#ysgol sul
Explore tagged Tumblr posts
Note
helo! dwi'n dysgu cymraeg a dwi isio gwrando ar fwy o bandiau sy'n canu yn gymraeg. oes gen ti hoff bandiau neu albymau? dwi'n licio yws gwynedd a gwilym yn fawr ond dwi ddim yn siwr os mae 'na bandiau eraill fel nhw, felly mae steiliau gwahanol yn iawn hefyd. diolch yn fawr!
Helo! Gobeithio ti’n iawn! 😄 Mae llawer o hoff fandiau gyda fi, mawr a newydd. Mae sîn cerddoriaeth Cymraeg yn wych ar hyn o bryd!
Super Furry Animals yw fy hoff band yn y byd (ces i gyfle i ddwued hyn i’w canwr nhw Gruff Rhys, moment o fy mywyd!) Gwenno yw un mwy o fy ffefrynau! Mae hi’n canu yn Gymraeg a Cernyweg, synthpop musician yw hi, a does dim neb yn gwneud miwsig fel hi nawr! Os ces i roi dim ond un rec i bobl, mae’n Datblygu. Genre-wise mae nhw’n post punk, ond oedd y llais, geiriau a sylwebaeth David R Edwards a cerddoriaeth Patricia Morgan yn singular. Does dim neb yn debyg iddyn nhw!
I do have a few recommendations for you os ti’n hoffi Gwilym ac Yws Gwynedd!
If you like Gwylim I think you’ll also enjoy Fleur de Lys, they’re an indie rock band from North Wales in the mid-2010s. They’ve just released a new single called Gad Ni Fod that reminds me a little of Gwilym! You might also like Sŵnami, though they’re a bit more of a pop band. I like their song Gwenwyn. If you’re into heavier music though, there’s another song called Gwenwyn by a band called Alffa. They’re just two lads but they make a ginormous sound, and they’re all-independent and also amongst the most lovely people I’ve spent 3 hours with, so check them out! Gwenwyn also became the first Welsh language song on Spotify to cross a million streams, which is a great achievement. My favourite song of theirs is Babi Mam, a song on men’s mental health, and crucially the lyrics are also available online.
Another rec bouncing off of Gwylim would be Ynys from Aberystwyth. They make harmonic pop/psychedelic rock, I can’t recommend them enough! They’re a newer band, but they’re formed by Dylan Hughes, who used to be in a lovely 2010s indie band called Race Horses (another Cymraeg fav of mine tbh), and some of that band play with him in Ynys too. Helpfully, Dylan is also particular about making sure all his lyrics are available, which is great as a learner! It’s in the lyric booklets but also on their Bandcamp.
You should also definitely check out Adwaith, who are one of the best new bands in Wales! They’re from Carmarthen, so you’ll also hear in their lyrics that they use bits of South Walian Welsh, and the thing I admire about them is they’re learners too. They said they deliberately try and write their lyrics to be true to how they really speak, and so it’s meant to be less formal and more casual. They’re also one of the voices singing about life as girls growing up in Welsh-speaking Wales, and they’re the only musicians ever to win the Welsh music prize twice! Icons. There’s a spinoff band 2/3 of them started in lockdown called Tacsidermi, and if you like Gwilym’s song Cwin you’ll love their song Ble Pierre.
Like Yws Gwynedd - there’s a Candelas song called Brenin Calonnau you’ll like. HMS Morris are another really good band, try their song Ceredigion. Chroma wrote a fantastic album called Asking For Angela this year. Check out Sai’n Moyn Mynd Mas! They released this song in English and in Welsh.
I’ll give you a few more alternative and rock bands I really like, I’ll put them in a playlist for you! It’ll have some Welsh language music from rock bands like Super Furry Animals and Gruff Rhys solo, Datblygu, Gorky’s Zygotic Mynci, big leaves, Y Reu (and their guitarist Lloyd Steele’s work, who wrote some fantastic tunes in lockdown reflecting on identity — specifically about being a mixed race gay man in Welsh speaking Wales), Ysgol Sul, Hyll.
There’s a Gorky’s song that’s not on Spotify that I love, so I’ll give you a YouTube link. It’s an older song though, written before violinist Megan Childs joined the band - Merched Yn Neud Gwallt Eu Gilydd, from the Introducing Gorky’s CD.
youtube
Dyma rhestr-chwarae i chi:
#Gofynnau#asks!#welsh#cymraeg#cerddoriaeth gymraeg#welsh music#Sorry this took ages! I wanted to think properly about this 😅#If you like any of these bands I’m happy to help you find more! I just didn’t want the post to get ginormous#Music#Wales
50 notes
·
View notes
Photo
BEST TRACKS OF 2017-ARTISTS LIST #97
ARGRPH
Welsh artist ARGRPH has released a string of self-reflective and deeply personal tunes that resonated deep within the listener. The artist behind that avatar Emyr Sion Taylor shares the songs that made this year special for him.
10. Phalcons - Idle ways Gorgeous track, well produced and a pleasure to listen too (a few times!) Light and catchy, Idle Ways provided an incredibly promising debut by the experienced line-up.
9. Ysgol Sul - Elsewhere Great to see these guys back and doing something a little different. Big fan of this track, dark and challenging.
8. Boy Azooga - Face Behind Her Cigarette Davey Newington’s new project is a good one, I managed to see them in Swn Festival this year and were one of the highlights. This homage to William Onyeabor has been stuck in my head since.
7. Zack Villere - Cool Charming, quirky and incredibly uncool, Villere’s self-production is very interesting and leading the way in the new uncool-hop genre with the likes of Ameer Vann and Froyo Ma following close behind.
6. Syd - All About Me Growing increasingly jealous of Syd, this track sums up that she has everything. One of the most exciting things to come from 2017, her Jools Holland performance had me fixated.
5. Real Estate - Darling Gutted I couldn’t catch these this year, the former real estate agents released Darling in January, and throughout the year this has been a favourite to keep coming back to.
4. King Krule - Dum Surfer Released alongside his 2017 album, ‘Dum Surfer’ was his usual dark jazz inspired rock, but with a surf twist, something that resinates strongly with me. Firmly placed in the top ten.
3. Ty Segall - The Main Pretender Consistently superb and one of my biggest influences, this track is more garage greatness by Segall. Additionally, he produced Orc by Oh See’s, who I would have loved to feature in this list - but didn’t release any singles in 2017.
2. Ghostpoet - Freakshow The long-awaited return of one of the UK’s top modern lyricists is beautiful and catchy, and was a contender for my favourite track of the year.
1. Jay Z - The Story of OJ F***ing superb, best track of the year. Only time I’ve indulged in ‘reaction videos’ this track engulfed me, from the jazz-inspired samples linking black music through it’s roots and providing a social commentary that sparked debate between generations, this is Jay-Z at his best.
#best of 2017#ARGRPH#jay z and beyonce#ghostpoet#ty segall#king krule#real estate#syd barrett#zack villere#boy azooga#Ysgol Sul#phalcons
1 note
·
View note
Audio
Find a #dreampop song
Ysgol Sul - Silhouette
From the EP Eventide by the trio from West Wales, recommended listening!
