#phlants
Explore tagged Tumblr posts
ninihowlter · 8 months ago
Text
utterly adore the phanification of everyday words
50 notes · View notes
blossoms-phan · 4 months ago
Note
hiiiii I'm at the office for the first time in over a year & I LOVE IT time to shop for cute office supplies & also the bougie break room has its own espresso maker!!!
hiiii :3 im SO glad you’re loving it cute office supply shopping best time!!!! any specific vision or things you like keeping on your desk? and ugh yes we love a bougie espresso maker 🫶
4 notes · View notes
flowerafterhour · 5 months ago
Text
i’m so worried about the phlants like WHO IS GOING TO WATER THEM WHEN THEY ARE AWAY
52 notes · View notes
cemeterygrace · 1 month ago
Text
Tumblr media
8 notes · View notes
queerwelsh · 7 months ago
Text
Tumblr media
Bywyd Cwiar Cranogwen
Ganed ‘Cranogwen’ (9 Ionawr 1839 – 27 Mehefin 1916), neu Sarah Jane Rees, yn Llangrannog, i Frances Rees a’r morwr John Rees. Yn anarferol am y cyfnod, addysgwyd Cranogwen yn yr ysgol leol ynghyd â’i brodyr hyd at bymtheg oed. Mae’n hefyd yn aml yn cael ei ystyried yn anarferol oedd Cranogwen yn morwr yn ymuno â’i thad ar y môr yn masnachu ar hyd yr arfordir ac weithiau i Ewrop. Fodd bynnag, nid oedd yn anghyffredin i ferched fynd gydag aelodau gwrywaidd o'u teulu i weithio. Roedd gwragedd a phlant y morwyr yn mynd gyda nhw, er na chaniatawyd hyn ar longau’r Llynges Frenhinol ar ôl 1869. Mae rhai morwyr benywaidd eraill yn cael eu hystyried yn cwiar heddiw, a rhai morwyr hefyd yn cael eu hystyried yn ddynion traws. Dychwelodd Cranogwen i addysg ar ôl tair blynedd ar y môr, i ysgolion mordwyo yn y Cei Newydd a Llundain, ac yn 1859 sefydlodd un ei hun yn Llangrannog. Er bod tystiolaeth o feirniadaeth ar ferched yn rhedeg ysgolion mordwyo, o eglwysi a’r ‘Llyfrau Gleision’, nid oes cofnod o feirniadaeth o’r fath tuag at Cranogwen.
Ym 1865 enillodd Cranogwen yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth gyda ‘Y Fodrwy Briodasol’, yn mynegi beirniadaeth o’r disgwyliad ar ferched i briodi, trwy safbwyntiau pedair priodferch, gan gynnwys un yn dioddef o gam-drin domestig. Curodd hi feirdd gwrywaidd enwog fel Islwyn. Yr oedd ei henw barddol yn cynnwys yr enwau Sant Caranog, yr enwyd Llangrannog ar ei gyfer, a'r afon Hawen gerllaw. Gyda llwyddiant parhaus mewn Eisteddfodau, cyhoeddwyd Caniadau Cranogwen yn 1870 a bu Cranogwen yn siarad ledled Cymru, a theithio fel pregethwr lleyg Methodistaidd, gan gynnwys dwy daith Americanaidd.
Ym 1874, bu farw Fanny Rees o Langrannog o'r diciâu ym mreichiau Cranogwen, ar ol symud i fyw yn ei chartref teuluol. Disgrifir galar Cranogwen ar ddiwedd trasig ei pherthynas mewn ysgrifeniadau hunangofiannol. Yn ogystal, ystyrir ei barddoniaeth i fel ei hysgrifennu mwyaf angerddol, megis ‘Fy Ffrynd’. (Ceir cerdd angerddol iddi hefyd gan Buddug, sy’n disgrifio sut y bu bron iddi addoli ac edmygu Cranogwen ‘anfarwol’.) Wrth i Cranogwen barhau i fyw gyda’i rhieni, roedd Jane Thomas yn byw yn agos, fel ei phartner cefnogol ac ymroddedig. Pan fu farw rhieni Cranogwen, gwerthodd y tŷ a bu’n byw gyda Jane am ugain mlynedd olaf ei bywyd.
Ym 1878, daeth Cranogwen yn olygydd 'Y Frythones' - nid y cylchgrawn cyntaf i ferched Cymru ond y cyntaf a olygwyd gan fenyw - a oedd â mwy o negeseuon proto-ffeministaidd a hyd yn oed cwiar na'i ragflaenydd, er yn dal i gynnwys gwersi ar fod yn merched a menywod dosbarth canol parchus a chrefyddol. Ond o fewn y gwersi hyn, roedd Cranogwen yn hyrwyddo ysgrifennu merched Cymru, gan sicrhau bod 'Y Frythones' yn cael ei ysgrifennu ar gyfer merched gan ferched, wrth ddweud i'w darllenwyr nad oedd angen iddynt i gyd briodi, fel ‘merch fan yma ar ein pwys’ (Jane Thomas) a byddai’n rhoi atebion, yn y golofn 'Cwestiynau ac Atebion', y gellir bellach eu dadansoddi fel queer. Ym 1887, pan ysgrifennodd darllenydd wrth gwestiynu steiliau gwallt byr bob ar ferched, gan ddweud na allai ddweud ai merched neu fechgyn oedd y rhai â'r steiliau gwallt hyn, atebodd Cranogwen: “Yn gyntaf peth gan hyny, felly, gofynnwch i'r person pa un fydd, ai bachgen ai merch? Yna ewch yn mlaen a'ch neges." Pan holodd darllenwyr am ferched yn dod yn bregethwyr, fel Cranogwen ei hun, daeth hi i’r casgliad, “Nid yw gwahaniaeth rhyw yn ddim byd yn y byd.”
Roedd Cranogwen yn forwr, athrawes, bardd, llenor, golygydd, ymgyrchydd dirwest a llawer mwy. Etifeddiaeth ffeministaidd yw ei hetifeddiaeth – sefydlwyd ‘Llety Cranogwen’, lloches i ferched a menywod digartref yn y Rhondda gan Undeb Dirwestol De Cymru. Mae hi’n parhau i fod yn ysbrydoliaeth, i’r grŵp Cymraeg ‘Cywion Cranogwen’ ac i gylchgronau Cymraeg modern gan ac ar gyfer merched Cymru, fel ‘Codi Pais.’ Mae ei hetifeddiaeth hefyd yn un cwiar, yn ysbrydoli merched a phobl cwiar, ac oedd Cranogwen yn agored am ei pherthynasau yn ei hoes ei hun (er fel 'cyfeillgarwch rhamantus' pryd hynny), sydd bellach yn cael eu dileu yn rhy aml yn hanes y fenyw 'anfarwol' hon. Dylai Fanny Rees a Jane Thomas, a oedd yn caru ac yn cefnogi Cranogwen, a’r themâu cwiar mewn barddoniaeth gan ac i Cranogwen, bellach gael eu cynnwys yn barhaol yn ei hanes. Ni ddylid dileu eu hanes nac arwyddocâd etifeddiaeth Cranogwen i bobl LHDTC+, ac yn enwedig menywod cwiar Cymru.
