#papur wal
Explore tagged Tumblr posts
backgrounds-for-ads · 2 months ago
Text
Prynu delwedd Coeden Nadolig Siôn Corn
Mae tymor y Nadolig yn agosáu, ac mae’n amser i ddod â hud y gŵyl hon i’n prosiectau. Nid oes ffordd well i fynegi’r naws Nadoligaidd na thrwy ddefnyddio delweddau o ansawdd uchel. Os ydych chi’n bwriadu creu cardiau Nadolig, addurno eich cyfryngau cymdeithasol, neu wella’ch deunydd marchnata, rydym yma i gynnig casgliad gwych o ddelweddau ar thema’r Nadolig.
Mae ein casgliad yn cynnwys delweddau sy’n dangos pob elfen draddodiadol o’r Nadolig. Fe welwch goeden Nadolig wedi’i throchi â goleuadau, tirweddau eira, a phennodau teuluol cynnes. Mae pob ddelwedd wedi’i dewis yn ofalus i ddal gwres a llawenydd y Nadolig, gan ychwanegu cyffyrddiad unigryw i’ch prosiectau.
Mae’n hawdd iawn dod o hyd i’r ddelwedd berffaith ar gyfer eich prosiect. P’un a ydych yn chwilio am goed Nadolig traddodiadol, strydoedd eira, neu ddelweddau doniol o Santa, mae gennym ystod eang o opsiynau sy’n eich galluogi i ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch. Gallwch chwilio yn ôl lliw, steil neu thema, gan wneud y broses yn syml ac yn bleserus.
Mae pob un o’n delweddau ar gael mewn fformatau amrywiol ac mewn ansawdd uchel. Mae hyn yn golygu y byddwch yn derbyn delweddau o ansawdd rhagorol, waeth beth yw sut yr ydych yn eu defnyddio - o gyfranogiadau ar gyfryngau cymdeithasol i brintiau mawr, cardiau rhithwir, a deunyddiau hyrwyddo. Bydd ein delweddau’n creu awyrgylch Nadoligaidd ar gyfer unrhyw brosiect.
Mae amrywiaeth y delweddau Nadoligaidd sydd ar gael yn gwneud eich prosiect yn unigryw ac yn wreiddiol. O ddyluniau traddodiadol i rai modern a chreadigol, mae gennym rywbeth i bob chwaeth. Trwy gymysgu a threfnu delweddau gwahanol, gallwch greu’r awyrgylch Nadoligaidd perffaith i chi.
Rydym hefyd yn cynnig delweddau diddorol a gwahanol a fydd yn eich synnu. P’un a ydych yn chwilio am ddelweddau doniol o Santa neu olygfeydd tawel a thawel, mae ein casgliad yn llawn o opsiynau a fydd yn hybu’r naws Nadoligaidd.
Nid yn unig ydym yn cynnig delweddau, ond hefyd llwyfan hawdd ei ddefnyddio. Gall ein defnyddwyr chwilio, dewis a lawrlwytho delweddau gyda chliciau ychydig. Mae gan bob ddelwedd wybodaeth glir am drwydded, sy’n golygu y gallwch eu defnyddio gyda hyder ar gyfer eich prosiectau.
Ydych chi’n meddwl am ddelweddau Nadoligaidd wedi’u personoli? Rydym yn cynnig gwasanaethau personoli sy’n eich galluogi i newid lliwiau, ychwanegu testun a chreu dyluniadau unigryw yn unol â’ch dymuniadau. Mae’r cyfle hwn yn eich galluogi i greu prosiectau sy’n adlewyrchu eich arddull unigryw.
Mae’r cyfnod Nadolig hefyd yn amser i rannu cariad a charedigrwydd. Gall ein delweddau fod yn anrhegion perffaith. Mae hyn yn gyfle gwych i gadw mewn cysylltiad â’ch cwsmeriaid, gweithwyr a phartneriaid drwy roi neges Nadolig arbennig gyda delweddau hardd. Hefyd, gallwch greu atgofion annwyl ar gyfer eich anwyliaid.
Deallwn fod yn bwysig aros o fewn y gyllideb yn ystod y cyfnod gwyliau hwn. Dyna pam rydym yn cynnig prisiau cystadleuol a phosibiliadau prynu hyblyg. Felly gallwch brynu delweddau o ansawdd uchel heb orwystlwyddo eich cyllideb. Gallwch brynu un ddelwedd neu greu cyfanwaith yn ôl anghenion eich prosiect.
Mae ein tîm cymorth cwsmeriaid bob amser ar gael i’ch helpu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am drwyddedau neu os ydych yn cael trafferth dod o hyd i’r ddelwedd berffaith, peidiwch ag oedi i gysylltu â ni. Byddwn yn rhoi’r holl gymorth sydd ei angen arnoch i sicrhau profiad di-dor a phleserus.
Nid yn unig yw ein delweddau Nadoligaidd yn darluniau, ond maent yn dal y teimladau, y cynhesrwydd a’r llawenydd sy’n diffinio’r cyfnod arbennig hwn. Drwy ddefnyddio ein cynnwys gweledol, gallwch rannu hud y Nadolig gyda phawb sy’n gweld eich gwaith.
Peidiwch â cholli’r cyfle i rannu’r llawenydd gwyliau. Dechreuwch heddiw i archwilio ein casgliad o ddelweddau Nadoligaidd a darganfod y delweddau perffaith i ysbrydoli eich prosiectau. Gyda’n amrywiaeth, bydd gennych bopeth sydd ei angen arnoch i greu prosiectau Nadoligaidd cofiadwy.
Gwahoddwn chi i archwilio ein casgliad a phrofi’r creadigrwydd a’r llawenydd y mae ein delweddau Nadoligaidd o ansawdd uchel yn ei gynnig. Boed ar gyfer defnydd personol neu ar gyfer prosiectau masnachol mawr, bydd ein delweddau’n eich ysbrydoli i wneud y Nadolig hwn yn hyd yn oed yn fwy arbennig.
