o Griffilms, yn datblygu stori ar gyfer ffilm animeiddio byr ar y thema “Noson o Haf yn yr Opera”. Bore dydd Iau bydd ei ffilm “Gardd o Gerdd” yn cael ei chwarae ar sgrin fawr y sinema yma i’r plant gael gweld ffrwyth ei llafur. Bydd hefyd cyfle iddynt glywed rhywfaint o’r ymarfer ar gyfer cyngerdd Clasuron yr Haf fydd ymlaen y noson honno gan Gerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, Rebecca Evans a Paul Charles Clarke. Mae’r cyngerdd yn gaddo uchafbwyntiau operatig gan Verdi, Puccini, Dvorak a llawer mwy - peidiwch a methu allan! Os nad oedd cystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd yn ddigon o ysbrydoliaeth dyma playlist clasurol Pontio sy’n cynnwys rhai o fy hoff arias a darnau enwog cerddorfaol i’ch ysgogi.
Last week I had the opportunity to attend Welsh National Opera workshops led by Jenny Pearson at Ysgol Gwaun Gynfi and Ysgol Gynradd Bethel. I really enjoyed my day and it was great to see the children enjoying the exercises and singing opera. Jenny, Huw Llywelyn and Annette Bryn Parry have been working with 210 children from 8 primary schools. Everyone will come together to perform the Evening Prayer from the opera Hansel and Gretel with the Welsh National Opera Orchestra here at Pontio on June the 22nd. Children from Ysgol Llanrug and Ysgol Llanfairpwll have also been part of an animation project with Rhian Cadwaladr, Manon Llwyd and the animator Hywel Griffith of Griffilms developing a story for a short animated movie on the theme “Summer Night at the Opera”. Their film “Garden of Music” will be played at the cinema here at Pontio on Thursday morning so that the children can see the fruits of their labour on the big screen. There will also be an opportunity for them to watch rehearsals for the Summer Classics concert by the Welsh National Opera Orchestra, Rebecca Evans and Paul Charles Clarke that will be happening on Thursday evening. It promises to include operatic highlights by Verdi, Puccini, Dvorak and many more – don’t miss out! If Cardiff Singer of the World hasn’t inspired you enough here is Pontio’s classical playlist, which includes some of my favourite arias and famous orchestral pieces to get you in the mood.
https://open.spotify.com/user/elynberlin/playlist/70XDvObJP7ak1CUkNj5F0l
Ar Fehefin y 9fed gwnaeth Al Lewis Band berfformio yn un o nosweithiau Cabaret Pontio. Roedd awyrgylch hamddenol braf yn y theatr a cawsom berfformiad egnïol o rai o ganeuon mwyaf adnabyddus Cymraeg a Saesneg Al Lewis. Mae Al wedi rhyddhau 5 albwm hyd yn hyn ac wedi ennill gwobr “Artist Gwrywaidd Gorau” Gwobrau BBC Radio Cymru am ddwy flynedd yn olynol. Mae hefyd yn aelod o’r grŵp Lewis & Leigh fydd yn agor cyngerdd Jools Holland yn Venue Cymru ar y 5ed o Orffennaf. Dyma gasgliad o luniau o’r gig ....
On the 9th of June Al Lewis Band performed at one of Pontio’s Cabaret events. There was a lovely relaxed atmosphere in the theatre and the band gave a great performance of some of Al Lewis’ most popular Welsh and English songs. Al has released 5 albums so far and has won the award for “Best Male Artist” two years in a row at the BBC Radio Cymru Awards. He is also a member of the group Lewis & Leigh who will open Jools Holland’s concert at Venue Cymru on the 5th of July. Here are a few pictures from the gig....
Ar hyn o bryd mae pawb yn y swyddfa’n brysur iawn yn paratoi ar gyfer Gwledd Syrcas Pontio yn mis Gorffennaf. Dwi’n edrych ymlaen at yr holl digwyddiadau cyffroes sydd i ddod a pwy a ŵyr, efallai wnai hyd yn oed wneud playlist syrcas i chi!
