#elusennau
Explore tagged Tumblr posts
Text
Gwaddol Walter Dickie: helpu mentrau dielw i ffynnu
Dyma’r bedwaredd ran a’r un olaf yn ein cyfres gan enillydd Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie 2017 Steve Brooks, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sustrans Cymru. Yma mae’n crynhoi’r hyn y mae wedi’i ddysgu diolch i’r bwrsari, a’r hyn a fu o gymorth iddo ar ei daith
‘Chi’n edrych yn brysur, dwi’n gweld eich bod yn recriwtio eto’.
Sylw dros ysgwydd oedd e’, a ddywedwyd wrtha’i fis diwetha’ gan gyfarwyddwr yn y diwydiant rheilffyrdd, ond fe arhosodd gyda mi. Roedd yn arwydd bod Sustrans yn mynd i’r cyfeiriad cywir.
Fel y mwyafrif o elusennau, mae Sustrans wedi gorfod ailffocysu ac ailstrwythuro, i raddau helaeth oherwydd mesurau cyni. Roedd arian Ewropeaidd ac arian y loteri wedi galluogi Sustrans Cymru i ehangu cyfleusterau cerdded a beicio ledled Cymru dros sawl blwyddyn. Dwi’n falch o’n gwaith ar gynlluniau fel Pont y Ddraig yn y Rhyl, Pont y Werin rhwng Caerdydd a Phenarth, a Rhwydwaith Beicio’r Cymoedd. Roedd llawer o waith i’w wneud o hyd, ond fe wnaeth economi a oedd yn gwaethygu ac amgylchedd cyllido mwy heriol orfodi Sustrans Cymru i newid ei ffordd o weithio.
Ymunais â Sustrans Cymru fel Cyfarwyddwr Cenedlaethol fis Hydref 2016. Roedd y mudiad wedi gorfod lleihau o ran maint, a thra’r oedd ein gweithrediadau yn dal i fod yn ariannol hyfyw ac o fudd cymdeithasol, roedd yna deimlad ymysg rhai fod ein dyddiau gorau y tu ôl i ni, nid o’n blaenau. Canolbwyntiais ar dair blaenoriaeth yn fy nghynllun ar gyfer fy 12 mis cyntaf:
Meddylfryd y mudiad – newid meddylfryd yr elusen o hiraeth i gyfleoedd
Codi ein proffil a’n dylanwad allanol
Twf
Mae pob un o’r tri yn gyd-ddibynnol, ond yn ganolog i fy syniad i o ‘arweinyddiaeth entrepreneuraidd’ – yr hyn y mae Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie yn ceisio ei feithrin.
I mi, mae arweinyddiaeth entrepreneuraidd yn ffordd o weithio yn gymaint ag y mae’n fath o unigolyn. Ei hanfod yw gweld angen am newid a meddwl am ffordd ymarferol o gyflawni’r newid hwnnw sy’n ariannol hyfyw ac (yn hanfodol i entrepreneuriaid cymdeithasol) yn rhoi buddion y tu hwnt i elw.
Fe wnes i ddau beth gyda’r bwrsari. Defnyddiais yr arian i gofrestru â rhaglen Heriau Byd-eang Trafnidiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen a threulio amser yn Nosbarth Meistr Copenhagenize Design Company. Rhoddodd hyn gyfle i mi edrych yn ddamcaniaethol ac yn ymarferol ar sut y gallwn alluogi pobl i ddewis dulliau mwy cynaliadwy o deithio o A i B, a dwi wedi trafod y ddwy agwedd hyn yn fy mlogiau blaenorol.
(Darllenwch flogiau arall Steve ar ei brofiadau efo’r bwrsari: Ailfeddwl Entrepreneur; Cydweithio Ymarferol, Pan Foch yn Nenmarc)
Ond roedd y bwrsari hefyd yn gatalydd i wneud ychydig o waith allgyrsiol ar arweinyddiaeth. Dwi’n credu bod yr hen ystrydeb ‘mae’n bwysig treulio amser ar eich busnes yn ogystal ag yn eich busnes’ yn taro deuddeg, ac fe roddodd y bwrsari y cyfle i wneud hynny.
Cafodd tri llyfr ddylanwad ar fy ffordd o feddwl (dau ohonynt yn llyfrau yr oeddwn wedi’u darllen o’r blaen). Mae ‘You’re in Charge, now what’ gan Neff & Citrin yn rhoi cyfarwyddyd ymarferol rhagorol ar arweinyddiaeth strategol; ac mae Alistair Campbell yn ‘Winners: And how they succeed’ yn dadansoddi strategaeth, arweinyddiaeth, tîmyddiaeth (teamship) a’r meddylfryd eich bod am ennill. Cyflwynodd cadeirydd WCVA Peter Davies fi i ‘How to Change the World, the essential guide for social sector leaders’ gan Craig Dearden-Phillips sy’n cynnwys cyfweliadau ag arweinwyr elusennau a mentrau cymdeithasol.
Roedd araith Laura McAllister yn CCB WCVA yn 2017 hefyd wedi taro tant clir â mi, yn enwedig pan alwodd ar i arweinwyr yng Nghymru fod yn llai swil. Ac fe rannodd Sue Essex, cyn-weinidog yn llywodraeth Rhodri Morgan, ei phrofiad treiddgar â mi mewn digwyddiad a gyflwynais yn gynharach eleni gyda Capital Law o’r enw ‘Heads Up’.
Mae sawl ffordd o dorri’r gacen hon, ond i mi hanfod hyn oll yw’r 11 wers ganlynol:
Llunio gweledigaeth ac adrodd stori. Darluniwch weledigaeth o’r dyfodol. Diffiniwch y weledigaeth honno, sicrhewch mai chi sy’n berchen arni ac ailadroddwch hi, yn ddiddiwedd. Os nad ydych chi’n adrodd eich stori, bydd rhywun arall yn ei hadrodd, a fwy na thebyg nid dyna’r stori yr hoffech iddi gael ei hadrodd.
Llunio uwchgynllun personol. Nid strategaeth eich mudiad yw hwn. Nid eich amcanion personol yw e’ hyd yn oed. Mae’n fynegiad o’ch agenda hirdymor chi. Yr hyn yr ydych chi am ei gyflawni yn eich rôl. Does neb yn dechrau swydd yn siarad am yr amser pan fyddant yn gadael, ond amser cyfyngedig sydd gan arweinwyr. Dylech werthfawrogi faint o amser sydd gennych, gwybod yr hyn yr ydych am ei wneud, a phryd y mae’r gwaith ar ben ac yn amser trosglwyddo i rywun arall.
Byw’ch steil o arwain. Ni fyddai elusen dibyniaeth ar alcohol yn cynnal derbyniad diodydd mewn cynhadledd wleidyddol i drafod gosod isafswm pris ar alcohol, gan ei fod yn amlwg yn tanseilio ei chenhadaeth. Dylai’ch ymddygiad fel arweinydd fod yn gyson â’ch uwchgynllun personol. Eisiau arwain elusen sy’n rhoi’r egwyddor o gynnwys buddiolwyr wrth wraidd ei gwaith? Peidiwch â bod yn unben â drws eich swyddfa ynghau. Nid hanfod arweinyddiaeth go iawn yw bod yn chi’ch hun, heb ystyried neb arall. Ei hanfon yw bod y chi y mae pobl eraill o’ch cwmpas angen i chi fod. Byddwch yn barod i newid a gweithio y tu allan i’ch cynefin, gan arwain drwy esiampl.
Creu lle i feddwl. Nid peth moethus yw hyn – mae’n hanfodol. Dyw’r arweinydd elusen sy’n ymffrostio wrth gwyno ‘Dwi’n rhy brysur’ ddim yn gwneud ei waith yn iawn. Eich cyfrifoldeb chi yw gweld safbwyntiau eraill, siarad â’ch buddiolwyr, gofyn cwestiynau, herio rhagdybiaethau, cwestiynu tystiolaeth, deall eich cyllidwyr, meddwl am y dyfodol. Gall byrddau cynghori ac ymddiriedolwyr eich cefnogi a’ch herio – ond dyw hynny ddim yn disodli creu’ch lle eich hun i feddwl.
Gwahodd her – gwers gan Rhodri Morgan. Dylech fynd ati i annog y rheini o’ch cwmpas i’ch herio. Roedd y cyn-brif weinidog yn chwilio’n benodol am bobl a fyddai’n ei herio, yn ei wrthwynebu, yn dadlau ag ef. Mae’n ehangu’ch meddwl ac yn miniogi’ch dadl. Cofiwch ei bod yn bosib na chafodd staff eu hannog i wneud hyn o’r blaen, felly cefnogwch bobl i’ch herio.
Cydweithio. Ond cydweithiwch yn dda. Dyw paned a chlonc ag elusen arall y mae ei chenhadaeth yn gorgyffwrdd yn fras ag un chi ddim yn cyfrif fel cydweithio. Cymerwch yr awenau a dod o hyd i bobl yr hoffech gydweithio â nhw. Ar ôl diffinio’ch gweledigaeth, gofynnwch i chi’ch hun pwy rydych ei angen i’ch helpu i’w gwireddu? Pwy sy’n rhannu’ch gweledigaeth? Dewch o hyd iddyn nhw, gweithiwch gyda nhw, ond parchwch nhw – peidiwch â’u defnyddio. Dylech dal brynu paned iddyn nhw.
Adeiladu’ch tîm a thrin pobl â pharch. Peidiwch ag ymhel mewn mân-ryfela, na gwleidyddiaeth swyddfa. Peidiwch â gwneud pethau’n bersonol. Dylech feithrin eich tîm a’r bobl yr hoffech weithio gyda nhw. Datblygwch nhw. Cefnogwch nhw. Treuliwch amser gyda nhw. Rhaid cydnabod eich bod angen pobl ddawnus a chefnogaeth gan y rheini yr ydych yn eu harwain. Ond cofiwch mai’ch cyfrifoldeb chi yw delio gyda phobl na all wneud y gwaith neu sy’n gwrthod gwneud y gwaith. Derbyniwch hynny – dyna pam rydym ar gyflog uwch.
Darllen. A darllen mwy. Ac yna darllen mwy fyth. Mae llyfr nodiadau yn llawn syniadau yn well na mewnflwch sydd wedi’i wagio o bob ebost. Yn Oxfam, roedd y cyfarwyddwyr gweithredol yn cael wythnos astudio gyda’i gilydd bob blwyddyn. Mae angen deall y gwahaniaeth rhwng yr hyn y mae angen i chi ei wybod, a’r hyn nad oes angen i chi ei wybod. Ni ellir ennill gwybodaeth a dod yn wybodus drwy dorri corneli.
Deall eich cyd-destun. Meddyliwch am eich amgylchedd gweithredu allanol. Meddyliwch am fygythiadau a chyfleoedd. Dadansoddwch. Ni allwch ddarogan dyfodol eich mudiad, ond gallwch gynllunio ato.
Peidio byth â chymryd dim byd yn ganiataol. Os oes gan eich elusen genhadaeth yn seiliedig ar eiriolaeth neu ymgyrch, peidiwch byth â chymryd yn ganiataol eich bod wedi ennill. Atgyfnerthwch eich safle yn gyson ac, ar yr un pryd, gwthiwch yr agenda ymhellach ymlaen. Cadarnhau’r hyn yr ydych eisoes wedi’i gyflawni yn ogystal â gwneud cynnydd pellach.
Peidio byth ag anwybyddu’r manylion. Treuliwch amser ar y lefel gywir (gweledigaeth, strategaeth, tîm, proffil, arloesedd) a pheidiwch â chael eich sugno i mewn i’r mân bethau. Ond peidiwch byth bythoedd ag esgeuluso cydymffurfiaeth a’r gwaith beunyddiol allweddol. Y pethau bach a aiff o chwith y mae pobl yn sylwi arnynt ac a all eich brathu. Os arweinydd ydych chi ac nid rheolwr, sicrhewch fod gennych reolwyr da o’ch cwmpas.
Steve Brooks yw enillydd Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie 2017, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sustrans Cymru ac mae’n trydar @stephenbrooksUK. Gallwch ddarllen y flog cyntaf yn y cyfres yma.
Mae Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie 2018 yn awr yn agor i ceisiadau. I gael gwybod mwy am y bwrsari, ewch ar y dudalen we neu cysylltwch ag Alun Jones.
0 notes
Text
Sefydliad Cymunedol Cymru
Cronfa Gwydnwch Coronavirus Cymru
Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Conwy, Dinas Caerdydd, Gwynedd, I gyd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Ddinbych, Sir Fynwy, Sir Gar, Sir Penfro, Sir y Fflint, Torfaen, Wrecsam, a Ynys Môn
Mae’r gronfa hon wedi cael ei sefydlu i gynorthwyo grwpiau a sefydliadau sy’n addasu gwasanaethau a chymorth i unigolion a theuluoedd, boed yn unigol neu ar y cyd, wedi’u heffeithio gan bandemig y coronafeirws.
Yn bennaf, byddwn yn darparu cymorth ar gyfer y canlynol (Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr):
• gweithgareddau sy’n helpu pobl sy’n agored i niwed sy’n hunanynysu (yr henoed, pobl â chyflyrau meddygol sy’n bodoli eisoes ac ati)
• Anghenion parhaus pobl sy’n agored i niwed i sicrhau bod eu hiechyd a’u lles yn cael eu cynnal
• cymorth i fanciau bwyd a sefydliadau sy’n gweithio i frwydro yn erbyn caledi a achosir gan y pandemig, gan gynnwys newyn plant
• cydgysylltu ymateb cymunedol
• costau gwirfoddolwyr i’r rhai sy’n ymateb i effeithiau’r pandemig
• costau ychwanegol gweithio o bell ac addasu gwasanaethau a ddarperir yn y gymuned ehangach
• Cymorth ychwanegol yn ôl yr angen ar gyfer anghenion emosiynol ac iechyd meddwl a chymorth profedigaeth
Sylwch mai dim ond am 6 mis y byddwn yn ystyried cost cyflwyno’r gwasanaeth / cefnogaeth i ddechrau. Byddwch yn gallu ail-ymgeisio am gyllid pellach os yw’r angen yn dal i fodoli ar ôl Medi 2020.
