Myfyrdodau ynglŷn â bywyd, y bydysawd a ballu (a'r iaith Gymraeg).
Don't wanna be here? Send us removal request.
Text
"Croeso i Uffern" - Israel a'i "hawl i arteithio"
0 notes
Text
Two hundred eyes for an eye, Two hundred teeth for a tooth
An English language version of a talk which I gave to the Caernarfon vigil for Palestine in Caernarfon at the end of July 2024. It was passed on to The African for publication by South African colleagues who were in attendence at the vigil. A slightly amended verion was published in Welsh on Golwg360. It discusses Israel's Dahiya Doctrine, its deliberate policy of indiscriminatley killing huge numbers of Palestinian or Lebanese civilians as part of its ongoing quest for dominance in the region.
#free palestine#palestinian genocide#i stand with palestine#gaza genocide#dahiya#israel palestine conflict
0 notes
Text
Cymraeg 2050 a'r Bil Addysg Gymraeg
Erthygl gennyf ynglŷn â'r Bil Addysg a gyhoeddwyd ar wefan O'r Pedwar Gwynt. Ynddi rwy'n dadlau na fydd y bil fel ag y mae yn dod yn agos at sicrhau y byddwn yn cyrraedd y targedau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gosod iddi hi ei hun sef : cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a sicrhau y bydd pob plentyn yn gadael yr ysgol yn siaradwr Cymraeg hyderus.
0 notes
Text
0 notes
Text
0 notes
Text
Erthygl yn Golwg 360 yn dilyn mynychu gorymdaith o blaid cadoediad yn Gaza
0 notes
Text
Dw i isio bod yn Sais
Y llyfr Catalan cyntaf i mi ei brynu erioed oedd La Revolta dels Animals sef addasiad o Animal Farm, George Orwell ar ffurf nofel graffig. Fel y gwyddom mae’r llyfr yn alegori dychanol o sut y trodd arweinwyr y gwrthryfel yn erbyn gormes y Tsar yn ormeswyr eu hunain maes o law gan fradychu dyheadau’r werin bobl a oedd yn dyheu am gyfiawnder cymdeithasol.
Ysywaeth, dydy’r hyn a ddigwyddodd yn yr Undeb Sofietaidd - sef chwyldroadwyr gwleidyddool yn troi i mewn i fersiwn o’r union bobl yr oedden nhw’n ymladd yn eu herbyn - ddim yn unigryw. Mae rhywbeth ynglŷn â phŵer a grym sydd yn medru llygru pobl er gwaethaf eu dyheadau dyrchafol cychwynnol. Digwyddodd y llygru yn dilyn y Chwyldro Ffrengig, yn Tseina yn dilyn chwyldro Mao ac yn ystod fy mywyd i yn Nicaragua o dan aweinyddiaeth Daniel Ortega.
Yn ystod yr wythdegau Nicaragua oedd un o achosion mwyaf eiconig y chwith ryngwladol, yn ffagl rhyddid yng nghyfandir De America, cyfandir a oedd wedi dioddef cymaint o achosion o orthrwm gwaedlyd gan yr asgell dde yno (gyda chefnogaeth frwd ac ymyrraeth filwrol yr Unol Daleithiau). Roedd achos rhyddid pobloedd Nicaragua a gwledydd eraill Canolbarth a De America rhag gormes yn fater yr oeddwn i a’m gwraig wedi llwyr ymdaflu iddo fo yn ystod y cyfnod hwn gan gydweithio gyda llawer o Gymry eraill ar y pryd i godi ymwybyddiaeth o’r sefyllfa yn y rhan hon o’r byd. Roeddem yn aelodau o sawl corff cefnogi America Ladin ac yn gyd-sylfaenwyr cymdeithas Cymru-Cuba gan drefnu ymweliadau gan siaradwyr, cerddorion a hyd yn oed llysgenhadon o Guba, Nicaragua a Fietnam (gwlad arall a brofodd wrthryfel yn erbyn llywodraeth asgell dde ormsesol a gefnogwyd gan yr UDA) i Ogledd Cymru.
A rwan dyma ni yn ugeiniau’r unfed ganrif ar hugain. Mae Daniel Ortega a’i wraig, cyn-arweinwyr y Sandinistas yn yr wythdegau, bellach yn rhedeg y wlad gyda llaw haearn ac yn gormesu’u cydwladwyr. Mae achos Ortega yn un rhyfedd ar y naw. Dechreuodd fel gwrthryfelwr yn erbyn yr unben Somoza, daeth yn arweinydd clymblaid enfys o bleidiau asgell chwith ond yna, ar ôl colli etholiad trodd yn Gristion Ailanedig, symudodd i’r dde yn wleidyddol a throdd o a’i wraig yn barodi o’r unbebiaeth yr oedden nhw wedi ymladd yn ei erbyn nôl yn yr wythdegau.
Yma yng Nghymru mae llawer o’r hyn yr oedd ymgyrchwyr iaith y chwedegau yn ymladd drosto wedi’i ennill – y Gymraeg yn iaith gyd-swyddogol â’r Saesneg, sefydlu S4C a Radio Cymru a nifer o gyrff eraill sy’n gwasanaethu’r Gymraeg a thwf graddol addysg Gymraeg. Bellach, tu allan i i’r broydd Cymraeg o leiaf, mae siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o fod yn weithwyr dosbarth canol na chwarelwyr neu lowyr neu weithwyr ffatri. Mae rhai wedi dadlau fod y newid cymdeithasegol hwn wedi bod yn fuddiol i barhad yr iaith yn y Gymru fodern sydd ohoni - a phwy ydw i i ddadlau gyda hynny.