0 notes
meddwlyngymraeg · 2 years ago
Audio
Vocabulary
tomato -> tomato potato -> tatws
dishwasher -> golchwr llestri (golchi -> to wash, llestr(i) -> dish(es)/pot/vessel)
fridge -> ffrij* (*okay I looked it up in a dictionary. Officially, fridge(s) -> oergell(oedd), makes sense, oer -> cold, but I'm asking myself how often I have just used "fridge" in my own language so I'm sure it's fine either way)
wallpaper -> papur wal microwave -> microdon (neu, or, the infamous popti-ping)
moustache -> mwstas computer -> cyfrifiadur
Also, at the start, Elis mirrors Isy singing "I say" by singing "fi'n gweud", which is a southern dialect version meaning "I say" (e.g. the Duolingo/Mynydiad courses use "dwi'n dweud")
54 notes · View notes
olaskoolkitchen · 2 years ago
Link
Ola's Kool Kitchen podcast 472 celebrating 15 years of broadcasting with Horsegirl, Papercuts, Driven Snow, Lunavela, Papur Wal, Holm, SOFI TUKKER, MUNYA & SCALPING
0 notes
musicblogwales · 3 years ago
Video
youtube
Papur Wal - ‘Nol Ac Yn Ol’ (Libertino)
‘Nôl ac yn Ôl’ yw’r sengl olaf i gael ei thynnu oddi ar albwm gyntaf Papur Wal, ‘Amser Mynd Adra’, sydd wedi cael canmoliaeth gan y beirniaid. Mae’n newid cyflymder hudolus o ganeuon egnïol blaenorol y bandiau. Yma maen nhw’n fyfyriol ac yn hiraethus gyda melancoli ‘Nôl ac yn Ôl’ yn lapio'i hun o gwmpas y gwrandäwr wrth i’r alaw ddisgleirio fel sêr yn eangder y gofod.
Mae Papur Wal hefyd wedi recordio ochr B arbennig i gyd-fynd â’r sengl. Roedd 'Anghofio dy Hun (ar fora Dydd Llun)' yn un o’r gân gyntaf iddyn nhw ysgrifennu gyda’i gilydd dros 5 mlynedd yn ôl, fel maen nhw’n esbonio:
“Mae Anghofio dy Hun (ar fora Dydd Llun) yn gân hamddenol yn trafod penderfyniadau gwael a diogrwydd tragwyddol, sy’n dangos er efallai bod tipyn wedi newid o ran sŵn a datblygiad y band ers 2017, bod rhai pethau yn dal i aros yr un fath hefyd.”
‘Nôl ac yn Ôl’ (Backwards and Backwards) is the last single to be taken from Papur Wal’s critically acclaimed debut album ‘Amser Mynd Adra’ (Home Time). It’s a magical change of pace from the bands previous energetic songs. Here they are reflective and wistful with ‘Nôl ac yn Ôl’s’ melancholy enveloping the listener as the melody sparkles like the night stars in the vastness of space.
Papur Wal have also recorded a special B side to accompany the single. 'Anghofio dy Hun (ar fora Dydd Llun)' (Forget yourself (on Monday morning)) was one of the first song they wrote together over 5 years ago, as they explain:
“Anghofio dy Hun (ar fora Dydd Llun)is a laid back song about poor decision making and eternal laziness, which goes to show that while the sound and development of the band may have changed a lot since 2017, some things still remain the same!!"
0 notes
diamonddeposits · 5 years ago
Photo
Tumblr media
PAPUR WAL-MEDDWI AM HI
A frenetic riffed beach pop from Welsh trio Papur Wal. Spirited  Meddwl Am Hi with it’s restless energy and solid vocals has enough power to light a billion light bulbs. 
0 notes
the-end-is-kigh · 4 years ago
Text
wMusic tag - Share 10 songs you’re currently obsessed with 🎵
Thanks @chibsytelford​
1. Jacqueline - Circa Waves
2. Fresh Start - Joan Jett & The Blackhearts
3. Weight In Gold - Sea Girls
4. Lie To Me - Sea Girls
5. Do You Really Wanna Know - Sea Girls
6. Piper Malibu - Papur Wal
7. I’m Not Gonna Teach Your Boyfriend How To Dance With You - Black Kids
8. Lullaby - The Cure
9. Two Doors Down - Mystrey Jets
10. Cemetry Gates - The Smiths
That was harder than I thought it would be haha
Tagging @welt-verbessererin, @gendryafanwhore, @anniephl (hopefully you can do this one ;P) and @mrmiyagislittletrees
2 notes · View notes
instanttunes · 3 years ago
Video
youtube
Papur Wal - Piper Malibu
0 notes
cymdeithasceredigion · 4 years ago
Text
Stori Fer – Storm – Meleri Williams, y Bala (Ffugenw: Catrin Jên)
Y Fflam
           Syllai Meri yn ddig ar ei chymhorthydd yn gollwng y brigau miniog i mewn i’r fflamau cynnes yn dyner, dyner fel petaent yn fflamadwy. Tynnodd ei bysedd oddi yno yn gyflym rhag eu llosgi.  Tân nwy oedd popeth y dyddiau hyn - dim llafurio yn torri coed tân am oriau ar fore Sul, na, pwyso un botwm a’r fflamau ffug yn goleuo yn yr un siâp a’r tro diwethaf, a’r tro cyn hynny.  Dynes y tân nwy oedd Non yn amlwg.  
“Digon cynnas rŵan Mysus Jos?” sgrechiodd Non yng nghlust dechnegol Meri.  
“’Dwi’n clwad yn iawn.” Rhythodd hithau yn ôl arni yn filain, heb droi ei phen i’w chyfeiriad.  Nodiodd Non yn chwithig cyn casglu ei hoffer at ei gilydd yn frysiog.  
“Mr Huws, Pant Lôn yn galw am ei ginio.  Rhaid i mi fynd!” gwaeddodd Non arni.  Atebodd Meri mohoni na throi ei llygaid miniog ‘chwaith.  Caeodd y drws y tu ôl iddi.  
