#treftadaeth
Explore tagged Tumblr posts
1919raceriots-blog · 5 years ago
Link
We have created an open-access syllabus with resources about the 1919 Race Riots
2 notes · View notes
etw-teg · 7 years ago
Link
Tumblr media
Am ganrifoedd, mae Ewropeaid y cyfandir wedi dod i Gymru. Yn ystod y cyfnod Rhamantaidd, daeth rhai i chwilio am hafan wledig, ac yn ystod Oes Victoria teithiodd eraill fel ysbiwyr diwydiannol.  Ar adegau o ryfel bu i lawer o ffoaduriaid ddianc i Gymru i geisio lloches rhag cael eu herlid. Mae Ewropeaid y cyfandir nid yn unig wedi gadael eu holion ymhlith y Cymry drwy ymgartrefu yma, maent hefyd wedi ysgrifennu'n helaeth am eu profiadau mewn dyddiaduron, llythyrau, llyfrau a chylchgronau.
Dilynwch naw llwybr â thema a darganfod Cymru, ei threftadaeth, ei diwylliant a'i phobl. Profwch y wlad fel na wnaethoch o'r blaen drwy weithiau teithwyr hanesyddol. Ymchwiliwch i Abaty Tyndyrn sydd wedi'i orchuddio ag eiddew, rhyfeddwch ar awyr tanllyd Merthyr Tydfil yn y nos a syrthiwch mewn cariad gyda merched digon anarferol yn Llangollen.
4 notes · View notes
museumwales · 7 years ago
Photo
Tumblr media
Agorodd Sain Ffagan ei drysau am y tro cyntaf ar 1 Gorffennaf 1948. Ers hynny, mae'r Amgueddfa wedi dod yn atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru.
Rydym yn dathlu pen-blwydd Sain Ffagan yn 70 gyda rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau a gweithgareddau.
Beth yw’ch atgof cyntaf o Sain Ffagan? Oes gennych lun o’ch ymweliad cyntaf â’r Amgueddfa?
-
St Fagans first opened its doors to the public on July 1 1948. Since then, the Museum has grown to be the most popular heritage attraction in Wales.
We are celebrating the Museum’s 70th birthday with an exciting programme of events and activities to mark this milestone in our history.
What’s your first memory of St Fagans? Have you got a photo of your first visit to the Museum?
12 notes · View notes
cymdeithasceredigion · 4 years ago
Text
Cystadleuaeth Cadair Pat Neill – Aros – Huw Dylan Owen, Treforys (ffugenw: Derfel)
Aros
Pen Set
Er y brys, rhwydd a di-oed fu f'oedi, 
Cefais ffics o Netflix a dyna ni
Yno'n ddiddos. Heb os roedd 'na bwysau 
Lasŵ o'm hamgylch, teimlo'r cylch yn cau. 
O'r sgrin mewn cowboi-siwt ai fy nhiwtor 
Welwn â drylliau ’stadegau di-dor?
Ond llawenydd oedd hirddydd cyfforddus
O heddwch iach a sleboga'n ddi-chwys.
Tu hwnt i'r hoe a phaned roedd dedlain
Nad oedd yn cymell, fel llinell mewn llain
A her iasol hen gowboi i'w chroesi
Ar ei geffyl gwyn yn fy nychryn i.
O'r fan hyn mae'n llinell bell sydd yn bod
I herio a minnau ar ddisberod.
 Llain Galed M4
Yn wyrthiol rhwng sbwriel gwrthun - a mwg 
Mewn man diamddiffyn
Yn iach a hardd ymysg chwyn 
Mae haul y blodau melyn.
 Ni Fethodd Gweddi Daer Erioed
Gwylia hon a’i goleuni yn cerdded
I’r cwrdd yn ei chloffni
I heddwch ei thŷ gweddi,
Y gynta’ i’w hoedfa yw hi.
  I oedfa o henoed lledfyw – wele'r 
Wylaidd drwy dre ddidduw
Yn baglu i Dŷ ei Duw, 
Annedwydd unig ydyw.
 Yn unig cerdd ei hunan â’i hysgryd,
Yn fusgrell fel cryman
 chamau yn ei chwman
I gael awr o’r ysbryd glân.
 Un awr lân aiff ar liniau – un orig
O fore’i gweddïau,
Awr hir o edifarhau
Un awr a’i thaith yn oriau.