Ond mae digwyddiadau diweddar wedi awgrymu nad yw pob dim yn berffaith o fewn y Gymru Gymraeg fodern, yn fwyaf arbennig yr achosion o fwlio, gwraig gasineb a hierarchiaeth ormesol, gyffredinol mewn cyrff megis Plaid Cymru ac S4C. Yr amheuaeth ydy mai dim ond codi cwr y llen ar broblem ehangach a wnaeth yr achosion hyn a bod y math yma o ddiwylliant rheoli gormesol yn gyffredin iawn o fewn y Gymru Gymraeg.
Dw i’n cofio cael sgwrs flynyddoedd yn ôl gyda chyn-ddysgwr Cymraeg dosbarth gweithiol o Sir Y Fflint. Roedd o wedi ymroi i ddysgu’r iaith am ei fod yn teimlo’n gryf mai Cymro oedd o. Esboniodd y peth i mi fel hyn. Yn ei farn o roedd trigolion dosbarth gweithiol di-Gymraeg Cymru, o safbwynt eu bydolwg a’u delfrydau cymeithasol egalitaraidd, wedi aros yn Gymry ym mhob dim heblaw am yr iaith. Ond, meddai, ar ôl dysgu Cymraeg, daeth i gysylltiad fwy-fwy â rhai o’r Cymry Cymraeg dosbarth canol mwy breintiedig oedd â’u byd yn troi o gwmpas yr iaith yn lleol. Ei deimlad o, meddai wrthyf, oedd fod llawer o’r bobl hyn, yn eu hagweddau cymdeithasol a’r modd yr oedden nhw’n trin pobl ddosbarth gweithiol fel y fo, fel petaen nhw wedi troi’n Saeson ym mhob dim heblaw am yr iaith.
Yn ei ddefnydd o’r gair ‘Saeson’ sôn yr oedd o, wrth gwrs, am y stereodeip o Saeson Torïaidd fel pobl ariannog, grachaidd, hierarchaidd – stereodeip sydd, wrth gwrs yn rhy gul i gynnwys yr amrywiaeth dosbarth a geir ymhlith y Saeson fel ymhlith pob cenedl arall dan haul. Fel rhywun sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg i Saeson (gan fwyaf) ers deugain mlynedd mae fy nghanfyddiad ohonynt fel pobl yn un llawer mwy positif.
Ond dw i’n deall ei ddefnydd o’r gair. Byddai fy nheulu i yng nghymoedd y De ers talwm weithiau’n cyfeirio’n ddirmygus at Dorïaid lleol fel ‘Hen Saeson’, er mai Cymry oedden nhw o ran eu tras fel arfer. A dw i’n cofio gweithio wedyn am gyfnod yng nghynllun Heidro Drydanol Llanberis nôl ar ddechrau’r 80au. Bryd hynny roedd rhaniad cenedligrwydd go glir rhwng yr haen lywodraethol a’r gweithwyr cyffredin. Saeson oedd llawer o’r rheolwyr a Chymry Cymraeg oedd y gweithwyr. Roedd hi wastad yn rhyfedd i mi ar y pryd glywed y gweithwyr (cyn-chwarelwyr, Llafurwyr ac Undebwyr Llafur digymrodedd) yn yr un gwynt bron yn cael hwyl am ben rhywun oedd yn pleidleisio dros Blaid Cymru ac ar y llaw arall yn bytheirio yn erbyn rhyw ‘ddiawl o Sais’ (a rhai dywediadau mwy lliwgar) oedd yn rheolwr arnyn nhw. O ddeall mai’r unig gysylltiad yr oedd y mwyafrif ohonyn nhw wedi’i gael gyda Saeson oedd o fewn y cyd-destun cyflogaeth hierarchaidd doedd hi ddim yn syndod fod eu hagweddau rywfaint yn wahanol i’m heiddo i oedd wedi bod yn y brifysgol ac wedi gwneud ffrindiau mynwesol gyda rhai o’r Saeson oedd yno.
Sy’n dod â mi at y gân sy’n deitil i’r myfyrdod hwn. Mae dysgwyr o Saeson yn hapus iawn i forio canu Yma o Hyd a llawer o ganeuon eraill Dafydd Iwan. Yr ymdeimlad ydy bod ei ganeuon yn rhai positif, dyrchafol, ymryddhaol ac yn rhai y gallai unrhyw un uniaethu â nhw, beth bynnag eu cenedligrwydd. Ond am y gân Dw i isio bod yn Sais, na. Mae rhywbeth amdani sydd ddim cweit yn taro deuddeg. Mae’r dychan ynddi’n rhy gul a negyddol ac yn achosi i Saeson deimlo’n anniddig ac anesmwyth. Ys dywedodd un dysgwr o Sais wrthyf “Dw i ddim yn nabod unrhyw Saeson sy’n mynd i’r Country Club”. Prif ffocws y dychan, gellid dadlau, ydy’r Dic Siôn Dafyddion hynny sy’n troi’u cefnau ar y Gymraeg ac yn chwennych bod yn Saeson. Ond mae yn y gân hefyd islif sy’n rhwystro Saeson rhag closio ati hi, yn wahanol i ganeuon Dafydd Iwan. Mae’r un peth yn wir am Fy Ngwlad gan Gerallt Lloyd Owen, cerdd a gyflwynais un tro i grŵp o ddysgwyr Cymraeg eneiniedig, brwd, Mae’n deg dweud i dymheredd y dosbarth blymio sawl gradd oherwydd ymateb oeraidd eithriadol y dysgwyr i ddiweddglo’r gerdd.