Doedd bywyd ddim fel ag yr oedd o. Teimlai fel ei bod yn llithro i lawr llethr serth y cwm yn ddyddiol cyn cyrraedd y gwaelod heb ffordd o ddringo oddi yno.  Yr un hen drefn bob dydd ers wythnosau.  Bob yfory'r un fath.  Doedd rhyfedd bod pobl yn credu ei bod hi’n wallgof.  Yn doedd eistedd mewn cadair bob dydd o’r flwyddyn yn ddigon i wneud rhywun yn hurt bost?  Ystafell digon plaen oedd hi hefyd o ystyried y gost.  Papur wal gwyn a’r carped patrymog o dan ei thraed yn dangos ôl-traed yr ychydig rai a alwai yno.  Safai’r gadair uchel hon gyferbyn a’r tân, yr unig beth a lenwai’r ystafell.
Poerodd wreichionen felen o’r tân cyn glanio’n ysgafn ar y mat patrymog o flaen sliperi Meri.  Y mat hwnnw a fu gyda hi ar hyd ei hoes.  Llusgodd ei throed yn araf tuag at y wreichionen fel petai cadwynau trymion ynghlwm ynddi.  Sathrodd yn galed.  Tân. Ie, dyna’r cwbl a welai o fore gwyn tan nos.  Tân. Ei gelyn pennaf - tân.  Byddai’n ail fyw'r holl hunllefau ddegau o weithiau bob dydd ar ôl dod yn gaeth i’w chadair fawr.  Er hynny, roedd yn gwmni bron yn y cartref hwn, yn rhywbeth i gofio am ei hanwyliaid...  Trymhaodd ei amrantau.  Goleuai’r fflamau'r tywyllwch du hyd yn oed, yn gysgodion coch yn chwifio yn ei phen. Nid oedd posibl dianc...y fflamau yn felyn… yn oren… yn goch... yn ddu…
“Pen-blwydd hapus i ti, Pen-blwydd hapus i ti, Pen-blwydd hapus i Meri, Pen-blwydd hapus i ti!”  Pedair oed.   Yn doedd amser yn hedfan.  Yno yn ei llaw oedd yr anrheg pen-blwydd gorau erioed - y ddoli harddaf yn y byd i gyd. Siwsi, ei llygaid marblis glas yn serennu a’i gwallt cyrliog du yn fop ar ei phen.  Bu Meri yn treulio oriau ar y tro yn trio gwasgu rholeri gwallt ei mam-gu i’w gwallt syth hi ei hun er mwyn cael bod yn efail i’r ddol.  Methiant fu hynny bob tro gyda Meri yn diweddu yn eistedd ar y stôl gron a’i mam-gu yn tynnu’r rholeri o’r gwrych oedd wedi datblygu ar ei phen.  Ar ôl y pen-blwydd arbennig hwnnw pan gafodd Siwsi yn anrheg, roedd pob un geiniog o’i chynilion yn mynd tuag at ddillad iddi.  Pob un dime goch am dair blynedd.  Prynodd ffrog felfed, goch, laes iddi un tro, tra mai hen ffrog Jen ei chwaer a wisgai Meri. Doedd hynny yn poeni dim arni. Siwsi oedd yn dod gyntaf, y frenhines ddelaf yn y byd a braint i Meri oedd cael bod y fam frenhines falch.    
           Un direidus oedd Jac Gelli, cymydog Meri.  
“Chwarae teg iddo fo am ddod i chwara’ ‘fo ti a saith mlynedd o wahaniaeth oed,” oedd geiriau mam Meri.  Cwyno fyddai ymateb Meri, yn perswadio a phledio ar ei mhâm i beidio ag agor y drws iddo.  Bwli ydoedd yn difetha ac yn baeddu ei theganau. Jac Jiráff fyddai Meri yn ei alw gan ei fod cyn daled â’i thad a’i thaid a byddai hyn yn ei wylltio’n gacwn. Dangos ei hun oedd Jac o flaen Meri'r diwrnod hwnnw pan ddaeth draw i Lwyn Isaf gyda’i degan newydd yn ei law. Taniai Jac y matsis hirion pren fesul un, llosgi ychydig o risgl coeden cyn taflu’r fatsien yn bell i’r cae.  
Dringo’r goeden yn ddiwyd oedd Meri, yn cyrraedd hyd at hanner ffordd cyn neidio i lawr ar ei phengliniau budur.    
“Gad i ni weld pa mor uchel ma’ Siwsi yn gallu dringo Meri?” Chwarddodd Jac yn sbeitlyd.    
“Dydi tywysogesau ddim yn dringo coed Jac, y jiráff.” atebodd Meri fel mam amddiffynnol iddi.  
“Gawn ni weld, ia, pob doli’n gallu hedfan dydi?!” rhuodd Jac yn ôl arni gan afael yn wyllt yng ngwallt perffaith Siwsi oedd yn dynn o dan geseiliau Meri fach.  Methiant fu ei hymdrech oherwydd mewn dim o dro, roedd Siwsi ar y brigyn uchaf, ychydig uwch na phen Jac.  Ymestynnodd Meri’n uchel a gafael yn dynn yn y brigyn a’i ysgwyd yn gandryll ond roedd ei ymdrechion yn ofer.  
Sgrechiodd wrth weld ei ffrind pennaf, ei thywysoges hi, yn sownd wrth y gangen finiog a thwll yn ei ffrog fach, las.
“Cer i nôl hi lawr!” gwaeddodd Meri nerth esgyrn ei phen, a’i dannedd yn gwasgu’n dynn yn ei gwefus gan straen.        
“Rhy hwyr” atebodd Jac yn sbeitlyd gan fynd i’w boced er mwyn tanio matsien.  Ymestynnodd tuag at droed Siwsi ac mewn chwinciad chwannen, roedd Siwsi wedi toddi i fod yn ddim ond hylif oren a du yn gorchuddio’r dail gwyrdd.  Hylif oren a du yn gorchuddio popeth.  Ei phopeth hi yn hylif oren a du.  Rholiodd dwy farblen fach las oedd yn llygaid iddi o ganol yr hylif trwchus…clonc…cyn glanio ar fysedd ei thraed a’i llosgi.  