  Hir artaith fu’r daith y dwthwn – hwnnw, 
Di-hoen, di-emosiwn
A bas a di-demtasiwn
Ydyw crwydr ei hollfyd crwn.
  Yno mae gwynfyd ei byd bach – unig, 
Ac yno’i chyfeddach
Â’i Chalfin, dyma’i chilfach
A man oer emynau iach.
  Â’i hemynau mae yno – a’i chanu
Yn chwennych ddoe eto
A'n ddiwyd ei gweddïo
I nawdd Ei Oleuni O.
  Crebachu
Mae yno’n erwau Mynwy, 
Yno mae, er nad yw mwy.
 Yno bu tranc yr heniaith
A'i gwres, ond erys yn graith 
Ddaliwyd ar hap mewn mapiau...
Ein hiaith na ellir rhyddhau.
Y Gymraeg hen mewn enwau 
A’u rhith sy’n mynnu parhau
I raddau ar arwyddion
Ar yr hewl i’r Gymru hon.
  Iaith welaf, ond di-lafar
A hesb yw, aeth geiriau'n sbâr, 
Iaith na chlywaf ar dafod
Yno'n byw, ond mae hi'n bod. 
Di-glywed ond gweledig
Yno'n drwch hen enwau drig
A geiriau yn y gweryd
O'r llwch yn harddwch o hyd.
   Cyfforddus
Er mor ansad ydyw'r gwadnau - a hyll 
A thyllog y sodlau;
Er eu hoed a'u hen lledr brau 
Y rhain saif yn ffefrynnau.
 Disgwyl
Yn hogyn roedd fy neges – yn eglur, 
Yn raglen wrth-ormes,
A’m tafod rydd di-rodres
Yn ffraeth a’m dyddiau yn ffres.
 Dyddiau fu’n llawn gwleidyddiaeth – a nefoedd 
Cyfiawn wrth-wladwriaeth,
A chanu am Gymru gaeth 
Yn seiliau fy sosialaeth.
  Hyn o sylwedd roddodd seiliau, – fory 
Guevara trown innau!
Rhown faeth i’r cenedlaethau 
A mwy, gan ochel dogmâu.
  Anochel bod dyfodol – o arwain, 
Herio’r drefn geidwadol
Yn arwr egwyddorol, 
Ysblennydd lywydd di-lol.
  Rhyw lolian rhwydd oedd blwyddyn – o wyliau
At ‘Dolig tra’n blentyn;
Yma nawr a minnau’n hyn
Rhy gynnar yw tro’r gwanwyn.
  Yn gynnar daeth deugeiniau – a’i gwynion, 
Rhy gynnar i minnau
Gael mantais uchelgeisiau,
A’r haf pob blwydd yn byrhau.
  'Rol hapusrwydd tro'r flwyddyn – yn wylaidd 
Sylweddoli'n sydyn:
Rhith 'dwi, i ble'r aeth y dyn
Yr anogais tra'n hogyn.
   "Nice day, makes it go  quicker"
Er yr haul hir-ymarhous -yw heddiw,
Rhaid dioddef y cyfoes 
A hin boenydia einioes-
I rai rhy hir yw eu hoes.
  Cyllell Boced Tad-cu
Pery'n finiog er na fu hogi – llafn 
Ei gyllell hen 'leni,
Ei hiraeth ddeil i dorri
Drwy niwl y cof ynof fi.
  Erfyn
Un wennol yw'n hysgolion, 
Un rhy hwyr i'r Gymru hon. 
Amatur yw’n blaguro
Yn ein gwlad hyd erwau’r glo.
I’n hiaith hen, nid gwên ond gwg, 
Mae’r gwanwyn ym morgannwg?
 Canmlwyddiant y Capel 
I’w hyfory rhoesant fawredd – a  rhoi 
O’u gras a’u hynawsedd,
Gosod eu gwir ar dirwedd 
A hau had i gywain hedd.
 Craf a naddu heddwch – yn eu cwm, 
Creu lle cain o lân hagrwch,
Yn werddon o  harddwch
A rhoi’u credo drosto’n drwch.
 Yn gymyn rhoi’i dirlun gadeirlan – wâr  
gariad dan hugan
O fwg, rhoi gwawl eu mawlgan
Yn deml uwch tyrrau o dân.