#music#music blog#indie music#alternative music#dream pop#Ysgol Sul#Silhouette#bestof2017#indie#alternative#find a song
2 notes
·
View notes
Text
.
#fuckkkkkkkk y ffug is good#ysgol sul is also amazing#all the people ive learned about are (honourable mention to kookamunga also. the other 2 are what im listening to now and what rocked my fu#cking socks off when i first heard it.)#no offence but the people in the forum recommending music in welsh have better taste than all of us on here (myself included)#learning welsh
0 notes
Text
Dyddiadur - wythnos o’r Cyfnod Clo - Gaenor Mai Jones, Pontypridd (ffugenw: Blank 6)
Dydd Iau Rhagfyr 31 2020
Roedd rhaid mynd allan i brynu diod o rywfath ar gyfer hanner nos ac anghofio'r mwgwd ond ma' gen i un sbar yn y car. Marciau a Gwreichion yn hytrach na siop y carotsyn. Safon y nwyddau a'r glanweithdra ar raddfeydd gwahanol. Falle mod i'n talu mwy a dyw hynna ddim yn eistedd yn esmwyth gyda Cardi ond dwi am wneud popeth allaf i osgoi Corona. Dal i gofio y poteli pop o'm mhlentyndod. Dwi 'di edrych y "covid vaccination calculator" a gweld bo' fi yn yr wythfed safle i gael y brechiad a fydd hynna ddim yn digwydd tan adeg fy mhenblwydd ym mis Mai.
Ydw i fod i 'sgrifennu'r addunedau heno neu fory? Wel heno amdani gan bo fi ar fy mhen fy hun yn gwylio'r cloc yn araf dician tuag at hanner nos. Dwn i ddim pam dwi'n aros lan beth bynnag, dim gwahaniaeth rhwng 23.59 a 24.00 yn fy marn i. Ta beth edrychais y geiriadur i weld ystyr y gair adduned, dim ond rhestr arall ac 'rwy'n dda iawn am wneud rhestrau ond mae adduned yn golygu addewid o ddifrif neu benderfyniad cryf. Dim iws rhoi colli pwysau lawr te achos mi fyddai wedi methu o fewn dyddiau. Mi wnes i addunedau amser y clo mawr, dim byd arbennig, tacluso'r ardd, eistedd allan yn yr ardd tra'n disgwyl i ddanteithion gwcio. Hwnna oedd y drwg ond nid dim ond fi wna'th e.
Un adduned sy' 'di bod 'da fi ers blynydde yw tacluso'r bocsys sy' yn y garej ers i fi symud 'ma a dyma'r amser i ddidoli'r lluniau a gosod nhw yn daclus, efallai hyd yn oed symud 'da'r oes a'u gosod yn ddigidol. Mi wnai wneud un bob dydd.
Mae'n hanner nos ac yn amser am lymaid neu photelaid.
Dydd Gwener Ionawr 1 2021
Ma' gen i ben tost a'r gwendid corfforol a meddyliol bron fy llethu ond allai ddim torri adduned ar y diwrnod cyntaf!
Lluniau fy nhaith i Rufain sy gen i. 'Roedd pedwar ohonom yn tueddu i fynd dramor dros benwythnos Calan ac wedi bod yn yr Eidal sawl gwaith ond does dim all wella ar y profiad o fod yng ngwasanaeth Calan y Pab yn y Vatican City. Cyrraedd yno ar hap heb drefnu dim ymlaen llaw. Gweld ciw i fynd fewn a meddwl dim mwy tan i ni gael ein harwain drwy'r cefn a'n rhoi i eistedd ar yr ochr a dyna lle 'roedd Pab Ioan Paul yn pregethu. Mi wnes i astudio Lladin yn yr ysgol ond wnes i ddim deall dim un gair. Doedd dim gwahaniaeth ac er fy mod yn Fethodist mi ges i ryw wefr a thangnefedd wrth wrando ar y person carismatig hwn. Fynte yn gad'el a ninne yn crwydro o gwmpas gan edmygu pensaerniaeth ac awyrgylch euraidd y lle. Allan wedyn i'r sgwar a sylweddoli nad oedd lle i forgrugyn arall gan fod y lle yn orlawn o bobl yn disgwyl i'r Pab ymddangos ar y balconi i godi llaw ac wir, mi ddoth allan a ninnau wedi ca'l y profiad unigryw heb drefnu dim.
Dydd Sadwrn Ionawr 2 2021
Diwrnod arall o ddilyn y rheolau. Am dro o gwmpas fy ardal ac yn gweld amryw sy' fel pe baent ddim yn deall y rheol o beidio symud y car i ddechrau'r daith gerdded.
Nawr dwi wedi cyrraedd albwm Prague. Wedi bod yna fwy nag unwaith a chael profiadau gwahanol bob tro. Dyw penwythnos ddim yn ddigon i gyffwrdd ar hanes yr ardal a phwy allai anghofio y Brenin Wenceslas yr amser hyn o'r flwyddyn. Do, mi fum i yn y sgwar ac yng Nghadeirlan St Vitus lle gorwedd ei olion. Ond i mi profiad dwysaf y teithiau oedd ymweliad plygeiniol yn Terezin tua 30 milltir i'r gogledd o Prague. Carchar rhyfel i'r Iddewon yn cael ei redeg gan y Gestapo. Llawer yn aros yno ar eu ffordd i Auschwitz. 'Roedd y tarth yn dal ar lawr a niwl o gwmpas y fynedfa gan hanner orchuddio Seren Dafydd. Doedd dim troi nôl ond dim blas mynd ymlaen. Teimlwn yn anhyfforddus iawn fy mod yno ar daith dwristiaeth gan gofio yr holl ddioddefaint a fu yn yr adeiladau. Buom mewn un ystafell lle roedd cannoedd o blant yn cysgu ac heb air o gelwydd teimlais fod llygaid yn fy nilyn o gwmpas. Allan i'r gwyrddni i fan oedd yn ymddangos fel llecyn o brydferthwch ond wrth edrych yn fanwl 'roedd modd gweld uwchdir i ddefnydd y saethwyr oedd yna i ladd yr Iddewon.
Dydd Sul Ionawr 3 2021
Dim oedfa ar wahan i rai ar Zoom. Mae'n bosib edrych ar sawl un mae'n rhaid cyfadde ond y drwg wedyn yw dechre beirniadu a dyw hynna ddim yn yr ysbryd Cristionogol ond a yw rhywbeth yn well na dim, dwn i ddim. Dwi ddim yn siwr chwaith a y'n nhw'n anelu at y gynulleidfa arferol. Faint o aelodau oedrannus ein capeli sydd yn medru defnyddio Zoom yn y lle cynta'?