           Deffrodd Meri gyda naid sydyn.  Symudodd fodiau ei thraed gan wingo.  O’i blaen roedd y tân yn dal i fwydo ar y brigau pren.  Ysgwydodd ei hun gan edrych i lawr ar fysedd ei thraed gan ddisgwyl gweld y graith ond ei sliperi pinc oedd yno diolch byth...  Na, roedd popeth yr un fath, roedd hi’n ôl yn y cartref. Chwalodd ei byd yn deilchion y diwrnod hwnnw a beiodd ei mham am flynyddoedd am y drychineb.  Petai hi wedi stopio Meri rhag chwarae a Jac Gelli byddai popeth yn iawn.  Unig fu ei byd wedyn, nes cael Bob.  Ie Bob… plygodd ei phen wrth i’r atgofion lifo yn ôl.
           Bu fawr neb yn ymweld â Meri ers iddi symud i’r bwthyn yn un ar bymtheg oed, fawr ddim cwmni nes y prynodd Bob.  Roedd Bob, y ci defaid du a gwyn yn fywiog a byddai’n neidio ac yn cyfarth petai’n clywed y mymryn lleiaf o sŵn.  Meiddiai unrhyw un ddod yn agos at ei feistres ef.  Felly oedd pethau i fod, neb i amharu arnynt o fore gwyn tan nos.  Dim ond y nhw eu dau yn gwmni i’w gilydd, ac felly yr oedd pethau am flynyddoedd lawer. Anaml iawn y byddent yn gadael y bwthyn bach - i’r siop unwaith yr wythnos efallai ac yna yn ôl i’w paradwys yng nghyfeiliant sisial yr afon.  Roedd popeth yr oeddent eu hangen o fewn eu gafael, y car bach llwyd, bwyd cartref, tân cynnes a chwmni ei gilydd.  
           Wrth deithio tuag at y dref yn y car un bore oer a gwlyb o hydref, dechreuodd y câr bach dagu a phesychu, pesychu a thagu nes dod i stop ynghanol y ffordd gul.  
“Ceir, dydyn nhw yn dda i ddim i neb” cythruddodd Meri yn flin gan chwipio'r olwyn o’i blaen yn wyllt.  Cytunodd Bob gan gyfarth yn uchel.  Penderfynodd y ddau gerdded am y dref gyda’i gilydd.  
           Ar ôl prynu digon o betrol, blawd, wyau a siwgr, cychwynnodd y ddau yn ôl at y car bach llwyd ar gyrion y dref.  Bwydwyd y car efo ychydig o’r petrol ac yn fodlon eu byd, yn ôl a’r ddau am y bwthyn.  Gosodwyd y bwyd yn daclus yn y pantri mewn rhes unionsyth fel milwyr mewn byddin.  Gosodwyd y tun hanner llawn o betrol ar y llawr teils oer.  
“Pedwar owns o fenyn, pedwar owns o siwgr, pedwar owns o flawd a dau wy, ynte Bob?!” mwmiodd Meri wrth fesur ei chynhwysion cyn eu tywallt yn un llwyth i’w bowlen bren anferth.  Perffaith.  
“Cinio dydd Sul sydd heno Bob, gyda sbwng a digonedd o gwstard poeth i bwdin.” Cyfarthodd Bob yn ddeallus yn ôl arni cyn rhwbio ei ben yn ei chôl drosodd a throsodd cyn rholio ar draws ei thraed creithiog.  Rowliodd nes bod y carped brethyn yn flew du a gwyn drosto.  Neidiodd i fyny tuag at ffedog gotwm goch Meri gan ddal ei freichiau allan er mwyn dawnsio efo hi.  
“I lawr Bob, ‘dwi’n coginio a fydd y bwyd ddim yn barod am o leiaf awr arall a ninnau wedi gwastraffu gymaint o amser gyda’r car,” hisiodd Meri wrtho. Rhoddodd wthiad sydyn iddo gyda’i phenelin nes iddo lanio ar ei ochr ar ben y tun petrol.
BANG! CLEC! BANG! WWWWSH! BANG! Edrychodd Meri’n syn tuag at y tân gwyllt oedd yn rhuo, ei hymennydd yn cael trafferth derbyn y darlun brawychus o’i blaen. Dawnsiai’r fflamau yn wyllt gan ddringo yn uwch ac yn uwch at do’r bwthyn gan ddwyn mwy a mwy o eiddo Meri gyda phob symudiad.  Yn waeth na hynny, yno yn gorff ynghanol fflamau’r gannwyll oedd ei ffrind gorau, Bob. Trodd yn dalp o chwys oer.  
Doedd rhyfedd ei bod yn oer, roedd y tân agored o’i blaen wedi marw.  Marw. Tân.  Marw.  Tân. Dyma ni yn ôl yng nghanol y cylch dieflig unwaith eto, yr hunllefau yn ei thynnu’n ei hôl i ail-fyw'r daith yn ddyddiol.  Bob yfory'r un fath.  Caeodd ei llygaid a gobeithio am amser lle y gallai ddarganfod ffordd allan o waelod y llethr serth hwnnw o anobaith a rhoi cam tuag at dawelwch meddwl pur.  Ie, roedd bywyd fel cwm, i lawr ac yna aros ar waelod y llethr, yn ddiarwybod i neb pryd fyddai’r gwastadir yn dod i ben cyn y byddai’r ddaear yn codi’n falch eto.  Gobeithiodd am yfory gwell..    
“’Dwi’n nôôôl!” Atseiniodd llais Non trwy’r drws agored.  “Mai ‘di oeri yma Mysus Jones, does ‘na ‘m rhyfedd eich bod chi’n crynu! Fe a’i nôl mwy o frigau i losgi rŵan! Fyddwch chi’n gynnas fatha tost wedyn.”  
Plygodd Meri ei phen mewn anobaith llwyr. Roedd yfory wedi cyrraedd ac roedd wedi cael digon.  
0 notes
the-end-is-kigh · 4 years ago
Text
Thank you @chibsytelford​
Last Song - Piper Malibu - Papur Wal
Last Movie - Freddie vs. Jason
Currently Watching - Peaky Blinders, just finished The Handmaids Tale
Currently Reading - Anne of Green Gables, and WAY too much fan fiction. And like another thousand books tbh!