Everyone in the office is busy preparing for Pontio’s Syrcas Feast in July. I’m really looking forward to all the exciting events ahead, and who knows I might even make you a circus playlist!
1 note
·
View note
Text
Cipolwg o Pontio Behind the Scenes - Blog 2
Mae bythefnos wedi gwibio heibio ers y blog cyntaf a dwi bellach wedi gwirfoddoli ar fy nigwyddiad cyntaf yn Pontio! Ces i’r pleser o stiwardio cyngerdd Cwmni Theatr Maldwyn a Ysgol Theatr Maldwyn – Cadw’r Fflam yn Fyw. Roedd hi’n wych gweld y llwyfan yn llawn dop o berfformwyr a wnes i wir fwynhau y profiad.
Two weeks have flown by since my first blog, and by now I’ve officially volunteered on my first event at Pontio! I had the pleasure of working as a steward during Cwmni Theatr Maldwyn and Ysgol Theatr Maldwyn’s show – Cadw’r Fflam yn Fyw. It was great to see the stage absolutely packed with performers and I really enjoyed the experience.
Pam gwirfoddoli?
Nid yn unig ydych chi’n helpu mudiad fel Pontio weithio’n effeithiol fel gwirfoddolwr, mae’n gyfle gwych i gyfarfod pobl newydd, datblygu sgiliau ac i weld perfformiadau a ffilmiau am ddim! Dwi wedi gwirfoddoli mewn nifer o ŵyliau a digwyddiadau gwahanol bellach - mae’n ffordd gwych o gael cipolwg ar gwmni ac yn brofiad gwych i roi ar y CV.
Why volunteer?
As a volunteer you’re not only helping an organisation like Pontio work efficiently, it’s a great opportunity to meet new people, develop skills and see performances and films for free! I’ve volunteered at a number of various festivals and events – it’s a excellent insight into how an organisation works and a great experience to put on the CV.
Fel ydych chi’n gwybod o’r blog diwethaf dwi’n gweithio ar playlists i chwarae yn ardaloedd cyhoeddus Pontio ar gyfer nifer o ddigwyddiadau gwahanol. Gwerin ydi’r playlist dwi am rannu efo chi wythnos yma – detholiad o ddarnau gwerinol traddodiadol o Gymru ac Iwerddon, a Folk Pop o ar draws Ewrop – mwynhewch!
As you know from my last blog, I’m currently working on some playlists that will be played in Pontio’s public areas for different events. The second playlist that I’m sharing with you is Folk music – a selection of Folk pieces from Wales and Ireland as well as Folk Pop from across Europe – enjoy!
https://open.spotify.com/user/elynberlin/playlist/3fdUkpKEHCSNocFANvAyXQ
Un o’r bandiau sy’n ymddangos ar y playlist ydi Calan – 5 o gerddorion ifanc sy’n rhoi tro bywiog ei hunain ar gerddoriaeth traddodiadol Gymreig. Cychwynnodd y band yn bysgio ar strydoedd Caerdydd ond yn 2015 wnaethon nhw berfformio yn y Royal Albert Hall fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Bryn Terfel yn 50 a bellach mae nhw wedi bod ar sawl taith i Ogledd America. Ar hyn o bryd mae nhw’n teithio o amgylch Prydain yn hyrwyddo ei albwm newydd Solomon. Mae’n rhaid i mi gyfaddef nad ydwi fel arfer yn ffan mawr o gerddoriaeth gwerin, ond dwi wrth fy modd efo’r albwm, yn enwedig Kân a’i fersiwn o Yr Eneth G’add ei Gwrthod.
Dyma ychydig luniau o’i gig yma yn Pontio gyda Gwilym Bowen Rhys ...