  Rhoi tŵr i’w hiachawdwriaeth – a gosod 
Gwŷs mewn pensaerniaeth,
A neges eu Cristnogaeth
Yn llenwi’r meini â’u maeth.
  Mae yno fwy na meini – a doethwyr; 
Mae cymdeithas heini
A graen yn ei sylfeini
Yn nawdd i’n haddoli ni.
  Yn nodded i’n cymunedau – yn sad 
Fe saif drwy’r blynyddau,
Yn iasol drwy hir oesau
Meini hen yn lain mwynhau.
  Ein gwaddol yw’r hen addoldy – odiaeth, 
Treftadaeth i’w ddathlu,
Onid hardd y saif ein t ŷ
I herio ein hyfory.
 Saith 
(Cynhelir coffadwriaeth blynyddol Brwydr Llwchwr/Gwyr 1136 ar ddydd calan am hanner dydd yn Garn Goch. Bu farw 500 dros Gymru ym Mrwydr Llwchwr. Llynedd - saith ddaeth i gofio...)
 Eu hamdo oedd clô'u gorymdaith, - cofiwn 
eu cyfiawn caledwaith;
I wrando gwlatgar araith
Yn swil heddiw daeth ond saith.
  Gwibient a'u cri'n llawn gobaith - i'w hangau'n 
Llwyr ingol dros heniaith;
'N ufudd i gofio'r afiaith 
Yn syn eleni 'mond saith.
  Uffern fu'r frwydr diffaith - y miri
A'r marw bum-canwaith,
Colli'r cyfan drwy anrhaith; 
Yn siom eleni daeth saith.
  Er yr hoen ym mheirianwaith - y milwyr
pery malais artaith
Y gad a'i holl anfadwaith 
Erchyll; yn sefyll 'roedd saith.
  Mil gwron frwydrodd estroniaith - cleddau 
Yn claddu eu gobaith;
O'u gwirfodd nawr at gerfwaith
Yn ddi-syfl coffa 'roedd saith.
  Er eu rhwysg y gro oedd eu rhaith - o drwst
Y drin a'u gorchestwaith
O fynnu cartref uniaith;
Dros Gymru'n sythu 'roedd saith.
  Yn gryf nawr erys y graith - yn waddol
I naddu gwlad berffaith,
Gwaed cad yn adeiladwaith;
Yn sicr, 'mond dechrau yw'r saith.
  Nodyn gan y Bardd
Fe’m ganwyd yn Crewe, fe’m magwyd yn Nolgellau, ac wedi cyfnodau mewn prifysgolion (Pontypridd, Caerdydd, Caerwysg, ac Abertawe), rwy’n byw ers troad y ganrif yn Nhreforys, Abertawe.  Yn briod â dwy o ferched (Mirain yn ysgol Bryntawe, Abertawe, a Heledd ym Mhrifysgol Aberystwyth), rwy’n gweithio gyda’r gwasanaethau cymdeithasol ym Mhowys. 
Rwyf yn gerddor gwerin (banjo a’r mandolin ac ati) ac wedi cyhoeddi cerddoriaeth gyda grwpiau gwerin (e.e. Gwerinos, Alltud).  Yn ogystal â threfnu a chynnal digwyddiadau Cymraeg yn Abertawe, rwyf yn rhoi gwersi Cymraeg yng nghlwb y gweithwyr yn Nhreforys.  Cyhoeddais gyfrol ar archeoleg ym Meirionnydd (Meini Meirionnydd) a chyfrol ar ddiwylliant cerddoriaeth werin (Sesiwn yng Nghymru).  Rwyf yn cyhoeddi englynion yn rheolaidd drwy drydar: @Gurfal
0 notes
rhiilustrates-blog · 5 years ago
Text
National Museum Wales Logo
Over the summer, I was looking out for emails involving work placements and live briefs and I came across creating a logo for the National Museum of Wales. As I no longer wanted to be a children’s book illustrator, I wanted to do something along the lines of advertisement work and was interested in creating a logo. 
I contacted Sarah Younan, who is the Youth Engagement Coordinator at the Museum, explaining that I was interested in creating a logo for the Hands-on Heritage project and asked what she had in mind. Below is the email, Sarah replied with, explaining that it includes 4 strands. She also attached other current logos that the museum has so the main logo of this project would tie in with other logos. 