Currently Craving - Nothing really to be honest... unless sunshine counts? Haha
Tagging: @gendryafanwhore​, @myarmadaofshipsandfeels​, @mrmiyagislittletrees​ and @anniephl​
Tag 9 people that you’d like to get to know better / catch up with
Tagged by the lovely @masks-n-steel 💞 thank you!
I'll tag @rise-my-angel @kings-amongst-us @ayakashi-chan @nightlight1219 @dead-by-laurie @sunflowerkaiju @blessedboo @squareehammer
Last song: KARD - Don't Recall
Last movie: trick 'r treat (2007) it was wild lmao but sam is babey (ʃƪ^3^)
Currently watching: nothing. I'm bout to read and then draw (or attempt to)
Currently reading: still mine by amy stuart
(well I have so many books left unfinished jsbdjs I don't think I'm v good at multitasking..)
Currently craving: answers/ideas to my question from yesterday 。:゚(;´∩`;)゚:。
73 notes · View notes
beastpr · 6 years ago
Photo
Tumblr media
#NowPlaying Papur Wal @papurwal - Lle Yn Y Byd Ma Hyn? Allan nawr drwy @LibertinoRecs #DeCymru #EP #Chwarenawr #PapurWal #LibertinoRecs #Recordiau #cerddoriaethcymraeg #Cymru (at Wales) https://www.instagram.com/p/BwAwE8zAM0a/?utm_source=ig_tumblr_share&igshid=je616rovwyuh
0 notes
ioantalfryn · 7 years ago
Text
Angylion Pen Pentan, Diawliaid Pen Ffordd
Tumblr media
Hydref 20fed 2017
Petawn i’n digwydd bod yn darlledu eitemau Munud i Feddwl y mis hwn buaswn yn sicr wedi dewis cyfeirio at achos Harvey Weinstein. Credaf fod y cwestiynau sy’n codi o’r achos hwn yn bellgyrhaeddol iawn o safbwynt tanlinellu’r realiti sy’n wynebu llawer o ferched yn y byd heddiw.  
Dyw agweddau ac ymddygiad rhywiol Harvey Weinstein, yn anffodus, ddim yn unigryw (onid yw Donald Trump wedi’i naddu o’r un graig?) a dyn nhw ddim yn bodoli mewn gwagle.  Maen nhw’n bodoli, yn hytrach, yng nghyd-destun cefnlen eang o agweddau ac ymddygiad siofinistaidd, dilornus tuag at ferched gan ddynion grymus.  Heb y siofinistiaeth ‘feddal’, gefndirol hon fyddai ymddygiad rheibus Weinstein ddim wedi medru parhau cyhyd. (I’r merched hynny sy’n diodde’r math hwn o siofinistiaeth, fodd bynnag, dyw ‘r profiad ddim yn un ‘meddal’ o bell ffordd).  Doedd hi ddim fel petai ymddygiad Weinstein yn gyfrinach i neb.  Fel mae sawl sylwedydd wedi nodi, roedd o’n cuddio’n agored yng ngolau dydd, yn wyneb haul a llygad goleuni.
Yn ystod fy ngyrfa dw i wedi dod ar draws ambell enghraifft o ddynion pwerus oedd yn defnyddio’u safle a’u hawdurdod i geisio manteisio ar ferched di-bŵer.  Ond mae’r achosion o wyrywod alffa sy’n euog o ymddygiad siofinistaidd ‘meddal’, cyffredinol wedi bod yn llawer mwy niferus. A’r peth gwaethaf am hyn yw ei fod yn cael ei dderbyn fel rhan o’r papur wal diwylliannol.
Dyw’r ffaith fod rhywun yn ŵr neu’n dad cariadus ar yr aelwyd ddim yn golygu, ysywaeth, nad yw’r person hwnnw yn medru amlygu agweddau ac ymddygiad siofinistaidd mewn cyd-destun gwahanol.  Mae seicolegwyr yn Harvard wedi dangos yn ddigon clir fod pobl yn medru coleddu safbwyntiau annerbyniol (megis siofinistiaeth neu hiliaeth) yn ddiarwybod iddyn nhw eu hunain serch fod hyn yn ddigon amlwg i bobl o’u cwmpas.  Mae modd cymryd y prawf trwy ddilyn y ddolen isod. 
https://implicit.harvard.edu/implicit/
Mae dynion hefyd yn medru categoreiddio unigolion neu grwpiau o bobl yn rheiny sy’n haeddu cael eu trin gyda pharch a’r rheiny sy’n haeddu cael eu trin yn israddol.  Does ond rhaid ystyried achosion rhai o’r Natsïaid hynny oedd yn mynd i’r gwaith yn un o’r  gwersylloedd difa megis Auschwitz, yn trin eraill yn giaidd ac wedyn yn dod adref i ymddwyn yn wâr ac yn gariadus gyda’u gwragedd a’u plant.  Yn y nofel  Our Man in Havana gan Graham Greene mae’r heddwas Capten Seguro yn esbonio wrth y prif gymeriad Wormold fod ei dad yn perthyn i’r hyn a alwodd yn ‘ddosbarth arteithiadwy’ tra bo eraill, oherwydd eu dosbarth cymdeithasol uwch, yn medru osgoi’r math yna o driniaeth.  I lawer o ddynion mae eu gwragedd a’r merched eu hunain yn perthyn i un grŵp ac yn haeddu cael eu trin mewn ffordd bositif tra bo merched sydd mewn safle israddol iddyn nhw yn y gweithle, er enghraifft, yn perthyn i’r ‘dosbarth arteithiadwy’.  
O’m profiad i mae siofinistiaeth anymwybodol, ‘feddal’ i’w gweld yn eang iawn yn y Gymru Gymraeg sydd ohoni.  Os edrychwch chi ar ambell sefydliad Cymraeg (a gallaf feddwl am un neu ddau yn benodol) maen nhw’n cael eu llywio gan glwb caeëdig o wyrywod alffa tra bo’r merched yn bodoli ar lefel is o ran pwysigrwydd ac yn aml iawn yn cael eu trin fel bodau israddol.   Weithiau bydd merch neu ddwy yn cael eu gwahodd i ymuno â’r clwb gwrywaidd er mwyn talu gwrogaeth arwynebol i gydraddoldeb rhywiol ond mae’r grym yn ddi-os yn aros yn nwylo’r gwrywod.