Ta waeth, dwi 'di cyrraedd Venice. Popeth yn brydferth ond drud a drud iawn. Wrth gwrs 'roedd rhaid cael taith ar y gondola, rhywbeth twristiaidd i'w wneud a drud ond pwy fydde'n dod nôl o Venice heb fod ar un. Mi wnes i hefyd gael taith ar y traghetto, yr un syniad ond y rhan fwyaf o'r teithwyr yn sefyll i groesi'r gamlas a'r gost ond yn ddwy euro. Gan bo' fi ddim yn gallu nofio wnes i ddim meiddio sefyll, rhag ofn, ond dyma'r ffordd mae'r bobl leol yn croesi'n ddyddiol.
Rhyfeddod arall oedd cael coffi drud yn un o siopau coffi Sgwar San Marco a gwylio pobl un prynhawn ond gweld y cyfan dan ddŵr y bore wedyn. 'Roedd dŵr y gamlas wedi codi ond yn amlwg bod hyn yn ddigwyddiad rheolaidd gan fod bordiau pren wedi cael eu gosod i groesi'r sgwar ond yn rhyfedd ddigon 'roedd rhaid mynd drwy borth yr eglwys. Un prynhawn mynd i ynysoedd Murano, Burano a Torcello. Y cyntaf yn enwog am y gwydr, yr ail am y lês a'r trydydd wnai ddim ond disgrifio fel twll o le. Er yno mae Gorsedd o garreg Attila a'r chwedl leol yw bydd rhywun yn priodi o fewn blwyddyn o eistedd ynddi. Wnes i ddim a tybed ai dyna pam wnes i ddim priodi? Golygfa annisgwyl ond wrth gwrs sy'n gwneud synnwyr oedd gweld traddodiad angladdol yr ynysoedd. Yr arch yn amlwg ar gwch a'r cychod eraill yn dilyn i gyrchu'r teulu i'r tir mawr. Rhyfedd nad yw rhywun yn meddwl am draddodiadau gwahanol ond angenrheidiol.
Dydd Llun Ionawr 4 2021
Gŵyl y Banc arall heb gyfle i wneud unrhywbeth gwahanol. Sawl un arall fyddwn ni'n colli cyn daw trefn at bethau?
Erbyn hyn 'rwy'n yr albwm B. Budapest, Barga, Barcelona a Berlin. A'r mwya o'r rhai hyn Berlin. Yno fel rhan o gôr i ganu The Armed Man o dan arweinyddiaeth Syr Karl Jenkins. Ysgytwol y profiad o fod yn canu fel rhan o fil o leisiau yn Stadiwm Mercedez Benz dafliad carreg o ran o wal Berlin. Wedi'r ymarfer pawb ohonom yn mynd i'r lanfa i ganu ein hanthem genedlaethol ein hunain, Profiad na ellir byth ei ail greu. Tê prynhawn un diwrnod yn y Reichstag ond 'roedd rhaid archebu ymlaen llaw gyda holl fanylion pasport ac er yr ysblander a'r cyfle i weld goleuadau'r ddinas yn cynnau yn drawiadol pwy allai anghofio'r erchyllterau y bu y Gestapo yn trefnu yn yr union adeilad.
Dydd Mawrth Ionawr 5 2021
Apwyntiad rhoi gwaed heddiw ac mae hawl gan rywun i deithio i wneud hyn. 'Rwy'n hynod falch o'r ffaith fy mod wedi rhoi dros i 50 ond wedi colli allan ar noson ddathlu oherwydd y Cofid ond mi gefais garden Nadolig ganddynt yn ymddiheurio. Euogrwydd wnaeth i fi ddechrau rhoi gwaed oherwydd pan yn fyfyrwraig nyrsio 'roeddwn yn teimlo chwithdod bob tro 'roeddwn yn rhoi uned i glaf a dim un rheswm gen i i beidio cyfrannu. Yn raddol dros y blynydde mae'r broses wedi cyflymu a beth yw hanner awr o amser rhywun os oes daioni yn dod ohono. Er gan fy mod yn un o'r grwpiau arbennig nid y'n nhw eisie fy ngwaed bob tro.
Gan fy mod wedi crybwyll fy ngyrfa mae'n addas fy mod yn mynd i albwm California. Wedi bod yna ddwy waith gan fod un o'm ffrindiau nyrsio wedi symud allan yna ers blynydde maith. Mi fum yn ddewr a mynd fy hun un tro ond diflas y daith heb siarad a neb. Oleiaf fy mharatoi ar gyfer y cyfnodau clo yma.
Ar un o'm teithiau penderfynu mynd i barc Yosemite a gweld yr arwydd am wylio allan rhag ofn i arth groesi'r ffordd a chwerthin yn braf gan gofio am arwyddion ceirw yng Nghymru ac erioed wedi gweld un. Ond yr un fath â llwynog R.Williams Parry, "digwyddodd, darfu megis seren wib" pan groesodd un o flaen y car ond y camera wrth gwrs ddim ar gael.
Anghofiai fyth y daith lan Cwm Napa ac ymweld â’r gwinllannau a chael diod ymhob un. Fy ffrind oedd yn gyrru a'r diweddglo oedd mynd lan mewn cable car i winllan ar ochr y mynydd. Yn anffodus mae'n amhosib cael y gwin yn y wlad hon. Mi fydd yn rhaid mynd nôl eto.
Dydd Mercher Ionawr 6 2021
Diwrnod datgelu gwobrau y Premuim Bonds. Wedi medru gosod yr app ar y ffôn felly does dim rhaid aros mewn gobaith am ddyddiau cyn i'r siec gyrraedd. Yn gweld bo' nhw eisiau diddymu sieciau ond cymaint o gwsmeriaid eisiau parhau gyda'r sistem gan nad ydynt yn gwneud gwaith bancio ar lein. Dim miliwn neu ddau i mi eto'r mis hwn ond mae £25 yn well na dim.
Diwrnod tynnu'r addurniadau i lawr. Dwi ddim yn ofergoelus iawn ond yn cadw at y traddodiad o'u tynnu cyn nos Ystwyll. Bu i mi gael profiad un flwyddyn o fethu tynnu nhw lawr gan fod galwadau salwch teuluol wedi gorfodi i fi fod oddi cartref tan yn hwyrach ac 'roedd rhaid i mi wneud y gwaith wedi'r diwrnod tyngedfennol. Ond y goel yw bod gadael un addurn ar ôl yn lleddfu'r lwc wael. Dyna wnes i ac ni weles i unrhyw drafferthdod y flwyddyn honno. Rwtsh llwyr yn te?
Mae'n ddydd Mercher ac mae'n noson ymarfer côr, ar zoom wrth gwrs ond dyw e ddim yr un peth. Does dim i anelu ato, dim eisteddfodau mawr na bach ers misoedd ac er i rai ardaloedd gynnal eisteddfodau rhithiol roedd rhaid dibynnu ar yr ochr lenyddol fwy na heb. Er mae hyn yn f'atgoffa o gystadlu ar goginio yn Sioe Aberteifi ac ennill Prif Bencampwr Coginio heb i neb flasu un gacen. Tybed yw fy ngallu cogyddol cystal â’m gallu fel ffotograffydd!