Ers 2023, mae cerflun o Cranogwen yn ei phentref, Llangrannog.
Ffynonellau a Darllen Pellach:
Caniadau Cranogwen
Jane Aaron, ‘Gender Difference is Nothing,’ Queer Wales, gol. Huw Osborne & ‘Developing Women’s Welsh-language Print Culture’ Nineteenth Century Women’s Writing in Wales.
Katie Gramich & Catherine Brennan gol. Welsh Women’s Poetry, 1460-2001: An Anthology.
Norena Shopland, Forbidden Lives: LGBT Stories of Wales.
Sian Rhiannon Williams, ‘Y Frythones: Portread Cyfnodolion Merched y Bedwared Ganrif ar Bymtheg o Gymraeg yr Oes,’ Llafur, IV, 1 (1984).
Jane Aaron, Cranogwen, 2023
Llun o Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
5 notes · View notes
femmmie · 8 months ago
Note
j, k, l! :)
J - Joke; What Dan and Phil moment(s) always make you laugh?
when Dan overdramatically exclaims PHIIiiiIIIIiiiiIIiillLLLllLL while clearly loving and worshipping everything Phil ever does or says. That always gets me x)
K - Keepsake; What type of merch item/design/theme/etc. would you most like Dan and Phil to make?
I'd love a Dan and Phil Phouse phlant!
L - Lion; What is your favorite item/running gag/etc. that's ever been a part of Dan and Phil branding?
The golden pig! It haunts my dreams and I love that Dan hates it but Phil loves it x) and that Phil's dummy thicc ass knocked it over and broke, and he put it back together again. That pig has been through it and deserves its rightful place in the Phouse imo
1 note · View note
phroombadoom · 2 days ago
Text
Phey're on a well deserved vacation after caring for the phlants for so long💚
pheal gone golfing
Tumblr media
phey're a pro
Tumblr media Tumblr media Tumblr media Tumblr media Tumblr media Tumblr media Tumblr media
112 notes · View notes
floralgoat · 4 years ago
Note
I’m not the anon who requested the Orville and Mr.Hippo but I just have to say I ADORE the way you drew Orville!
aw thank you 😹were glad
3 notes · View notes
musicmakesyousmart · 5 years ago
Photo
Tumblr media
Sapphirine Phlant - Until the Light Takes Us
Shimmering Moods Records
2016
10 notes · View notes
koifishanonymous · 2 years ago
Text
Tumblr media Tumblr media Tumblr media Tumblr media
───────────────────────────
hello i'm red, i have betrayed myself and become infinitely more active on twitter dot com (@koifishanon) but i am still here
and now i'm into real life medieval italian poets being gay! cavalghieri is real i'm not delusional
───────────────────────────
❗❗controversial fandoms below
interview with the vampire ✦ fedeli d'amore (dolce stilnovo) ✦ bungou stray dogs ✦ link click ✦ honkai star rail ✦ genshin impact ✦ the sandman ✦ good omens ✦ saiki k ✦ omniscient reader's viewpoint ✦ dear evan hansen ✦ hamilton ✦ death note ✦ voltron: legendary defenders ✦
bold = current hyperfix
cursive = dont post about, but will reblog stuff abt it
regular = casual catcher-upper
───────────────────────────
🏷️ tags
whenever i post about anything made by neil gaiman, i tag it as #neil gaiman dni – this is a joke, i don't mind if he does or doesn't. it's a tag that carries over from what was previously my fandom blog, @arthurtaylorlester original posts are tagged as #red cant fucking shut up if youre interested. asks can be found in #💌; answers polls under #one day i'll get a cat cool mutuals stuff under #red's friends i draw a lot, and sometimes I even post what I draw under #red.img YOUR QUEUE TAG IS #what am i to queue RED STOP FORGETTING IT - past red reblogs, and possibly triggering content, untagged
───────────────────────────
📗 user history
rad-cats-and-dragons > red-diognes > red-phlants > raandom-red > newer-aromantics > oneiromancered > v4mpir3d > pebble-rain -> archiviistt > archivist-ing > starchiving > starchaeos > ft-the-stars > aro-noia > newer-aromantics > aromantic-vampire > aromantic-archive > aro-blr > aimforblood > redminders > icariansunlight > icariasncarrions > aromantic-aromantic > incanedescentis > linkingclicks > koifishanonymous
───────────────────────────
🎸random shit counter
my demon friends (followers) > 304 discourse bar fights > aspec exclusionist rittz, wtnv discourse, the time crtblr found me complaining about them certified hit posts > 7 posts people copied > 2 mutuals > 123 what i didnt know there was that many of you
35 notes · View notes
philcore · 3 years ago
Text
missed opportunity to call it “phlants” just sayin
2 notes · View notes
wcva · 5 years ago
Text
Diogelu yn y Sector Gwirfoddol – Beth Sy’n Bwysig?
Tumblr media
Yn dilyn lansio fersiwn newydd o Drefniadau Diogelu Cymru ym mis Tachwedd, gofynnodd Suzanne Mollison, Swyddog Diogelu CGGC i rai o’i chydweithwyr rannu eu syniadau ynglŷn â diogelu yn y sector gwirfoddol.
Lansiwyd fersiwn newydd o Drefniadau Diogelu Cymru ym mis Tachwedd. Mae’r Trefniadau newydd yn adeiladu ar y canllawiau a osodwyd yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ( Cymru) 2014  gyda’r nod o fod o gymorth i unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant neu oedolion – p’un a yw’n waith â thâl neu’n waith di-dâl, ym mhob sector. 
Prif swyddogaeth y trefniadau newydd yw egluro’n union yr hyn a ddisgwylir o’r unigolyn mewn perthynas â Diogelu. Er enghraifft, ceir ynddynt nid yn unig awgrymiadau ar gyfer arfer da ond hefyd amserlenni penodol ar gyfer tasgau penodol a phryd y dylid eu cwblhau. 
Dolen perthnasol: Dysgwch mwy am y gweithdrefnau diogelu newydd yn ein gweminar sy’n dod diwedd y mis
Gofynnais i rai o’m cydweithwyr yn y sector gwirfoddol beth, yn eu barn nhw, yw’r peth pwysicaf y dylai sefydliad yn y sector gwirfoddol ei wneud i ddiogelu eu buddiolwyr, y gwirfoddolwyr, a/ neu eu staff ac ymddiriedolwyr, wrth i ni symud ymlaen i 2020.
‘Dylai gwirfoddoli fod yn hwyl, ond hefyd yn ddiogel’ 
Ann Woods yw Prif Swyddog ac Arweinydd Diogelu Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint ac mae wedi gweithio am 15 mlynedd o fewn Gwasanaethau Cefnogi Teuluoedd y Trydydd Sector. 