“Hi Rhiannon Thank you for your interest. It’s a pretty open brief, but the logo is for the youth forum projects, and they are led by young people, so maybe something that isn’t too old fashioned and museum-ey? The project is called Hands on Heritage, and in Welsh, that’s Dwylo ar Treftadaeth – ideally, the logo should incorporate both languages, as our museum logo does too. We’re also funded by heritage lottery fund, so the logo you design will sit with the museum and the heritage fund logo quite often, so would be nice if they looked ok together  I’m attaching the logos Finally, it’s a project that promotes inclusion and diversity within the heritage, we’ve got 4 strands; -black history/minority representation/diversity theme -environment/extinction/climate change/pollution theme -LGBTQ+ history theme -‘life till death’, cradle to grave (basically human experience, mental health and just trying to get through life) theme Maybe the logo you design could be our overall logo, and then you could tweak it to have versions for our different strands? Like using colours or little symbols/drawings? Also, we sometimes put on music and events and art, sometimes we try to do some activism – so if you design a basic logo and then create a few different versions we could use for different things we do that would be perfect. Thank you I hope this helps Looking forward to your designs Sarah”
After, reading this email, and thinking about what I could do for these logos, I created a few roughs and sent them to Sarah. The first 3 images (below), were for the main logo. I originally tried to tie all 4 strands in each of the logos, but Sarah had suggested having an empty version of the heart logo as the main idea.  For the 4 strands, I kept to the heart logo and having an illustration inside to represent them (below). Sarah explained that the filled ones for the strands hit the theme really well. 
(Top 3 logo thumbnails for the main logos):
Tumblr media
I then created a new version of the main logo (see below), going with the heart shape and added foliage in between the words to make it seem more heart-shaped, although Sarah suggested not to have the foliage in between the words as she thought it wasn’t necessary.
Tumblr media
Below are the final logos for the main one and the 4 strands:
Tumblr media
As Sarah was seeing the Youth Forum behind the ‘Hands-on Heritage” on the 17th August, she wanted me to complete the designs so she could present them to the forum to see if they liked them or not. 
After the 17th August, I hadn't heard from Sarah for a month, so on the 11th September, I emailed her asking if she was still interested in my logos. She had replied with:
“Hi Rhiannon
I’m sorry for the lack of feedback and apologies for not getting in touch with feedback. So I liked the logos and so did the youth forum, we sent them on to our communications department who sent them on to the senior management team who then explained to us that they are undertaking a museum-wide rebranding over the next two years and don’t want us to use any new logos until that point.
Thank you for your work and I’m sorry, this type of blocked pipe way thing is very common in large organisations
My best wishes Sarah”
What was difficult was not hearing from Sarah in that period of time and wondering if they had preferred someone else’s logo idea. After emailing Sarah, I was relieved that the youth forum liked my ideas and was planning to use my logos if not for the re-branding of the Museum. 
A few months later, I and a friend attended the Create & Collab event at the University, where Sarah Younan was also attending. I was able to speak to Sarah, who remembered my logos and offered me more work from the museum which I will be doing after January. 
I felt like my logos were really successful as Sarah explained that they were hitting the theme really well and related to the project. 
What I would have done differently would have been to email Sarah sooner after not hearing from her after the 17th August instead of leaving myself wandering. 
0 notes
soniaaristo · 5 years ago
Text
Ymgynghori ar gais UNESCO ardal lechi Gwynedd
Ymgynghori ar gais UNESCO ardal lechi Gwynedd
https://ift.tt/eA8V8J Cynllun drafft yn amlinellu sut y gallai sicrhau statws Safle Treftadaeth y Byd warchod, gwella a hybu ardal lechi Gwynedd.
Brought to you by BBC. Fead more: https://ift.tt/2Naa6OW
* * * * * Breaking news, sport, TV, radio and a whole lot more. The BBC informs, educates and entertains – wherever you are, whatever your age. https://www.bbc.com/
View On WordPress
0 notes
eimedrhi-blog · 7 years ago
Text
Tumblr media Tumblr media
Mae Ei Medr Hi wedi cynnal ei gyfweliad cyntaf gyda Marged Owain, gwneuthurwraig o Gaernarfon a enillodd Ysgoloriaeth Artist Ifanc yn Eisteddfod Ynys Môn 2017 a sy’n rhan o’r arddangosfa bresennol yng Nghanolfan Grefft Rhuthun ‘Ei Wneud yn Awr’.