2 notes
·
View notes
Text
Ysgolheigion o Brifysgol Bangor yn cynnig sgyrsiau difyr fel rhan o ymweliad Globe Shakespeare i Fangor
Bydd cyfle i staff Prifysgol Bangor a’r cyhoedd fel eu gilydd fwynhau sgyrsiau difyr wrth i gwmni arobryn Globe Shakespeare ymweld â Theatr Bryn Terfel ar Ddydd Gwener 5, Dydd Sadwrn 6 a Dydd Sul 7 o Orffennaf, yr unig ddyddiadau yng Nghymru ar y daith bresennol, fydd yn crwydro dros y byd yn perfformio TWELFTH NIGHT, PERICLES A THE COMEDY OF ERRORS.
Bydd tair sgwrs anffurfiol yn cael eu cynnal mewn cydweithrediad â staff academaidd, ar Ddydd Sadwrn 6 a Dydd Sul 7 o Orffennaf. Y cyntaf fydd darlleniadau gan Shakespeare ar fwynhad a pheryglon yfed a bwyta, sef ‘No More Cakes and Ale? Food, Festivity and Shakespeare’ gan Yr Athro Helen Wilcox a Dr Michael Durrant o Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaeth ac Ieithyddiaeth am 12pm ddydd sadwrn. Gan fod Cegin ar Lefel 2 yn cynnig bwydlen ar thema Shakespeare, dyma’r cyfuniad perffaith amser cinio cyn y sioe am 3pm!
Bydd yr ail sgwrs am 6pm ddydd sadwrn gan Yr Athro Guillaume Thierry o Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor yn ystyried effaith iaith ar yr ymennydd ac yn dwyn y teitl ‘How Shakespeare tempests our brain to seize our hearts’. Yn y sgwrs, bydd Guillaume Thierry yn edrych ar weithgaredd yr ymennydd dynol yn ymateb i’r newidiadau swyddogaeth a welir yn Shakespeare. Roedd hon yn ddyfais o ran arddull a ddefnyddid yn benodol yn oes Elisabeth lle roedd statws gramadegol geiriau yn cael eu newid i greu pwyslais.
Bydd Yr Athro Helen Wilcox a Dr Michael Durrant yn dychwelyd ar Ddydd Sul 7 Gorffennaf am 2pm ar gyfer Shakespeare Now (and Then). Sut oedd dramâu Shakespeare yn cael eu perfformio yn eu cyfnod? Sut brofiad oedd mynd i theatr yn oes Elisabeth? Dyma gyfle i drafod arwyddocâd gwaith, bywyd a gwaddol Shakespeare, yn y byd modern yn ogystal â’r cyfnod modern cynnar.
O ran y perfformiadau, yn dilyn arbrawf y llynedd, bydd yr arbrawf theatraidd democrataidd yn parhau, gyda’r gynulleidfa yn pleidleisio dros ba un o’r tair drama yr hoffent weld ar y noson. Y dewis eleni fydd The Comedy of Errors, Twelfth Night neu Pericles, oll yn straeon sy’n ymdrin â themâu lloches ac ymfudo.
Bydd i fyny i gynulleidfaoedd Pontio benderfynu yn nhri allan o’r pedwar perfformiad, ac mae’r rheolau yn syml: y floedd uchaf sy’n ennill ac mae’r actio’n dechrau ar unwaith! Yr unig berfformiad fydd yn wahanol fydd yr un am 3pm ar Ddydd Sadwrn 6 o Orffennaf, gyda THE COMEDY OF ERRORS yn cael ei berfformio amser hynny. Fel opsiwn ychwanegol ar Ddydd Sul 7 Gorffennaf, gall y gynulleidfa fwynhau ‘profiad y Glôb’ gan y bydd tocynnau sefyll am £7.50 ar gael ar gyfer y perfformiad olaf am 6pm.
Mae cynnig arbennig o 10% o ostyngiad ar docynnau i staff Prifysgol Bangor Bangor arlein neu dros y ffôn gyda’r côd arbennig GLOBE10.
GLOBE on Tour: The Comedy of Errors/Twelfth Night/Pericles Nos Wener 5-Nos Sul 7 Gorffennaf Theatr Bryn Terfel, Pontio, Bangor Mae’r sgyrsiau am ddim ond rhaid cael tocyn. Tocynnau i’r perfformiadau: £7.50-18.50 https://tickets.pontio.co.uk/Online/19Globe neu 01248 38 28 28
Gellir archebu bwrdd ar gyfer Cegin ar https://www.bangor.ac.uk/commercial-services/pontio-pages/cegin.php.cym
0 notes
Photo
FY NGHYLCHGRAWN I O'm GWYLIAU YN GADAEL PLANED Y DDAEAR (GAN GYNNWYS FY NGOR Â DUW HOLLALLUOG JEHOVAH, AC ANGEL O DDUW HOLLALLUOG).
Gan Dr Neil Leslie Gilbert.-Williams-Jacksnai (Yn Cymru)
SWYDD DAU
I (Neil Leslie Gilbert.-Williams-Jacksnai) dim ond mynychu ysgol Sant Mihangel Eglwys Loegr, Croydon (dan esgobaeth Southwark) mass.
Yn y maes heddiw, clywais Siôn Philip yn datgan mewn ysgrythyr rywbeth am: ' Mary mam Duw: yr Arglwydd Iesu Crist Emanuel ein Dduw, ' (A nodwyd hefyd gan Siôn Timothy mewn màs arall).
Yn ôl yn y 1980au. Pan oeddwn i'n fach Rwy'n cofio rhan yr scripture (Mary mam Duw: yr Arglwydd Iesu Crist Emanuel ein Duw) pan sonnir amdano gan Ficer y cyfnod yn Eglwys Sant Stephen yn St Stephen's Terrace, Llundain SW8 1DH England, y Deyrnas Unedig (ficer Helen) mewn gweddïau , a'm cymysglyd yn Eglwys Sant Stephen, St Stephen's Terrace, Llundain SW8 1DH England, y Deyrnas Unedig, felly gofynnais i'r Parchedig Eglwys St Stephens, St Stephen's Terrace, Llundain SW8 1DH England, y Deyrnas Unedig (Parend Christopher);
' Mae'r Beibl Sanctaidd yn dweud yn llyfr Genesis y gwnaeth Duw Hollalluog y ddaear! ond ganwyd yr Arglwydd Iesu Crist-Emanuel ar y ddaear ar (tua) 25 Rhagfyr yn Bethlehem yn Judea, yn ne Palesteina yn nechreu 2 B. C. E [https://www.jw.org/en/bible-teachings/questions/when-was-jesus-born]. Felly, sut y gallai'r Arglwydd Iesu Crist Emanuel fod wedi gwneud y ddaear a'i ddynolryw os yw'n Hollalluog Dduw, fel yr oedd yr Arglwydd Iesu yn y Crist Emanuel wedi ei eni yn y cwymp cynnar o 2 B. C. E?`
Rhoddodd y Parchedig Christopher wên gynnes a chyfarchiad dymunol i mi, gan fy ngwahodd i dderbyn cadarnhad. Cefais fy derbyn yn raslon. Gofynnodd y Parchedig Christopher pam y byddwn yn derbyn cadarnhad. Eglurais fod gennyf ddiddordeb mewn bod yn Gristion cydnabyddedig fel y credaf. Eglurodd y Parchedig Christopher y gellid, ar y foment honno, gael ei ddisgrifio fel llawer o eiriau, ond roedd yn flin ganddo am y rhan honno o'r ysgrythur hon a datgelodd ei farnau preifat mewn gramadeg sylfaenol. (Rwy'n disgrifio'r Parchedig Christopher fel un gofidus dros ben, ac yn ddig gyda'r rhai sy'n addysgu'n amhriodol ymhlith pwyntiau eraill). Fe'm Canmolodd am ofyn fy cwestiwn, a caniatáu i mi ei weld yn gwneud trefniant i gyfarfod â'i ficer. Ficer Helen, a fu'n dyst i'r Parchedig Christopher yn fy helpu i ymhelaethu ar fy ngeiriau; gred (yn awyddus i bob pwrpas fod yn sicr fy mod yn golygu hynny: Cred = Rwy'n credu mewn Duw Hollalluog).