Os bydd arian yn caniatáu, byddwn yn darparu cymorth i:
• atal colli incwm contractau a chodi arian ar gyfer sefydliadau sy’n rhoi cymorth i grwpiau sy’n agored i niwed
Sylwch fod ceisiadau sy’n gwneud cais am grant i lenwi’r gap o incwm rydych wedi’i golli yn cael eu roi ar restr wrth gefn ar hyn o bryd a byddwn yn eu hail-ystyried ym mis Gorffennaf pan fydd gennym well syniad o faint o arian sydd gennym i ddosbarthu. Byddwn yn annhebygol o gynnig cyllid i sefydliadau sydd gyda’g cronfeydd wrth gefn sydd dros 6 mis o gostau rhedeg y sefydliad
Y grantiau sydd ar gael
• Mae grantiau o rhwng £500 a £2,000 ar gael i grwpiau sydd ag incwm blynyddol o hyd at £200,000
• Mae grantiau o hyd at £5,000 ar gael i grwpiau sydd ag incwm blynyddol rhwng £201,000 a £500,000
Pwy all wneud cais?
Elusennau, grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol a cynghorau cymunedol a tref sydd yn cynnal gweithgareddau i gefnogi’r gymuned drwy effaith pandemig Coronafirus yng Nghymru.
Fyddem ond yn cefnogi grwpiau a sefydliadau a all ddangos tystiolaeth eu bod yn gweithio’n ddiogel ac yn cadw a ganllawiau’r Llywodraeth ynglŷn â’r firws.
Cysylltwch â ni ar 02920 379 580 neu e-bostiwch [email protected] fam ragor o wybodaeth
0 notes
Text
Brexit a chyllid i Gymdeithas Sifil yng Nghymru – Y daith hyd yma a ble rydym arni nawr
Mae Brexit yn peri cryn ofid i ddyfodol y trydydd sector yng Nghymru. Yn y blog hwn, mae Cydlynydd Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit Charles Whitmore yn amlinellu goblygiadau cyhoeddiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru, ac yn ymdrin â’r prif heriau a fydd yn wynebu cymdeithas sifil Cymru ar ôl Brexit.
Mae elusennau’n cyflawni rôl hanfodol yn helpu i wireddu hawliau pobl yn eu bywydau bob dydd. Maent yn brwydro dros hawliau dynol, cydraddoldeb a hawliau amgylcheddol, ac yn eu rhoi ar waith. Ni all y mudiadau hyn weithredu’n effeithiol heb gyllid digonol. Ar gyfer y cyfnod rhwng 2014 a 2020 cafodd Cymru dros £1.2 biliwn o’r Gronfa Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd (ESIF), sy’n 458% o’r cyfartaledd y pen ledled y Deyrnas Unedig.
Er y cyllid Ewropeaidd hwn yng Nghymru, dengys data o borth WCVA fod incwm elusennau Cymru fesul pen o’r boblogaeth bron i hanner yr incwm y pen yn y DU yn ei chyfanrwydd.
A fydd yr hyn y mae llywodraeth y DU yn ei sefydlu yn lle’r cyllid Ewropeaidd yn cynnal y lefel o arian y mae ESIF yn ei darparu i Gymru?
Fydd gan y sector yng Nghymru unrhyw reolaeth mewn gynllun olynol? Os ddim, bydd Brexit yn dyfnhau anfantais gymharol y sector elusennol yng Nghymru.
Nid yw’r galw ar y sector ond yn debygol o gynyddu. Mae allanoli gwasanaethau cyhoeddus i elusennau ar dwf, fel y mae’r galw cyffredinol am wasanaethau yn enwedig wrth i’r mesurau cyni barhau. Mae rhai mudiadau hefyd yn wynebu trafferthion wrth geisio cynnal eu gweithlu oherwydd llai o fudo o’r UE. Tra mae Brexit yn gyfle i wneud diwygiadau positif yn y maes hwn drwy symleiddio gweithdrefnau gweinyddol a’i gwneud yn haws i fudiadau llai gael at gyllid, bydd angen ystyried popeth yn ofalus.
Ffyniant a Rennir
Mae’r cynllun cyllido a fydd yn olynu ESIF, sef ‘Cronfa Ffyniant a Rennir y DU’ (UK Shared Prosperity Fund - UKSPF), wedi bod yn achosi cryn ddadlau yng Nghymru ers y refferendwm. Mor gynnar â 2017 cynhaliodd Llywodraeth Cymru, Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a Phwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol, ymgynghoriad ar yr UKSPF. Mae mudiadau Cymdeithas Sifil wedi cyfrannu at y ddadl drwy ymateb i’r ymgynghoriadau hyn, a chynnal ymchwil annibynnol, megis y Fforwm Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, y Grŵp Amgylchedd Hanesyddol, a phrosiect Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025.
Mewn cyferbyniad â hynny, ychydig iawn o wybodaeth y mae Llywodraeth y DU wedi’i darparu. Ym mis Awst 2018 adroddodd Swyddfa Archwilio Cymru ar y diffyg hwn yn Rheoli effaith Brexit ar Gronfeydd Strwythurol yr UE. Yn dilyn cynnig cynnar-yn-y-dydd Jonathan Edwards AS ym mis Gorffennaf 2018, rydym wedi gweld rhywfaint o wybodaeth ynglŷn â hyn. Cyhoeddodd y Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ddatganiad ysgrifenedig a diweddariad gerbron Tŷ’r Cyffredin ar 24 Gorffennaf 2018.
Mae’r cyhoeddiadau hyn yn awgrymu y gallai dyluniad yr UKSPF ddilyn trywydd tra gwahanol i’r hyn y mae mudiadau cymdeithas sifil yng Nghymru, y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru yn gofyn amdano. Yn fras:
Bwriad Llywodraeth y DU yw rhoi’r UKSPF ar waith drwy Bartneriaethau Menter Lleol. Byddai’r rhain yn datblygu strategaethau diwydiannol lleol ond yn parhau’n atebol i’r fframwaith a osodir gan y llywodraeth ganolog.
Bydd yr UKSPF yn ‘mynd i’r afael ag anghydraddoldebau...drwy gynyddu cynhyrchiant...fel yr amlinellir yn y strategaeth ddiwydiannol fodern’.
Bydd yr UKSPF ar waith ledled y DU a bydd Llywodraeth y DU yn ‘parchu’r setliadau datganoli’ ac yn ‘ymgysylltu â’r gweinyddiaethau datganoledig i sicrhau bod y gronfa’n gweithio i leoedd ledled y DU’.
Bydd mynediad at y gronfa yn cael ei hwyluso drwy symleiddio’r broses weinyddol.
Pa na bai cytundeb â’r UE, bydd Llywodraeth y DU yn gwarantu cyllid 2014-2020.
Gwireddu Addewidion
Yn union fel y mae gwireddu addewid o hawliau yn amcan polisi pwysig, felly hefyd y mae hybu cynhyrchiant. Does dim dwywaith nad yw Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn rhannu’r ail amcan hwnnw. Byddai diwedd sydyn ffrwd gyllido yng Nghymru sydd wedi bod yn canolbwyntio ar wireddu hawliau yn heriol i gymdeithas sifil yng Nghymru.
Hyd yn oed cyn cyhoeddiadau diweddar llywodraeth y DU, mae cynrychiolwyr y trydydd sector yng Nghymru sy’n cymryd rhan yn y Fforwm eisoes wedi mynegi pryderon ynghylch ei blaenoriaethau ar gyfer yr UKSPF. Ymysg y pryderon hyn y mae:
Y bydd yr UKSPF yn cael ei harwain gan dwf economaidd yn hytrach na dull cynhwysol wedi’i nodweddu gan gydlyniant cymdeithasol, cydraddoldeb a hawliau dynol sydd wrth wraidd pryderon mudiadau sy’n rhan o’r Fforwm. Mae’r ofn hwn wedi codi gan fod yr UKSPF wedi’i gwreiddio yn Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU. Tra mae’r sector yn croesawu rôl yr UKSPF yn cefnogi ffyniant economaidd, nid yw’r defnydd o iaith cynhyrchiant ond yn cadarnhau’r pryderon pan nad yw wedi’i seilio ar y gwerthoedd hyn.
Mae trafodaethau yn y Fforwm hefyd wedi amlygu dyhead i weld yr UKSPF yn cael ei datganoli i Gymru. Yn benodol, i gorff yng Nghymru lle mae’r rheolaeth strategol, gan gynnwys gosod blaenoriaethau, yn cael ei chyflawni mewn partneriaeth gyfartal rhwng y trydydd sector, y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Serch hynny, ymddengys hyd yma mai ôl-ystyriaeth yw Cymru yn nyluniad yr UKSPF. Bydd yr UKSPF yn cael ei datganoli i Bartneriaethau Menter Lleol, nad ydynt yn bodoli yng Nghymru. Nid oes unrhyw arwydd wedi’i roi o’r ffordd y byddai’r Gronfa yn gweithio yng Nghymru, sy’n awgrymu nad yw pryderon Cymru wedi’u hystyried.
Hyd yma nid oes ymrwymiad wedi’i roi i’r dull sy’n seiliedig ar anghenion y mae mudiadau sy’n rhan o’r Fforwm yng Nghymru yn ei ffafrio (gweler er enghraifft yr ymatebion hyn i ymgynghoriadau’r Cynulliad Cenedlaethol gan Sefydliad Bevan a Chwarae Teg). Mae Llywodraeth Cymru a Phwyllgor Cyllid y Cynulliad wedi mynegi pryderon y gallai Fformiwla Barnett (sy’n penderfynu faint o arian y mae Cymru’n ei gael gan Lywodraeth y DU yn seiliedig ar faint y boblogaeth) gael ei defnyddio i ddyrannu arian o’r UKSPF. Byddai dyrannu arian yn seiliedig ar faint y boblogaeth yn arwain at golli cryn dipyn o gyllid yng Nghymru. Neu, pe defnyddid system ymgeisio ledled y DU gallai arian sydd wedi’i ddyrannu’n draddodiadol i ardaloedd mewn angen gael ei ailgyfeirio.
Yn olaf, mae Llywodraeth y DU yn bwriadu ymgynghori ar yr UKSPF tua diwedd y flwyddyn, ond nid yw’n beth anarferol i amserlenni’r Llywodraeth ar faterion yn ymwneud â Brexit lithro weithiau.
Bydd nifer helaeth o ddatblygiadau cymhleth ynglŷn â Brexit yn digwydd yn hydref 2018. Bydd dadleuon ynghylch Brexit yn danbaid ac yn siwr o fod yn gecrus. Mae’n bosib y caiff yr UKSPF ei cholli ymhlith y dadleuon ehangach hyn.
Bydd angen i fudiadau yng Nghymru sy’n pryderu am y math o gyllid a fydd yn disodli ESIF gydweithio â’i gilydd – a chyd-drefnu â phrosiectau ledled y DU i sicrhau bod y rheini sy’n gwneud penderfyniadau yn clywed pryderon a lleisiau datganoledig.
Prosiect ar y cyd yw Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit rhwng Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) ac fe’i hariennir gan y Legal Education Foundation. Ei nod yw rhoi’r grym a’r gallu i’r trydydd sector ddeall proses Brexit, a chyfrannu ati, drwy ddarparu gwybodaeth hygyrch a chymorth cydlynydd.
0 notes
Text
Edrych yn ôl ar yr Eisteddfod Genedlaethol 2018
Ruth Marks, Prif Weithredwr WCVA, yn edrych yn ôl ar wythnos llawn ysbrydoliaeth yn y Brifwyl ym Mae Caerdydd.
Mae gweithio a gwirfoddoli yn y trydydd sector yng Nghymru yn waith difrifol yn aml. Mae llywodraethu, cyllido, arloesi a mesur effaith yn bynciau y mae pobl yn eu codi â mi yn rheolaidd. Mae monitro ein hamgylchedd gweithredu o oddi mewn i’r sector, yn ogystal â chadw llygad ar yr amgylchedd allanol o ran strategaethau, polisïau, cymdeithas a’r economi bob amser yn ddiddorol ac yn heriol.
Wedi dweud hynny, dwi newydd gael un o wythnosau gorau fy mlwyddyn – mae hi wedi bod yn werth chweil cael bod yn rhan o’r Brifwyl ar garreg drws ein pencadlys ym Mae Caerdydd.
Mae WCVA yn draddodiadol wedi bod â stondin ar y Maes yn agored i aelodau a phartneriaid gynnal trafodaethau a gweithgareddau yn ystod yr Eisteddfod. Eleni roedd modd i ni gynnig hyn ar ein stondin, yn ogystal ag yn ein swyddfa rownd y gornel o’r Maes ar Sgwâr Mount Stuart, ac roedd yna gymaint o wirfoddolwyr a phobl o bob cwr o Gymru y gwnes i eu gweld, sgwrsio â nhw a gwrando arnynt sy’n caru gwirfoddolwyr.
Uchafbwyntiau’r wythnos
Cymerais ran mewn trafodaeth â Mentrau Iaith sydd am weithio gyda WCVA a phob Cyngor Gwirfoddol Sirol i hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli a’r Gymraeg. Roedd y brwdfrydedd o’r panel yn y Ddadl Cymdeithasau yn heintus.
Manteisiais ar y cyfle i wrando ar drafodaeth ynglŷn â diddordeb mewn melin drafod ddigidol i Gymru. Fe’i hwyluswyd gan Iolo ap Dafydd o Indycube – ac roedd hi’n sesiwn ddiddorol dros ben.
Yn olaf, cynhaliodd y cyfryngau yng Nghymru a byd drama teledu Cymraeg drafodaeth fywiog a difyr gan fy ngwneud yn fwy penderfynol fyth o gefnogi ein haelodau i adrodd eu straeon yn y cyfryngau.
Mae hyn yn gynyddol bwysig o gofio’r chwyddwydr sydd ar elusennau, ac roeddem yn falch iawn o’r ymateb i’n wal #CaruElusennau wrth i lwyth o negeseuon ardderchog gael eu gadael i Elusennau Cymru (gan gynnwys rhai gan ambell i wyneb cyfarwydd!)
Arweinyddiaeth oedd y pwnc trafod ddydd Mawrth ac roedd yn dda gen i gyflwyno ACEVO i Academi Cymru a dwi’n edrych ymlaen at drafod â’r ddau sefydliad sut y gallwn gefnogi arweinwyr yn y sector yn well, gan gynnwys darpar arweinwyr yn ogystal ag arweinwyr sefydledig.