Tumblr media
Yn aml iawn mae siofinistiaeth o fewn y Gymru Gymraeg yn llai tebygol o gael ei feirniadu’n gyhoeddus na phan mae’n digwydd o fewn cyd-destun Saesneg.  Y rheswm am hynny yw’r awydd i warchod ‘enw da’ sefydliadau sy’n hyrwyddo’r Gymraeg doed a ddelo.  Yr awydd hwn i warchod y Gymraeg sy’n gyfrifol hefyd am yr amharodrwydd sy’n bodoli i feirniadu ymddygiad siofinistaidd unigolion sy’n cael eu hystyried yn ‘Gymry da’.  Cuddiwn y beiau hynny rhag y werin.
Yn ei chân enwog You’re So Vain mae’r gantores Carly Simon yn ailadrodd y llinellau anfarwol “You’re so vain you probably think this song is about you, don’t you. don’t you?” Mae’n bosib y bydd ambell i wyryw alffa yn y Gymru Gymraeg yn meddwl (yn gam neu’n gymwys) fod fy sylwadau yn hyn o lith yn cyfeirio’n benodol atyn nhw.  Os ydyn nhw o’r farn honno ac yn cael eu cythruddo i geisio amddiffyn eu hunain (gyda dicter cyfiawn) neu resymoli eu hymddygiad siofinistaidd iddyn nhw eu hunain dyw hynny ond yn cadarnhau gwirionedd yr hen ddihareb – Yr euog a ffy heb neb yn ei erlid.
0 notes
musicblogwales · 2 years ago
Photo
Tumblr media
Welsh Music Prize 2022 finalists revealed 
The awards shortlist highlights the best talent in the Welsh music industry:  
TODAY, the shortlist for Welsh Music Prize 2022 has been announced, with 15 artists in the running for the prestigious award. Established artists Manic Street Preachers are nominated for their 14th album, along with 8 debut albums from Art School Girlfriend, Breichiau Hir, Buzzard Buzzard Buzzard, Dead Method, Danielle Lewis, L E M F R E C K, Papur Wal and Sywel Nyw. Gwenno's Tresor album, her third, is also nominated for this year’s Mercury Music Prize.  
 Supported by Creative Wales, Welsh Music Prize is an annual award celebrating the best new music created in Wales, by musicians from Wales. Previous editions have seen albums by Gruff Rhys, Gwenno and Boy Azooga win, and last year’s award was given to Inner Song by Kelly Lee Owens, from Flintshire.  The shortlisted albums have been whittled down from a longlist of 130 albums by the Welsh Music Prize jurors, with judges (announced below) now having the difficult task of choosing one of the 15 nominated albums for the coveted prize, and the £10,000 award.  
The 2022 winner will follow in a long succession of artists and albums which have gone on to national and international success. Last year’s winning album, Inner Song by Kelly Lee Owens explored the personal pain of her own struggles, while embracing the beauty of the natural world. Owens was the first recipient of the £10,000 prize, which as well as supporting her musical work, has funded charitable activity in her home of North Wales. She has also released the theme song for next year’s FIFA Women’s World Cup.  
This years’ ceremony at Wales Millennium Centre will be presented by BBC Radio 1 presenter Sian Eleri. For the very first time, the event will welcome a live public audience as part of Llais, Cardiff’s flagship international arts festival, and include performances by some of the shortlisted performers. 
This year the Welsh Music Prize will open Llais, which returns to Cardiff from 26-30th October with an eclectic line-up of international acts including John Cale, Pussy Riot, Cate Le Bon (shortlisted for Welsh Music Prize for her album Pompeii), Death Songbook, Abdullah Ibrahim, Midlake, and black midi.  
The charity Help Musicians will also support three Triskel Awardees to grow further with financial support towards their music and careers of up to £5,000 each. The three Triskel Award winners - Aderyn, Minas and Sage Todz - will receive a £5,000 financial award to assist their careers. The Triskel Awards are given to three artists who judges believe offer a bright future for music in Wales. 
This year, the charity has expanded its support for the emerging Welsh talent with one-to-one application writing support and tailored business skills guidance with music industry experts, reinforcing their long-term career plans.  Huw Stephens said: “This year’s shortlist is a great collection of albums, a huge congratulations to all the shortlisted artists. We are very happy that Creative Wales are supporting the Prize again this year, and it's exciting to be part of Llais at the Wales Millennium Centre.  “We’re also delighted and grateful that Help Musicians have significantly raised their investment to support the three Triskel Awardees with an amazing package to build their careers"  
“Creativity in Wales doesn't stop; music is at the beating heart of Wales and it's great to see another excellent selection of albums highlighted this year.”
Deputy Minister for Arts and Sport, Dawn Bowden, said: “I’m delighted that Creative Wales is supporting the Welsh Music Prize for the fourth year. The shortlist reflects the diversity of genres and artists making such exciting music in Wales today.    “The Welsh Music Prize is a celebration and recognition of excellence and creativity in Welsh Music – and I’d like to congratulate all those shortlisted and we look forward to the winner being revealed later this month.”   
Peter Leathem, Chief Executive Officer at PPL, said: “The Welsh Music Prize is an important celebra-tion of the talent and diversity within the country’s music sector. It recognises renowned talents for their latest work while also championing emerging artists and their equally valuable output.   “PPL is proud to be a long-term supporter of the Welsh Music Prize and to help showcase the coun-try’s best records of the last year. Congratulations to everyone shortlisted.”   
Caroline Hansell, Head of Musicians’ Development at Help Musicians, said: “We’re delighted to be there at the start of the Triskell Awardees’ journey for the fourth year. We understand how challeng-ing financial barriers are to overcome for emerging musicians, especially in current circumstances, which is why we are providing even more support for this year’s winners.   “Funding has become increasingly needed for musicians at all stages, but we know applying for it can be a hurdle in itself, so we’re here to help Aderyn, Minas and Sage Todz build skills that will help them create sustainable careers in music. Congratulations to all the nominees and awardees who contribute so much to Welsh music and beyond.”  