Yr oedd y Parchedig Christopher yn/yn hawdd mynd ato, yn grym ond yn llym ac yn ddibynadwy. Tyfais mewn ffydd. Gofynnwyd imi a oedd gennyf unrhyw gwestiynau. Ymatebais drwy ofyn os yw Duw Hollalluog yn fyw o hyd, a pham y gelwid Joseph yn dad yr Arglwydd Iesu, tad Crist Emanuel pe y'i crëwyd gan Dduw Hollalluog.
Cefais wybod yn fras: Mae'r Arglwydd Iesu Crist Emanuel yn fab i Dduw Hollalluog (fel yr ydym oll yn ddisgynyddion Duw Hollalluog) yn enedigol o Feifod Mary, a'r gweddill byddaf yn dysgu yn yr ysgol Sul ac yn yr Eglwys, sydd yn y bôn yn addysgu o'r Beibl sanctaidd.
Rwy'n cael fy atgoffa a dod o hyd i ateb mewn gras (a ddywedir ar ôl prydau):
"Rydym yn rhoi diolch i chi am eich holl fudd-daliadau. O ' hollalluog Dduw, sy'n byw ac yn teyrnasu am byth. Ac a all enaid y ffyddloniaid wyro, gan drugaredd Duw, orffwys mewn heddwch, amen "
Soniais ddyddiau yn ôl, fy mod yng nghwmni Angel o Dduw (a ymddangosodd fel Gwryw yn unol â diffiniad Geiriadur Saesneg), a roddodd imi wyliau/gwyliau (oddi ar PLANED y ddaear) drwy gwennol. Mae angylion Hollalluog Dduw yn hysbys i I fel rhai ychwanegol-daearol. (Byddaf yn datgelu mwy wedyn).
Roedd y cyflymder hedfan yn gyflymach nag unrhyw gyflymder awyren yr oeddwn yn ei adnabod o allan o raglen ffuglen wyddonol megis cyflymder ystumiad Star Trek. (Byddaf yn datgelu mwy ar ddiwrnod arall). Yn ystod fy ngwyliau/wyliau, bu Angel o Dduw Hollalluog a minnau'n siarad. Mewn cyfnod tawel o'm taith, gofynnodd Angel o Dduw Hollalluog i mi os oes gennyf unrhyw gwestiynau. Cefais lawer, er y gofynais am a wyddai Angel o Dduw Hollalluog pwy yw Duw Hollalluog, ac os yw Duw Hollalluog yn fyw o hyd. Roedd Angel o Dduw Hollalluog wedi cael ymateb seiniol graslon ac yna dweud wrth mi (Neil Leslie Gilbert.-Williams-Jacksnai) byddaf yn mynd â chi i'w weld yn fuan.
Ar y foment y cyrhaeddais, (nad oedd yn syth o'm cwestiwn i Angel of God_ gan ysbaid o sawl awr) Dywedodd Angel o Hollalluog Dduw, dyma'r un y mae pobl yn ei alw'n Hollalluog Dduw. Meddyliais ar unwaith; Hollalluog Dduw'n fyw (byddaf yn datgelu mwy ar ddyddiad diweddarach)
Un o'm hatgofion olaf pan ar wyliau/gwyliau oddi ar y ddaear yw, Angel o Almighty Duw ofynnodd i mi a oeddwn i eisiau mynd i'r haul. Yr oeddwn yn meddwl na fyddwn yn goroesi gan ei fod y tu hwnt i boeth, ond yr wyf yn ymddiried yn Angel o Dduw Hollalluog, ac yn dywedyd Ie. Pan gyrhaeddon ni (cael ein hedfan mewn i Angel o freichiau Hollalluog Dduw (fel Angel o Dduw Hollalluog gall hedfan/gael adenydd (cyfieithiad Geiriadur Saesneg agosaf)) Angel o Hollalluog Dduw a'm cyflwynodd i'r arch Angel, a oedd yn eistedd (mewn seddi) wrth y ffin y tu ôl i'r haul ( sydd fel llecyn mawr golau o fflam mydryddol wedi ei strwythuro fel cylchYn (sffêr) tu mewn i ddrych troi. (Byddaf yn datgelu mwy ar ddyddiad diweddarach).
SWYDD UN
Rwyf wedi postio'r swydd hon yn ddiweddar. Darllenwch ac os Angenrheidiol Sylw. Heddwch gyda chi i gyd!
Angel o Dduw Hollalluog (un ychwanegol daearol) yr ymwelwyd â mi (Neil Leslie Gilbert) yn Eglwys Sant STEPHEN yn Church of England, ST STEPHEN's TERRACE, Llundain SW8 1DH, o dan esgobaeth Southwark Ty'r Drindod, 4 llys Capel, stryd fawr Bwrdeistref, Llundain SE1 1HW. (ar fwy nag un achlysur yn y 1980au. Ar un o angylion Hollalluog Dduw ymweliadau, hebryngais Angel Hollalluog Dduw i'm Mamau former home fflat 24 LULWORTH HOUSE, DORSET ROAD, naw ELMS, Llundain, SW8 1DR (sef lle'r oeddwn yn byw gyda fy mam a'm brawd). Gwelwyd yr Angel o Almighty Duw yn cyrraedd gan blwyfolion amrywiol a'r Parchedig (ar y pryd/date) Christopher Guinness a ficer Eglwys St Stephens.
Cerddasom o Eglwys Sant Stephens (St Stephens Terrace) ar hyd Bolney Street i FLAT 24 Tŷ Lulworth (a welwyd gan bobl leol). (Er i ni gerdded i wahanol fannau y byddaf yn eu datgelu ar ddyddiad arall, (gan gynnwys Vauxhall Bridge, lle mae ei Mawrhydi y Frenhines-Elizabeth II/ei Mawrhydi y Frenhines-Elizabeth II # [PALAS BUCKINGHAM, Llundain SW 1W0 Swyddfa ei Mawrhydi y Frenhines] yn siarad i mi (o flaen Angel o Dduw Hollalluog)-gofyn a oeddwn i'n iawn a phynciau eraill.