Roedd lansio ail Fwrsari Walter Dickie yn gyfle pwysig i’n hatgoffa ein hunain o’r angen i gymryd amser i feddwl, dysgu a rhannu syniadau ag eraill.
Pwysleisiodd Comisiynydd y Gymraeg eto ei bod yn credu’n gryf fod y 3ydd Sector yn chwarae rôl hanfodol yn hyrwyddo’r Gymraeg mewn gweithgareddau a chymunedau a hefyd yn rhoi cyfleoedd amrywiol i ddysgwyr ymarfer a magu hyder.
Prif argraffiadau o’r Eisteddfod 2018
Dyma’r negeseuon allweddol a ddaeth i’r amlwg i mi yn sgil y Brifwyl:
Gwnewch y pethau bychain – cofiwch fod manylion yn bwysig yn ogystal â materion strategol, bod dweud diolch yn golygu llawer, ac yn aml gall y weithred leiaf gael yr effaith fwyaf
Mae gwirfoddoli yn fwy o hwyl gyda chyfaill!
Mae elusennau’n gweithio gyda gwasanaethau cyhoeddus – ond nid ydym yno i gymryd eu lle.
Dwi’n edrych ymlaen yn barod at wneud y cwbl eto yn Llanrwst fis Awst nesaf. Serch hynny, fe fyddwn mewn Cymru wahanol erbyn hynny. Fe fydd yr amser ar gyfer Brexit – caled, meddal neu rywbeth yn y canol – wedi pasio. Fe fydd gan lawer o’r pleidiau yng Nghymru arweinwyr newydd.
Mae’r penawdau diweddar yn ein hatgoffa bod angen i elusennau ysgwyddo cyfrifoldeb dros gynnal ymddiriedaeth y cyhoedd. Dylai pob elusen ddangos eu bod yn gynhwysol ac yn agored yn eu ffordd o weithio, gan gynnwys yr Eisteddfod.
Yn y cyfnod rhwng y Brifwyl eleni a’r un nesaf fe fyddwn yn parhau i hyrwyddo’r neges o Eisteddfod heb ffiniau – i annog mwy o bobl i wirfoddoli, i weithredu am eu bod yn llawn angerdd, yn flin, yn bryderus, yn frwdfrydig – ond yn bennaf am fod pethau’n bwysig iddyn nhw ac yn agos at eu calon.
Ein harwyddair am yr wythnos oedd #CaruElusennau – ac fe wnaeth popeth a glywais ac a welais yn yr Eisteddfod atgyfnerthu’r neges honno.
Dalia fyny gyda’r hwyl trwy edrych ar ein hashnod #CaruElusennau!
Mae Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie 2018 yn awr yn agor i ceisiadau. I gael gwybod mwy am y bwrsari, ewch ar y dudalen we neu cysylltwch ag Alun Jones.
0 notes
Text
Cydweithio Ymarferol
Dyma ail ran ein cyfres gan enillydd Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie 2017, Steve Brooks, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sustrans Cymru. Yn blog hwn mae’n sôn am ei brofiad yn astudio ym Mhrifysgol Rhydychen fel rhan o’r bwrsari a enillodd, a sut i osgoi trapiau dwbl sgwrsio diddiwedd, a gweithio mewn seilos.
Rhaid i mi gyfaddef bod y syniad o dreulio amser ym Mhrifysgol Rhydychen wedi peri pryder i mi. A minnau wedi fy ngeni a’m magu ar un o’r ystadau mwyaf difreintiedig yn Lloegr, achosodd Rhydychen bwl arall o ‘syndrom cogiwr’ ynof. Gan fy mod wedi bod yn darllen am yr hyn sy’n ysgogi entrepreneuriaid yn y sector preifat, dilynais esiampl Richard Branson (‘screw it, just do it’) a mynd amdani.
Roedd fy nghwrs yn canolbwyntio ar iechyd a llesiant mewn trafnidiaeth, yn rhan o Raglen Arweinyddiaeth Rhydychen a gynhelir ar y cyd ag Ysgol Fusnes Rhydychen. Ar lefel sylfaenol, hanfod trafnidiaeth yw symud pobl a nwyddau o A i B, yn ddelfrydol yn y ffordd fwyaf diogel, effeithlon a chynaliadwy. Gall trafnidiaeth achosi a datrys problemau cymhleth, ac fel y rhan fwyaf o bynciau nid yw’n sefyll ar wahân i bynciau eraill megis darpariaeth iechyd, addysg, tai, datblygu economaidd a newid hinsawdd. Dros y pedwar diwrnod edrychais ar faterion amrywiol gan gynnwys sut y gall trafnidiaeth fynd i’r afael ag allgáu cymdeithasol mewn economïau datblygedig a datblygol; rôl cerdded a beicio yn sicrhau llesiant; sut mae’r sector iechyd cyhoeddus a’r sector trafnidiaeth wedi (neu ddim wedi) gweithio gyda’i gilydd yn hanesyddol; diogelwch ffyrdd; a chydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a symudedd.
(Darllenwch flogiau arall Steve ar ei brofiadau efo’r bwrsari: Ailfeddwl Entrepreneur; Pan Foch yn Nenmarc; Gwaddol Walter Dickie: helpu mentrau dielw i ffynnu)
Un seminar a ddaliodd fy sylw’n arbennig oedd un ynglŷn â chydraddoldeb rhywiol. Os hoffech newid y ffordd yr ydych yn meddwl am drafnidiaeth, darllenwch waith Emma Aldrich ar drafnidiaeth a marwolaethau ymysg mamau. Ymchwiliodd Emma i’r ffordd y mae cyfyngiadau ar symudedd yn effeithio ar iechyd a lles mamau yn Uganda. Mae mynediad menywod at drafnidiaeth yn Uganda wedi’i gyfyngu a’i reoli. Gall fod oedi wrth geisio mynd i gyfleuster meddygol ac efallai na fydd y math o drafnidiaeth yn ddiogel, gan gynyddu’r risg o farwolaeth. Fe wnaeth Emma ddyfynnu Margaret Greico (2005) a ddywedodd:
‘Nid yw’r gwahaniaethau rhwng patrymau teithio gwrywaidd a benywaidd a’r rheolau a’r rolau diwylliannol sy’n gysylltiedig â’r gwahaniaethau hyn wedi’u cofnodi’n ddigonol ym myd polisi. Nid oes enghraifft well o’r cyfyngiadau hyn nag yn narlun Affrica o farwolaethau ymysg mamau; mae cyfyngiadau ar symudedd ac ar yr adnoddau ar gyfer symudedd a hygyrchedd yn cael effaith andwyol ar iechyd menywod yn Affrica.’
Hyd yn oed ym Mhrydain rydym yn gosod cyfyngiadau ar symudedd i rai cymunedau. Rydym yn rhoi mwy o werth ar rai gweithgareddau, rhai siwrneiau a rhai dulliau teithio nag eraill; gan ddewis i ddylunio ein byd o amgylch y car. Fel y dadleuodd Dr Karen Lucas, mae hyn yn bwysig.
Mae 40% o bobl sy’n chwilio am waith yn dweud bod trafnidiaeth yn broblem wrth geisio cael swydd. Mae hanner oedolion ifanc mewn addysg yn ei chael yn anodd talu am gostau teithio. Mae 1.4 miliwn o bobl ym Mhrydain yn methu neu’n gwrthod apwyntiadau ysbyty oherwydd diffyg trafnidiaeth. Mae adeiladu mwy o ffyrdd a rhoi cymhorthdal i gerbydau trydan yn ddewis. Mae trwsio pafinau fel y gall pobl hŷn gerdded yn haws, a gwario arian ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ddewis arall.
Roedd Rhydychen yn gyfle ardderchog i edrych o’r newydd ar hen broblemau. I f’atgoffa fy hun y byddai angen i Sustrans weithio y tu allan i’r bocs trafnidiaeth er mwyn creu newid ar lawr gwlad yng Nghymru. Mae lleihau defnydd diangen o geir a galluogi mwy o bobl i gerdded a beicio yn cynnig llawer o fuddion i drafnidiaeth, gan gynnwys llai o draffig a gwella diogelwch. Mae hefyd yn cynnig llawer o fuddion y tu allan i faes trafnidiaeth. Ond nid moeswers y stori yma yw y dylem ni gyd fabwysiadu’r pum ffordd o weithio yn Neddf Cenedlaethau’r Dyfodol a meddwl ‘dyna ni, mae’r gwaith wedi’i wneud’.
I lenwi’r bwlch darparu, mae angen i’r trydydd sector ffocysu a chydweithio, gan osgoi’r ddau begwn sef sgyrsiau diddiwedd â phartneriaid ac ysgrifennu cytundebau ar y naill law, a gweithio mewn seilos ar y llall. Efallai y gellid galw hyn ‘cydweithio ymarferol’.
Yn fy mlog nesaf soniaf am yr hyn a ddysgais am greu newid yn Copenhagen a sut y gellir rhoi’r gwersi hynny ar waith yng Nghymru.
Steve Brooks yw enillydd Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie 2017, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sustrans Cymru ac mae’n trydar @stephenbrooksUK. Gallwch ddarllen y flog cyntaf yn y cyfres yma.
Mae Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie 2018 yn awr yn agor i ceisiadau. I gael gwybod mwy am y bwrsari, ewch ar y dudalen we neu cysylltwch ag Alun Jones.
Os hoffech ddeall eich dull arwain yn well a dulliau llwyddiannus eraill, hybu’ch sgiliau arwain a thyfu’ch gwydnwch, cadwch le ar ein cwrs Arweinyddiaeth Trydydd Sector ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol.
#Walter Dickie Leadership Bursary#Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie#trydyddsector#Trydydd Sector#elusennau#elusen#Cymru#trafnidiaeth
0 notes
Text
Gwefan newydd i’ch helpu i fynd ati i wirfoddoli
Yma mae Fiona Liddell, Rheolwr Datblygu Gwirfoddoli WCVA, yn cynnig cyngor i wirfoddolwyr ar sut i gael y gorau o wefan newydd Gwirfoddoli Cymru, a lansiwyd ar 8 Mehefin.
Mae ein gwefan gwirfoddoli newydd sbon, a lansiwyd wythnos diwethaf, yn ei gwneud yn hawdd i wirfoddolwyr chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli, ymuno â nhw a chadw cofnod o’u profiadau.
Mewn blogiau blaenorol canolbwyntiais ar sut y gall mudiadau ddechrau arni a chreu cyfleoedd ar y wefan newydd ac ar nodweddion eraill a all eu helpu i recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr. Mae cyfleoedd newydd yn cael eu rhoi ar y wefan bob dydd. Nawr mae’n bryd troi ein sylw at wirfoddolwyr, neu ddarpar wirfoddolwyr, a sut y gallwch chi ddefnyddio’r wefan.
Dod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli
Yn gyntaf, ewch i’r wefan
www.gwirfoddolicymru.net
Gallwch ddechrau chwilio ar unwaith gan ddefnyddio allweddeiriau – gweithgaredd efallai, neu enw mudiad.
Dangosir canlyniadau yn ôl eu pellter ohonoch chi. Bydd unrhyw ddigwyddiadau untro perthnasol yn ymddangos ar frig y rhestr. Os yw’r rhestr yn rhy hir, ceisiwch gulhau’r chwiliad drwy roi allweddeiriau ychwanegol yn y chwiliad.
I gael gwybod mwy am y cyfleoedd sy’n ymddangos yn eich rhestr ganlyniadau, gofynnir i chi gofrestru, os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny. Dim ond ychydig funudau y bydd hyn yn ei gymryd. Mae angen cyfeiriad ebost arnoch a gofynnir i chi greu cyfrinair.
Ar gyfer rhai cyfleoedd gwirfoddoli, gallwch ymuno’n syth â’r cyfle ar sail y cyntaf i’r felin, heb broses ymgeisio na phroses ddethol. Mewn achosion o’r fath gwahoddir i chi ‘Ymuno’. Anfonir cadarnhad atoch a disgwylir i chi fod yn y man priodol ar yr amser a nodir gan y mudiad.
Mae proses ymgeisio ynghlwm wrth gyfleoedd eraill – megis sgwrs gychwynnol, ffurflen gais ac mewn rhai achosion hyfforddiant cychwynnol neu wiriadau DBS cyn y gellir cadarnhau’ch lleoliad gwirfoddoli.
Yn yr achosion hyn gofynnir i chi ‘Ymgeisio’ a dilyn y camau angenrheidiol. Mae’n bosib y bydd modd i chi lawrlwytho dogfennau perthnasol, megis ffurflen gais, o’r wefan. Fe welwch fanylion cyswllt y mudiad (a elwir yn ‘Ddarparwyr’ ar y wefan hon), fel y gallwch gysylltu â nhw os hoffech gael gwybod mwy cyn ymgeisio.
Gweld holl gyfleoedd mudiad
Ar ôl dod o hyd i gyfle gwirfoddoli efallai y byddwch am gael gwybod beth arall y mae’r mudiad dan sylw yn ei gynnig. Cliciwch ar enw’r mudiad i weld ei dudalen Darparwr, a fydd yn cynnwys manylion y mudiad a rhestr o’r holl gyfleoedd gwirfoddoli y mae’n eu hysbysebu ar y wefan.
Mae’r wefan yn gwbl ddwyieithog a gallwch chwilio yn Gymraeg neu’n Saesneg – ond cofiwch fod eich chwiliad wedi’i seilio ar allweddeiriau sy’n ymddangos yn y disgrifiad o’r cyfle a roddwyd ar y wefan gan y mudiad.
Tra’r ydym yn annog disgrifiadau dwyieithog yn gryf, ni allwn orfodi hyn. Rydym yn annog mudiadau i ddefnyddio’r tag ‘Cymraeg’ i ddynodi cyfleoedd lle gallwch ddisgwyl gallu siarad Cymraeg, felly rhowch ‘Cymraeg’ yn y peiriant chwilio i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli cyfrwng Cymraeg.
Cymorth i ddod o hyd i’r cyfleoedd cywir
Os hoffech gymorth personol i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli addas bydd cyfle i chi ddweud hynny wrth gofrestru ar y wefan. Bydd eich canolfan wirfoddoli leol wedyn yn cysylltu â chi gan gynnig cymorth neu gyngor drwy ebost, dros y ffôn neu drwy drefnu cyfweliad wyneb yn wyneb.