One of the bands that appear on the playlist is Calan – 5 young musicians who give traditional welsh music their own vibrant sound. The band began by busking on the streets of Cardiff but by 2015 they had performed at the Royal Albert Hall as part of Bryn Terfel’s 50th birthday celebrations and they’ve recently been on many tours of North America. They are currently on an UK tour promoting their new album Solomon. I have to admit that I’m not usually a huge folk music fan, but I adore this album, especially Kân and their version of Yr Eneth G’add ei Gwrthod.
Here are a few pictures of their gig here at Pontio with Gwilym Bowen Rhys …
Cofiwch bod hi’n Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia wythnos nesaf. Bydd stondin yn Pontio ar ddydd Mercher yr 17fed o Fai o 10 tan 2 felly dewch i ddysgu am dementia a sut i gefnogi pobl sy’n byw gyda dementia a’i gofalwyr.
Remember that it’s Dementia Awareness Week next week. There will be a stall at Pontio on Wednesday the 17th of May from 10 until 2 so come to learn more about dementia and how to support people living with dementia and their carers.
1 note
·
View note
Text
Wythnos Ymddiriedolwyr 2019 - Persbectif Ymddiriedolwr Ifanc
Fel rhan o Wythnos Ymddiriedolwyr 2019, mae Kyle Evans yn ymddiriedolwr uchelgeisiol sy’n blogio am eu ddiddordeb I ddod yn ymddiriedolwr. Mae Kyle wedi bod yn gweithio gyda’r Prosiect ‘Link Up’ yn Abetawe i ddatblgu ei sgiliau wrth baratoi ar gyfer ymddiriedolaeth.
Ar hyn o bryd, rwy’n cysgodi aelod o fwrdd yr ymddiriedolwyr. Er nad ydwyf eto wedi ymuno’n swyddogol, rwyf wedi dygsu cymaint ac yn teimlo fel fy mod wedi cyfrannu’n fawr ac oblegid wedi helpu llawer o bobl yn barod.
1. Beth ach cymhellodd i fod yn ymddiriedolwr?
Roedd fy ngwir gymhellion yn canolbwyntio ar helpu pobl ac maent yn canolbwyntio arnynt. Nid pobl â phroblemau iechyd meddwl yn unig, er bod hynny'n achos rwy'n poeni'n fawr amdano felly mae'n fan cychwyn da i ganolbwyntio fy ymdrechion arnynyt. Ar ôl ymchwilio i'r trydydd sector darganfyddais rôl ymddiriedolwr a sylweddolais mai dyma lle byddwn o'r cymorth mwyaf.
2. Beth ydych chi wedi ei fwynhau/ennil o’r profiad?
Rwyf wedi mwynhau'r amser yr wyf wedi'i dreulio yn gweithio gyda'r bwrdd hyd yn hyn. Rwy’n dysgu mwy am y trydydd sector yn barhaus a sut mae ei sefydliadau'n cael eu rhedeg yn effeithiol. Rwyf wedi ennill profiad gwych wrth werthuso sut mae sefydliad yn gwneud, a chynllunio'n strategol ar gyfer y dyfodol. Rwyf wedi cael hwyl yn dod i adnabod rhai o'r gwirfoddolwyr a chlywed eu straeon, ac wedi mwynhau sawl cyfarfod lle mae'n rhaid i mi gwrdd â'r defnyddwyr gwasanaeth go iawn a gweld yr effaith y mae'r sefydliad yn ei chael ar eu bywydau. Pan welwch bobl mewn gwirionedd yn cael eu heffeithio'n gadarnhaol, mae'n gwneud yr holl ymdrech yn werth chweil.