Byddaf yn datgelu mwy am fy ngornest ag Angel o Hollalluog Dduw dro arall, ond pan edrychodd Angel o Dduw Hollalluog a minnau a siarad â'n gilydd, llwyddais i dystio a datgelu bod pensaernïaeth yr Eglwys (bwâu a fframiau ffenestri a manylion eraill) y chur strwythur ch, yn cael ei adeiladu/hadeiladu mewn tebygolrwydd o gael Angel o fwgwd Almighty Duw a nodweddion Anatomi a Anatomeg.
Felly, gallaf gadarnhau i bawb, hynny drwy dystio Angel o Dduw Hollalluog a thrwy drefniant Angel of Almighty Gods o-fynd â mi drwy gwennol/llong i ymweld â Duw Hollalluog (sy'n byw ac yn teyrnasu am byth), y dylai Cristnogion a phob un arall, gredu yn Hollalluog Duw trwy yr hwn yr oedd Emmanuel-Iesu Crist yn un-shunned ni.
Teimlaf mor anrhydeddus a bendithiol i addoli mewn eglwys yn Lloegr Eglwys yr Eglwys
STRYD FAWR SMITH LONDON SW1P 3AZ neu Eglwys Gatholig (o dan Eglwys Gatholig Lloegr & Wales 39 ECCLESTON SQUARE LONDON SW1V 1BX).
0 notes
Text
Ella Richards - N. M. Thomas
Yng Nghapel Soar, Llambed, mae yna gofeb i’r rhai o’r capel a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Mawr. Ar frig y rhestr mae enw Ella Richards. Nyrs oedd Ella a dreuliodd dair blynedd a hanner yn gwasanaethu y Groes Goch. Mae’n debyg mai hi oedd un o’r rhai cyntaf i fynd fel nyrs i’r Rhyfel o’r ardal pan ymunodd â’r 1af o Fehefin 1915.
Cafodd ei geni yn blentyn i Timothy a Hannah Richards o Ardwyn, Bridge Street. Roedd yn un o bump o blant, a’r ferch hynaf yn y teulu. Roedd yn aelod ffyddlon o Ysgol Sul Soar, Llambed. Cafodd ei hyfforddi fel V.A.D (Voluntary Aid Detachment) gan Mrs Bankes Price o Dole, Cadeirydd Cymdeithas y Groes Goch. Roedd yna Ysbyty’r Groes Goch yn Aberaeron.
Yn y Carmarthen Journal ym mis Rhagfyr 1915 nodwyd bod yna noswaith wedi’i chynnal yng Nghapel Soar lle darllenwyd llythyron gan nifer o bobl oedd wedi gadael am y Rhyfel. Yn eu plith roedd llythyron gan Ella a Gladys Rees oedd ar y pryd yn hyfforddi yn Ysbyty Whalley, Swydd Gaerhirfryn.
Ar ôl cyfnod yn Ffrainc fe’i danfonwyd i Salonika ym mis Mai 1918. Yn ei gwaith The Nurse’s War: The Red Cross in Salonika in WW1 mae Loretta Proctor yn cyfeirio at lythyron a ddarganfu a ysgrifennwyd gan Ella. Yn y llythyron mae hi’n disgrifio pa mor oer oedd hi yno – a sut byddai’n rhaid golchi dillad mewn dŵr oer pan nad oedd yna olew ar ôl – gan fod disgwyl i nyrsus edrych yn drwsiadus bob amser. Yn y llythyron mae hi hefyd yn gofyn am bethau bach o adre – pethau fyddai’n gwneud cryn wahaniaeth i’w bywyd ond pethau syml iawn fel lastig, taffi, crib, llythrau ac eli croen.
Roedd disgwyl iddi dychwelyd i Gymru pan aeth yn sâl gyda ffliw a niwmonia. Bu farw ar 14eg Hydref 1918 yn y 64 th General Hospital yn Salonika. Cafodd ei chladdu ym Mynwent Mikra, Kalamaria, Thessaloniki. (Bedd 542)
Yn y Cambrian News ar y 18fed Gorffennaf 1919 cyhoeddwyd erthygl yn nodi y sonniwyd amdani mewn adroddiadau: “mentioned in despatches for distinguished service and devotion to duty.”
Ar nos Fercher 30ain Ebrill 1919 dadorchuddiwyd llun o Ella mewn noson arbennig yn adeilad Sefydliad y Merched yn Llambed. Siaradodd sawl un amdani, gan gynnwys y Parchedig Evan Evans, Soar – oedd wedi ei hadnabod ers iddi gael ei geni – ac a oedd yn adnabod ei rhieni a’i thadcu a’i mamgu. Nodwyd ei bod yn berson oedd yn falch o gael gwasanaethu eraill. Codwyd cofeb iddi hefyd yng Nghapel Soar gan aelodau’r Ysgol Sul ac mae ei henw ar y gofeb Rhyfel yn Llambed.
Darllen pellach:
http://www.menywodarhyfel.cymru/uploads/waw_ww1_nursing_e.pdf
https://hfebooks.com/the-nurses-war-the-red-cross-in-salonika-in-wwi-by-loretta-proctor/
http://cymru1914.org/cy/view/newspaper/3678942/4
www.womenandwar.wales
http://newspapers.library.wales/view/3679373/3679376/32/richards%20AND%20ella Mae N. M. Thomas yn athrawes o Aberystwyth.
0 notes
Text
How many words do I know from that list?
Faint geirfa sy dw i’n nabod o y [list] yno?
ci, cath, pysgodyn, aderyn, buwch, mochyn, llygoden, ceffyl, [wing?], anifail
tren, [plane], car, [truck], [bicycle], bws, [boat], [ship], [tire], petrol, [engine], [ticket], [transportation]
dinas, ty, [apartment], heol, [airport], gorsaf tren, pont [?], gwesty, [restaurant], fferm [?], [court], ysgol, swyddfa, stafell, dinas [city/ town distinction?], prifysgol, clwb, tafarn, [park], [camp], siopa, [theatre], llyfrgell, ysbyty, capel [chapel/church distinction?], [market], gwlad [?] ([USA], [France]), [building], [ground], [space (outer space)], banc, lle [?]
het [?], ffrog, siwt, sgert, crys, crys-T, trowsus, esgidiau [?] [pocket], cot, [stain], dillad
[color]: coch, llas [?] llas [??], melyn [?], brown, pinc, oren, du [?], gwin [?], [grey]
pobl: [son], merch, mam, tad, [parent], [baby], dyn, dynes/menyw, brawd [?], chwaer [?], teulu, taid/tad-cu, nain/mam-gu, gwr, gwraig, [king], [queen], [president], [neighbor], bachgen [?], merch, plantyn, [adult], [human], ffriend, [victim], [player], [fan], [crowd], [person]
[job]: athro/athrawes, [lawyer], meddyg, [patient], [waiter], ysgryfunnljdflakjdl; [secretary], [priest], heddwas (heddlu), [army], [soldier], [artist], [author], [manager], [reporter], actor(es)
[society]: [religion], [heaven], [hell], [death], [medicine], arian, [dollar], [bill], priod {?], [wedding/marriage distinction?], tim, [race], [sex], [sex, gender], [murder], [prison], [technology], [energy], [war], [peace], [attack], [election], cylchgrawn, [newspaper], [poison], [gun], [sport], ras, [exercise], pel, gem, pris [?], [contract], [drug], [sign], [science], Dyw [?]