Eich proffil arlein
Fel arall, gallwch ddechrau arni drwy glicio ar y botwm ‘Rhoi Cynnig ar Wirfoddoli’ ar y dudalen gartref i gofrestru fel gwirfoddolwr newydd ar y wefan a dechrau creu’ch proffil arlein.
Ar dudalen eich proffil gallwch gadw cofnod o ba sesiynau gwirfoddoli rydych wedi ymrwymo iddyn nhw, a faint o oriau o wirfoddoli rydych wedi’u gwneud. Byddwch yn cael bathodynnau gwirfoddoli digidol pan fyddwch yn cofnodi 50, 100, 200, 500 neu 1000 awr. Mae cofnodi oriau yn hawdd – bydd y wefan yn eich atgoffa pan rydych yn debygol o fod ag oriau i’w cofnodi. Os lawrlwythwch ap Teamkinetic o siop apiau Google neu Apple yna gallwch wneud hyn ar eich ffôn ble bynnag ydych chi.
Mae angen i’r mudiad rydych yn gwirfoddoli iddo gadarnhau’r oriau rydych yn eu cofnodi cyn iddynt gyfrif tuag at eich bathodynnau digidol – felly atgoffwch nhw’n garedig os nad ydynt yn gwneud hyn!
Gallwch lanlwytho manylion cymwysterau a hyfforddiant rydych wedi’u gwneud, gan gynnwys tystysgrifau, i dudalen eich proffil. Dim ond mudiadau sy’n gyfrifol am gyfleoedd gwirfoddoli yr ydych yn ymuno â nhw a all weld y wybodaeth yn eich proffil.
Gallwch adael adborth ar eich cyfleoedd gwirfoddoli, i roi gwybod i eraill sut hwyl cawsoch arni.
Gallwch gysylltu’ch proffil â’ch cyfrif Facebook neu Twitter ac yna gallwch bostio’n awtomatig pan fyddwch yn ymuno â chyfle newydd neu’n cofnodi oriau gwirfoddoli. Fel hyn gallwch roi’r diweddaraf i’ch ffrindiau ynglŷn â’r hyn rydych yn ei wneud.
Os ydych eisoes yn gwirfoddoli, efallai y bydd y mudiad rydych yn ei gefnogi yn eich annog i gofrestru ar y wefan newydd fel y gallant ei ddefnyddio i drefnu rotas, cyfathrebu â gwirfoddolwyr, rhoi a derbyn adborth ac olrhain oriau gwirfoddolwyr.
Mwynhewch!
Sut bynnag rydych yn defnyddio nodweddion newydd y wefan newydd hon, y peth pwysicaf yw’ch bod yn dod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli gwerth chweil a’ch bod yn mwynhau’r profiad.
Os hoffech unrhyw gymorth wrth ddefnyddio’r wefan, neu os yw’n well gennych siarad â rhywun i ddod o hyd i’r cyfle gwirfoddoli rydych yn chwilio amdano, mae croeso i chi gysylltu â’ch canolfan wirfoddoli.
0 notes
Text
‘Mae Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn bwysig iawn i’n sector’
Korina Tsioni yw Swyddog Datblygu Nod Ansawdd CGGC. Yma, mae hi’n siarad â BulliesOut ar ôl iddyn nhw adnewyddu’r nod ansawdd Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (IiV) yn ddiweddar, a pham dylai sefydliadau eraill gymryd rhan.
Sefydlwyd BulliesOut ym mis Mai 2006, ac mae’n un o elusennau gwrth-fwlio mwyaf ymroddedig ac uchelgeisiol y DU. Mae eu gwaith sydd wedi ennill gwobrau yn cael ei ddarparu ledled y DU, ac wrth weithio gydag ysgolion, colegau a lleoliadau ieuenctid a chymunedol, maent yn addysgu, hyfforddi a chefnogi miloedd o bobl ifanc bob blwyddyn.
Mae BulliesOut yn defnyddio eu profiad, eu hegni a’u brwdfrydedd yn eu gweithdai a’u rhaglen hyfforddiant arloesol a rhyngweithiol i ganolbwyntio ar ymwybyddiaeth, atal, meithrin empathi a pherthnasau cadarnhaol â chyfoedion. Mae’r rhain i gyd yn hanfodol i greu amgylchedd anogol lle gall pobl ifanc a staff ffynnu.
Mae BulliesOut wedi llwyddo i adnewyddu’r wobr am y trydydd gwaith ac maen nhw’n tyfu’n gryfach gyda’u tîm o 20 o wirfoddolwyr mewn amrywiaeth o swyddi. Siaradais â Linda James MBE, Sylfaenydd/Prif Swyddog Gweithredol BulliesOut, am daith Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (liV) y sefydliad:
Beth fu manteision cyffredinol cyflawni’r wobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr?
‘Yn BulliesOut, drwy wasanaethau mentora, gweithdai ymgysylltu a rhaglenni hyfforddiant, rydyn ni’n benderfynol o fynd i’r afael â bwlio. Mae cyflawni’r wobr yn dangos faint rydyn ni’n gwerthfawrogi ein gwirfoddolwyr gwych a’r rhan bwysig maen nhw’n ei chwarae yn yr elusen.’
‘Dim ond un gweithiwr rhan-amser sydd gennym, felly heb ein tîm o wirfoddolwyr ymrwymedig, ni fyddem yn gallu darparu ein gwasanaethau hanfodol i’r rheini sydd wedi’u heffeithio gan fwlio.’
Sut byddech chi’n disgrifio unrhyw heriau a wyneboch ar y daith Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr?
‘Nid yw’r daith Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr golygu llawer o waith ychwanegol i’r sefydliad, ond fe gymerodd amser i ni allu trefnu'r diwrnod asesu olaf.’
Sut mae’r rhaglen Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr wedi effeithio ar eich gwirfoddolwyr?
‘Mae ein gwirfoddolwyr wedi gweld bod ein brwdfrydedd i gyflawni’r wobr am y tro gyntaf ac yna i ddal ati i’w chyflawni’n bwysig iawn i ni fel sefydliad, ac rydyn ni’n awyddus i fuddsoddi yn y gwirfoddolwyr ac yn yr hyn mae’n ei gymryd i gyflawni’r wobr.’
‘Mae ein gwirfoddolwyr wedi teimlo’n rhan o’r daith ac rydyn ni’n gobeithio eu bod nhw’n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi o ganlyniad i hynny.
Yn eich barn chi, pa mor bwysig yw’r safon ansawdd Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr i’ch sector?
‘Mae safon ansawdd Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn bwysig iawn i’r sefydliadau yn ein sector.’
‘Mae’n arddangos y gwerth clir a chynhenid sy’n cael ei roi ar y cyfraniadau y gall gwirfoddolwyr eu gwneud at sefydliad, ac mewn nifer o achosion, mae’n dangos sut na fyddai sefydliadau yn bodoli nac yn ffynnu heb eu gwirfoddolwyr.’
Yr hyn sy’n cymell BulliesOut yw eu gweledigaeth i rymuso ac ysbrydoli plant a phobl ifanc i oresgyn bwlio a chyflawni eu llawn potensial. Eu nod yw cefnogi unigolion, ysgolion a lleoliadau ieuenctid a chymunedol sydd wedi delio â bwlio.
Oes gennych chi unrhyw gyngor i sefydliadau eraill am sut i wneud y mwyaf o’u taith Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr?
‘Ein cyngor i unrhyw sefydliad arall sy’n ystyried Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr fyddai ymchwilio i’r safon ansawdd ymlaen llaw i wneud yn siŵr pan fyddwch chi’n penderfynu ymgymryd â'r daith, eich bod chi wedi rhoi’r cyfle gorau posib i chi’ch hun gyflawni'r safon.’
Byddai’n dda rhoi sylw i unrhyw arferion arloesol ymysg y sefydliadau sydd wedi cyflawni’r wobr. Gallwch chi rannu un neu fwy o enghreifftiau o arferion da/arloesol sydd ar waith nawr o ganlyniad i’ch taith Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr?
‘Ein henghraifft gorau o arfer da yw cyfathrebu’n dda ag unrhyw ddarpar wirfoddolwyr ar ddechrau eu taith.’
‘Mae hyn yn gwneud yn siŵr bod eu disgwyliadau yn cael eu rheoli a’u bod nhw’n llwyr ymwybodol o’r hyn y disgwylir iddyn nhw ei wneud os byddan nhw’n penderfynu ymuno â’r tîm.’
Rydych chi wedi cael yr achrediad Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr ers blynyddoedd – sy’n ymdrech arbennig. Pam benderfynoch chi adnewyddu eich gwobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr?
‘Rydyn ni'n credu’n gryf y byddai peidio ag ystyried dal ati i gyflawni’r safon yn gam yn ôl ar ôl ymdrechu i gyflawni’r safon yn y lle gyntaf.’
‘Hefyd, rydyn ni’n credu bod ail-gyflawni’r wobr yn dangos ein hymrwymiad i’n tîm arbennig o wirfoddolwyr. Mae’r wobr yn ein galluogi ni i adolygu ein polisïau a’n gweithdrefnau ac i ddiweddaru popeth yn rheolaidd.’
Hoffem wybod pa fentrau creadigol gyda gwirfoddolwyr sydd wedi cael effaith sylweddol ar fynd i’r afael â phroblem/mater yn eich cymuned leol.
‘Ein menter fwyaf creadigol gyda gwirfoddolwyr yw’r Rhaglen Ymgysylltu ag Ieuenctid sy’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc wirfoddoli gyda’r Elusen.’
‘Cafodd y rhaglen ei datblygu ar ôl sawl cais gan bobl ifanc a oedd eisiau cymryd rhan yn ein gwaith. Mae’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc gael hyfforddiant seiliedig ar sgiliau ac i weithio at wobr sy’n cael ei chydnabod ar lefel genedlaethol.’
Cliciwch yma os hoffech ragor o wybodaeth am BulliesOut a chymryd rhan! https://bulliesout.com/get-involved/
Dysgu mwy am Fuddsoddi mewn Gwirfoddolwyr a chysylltu â Korina yn [email protected] neu @korinations os oes gennych unrhyw gwestiynau a/neu syniadau.
0 notes
Text
Beth mae treftadaeth yn ei olygu i chi?
Gyda'n prosiect newydd Catalydd Cymru: Treftadaeth Wydn bellach yn cymryd ymgeisiadau, mae Rheolwr Prosiect Catalydd Alison Pritchard yn gofyn tybed beth mae treftadaeth yn ei olygu i ni.
Mae'n deg dweud pan mae rhywun yn meddwl am dreftadaeth, mae'n debyg mai'r peth cyntaf sy'n dod i'r meddwl yw rhyw fath o gastell neu adeilad hanesyddol (yn enwedig yng Nghymru lle mae mwy o gestyll fesul milltir sgwâr nag yn unrhyw wlad arall yn Ewrop).
Yng ngoleuni'r ffaith bod ein prosiect newydd sbon Catalydd Cymru: Treftadaeth Wydn yn cael ei lansio eleni, gofynnais i'm cydweithwyr newydd yn CGGC beth oedd eu dealltwriaeth o dreftadaeth Cymru a beth mae'n ei olygu iddyn nhw.
Ymwelwyr
Yn gyntaf, yr ochr fwy 'twristaidd' i Dreftadaeth Cymru; ei thraethau, ei mynyddoedd, ei bryniau a'i haberoedd godidog - mae yna ardal o harddwch naturiol eithriadol o amgylch pob cornel (ac efallai hyd yn oed rhywfaint o fywyd gwyllt prin hefyd).
Heb anghofio'r eglwysi, yr abatai (ac olion abatai), y cestyll (ac olion cestyll) enwog, a hanes hir gyda chysylltiadau â llinach y Tuduriaid, Owain Glyndŵr, y Cylch Haearn...does ryfedd bod twristiaid yn heidio i Gymru bob blwyddyn.
Diwylliant
Er bod y twristiaid yn gadael gyda gwybodaeth am ein tirwedd, gobeithio y cânt gipolwg hefyd ar hunaniaeth ddiwylliannol gyfoethog Cymru.
Mae'r Eisteddfod flynyddol (lle y cawsom lawer o hwyl eleni - welsoch chi ni?) yn denu miloedd o bedwar ban byd i ddathlu ein diwylliant a'n hiaith.
Mae'r Eisteddfod hefyd yn faes y gad i gorau enwog Cymru - er bod y frwydr weithiau rhwng y corau a'r gynulleidfa - ac mae'r Cymry wrth eu bodd yn cael cyfle i ganu.
Gweler: rygbi.
Yn olaf, mae danteithion hyfryd o Gymru wedi cyffwrdd â chalonnau pobl ledled y byd (yn eithaf dwys mewn rhai achosion) ynghyd â'i beirdd, ei hactorion a'i hartistiaid.
Amrywiaeth
Wrth gwrs, mae hanes llai adnabyddus am y bobl sydd wedi dod i Gymru dros y canrifoedd, ac wedi helpu i lunio Cymru fodern, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i;
Y gymuned Eidalaidd a sefydlwyd yng Nghasnewydd a Morgannwg (fel yr oedd) yn y 18fed ganrif
Datblygiad Tiger Bay a Butetown yn gymuned brysur o bobl o wahanol gefndiroedd ac ethnigrwydd
Dylanwad Lerpwl ar Ogledd Cymru.
Gwneud gwahaniaeth
Ac yn olaf, ond yn sicr nid y lleiaf, pan fydd pobl yng Nghymru eisiau i rywbeth newid, dydyn nhw ddim yn gwastraffu dim amser cyn dod at ei gilydd a gwneud i hynny ddigwydd.
Edrychwch ar grwpiau fel Siartwyr Gwrthryfel Casnewydd, a'r glowyr yn ystod streiciau 84-85... neu sefydliadau fel Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar a greodd ffordd newydd i bobl gefnogi iechyd ei gilydd a dod yn fodel ar gyfer y GIG heddiw.
Ac mae hyn yn dal i fod yn amlwg yn y cannoedd o elusennau, grwpiau cymunedol, a chlybiau rydyn ni'n eu cefnogi bob dydd.
'Bach iawn ar ein pen ein hunain'
Ond beth mae'r uchod yn ei ddweud wrthym? Yn amlwg nid un peth yw treftadaeth - mae'n golygu gwahanol bethau i wahanol bobl.