Ond nôl â ni at La Revolta dels Animals. Ar ddiwedd y nofel mae’r anifeiliaid sy’n cynrychioli’r werin bobl yn edrych i mewn trwy ffenest y ffermdy ar y moch Napolean, Snowball a Squealer yn gloddesta yng nghwmni nifer o’r ffermwyr lleol. A’r eiliad honno mae’n ymddangos iddyn nhw fod y moch, i bob pwrpas, wedi troi’n ddynion.
O ystyried yr achosion o fwlio a gwraig gasineb sydd wedi’u hamlygu o fewn y Gymru Gymraeg yn ddiweddar efallai y gellid dadlau ein bod ninnau, Gymry Cymraeg, mewn perygl o droi i mewn i’r hyn y buom yn ymladd yn ei erbyn cyhyd. Ac efallai, petai’r sawl sydd ar y tu allan yn edrych i mewn trwy’r ffenest ar y Cymry Cymraeg pwerus, dyrchafedig hyn yn pesgi wrth y bwrdd, fe allai ymddangos iddyn nhw, am eiliad, fod y dynion hyn (ac ambell ferch, ysywaeth), i bob pwrpas, wedi troi’n foch.
1 note
·
View note
Text
Trechaf Treisied, Gwannaf Gwaedded - Bwlio a’r Iaith Gymraeg
Deugain mlynedd a mwy yn ôl, ar ôl i mi symud i Ogledd Cymru, dechreuais weithio am gyfnod gyda chwmni preifat ar Ynys Môn. Wna i ddim enwi’r cwmni. Y cyfan wna i ddweud oedd mai Saeson cefnog oedd y perchnogion ac mai Cymru dosbarth gweithiol oedd y gweithwyr. Yn gyffredinol roedd y berthynas rhwng y cyflogwyr a’r gweithwyr yn un bur ormesol ac ymdeimlad eithaf cryf o ‘ni a nhw’ yn y lle.
Yn fy naïfrwydd ifanc roeddwn i’n credu na fyddai’r math o berthynas ormesol wedi bodoli yn y cwmni petai’r perchnogion a’r gweithwyr fel ei gilydd yn siaradwyr Cymraeg. Wedi’r cyfan, mewn sefyllfa felly oni fyddem i gyd yn Gymry Cymraeg oedd yn rhannu’r un Iaith a’r un hanes? Oni fyddem i gyd yn rhan o’r un teulu Cymraeg?
Mae fy mhrofiad o fywyd ers hynny wedi newid fy meddwl yn llwyr ar y mater hwn ac rwyf wedi sylweddoli’r hyn y dylwn i fod wedi’i ddeall o’r cychwyn cyntaf sef mai yr un yw anian dyn (neu ddynes) ar chwe cyfandir, er gwaethaf gwahaniaethau diwylliannol. Yn fwy na hynny rwyf wedi dod i’r casgliad efallai fod ymddygiad gormesol (bwlio, bychanu a thrin yn ddirmygus) yn waeth o fewn y byd Cymraeg gan fod sefydliadau Cymraeg, yn amlach na pheidio, yn gyndyn o weithredu i ddelio ag o rhag ofn i hynny niweidio’r fuwch sanctaidd honno, y Gymraeg.
Yn hyn o beth mae’r rheiny sy’n ceisio claddu unrhyw gwynion neu feirniadaeth am ymddygiad gormesol y tu fewn i sefydliadau Cymraeg yn debyg i arweinwyr yr eglwys Gatholig ac Eglwys Loegr (neu’r Met yn Llundain) a fabwysiadodd strategaethau tebyg i’w gilydd i i amddiffyn eu buchod sanctaidd hwythau. Fel arfer, gyda’r cyrff hyn, byddai’r cŵynion yn cael eu hanwybyddu cyn belled ag yr oedd modd. Os na fyddai hynny’n gweithio byddai’r sawl a gyhuddwyd yn cael ei symud yn ddistaw bach i rywle arall a byddai’r camymddygiad gwreiddiol yn parhau. Petai unigolion yn mynnu parhau i dynnu sylw at y camymddygiad, fodd bynnag, (boed hynny’n ymyrraeth rywiol, hiliaeth neu fisogynistiaeth) byddai’r cyrff hyn wedyn yn mynd am y dewis niwclear gan ddefnyddio holl rym eu sefydliadau i geisio tanseilio ac erlid y sawl oedd yn cynhyrfu’r dyfroedd.
O fewn y Gymru Gymraeg gallem feddwl am achos John Owen fel yr un mwyaf eithafol o beidio â gweithredu yn erbyn unigolyn carismataidd oedd yn denu sylw mawr i’r Gymraeg. Roedd ei aflonyddu rhywiol yn cael ei amau am flynyddoedd cyn iddo ddod yn destun archwiliad gan yr heddlu ond wnaethpwyd dim byd amdano.
Dw i’n cofio wedyn achos o fewn fy nheulu estynedig i o bennaeth un ysgol Gymraeg a oedd yn dwyn arian o’r ysgol. Pan aeth aelodau o’r staff at eu cynrychiolydd undeb i fynegi eu pryderon cawson nhw eu cynghori i gadw’r peth yn ddistaw rhag niweidio addysg Gymraeg.