Dywed: “Fel sefydliadau yn y Trydydd Sector sy’n darparu Gwasanaethau Cyhoeddus, credaf y dylem sicrhau:
mai llesiant ein defnyddwyr sy’n hollbwysig – dylem amddiffyn hawliau a buddiannau defnyddwyr a gofalwyr;
bod ein gwirfoddolwyr yn cael eu recriwtio, eu hyfforddi a’u cefnogi er mwyn gallu ymdopi â’r heriau sy’n dod yn sgil darparu gwasanaethau cyhoeddus – dylai gwirfoddoli fod yn hwyl ond hefyd yn ddiogel!
bod gan ein staff yr wybodaeth, y sgiliau a’r gefnogaeth i ddiogelu unrhyw un sy’n gysylltiedig â’n sefydliad rhag niwed, gan leihau’r risg drwy ddefnyddio arferion da sy’n seiliedig ar bolisïau da. 
Os oes unrhyw ansicrwydd ynglŷn ag unrhyw agwedd ar Ddiogelu, mae’n hanfodol i ni i gyd geisio cael cefnogaeth ( i ni’n hunain a’n cymdeithas). Gallwch gael cymorth gan eich Cyngor Gwirfoddol Sirol (a gefnogir gan Wasanaeth Diogelu CGGC). 
Gallwch ddod o hyd i bob Cyngor Gwirfoddol Sirol yma:
Cefnogi Trydydd Sector Cymru 
‘Mae pawb yn gyfrifol am Ddiogelu’ 
Carl Harris yw Uwch Ymgynghorydd Hyfforddiant a Datblygiad (Cymru) yr NSPCC. 
Mae hefyd wedi ystyried y cwestiwn hwn. Dywed Carl y dylai sefydliad o fewn y sector gwirfoddol ddiogelu drwy: 
(Ar gyfer Buddiolwyr) Sicrhau bod gan fuddiolwyr lais sy’n cael ei glywed
(Ar gyfer Gwirfoddolwyr) Mae’n hanfodol i wirfoddolwyr gael cwrs sefydlu amserol ac addas sy’n cynnwys hyfforddiant diogelu angenrheidiol ac ymwybyddiaeth o bolisi a gweithdrefnau’r sefydliad o ran yr hyn i’w wneud os cyfyd unrhyw bryderon ynglŷn â lles unrhyw blentyn neu oedolyn
(Ar gyfer Staff ac ymddiredolwyr) Sicrhau bod pob aelod o staff a phob ymddiriedolwr yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau diogelu gan fod ‘diogelu yn gyfrifoldeb i bawb’ 
Mae’r NSPCC wedi bod yn lledaenu’r neges hon ers tro bellach. Diolch, Carl, am ein hatgoffa. 
Felly y neges sylfaenol yw bod diogelu yn golygu ymdrech fel tîm a chydgyfrifoldeb.
Gallwn i gyd gyfrannu a gwneud gwahaniaeth er mwyn diogelu pawb a lleihau’r risg o gam-drin, niwed ac esgeulustod. 
Ni ddylai un person, ac ni all un sefydliad, wneud hyn ar ei ben ei hun. Cofiwch fanteisio ar y cyfleoedd amrywiol i gael cymorth a chefnogaeth y cyfeiriwyd atynt uchod. 
Mae Suzanne Mollison yn Swyddog Diogelu gyda CGGC. Am Wybodaeth a Chefnogaeth ynglŷn â Diogelu edrychwch ar y tudalennau gwe ar ddiogelu neu ffoniwch 0300 111 0124 (opsiwn 6).
0 notes
drudwen · 5 years ago
Text
Ann Ellis - E. Lois
Tumblr media
ANN ELLIS
Roedd Ann Ellis yn fenyw oedd yn byw yn ardal Llannerch Banna yn Sir y Fflint. Cafodd ei chyhuddo, yn haf 1657, o achosi salwch i blant ar ôl iddynt ei chythruddo.
Clywodd y llys, ryw bedair mlynedd wedi i Ann symud i’r ardal, fod bachgen deuddeg mlwydd oed wedi cael ei barlysu, ac ni allai gerdded oddi ar hynny. Roedd Richard wedi bod yn dringo ar do tŷ Ann, a phiso i lawr ei simne. Rheibiodd ef pan oedd yn chwarae gyda’i phlant hi, gan ddweud ei bod yn gobeithio y byddai’n mynd yn gloff. Chwe mis yn ddiweddarach, dechreuodd Richard weiddi mewn poen, a chollodd y defnydd o’i goesau. Roedd y bobl leol yn argyhoeddedig mai Ann oedd ar fai.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach, roedd menyw o’r enw Gwen Hughes wedi gwrthod rhoi cig i Ann pan ddaeth Ann draw i gardota. Ymhen ychydig amser, dechreuodd Margaret, plentyn Gwen Hughes oedd yn flwydd oed, wrthod bwyta. Roedd Gwen yn argyhoeddedig mai melltith gan Ann oedd wedi achosi hyn, felly gofynnodd i Ann fendithio’r plentyn. Gwrthododd Ann, ond wedi pedwar diwrnod aeth i fendithio’r plentyn. Gwellhaodd y plentyn yn fuan wedyn. Deallodd pobl hyn fel cadarnhad fod Ann Ellis yn wrach.
Bum mlynedd yn ddiweddarach, aeth Margaret Hughes, plentyn Gwen, a phlant arall, i mewn i dŷ Ann Ellis pan nad oedd hi yno, a bwyta ei holl fara. Pan dychwelodd Ann, a sylweddoli beth oedd wedi digwydd, roedd hi’n ddig iawn. Y dydd Llun canlynol, ymddangosodd lwmp tua maint ŵy o dan fraich Margaret. Dechreuodd weiddi, crynu a chrio. Perswadiodd menyw arall o’r enw Elizabeth Jeffreys y dylai Ann fynd draw i fendithio’r plentyn. Aeth Ann at Margaret, a dweud “Duw a’th fendithio, fe welli di gyda hyn”, a dechreuodd y plentyn wella wedi hyn.
Wedi’r achos olaf hwn, penderfynodd Gwen Hughes ddwyn achos yn erbyn Ann Ellis. Daeth o hyd i dystion, gan gynnwys Elizabeth Jeffries, oedd o’r farn fod Ann wedi achosi marwolaeth ei phlentyn flwyddyn ynghynt. Roedd Elizabeth wedi gofyn i Ann fendithio ei phlentyn pan gafodd ei tharo’n wael, ac er iddi wella yn y dechrau, bu farw’r plentyn o fewn y mis. Tystiodd Margaret Barnett bod ei phlentyn wedi cael ei daro’n wael ar ôl i Ann fod yn anfodlon ar y cardod a gafodd ganddi, a bu’n rhaid iddi gael Ann yn ôl i fendithio’r plentyn.