Rhannodd un cydweithiwr y diffiniad hwn gyda mi:
'I mi, mae deall 'treftadaeth' yn golygu deall bod pobl wedi bod yn yr union leoedd rydych chi ynddyn nhw ers oes Adda, a bydd gan bobl y dyfodol eu problemau eu hunain a materion di-nod ac o ran y darlun mawr, rydyn ni'n fach iawn ar ein pen ein hunain.'
Ynglŷn â Catalydd Cymru
Mae Catalydd Cymru ar gael i sefydliadau'r sector gwirfoddol yng Nghymru sy'n gweithio yn y maes treftadaeth. Ariennir y prosiect gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, sy'n diffinio treftadaeth fel a ganlyn:
Adeiladau a henebion hanesyddol
Natur a Thirweddau (gerddi hanesyddol, bywyd gwyllt, coetir)
Diwydiannol, morwrol a thrafnidiaeth
Amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifau a chasgliadau
Treftadaeth anniriaethol (megis cadw atgofion, neu brosiectau hanes llafar)
Treftadaeth Gymunedol
Os yw prif weithgareddau elusennol eich sefydliad yn dod o dan unrhyw un o'r uchod, gallech elwa o gymryd rhan yn unrhyw un o weithgareddau Catalydd Cymru: Treftadaeth Wydn.
0 notes
Text
A yw brand eich elusen yn gweithio’n ddigon caled i chi?
Cynhyrchu incwm yw’r brif her i sefydliadau gwirfoddol yng Nghymru. Gofynna Fenella McCarthy, Cyfarwyddwr Housebrands, ‘a yw eich brand yn gweithio’n ddigon caled i chi?’
Ar ôl caledi, ar ôl Brexit, bydd rhan y sector gwirfoddol yn y gwaith o gyflwyno gwasanaethau hanfodol i’r genedl bwysicach nag erioed. Mae’r 32,000 o sefydliadau gwirfoddol yn y wlad yn wynebu cyfnod heriol.
Mae mwy o gystadleuaeth am arian ac, ar yr un pryd, mae cymunedau’n dibynnu llawer mwy ar eu hadnoddau. Yn wyneb pwysau datchwyddol ar gyflogau, maent yn brwydro i ddenu a chadw staff a gwirfoddolwyr y mae gallu’r elusennau i ddarparu gwasanaethau effeithiol yn dibynnu arnynt.
Mae’r sefyllfa’n un anodd ac yn un sy’n golygu bod angen i’ch sefydliad fod yn gryf er mwyn denu’r cymorth angenrheidiol. Dyma lle mae’r brand yn dod iddi.
Gall brand cryf wneud gwahaniaeth mawr – dyma sy’n eich gosod ar wahân i bawb arall ac yn denu’r ffyddlondeb a’r gefnogaeth y mae ei hangen arnoch chi.
Felly, beth ydym ni’n ei olygu wrth sôn am frand cryf?
Wel yn gyntaf, nid eich logo yw eich brand. Mae eich logo yn bwysig fel ffordd i’ch adnabod ond mae mwy i hyn nag a welir.
Mae eich brand yn golygu llawer mwy – mae’n addewid a wneir i’ch cynulleidfa darged ynglŷn â phwy ydych chi, yr hyn yr ydych chi’n ceisio ei gyflawni, eich ffordd o wneud hynny a’r hyn sy’n eich gosod ar wahân i bawb arall. Mae’r sector gwirfoddol yn tueddu i fod yn hen law ar ddiffinio ei Genhadaeth, ei Weledigaeth a’i Werthoedd ac mae’r rhain yn elfennau pwysig o unrhyw frand ond mae elfennau eraill y gellid dadlau eu bod yr un mor bwysig ond nad ydynt yn cael yr un pwyslais.
Yr elfennau hyn yw eich Cynnig (budd cyffredinol), eich Personoliaeth (eich tôn wrth gyfathrebu a’ch cynulleidfaoedd targed) a’ch Rhesymau-dros-gredu (y ffactorau sy’n eich gwneud chi’n wahanol ac sy’n sylfaen i’ch negeseuon allweddol). Mae brand cryf wedi ei seilio ar ddiffiniad cryf sy’n cynnwys pob un o’r chwe elfen hon.
Y pwynt arall hanfodol ynglŷn â’r diffiniad o frand yw y dylid ei ddefnyddio i arwain pob cyfathrebu a gweithredu. Nid oes fawr o bwrpas treulio amser ac arian yn perffeithio’r diffiniad o’ch brand er mwyn gwneud dim mwy na’i osod ar y wefan, sychu’r llwch oddi ar eich dwylo a gobeithio am y gorau.
Mae Cymorth Canser MacMillan yn defnyddio’r llinell ‘beth bynnag y bydd yn rhaid ichi ei wynebu yn sgil canser, byddwn ni yno gyda chi��– mae hyn yn mynegi’n effeithiol addewid eu brand o ddarparu cymorth corfforol, ariannol ac emosiynol i helpu’r bobl y maent yn eu cynorthwyo i fyw bywyd mor llawn â phosibl.
Sut y bydd cryfhau fy mrand yn helpu?
Yn gyntaf, bydd yn helpu yn y ffordd fwyaf sylfaenol – helpu i gynyddu lefelau eich cefnogaeth ariannol. Mae llawer o dystiolaeth bod pobl yn tueddu i roi mwy ac yn amlach i achosion y maent yn glir yn eu cylch ac yn credu ynddynt.
Wrth gwrs, mae’n amhosibl cael pawb i gyfrannu – os ydych chi’n elusen amgylcheddol, bydd rhoddwyr a fyddai’n dewis rhoi eu harian i achosion meddygol neu anifeiliaid bob amser. Ond yr hyn y mae modd i chi ei wneud yw creu naratif eich brand a’i gyfathrebu’n glir, fel bod y bobl hynny sy’n tueddu i roi i elusennau amgylcheddol yn eich rhoi chi’n gyntaf.
Mae pobl yn rhoi i elusennau sy’n llwyddo i daro tant ac mae negeseuon clir yn deillio o frandiau cryf.
Yn ail, mae ymgeisio am grantiau naill ai gan y Llywodraeth neu gan sefydliadau yn brofiad llafurus a beichus. Daw boddhad mawr pan fyddwch yn llwyddiannus ond torcalon pan fyddwch yn aflwyddiannus. Dengys ymchwil y gall stori gref, gryno, ddatblygedig i’r brand fod yn gymorth i gynigion sefydliadau fod yn fwy llwyddiannus.
Mae treulio’r amser yn diffinio eich brand yn gywir ac yn glir yn golygu y byddwch wedi mireinio naratif eich brand – bydd canolbwyntio ar yr hyn sy’n eich gwneud yn unigryw ac arbennig yn gymorth i chi sefyll allan wrth gystadlu am ddyfarndaliadau. O ystyried bod gwerth oddeutu £27 miliwn o grantiau ar gael yng Nghymru, bydd yn fanteisiol i chi wneud yn siŵr eich bod yn cael cyfran ohono, o leiaf.
Bydd brand cryf hefyd yn helpu i leihau costau rhedeg eich elusen. Mae ACAS yn amcangyfrif ei bod yn costio £30,000 ar gyfartaledd i lenwi swydd wag. Â chymaint o bethau gwell i wario eich arian arnynt, mae’n gwneud synnwyr i geisio dal gafael yn eich gweithwyr cyhyd ag y bo modd.
Dengys ymchwil fod gweithwyr mewn sefydliadau sy’n glir ynglŷn â’u system werthoedd a’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, yn fwy ffyddlon ac yn fwy cynhyrchiol.
Mae egluro safle eich brand a’i gyfathrebu i’ch staff o’r dechrau yn ei gwneud yn llawer mwy tebygol y byddwch yn denu ac yn dal gafael ar y bobl iawn – y rhai sy’n cael eu hysgogi gan yr hyn yr ydych yn ei ddweud a’i wneud ac sy’n teimlo boddhad emosiynol o fod yn rhan ohono.
Mae angen digon o wirfoddolwyr arnoch chi hefyd - gelwir y sector yn un ‘wirfoddol’ am reswm. Byddai’r sector yng Nghymru yn dioddef heb gefnogaeth ei 938,000 o wirfoddolwyr.
Ystyriwch achos Hosbis Dewi Sant. Mae’r elusen yn amcangyfrif bod ei 350 o wirfoddolwyr â’u hamser a’u sgiliau yn arbed oddeutu £525,000 y flwyddyn i’r elusen. Er mwyn denu gwirfoddolwyr mae angen i chi roi rhesymau iddynt deimlo’n falch o fod yn ‘gweithio’ i chi – does dim yn eu gorfodi ac fe fyddai’n rhwydd iddynt ddod o hyd i elusen arall i weithio iddi.
Diffiniad eich brand fydd yn rhoi’r rhesymau hynny i chi ac yn eich galluogi i’w cyfathrebu’n effeithiol er mwyn i chi ddenu’r gwirfoddolwyr ymroddedig sydd eu hangen arnoch chi.
Ond mae creu Diffiniad Brand cymhellol yn ddrud
Mae’n wir, gall fod yn ddrud. Nid yw cyflogi arbenigedd brand allanol yn broses rad ac mae’n ddealladwy felly y gall ymddangos allan o gyrraedd i bawb ond y sefydliadau gwirfoddol cyfoethocaf.
Fodd bynnag, mae rhywfaint o newyddion da. Erbyn hyn mae modd i’r sefydliadau lleiaf un hyd yn oed fanteisio ar y sgiliau a’r arbenigedd sydd ei angen arnynt am bris rhesymol. Mae ymgynghoriaeth brand Housebrands wedi lansio rhaglen arloesol ar-lein a cheisio sicrhau bod diffinio brand proffesiynol yn wasanaeth sydd ar gael i bob sefydliad gwirfoddol.
Gan ddefnyddio’r rhaglen ddibynadwy a ddefnyddir gyda chleientiaid eu hymgynghoriaeth, mae’r canllaw cam-wrth-gam hawdd i’w ddilyn yn tywys defnyddwyr drwy’r rhaglen y gallant ei dilyn eu hunain, a’u galluogi i greu eu Diffiniad Brand unigryw eu hunain yn fewnol am ffracsiwn o’r gost arferol.
Mae’n llawn awgrymiadau ac enghreifftiau ac yn seiliedig ar gyfres o daflenni gwaith hawdd i’w defnyddio. Byddwch yn teimlo bod gennych chi eich ymgynghorydd brand personol eich hun ar eich ysgwydd.
I gael mwy o wybodaeth ewch i https://www.housebrandstoolkits.online
0 notes
Text
Bod yn ymddiriedolwr ar Fwrdd CGGC
Mae Joe Stockley o Diverse Cymru (top dde) wedi bod ar Fwrdd CGGC ers 10 mis. Yma, mae’n rhannu ei brofiadau yn y gobaith o annog darpar ymddiriedolwyr i fynd amdani.
Pam fi?
Roeddwn i wedi cael ychydig o brofiad ymddiriedolwr gyda’r British Youth Council (BYC) ac wedi caru’r cyfnod hwnnw – wrth fy modd gyda’r sgiliau i ddatblygu ac yn caru’r math o gefnogaeth yr oeddwn yn gallu ei gefnogi.
Ac roeddwn yn caru CGGC! Gweithiais yno am gyfnod o ddau fis yn 2017 a chael amser gwych. Maent yn dîm bendigedig, gyda chyfarwyddyd clir.
Mae geni farn gref y dylai elusennau gael byrddau sy’n cynrychioli eu demographeg darged – rwy’n credu fod profiadau go iawn yn aml ar goll o strategaeth ac wrth wneud penderfyniadau.
(Elusennau Ieuenctid™ heb bobl ifanc ar eu byrddau yn enghraifft bennaf...)
Pan welais y cyfle i ymuno â Bwrdd CGGC, teimlais ei fod yn gyfle i roi hyn ar waith – gydag aelodaeth CGGC yn cynrychioli ystod eang iawn o fudiadau, roedd yn ymddangos yn addas y dylid cael person ifanc ar eu bwrdd.
Ac yn olaf, yn fy rôl bresennol yn Diverse Cymru, mudiad gwirfoddol yng Nghymru, roeddwn wir eisiau cynyddu fy nealltwriaeth o’r sector yng Nghymru ar lefel strategol.
Pa le gwell i mi fynd i’r afael â’r sector gyda llu o heriau a chyfleoedd ar ddod yn y blynyddoedd nesaf na chorff aelodaeth genedlaethol mudiadau gwirfoddol yng Nghymru?
Yn y deg mis diwethaf....
Rwyf wedi bod yn rhan o ailfrandio, a phlymio i mewn i’n haelodaeth, a rheoli llanw Brexit a beth mae’n ei olygu i’r sector wirfoddol yng Nghymru.
Rydym hefyd wedi mynd o nerth i nerth gyda gofod3 – roedd yn ddigon ffodus i gael diwrnod rhydd i fynychu, cefnogi’r tîm staff drwy gydol y dydd, a helpu i hwyluso’r arddangosfa’r gwirfoddolwyr ifanc arloesol gyda’r nos.
Gyda’r Prosiect Bwrdd Gwirfoddoli Cymru, ble rwyf yn gadeirydd, rydym wedi cefnogi dwsinau o brosiect a chynlluniau gyda dwsinau o grantiau, ac wir wedi archwilio ein pwrpas a chryfder ein gwaith.
Mae cwestiynau pwysig wedi cael eu trafod – pwy ydym ni, beth all ein rôl fod dros y bum mlynedd nesaf – cwestiynau mawr heb ateb syml.
Yn fyr, mae’r deg mis o ymddiriedolaeth wedi bod yn llawn dop â chyfleoedd dysgu a heriau. Heriau personol ac i fy sgiliau.
Beth yr wyf wedi’i ddysgu
Yn symud i CGGC fel ymddiriedolwr, roedd gen i, ac mae dal gen i, syndrom ‘imposter’. Fi yw’r aelod ieuengaf ar y bwrdd o o leiaf 10 mlynedd.
Nid wyf wedi teimlo unrhyw beth ond cefnogaeth a chymorth tuag at fy nealltwriaeth – o syniadau mawr o genhadaeth yr elusen i’r manion o ddydd i ddydd wrth redeg elusen £14 miliwn.
