#trafnidiaeth cymru
Explore tagged Tumblr posts
Text
Part 11 of shipping different train companies.
GWR has been around for a long time and has had a long history of different partners. One of their earliest was the Metropolitan Railway who unfortunately is no longer with us but also with LMS (one of Avanti's ancestors), Chiltern and presently with Transport for Wales.
If it wasn't for the work GWR did in their early years, Transport for Wales likely wouldn't be around to this day, at least she would not be around to the same extent in the current day.
GWR also used to think it was the best, doing things their own way however has become more humble and is now happy to work with others.
#gwr#great western railway#metropolitan railway#chiltern#lms#avanti#avanti west coast#transport for wales#tfw#trafnidiaeth cymru#trc#uk trains#tocsu
7 notes
·
View notes
Text
Hate having to go to the office on a Saturday (left something there :/), but seems the TFW gods blessed me with a class 197 and a 231 back home later :3
1 note
·
View note
Text

almost like falling in Class 155
#i dont know#train#class 153#they cut it in half#but#we can rebuild it#we have the technology#trafnidiaeth cymru
0 notes
Text
Cydweithio Ymarferol

Dyma ail ran ein cyfres gan enillydd Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie 2017, Steve Brooks, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sustrans Cymru. Yn blog hwn mae’n sôn am ei brofiad yn astudio ym Mhrifysgol Rhydychen fel rhan o’r bwrsari a enillodd, a sut i osgoi trapiau dwbl sgwrsio diddiwedd, a gweithio mewn seilos.
Rhaid i mi gyfaddef bod y syniad o dreulio amser ym Mhrifysgol Rhydychen wedi peri pryder i mi. A minnau wedi fy ngeni a’m magu ar un o’r ystadau mwyaf difreintiedig yn Lloegr, achosodd Rhydychen bwl arall o ‘syndrom cogiwr’ ynof. Gan fy mod wedi bod yn darllen am yr hyn sy’n ysgogi entrepreneuriaid yn y sector preifat, dilynais esiampl Richard Branson (‘screw it, just do it’) a mynd amdani.
Roedd fy nghwrs yn canolbwyntio ar iechyd a llesiant mewn trafnidiaeth, yn rhan o Raglen Arweinyddiaeth Rhydychen a gynhelir ar y cyd ag Ysgol Fusnes Rhydychen. Ar lefel sylfaenol, hanfod trafnidiaeth yw symud pobl a nwyddau o A i B, yn ddelfrydol yn y ffordd fwyaf diogel, effeithlon a chynaliadwy. Gall trafnidiaeth achosi a datrys problemau cymhleth, ac fel y rhan fwyaf o bynciau nid yw’n sefyll ar wahân i bynciau eraill megis darpariaeth iechyd, addysg, tai, datblygu economaidd a newid hinsawdd. Dros y pedwar diwrnod edrychais ar faterion amrywiol gan gynnwys sut y gall trafnidiaeth fynd i’r afael ag allgáu cymdeithasol mewn economïau datblygedig a datblygol; rôl cerdded a beicio yn sicrhau llesiant; sut mae’r sector iechyd cyhoeddus a’r sector trafnidiaeth wedi (neu ddim wedi) gweithio gyda’i gilydd yn hanesyddol; diogelwch ffyrdd; a chydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a symudedd.
(Darllenwch flogiau arall Steve ar ei brofiadau efo’r bwrsari: Ailfeddwl Entrepreneur; Pan Foch yn Nenmarc; Gwaddol Walter Dickie: helpu mentrau dielw i ffynnu)
Un seminar a ddaliodd fy sylw’n arbennig oedd un ynglŷn â chydraddoldeb rhywiol. Os hoffech newid y ffordd yr ydych yn meddwl am drafnidiaeth, darllenwch waith Emma Aldrich ar drafnidiaeth a marwolaethau ymysg mamau. Ymchwiliodd Emma i’r ffordd y mae cyfyngiadau ar symudedd yn effeithio ar iechyd a lles mamau yn Uganda. Mae mynediad menywod at drafnidiaeth yn Uganda wedi’i gyfyngu a’i reoli. Gall fod oedi wrth geisio mynd i gyfleuster meddygol ac efallai na fydd y math o drafnidiaeth yn ddiogel, gan gynyddu’r risg o farwolaeth. Fe wnaeth Emma ddyfynnu Margaret Greico (2005) a ddywedodd:
‘Nid yw’r gwahaniaethau rhwng patrymau teithio gwrywaidd a benywaidd a’r rheolau a’r rolau diwylliannol sy’n gysylltiedig â’r gwahaniaethau hyn wedi’u cofnodi’n ddigonol ym myd polisi. Nid oes enghraifft well o’r cyfyngiadau hyn nag yn narlun Affrica o farwolaethau ymysg mamau; mae cyfyngiadau ar symudedd ac ar yr adnoddau ar gyfer symudedd a hygyrchedd yn cael effaith andwyol ar iechyd menywod yn Affrica.’