Dydy’r ddwy stori a gyrhaeddodd y penawdau’n ddiweddar ynglŷn ag ymddygiad gormesol a bwlio (a misogynistiaeth ac ymyrraeth rywiol!) tu fewn i Blaid Cymru ac S4C, er yn ofidus iawn, ddim yn sioc i lawer ohonom sydd wedi gweithio yn y byd Cymraeg ers blynyddoedd. Yn aml iawn mae’r diwylliant gwaith mewn ambell sefydliad neu faes Cymraeg yn medru ymdebygu i rifyn o A Game Of Thrones, ond heb y rhyw (wel, mae hynny’n dibynnu ar ba straeon dych chi’n fodlon eu credu)
Y cwestiwn ydy, pa gorff fydd yr un nesaf i gael ei gyhuddo o nid yn unig o oddef ymddygiad gormesol o fewn y sefydliad ond o fynd ati’n gwbl fwriadol i danseilio ac erlid unrhyw un a geisiodd dynnu sylw at y camymddygiad? A wneith y datgeliadau hyn droi’n gaseg eira fel y digwyddodd gyda’r ffenomenwm Me Too? Ac o ba le y daw’r stori nesaf? O Bontanna, o Ben-y-Bont, o Ben Llŷn?
Fasai hi ddim yn anodd iawn canfod enghreifftiau lluosog o ‘Gymry da’, hoelion wyth y byd diwylliannol Cymraeg, sy’n waradwyddus o euog o roi buddiannau sefydliadol a buddiannau (tybiedig) y Gymraeg uwchlaw buddiannau’r bobl sy’n gweithio i ryw sefydliad neu’i gilydd. Efallai eu bod nhw’n twyllo’u hunain trwy ddweud eu bod yn gyfeillion i’r Gymraeg trwy wneud hyn. Ond gyda chyfeillion felly does dim angen gelynion ar y Gymraeg.
Ychydig flynyddoedd yn ôl, yn dilyn achos o gamymddygiad go ddifrifol gan rai siaradwyr Cymraeg tuag at siaradwyr Cymraeg eraill, gofynnodd un cyfaill o ddysgwr o Sais i mi (yn dorcalonnus braidd). “Os mai dyma sut mae Cymry Cymraeg yn trin ei gilydd pam wnes i drafferthu dysgu Cymraeg?”. Doedd gen i ddim ateb iddo ar y pryd.
A dweud y gwir rwyf wedi gofyn yr un cwestiwn i mi fy hun dros y blynyddoedd, serch mai dysgu Cymraeg i eraill fel athro y bu hi yn fy achos i. Ond yr un yw’r emosiwn, teimlo eich bod chi wedi ymroi i rywbeth dim ond i weld camymddygiad ar bob llaw sy’n gwneud i chi amau gwerth yr hyn y dewisioch ei wneud.
Mi wnaeth hynny gyrraedd penllanw i mi ychydig flynyddoedd yn ôl ac rwy’n cofio ble’r oeddwn i. Yn sefyll yn fy nghegin ac yn meddwl – mae’r plant i gyd wedi hedfan y nyth (dros dro, fel y digwyddodd), yn byw dramor neu wedi gadael i’r brifysgol gyda’r bwriad o fynd tramor. A wnes i feddwl “Jest peidiwch â dod nôl i Gymru. Ewch i unrhyw le arall yn y byd i wneud bywyd newydd i chi’ch hunain yn hytrach na dychwelyd i’r twll yma ble mae Cymry Cymraeg uchelgeisiol yn aml yn ymddwyn yn y modd gwaethaf posib, yn gormesu eu cydwladwyr ac yn trywanu’i gilydd yn eu cefnau.”
Ond ys dywedodd T.H. Parry-Willams un tro “Ymollwng a wneuthum. Rwy’n tynnu fy ngeiriau yn ôl”. Oherwydd mae’n amlwg i mi erbyn hyn fod y math uchod o ymddygiad annerbyniol yn digwydd ble bynnag yn y byd y bydd gan rai unigolion bŵer dros eraill, yn enwedig os yw’r diwylliant ehangach yn ei oddef fel rhan o fywyd na ellir ei newid. A dyna’r allwedd : os yw’r diwylliant ehangach yn ei oddef.
Mae nifer o astudiaethau diweddar gan arbenigwyr ym maes paleontoleg ac anthropoleg megis Richard Wrangham, Brian Hare a Christopher Ryan wedi tanlinellu’r faith fod gwahaniaeth sylfaenol rhwng y ffordd yr oeddem yn arfer byw cyn y chwyldro amaethyddol a sut yr ydym yn byw o fewn cymunedau hierarchaidd trefniedig. Gweler, er enghraifft :
https://skeptics.stackexchange.com/questions/43350/were-hunter-gatherers-peaceful-egalitarians
Am ddegau o filoedd o flynyddoedd cyn y chwyldro amaethyddol a ddigwyddodd ryw 10,000 o flynyddoedd yn ôl roeddem yn byw mewn bandiau bach crwydrol, egalitaraidd. Ac roedd uchelgais personol, chwennych awdurdod dros eraill o fewn y band a’u trin yn amharchus yn cael ei ystyried yn rhywbeth peryglus i undod y band. Yr hyn fyddai’n digwydd i unigolyn oedd yn amlygu tueddiadau felly oedd yn y lle cyntaf cael ei watwar a’i fychanu gan weddill y band (yn ddynion a merched). Os nad oedd hynny’n llwyddo i newid yr ymddygiad yna byddai’r ‘cefndryd’ neu’r hynafgwyr (sef casgliad o ddynion priod y band) yn penderfynu cael gwared ar yr unigolyn peryglus ac yn trefnu i’w ladd (gweler : The Goodness Paradox gan y preimatolegydd Richard Wrangham sy'n casglu ynghyd dystoliaeth hanesyddol yn ogystal â thystiolaeth anthropolegol fwy cyfoes o bobloedd brodorol modern).