Rwyf wedi dysgu yn fwy na dim i feddiannu fy arbenigedd, wrth geisio gwthio allan ohono. ‘Ceisio’ i beidio bod yn gyfforddus, ac i ddweud ie i wneud pethau.
Gan ystyried hynny mewn perthynas â glynnu wrth gredoau a chadw eich amser rhydd eich hun (ac yn cael penwythnosau rhydd).
Dolen berthnasol: Oes gennych ddiddordeb? Pam na wnewch chi ymgeisio i wneud mwy o wahaniaeth fel ymddiriedolwr i CGGC.
Gan ddysgu hefyd fod pobl eisiau helpu – ac yn cymryd yr help hwnnw. Ni fuaswn i’n agos o gwbl at fod yn ymddiriedolwr hyderus oni bai i aelodau staff ac ymddiriedolwyr eraill roi coffi a’u hamser i mi i drafod am brosiectau, rhaglenni a chyllidebau.
Yn olaf, a dywedir hyn o hyd, ond i beidio â theimlo’n wirion wrth ofyn cwestiynau allai fod yn wirion.
Y siawns yw, ni fydd yn gwestiwn gwirion, a bydd oleiaf tri pherson arall yn meddwl yr un peth â chi.
Pam nid chi?
I grynhoi, mae fy neg mis ar fwrdd CGGC wedi fy ngwneud i feddwl yn well, datblygu fy nealltwriaeth strategol, ac agor fy llygaid.
Rwy’n gobeithio fy mod, yn gyfnewid, yn fy nhro, wedi rhoi fy amser a’m profiad i fod yn ‘werth ychwanegol’ yn fy naliadaeth.
Mae elusennau yn codi ac yn disgyn ar drosiant, ond bydd ethos elusen yn codi a disgyn ar gryfder a phrofiadau eu gwirfoddolwyr.
Cefnogwch a datblygwch yr ethos; ymgeisiwch i fod yn ymddiriedolwr gydag CGGC!
Dolen perthnasol: Pam ymddiriedolwyr ifanc? (Saesneg)
0 notes
Text
3 ffordd y gall mesur effaith fod yn haws
Mae Mair Rigby, arweinydd Ennyn Effaith ar gyfer Cymru yn WCVA, yn blogio ynghylch llawer o faterion sy’n wynebu mudiadau pan mae’n dod i fesur effaith.
Yr oeddwn yn falch iawn o gael fy ngwahodd i siarad am Ennyn Effaith yng Nghynhadledd Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru ar 6 Mehefin.
Mae’r Rhwydwaith Cydgynhyrchu yn ‘Bencampwr Effaith’ yng Nghymru, felly roedd yn wych i gael y cyfle i gyfarfod gyda’i aelodau, siarad am y prosiect, a chael ychydig o adborth ar gefnogaeth y mae mudiadau eisiau i ddatblygu eu harfer effaith. Dim pwysau felly!
I ddilyn cafwyd sesiwn ‘Ask Me Anything’ (#AMA), ble roedd mynychwyr yn cael, wel, gofyn unrhyw beth am effaith!
Dolenni perthnasol: WCVA yw partner Cymru ar gyfer Ennyn Effaith – dewch i wybod mwy am sut i gymryd rhan ar eu gwefan.
Roedd y Drafodaeth Fflach yn hwyliog iawn ac, ar ei hôl, fe lenwodd fy sesiwn #AMA yn sydyn iawn gyda phobl a oedd eisiau siarad am effaith.
Cawsom drafodaeth fywiog am bob dim o ddeilliannau ysgrifennu, i dystiolaeth, teclynnau ac adnoddau a pherthnasau gyda chyllidwyr.
Cododd tri prif thema yn sydyn o’r drafodaeth a chredais y byddai’n ddefnyddiol i’w rhannu gyda’r gymuned arfer effaith.
1. Mwy o gefnogaeth i fudiadau gwirfoddol bach a rhai bach iawn
Roedd y mwyafrif o’r mudiadau yn y sesiwn #AMA yn elusennau bach a grwpiau gwirfoddol.
Roeddynt yn awyddus i ddatblygu eu harfer effaith ond yn teimlo bod gwneud hynny’n codi heriau penodol i fudiadau llai mewn perthynas â sgiliau, gallu ac adnoddau.
Mae meddwl am effaith yn cymryd amser ac roedd teimlad bod adnoddau yn fwy addas ar gyfer mudiadau mwy eu maint yn amlach na pheidio.
Roedd mudiadau bach eisiau gwybodaeth ac adnoddau wedi eu teilwra i’w cyd-destun, sydd yn aml yn grŵp o wirfoddolwyr ymroddedig, ychydig o staff (os o gwbl), ac ychydig o amser neu arian i wneud y gwaith tu hwnt i gyflawni.
Pan ofynnwyd beth fyddai’n helpu, awgrymodd mynychwyr y byddai mwy o ganllawiau ‘Gwnewch o eich hunain’ a chanllawiau ‘Sut i’ syml, mwy o gyfleoedd hyfforddi am ddim, a datblygu deilliannau sy’n cael eu rhannu i fudiadau sy’n gweithio ar faterion penodol.
Dolenni perthnasol: Dod yn aelod o WCVA i gael gostyngiad ar hyfforddiant Effaith a Gwerthuso
2. Dulliau mwy creadigol o werthuso – sy’n canolbwyntio ar anghenion buddiolwyr
Teimlodd y bobl y siaradais i gyda nhw bod gwerthuso arfer wedi tueddu i gael ei ddylunio er mwyn ateb anghenion cyllidwyr a mudiadau, yn hytrach na buddiolwyr.
O ganlyniad, gall gwerthuso deimlo’n feichus neu’n ddiystyr i’r bobl rydym yn gweithio gyda hwy. Teimlodd rhai mudiadau bod eu buddiolwyr yn gor-ymchwilio gydag amryw o ofynion fel eu bod yn llenwi ffurflenni monitro neu’n cymryd rhan mewn cyfweliadau.
Roedd pryderon hefyd bod pobl yn ticio bocsus yn unig er mwyn cwblhau’r ffurflenni sy’n cael effaith ar ansawdd y data.
Mae hyn yn codi cwestiynau difyr am ddeinameg pŵer. Pwy mewn gwirionedd mae “gwerthuso” yn ei wasanaethu? Sut fedrwn ni fynd ati i gydgynhyrchu neu werthuso arferion a datblygu dulliau creadigol sy’n teimlo’n ystyriol a phleserus gan bawb?
3. Gall cyllidwyr wneud mwy i wneud mesur effaith yn fwy hydrin
Roedd yn amlwg o’r trafodaethau bod arfer effiath sefydliadol, yn enwedig i fudiadau bach, yn aml yn cael ei ddylunio gydag anghenion y cyllidwr mewn golwg.
Gallwn ddadlau y dylai mudiadau ddatblygu eu theori newid a fframwaith mesur yn seiliedig ar eu hamcanion sefydliadol eu hunain, yn hytrach na’r hyn y mae cyllidwyr eisiau.
Ond yn benodol, nid yw’n syndod bod mudiadau bach, gyda gallu cyfyngedig ar gyfer ‘amser meddwl’, yn aml yn rhoi blaenoriaeth i anghenion y cyllidwyr.
Dolenni perthnasol: Darllenwch ein hadroddiad ‘Cyllid Cynaliadwy i’r Trydydd Sector’ i gael gwybod beth yr ydym yn ei wneud i wella ein dealltwriaeth o effaith ar draws y sector.
Roedd mudiadau eisiau mwy o gefnogaeth i brynnu i mewn gan gyllidwyr i’w galluogi i fod yn fwy creadigol ac i wneud pethau’n wahanol.
Roedd tri prif faes ble’r oedd mudiadau yn teimlo y gallai cyllidwyr helpu.
Byddwch yn fwy creadigol o ran beth sy’n cyfrif fel “tystiolaeth”
Rhowch mwy o werth i ddysgu i alluogi trafodaethau didwyll am ddeilliannau ac effaith
Darparu mwy o gyllid i fudiadau bach i ddatblygu eu harfer effiath yn eu gwaith – yn hytrach na gwerthuso ar y diwedd
Roedd yr adborth yn hynod ddefnyddiol i mi a byddant yn trwytho ein cynlluniau am weithgareddau Ennyn Effaith dros y flwyddyn nesaf.
Hoffaf ddiolch i’r Rhwydwaith Cydgynhyrchu am fy ngwahodd ac i fynychwyr am rannu eu profiadau.
Ydych yn meddwl am gychwyn eich taith effaith?
Ymunwch â’n Rhwydwaith effaith cyfoed i gael gwybod beth sy’n digwydd yng Nghymru
Cymrwch olwg ar y Cod Arfer Da wrth Ymdrin ag Effaith
Gweithiwr drwy Mesur Lan! Teclun hunanasesu
Cymrwch olwg ar y Wefan Ennyn Effaith
0 notes
Text
Beth yw’r rhwystrau i gynaliadwyedd ariannol?
Yn y blog hwn, mae Dewi Smith Rheolwr Cyllid Cynaliadwy WCVA, yn amlinellu’r materion a godwyd yn ein trafodaeth o amgylch y bwrdd ym mis Tachwedd y llynedd – ynghyd ag atebion ymarferol.
Mae data o Borth Data Trydydd Sector WCVA wedi dangos bod incwm oddi wrth y trydydd sector yng Nghymru wedi cynyddu rhwng 2011 a 2016. Er hynny, mae incwm fesul pen yn parhau i fod yn sylweddol isel o gymharu â rhannau eraill o’r DU.
Amcangyfrifir bod 32,200 o fudiadau gwirfoddol gweithredol yng Nghymru. Mae’r rhan fwyaf yn eithaf bychan o ran eu hincwm, a nifer cymharol fychan sydd â throsiant o fwy na £1 miliwn y flwyddyn.
Trefnodd WCVA y drafodaeth o amgylch y bwrdd ar gyllid cynaliadwy ym mis Tachwedd i geisio mynd i waelod y mater hwn.
Cawsom amrywiaeth o bobl o fudiadau gwirfoddol, Llywodraeth Cymru, cyllidwyr, llywodraeth leol, sefydliadau academaidd a sefydliadau elusennol i’w drin a’i drafod i geisio deall pam ein bod mewn trafferthion o gymharu â gweddill y DU.
Dolen berthnasol: Incwm o lai na £50,000 y flwyddyn? Dod yn aelod o WCVA am ddim!
Fe gyhoeddom adroddiad yr wythnos hon sy’n cefnogi ein darganfyddiadau – ond isod rhannaf ychydig o’r prif bwyntiau a gododd, yn cynnwys ffactorau mewnol ac allanol sy’n ein heffeithio ni gyd.
Rhwystrau mewnol
Amser i feddwl
Cododd hyn ei ben fwy nac un waith – nid oes gennym yr amser, na’r staff, i eistedd a chynllunio strategaeth gyllid. 250 ballu o swyddi ‘codi arian’ sydd yng Nghymru, o gronfa o 100,000 o roliau posib.
Os yr ydych yn meddwl am eich gwaith ar draws y sector, dwi’n siŵr y byddech yn gweld bod llawer ohono’n cynnwys ‘diffodd tannau’ – cyfres o ymdrin â phroblemau sy’n codi yn hytrach na meddwl am y dyfodol a datblygu ein gwasanaethau.
Mae angen i ni ymladd y ffordd hon o weithredu os ydym eisiau cystadlu am gyllid cynaliadwy ar lefel genedlaethol.
Hybu sgiliau
Mae llawer o bobl i weld yn ‘disgyn’ i roliau codi arian yn hytrach na cheisio amdanynt. Maent yn aml yn dechrau fel gwirfoddolwyr brwdfrydig sy’n dysgu’n wrth weithio.
Yn anffodus, golyga hyn yn amlach na pheidio nad ydynt cystal am ddelio â’r heriau y gall incwm elusennau eu creu.
Ac mae hyn yn mynd yr holl ffordd i lefel bwrdd. Darganfuwyd ymchwil Garfield Weston nad oes llawer o fyrddau yn cymryd rhan ar lefel strategol, er bod byrddau’n rhan o weithgaredd codi arian. Gall hyn olygu bod eu penderfyniadau yn deillio o gyfleoedd yn hytrach na strategaeth.
Gall hyfforddiant sy’n ymwneud â chodi arian – megis ysgrifennu ceisiadau proffesiynol a chreu strategaeth – helpu i engreinio’r broses yn eich meddyliau bob dydd.
Dangos effaith
Ni ni’n unig sy’n dioddef o’r mater hwn – mae nifer o ddiwydiannau yn cael trafferth wrth ddangos eu heffaith.
Ond mae gan nifer o gyllidwyr ofynion adrodd sy’n llyncu cymaint o’u hamser, fel na all mudiadau llai eu maint hyd yn oed eu hystyried (gwelwch ‘Amser i Feddwl’).
Dylai cyfuniad o systemau adrodd haws a hyfforddiant mewnol helpu mudiadau i ddangos gwerth eu gwaith.
Dolenni perthnasol: Ydych yn meddwl gwella eich sgiliau a chynyddu capasiti? Ewch i weld rhaglen hyfforddiant WCVA
Rhwystrau allanol
Comisiynu
‘…the funding environment has not favoured SMCs (small and medium sized charities) …they receive a much smaller proportion of local government funding (16 %) than larger charities (84 %) …’
(t2, The Value of Small, Institute for Voluntary Action Research, 2018)
Mae comisiynu sector cyhoeddus yn ehangu ac yn ffafrio elusennau mwy eu maint sydd â chapasiti mwy i gyflawni ar draws y bwrdd.
Hefyd, pan mae cyfleoedd i elusennau gydweithio ar gynigion, mae mudiadau llai eu maint yn fwy gwyliadwrus o gael eu hecsbloitio gan bartneriaid mwy eu maint ac felly’n eu hosgoi.
Uchelgais
Mae Cymru’n wlad brydferth, ond mae hi hefyd yn fychan iawn. Mae hyn yn gweithio ar rai lefelau. Mae’n gwneud cyfathrebu ychydig yn haws, nid oes rhaid rhannu’r neges mor eang, mae pawb yn adnabod ei gilydd ... ond mae weithiau hefyd yn cyfyngu ein golwg ar y darlun ehangach.