2 notes · View notes
yrysgwrn-blog · 9 years ago
Text
Papur Wal Yr Ysgwrn/ Yr Ysgwrn's Wall Paper.
Papur Wal Yr Ysgwrn/ Yr Ysgwrn’s Wall Paper.
Wyddoch chi taw papur wal cegin Yr Ysgwrn yw un o’r atyniadau sy’n cael ei drafod fwyaf gennych chi ymwelwyr? Wel, dros y misoedd diwethaf dyna mae’r tîm prosiect wedi bod yn ei drafod, hefyd. Mae yna ddylunydd cartref yno ni gyd, yn amlwg! I’r rheiny ohonoch sy heb sylwi, mae’r modd fu’r teulu yn mynd ati i ddylunio’r gegin ychydig yn wahanol i’n ffordd ni heddiw. Yr arferiad yn y cyfnod oedd…
View On WordPress
0 notes
cymdeithasceredigion · 8 years ago
Text
Eisteddfod Gŵyl Dewi Cymdeithas Ceredigion 2017
Y  Buddugolion
  Gwobr Goffa Pat Neil
Cerdd gaeth neu rydd (heb fod dros 40 o linellau) neu ysgrif neu stori fer heb fod dros 2000 o eiriau ar y testun ‘Encil’ neu ‘Encilio’
Gŵyl Gerddoriaieth Gymraeg, Llangrannog, bob haf
Un gronyn o Langrannog a’n try’n ôl i’n Tír na nÓg a’i ogof o atgofion. Yr haf a’r Urdd yw’r fro hon i’n co’, lle bu’r tro i’r traeth yn anadl i’n hunaniaeth - a Bica’n rhoi ei hanwes i ni; lle deuem yn nes trwy fân siarad; bu’n adeg “’da’n gily’ mewn tywy’ teg”. Gennym bu grym geiriau rhydd o gilio at ein gilydd. A Bica’n dal ein hanes, nawr yr Ŵyl sy’n rhoi in wres cwmnïaeth, ar draeth a dry yn wlad drwy adeiladu llwyfan iaith - a llifwn ’n ôl i’r gad, o wlad lai hudol.
Fe fyn ein torf angorfa’n y fan hallt, a’i hufen iâ. Heddiw, mae’n plant ar ’sgwyddau, a’n cân sy’n eu bywiocáu mewn bro sy’n ceincio encil â phob cytgan a chân chwil. Ym Mae’r eigion mor agos, daliwn dir yn hir, hyd nos a dan nesáu, cadwn sŵn yma, heno, lle mynnwn oedi’r haul, rywfaint, dros dro a chael hud y machludo. Nôl a Mla’n (Philippa Gibson)
  Englyn Ysgafn: Athro neu Athrawes
Athro  Cyn-athro Gwyddoniaeth
 Oherwydd rhyw gamgymeriad   - a’n lab 
     Bron dod lawr mewn ffrwydrad,
  Fe yrrom  (yn ddifwriad)     
  Athro fry i ‘dŷ ei Dad’.
 Wedi Elwch Tawelwch (Dai Rees Dafis)
Telyneg: Petheuach
Ers diwrnod ei chynhebrwng
Rwy’n cilio draw bob dydd  
I roddi swp o flodau
Ar ben y crugyn pridd,
Ond methu wnaf yn ddyddiol 
Wrth gyrraedd adre’n ôl
I ddidol yr holl fanion
Adawodd ar ei hôl.
Garmon (Dai Rees Dafis)
Cywydd:  ‘Cymydog’ neu ‘Cymdoges’ (Daeth dau gywydd gan yr un bardd i’r brig!)
Cymydog
O ymyl tref y ‘Brymi’
Daeth fandal i’n hardal ni
Yn ofid i’n cynefin.
Rhyw foi wnaeth ffoi dros y ffin
A dod i roi ei law drom
I wanu pawb ohonom.
Dod i’n seintwar i chwar
A dod ag iaith gydag  e’,
A dod â’i holl  wybodaeth
Er mwyn dysgu’r Cymry caeth,
A dweud am rinweddau da
Ei hunan a’i Fritania.
Ei  Brydeindod  wrthodais,
Casáu  oeddwn sŵn y  Sais. 
Mi es yn llawn emosiwn
I  fygwth yr horwth  hwn,
A’n ddi-wraidd ciliodd y rôg,  -
Ymadael wnaeth cymydog.
Rhys Gethin (Dai Rees Dafis)
Cymdoges  
Mae’r hen lodes drws nesaf
Â'i gwên fel heulwen yr haf,
Un fronnog, nid yw'r Frenni
Hoffus mor siapus â hi.
Un â'i gwallt yn aur i gyd
Yn hofran fel cae hyfryd
O wenith,  un â'i chanol
Yn fain, heb lawer o fol.
Yn amal rhag ei siomi
Yr af i'w chysuro hi.
Niagra o serchowgrwydd
Yn ddiarbed red yn rhwydd.
Y mae'n weithred gyffredin
Dros y ffens ar draws y ffin
I hon dorheulo’n yr haf
Yn dor-noeth i'r darn eithaf.
Dros oror i'm diddori
Arlwy fwy ni welaf i.
 Yn ei hing, pan fo angen
Newid bwlb yn codi'i ben,
Neu gorryn newydd gyrraedd
Ei gwâl a hithau'n rhoi gwaedd -
Daw'r wŷs sy'n fy nenu draw,
Wastad mae'n alwad ddistaw;
Ond mae rhyw nod i 'mywyd
O gael hon i'm galw o hyd:
Waeth rwy'n medru ei helpu hi'n
Wahanol, -  a'i bodloni. 
Willie Drws Nesaf (Dai Rees Dafis)
Cân Ysgafn: Fy Maniffesto i
Uchelgais mawr fy mywyd bod yn Gynghorwr Sir,
Mae gen i'r cymwysterau i gyd a dweud y gwir.
Sef mod i'n eithaf dioglyd a mod i'n brin o sens
A chadw mas o drwbwl, trwy eistedd ar y ffens.