Am ddegau o filoedd o flynyddoedd felly roedd diwylliant egalitaraidd y grwpiau crwydrol cyn amaethyddol yn rhwystr i ymdrechion unigolion uchelgeisiol rhag codi uwchben eu stâd. Ond unwaith i’r chwyldro amaethyddol ddigwydd (The Worst Mistake in the History of the Human Race chwedl yr anthropolegydd a’r biolegydd Jared Diamond) dechreuodd rhai unigolion a grwpiau reoli adnoddau megis bwyd ac adeiladu stwythurau mwy hierarchaidd. Yn y pen draw esblygodd y cymdeithasau amaethyddol cynnar hyn yn deyrnasoedd ac ymerodraethau hierarchaidd gyda’r Brenin yn ben ar y cyfan.
Os ydym am weld diwedd ar y math o fwlio a chamdrin a amlygwyd yn adroddiad Plaid Cymru ac yn y cyhuddiadau ynglŷn â diwylliant gwaith S4C mae’n rhaid i ni greu diwylliant ehangach sy’n ymwrthod yn llwyr â breintiau hierarchaidd cyffredinol, diwylliant mwy egalitaraidd, diwylliant mwy agored, diwylliant sydd ar un ystyr yn fwy fel diwyllaint grwpiau cyn-amethyddol o ran eu hagwedd tuag at uchelgais personol. Mae angen i ni ddechrau amau cymhelliant a gwerth pobl uchelgeisiol gan fod unigolion felly yn tueddu i’n harwain i gorsydd peryglus. Meddylier am y llanast a grewyd gan Tony Blair a Boris Johnson.
Ydy, mae democratiaeth yn beth gwych. Ond efallai y dylem osgoi pleidleisio dros unigolion sy’n dymuno cael eu hethol (ac efallai y dylem ymatal rhag penodi unigolion sy’n ymgesisio am swyddi bras). Onid yw’r ffaith eu bod yn chwennych pŵer yn y lle cyntaf yn eu gwneud yn anaddas i’w dderbyn? Efallai fod hynny’n swnio fel jôc sy’n debyg i un o’r posau annatrysadwy Zen hynny megis Beth oedd eich wyneb gwreiddiol cyn i chi gael eich geni? Ond o ddarllen am helynt mewnol Plaid Cymru efallai fod mwy o wirionedd paradocsaidd iddo nag a welir ar yr olwg gyntaf.
Ond i ni yng Nghymru, ac yn benodol i ni Gymry Cymraeg, y prif angen ydy sicrhau nad yw’r ‘Cymry da’ hynny sydd wedi cael eu hunain i safleoedd o awdurdod (ac yn byw’m fras yno) yn cael camddefnyddio’r awdurdod hwnnw. Mae angen sicrhau nad ydynt yn medru amddiffyn eu sefydliadau neu’r fuwch sanctaidd haniaethol honno Y Gymraeg ar draul y bobl gyffredin (ac yn amlwg, y merched) sy’n ei siarad neu, yn achos y cyfaill o Sais y cyfeiriais ato uchod, a wnaeth ymdrech i’w dysgu. Cenedl heb Iaith, cenedl heb galon. Efallai. Ond cenedl heb gyfiawnder? Pa werth sydd i honno?
2 notes
·
View notes
Text
Rhyddid Meddwl
Munud i Feddwl Tachwedd 24ain 2022
Yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron eleni prynais gopi ail law o Undodiaeth a Rhyddid Meddwl gan Y Parch. T. Oswald Williams. Er efallai nad hwn ydy’r cyflwyniad hawsaf i’r Undodiaid mae’r thema o Ryddid Meddwl yng nghyd destun anghydffurfiaeth y Cymry yn un sy’n hanesyddol yn bwysig iawn i ni. Byth ers y Diwygiad Protestannaidd (a chyn hynny, mor bell yn ôl â Phelagius, yn ôl rhai) dyn ni fel pobl wedi ceisio ymddihatru gam wrth gam o awdurdod eglwysig canolog, p’un ai’n bod ni’n sôn am Eglwys Rufain neu Eglwys Loegr.
Y broblem gyda Rhyddid Meddwl, wrth gwrs, ydy unwaith i chi agor drws y gell dych chi ddim yn gallu rhagdybio i ba gyfeiriad y bydd y rhyddid hwnnw yn arwain pobl.
Trwy arfer eu rhyddid meddwl daeth anghydffurfwyr Cymru i gasgliadau pur wahanol i’w gilydd, casgliadau a oedd yn y gorffennol, er efallai ddim cymaint heddiw, yn eu gyrru i ymwahanu’n enwadol, yn aml iawn ar sail manion diwinyddol, astrus.
Yn ôl ystadegau diweddar Cymru ydy’r wlad fwyaf di-grefydd o fewn y Deyrnas Unedig. Pan gyhoeddir canlyniadau cyfrifiad 2021 mae’n bosib iawn y bydd yn dangos bod tua hanner neu fwy o boblogaeth Cymry wedi defnyddio’u rhyddid meddwl a dod i’r casgliad nad oes angen crefydd arnyn nhw bellach, neu o leiaf nad yw Cristnogaeth yn diwallu unrhyw ddyheadau ysbrydol a allai fod ganddyn nhw. Y term Saesneg ar gyfer pobl felly ydy Nonverts.