Hyd yn oed ym Mhrydain rydym yn gosod cyfyngiadau ar symudedd i rai cymunedau. Rydym yn rhoi mwy o werth ar rai gweithgareddau, rhai siwrneiau a rhai dulliau teithio nag eraill; gan ddewis i ddylunio ein byd o amgylch y car. Fel y dadleuodd Dr Karen Lucas, mae hyn yn bwysig.
Mae 40% o bobl sy’n chwilio am waith yn dweud bod trafnidiaeth yn broblem wrth geisio cael swydd. Mae hanner oedolion ifanc mewn addysg yn ei chael yn anodd talu am gostau teithio. Mae 1.4 miliwn o bobl ym Mhrydain yn methu neu’n gwrthod apwyntiadau ysbyty oherwydd diffyg trafnidiaeth. Mae adeiladu mwy o ffyrdd a rhoi cymhorthdal i gerbydau trydan yn ddewis. Mae trwsio pafinau fel y gall pobl hŷn gerdded yn haws, a gwario arian ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ddewis arall.
Roedd Rhydychen yn gyfle ardderchog i edrych o’r newydd ar hen broblemau. I f���atgoffa fy hun y byddai angen i Sustrans weithio y tu allan i’r bocs trafnidiaeth er mwyn creu newid ar lawr gwlad yng Nghymru. Mae lleihau defnydd diangen o geir a galluogi mwy o bobl i gerdded a beicio yn cynnig llawer o fuddion i drafnidiaeth, gan gynnwys llai o draffig a gwella diogelwch. Mae hefyd yn cynnig llawer o fuddion y tu allan i faes trafnidiaeth. Ond nid moeswers y stori yma yw y dylem ni gyd fabwysiadu’r pum ffordd o weithio yn Neddf Cenedlaethau’r Dyfodol a meddwl ‘dyna ni, mae’r gwaith wedi’i wneud’.
I lenwi’r bwlch darparu, mae angen i’r trydydd sector ffocysu a chydweithio, gan osgoi’r ddau begwn sef sgyrsiau diddiwedd â phartneriaid ac ysgrifennu cytundebau ar y naill law, a gweithio mewn seilos ar y llall. Efallai y gellid galw hyn ‘cydweithio ymarferol’.
Yn fy mlog nesaf soniaf am yr hyn a ddysgais am greu newid yn Copenhagen a sut y gellir rhoi’r gwersi hynny ar waith yng Nghymru.
Steve Brooks yw enillydd Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie 2017, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sustrans Cymru ac mae’n trydar @stephenbrooksUK. Gallwch ddarllen y flog cyntaf yn y cyfres yma.
Mae Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie 2018 yn awr yn agor i ceisiadau. I gael gwybod mwy am y bwrsari, ewch ar y dudalen we neu cysylltwch ag Alun Jones.
Os hoffech ddeall eich dull arwain yn well a dulliau llwyddiannus eraill, hybu’ch sgiliau arwain a thyfu’ch gwydnwch, cadwch le ar ein cwrs Arweinyddiaeth Trydydd Sector ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol.
#Walter Dickie Leadership Bursary#Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie#trydyddsector#Trydydd Sector#elusennau#elusen#Cymru#trafnidiaeth
0 notes
Text
'Trafnidiaeth wael yn tanseilio twf Caerdydd'
‘Trafnidiaeth wael yn tanseilio twf Caerdydd’
Rybudd bod de Cymru “mewn cyfnod peryglus iawn” ble gallai’r buddion o dwf Caerdydd gael ei danseilio gan drafnidiaeth wael. Go to Source
View On WordPress
0 notes
Text
hmm, not been on the trafnidiaeth cymru FLIRTs yet. i wonder if they bothered to come up with something flirt could stand for in welsh. they do that with some languages.
73 stock is pretty iconic but like, this is a hst sweep any day of the week right.
also an iet is there. not even a hull trains paragon.

(the last time i was on a hst)




See pinned for more info on the tournament, see below for more info on trains.
Class 800 "AT300/Azuma/IET" (Intercity Express Train) Current Operation: Unelectrified East Coast Mainline services, Intercity services to the west of England and south Wales.
Class 756 "FLIRT" (Fast, Light, Intercity and Regional Train) Current Operation: Valley Line services around Cardiff.