[art]: [band], [song], [instrument], cerddoriaeth [?], ffilm [?],
[beverages]: coffi, te, gwin [?], cwrw, sudd, dwr, llaeth/lleffrith [?], diod
bwyd: wy, caws, bara, cawl, cacen, [chicken], [pork], [beef], afal, banana, oren, lemon/lemwn [?], [corn], reis, [oil], [seed], [knife], [spoon], [fork], [plate], [cup], brecwast, cinio, swper, siwgr [?] [salt], [bottle], bwyd
[home]: bwrdd, cadair, llun [?], [soap], llyfr, [page], [key], [paint], [letter], [note], [wall], papur, [floor], [ceiling], [roof], pwll, [lock], ffon [?], gardd, [yard], [needle], [bag], [box], [gift], [card], [ring], [tool]
[electronics]: [clock], [lamp}, [fan], [mobile phone], [network], [computer], [program - computer], [laptop], [screen], [camera], teledu, radio
[body]: pen, [neck], [face], [beard], [hair], [eye], [mouth], [lip], [nose], [tooth], [ear], [tear], [tongue], [back], [toe], [finger], [foot,], llaw, [leg], [arm], [shoulder], [heart], [blood], [brain], [knee], [sweat], [disease], [bone], [voice], [skin],
[nature]: mor, [ocean], [river], [mountain], glaw, eira, heol, [moon], [world], [Earth], [forest], [sky], [plant], [wind], [soil/earth], blodyn, [valley], [root], [lake], [star], glaswellt [?], dail/deil [?], [air], [sand], traeth, [wave], [fire], ia, [island], [hill], [heat],
[materials]: [glass], [metal], [plastic], [wood], [stone], [diamond] (I’m going to start writing only the ones i know cuz this is taking too long) arian
metr,
tymor: haf, gwanwyn, gaeaf, hydref [?]
[numbers]: [0], un, dau, tri, pedwar, pump, chwech, saith, wyth, naw, deg, un deg un/ un ar ddeg, un deg dau/ deuddeg [?], un deg tri / tri ar ddeg, un deg pedwar [ pedwar ar ddeg, un deg pump / pymtheg, un deg chwech / un ar bymtheg, un deg saith, dau ar bymtheg, un deg wyth/ daunaw [?], un deg nau/ pedwar ar pymtheg, ugain. un ar hugain, {I can’t remember what the “plain” version is for twenty-something. I feel like i’ve never heard dau deg un or anythig like that], dau ar hugain, tri ar hugain, pedwar ar hugain, pump ar hugain, chwech ar hugain {I’ve never seen these before either tho], saith ar hugain, wyth ar hugain, naw ar hugain, tri [no clue]. tri deg. tri deg un, tri deg dau, tri deg tri, tri deg pedwar, tri deg pump, tri deg chwech, tri deg saith, tri deg wyth, tri deg naw, deugain! un ar deugain, dau ar deugain, etc etc, [fifty]? pump deg??? trigain??? deg ar trigain???????? pedwar ugain???????????? can/cant {haha] un ar chant {????] etc etc, deg ar chant??? etc etc??? mil? tusen?? NO CLUE
mis: ionawr, chwefror, mawrth, ebrill, mai, mehefin, gorffenaf, awst, medi, hydref, tachwedd, rhagfr (theyr’e supposed to be capitalized but you know)
[days of the week}: llun, mawrth, mercher, iau, gwener, sadwrn, sul
amser: blyd...[year], mis, [week], dydd, awr, munud, [second], bore, prynhawn, noswaith, nos
[verbs]: gweithio, [play], cerdded, rhedeg [?], [drive], [fly], nofio, mynd, [stop?] peidio?? [follow], meddwl, dweud, bwyta, yfed, [kill], [die - bod yn marw], gwenu [?], chwerthin [?], [cry], prynu [?], talu, [sell], [shoot], dysgu, [jump], [smell], clywed [?], gwrando [?}, [taste], [touch], gweld, [to watch], (I’ve got French and Spanish jumping up in the front of my mind so hard right now. Mirar! Regarder!!! shutup) [kiss], [burn], [melt], palu, [explode], [sit], [stand], caru, [pass by], [cut], [fight], [lie down], (just ones i know) cysgu, canu, priodi, ennill [?], golchi/ymolchi, coginio, agor, cau, ysgrifenu [?], [call], trowch [?] ...bwydo [?], glanhau (clean/wash distinction?), gwisgo, ...
hir, tal, mawr, bach, gyflym [?], oer, ...newydd, hen, ifanc [?], ??? da, ]bad], hapus, ...
[pronouns]: i/fi/mi, ti/chi, e/o/hi, ni, chi, nhw
Most of them, I have, no clue.
0 notes
Text
Ysgol Sul, Eventide EP, Review.
Evoking the sounds of 80’s twee pop Silhouette is the opening single to Ysgol Sul’s first English Language EP, “Eventide”. Lead by the vocals of Iolo Jones who’s baritone voice immediately struck me upon first listening to Silhouette. This contrast between lighter pop and harsh vocals leaves an uncomfortable combination of noise throughout the song. Although, the consistent surf sounding guitar that works it’s way in and out ‘Silhouette” reminiscent of Kevin Shields work with Loveless.
Moving forward, the second song on the Eventide EP is Promise Me which I found to be almost indistinguishable from Silhouette, making it difficult to comment upon. Perhaps Iolo’s vocals were sounding more angelic which suited the laidback theme of Eventide. Another similarity found was that lyrically Eventide was lacking. Very simple lyrics that went with a simple soundscape. A potential contender for music to suit Made In Chelsea or some other reality tv show.
On Ysgol Sul’s Soundcloud, “Elsewhere” the third track in the Eventide EP had the most listener engagement. Which, gave hope that this would be the song that turned tides, leading me to a treasure trove of quality music. Although, it was disappointed to learn that this was not necessarily the case. Initially, the opening of Elsewhere is a great combination of distinguished bass and guitar laden with whammy bars. But as the song progresses Iolo’s vocals which are more drawn out ultimately weigh the song down. If you’re looking for a song to feel sad too then Elsewhere is the one for you. But, it’s a relatively safe song kept afloat by a more upbeat style of drumming.
The harmonies on this next track, “Dwell” are great. At least the title of this track affirms my comments that Ysgol Sul were creating music that makes you dwell in sadness.