EMH Llongyfarchiadau ar ennill Ysgoloriaeth Artist Ifanc yn ogystal â Gwobr Tony Goble yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Sut wyt ti'n gobeithio cafodd dy waith ei dderbyn gan y cyhoedd a sut argraff hoffet i dy waith gael ar bobl yn gyffredinol?
MO Mae’r adborth gan y cyhoedd yn yr Eisteddfod eleni wedi bod y hynod bositif ac mae gymaint o bobl wedi dangos brwdfrydedd a diddoreb yn fy ngwaith. Roedd yn dipyn o sioc i gychwyn oherwydd roeddwn ychydig yn bryderus i arddangos fy nhwaith yn yr Eisteddfod gan mai dyna oedd y tro gyntaf i mi arddangos fy ngwaith Gradd yng Nghymru. Nôd fy ngwaith yw coffáu a dathlu crefftwaith traddodiadol Cymru, a chrefft y gwneuthurwr menyn a’r chwarelwr yn benodol. Wrth greu gwrthrychau â photensial ar gyfer defnydd a myfyrdod rwyf yn amlygu’r ffaith fod y traddodiadau hanesyddol hyn yn dirywio’n araf. Drwy godi ymwybyddiaeth o’r pwnc rwyf yn gobeithio byddem fel Cymry yn gallu gwerthfawrogi pwysigrwydd o gadw ein traddodiadau crefft gan eu bod yn rhan hanfodol o’n treftadaeth.
EMH Mae gwrthrychau sy'n cysylltu â thraddodiadau Cymreig yn dy ysbrydoli. Beth oedd pwynt cychwynnol hyn i ti?
MO Cychwynodd hyn trwy fy niddordeb mewn casglu gwrthrychau. Ers i mi fod yn blentyn bach rydw i wastad wedi casglu gwrthrychau dwin eu ffeindio bob dydd; llawer ohonynt dwin ffeindio ar y llawr neu wrth i mi fynd am dro. Yna parhaodd y ddiddordeb yma wrth i fynd i’r Brifysgol a dechrau astudio pwysigrwydd y gwrthrychau sydd o’n cwmpas. Yna meddyliais am y pethau oedd yn bwysig i mi fel person.... fy nheulu, fy nhreftadaeth i fel Cymraes a’r iaith Gymraeg ei hun. Dyma pam dewisias astudio fy ngwrthrychau teuluol fel offer menyn fy nain a theclynau cerfio fy hen daid.
EMH Mae dy waith yn dangos gwrthgyferbyniad rhwng technegau corfforol, draddodiadol wrywaidd, fel chwythu gwydr a throi pren â chanlyniadau bregus, cain. Pa mor fwriadol ydy hyn?
MO I ddweud y gwir dydw i heb feddwl yn benodol am y technegau yma fel rhai traddodiadol wrywaidd. Fodd bynnag roedd y gwrthgyferbyniad rhwng y pren a’r gwydr yn fwriadol iawn. Fy nod yw cyfleu crefft fel arwyddlun o dreftadaeth, hunaniaeth a diwylliant Cymru, a’r naratif gwaelodol hwn sydd wrth wraidd fy ymarfer fel gwneuthurwraig. Awgrymir y naratif hwn drwy ddethol a chyfosod defnyddiau’n ofalus; glaswellt yn cyfeirio’n ôl at gefndir amaethyddol gwneud menyn, pren yn cynrychioli hen draddodiadau turnio coed, gwydr ac edau’n symbol o fodolaeth brau crefftau hanesyddol o’r fath o fewn ein diwylliant cyfoes.
EMH Rwyt newydd raddio o Brifysgol Fetropolitan Manceinion. Wrth edrych yn ôl dros y tair blynedd diwethaf yn astudio Dylunio 3D, sut mae dy ymarfer a dy syniadau wedi newid?
MO Cychwynnais fy mlwyddyn gyntaf yn astudio Serameg yn unig gyda diddordeb mewn casglu gwrthrychau roeddwn i yn ei ffeindio o ddydd i ddydd. Ond yn yr ail flwyddyn roeddwn yn awyddus iawn i herio fy ffiniau a gweithio mewn mwy nag un deunydd. Drwy wneud hyn cefais arbrofi gyda throi pren, chwythu gwydr, serameg a phlaster. Galluogodd hyn i mi weithio’n well fel dylunydd ac artist gan fod gen i ddealltwriaeth o ddeunyddiau gwahanol a sut i’w cyfuno. Yn greadigol sylweddolais ar ganol fy ail flwyddyn pa mor bwysig oedd fy magwraeth i yng Nghymru a’r dylanwad a gafodd hyn ar fy ngwaith.