1973 Stock Current Operation: London Underground Piccadilly Line
Class 43 Current Operation: Intercity services in Scotland, services between Plymouth and Penzance, stock movements and maintenance trains. (Also in Mexico and Nigeria for reasons?) Former Services: Most Intercity services at one point or another.
38 notes
·
View notes
Video
youtube
Liked on YouTube: Trafnidiaeth Cymru Adroddiad Blynyddol 2018/19 https://youtu.be/ZC-2kRYPxMA
0 notes
Text
'Dim ateb syml' i broblemau trenau Cymru medd arbenigwr
‘Dim ateb syml’ i broblemau trenau Cymru medd arbenigwr
https://ift.tt/eA8V8J Arbenigwr yn y diwydiant trafnidiaeth yn dweud nad oes ateb syml i’r broblem orlenwi ar drenau Cymru a bod gwelliannau am gymryd amser.
Brought to you by BBC. Fead more: https://ift.tt/2Tu2ubj
* * * * * Breaking news, sport, TV, radio and a whole lot more. The BBC informs, educates and entertains – wherever you are, whatever your age. https://www.bbc.com/
View On WordPress
0 notes
Text
You see me riding the rails, wyd?

Also, @uofgminecraftsociety, do you have trains this beautiful?
6 notes
·
View notes
Text

soft 197 for comedy purposes
0 notes
Text
373s on gner was very funny, way too expensive otherwise tho. long boys tho that does win them points.
voyagers are awful (222s exempted those are pretty nice. and most of the super voyagers dont even tilt anymore so whats the point of them.
56s arent 66s, which wins them points, but are being turned into 69s, idk if that wins or loses them points.
180 adelantes are pretty great tbh. and ive always liked grand centrals livery, even when its on that one trafnidiaeth cymru train, but not when its on a voyager admittedly. i do prefer the 175s tho, and the 180s did have reliability/availability issues. also northern randomly had like 3 of them temporarily which doesnt really win or lose them points but was a bit odd. anyway i mean some of them wore emr purple, which is i think the best current main livery i would say. and some of them worked for hull trains. best train operator. open access operators shouldn't exist, but still hull trains best toc lol.
yeah i have to go 180s lol.




More info below!
Class 373 "e300" Manufacturer: Alstom (1992-1996) Model: TGV Built for Eurostar services through the channel tunnel. Shorter units for the planned services north of London were also briefly used on the East Coast Mainline. Have also been used on other services in France.
Class 221 "Super Voyager" Manufacturer: Bombardier (2001-2002) Model: Voyager Tilting diesel units built for non electrified high speed routes using the West Coast Mainline. No longer operates on the West Coast route and have had tilting functionality disabled. Current used on Grand Central routes from King's Cross and CrossCountry services.
Class 56 Manufacturer: Electroputere (1976-197?), BREL (1976-1984) Model: LDE3500 Heavy freight locomotive built in the late 1970's. Electroputere was sub-contracted due to a lack of workshop space, with their units having to later be extensively rebuilt due to poor performance.
Class 180 "Adelante" Manufacturer: Alstom (2000-2001) Model: Coradia 1000 High Speed DMUs built to increase capacity on the Great Western Mainline. Proved incredibly unreliable, they were moved all around the country, operating regional services in the North and West of England and Intercity services on the Midland and East Coast Mainlines.
19 notes
·
View notes
Text
Gwaddol Walter Dickie: helpu mentrau dielw i ffynnu
Dyma’r bedwaredd ran a’r un olaf yn ein cyfres gan enillydd Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie 2017 Steve Brooks, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sustrans Cymru. Yma mae’n crynhoi’r hyn y mae wedi’i ddysgu diolch i’r bwrsari, a’r hyn a fu o gymorth iddo ar ei daith

‘Chi’n edrych yn brysur, dwi’n gweld eich bod yn recriwtio eto’.
Sylw dros ysgwydd oedd e’, a ddywedwyd wrtha’i fis diwetha’ gan gyfarwyddwr yn y diwydiant rheilffyrdd, ond fe arhosodd gyda mi. Roedd yn arwydd bod Sustrans yn mynd i’r cyfeiriad cywir.
Fel y mwyafrif o elusennau, mae Sustrans wedi gorfod ailffocysu ac ailstrwythuro, i raddau helaeth oherwydd mesurau cyni. Roedd arian Ewropeaidd ac arian y loteri wedi galluogi Sustrans Cymru i ehangu cyfleusterau cerdded a beicio ledled Cymru dros sawl blwyddyn. Dwi’n falch o’n gwaith ar gynlluniau fel Pont y Ddraig yn y Rhyl, Pont y Werin rhwng Caerdydd a Phenarth, a Rhwydwaith Beicio’r Cymoedd. Roedd llawer o waith i’w wneud o hyd, ond fe wnaeth economi a oedd yn gwaethygu ac amgylchedd cyllido mwy heriol orfodi Sustrans Cymru i newid ei ffordd o weithio.