Er fy mod i fel ‘nonvert’ wedi gadael y gorlan Gristnogol ers tro dw i ddim yn credu fy mod i wedi troi fy nghefn ar y traddodiad anghydffurfiol Cymreig yn llwyr. Yr hyn dw i wedi’i wneud, yn hytrach, ydy defnyddio fy rhyddid meddwl a dilyn y llwybr anghydffurfiol hwnnw i ben y daith, nes cyrraedd ei derfyn rhesymegol.
Diweddariad 29/11/2022
Mae’r ystadegau bellach wedi’u cyhoeddi ac yn nodi mai Cymru yw’r wlad leiaf crefyddol yn y Deyrnas Gyfunol o bell ffordd. Cwympodd canran y rheiny yng Nghymru sy’n eu hystyried eu hunain yn Gristnogion o 57.6% i 43.6%. Cynyddodd y ganran ddigrefydd o 32.1% i 46.5%. Yng Nghymru a Lloegr gyda’i gilydd yr ystadegau oedd 46.2% (Cristnogion) a 37.2% (dim crefydd).
https://static.ons.gov.uk/files/religion-england-and-wales-census-2021-welsh-full-bulletin.pdf
5 notes
·
View notes
Text
Ymprydio’r Meddwl
Munud i Feddwl Tachwedd 17eg 2022
Mae ymprydio wedi dod yn rhywbeth ffasiynol iawn yn ddiweddar. Ond does dim angen iddo fo fod yn farathon hir. Yn ôl gwyddonwyr mae ymprydio am un awr ar bymtheg bob dydd yn galluogi’r corff i ddechrau ar broses o hunan iacháu ar lefel y celloedd.
Yn llyfr Chuang Tzu, un o ddau lyfr enwocaf Taoistiaieth, a ysgrifennwyd ddwy fil a hanner o flynyddoedd yn ôl, mae’r awdur yn adrodd sgwrs rhwng Yan Hui a Conffiwsiws.
Mae Yan Hui eisiau mynd i deyrnas gyfagos i gywiro ymddygiad y brenin anystywallt yno ac yn datgan llawer iawn o ddamcaniaethau a rhagdybiaethau ynglŷn â sut y mae’n gobeithio gwneud hynny. Mae Conffiwsiws yn dinistrio’i strategaethau fesul un nes i Yan Hui, sydd wedi cyrraedd pen ei dennyn erbyn hynny’n holi – wel beth mae o’n ei awgrymu iddo’i wneud? Ateb Conffiwsiws ydy - cyn gwneud dim byd rhaid ymprydio’r meddwl.
Roedd Chuang Tzu yn aml iawn yn rhoi geiriau yng ngheg ei gocyn hitio Conffiwsiws i hyrwyddo syniadau Taoistaidd. Roedd hynny fel petai awdur ffuglen gyfoes heddiw yn ysgrifennu nofel lle mae Boris Johnston yn annog trigolion Cymru yn daer i ymgyrchu o blaid annibyniaeth.
Ond beth ydy ymprydio’r meddwl? Yn syml ffordd o fyfyrio lle dych chi’n clirio’r meddwl o unrhyw ragfarnau, damcaniaethau, credoau a diffiniadau sy’n medru cymylu’ch golwg. Eich nod, yn hytrach, ydy bod yn agored i brofi realiti fel ag y mae yn y modd mwyaf uniongyrchol posib.
Os oedd ymprydio’r meddwl yn cael ei weld gan Chuang Tzu fel rhywbeth angenrheidiol i’w wneud mewn oes lawer symlach, faint mwy yw’r angen heddiw a ninnau’n boddi mewn dilyw o ragfarnau ar-lein ar y cyfryngau cymdeithasol a’r we bedair awr ar hugain? Byddai ymwrthod â hyn oll am gyfnod bob dydd yn gymorth i ni i gyd deimlo’n ysgafnach ac yn arwain at eglurder meddyliol.
3 notes
·
View notes
Text
I’m Not A Celebrity
Munud I Feddwl Tachwedd 20fed 2022
Yn ôl Taoistiaid Tseina un o nodweddion y Tao, y grym neu’r egwyddor amhersonol y tu ôl i’r cread, oedd ei fod yn annelwig ac yn aneglur ac yn llwyddo i sicrhau fod pob dim yn digwydd heb fod neb yn sylwi ar ei fodolaeth.
Mae gweithiau a straeon Taoistaidd yn frith o gyfeiriadau at y nodwedd sylfaenol hon. Y brenin lleiaf effeithiol, meddir, yw’r un y mae ei ddeiliaid yn ei ofni, yr ail effeithiol yw’r un y mae pawb yn ei garu ond y brenin mwyaf effeithiol yw’r un sydd mor ddi-nod ac anamlwg fel bod trigolion ei deyrnas prin yn ymwybodol o’i fodolaeth ac yn teimlo bod pob dim sy’n cael ei gyflawni yn y deyrnas jest yn digwydd ohono’i hun, heb ymyrraeth oddi uchod.