Tystiodd Susan Addams fod Ann wedi rhoi salwch od i’w buwch wedi i Susan wrthod rhoi llaeth i Ann. Wedi iddyn nhw roi llaeth i Ann, gwellhaodd y fuwch.
Gofynnodd y barnwr Andrew Ellis i Ann ateb y cyhuddiadau, a phlediodd hi’n ddieuog. Dywedodd fod Richard Hughes yn gloff, ond na felltithiodd hi ef na dymuno drwg iddo. Cyfaddefodd iddi fendithio’r plant, ond dywedodd nad hi oedd wedi achosi’r afiechydon.
Cafodd Ann ei cadw yn y ddalfa ar Fehefin y 3ydd, 1657, i aros tan eisteddai Cwrt y Sesiwn Fawr yn mis Medi.
Mae’n aneglur sut, ond yn ôl pob sôn, bu Elizabeth Jeffreys a Wil, gŵr Gwen Hughes, yn gyfrifol am helpu Ann Ellis i ddianc o’r carchar. Ddau fis yn ddiweddarach, cafodd ei hailgarcharu yn Swydd Caer. Ar ddiwedd mis Medi ymddangosodd o flaen y Barnwr John Bradshaw a Thomas Tell ar bedwar cyhuddiad o fod yn wrach. Rhyddhawyd hi’n ddiamodol yn mis Ebrill 1658.
Darllen Pellach:
Gwrachod Cymru – Eirlys Gruffydd (p.45-7) E. Lois yw arlunydd Prosiect Drudwen, Rhithganfyddiad a phrosiect #GwrachodCymru, ymhlith pethau eraill. Mae hi ar Instagram fel @efalois a Twitter fel @efalois. 
ANN ELLIS
Ann Ellis was a woman who lived in the Penley area of Flintshire. In the summer of 1657, she was accused of causing illness to children once they’d angered her.
The court heard that four years after Ann moved to the area, a twelve-year-old boy called Richard had been paralysed, and he could not walk. Richard had climbed on to the roof of Ann’s house, and had urinated down the chimney. She cursed him as he was playing with her children, saying that she wished he’d ‘go lame’. Six months later, Richard lost the use of both of his legs. The local people were convinced that Ann was to blame.
Two years later, a woman called Gwen Hughes refused to give Ann meat when she came to beg for it. Sometime later, Margaret, Gwen Hughes’ one year old daughter, began to refuse food. Gwen was convinced that Ann was to blame, and so she asked Ann to bless her child. Ann refused, but four days later, Ann came to bless the child. The child’s health improved after that. People understood this to mean that Ann was a witch.
Five years later, Margaret Hughes, Gwen’s daughter, and other local children went into Ann’s house when she wasn’t there, and ate all of her bread. When Ann returned and realised what had happened, she was very angry. The following Monday, a large lump around the size of an egg appeared under Margaret’s arm. She started yelling, crying and shivering. Another woman called Elizabeth Jeffreys persuaded Ann to come over and bless the child. Ann went to Margaret, and said ‘God bless you, you will get better’, and the child’s health began to improve.
After this last event, Gwen Hughes decided to build a case against Ann Ellis. She gathered witnesses, including Elizabeth Jeffries, who thought Ann had caused her child to die the previous year. Elizabeth had asked Ann to bless the child when the child was ill, and though the child’s health initially improved, the child died within the month. Margaret Barnett testified that her child had taken ill after Ann had been dissatisfied with the food that she had offered when Ann came to beg, and Ann had blessed the child in order to improve the child’s health.
Susan Adams testified that Ann had given her cow a strange illness, because she had refused to give Ann milk. Once she had given Ann milk, the cow’s health improved.
The Jude Andrew Ellis asked Ann to respond to the accusations, and she pled Not Guilty. She said that she was sorry that Richard Hughes was paralysed, but she had never cursed him nor wished him ill. She admitted that she had blessed the children, but said that she had not caused their illnesses.
Ann was sent to prison on the 3rdof June 1657, to await a trial in the Sesiwn Fawr in September.
It is unclear why, but Elizabeth Jeffreys and Wil, Gwen Hughes’ husband, apparently helped Ann Ellis escape from jail. Two months later, she was recaptured near Chester.  At the end of September, she was tried in front of the Judge John Bradshaw and Thomas Tell for four accusations of witchcraft. She was released without charge in 1658.
Further Reading:
Gwrachod Cymru – Eirlys Gruffydd (p.45-7)
E. Lois is the illustrator of Prosiect Drudwen, Rhithganfyddiad and the #GwrachodCymru project. She is on Instagram as @efalois and Twitter as @efalois.
0 notes
ysgolgymraegmelingruffydd · 5 years ago
Photo
Tumblr media
Plant Bl3Ll yn sgwrsio yn Ffrangeg gyda phlant y meithrin prynhawn, ac yn dysgu cân rhannau’r Corff. #diwrnodieithoeddrhynglwadol #CLl https://ift.tt/2lYT37r
0 notes
queerwelsh · 6 years ago
Text
“Atgof” gan E. Prosser Rhys
Enillodd E. Prosser Rhys y Goron yn Eisteddfod Cenedlaethol 1924, efo “Atgof,” i feirniadaeth oherwydd y themâu rhywiol (o natur heterorywiol ac hoyw).
ATGOF.
YSTORI LLANC SYNHWYRUS.
“The imagination of a boy is healthy, and the mature imagination of a man is healthy; but there is a space of life between, in which the soul is in a ferment, the character undecided, the way of life uncertain, the ambition thick-sighted. . .” John Keats. Yn ei ail rhagymadrodd i’w “Endymion.”