Ymunais â Sustrans Cymru fel Cyfarwyddwr Cenedlaethol fis Hydref 2016. Roedd y mudiad wedi gorfod lleihau o ran maint, a thra’r oedd ein gweithrediadau yn dal i fod yn ariannol hyfyw ac o fudd cymdeithasol, roedd yna deimlad ymysg rhai fod ein dyddiau gorau y tu ôl i ni, nid o’n blaenau. Canolbwyntiais ar dair blaenoriaeth yn fy nghynllun ar gyfer fy 12 mis cyntaf:
Meddylfryd y mudiad – newid meddylfryd yr elusen o hiraeth i gyfleoedd
Codi ein proffil a’n dylanwad allanol
Twf
Mae pob un o’r tri yn gyd-ddibynnol, ond yn ganolog i fy syniad i o ‘arweinyddiaeth entrepreneuraidd’ – yr hyn y mae Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie yn ceisio ei feithrin.
I mi, mae arweinyddiaeth entrepreneuraidd yn ffordd o weithio yn gymaint ag y mae’n fath o unigolyn. Ei hanfod yw gweld angen am newid a meddwl am ffordd ymarferol o gyflawni’r newid hwnnw sy’n ariannol hyfyw ac (yn hanfodol i entrepreneuriaid cymdeithasol) yn rhoi buddion y tu hwnt i elw.

Fe wnes i ddau beth gyda’r bwrsari. Defnyddiais yr arian i gofrestru â rhaglen Heriau Byd-eang Trafnidiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen a threulio amser yn Nosbarth Meistr Copenhagenize Design Company. Rhoddodd hyn gyfle i mi edrych yn ddamcaniaethol ac yn ymarferol ar sut y gallwn alluogi pobl i ddewis dulliau mwy cynaliadwy o deithio o A i B, a dwi wedi trafod y ddwy agwedd hyn yn fy mlogiau blaenorol.
(Darllenwch flogiau arall Steve ar ei brofiadau efo’r bwrsari: Ailfeddwl Entrepreneur; Cydweithio Ymarferol, Pan Foch yn Nenmarc)
Ond roedd y bwrsari hefyd yn gatalydd i wneud ychydig o waith allgyrsiol ar arweinyddiaeth. Dwi’n credu bod yr hen ystrydeb ‘mae’n bwysig treulio amser ar eich busnes yn ogystal ag yn eich busnes’ yn taro deuddeg, ac fe roddodd y bwrsari y cyfle i wneud hynny.
Cafodd tri llyfr ddylanwad ar fy ffordd o feddwl (dau ohonynt yn llyfrau yr oeddwn wedi’u darllen o’r blaen). Mae ‘You’re in Charge, now what’ gan Neff & Citrin yn rhoi cyfarwyddyd ymarferol rhagorol ar arweinyddiaeth strategol; ac mae Alistair Campbell yn ‘Winners: And how they succeed’ yn dadansoddi strategaeth, arweinyddiaeth, tîmyddiaeth (teamship) a’r meddylfryd eich bod am ennill. Cyflwynodd cadeirydd WCVA Peter Davies fi i ‘How to Change the World, the essential guide for social sector leaders’ gan Craig Dearden-Phillips sy’n cynnwys cyfweliadau ag arweinwyr elusennau a mentrau cymdeithasol.
Roedd araith Laura McAllister yn CCB WCVA yn 2017 hefyd wedi taro tant clir â mi, yn enwedig pan alwodd ar i arweinwyr yng Nghymru fod yn llai swil. Ac fe rannodd Sue Essex, cyn-weinidog yn llywodraeth Rhodri Morgan, ei phrofiad treiddgar â mi mewn digwyddiad a gyflwynais yn gynharach eleni gyda Capital Law o’r enw ‘Heads Up’.
Mae sawl ffordd o dorri’r gacen hon, ond i mi hanfod hyn oll yw’r 11 wers ganlynol:
Llunio gweledigaeth ac adrodd stori. Darluniwch weledigaeth o’r dyfodol. Diffiniwch y weledigaeth honno, sicrhewch mai chi sy’n berchen arni ac ailadroddwch hi, yn ddiddiwedd. Os nad ydych chi’n adrodd eich stori, bydd rhywun arall yn ei hadrodd, a fwy na thebyg nid dyna’r stori yr hoffech iddi gael ei hadrodd.