Pan mae’n dod i roi cynigion, mae mudiadau llai eu maint yn aml yn cael eu gwasgu gan fudiadau mwy ar ran eu maint gyda’r capasiti i greu strategaeth.
Mae’n ymddangos bod crisis cydweithio bychan yn y trydydd sector yng Nghymru – ac mae angen gweithio i sicrhau y gall mudiadau llai eu maint fod yn fwy cystadleuol yn yr amgylchedd presennol.
….Brexit
Rwy’n gwybod eich bod wedi hen flino arno ond mae’n mynd i effeithio’n fawr ar y ffordd yr ydym ni oll yn gweithio. Y peth gwaethaf yw, nid ydym hyd yn oed yn gwybod sut.
Mae cwestiynau am sut effaith gall Brexit gael arnom ni gyd. Mae’r diffyg eglurder ynglŷn â chronfeydd olynol a’r dyfodol yn gyffredinol yn gwneud y tirlun cyllid ychydig yn fwy twyllodrus.
Mae WCVA yn derbyn cyllid gan Gronfa Bontio’r UE i geisio cael gwell dealltwriaeth o’r effaith debygol ar wasanaethau cymunedol. Rydym hefyd yn rhan o Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit.
Dolenni perthnasol: Ydy eich mudiad chi wedi paratoi ar gyfer Brexit? Cymrwch olwg ar y canllaw Paratoi at Brexit gan Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit.
Meysydd potensial ar gyfer twf
Er hynny, nid yw hyn i gyd yn ddigalon – mae data’n argymell amryw o ardaloedd twf â photensial i’r sector hefyd.
Dyma ychydig o syniadau i arallgyfeirio eich ffrydiau incwm i fod y fwy gwydn.
Adeiladu perthnasau
Ymddiriedolaethau a Sefydliadau megis cyllid ‘perthynol’ – gweithio mewn partneriaeth gyda phobl y maent yn ei hariannu i gyflawni effaith gyda’i gilydd. Os ydych yn gwneud cynnigion am gyllid, meddyliwch ynghylch sut mae eich prosiect yn cydfynd â chenhadaeth eich cyllidwr – cofiwch eu bod hwy hefyd yn elusennau!
Mae cyllid Llywodraethol yn cyfrif am 46% o incwm y sector – mae angen i ni gynnwys dull fwy cydgynhyrchiol i gynnwys cymunedau, ac anghenion ariannu’r dyfodol i annog y dull hwn.
Etifeddiaeth codi arian
Fel amlygodd Rob Cope yn ei flog diweddar ar gyfer WCVA, mae gan etifeddiaeth codi arian potensial heb ei gyffwrdd yng Nghymru. Mae angen i ni fod yn ddewrach i ddechrau trafod ewyllysiau, a ystyrir yn bwnc anodd.
Mae mwy o atebion, ynghyd â mwy o fanylion ar y pwyntiau uchod a rhai deilliannau allweddol wedi eu rhannu i ni anelu tuag atynt yn ein hadroddiad newydd, ‘Cyllid Cynaliadwy i’r Trydydd Sector’ sydd ar gael ar wefan WCVA nawr.
0 notes
Text
Cynnydd uwch na’r disgwyl mewn Incwm o Gymynroddion yng Nghymru
Rob Cope, Cyfarwyddwr Remember A Charity, yn datgelu ymchwil newydd i’r farchnad cymynroddion yng Nghymru, gan dynnu sylw at botensial y cynnydd sylweddol mewn rhoddion mewn ewyllysiau.
Mae codi arian drwy gymynroddion ar gynnydd ac, wrth lansio'r ymchwil newydd hwn i dueddiadau incwm o gymynroddion dros y deng mlynedd ddiwethaf[1], gallwn weld am y tro cyntaf pa mor bwysig yw rhoddion mewn ewyllysiau i elusennau yng Nghymru.
Bob blwyddyn, mae bron i £20 miliwn yn cael ei roi drwy ewyllysai i'r prif elusennau sydd â’u pencadlys yng Nghymru. Hynny yw, mae cymynroddion bellach yn gyfystyr â chwarter eu cyfanswm incwm gwirfoddol blynyddol.
Er bod incwm cymynroddion yng Nghymru yn gyfran gymharol fach o’i gymharu â’r darlun llawn ar draws y DU, gallwn weld ei fod yn tyfu'n gyflymach na gwledydd eraill y DU.
Yn wir, mae elusennau yng Nghymru wedi gweld cynnydd o 35% mewn incwm cymynroddion yn ystod y degawd diwethaf, o'i gymharu â 23% yn yr Alban, 13% ar gyfer yr elusennau hynny sy’n gweithredu ar draws y DU, a 4% yn Lloegr.
At hynny, mae elusennau llai yn manteisio fwy gan ddenu incwm sy’n uwch ar gyfartaledd ac mae ganddynt gyfran uwch o'r farchnad na'r rheini yn Lloegr neu'r Alban. I gymuned sydd â chyfran uchel o elusennau bach a lleol, mae hyn yn newyddion i’w groesawu.
Mae mwy o elusennau yn dod i'r amlwg ac mae potensial enfawr ar gyfer twf pellach, sy’n ysgogi teyrngarwch lleol tuag at gymynroddion mewn ewyllysiau.
Y canfyddiad am godi arian drwy gymynroddion yng Nghymru
Dywedodd pob un o'r rhai sy’n codi arian y gwnaethom siarad â nhw yn ystod yr astudiaeth hon fod cymynroddion mewn ewyllysiau wedi dod yn bwysicach i'w helusen yn ystod y degawd diwethaf.
Ac eto, dywedodd nifer eu bod yn teimlo nad ydynt yn hyderus yn y maes hwn, eu bod yn teimlo'n bell ar ei hôl hi o’i gymharu â De Ddwyrain Lloegr sy’n cael ei ystyried yn ‘gadarnle cymynroddion’, yn ogystal â’r bygythiad gan elusennau mawr y DU sy’n codi arian yn eu hardal leol.
Fel nifer o elusennau ledled y DU, maent yn teimlo’n annifyr wrth godi’r pwnc o gynnig cymynroddion drwy ewyllysiau. Mae hyn yn deillio o frig y sefydliad mewn rhai elusennau. I eraill, y rhai sy’n codi’r arian sy'n poeni nad oes ganddyn nhw’r sgiliau na'r hyfforddiant i fod yn effeithlon o ran denu cymynroddion.
Er bod y sector yng Nghymru yn brin o hyder, mae'n galonogol gweld nad yw hyn yn cael ei adlewyrchu yn eu gallu i godi arian.
Er hynny, mae’n tanlinellu'r pwynt nad yw cymynroddion wedi dod yn rhan reolaidd o strategaethau codi arian elusennau, eu sgyrsiau gyda chefnogwyr na’r diwylliant.
Mae archwaeth defnyddwyr i roi drwy gymynrodd ar gynnydd
Y newyddion da yw bod archwaeth y cyhoedd am roi drwy gymynrodd ar gynnydd hefyd. Yn ein harolwg defnyddwyr diweddaraf[2], dywedodd 42% o bobl dros 40 oed yng Nghymru y bydden nhw’n hapus i adael rhodd yn eu hewyllys ac roedd bron i ddwy ran o dair (62%) yn cydnabod bod nifer o elusennau yn dibynnu ar roddion o’r fath.
Roedd llai na thraean (30%) yn credu y byddai eu teulu'n gwrthwynebu pe baent yn gadael swm sylweddol i achosion da. Pan ystyriwch mai dim ond tua 6% o bobl sydd ar hyn o bryd yn gadael rhodd i elusen yn eu hewyllys, mae potensial enfawr o hyd ar gyfer cymynroddion.
Yn sicr, gellir gwneud mwy ar lefel sefydliad a sector i gefnogi codi arian drwy gymynroddion yng Nghymru, gan feithrin yr hyder a'r sgiliau i integreiddio rhoddion o’r fath i raglen codi arian a diwylliant trefniadol yr elusen.
Ond gobeithiwn y bydd yr ymchwil hwn yn rhoi darlun cliriach i ni o’r gymuned codi arian yng Nghymru ac yn ysbrydoli ymdeimlad o hyder ymhlith y rhai sy'n ceisio denu incwm drwy gymynroddion.
Fel mewn unrhyw faes codi arian arall, mae angen buddsoddi mewn cymynroddion; boed hynny’n amser, yn egni ac yn adnoddau.
Nid yw'r manteision i’w gweld yn syth, ond gall rhaglen lwyddiannus fod yn gwbl drawsnewidiol i sefydliad ac mae'n debyg mai elusennau sy'n manteisio ar y cyfle hwn ar lefel strategol fydd y rhai sy'n elwa am flynyddoedd i ddod.
Cyn diwedd y flwyddyn, byddwn yn cyflwyno pecynnau cymorth i'n helusennau sy’n aelodau - yn enwedig sefydliadau llai - i'w cefnogi yn eu gwaith o godi arian drwy gymynroddion ac rydym yn edrych ar ffyrdd eraill y gallwn gefnogi elusennau i ddatblygu eu rhaglenni codi arian drwy gymynroddion ymhellach.
Ac fel arfer, mae Wythnos Remember A Charity (9-15 Medi 2019) yn gyfle gwych i ddechrau sgwrsio ynglŷn â rhoi drwy gymynrodd.
I gael gwybod mwy neu i lwytho ein hadroddiad newydd i lawr ‘Y Farchnad Codi Arian Drwy Gymynroddion yng Nghymru 2019’ (sydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg), ewch i www.rememberacharity.org.uk.
I gael cyngor ar sut i gynyddu incwm o gymynroddion neu i ddechrau arni, cymerwch olwg ar;
https://www.rememberacharity.org.uk/10-simple-tips-for-effective-legacy-fundraising/
https://www.wcva.org.uk/funding/fundraising/how-to-fundraise/legacies?seq.lang=cy-GB
https://www.institute-of-fundraising.org.uk/guidance/fundraising-with-individuals/legacies/
[1] Remember A Charity ‘Y Farchnad Codi Arian drwy Gymynroddion yng Nghymru 2019’, 2019
[2] OnePoll, 2019
0 notes
Text
Beth yw’r ots am ymddiriedaeth?
Menai Owen-Jones yw Prif Swyddog Gweithredol The Pituitary Foundation, elusen iechyd ledled Prydain, ac mae’n un o Ymddiriedolwyr Cymdeithas Prif Weithredwyr Mudiadau Gwirfoddol (ACEVO) sef elusen a rhwydwaith i arweinwyr mentrau cymdeithasol.
Cymrodd Menai rhan mewn trafodaeth yn gofod3 mis diwethaf o’r enw Pwysigrwydd ymddiriedaeth: cynnal ffydd y cyhoedd mewn elusennau ac yma mae’n rhannu ei barn am y pwnc hwn â ni.
Cymdeithas sifil yw sylfaen ein cymunedau yng Nghymru a ledled Prydain. Dyma’r glud sy’n dal ein cymdeithas ynghyd. Serch hynny gall y glud hwn doddi a diflannu os nad ydym yn cydweithio’n unigol ac yn gyfunol ar y cynhwysyn allweddol: ymddiriedaeth.
Gall gymryd blynyddoedd i feithrin ymddiriedaeth ac eiliadau i’w dinistrio
Mae ymddiriedaeth yn y sector yn parhau’n bwnc llosg sy’n creu penawdau, am resymau amrywiol, gan gynnwys digwyddiadau diogelu difrifol a helyntion codi arian.
Mae ymddiriedaeth o bwys mawr. Pam? Achos er mwyn i gymdeithas sifil helpu i fynd i’r afael â heriau allweddol ein hoes, i wella rhaniadau, lleihau anghydraddoldeb, unioni dirywiad amgylcheddol ac adeiladu democratiaeth, mae ymddiriedaeth yn hollbwysig.
Rhoddir ymddiriedaeth i ni gan bobl eraill. Allwn ni ddim rheoli sut mae pobl eraill yn teimlo; gallwn, fodd bynnag, gyfrannu at sut maent yn teimlo drwy ddangos bod modd ymddiried ynom.
Credaf ein bod ni gyd yn cytuno bod gwaith i’w wneud drwy’r sector cyfan i alluogi pobl i ymddiried ynom yn fwy mewn sawl maes.
Beth allwn ei wneud yn ein mudiadau ein hunain i ennyn ymddiriedaeth?
Yn hanfodol i ennyn ymddiriedaeth y mae arweinyddiaeth sy’n cael ei llywio gan werthoedd a threfn lywodraethu gryf wrth wraidd y mudiad, a hyrwyddir gan ymddiriedolwyr ac uwch arweinwyr.
Mae gan bob arweinydd, gan gynnwys fi fy hun, gyfrifoldeb i fod yn esiampl yn eu ffordd o ymddwyn i ddangos i bawb fod modd ymddiried ynom; ein timau, ein gwirfoddolwyr, ein buddiolwyr a’n cefnogwyr.
Mae pobl yn sylwi ar ein hymddygiad sy’n siapio barn ynglŷn ag a oes modd ymddiried ynom ai peidio. Er enghraifft, wrth godi arian i’n mudiadau, dylem gadw at arfer da a meithrin perthynas hirdymor bositif, gan ennyn diddordeb gwirioneddol yn yr achos a’i ddiben.
Nid beth rydym yn ei wneud yw’r unig elfen, ond sut rydym yn ei wneud e’
Ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol yn y pen draw am lywodraethu, gan sicrhau bod polisïau cryf yn eu lle ac yn cael eu rhoi ar waith mewn meysydd llywodraethu allweddol, megis diogelu. Er enghraifft, yn The Pituitary Foundation, rydym wedi mabwysiadu’r Cod Llywodraethu i Elusennau ac rydym yn ei ddefnyddio fel fframwaith i wella ein harferion llywodraethu yn barhaus.
Dylai llywodraethu, fodd bynnag, fod yn rhywbeth a wneir ar y cyd. Dylai pawb yn y mudiad gefnogi llywodraethu da gan droi’r polisïau yn arfer go iawn yn y mudiad.
Mae cyfrifoldeb arnom ni gyd i ennyn ymddiriedaeth
O ran hybu ffydd y cyhoedd yng nghymdeithas sifil, fy marn i yw y dylid edrych yn ehangach na dim ond ar fudiadau unigol a’u gweithredoedd.