 Mi rusiais rhagddo drwy flynyddoedd blin Ieuenctid nwydus, er ei daerni ef; Gomeddwn wrando ar ei eiriau rhin Er gweled uffern ym mhen draw pob nef. Ymyrrwr, meddwn, oedd, a fynnai im’ Geisio yn llwfr ryw ddiogelwch gwael, A minnau eisiau ildio i chwim a chwim, A bwyta gwaharddedig ffrwyth yn hael. Ond fe’m dilynai er fy rhusio i gyd, Heb ddim a darfai ei ddewinol ddawn; Adwaenai dro fy meddwl claf o hyd,– Dilynai a dilynai’n agos iawn, Fel petai gennad gor-ofalus Dduw I’m gwarchod rhag y gwybod sydd o Fyw.         *                *                * Mwg mawn! Aroglau hwnna, dyn a wŷr, Drwy’r ffroen a gerdda i’m synhwyrau’n glau, Oni’m meddiennir i gan Atgo’n llwyr, A’m dwyn i’r cartref gwyn rhwng perthi cau. Cofiaf yr ystafelloedd bach, a gwawr Y celfi hen, a’r cynefin-dra rhydd; A mam a thad er llawer tywyll awr Yn sugno o Gariad gysur at y dydd. A chofiaf stormydd hwyr yn chwipio’r drws A minnau’n ‘swatio’n felys wrth y tân, Hyd oni’m denai cwsg â’i gellwair tlws I fynwes mam, a’m suo gan ei chân. A bwrw fy mlino o egnio cyd Heb ofn y nos rhwng dau ddedwydda’r byd. Rhwng dau ddedwydda’r byd! . . Mi gefais fyw Yn hwy na diogelwch Maboed iach, A gweld Dedwyddwch, yn nyryswch Rhyw Yn nychu a darfod, yn y cartref bach. Cans yma, a mi’n prifio, gwyliais un Yn wylo a chynddeiriogi yn ei thro Tan fin y gwir fod tad ei phlant ei hun Yn peri son amdano hyd y fro. A chalon mam,–er ei chystuddio’n ddwys Wrth dorri troeog gwys o’r llan i’r bedd– Ni wybydd gystudd o gyn drymed pwys A cholli nerth ei Rhyw, a’i harddwch gwedd, A’r gwr a’i treuliodd eto a’i waed yn dwym,’ A dim ond Arfer oer i’w cadw yn rhwym. Arfer i’w cadw yn rhwym! Pond enbyd fai Meddwn, oedd ei mwsogli hi, erioed, A Rhyw mor wamal yn ei lanw a’i drai, A’r gwendid rhagddo i bob un a roed? Pond ofer tyngu’r llw yng ngwyddfod Duw A ni heb wybod hyd a lled ein chwant, A chicio’r tresi’n ffôl tra fyddwn fyw, A’u cicio, wedi’n myned, gan ein plant? A chredais, gartre, ym mwg y mawn, a’r boen, Nag ydoedd Cariad namyn Rhyw i gyd,– Mai pranciau anghyfrifol cnawdol hoen Oedd Cariad–i’w fwynhau tra dalio’i hud, Na fynnai brisio dull Gwareiddiad salw– A chrwydro draw ac yma yn ôl ei alw. Yn ôl ei alw! Pa bryd y meliaist ti Gariad, mewn unpeth ond dy hwyl dy hun? A pham yr ofer-geisir, holwn i, Dy blethu’n ddof i Economeg Dyn? Mynnaist ti d’oglais â chwrteisi hen, Rhwysg twrnamaint a gwiw sifalri gweilch. Tynnaist o feirdd a doethion arial Llên. Drysaist gynlluniau ymerodron beilch. Ac er yn gryfach na’r mynyddoedd mawr Oriocach ydwyt na’r awelig wan; A deimlo sicrwydd dy gofleidiau ‘nawr, Ni ŵyr lle bo dy ffansi yn y man . . . Ond ni’th lurguniaf i rhag Arfer wyw Cans tramwy wrth dy fympwy di yw Byw. Byw! Gwawdiwn innau gri’r parchusion mwy Fod Cariad dau yn rhywbeth trech na’u Rhyw? Beth am fy ngartre’ nad oedd gartre’n hwy? . . . A fei-id y Diawl am reddf a greodd Duw? Derbyniaf Gariad, meddwn, fel y mae; Mae f’ ifanc gorff yn blysio am ei rin; Mynnaf y merched gwympaf imi’n brae A feddwo fy synhwyrau oll fel gwin. A throed fermiliwn ymachludoedd hir Gilfach y graig yn rhyw bantheon nwyd; Datganed adar bob gorfoledd clir; Dawnsied awelon dros y rhostir llwyd, A chwardded lleuad wen a mintai’r sêr Ar ddeuddyn Cariad yn eu poenau pêr.          *                *                * Dyna f’ adduned. A phan wnaethpwyd hi Dibaid y doi ymadrodd ar fy ol: Cyn byw i ddim ond Rhyw, ymbwylla, di, A phechu i’th erbyn di dy hun mor ffol. Onid priodi a chartrefu dau Achlesodd wreiddiau Meddwl y ddi lyth? A pheri dywed trwy ogleisiau brau Natur yn llefain am gael byw am byth? Nid anffawd Pleser roddi i fam y boen O eni’i phlentyn, a’i hymwadu drud– Cans dyma offrwm Bywyd yn ei hoen Ar allor Cariad er mwyn cadw’r byd. Gochel! Mae’r allor yn rhy gysegredig I’w d’wyno gan dy reddf annisgybledig. Aroglau’r pridd! Mae clywed hwnnw o hyd Ar glaear ddyddiau’r Gwanwyn, rhag y troi, Yn cadw’n ddifarw fyth yr Atgof drud Am f’ awydd am fercheta, a’m hynfyd ffoi. O afael pob myfyrdod a pherswâd I brofi Cariad yn ei angerdd noeth; Digon i mi oedd cyfeiliorni ‘nhad I’m clust-fyddaru i’r llefaru doeth . . Aroglau’r pridd! Aroglau’r ddaear hen Fu gynt yn esmwythâu f’ ymennydd i,– Pigyn a beri mwyach, ac nid gwên. Gwae imi lygru d’ addfwyn burdeb di. Cyn gwybod bod a brofir, o bob rhyw. Yn rhan ddi syflyd o Gelfyddyd Byw. Celfyddyd Byw! Nid oedd fy mryd ar ddim Ond meddwl ar y gwin sy’n enaid merch . . . Gwelaf yn awr y nos a bennais im’ Gwrddyd a Mair ar berwyl anllad serch. Uchel oedd llef yr arddwyr yn y maes, A’r cwysi coch yn gollwng tawel sawr. ‘Roedd Byw yn ganu yn y masarn llaes; A Byw yn brancio ar y mynydd mawr. Llawen i’m golwg oedd a welwn oll; Llawen i’m clust a’m ffroen a glywn, bob cam; A llawen oeddwn i–a bron ar goll– A Byw i minnau–’nawr–o fewn fy llam, A’i holl aeddfedrwydd gogoneddus hi Yn rhyw amharod-ddisgwyl wrthyf I. Yn disgwyl wrthyf! Ar lan y llyn Yr eisteddasom fel y cochai’r hwyr. Nesheais