Llunio uwchgynllun personol. Nid strategaeth eich mudiad yw hwn. Nid eich amcanion personol yw e’ hyd yn oed. Mae’n fynegiad o’ch agenda hirdymor chi. Yr hyn yr ydych chi am ei gyflawni yn eich rôl. Does neb yn dechrau swydd yn siarad am yr amser pan fyddant yn gadael, ond amser cyfyngedig sydd gan arweinwyr. Dylech werthfawrogi faint o amser sydd gennych, gwybod yr hyn yr ydych am ei wneud, a phryd y mae’r gwaith ar ben ac yn amser trosglwyddo i rywun arall.
Byw’ch steil o arwain. Ni fyddai elusen dibyniaeth ar alcohol yn cynnal derbyniad diodydd mewn cynhadledd wleidyddol i drafod gosod isafswm pris ar alcohol, gan ei fod yn amlwg yn tanseilio ei chenhadaeth. Dylai’ch ymddygiad fel arweinydd fod yn gyson â’ch uwchgynllun personol. Eisiau arwain elusen sy’n rhoi’r egwyddor o gynnwys buddiolwyr wrth wraidd ei gwaith? Peidiwch â bod yn unben â drws eich swyddfa ynghau. Nid hanfod arweinyddiaeth go iawn yw bod yn chi’ch hun, heb ystyried neb arall. Ei hanfon yw bod y chi y mae pobl eraill o’ch cwmpas angen i chi fod. Byddwch yn barod i newid a gweithio y tu allan i’ch cynefin, gan arwain drwy esiampl.
Creu lle i feddwl. Nid peth moethus yw hyn – mae’n hanfodol. Dyw’r arweinydd elusen sy’n ymffrostio wrth gwyno ‘Dwi’n rhy brysur’ ddim yn gwneud ei waith yn iawn. Eich cyfrifoldeb chi yw gweld safbwyntiau eraill, siarad â’ch buddiolwyr, gofyn cwestiynau, herio rhagdybiaethau, cwestiynu tystiolaeth, deall eich cyllidwyr, meddwl am y dyfodol. Gall byrddau cynghori ac ymddiriedolwyr eich cefnogi a’ch herio – ond dyw hynny ddim yn disodli creu’ch lle eich hun i feddwl.
Gwahodd her – gwers gan Rhodri Morgan. Dylech fynd ati i annog y rheini o’ch cwmpas i’ch herio. Roedd y cyn-brif weinidog yn chwilio’n benodol am bobl a fyddai’n ei herio, yn ei wrthwynebu, yn dadlau ag ef. Mae’n ehangu’ch meddwl ac yn miniogi’ch dadl. Cofiwch ei bod yn bosib na chafodd staff eu hannog i wneud hyn o’r blaen, felly cefnogwch bobl i’ch herio.
Cydweithio. Ond cydweithiwch yn dda. Dyw paned a chlonc ag elusen arall y mae ei chenhadaeth yn gorgyffwrdd yn fras ag un chi ddim yn cyfrif fel cydweithio. Cymerwch yr awenau a dod o hyd i bobl yr hoffech gydweithio â nhw. Ar ôl diffinio’ch gweledigaeth, gofynnwch i chi’ch hun pwy rydych ei angen i’ch helpu i’w gwireddu? Pwy sy’n rhannu’ch gweledigaeth? Dewch o hyd iddyn nhw, gweithiwch gyda nhw, ond parchwch nhw – peidiwch â’u defnyddio. Dylech dal brynu paned iddyn nhw.
Adeiladu’ch tîm a thrin pobl â pharch. Peidiwch ag ymhel mewn mân-ryfela, na gwleidyddiaeth swyddfa. Peidiwch â gwneud pethau’n bersonol. Dylech feithrin eich tîm a’r bobl yr hoffech weithio gyda nhw. Datblygwch nhw. Cefnogwch nhw. Treuliwch amser gyda nhw. Rhaid cydnabod eich bod angen pobl ddawnus a chefnogaeth gan y rheini yr ydych yn eu harwain. Ond cofiwch mai’ch cyfrifoldeb chi yw delio gyda phobl na all wneud y gwaith neu sy’n gwrthod gwneud y gwaith. Derbyniwch hynny – dyna pam rydym ar gyflog uwch.
Darllen. A darllen mwy. Ac yna darllen mwy fyth. Mae llyfr nodiadau yn llawn syniadau yn well na mewnflwch sydd wedi’i wagio o bob ebost. Yn Oxfam, roedd y cyfarwyddwyr gweithredol yn cael wythnos astudio gyda’i gilydd bob blwyddyn. Mae angen deall y gwahaniaeth rhwng yr hyn y mae angen i chi ei wybod, a’r hyn nad oes angen i chi ei wybod. Ni ellir ennill gwybodaeth a dod yn wybodus drwy dorri corneli.