‘Roedd fy ngwir gymhelliad oedd ac ydy helpu pobl’
3. Beth oedd yr heriau?
Bu heriau, a chredaf y byddai unrhyw un sy'n ymuno ag unrhyw sefydliad newydd yn cael rhai. Y cyntaf oedd mai ychydig iawn o brofiad oedd geni yn y trydydd sector felly bu cromlin ddysgu serth yn y gwahaniaeth rhwng hynny a'r sector preifat. Mae heriau personol eraill wedi ymwneud yn bennaf â rheoli amser. Rhaid i mi ffitio’r cyfarfodydd, adolygu deunyddiau, a mynychu cyrsiau perthnasol o amgylch prifysgol a gweithio felly mae’n amserlen mor eithaf prysur (yn amlwg mae hynny oherwydd fy ymrwymiadau fel na ddylai atal unrhyw un rhag dod yn ymddiriedolwr gan fod ymrwymiadau amser pawb yn wahanol).
4. Beth y credwch y dylai elusennau wneud i annog mwy o bobl i ddod yn ymddiriedolwr?
Rwy'n credu bod agweddau pwysig ar gyfer elusennau neu sefydliadau corfforedig yn eu hymgyrch i recriwtio mwy o ymddiriedolwyr yn ymwneud â gwneud y rôl yn fwy hygyrch felly hysbysebu'n dda, a’u gwneud yn amlwg eu bod yn chwilio am ystod amrywiol o bobl. Peth arall y gallant ei wneud yn amlwg i bobl yn eu hysbysebion recriwtio yw ymwneud â sgiliau, nid oes gan bawb bob sgil, ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn credu'n awtomatig eu bod wedi'u hanghymhwyso ar gyfer rôl o'r fath. Mae gan bawb ryw sgil felly ni ddylai unrhyw un ofni gwneud cais o leiaf.
5. Beth fyddech chi’n ddweud wrth rywun sy’n meddwl bod yn ymddiriedolwr?
Byddwn i’n dweud wrthoch fynd amdani. Er ei fod yn ymrwymiad difrifol, a’ch bod yn ymroi eich hun i’r mudiad hwnnw hyd y gellir rhagweld, mae wirioneddol yn werth chweil. Os oes gennych angerdd am helpu pobl neu hyd yn oed awydd bach i wneud hynny, ac os ydym yn bod yn onest yma credaf fod gan bob un ohonom yr awydd bach hwnnw oleiaf, yna nid oes llawer o bethau mor foddhaol â gwylio mudiad yn tyfu neu weld prosiect a fydd yn fuddiol i bobl mewn ffordd ystyrlon yn datblygu a gwybod eich bod wedi bod yn rhan o wneud hynny ddigwydd.
0 notes
Text
Wythnos Cyflog Byw – beth sydd ymlaen
Yn y blog yma, mae Bethan Harvey, Gweinyddwr Prosiectau a Digwyddiadau Cynnal Cymru, yn egluro pwysigrwydd y Living Wage Foundation a sut fydd Cynnal yn dathlu Wythnos Cyflog Byw.
Sefydlwyd y Living Wage Foundation yn 2005 o ganlyniad i bedair blynedd o drefnu cymunedol ac ymgyrchu gan y grŵp cymunedol London Citizens. Fe’i sefydlwyd er mwyn gwahanu gwaith ffurfiol y broses achredu oddi wrth y gwaith ar lawr gwlad mewn cymunedau ond mae ysbryd yr ymgyrch wreiddiol yn parhau – sef cyfiawnder cymdeithasol a chwarae teg i bawb.
Cynnal Cymru yw’r corff achredu yng Nghymru a hynny ers 2016. Yn yr amser hwnnw mae nifer y mudiadau achrededig yng Nghymru wedi dyblu, ac yn eu mysg y mae mudiadau angori megis Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol, Cyngor Caerdydd, Prifysgol Caerdydd a 160 o fudiadau eraill. Mae gwaith yn mynd rhagddo i dargedu sefydliadau adnabyddus a symbolaidd yn yr ymdrech i sicrhau chwarae teg ac i annog eraill i ddilyn yr esiampl. Mae gweledigaethau ar gyfer dyfodol gwell i weithwyr Cymru yn cynnwys amcan i ymestyn y Cyflog Byw i ddinasoedd ac economïau cyfan ac ym mhob cam ar hyd cadwyni cyflenwi.