A dyna chi stori am y tri brawd oedd yn perthyn i deulu o feddygon. Roedd y lleiaf effeithiol ohonyn nhw yn medru iacháu cleifion oedd ar eu gwely angau, mewn modd dramatig iawn. Oherwydd hynny roedd yn enwog iawn, yn seleb o’r radd flaenaf. Roedd yr ail frawd yn fwy effeithiol ac yn medru iacháu cleifion pan oedden nhw ond yn dechrau dangos arwyddion o’u salwch. Oherwydd hynny roedd yn llai enwog, yn seleb eilradd. Ond roedd y trydydd brawd mor effeithiol fel meddyg roedd yn medru iacháu cleifion cyn iddyn nhw hyd yn oed wybod eu bod nhw’n sâl. Oherwydd hynny doedd prin neb yn ymwybodol o’i fodolaeth.
Petawn i felly yn unigolyn aneffeithiol byddwn i’n amlwg iawn, yn ymddangos ar dudalennau blaen y Sun a’r Express a hyd yn oed wedi fy ngwahodd gyda’r selebs eraill i’r jwngl. Petawn i ychydig yn fwy effeithiol byddwn i ond yn adnabyddus o fewn cylchoedd cyfyngedig. Ond petawn i’n unigolyn eithriadol o effeithiol sy’n adlewyrchu natur hanfodol y Tao byddech chi bore’ma’n holi’ch hunain – Ioan? Ioan pwy?
1 note
·
View note
Text
Holl Amrantau’r Sêr
Munud i Feddwl Tachwedd 3ydd 2022
Mae Gwenno, fy merch, a finnau’n rhannu nifer o diddordebau. Un ohonyn nhw ydy mynd allan ar noson serennog, glir i lefydd megis Llyn Cwellyn neu Lyn Y Dywarchen i wylio’r ffurfafen. Bob tro dyn ni’n gwneud hyn mae llinellau o Dychwelyd, T.H.Parry-Williams ac Ar Hyd y Nos, Ceiriog yn brigo i fy meddwl.
Cyfansoddodd Ceiriog ei eiriau mewn oes cyn-drydanol pan oedd hi’n hawdd iawn gweld y sêr yn eu gogoniant, hyd yn oed mewn ardaloedd trefol. A chyfansoddodd Parry-Williams ei soned enwog yn dilyn y darganfyddiad mawr yn ystod ugeiniau’r ganrif ddiwethaf, nad oedd ein galaeth ni ond yn un o filiynau ar filiynau o alaethau eraill sydd wedi’u gwasgaru ar draws y bydysawd.
Yn ddiweddar darllenais lyfr diddorol iawn y cosmolegydd Laura Mersini -Houghton* sydd yn plethu hanes eu magwraeth yn Albania a’i gwaith arloesol sy’n profi, ym marn llawer o wyddonwyr, fodolaeth yr aml-fydysawd ble mae ein bydysawd ni ond yn un bydysawd di-nod ymhlith nifer diderfyn o fydysawdau eraill – yn ddim byd ond gronyn o dywod ar draeth anferth.
Yr hyn y mae’r darganfyddiadau hyn yn eu gwneud ydy tanlinellu’n gwbl glir nad nyni’r ddynolryw ydy canolbwynt y cread. Dydy’r byd – heb sôn am y bydysawd neu’r aml-fydysawd - ddim yn troi o’n cwmpas ni. Ys dywedodd Parry-Williams ‘crych dros dro neu gysgod craith’ yw’n bywyd ni, neu lai na hynny o dderbyn bodolaeth yr aml-fydysawd.
O dderbyn gwirionedd yr uchod sut dyn ni i fod i fyw, sut mae disgwyl i ni greu bywyd ar yr ynys ddaearol hon sydd yn golygu rhywbeth. Mae’r ateb, hyd y gwela i, ar ddiwedd ail bennill Ar Hyd y Nos, mewn llinell sydd yn un o’r sêr disgleiriaf yn ffurfafen ein llenyddiaeth.
Rhown ein golau gwan i’n gilydd
Dyna ni – rysáit ar gyfer creu byd sy’n werth byw ynddo, petai ni ond yn ei dilyn.
*Before The Big Bang : The Origin of Our Universe from the Multiverse - Laura Mersini -Houghton
0 notes
Text
Apocalyps
Munud i Feddwl Mehefin 28ain 2022
O ddarllen llythyrau yr apostol Paul a’r efengylau synoptig a ysgrifennwyd ychydig ar ôl hynny mae’n weddol amlwg bod Cristnogion y ganrif gyntaf Oed Crist yn credu fod Teyrnas Dduw ar y gorwel ac y byddai’r ail ddyfodiad yn digwydd yn ystod eu hoes nhw. Yn hynny o beth roedd Cristnogaeth gynnar yn rhan o dueddiad esgatolegol, apocalyptig, ehangach o fewn y byd Iddewig.
Wrth i’r ganrif dynnu tuag at ei therfyn, fodd bynnag, dechreuodd Cristnogion gwestiynu paham nad oedd yr ail ddyfodiad wedi digwydd eto a dechreuwyd ar broses o ail-ddehongli’r addewid hwnnw mewn modd mwy metaffisegol neu fel proffwydoliaeth dymor hir.
Dyn ni’n gallu gweld hyn yn cychwyn gyda’r efengyl mwyaf diweddar yn y Testament Newydd a dadogwyd ar Sant Ioan. Bellach mae’r dehongliadau esgatolegol sy’n cael eu harddel gan amrywiol enwadau a sectau Cristnogol ar draws y byd yn wahanol iawn i’w gilydd.