To draw a close to Eventide is a song called, “Solitude” which again proves to be flowing directly from the aforementioned song, “Dwell” every song from this EP seems to sound similar. Something that perhaps Ysgol Sul were aiming for, in which case, great. But, as a listener I look towards music that is at least distinguishable. Although towards the end of Solitude, Ysgol Sul have gradually built up the song, carefully constructing where to place a fair amount of white noise in amongst the song, before a rhythmic bass begins to emerge from the quiet before fully encroaching the song to lead Solitude into a rather busy finish.
For a first English Language EP Eventide is alright, it wasn’t necessarily surprising. But, it’s not a poorly produced EP either. Ysgol Sul are still amidst the higher end of Welsh talent. But, Eventide is not their best work.
0 notes
Audio
Heavenly and haunting art-rock from Welsh trio Ysgol Sul (Iolo Jones, Llew Davies and Cian Owen). With Silhouette pulled from their Eventide EP they craft a soundscape of dreamy reverb drenched melodies to pair with wistful poetic lyrics. Have a listen above!
1 note
·
View note
Photo
Diolch Barry @CylchgrawnGolwg am gynnwys @YsgolSul3 // Thanks Barry for featuring Ysgol Sul in this weeks Golwg Mag! #Golwg #Eventide #EP
0 notes
Text
Erthygl Bapur Bro - yn ymwneud â hobi neu ddiddordeb - Trefor Huw Jones, Aberystwyth (Ffugenw: Brynglas)
Llain Llawenydd
Pam fod crwt a fagwyd yn ardal Aberystwyth â’r fath ddiddordeb mewn criced? Dyna’r cwestiwn sy’n cyniwair pan gyfeiriaf at rai o gampau’r meistri ar y maes criced yn ystod sgyrsiau achlysurol am ddigwyddiadau’r meysydd chwarae.
Efallai bod elfen o etifeddeg yn gyfrifol. Cofiaf glywed fy nhad yn crybwyll manylion am gêm brawf yn Awstralia wrth y bwrdd brecwast. Yr wyf yn amau mai yn ystod gaeaf 1964/65 y digwyddodd hyn. Anodd iawn i blentyn chwe mlwydd oed ar fore tywyll yng Nghymru oedd dirnad cricedwyr wrthi ym mhen draw’r byd tra’n paratoi i fynd i’r ysgol fach.
Yn ddiarwybod bron ehangwyd fy ngorwelion. Rhaid oedd gofyn llu o gwestiynau. Meddyliaf am barodrwydd fy rhieni amyneddgar i wrando ar yr holi cyson. Lleoliad dinasoedd yn Awstralia ac amserau gwahanol o’r dydd ar hyd a lled y wlad. Pytiau o wybodaeth a brofodd yn ddifyr ac yn fuddiol.
Y diwrnod sy’n allweddol i esbonio’r diddordeb mewn criced yw 30 Gorffennaf 1966. Ar y Sadwrn gwelais gricedwyr Morgannwg yn chwarae yn erbyn India’r Gorllewin. Maes Sain Helen yn Abertawe oedd cyrchfan cerbyd fy nhad. Dyma’r tro cyntaf i mi fynd i gae criced. Antur a hanner. Yr unig beth tebyg a brofais cyn hynny oedd gwibdaith yr Ysgol Sul i Sw Caer.
Mae’n debyg fy mod wedi brasgamu yn awchus i gyfeiriad y fynedfa fel ebol blwydd. Diwrnod bythgofiadwy. Disgrifiad addas o’r profiad a’r mwynhad tra’n gwylio yr agorwr Alan Jones ar ei orau. Sgoriodd gant a chwe deg ac un heb fod allan. Gwefr arbennig oedd gweld y bêl yn hedfan drwy’r awyr cyn glanio ar y teras gerllaw. Ergyd am chwech gan un o fatwyr Morgannwg. Rhyfeddais.
Rhaid cydnabod i’r teledu gyfrannu yn helaeth at feithrin a chynnal y diddordeb yn y gamp yn ystod fy mhrifiant. Darparwyd darllediadau cyson o gemau cartref Morgannwg. O ganlyniad, gwelais fatwyr, bowlwyr a maeswyr wrthi ar leiniau niferus. Dysgais hefyd am ddylanwad tywydd cyfnewidiol ar dynged y chwarae. Meddyliaf am haul crasboeth, cymylau, glaw a stormydd Awst. Gall y tywydd fod yn gwmni da ac yn chwalwr gobeithion bob yn ail.
Mae criced yn llawer mwy na chwarae pêl. Yr iaith fain, yn naturiol, yw y prif gyfrwng ar gyfer deunydd llafar ac ysgrifenedig. Ond yn ystod blynyddoedd olaf y Chwe Degau, gwn fy mod yn ddilynwr brwd, yn benodol, o hynt a helynt
y brodyr o’r Felindre, Alan ac Eifion Jones. Yr oeddent yn siarad Cymraeg. Dyna’r esboniad sylfaenol. Yr ymdeimlad o berthyn. Weithiau mae’n anodd ei ddeall.
Cofiaf gael llyfr o ysgrifau, Chwarae Teg, yn anrheg gan ffrind i’r teulu yr adeg hynny. Bellach, yr oedd modd darllen am griced yn y Gymraeg. Edmygais ymdrech yr awdur sef Howard Lloyd. Cyfrannodd dewiniaid geiriol fel Eic Davies a Carwyn James at gyfoethogi geirfa’r gêm. Daeth y coeswr sgwâr yn ymadrodd cyffredin. Heddiw, gwerthfawrogaf o’r newydd Cricedwyr Cymru gan Howard Lloyd a gyhoeddwyd yn 1984. Ystyriaf hefyd y ddarpariaeth ar deledu’r cyfnod hwnnw ar ôl sefydlu S4C. Uchafbwyntiau o fatiad Viv Richards yn Abertawe a sylwebaeth John Evans yw un o’r perlau a ddaw i’r cof.
Mae’n wir bod hanes criced a gweinyddiaeth y gamp yn gofnod o fyd breintiedig. Treiddiodd bodolaeth yr Ymerodraeth Brydeinig a’r meddylfryd a ddeilliodd o ganlyniad i galonnau cyfran helaeth o’r boblogaeth.
Gan bwyll bach mae mynd ymhell medd yr hen air. Gwelais ddisodli apartheid yn Ne’r Affrig a’r cyfraniad arwrol a wnaed gan y cricedwr Basil D'Oliveira. Ni ellir gorbwysleisio yr erledigaeth a gafodd gwrthwynebwyr apartheid.
Er bod y byd wedi newid yn ddirfawr ers y Sadwrn hwnnw yn 1966, deil criced i roi cryn bleser o bryd i’w gilydd. Arbrofwyd a diwygiwyd ond yr un yw’r gêm yn ei hanfod. A wireddir y dyhead i gyhoeddi geiriau’r Prifardd J M Edwards yn ei gerdd, Y Cricedwr :
Dan y goeden ben-tymor Morgannwg biau’i brig!
Cwestiwn arall i’w ateb, yn gadarnhaol gobeithio, maes o law.
0 notes