Beth yw Wythnos Cyflog Byw?
Wythnos Cyflog Byw yw dathliad cenedlaethol yr ymgyrch a phawb sy’n rhan ohoni, boed hynny drwy achredu eu mudiad, eu dylanwad fel ffigwr cyhoeddus neu fathau eraill o gefnogaeth i drechu tlodi mewn gwaith. Cynhelir Wythnos Cyflog Byw rhwng dydd Llun 5ed Tachwedd a dydd Gwener 9fed Tachwedd gan gynnwys cyfres o ddigwyddiadau, cyhoeddiadau a chryn dipyn o hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae pob rhan o Brydain yn dechrau eu dathliadau mewn digwyddiad lansio ddydd Llun 5ed Tachwedd a fydd yn cyhoeddi cyfraddau newydd y Cyflog Byw Go Iawn. Cyfrifir y cyfraddau hyn bob blwyddyn gan y Resolution Foundation er mwyn cyfrifo’r gost byw go iawn yn gywir gan gynnwys rhent/morgais, ynni a chynhaliaeth, bwyd a diod, teithio a thanwydd a’r pethau ychwanegol hollbwysig a all wella llesiant yn fawr megis gweithgareddau hamdden, hobïau, neu’r cyfle i gynilo at wyliau, anrhegion neu fuddsoddi at y dyfodol.
Lansio’r wythnos yng Nghymru
Cynhelir digwyddiad lansio Cymru yn Big Moose Coffee Company ar Heol Frederic yng Nghaerdydd. Mae’r lle wedi mynd o nerth i nerth fel tŷ coffi annibynnol carismatig sy’n ariannu hyfforddiant i unigolion digartref er mwyn eu galluogi i fwynhau gwaith diogel a buddion Cyflog Byw, rhywbeth yr ymrwymodd rheolwyr y caffi iddo yn fuan ar ôl agor.
Cynhelir y digwyddiad rhwng 08:30 a 10:00 a bydd Prif Weinidog Cymru yn cyhoeddi’r cyfraddau newydd wrth iddynt gael eu rhyddhau ledled Prydain, gan ddod â rhwydwaith Cyflog Byw ym mhob rhan o Brydain at ei gilydd er gwaethaf y pellter daearyddol. Ymysg y gwesteion fydd aelodau o’r Wasg, y Panel Cynghori Cyflog Byw, Citizens Cymru ac aelodau o rwydwaith Cyflogwyr Cyflog Byw. Rhoddir tocynnau ar sail y cyntaf i’r felin.
Os na allwch ddod i’r Digwyddiad Lansio, cynhelir digwyddiad mwy agored ddydd Mercher 7fed Tachwedd yn swyddfa WCVA, Tŷ Baltig, Sgwâr Mount Stuart, Bae Caerdydd. Digwyddiad rhwydweithio fydd hwn i unrhyw un sydd am gael gwybod mwy am y Cyflog Byw a chwrdd ag unigolion o’r un anian dros ginio llysieuol a fegan carbon isel.
Cynnal eich dathliad eich hun
Yn lle hynny neu ar ben hynny, anogir mudiadau i gynnal eu dathliadau eu hunain yn eu swyddfeydd a’u mudiadau ar hyd a lled y wlad ac i roi deunydd o’u pecynnau digidol ar y cyfryngau cymdeithasol i rannu’r hwyl yn ogystal â’r neges ynglŷn â’r cynnydd mewn ansawdd bywyd y gall y Cyflog Byw Go Iawn ei wneud gan gynnwys llesiant gwell, dal gafael ar weithwyr yn well, bodlonrwydd yn y swydd a hunan-barch.
Os oes gennych gwestiwn am y Living Wage Foundation a’i waith yng Nghymru drwy Cynnal Cymru neu os hoffech gymryd rhan yn nathliadau’r Wythnos Cyflog Byw mae croeso i chi gysylltu â Bethan drwy ffonio 02920 431746 neu ebostio [email protected].
0 notes