Deall eich cyd-destun. Meddyliwch am eich amgylchedd gweithredu allanol. Meddyliwch am fygythiadau a chyfleoedd. Dadansoddwch. Ni allwch ddarogan dyfodol eich mudiad, ond gallwch gynllunio ato.
Peidio byth â chymryd dim byd yn ganiataol. Os oes gan eich elusen genhadaeth yn seiliedig ar eiriolaeth neu ymgyrch, peidiwch byth â chymryd yn ganiataol eich bod wedi ennill. Atgyfnerthwch eich safle yn gyson ac, ar yr un pryd, gwthiwch yr agenda ymhellach ymlaen. Cadarnhau’r hyn yr ydych eisoes wedi’i gyflawni yn ogystal â gwneud cynnydd pellach.
Peidio byth ag anwybyddu’r manylion. Treuliwch amser ar y lefel gywir (gweledigaeth, strategaeth, tîm, proffil, arloesedd) a pheidiwch â chael eich sugno i mewn i’r mân bethau. Ond peidiwch byth bythoedd ag esgeuluso cydymffurfiaeth a’r gwaith beunyddiol allweddol. Y pethau bach a aiff o chwith y mae pobl yn sylwi arnynt ac a all eich brathu. Os arweinydd ydych chi ac nid rheolwr, sicrhewch fod gennych reolwyr da o’ch cwmpas.
Steve Brooks yw enillydd Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie 2017, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sustrans Cymru ac mae’n trydar @stephenbrooksUK. Gallwch ddarllen y flog cyntaf yn y cyfres yma.
Mae Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie 2018 yn awr yn agor i ceisiadau. I gael gwybod mwy am y bwrsari, ewch ar y dudalen we neu cysylltwch ag Alun Jones.
0 notes
Text
Ailfeddwl entrepreneur

Dyma’r blog cyntaf mewn cyfres gan enillydd Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie 2017, Steve Brooks, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sustrans Cymru. Yma mae’n sôn am y ffordd y mae’r bwrsari wedi’i helpu i weld arweinyddiaeth entrepreneuraidd o safbwynt newydd, a’r ffordd y mae angen i arweinwyr gynnig atebion yn hytrach na dim ond tynnu sylw at y materion dan sylw.
Wrth glywed y gair ‘entrepreneur’ roedd dwy ddelwedd yn dod i feddwl. Y gyntaf oedd ‘millennial’ sy’n giamstar ar dechnoleg ac sydd â gyrfa bortffolio yn gweithio o ddesgiau poeth mewn man cydweithio yn Indycube ac yn gwneud arian wrth wneud pethau ar y cyfryngau cymdeithasol nad ydw i, a dweud y gwir, yn eu llwyr ddeall.
Yr ail oedd y to hŷn, arloeswyr megis Arianna Huffington, Richard Branson neu James Dyson a oedd wedi meddwl am syniad da i wneud dipyn o arian slawer dydd ac wedi’i ehangu ar raddfa enfawr, ac a oedd bellach yn byw oddi ar yr incwm ac yn gwneud gwaith dyngarol. Er bod gen i gyfrif Instagram ac yn rhoi’n rheolaidd i Oxfam, doeddwn i ddim yn cyd-fynd â’r un o’r ddau ddiffiniad. Ond dechreuodd fy marn newid wedi i mi ddarllen am Walter Dickie.
Bu Walter yn arwain Lloyds TSB yng Nghymru am sawl blwyddyn ac roedd yn ymwneud yn helaeth â sefydliad elusennol y banc. Roedd Walter yn ymddiriedolwr i WCVA a chwaraeodd ran ganolog yn sefydlu cronfeydd buddsoddi i fentrau cymdeithasol. Bu farw Walter yn 2017, ond i nodi ei gyfraniad at fywyd cyhoeddus, sefydlwyd bwrsari i gynorthwyo arweinwyr yn y trydydd sector i ddatblygu eu sgiliau arwain entrepreneuraidd eu hunain.
(Darllenwch flogiau arall Steve ar ei brofiadau efo’r bwrsari: Cydweithio Ymarferol, Pan Foch yn Nenmarc; Gwaddol Walter Dickie: helpu mentrau dielw i ffynnu)
Wrth ddarllen mwy am Walter Dickie a’r bwrsari er cof amdano, newidiodd y ffordd yr wyf yn meddwl am arweinyddiaeth entrepreneuraidd. Mae’n cynnwys unigolyn sy’n gweithio er-elw, ond hefyd unigolion fel fi sy’n arwain mudiadau dielw.
Mae arweinyddiaeth entrepreneuraidd yn ffordd o weithio, yn ogystal ag yn fath o unigolyn. Mae’n ffordd o feddwl. Mae’n golygu gweld angen am newid a chynnig ateb ymarferol sy’n ariannol hyfyw ac (yn hanfodol i entrepreneuriaid cymdeithasol) o fudd y tu hwnt i elw.