ati hi, a’i gwasgu’n dynn, A’i hanner-annog i ddibristod llwyr. Llenwais ei llygaid du â mwynder maith; Cusenais â gwefusau gwancus, llawn; Teimlais ei ffurf hudolus lawer gwaith; Gyrrais ei gwaed ar gerdded cyflym iawn. O funud dwymn i funud, fe ddaeth tro Penllanw gorchfygol Rhyw, ac ildio’n dau . . . A wybu dyn felystra fel efô Yn treio–a throi’n atgof hyll–mor glau? . . . Cerddasom adref, heb ddim son am garu A minnau ar y Pleser wedi alaru. Wedi alaru! . . Pe na baem ninnau weithion Ond nawmlwydd, Mair, yn lle’n deunawmlwydd blin Ni byddai gwyllt bwerau Rhyw yn gweithio’n Anesmwyth ynnom hyd nes cael ei rin. Lluniem “dy bach” rhwng bonau’r grug, heb frys; Neu lamu’n droednoeth drwy ddwr bas y llyn; Neu gynneu eithin; neu loddesta ar lus; Neu gasglu blodau coch a glas a gwyn. Gwae, gwae na feddem heno ar ein hynt Ffraeth ddiniweidrwydd dyddiau’r nawmlwydd iach, A glendid o anwybod megis cynt, A dim yn gwasgu ar y galon fach,– A holl ddadrithio poenus deunaw oed Heb ddyfod i’n hwymwybod ni erioed. Heb ddyfod inni ‘rioed! Mi dybiais, do, Mai ‘mroi i reddf y Cnawd oedd diben Byw Ond fe’m syrffedodd hynny, ar un tro, A merch ni fynnwn mwy, na son am Ryw. Gwall ydoedd Rhyw yng nghreu y bud,–tabŵ, A halog ydoedd merch a’i meddal fodd. Melltithiais innau fy anniwair lw, A chanu’n iach a’r cwbl i gyd, o’m bodd. Siomedig ydoedd Rhyw, er gweu o ddyn Ramant amdano’n gain. Mynswn yn awr Mai Cyfeillgarwch oedd a roddai i un Y Bywyd helaeth glan. Gwasgwn i lawr Flys Rhyw, a’i ymlid. Ni chai ‘nhwyllo’n hwy Cysegrwn f’ oes i Gyfeillgawrch mwy.         *                *                * Dyna f’adduned. A phan wnaethpwyd hi Dibaid y doi ymadrodd ar fy ol; Ymswyna rhag doctora Rhyw, dydi, A phechu i’th erbyn di dy hyn mor ffol. Mae Cyfeillgarwch gwyr yn nhroeon Ffawd Fel llinyn aur drwy holl groniclau’r byd; Ni warafunaf iti ar dy rawd Gael profi o ddigrifwch hun i gyd; Ond gwylia bwyso gormod arno fo Oherwydd dy syrffedu, dro, ar ferch, A thybio yrru felly Rhyw ar ffo:– Geill deu-gnawd un-rhyw ei ail-alw yn erch, A gwneuthur Cyfeillgarwch wedi hyn Yn waeth na Chariad anllad glan y llyn.         *                *                * Aroglau gwair ar lawr! Dim ond ei glywed Ar awel lariaidd diwedd dydd o haf A ddwg yn ol yr Atgof hwnnw a ddywed Am adeg Cyfeillgarwch. Cofio wnaf Y fel y treiglais ar fy nyfal gais Am gyfaill a rôi imi’r sylwedd gwir, Heb gymryd arnaf glywed gair y Llais, Na digalonni er fy siomi’n hir; A’r fel y deuthum hyd at degwch glan Menai hudolus un ariannaid hwyr, Ai gwrdd efô luniais yn y man Yn bartner enaid a bodlonrwydd llwyr, A sawl y ‘stodiau wrth Lan Faglan syn Yn fendith dawel ar ein cwlwm tynn. Ein cwlwm tynn! Di, lanc gwalltfelyn, rhadlon, Gwyddost y cyfan a fu rhyngom ni,– Yr holl ymddiried gonest, a’r afradlon Arfaethau glân a wnaethpwyd ger y lli. Haerasom fod y byd yn ddrwg i’w fôn; Mynasem gael y byd o’i fôn yn dda; A’i roi mewn moddau byw fel na bai sôn Am wanc neu syrffed fyth ar ddyn yn bla. Tyngasom ddiystyrru’n greddfau gwael: Nid oedd y Corff ond teml y Meddwl drud; Er blysio o Ieuenctid garu’n hael Nid ildiem ni i ddim rhyw gnawdol hud, Cans oni chlywem annog pêr o bell Ar inni gyrchu at y Bywyd Gwell? Y Bywyd Gwell! . . Cofiaf y noson dawel Y cerddem adref hyd ffordd Fethel draw, A’r wlad heb ddwndwr dyn na llafar awel A’r gwair yn arogleuo ar bob llaw.– Ni fynnai’n Meddwl fenthig hanner gair A ninnau o ryw Wybod mawr mor llawn, Pan dorrodd esmwyth ganu i’r Forwyn Fair O gwfaint rhwng y coed yn beraidd iawn. Safasom. A charthasom yno bwys Ein beiau parod, dybiem ni, yn llwyr, Rhag miwsig hen y geiriau Lladin glwys A gant dirweirllu’r oesodd gyda’r hwyr I ymlid cof am hudoliaethau’r byd O gêl gilfachau eu Meddyliau i gyd. Cilfachau eu Meddyliau! Fe gredasom Ninnau, ill dau, fod ein Meddyliau’n lân Y noson ryfedd honno, a hunasom A’n clustiau yn ail-ganu’r santaidd gân Hunasom . . Rywdro hanner-deffro’n dau; A’n cael ein hunain yn cofleidio’n dynn; A Rhyw yn ein gorthrymu; a’i fwynhau; A phallu’n sydyn fel ar lan y llyn … Llwyr ddeffro . . ac ystyried beth a wnaed … Fe aeth f’ ymennydd fel pwll tro gan boen; Roedd Cyfeillgarwch eto’n sarn tan draed, A ninnau gynnau’n siwr santeiddio’n hoen! Mi lefais: Gad fi’n llonydd bellach, Ryw Yn wyf yn glaf, yn glaf, o eisiau Byw! Byw! Mi chwenychais brofi’i hyfryd flas, Ond rhyngof i a Byw mae gallu Cnawd Yn fy ngormesu iddo’n ufudd was, A rhwystro a ddeisyfo ‘Meddwl tlawd. Beth wyt ti Gnawd? Tydi, a dawdd y Gwres A lasa’r Oerfel; ac a waeda’r Dur; A gwsg; a sieryd; ac a ddibynna ar bres; Sy’n gweld; sy’n clywed; ac yn cynnwys Cur? Beth wyt ti, Gnawd? Tydi ar siawns a wnaed Rhag trachwant Rhyw dau na’th fynasent ddim, A’r trachwant hwnnw’n ysfa yn dy waed Dithau bob dydd a nos? O dywed im’! A pham y rhoed mewn llestr mor salw ei lun Rywbeth o ddeunydd gwell na’r llestr ei hun? Ffordd arall wedyn a ddyfelais i, Ac wedyn daeth ymadrodd ar fy ol: Cyn llwyr-ymwadu a Rhyw, ymbwylla, di, A phechu i’th erbyn di dy hun mor ffol, Gomeddwm iti ei ddefnyddio’n gam, A llygru sianel santaidd Natur fawr; Ac erchais iti ymswyn rhag rhoi nam Ar Gyfeillgarwch yn dy nwydus awr. Ond ni wrandeuaist. Prechaist, a syrffedu Ar Gariad merch a Chyfeillgarwch dyn. A mwy, yr wyd yn feddal iawn yn credu Mai haint yw cyffwrdd Cnawd, a charu llun Mwynder o’th gyrraedd . . Gwagedd, gwagedd yw! . . Priodi Cnawd a Meddwl–dyna yw Byw.         *                *                * Aroglau’r gwymon! . . Gwelaf haul yr haf Yn rhoi esmwythyd mwyn i donnau’r lli, A’r bobloedd fodlon ar y draethell braf Yn ymddigrifo yn y chwaon ffri. Aroglau’r gwymon! . . Clywaf firi’r byd Yng ngherdded brwd yr offerynnau cerdd, A rhyw rianedd yn eu gwyn i gyd Yn chwerthin gyda’r hwyr ar lannerch werdd. Aroglau’r gwymon! . . Cerddwn ynddo’n syn A’m gwybod wedi annibennu f’ oes, A sylwi ar un o ri’r rhianedd gwyn Yn sylwi arnaf i . . Ciliodd y loes A wasgai arnaf rhag ei gwen fach, araf … Tyngais yn fyr fy mhwyll: Myfi a’i caraf! Myfi a’i caraf, meddwn; er bod Rhyw A Chariad wedi’u drysu’n ddi wahân, Rhaid bod gorawen Cariad pur o Dduw, A hoywai ddau, pe lleddid Rhyw yn lân. A medrwn hynny’n awr. My rwystrwn Gnawd I orfod eto at fy Meddwl I . . . Ni thorrem air; ni cherddem ar un rhawd; Ac ni chusanem, ni chofleidiem ni. Gwelwn y fun yn gyson ger y donn A digon oedd ei gweled i’m boddhau. Cyfleai’n llygaid Gariad dwfn y fron; Deallai’r naill ystori’r llall yn glau. A mynegasom yn ein caru mud Deimladau drechai holl dafodau’r byd. Tafodau’r byd! Sur y mynegent hwy Y gwynfyd rhyfedd barai’r fun i mi; Tystiwn fod diwedd ar f’ anffodion mwy A Buw hyfryted yn ei golwg hi. Ffenestri’i chalon oedd ei llygaid glas, A phurdeb plentyn ynddynt, er ei hoed, Gwyl oedd ei hagwedd, heb awgrymu cas Yn llercian yn ei gwisg na cham ei throed. ‘Roedd Bywyd, er fy siomi dro a thro Yn fwy na gwerth y cwbl a gostiodd im’, Ni fedrai’r byd, er ei gyfrwysed o Amgyffred ei gyfaredd ddwyfol ddim, Ac yntau o hyd yn rhygnu’r un hen dant Nad ydyw deuoedd ond peiriannau plant. Peiriannau plant! Gwae beri o’r gwymon gofio Yr hwyr y staeniwyd Cariad glan y môr. Dichon mai gweld y rheiny ddoi o nofio Gyffroes a ddirgel-gronnai ynnwy’n stôr … Ond gwn i mi freuddwydio ganol nos Gael pleser wrth halogi ‘nghariad fud … Yr oedd yr ieuanc Wawr yn cleisio’n dlos Pan giliodd Cwsg . . Cofiais y cwbl i gyd … Gwyr Duw im’ wylo dagrau chwerwon iawn Uwchben gresynus wedd fy mwriad glân … Mentrais i’r traeth a’r heulwen y prynhawn, Ond mi ddihengais mewn rhyw uffern dân O gyrraedd pawb o’r byd pan welais i Euogrwydd hefyd yn ei llygaid hi!         *                *                * Yng nghanol coed yr oeddwn, a thorr-calon Yn wŷniau drosof. Llefais: Ofer waith Yw ymarfogi rhag fy nygn dreialon; Fe gafodd Rhyw wall arnaf. Ffaith yw ffaith. Bellach, Tydi y rhusiais rhagot cyd, Siarad â mi; nyd wy’n dy ofni’n hwy. Gyfarwydd rhyfedd, Broffwyd siwr o hyd Beth a olygi? Mi’th wrandawaf mwy . . . Pwyso fy mhen ar gnwd o borfa wedd . . . . Y coed yn gysgod mwyn rhag haul y nef . . . Calon y byd yn curo, curo . . . Cerdd Rhyw dderyn bychan, sionc. . . Chwyth awel gref . . . Petrusgar osteg dwys . . Distawrwydd mawr . . . A’r Rhywun, yntau, yn llefaru’n awr:         *                *                * Fe blygaist dithau, er dy ystyfniced O’r diwedd, wedi ‘ngochel lawer gwaith, Gwyddwn o hyd na fedrai d’i anniddiced Ei lygaid-dynnu rhagof i drwy’r daith. Fe’m gelwaist yn Gyfarwydd rhyfedd, gynnau, A Phroffwyd siwr. Ynfyd o beth yw dyn! Nid ydoedd a’th ddilynodd hyd y grynnau Dorrit yn ofer ond Tydi dy Hun. Fel pe mynasai’r Bywyd sy’n y maes– Y dderwen gadarn neu’r glaswelltyn main, Lesteirio’r Rhin a dynn eu gwreiddiau llaes O’r pridd a’u magodd i’w grymuso’n gain, A methu ganddynt dorri’n ddail a blodau A nychu’n ddiymadferth drwy’u cyfnodau. Cans Rhin dy Fywyd dithau ydwyf i A dynn dy wreiddiau fyth o bridd dy dras, Gwesgaist fi ‘ngwaelod dy ymwybod, di, A phoeni mewn anallu heb fy ngras, Nid ydwyf i na da na drwg,–i gyd– Mae blas dy bridd, a’i wrtaith, arna’ i’n drwm, Efallai na bydd ddoeth fy ngair bob pryd, Ac y crafangaf wrth ragfarnau llwm, Ond rhaid i’th Gnawd a’th Feddwl di eu plygu I wneuthur a orchmynnwyf i drwy d’oes; A thrwof caiff dy Fywyd ei amlygu Fel, fel y mae, mewn chwerthin ac maen loes; A gwybod y bodlonrwydd sydd o Fyw Yn gwbl chywir yn ol Diben Duw. Fe blygaist, do, ond nid cyn pechu i’m herbyn; Ac ni bu bechod heb ei gosb erioed; Llechu ni cheffi’n unman rhag ei derbyn,– A’r llymaf cosb yw cosb yr ifanc oed. Nid ei di adref i arogalu’r mawn Na chofi eto ddechreu’r crwydro ffol; Ni chlywi sawr y pridd, wanwynol nawn, Na ddaw a wnaethost ti a Mair yn ol; Ni chlywi fyth aroglau gwair yr haf Heb gofio llygru’r Cyfeillgarwch cu; Na sawr y gwymon na ddaw methiant claf Y caru anghyffwrdd, eto i’th gof yn hy. Felly y teli bris dy feiau oll Nes pylo colyn Atgo, a mynd ar goll.