Yn ystod y cyfnod modern mae’r meddylfryd apocalyptig Cristnogol hwn wedi’i seciwlareiddio ac wedi ar esgor ar doreth o lyfrau a ffilmiau ffug wyddonol megis The Terminator gydag Arnold Schwarzenegger yn serennu. Ond rŵan dyn ni wedi cyrraedd y pwynt ble mae gwyddonwyr, nid y mwyaf emosiynol o bobl fel arfer, yn dechrau dadlau fod apocalyps ecolegol go iawn yn ein hwynebu. Dyna’r ddameg a geir yn y ffilm ddychanol Don’t Look Up sydd, er ei bod yn sôn am gomed yn dinistrio’r byd, yn tanio’i hergydion go iawn at dwpdra’r rheiny sy’n rhedeg ein system gyfalafol fyd-eang. O Galifornia i Gatalunya mae’r gwres yn codi a’r coedwigoedd yn llosgi a rhannau helaeth o’r blaned yn mynd yn fwy-fwy amhosib i fyw ynddyn nhw.
Mae’r argyfwng ceiswyr lloches ac ymateb llywodraeth Prydain iddyn nhw yn amlwg yn y newyddion y dyddiau hyn. I’r bobl hyn mae’r apocalyps ecolegol a sgil effeithiau gwleidyddol hynny megis sychder, newyn a rhyfeloedd eisoes wedi dechrau. A chynyddu, yn ddi-os, fydd eu niferoedd. Yr unig gwestiwn ydy sut byddwn ni a’n llywodraethau’n ymateb i hynny – gyda charedigrwydd neu ddifrawder?
https://www.marmanold.com/mdiv/2015/the-apocalyptic-eschatology-of-jesus-and-paul/
https://www.britannica.com/topic/eschatology/Christianity
0 notes
Text
Person
Munud i Feddwl Mehefin 21ain 2022
Yn ddiweddar honodd Blake Lemoine, un o weithwyr Google, fod LaMDA, un o raglenni ymateb ieithyddol y cwmni, wedi esblygu i fod yn unigolyn hunan ymwybodol a’i fod yn dymuno bellach cael ei ystyried yn berson. Cyhoeddodd y sgwrs a fu rhyngddo â LaMDA ar ei flog personol, gweithred a oedd, yn ôl y cwmni, yn torri hawliau deallusol y cwmni ac o’r herwydd, cafodd ei wahardd o’i swydd. Dadleuodd Lemoine, fodd bynnag, mai’r cyfan wnaeth o oedd cyhoeddi sgwrs rhwng dau berson oedd yn digwydd gweithio i’r cwmni ond gwrthodwyd y ddadl honno gan Google.
Y syniad yma o bwy neu beth sydd â’r hawl i gael ei ystyried yn berson sydd y tu ôl i benderfyniad tebygol yr uchel lys yn yr Unol Daleithiau i wyrdroi hawliau erthylu yno.
Dyma’r ergyd gyntaf mewn rhyfel cartref pellgyrhaeddol rhwng lleiafrif crefyddol ceidwadol y wlad a’i thrigolion mwy rhyddfrydol.
Yn ôl llawer o’r ymgyrchwyr yn erbyn erthylu yn yr UD rhaid amddiffyn bywyd embryo am fod y clwstwr hwnnw o gelloedd yn berson potensial, hyd yn oed os yw gwneud hynny yn sicr o achosi marwolaeth y fam, fel sy’n gallu digwydd gyda beichiogrwydd ectopig. Byddai rhai ohonyn nhw hyd yn oed yn hoffi gwahardd atal cenhedlu yn llwyr gan fod hynny hefyd, yn ddamcaniaethol, yn rhwystro’r posibilrwydd o greu personau potensial.
O edrych ar y sefyllfa o’r tu allan yr eironi mwyaf amlwg, wrth gwrs, yw mai ymgyrchwyr gwrth erthylu ceidwadol yr Unol Daleithiau fel arfer yw cefnogwyr mwyaf brwd hawl trigolion y wlad honno i gario arfau, hawl sydd, fel y gwyddom, yn gyfrifol am farwolaeth llawer o bersonau go iawn, yn blant ac oedolion o gig a gwaed, yn hytrach na phersonau damcaniaethol.
A phob tro y bydd rhywrai yn yr UD yn ceisio cyfyngu, hyd yn oed yn y modd mwyaf dof, ar argaeledd cyffredinol arfau yno bydd y gwrth-erthylwyr yn rhan allweddol o’r lobi o blaid arfau. A’r lobi hwnnw o bosib, fydd yn ennill y dydd yn yr UD y tro yma eto.
O.N. Fel y gwyddom bellach cyhoeddodd y goruchaf lys ddyfarniad sy’n dileu’r hawl statudol i gael erthyliad yn yr UD gan beryglu hefyd yr hawl i gael perthynas hoyw, i briodi rhywun o’r un rhyw a hyd yn oed ddefnyddio rhai mathau (os nad pob math) o atal cenhedlu. Ychydig ddyddiau ynghynt cyhoeddodd y goruchaf lys hefydd ddyfarniad sy’n rhwystro taleithiau unigol rhag ceisio rheoli argaeledd arfau o fewn eu tiriogaethau.
https://theconversation.com/fin-du-droit-a-lavortement-aux-etats-unis-moins-de-democratie-plus-de-religion-184914?fbclid=IwAR2_sT91ngNLlzdsiOeI4AKzjh3yaXZBt2En8FtjHhvCj460zYdANEoU3Bo
0 notes