‘Wrth ddarllen mwy am Walter Dickie a’r bwrsari er cof amdano, newidiodd y ffordd yr wyf yn meddwl am arweinyddiaeth entrepreneuraidd...’
Pan ymgeisiais am y bwrsari, doedd dim llawer o amser wedi bod ers i mi ddechrau fel Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sustrans Cymru. O ran yr amgylchedd allanol, roeddwn yn gwybod yn union beth oedd angen newid. Mae Cymru’n gaeth i’r car. Mae’r ffordd yr ydym wedi dylunio ein trefi a’n dinasoedd yn golygu mai’r car sy’n tra-arglwyddiaethu, a gyda mwy nag erioed o foduron ar y ffordd a’r rhan fwyaf o deithiau byrion yn dal i gael eu gwneud yn y car, mae’r dasg o’n blaenau yn fawr. Mae llawer i’w wneud, ond mae mynd i’r afael â’r daith i’r ysgol a’r gwaith yn ddau gyfle amlwg. Ac eto, er gwaethaf deddfwriaeth dda megis y Ddeddf Teithio Llesol a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae Cymru’n dal i sgrialu i lawr ffordd beryglus.
Mae ‘bwlch darparu’ yn bodoli, sef bwlch rhwng polisi cenedlaethol a'r gwaith ymarferol o'i ddarparu yn lleol, ac mae hon yn broblem yn y mwyafrif o sectorau yng Nghymru. Roedd y Farwnes Thatcher yn adnabyddus am roi pryd o dafod i weision sifil annelwig pan fyddai eu nodiadau cynghori a’u hargymhellion yn methu â phontio’r ‘bwlch darparu’ hwnnw. Yn ei lyfr ‘Winners’ mae Alistair Campbell yn disgrifio’r cyn brif weinidog yn rhybuddio swyddogion; ‘don’t tell me the ‘what’, I know the ‘what’. Tell me the ‘how’!’
Yn hynny o beth, roedd y Farwnes Thatcher yn llygad ei lle. Gallwn ni gyd weld beth sydd angen digwydd. Mae gwneud iddo ddigwydd yn rhywbeth arall.
Roeddwn wrth fy modd o ennill y bwrsari ac o’r cyfle i fynd i Gyfarfod Blynyddol WCVA yn Llandudno i gasglu’r wobr a chwrdd â theulu Walter, a chlywed am ei fywyd a’i frwdfrydedd dros deithio a chynaliadwyedd. Yn y Cyfarfod, traddodwyd y brif araith gan yr Athro Laura McAllister a soniodd am beryglon arweinyddiaeth ‘ddof’. Rhybuddiodd fod arweinyddiaeth ddof – peidio â herio pethau fel y maent – yn arbennig o beryglus mewn gwlad fechan fel Cymru, a siaradodd am y cyfrifoldeb arbennig sydd ar bob arweinydd yn y trydydd sector i’w herio eu hunain ac eraill yn fwy.
A minnau wedi fy ysbrydoli gan Laura (a Thatcher!) defnyddiais y bwrsari i ddatblygu fy syniadau fy hun ar sut i bontio’r ‘bwlch darparu’. Roedd arna’i eisiau ymchwilio’n fanylach i’r problemau sy’n wynebu cymdeithas wrth deithio o A i B, ystyried perthynas trafnidiaeth â materion eraill megis tai, iechyd cyhoeddus a chyflogaeth, ac edrych ar y ffordd yr oedd gwledydd eraill yn newid pethau ar lefel ymarferol iawn.
Felly, ddiwedd y llynedd, es i ati i ymrestru ar y cwrs Heriau Byd-eang Trafnidiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen, ac yn gynharach eleni cymerais ran yn y Copenhagenize Master Class ar ddylunio trefol. Yn y blog nesaf, edrychaf ar rai o’r gwersi o Brifysgol Rhydychen ac amlinellaf y ffordd y mae Denmarc wedi chwyldroi’r ffordd y mae ei dinasyddion yn teithio. Yn olaf, trafodaf sut mae’r bwrsari wedi newid fy ffordd o weithio.
Steve Brooks yw enillydd Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie 2017, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sustrans Cymru ac mae’n trydar @stephenbrooksUK. Darllenwch ei flog nesaf yma.
Bydd Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie yn cael ei ail-lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar 7 Awst. I gael gwybod mwy am y bwrsari, ewch ar y dudalen we neu cysylltwch ag Alun Jones.