EMH A gafodd magwraeth yng Nghaernarfon a phrofiadau creadigol ac addysgiadol yng ngogledd-orllewin Cymru ddylanwad arnat?
MO Cafodd ddylanwad mawr arnaf oherwydd mae fy ngwaith wedi ei seilio ar hanes fy nheulu fel crefftwyr yng Nghymru. Yn dilyn fy naratif teuluol edrychais ar hanes y ddwy ochr o fy nheulu er mwyn creu fy ngwaith. Yn gyntaf, hanes teulu fy Mam, o gefndir amaethyddol ac yn gwneud bywoliaeth o ffermio a throi pren. Yna, hanes teulu fy Nhad o Flaenau Ffestiniog a oedd yn chwarelwyr ac yn gwneud bywoliaeth mewn cerfio llechen.
EMH Beth nesaf i ti fel artist?
MO Ar y funud rwy’n arddangos fy ngwaith yng Nghanolfan Grefft Ruthun. Yn ogystal, rydw i wedi cael swydd yn gweithio fel technegydd gwydr i gwmni sy’n dylunio a chreu gwydr pensaernïol yng Ngogledd Lloegr. Trwy wneud hyn rydw i’n gwella fy sgiliau technegol ac yn dysgu am y diwydiant gwydr o safbwynt busnes. Rwyf wedi cael fy nerbyn i astudio cwrs Meistr ym mhrifysgol Sunderland. Byddaf yn arbenigo mewn gwydr a serameg gyda’r bwriad o ddatblygu fy ngwaith creadigol ymhellach.
Mae arddangosfa ‘Ei Wneud yn Awr’ i fyny yng Nghanolfan Grefft Rhuthun tan y 27ain o Ionawr.
0 notes
visionarylifehakz-blog · 7 years ago
Photo
Tumblr media
Our first batches of Single Estate and Windfall Hard Cider & RAW unpasteurised Lampeter Cider Vinegars In total respect to the physicians of Mydffai and respect for our Roots and The Apple Tree. Wars were Fought for our heritage. These are our heritage. These are our sustenance and longevity. Mae ein cychod cyntaf o'r Ystâd Sengl a Seidr Caled Arllwys a RAW Vinegars Seidr Llanbedr Pont Steffan heb eu pasteureiddio Yn gyfan gwbl i feddygon Mydffai a pharch at ein Gwreiddiau a'r Apple Tree. Rhyfelwyd y Rhyfeloedd am ein treftadaeth. Dyma ein treftadaeth. Dyma ein cynhaliaeth a'n hirhoedledd. #visionarylifehakz (at Wales)
0 notes
wcva · 5 years ago
Text
Beth mae treftadaeth yn ei olygu i chi?
Tumblr media
Gyda'n prosiect newydd Catalydd Cymru: Treftadaeth Wydn bellach yn cymryd ymgeisiadau, mae Rheolwr Prosiect Catalydd Alison Pritchard yn gofyn tybed beth mae treftadaeth yn ei olygu i ni. 
Mae'n deg dweud pan mae rhywun yn meddwl am dreftadaeth, mae'n debyg mai'r peth cyntaf sy'n dod i'r meddwl yw rhyw fath o gastell neu adeilad hanesyddol (yn enwedig yng Nghymru lle mae mwy o gestyll fesul milltir sgwâr nag yn unrhyw wlad arall yn Ewrop). 
Yng ngoleuni'r ffaith bod ein prosiect newydd sbon Catalydd Cymru: Treftadaeth Wydn yn cael ei lansio eleni, gofynnais i'm cydweithwyr newydd yn CGGC beth oedd eu dealltwriaeth o dreftadaeth Cymru a beth mae'n ei olygu iddyn nhw. 
Ymwelwyr 
Yn gyntaf, yr ochr fwy 'twristaidd' i Dreftadaeth Cymru; ei thraethau, ei mynyddoedd, ei bryniau a'i haberoedd godidog - mae yna ardal o harddwch naturiol eithriadol o amgylch pob cornel (ac efallai hyd yn oed rhywfaint o fywyd gwyllt prin hefyd). 