5 notes · View notes
licollyfrelot · 6 years ago
Text
The Water Cure
Tumblr media
The Water Cure
Sophie Mackintosh
(Penguin, 2019)
Fedra i ddim dweud yn iawn beth wnaeth fy nenu at y nofel yma. Dwi’n meddwl mai un oedd wedi’i hawgrymu gan Amazon yn ôl y pethau o’n i wedi eu prynu ar y kindle yn y gorffennol oedd hi. Beth bynnag oedd y rheswm i mi ei dewis, doeddwn i’n gwybod dim amdani cyn dechrau darllen. Nofel ddystopaidd yw hon, wedi’i gosod mewn cyfnod nad y’w cael ei ddiffinio, ond sydd yn amlwg yn y dyfodol agos: mae byd y nofel a’r pethau sydd ynddo yn gyfarwydd i ni mewn rhyw fodd, y ffordd o fyw yn un ry’n ni’n gallu ei adnabod, er fod na newidiadau mawr wedi digwydd i’n norm. Fe ymddengys fod y byd, oherwydd llygredd, neu o bosib rhyw fath o drychineb arfau cemegol neu niwclear, bellach yn gwenwyno menywod. Maent yn mynd yn wan ac yn sâl, tra bod dynion ddim yn cael eu heffeithio o gwbl. Os rhywbeth, mae dynion yr un mor beryglus a llygredig â’r byd o’u cwmpas. Pytiau o wybodaeth sydd gennym ni fel darllenwyr i greu darlun o fyd y nofel, fodd bynnag: dy’n ni byth yn siwr o’r gwirionedd, gan mai drwy safbwyntiau tair chwaer sydd byth wedi bod yn y byd hwnnw y cawn ni’r hanes.
Mae’r dair chwaer, Grace, Lia a Sky, wedi byw erioed mewn hen westy gyda’u rhieni, yn gweld prin dim o’r byd y tu allan i ffiniau eu tir. Ar ddechrau’r nofel, mae eu tad newydd farw, wedi mynd ar daith a heb ddychwelyd. Bellach mae’n rhaid i’r bedair gyfarwyddo gyda’r newid byd, ac o fewn tudalennau i gychwyn y nofel fe welwn nad teulu arferol sydd yma. Mae’r dair wedi’u cadw yn hollol ynysig yn eu cartref drwy eu bywydau. Mae eu rhieni yn rhyw fath o therapyddion: rhai sydd, yn amlwg, heb gael hyfforddiant o unrhyw fath. Mae’r therapïau rhyfedd a chreulon wedi’u dyfeisio gan eu tad yn cynnwys lladd anifeiliaid bychain, aros dan ddwr am hir, a gwisgo sach goslyd am ddiwrnodau. Roedd yr hen westy yn ganolfan i’r fenywod o’r prif dir oedd yn diodde, a fyddai’n dod i wneud y therapïau hyn i wella eu hunain o effeithiau’r byd a’r dynion. Mae’r merched wedi cael eu magu yng nghanol hyn i gyd, ac mae disgwyl iddyn nhw hefyd ddilyn yr un cwrs o therapi yn ddyddiol.
Er mai nofel am fenywod yw hon, dynion sy’n gyrru’r naratif ymlaen: tadau, plant, ymwelwyr sy’n bygwth chwalu’r “normalwydd” bregus ym mywydau’r bedair menyw. Mae perygl y dynion i’w deimlo drwy gydol y nofel, yn fygythiad sydd wedi’i wreiddio mor ddwfn ym meddyliau’r merched ry’n ni ein hunain yn teimlo’r ofn wrth i bethau newid o’u cwmpas. Y berthynas rhwng y fam a’i phlant yw un mwyaf diddorol ac anodd y nofel, fodd bynnag: roedd hi a’i gŵr yn amlwg yn meddwl eu bod nhw’n gwneud y peth gorau ar gyfer eu merched, ac wedi mynd i eithafion i warchod eu plant. Gwelwn yn y nofel hon mor hawdd y mae gwarchod rhywun rhag rhywbeth yn gallu troi yn rhywbeth caeedig a chul. Roedd na gariad yn y teulu yma unwaith, efallai, ond mae wedi ei gladdu’n ddwfn gan amodau ac arferion creulon. Rhwng y merched, mae na gariad, ond mae eiddigedd, cenfigen a chystadlu hefyd yn tywyllu’r berthynas. Does dim rhyfedd fod Lia yn chwilio o hyd am brawf o gariad y gweddill tuag ati: yn ôl un o arferion ei thad, hi yw’r un anlwcus sydd heb rywun wedi’u penodi i’w charu yn arbennig y flwyddyn honno. Does dim rhyfedd fod y berthynas anarferol o agos rhwng Grace a’i thad yn creu trafferthion rhyngddi a’i mam, ac yn genwud bywyd yn anodd i bawb. Fod Sky, yr ifanca, yn cael ei gwarchod gan bawb ac yn digio nad yw hi’n deall am y tensiynau rhwng aelodau ei theulu.
Yr hyn y mae Sophie Mackintosh yn ei wneud mor dda yw ein cadw ni ar dir anwastad drwy gydol y nofel. Mae’r merched wedi cael cyn lleied o wybodaeth am y byd o’u cwmpas drwy’u bywydau, ry’n ni hefyd yn ddibynnol ar eu safbwyntiau anghyflawn nhw. Dydyn ni ddim yn dysgu tan yn hwyr yn y nofel beth yw eu hoedrannau nhw, hyd yn oed. Pan ddaw dylanwadau newydd i’w cartref, mae pawb yn ymateb yn wahanol iddyn nhw, ac mae’r tensiynau oedd dan yr wyneb yn cael eu hamlygu yn fwyfwy wrth i’r dair ddechrau cwestiynu’r gwersi a’r “ffeithiau” y mae eu rhieni wedi eu dysgu iddyn nhw. Dyma thema sy’n gyfarwydd i bawb: daw yna bwynt i ni gyd wrth i ni aeddfedu pan fyddwn ni’n dechrau meddwl dros ein hunain ac asesu’r hyn ry’n ni wedi dysgu fel plant. Dyma sy’n digwydd i Grace, Lia, a Sky, ond mewn byd lle y gallai ymddiried yn y person anghywir olygu’r gwahaniaeth rhwng byw a marw. Profiad dwys yw darllen y nofel hon mewn cyfnod byr fel wnes i, ond mae’n ddarn o waith celfydd, yn chwedl o fath sy’n gwneud i ni edrych ar ein byd ninnau mewn ffordd ychydig yn wahanol hefyd. Mae’r delweddau yn dal i aros yn fy meddwl: y dair menyw ifanc mewn dillad plant, mewn hen westy crand sy’n adfeilio; popeth wedi’i baentio’n wyn, a’r pentyrrau o halen o amgylch y ffiniau i’w gwarchod rhag peryglon mawr y byd.
0 notes