#entrepreneur#trydydd sector#Walter Dickie Leadership Bursary#Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie#arweinyddiaeth#sustrans
0 notes
Text
Y Cyfareddol a’r Cyffredin: straeon sy’n siapio bywydau ledled Cymru

Mae prosiect Mesur y Mynydd yn bwriadu cofnodi profiadau pobl o iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Wrth i Lywodraeth Cymru lansio ei gynllun iechyd a gofal cymdeithasol newydd, mae Katie Cooke, Cydlynydd Mesur y Mynydd ac Interlink RCT, yn cymryd golwg ar sut mae’r prosiect wedi mynd hyd yn hyn a sut gallwch gymryd rhan.
Mae Mesur y Mynydd wedi hen gychwyn gyda straeon yn cael eu cyflwyno ledled Cymru. Wrth i ni greu darlun o sut mae gofal cymdeithasol yn teimlo i’r rhai sydd ynghlwm ag ef, mae amryw o straeon diddorol iawn yn cael eu rhannu. Rydym yn clywed am y straeon hynny yr ydym oll yn gobeithio na sy’n brofiadau gan bobl, ond rydym hefyd yn clywed am y gwasanaethau gwych, a’r bobl anghredadwy sy’n mynd gam ymhellach bob diwrnod ar gyfer y bobl y maent yn eu cefnogi.
Rwyf wedi cael y fraint o gael pobl yn rhannu eu straeon gyda mi – rwyf wedi clywed am ofal diwedd bywyd gwych, am feichiau ariannol mae pobl yn wynebu a natur baradocsaidd o ariannu gofalwyr; rwyf wedi clywed am gadeiriau olwyn wedi’u torri, ffisiotherapyddion gwych a’r heriau o opsiynau trafnidiaeth gyfyngedig.
Tu hwnt i hyn oll, yr wyf wedi clywed am y pŵer o gymunedau, am y cryfder anaralladwy sy’n dod o wybod nad chi yw’r unig un sy’n profi hyn, ac am wydnwch a chreadigrwydd sy’n codi o gael eich amgylchynnu gan bobl sy’n eich deall yn gwrando arnoch ac yn derbyn, yn ddiamod, y gwirionedd am eich profiad.
Wrth i Fesur y Mynydd fynd yn ei flaen, rwy’n gyffrous i gael clywed profiadau a straeon mwy o bobl. Pan ddechreuais y prosiect hwn nid oedd gen i syniad beth i’w ddisgwyl – yr oeddwn wedi tybio y byddem yn clywed am bethau ofnadwy, ac yr oeddwn wedi gobeithio y byddem yn clywed am bethau positif ofnadwy, ond nawr rwy’n credu mai’r pethau sy’n disgyn rhwng y ddau beth fydd ein darganfyddiadau fwyaf ysbyrdoledig.
Mae angen i ni gael gwybod am y profiadau na ddylai ddigwydd, a mae angen i ni gael gwybod am y gwasanaethau sy’n esiampl, a’r arfer gorau sy’n digwydd ledled Cymru. Ond mae hefyd angen i ni gael gwybod am y cyffredin: y pethau o dydd i ddydd y byddai rhywun yn tybio ein bod yn gwybod amdanynt yn barod, neu nad oedd yn ddigon diddorol ar gyfer y prosiect, neu na wnaeth gyfrif fel profiad oherwydd eich bod wedi anghofio amdano yn barod bron.
Yr ydym eisiau gwybod am y batri fflat yn y gadair olwyn, y cymydog wnaeth ddyfrio eich planigion yr amser hwnnw nad oeddech yn teimlo’n dda iawn, y gwasanaeth na sy’n gadael i chi e-bostio hwy er nad ydych yn gallu defnyddio ffôn, y clwb cinio sy’n gweini’r lasania gorau yr ydych erioed wedi ei gael, y ffysio sy’n wastad yn cymryd dau funud i ofyn sut ydych mewn gwirionedd neu’r grisiau yn eich cartref sydd ychydig yn rhy serth ond nad ydych eisiau lifft grisiau ar ei gyfer.
Y mwyaf y byddwn yn ei wybod am brofiadau pobl sy’n derbyn gofal, sy’n ofalwyr a’r gweithgareddau yr ydych yn ei gwneud er mwyn lleihau gwasanaethau statudol, mwyaf cymhellol fydd y darlun y byddwn yn ei greu. A’r mwyaf cymhellol y bydd, yr hawsaf y bydd hi i weithredu’r newid, a’r hawsaf y bydd i Lywodraeth Cymru, darparwyr gwasanaeth a mudiadau a phobl ledled Cymru, i wneud mwy o’r profiadau anhygoel, a gwneud llai o’r rhai na sydd mor anghygoel.
I rannu eich stori ac i wybod mwy am y prosiect ewch ar www.mtm.wales.
0 notes