Heb anghofio'r eglwysi, yr abatai (ac olion abatai), y cestyll (ac olion cestyll) enwog, a hanes hir gyda chysylltiadau â llinach y Tuduriaid, Owain Glyndŵr, y Cylch Haearn...does ryfedd bod twristiaid yn heidio i Gymru bob blwyddyn. 
Diwylliant 
Er bod y twristiaid yn gadael gyda gwybodaeth am ein tirwedd, gobeithio y cânt gipolwg hefyd ar hunaniaeth ddiwylliannol gyfoethog Cymru.
Mae'r Eisteddfod flynyddol (lle y cawsom lawer o hwyl eleni - welsoch chi ni?) yn denu miloedd o bedwar ban byd i ddathlu ein diwylliant a'n hiaith. 
Mae'r Eisteddfod hefyd yn faes y gad i gorau enwog Cymru - er  bod y frwydr weithiau rhwng y corau a'r gynulleidfa - ac mae'r Cymry wrth eu bodd yn cael cyfle i ganu. 
Gweler: rygbi. 
Yn olaf, mae danteithion hyfryd o Gymru wedi cyffwrdd â chalonnau pobl ledled y byd (yn eithaf dwys mewn rhai achosion) ynghyd â'i beirdd, ei hactorion a'i hartistiaid. 
Amrywiaeth 
Wrth gwrs, mae hanes llai adnabyddus am y bobl sydd wedi dod i Gymru dros y canrifoedd, ac wedi helpu i lunio Cymru fodern, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i;
Y gymuned Eidalaidd a sefydlwyd yng Nghasnewydd a Morgannwg (fel yr oedd) yn y 18fed ganrif
Datblygiad Tiger Bay a Butetown yn gymuned brysur o bobl o wahanol gefndiroedd ac ethnigrwydd
Dylanwad Lerpwl ar Ogledd Cymru. 
Gwneud gwahaniaeth 
Ac yn olaf, ond yn sicr nid y lleiaf, pan fydd pobl yng Nghymru eisiau i rywbeth newid, dydyn nhw ddim yn gwastraffu dim amser cyn dod at ei gilydd a gwneud i hynny ddigwydd. 
Edrychwch ar grwpiau fel Siartwyr Gwrthryfel Casnewydd, a'r glowyr yn ystod streiciau 84-85... neu sefydliadau fel Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar a greodd ffordd newydd i bobl gefnogi iechyd ei gilydd a dod yn fodel ar gyfer y GIG heddiw. 
Ac mae hyn yn dal i fod yn amlwg yn y cannoedd o elusennau, grwpiau cymunedol, a chlybiau rydyn ni'n eu cefnogi bob dydd. 
'Bach iawn ar ein pen ein hunain' 
Ond beth mae'r uchod yn ei ddweud wrthym? Yn amlwg nid un peth yw treftadaeth - mae'n golygu gwahanol bethau i wahanol bobl. 
Rhannodd un cydweithiwr y diffiniad hwn gyda mi: 
'I mi, mae deall 'treftadaeth' yn golygu deall bod pobl wedi bod yn yr union leoedd rydych chi ynddyn nhw ers oes Adda, a bydd gan bobl y dyfodol eu problemau eu hunain a materion di-nod ac o ran y darlun mawr, rydyn ni'n fach iawn ar ein pen ein hunain.' 
Ynglŷn â Catalydd Cymru 
Mae Catalydd Cymru ar gael i sefydliadau'r sector gwirfoddol yng Nghymru sy'n gweithio yn y maes treftadaeth. Ariennir y prosiect gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, sy'n diffinio treftadaeth fel a ganlyn:
Adeiladau a henebion hanesyddol
Natur a Thirweddau (gerddi hanesyddol, bywyd gwyllt, coetir)
Diwydiannol, morwrol a thrafnidiaeth 
Amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifau a chasgliadau
Treftadaeth anniriaethol (megis cadw atgofion, neu brosiectau hanes llafar)
Treftadaeth Gymunedol
Os yw prif weithgareddau elusennol eich sefydliad yn dod o dan unrhyw un o'r uchod, gallech elwa o gymryd rhan yn unrhyw un o weithgareddau Catalydd Cymru: Treftadaeth Wydn.
0 notes