Mae’n ymwneud hefyd ag ymdrech ac ymddygiad cyfunol pawb yn y sector; arweinwyr, elusennau, mentrau cymdeithasol, cyrff seilwaith a rheoleiddwyr.
Mae gan gyrff seilwaith, er enghraifft, rôl bwysig yn helpu i feithrin ymddiriedaeth rhwng mudiadau drwy annog rhwydweithiau ar y cyd a chyfleoedd i rannu.
Mae gan reoleiddwyr hwythau rôl i’w chwarae yn sicrhau bod y data a’r ystadegau y maent yn eu cyhoeddi yn rhoi cynrychiolaeth a chyd-destun teg a chytbwys. Gall y ffordd o fframio ystadegau fod mor bwysig ac argyhoeddiadol â’r ystadegau eu hunain.
A ydym yn ymddiried yn ein gilydd?
Roedd ymddiriedaeth yn thema gyson yng nghanfyddiadau’r ymchwiliad Civil Society Futures a gyhoeddodd ei adroddiad terfynol fis Tachwedd y llynedd.
Y mae canfyddiadau’r ymchwiliad yn dathlu cymdeithas sifil, ond hefyd yn amlygu’r heriau sylfaenol sy’n ein hwynebu fel sector, a’r rhaniadau dwfn nid yn unig yn ein cymdeithas, ond hefyd o fewn cymdeithas sifil ei hun, sy’n deillio o ddiffyg ymddiriedaeth rhwng mudiadau.
Mae’r ymchwiliad yn cynnig bod cymdeithas sifil yn cyd-ymrwymo i’r ‘PACT’ – pŵer, atebolrwydd, cysylltiad, tryst – ac yn galw ar i holl arweinwyr a mudiadau cymdeithas sifil gymryd camau o dan y penawdau hyn.
A fyddwn yn gweithredu ar ein gair?
Mae’r PACT yn gosod dyheadau i gymdeithas sifil gyd-ymrwymo iddynt – cytundeb ynghylch sut y byddwn yn ymddwyn ac yn ymddwyn gyda’n gilydd; ein bod yn ymrwymo i wahanol agweddau, ymddygiad ac arferion.
Y cwestiwn yw a fyddwn yn ymrwymo i’r PACT ac yn dangos ein hymrwymiad drwy ein gweithredoedd? A ydym yn fodlon ein herio ein hunain a newid ein hymddygiad?
Nawr yw’r amser
Fel y dywed y Comisiwn Elusennau ar ei wefan: “Pan fo elusennau’n ffynnu, mae pawb ar eu hennill: y miliynau o bobl ym mhob cymuned sy’n rhoi i elusennau ac yn elwa ohonynt gartref; y miliynau rhagor y tu hwnt i’n glannau a gynorthwyir gan ein helusennau byd-eang; ond uwchlaw dim ein gwlad”.
Felly mae’n bryd i ni gydweithio’n well.
Mae’n bryd i ni ysgwyddo ein cyfrifoldeb ar y cyd i gynyddu ffydd y cyhoedd yn y sector.
0 notes
Text
Beth sy’n newydd ym Mhorth Data’r Trydydd Sector?
Os nad ydych yn gyfarwydd ag ef, mae Porth Data’r Trydydd Sector – a lansiwyd yn 2018 – yn cynnig yr ystadegau a’r data diweddaraf am incwm, cyllid, gweithgareddau a gweithlu’r trydydd sector, yn ogystal â gwybodaeth ynglŷn â demograffeg gwirfoddoli.
Mae’n defnyddio ein gwybodaeth ni, yn ogystal â gwybodaeth o Lywodraeth Cymru, NCVO ac eraill, i ddarparu gwasanaeth hwylus a hawdd ei ddefnyddio sy’n eich galluogi i gloddio i mewn i’r data a dod o hyd i’r hyn sy’n bwysig i chi.
A nawr rydym yn falch o gyhoeddi diweddariad o bwys.
Mae modd i ni gyflwyno gwybodaeth ystadegol o’r Comisiwn Elusennau, gan ddefnyddio data nad ydym erioed wedi’i gael o’r blaen, sy’n cynnig llawer iawn mwy o ddata ynglŷn â siâp y trydydd sector yng Nghymru. Er enghraifft, gallwch wneud y canlynol:
· Canfod nifer yr elusennau cofrestredig yng Nghymru
· Gweld ar fap yr ardaloedd yng Nghymru y mae’r elusennau hyn yn gweithredu ynddynt
· Olrhain y mathau o elusennau ym mhob ardal yng Nghymru yn ôl nifer (e.e. mae 118 o elusennau anabledd ym Mhowys tra mae 38 ym Merthyr Tudful; mae 151 o elusennau trechu tlodi yng Nghaerdydd a 28 ym Mlaenau Gwent)
· Gweld faint o elusennau cofrestredig sydd ar waith yng Nghymru a Lloegr
Rydym hefyd wedi diweddaru rhannau o’r data ariannol, felly gallwch nawr weld incwm elusennau fesul pen yn y boblogaeth ym mhob rhanbarth yng Nghymru a Lloegr, yn ogystal â nifer y mudiadau fesul 1000 o bobl ym mhob rhanbarth.
Datblygwyd y Porth ar y cyd â Data Cymru, a fydd yn gofod3 ddydd Iau yma (21 Mawrth) yn arddangos y Porth. Felly ewch draw at eu stondin i gael blas o’r hyn y gall y Porth ei wneud i chi.
Rydym yn falch iawn o’r Porth Data – credwn ei fod yn adnodd defnyddiol a hyblyg iawn i gyllidwyr, penderfynwyr, y cyhoedd ac, wrth gwrs, y trydydd sector ei hun. Felly beth am fwrw golwg drosto?
0 notes
Text
Yn cyflwyno Safbwynt yn gofod3
Yn y blog yma rydym yn manylu ar ein sesiynau ‘Safbwynt’ newydd sbon. Cynhelir y sgyrsiau byr hyn am y tro cyntaf yn gofod3 eleni, gan roi gwahanol safbwyntiau ar y pynciau sydd o bwys i’r trydydd sector yng Nghymru
gofod3 yw’r digwyddiad mwyaf i’r trydydd sector yng Nghymru. Yn y ddwy flynedd diwethaf mae wedi denu pobl o bob cwr o’r wlad – gan gynnig llwyth o sesiynau diddorol, man arddangos prysur a llu o gyfleoedd rhwydweithio. Mae gofod3 yn dychwelyd i Stadiwm Dinas Caerdydd ar 21 Mawrth 2019, os ydych yn ymwneud â’r trydydd sector peidiwch â methu’r digwyddiad am ddim hwn, y mwyaf o’i fath.
Eleni, rydym yn ehangu’r rhaglen i gynnwys Safbwynt – sy’n rhoi gwedd newydd i sgyrsiau TEDx, lle mae siaradwyr yn camu ymlaen ac yn traddodi darlith bocs sebon i ysgogi’r trydydd sector i feddwl.
Rydym wedi sicrhau cyfres o siaradwyr o fri o’r sector drwyddo draw (a’r tu hwnt) i siarad ar lwyfan gofod3. Gan ymdrin â themâu yn amrywio o wyddor ymddygiad i garedigrwydd, mae theatr gofod3 yn argoeli i fod yn ferw o drafodaethau diddorol drwy gydol y dydd ar 21 Mawrth.
Dyma bytiau bach i gyflwyno’r siaradwyr – mae llefydd yn brin felly brysiwch i gadw’ch sedd cyn iddynt lenwi!
Joe Saxton, Sylfaenydd a Sbardun Syniadau, nfpSynergy
@SaxtonJoe
‘A yw hi’n bryd i Gymru gael ei rheoleiddiwr elusennau ei hun? ‘
Yn agor trafodaethau’r dydd y mae Joe Saxton, sy’n ymchwilydd arbenigol yn y sector elusennol. Joe oedd un o gydsylfaenwyr CharityComms y corff proffesiynol i gyfathrebwyr yn y sector dielw, a bu’n gadeirydd arno hefyd, ac mae e’ bellach yn arwain y cwmni ymchwil nfpSynergy. Mae e’ wedi’i enwi yn un o’r bobl fwyaf dylanwadol ym maes cyfathrebu yn y sector gwirfoddol ac wedi ennill y wobr Cyfraniad Oes gan y Sefydliad Codi Arian.
Bydd sgwrs Joe yn trafod rheoleiddio elusennau yng Nghymru mewn perthynas â’r cenhedloedd datganoledig eraill, gan ddadlau y byddai cael ein rheoleiddiwr elusennau ein hunain yn ein galluogi i gamu ymlaen a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Clare Delargy, Uwch Gynghorydd, Tîm Deall Ymddygiad
@ClareDelargy
‘Sut y gellir defnyddio gwyddor ymddygiad yn y sector gwirfoddol?’
Nesaf ar y rhaglen y mae Clare Delargy, Uwch Gynghorydd yn nhîm Ymchwil y Tîm Deall Ymddygiad. Mae’r tîm yn cynhyrchu ac yn defnyddio gwybodaeth ynglŷn ag ymddygiad i lywio polisïau, gwella gwasanaethau cyhoeddus a sicrhau canlyniadau i gymdeithas. Mae Clare yn canolbwyntio ar ddylunio, gweithredu a dadansoddi treialon ar draws meysydd polisi gwahanol.
Bydd sgwrs Safbwynt Clare yn cyflwyno cyfranogwyr i wyddor ymddygiad drwy waith y tîm deall ymddygiad gan gynnig syniadau ar gyfer ffyrdd posib o’i defnyddio yn y trydydd sector.
Cerys Furlong, Prif Weithredwr, Chwarae Teg
@CerysFurlong
‘Ar dân dros degwch: arwain yn y trydydd sector’ A hithau’n Brif Weithredwr Chwarae Teg, mudiad sy’n hybu cydraddoldeb i fenywod, mae Cerys Furlong yn gosod cyfeiriad strategol yr elusen wrth anelu at wneud Cymru’n arweinydd byd o ran cydraddoldeb rhywiol.
Bydd Cerys yn sôn am ei phrofiad personol o arwain yn y trydydd sector, pwysigrwydd gosod amcanion heriol i ni’n hunain a’n mudiadau, arwain ag angerdd, a bod yn barod i fethu – ond cael hwyl ar hyd y ffordd.
Zoe Amar, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Zoe Amar Digital
@zoeamar
‘Dyfodol Digidol Elusennau’ Mae Zoe Amar yn ymwybodol iawn o effaith datblygiadau digidol ar elusennau. Hi yw sylfaenydd a chyfarwyddwr y fenter gymdeithasol Zoe Amar Digital, sy’n helpu elusennau a mudiadau dielw eraill i arwain newid yn hyderus, gan ddatblygu strategaethau sy’n hwb i’w cadernid, eu hincwm a’u dylanwad. Hi hefyd yw cadeirydd y Cod Ymarfer Digidol i Elusennau, cydawdur The Charity Digital Skills Report ac mae hi’n ysgrifennu blogiau i Third Sector ac eraill.
Yn ei sgwrs, bydd Zoe yn eich arwain drwy dueddiadau digidol allweddol i elusennau, sut i baratoi atynt ac yn bwysicaf oll sut i fynd ati nawr i ddiogelu’ch mudiad at y dyfodol.
Julia Unwin CBE
@juliaunwin
‘Caredigrwydd ac emosiynau – man dall polisi cyhoeddus’
Mae’n ffasiynol ar hyn o bryd i siarad am yr angen am fwy o garedigrwydd yn ein gwasanaethau, a galw ar bobl sy’n gweithio yn y rheng flaen i fod yn fwy caredig a dangos mwy o empathi. A hithau’n un o gymrodyr Ymddiriedolaeth Carnegie, cyhoeddodd Julia Unwin adroddiad yn ddiweddar yn codi cwestiynau allweddol ac yn amlygu ‘man dall’ – rôl caredigrwydd mewn polisi cyhoeddus, a sut y gallai datblygiadau technolegol yng nghymdeithas effeithio’n uniongyrchol ar hyn yn y dyfodol.
Julia yw cyn-Brif Weithredwr Sefydliad Joseph Rowntree, ac mae hi wedi ysgrifennu’n helaeth ar faterion yn ymwneud â dyngarwch, llywodraethu, y sector gwirfoddol a’i berthynas â llywodraeth.
Yn ei sgwrs, bydd Julie yn cymharu’r ddwy iaith yr ydym yn eu defnyddio – y rhesymegol a’r perthynol – ac yn dadlau na fyddwn yn cyflawni’r newid yr ydym ei eisiau os nad ydym yn cydnabod yr emosiynau sydd wrth wraidd popeth a wnawn.
Mrs Uzo Iwobi OBE, Prif Swyddog Gweithredol, Cyngor Hil Cymru
@UzoIwobi
‘Rôl y trydydd sector yn herio hiliaeth’
I nodi 21 Mawrth sef Diwrnod y Cenhedloedd Unedig i Ddileu Gwahaniaethu ar Sail Hil byddwn yn clywed gan Mrs Uzo Iwobi OBE, un o ffigyrau mwyaf blaenllaw Cymru ym maes cydraddoldeb hiliol. Yn ei sgwrs, bydd Uzo yn tynnu ar ei phrofiad ei hun i amlygu sut y gallwn ni fel sector drechu hiliaeth.
Uzo yw Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Hil Cymru – corff trosfwaol strategol sy’n hyrwyddo cydraddoldeb hiliol, integreiddio a chyfiawnder hiliol yng Nghymru.
O amrywiaeth ymysg aelodau’r bwrdd a’r gweithlu i’r rhaniadau cynyddol yng nghymdeithas, bydd hi’n codi’r materion allweddol ynglŷn â hil y mae llawer ohonom yn cilio rhagddynt ac yn ein herio i ysgwyddo cyfrifoldeb dros drechu anghydraddoldeb hiliol a hiliaeth yng Nghymru.
I gadw’ch lle yn gofod3, ac yn y sesiynau uchod, ewch ar wefan gofod3. Mae llefydd yn brin yn y sgyrsiau Safbwynt ac yn llenwi’n gyflym – ond ceir llwyth o ddigwyddiadau eraill i chi gadw lle ynddynt hefyd, yn ogystal â chyfle unigryw i rwydweithio a chyd-ddysgu ag eraill yn y trydydd sector. Cadwch eich tocynnau am ddim nawr.
0 notes