Cyhoeddaf faniffesto yn addo yr holl fyd,
Ac os caf i fy ethol fe'i cadwaf oll i gyd.
Yn gyntaf mae rhaid cofio pe byddwn yn cael cais
I godi ty yn rhywle, fe'i rhoddwn os yn sais
Ac os bydd athro gwanllyd ac awydd gwella'i swydd
Bydd ffowlyn yn fy helpu, gwneud penderfyniad rhwydd.
Bob twll sydd yn yr heol o Mwnt i Ffosyffin,
Gwnaf siwr fod bois y cownsil, yn mynd i dynnu'u llun,
Mae eisiau golau trydan drwy'r pentref coeliwch fi
Gan fod yn wir mawr angen cael lamp o flaen t�� ni.
Rhaid cofio am yr henoed, fe af i ar fy llw,
Rhoi canpunt bob Nadolig, gan mod i'n un o nhw
Fe fyddaf ym mhob pwyllgor, os fydd hi'n bwrw glaw,
Ac os fydd mater pwysig, fe fyddai'n cadw draw 
Mae'n awlwg bydd pob elw yn mynd er lles i chwi,  
Dim ond fod swm sylweddol yn mynd i mhoced i  
Chwi welwch felly mod i yn haeddu cael fy lle,
A chofiwch yn y Leion bydd rhywbeth gwell na te.
Pe digwydd i mi golli, gwnaf gais i'r Cyngor Bro,
A maniffesto newydd, cymerant hwy bob tro.
 Donald Trump (Emyr Davies, Pen-rhiw)
 Parodi ar emyn Watcyn Wyb: “Rwy’n gweld o bell y dydd yn dod”
  Rwy’n gweld o bell y dydd yn dod
Bydd pob cyfandir is y rhod
O’r golwg dan y dŵr.
A holl ynysoedd maith y byd
Yn uno yn un môr i gyd
Yn dawel a di-stŵr.
  Mae holl wyddonwyr mwya’r wlad
Yn llwyr cytûn, a heb nacâd,
Am sail y newid hyn.
A Phen y Fan â’r Bannau Mawr
Yn gofyn pryd y daw yr awr
Ânt hwy o dan y llyn.
Mab y Mynydd (Gareth Evans)
  Llythyr yn gofyn am iawndal
Sea View                                                                  Edityr
Pentrecagal                                                              Western Mail
Wales                                                                       Cardiff
                                                                                Anwil Mr Edityr
Fi’n hala’r llithir hwn atoch chi yn Gwmbrag, so hwnnw’n dda iawn ond ma’n Sisneg i yn wathach.  Fel hyn ma hi, fe weles i adfert yn y Western Mail yn colym y Lonli Harts a feddyles i bod rhywun yn fan ni odd yn siwto fi i’r dim.
 Fi wedi bod yn byw wrth yn hunan os blinidde a meddwl o’n ni bidde câl gwraig yn eitha neis.
 Oedd yr adfyrt yn gweud fod Penlopi yn thryti tw, gwallt hir gole, llygad du a bod hi’n cyrfi. Fe ffones i’r fenyw a fe wedodd y galle i ddod men wthnos.
 Fe es i’n streit i byrnu gwely a fe ges i wely dwbwl newy yn shop secon hand. Achos bod ni’n ddou wedyn fe brynes i bot arall i roi dan y gwely rhag ofan fidde un pot ddim yn ddigon. Odd ise pyjamas arna’i wedyn achos o’n ni ddim wedi gwisgo pethe felny oddi ar bod y pregethwr cwrdde mawr wedi cysgu da fi.  Odd y crys gwlanen yn iawn ond ma fe bach yn fyr yn y ffrynt. Wedyn oedd yn rhaid i fi bapuro’r parlwr a papur dyc ef blw pinc a blode fel dant y llew arno fe.
 Ta beth fe ddath y fenyw gyda Bwcabys a oedd hi’n weddol glir bod i sell by date hi wedi paso os blinidde. Odd ci da hi fyd rhyw fwngrel debyg iddi. Weles i ddim o’i lliged hi achos odd hi’n gwisgo glasis houl a dim ond canol mis Ionawr odd hi. A son am y cyrfs, odd  gida hi ddigon o rheiny ond bod nhw i gyd yn y manne rong.  Ar ol dwarnod fe wedes i wrthi Cyfod dy weli a rhodia a cer nol da’r bys cinta. Ma bach o dreni achos o’n ni’n dachre lico’r ci.
 So chi’n gweld Mr Edityr mod i wedi mynd i lot o goste i gal y fenyw ma pris y ffôn gwely dwbwl pot a papur wal.  Nawr te sa i’n gweld bod rhaid i fi fod yn y golled ma achos bod chi wedi gweud celwidde am y fenyw ma. Fe ise cal condenseshon. Licen i chi setlo yn weddol glou achos ma’r geir wedi beni dedwi.  Os na fiddwch chi’n talu a setlo’r cwbwl ar unweth fe fiddai’n hala Dai Rees Pendre a Emyr Penrhiw draw, dou foi dynsheris.  Peth arall os na fidda i’n cal y shec fidda i byth yn prynu’r Western Mail to a Mr Edityr fe allwch i hwpo fe lan rwle peth cinta bore Llun. Fe wedi hala’r bil miwn gida’r llithir ne fidde’n i’n codi am ddou stamp i chi. Fe dynes i’r papur wal rhydd a mynd nol ag ef i’r shop ond ballodd y boi a rhoi’r arian nol. So Mr Edityr pay up achos fi’n meddwl bod chi yn trwbwl lan hyd ych cesel a nes lan falle.
                                                  Iwyrs Trwli
 Wil
 O.N. Anghofies i weid fod V.A.T. ar y pot a bod hyn yn ecstra ar y bil.
  Wil  (Emyr Davies, Pen-rhiw)
 Erthygl adda i Bapur Bro: “Enwau Ffermydd”
Rydyn ni’n cael ein hatgoffa’n gyson erbyn hyn fod angen cofnodi enwau gwreiddiol tai a ffermydd a lonydd yn ein hardaloedd. Y rheswm, wrth gwrs, yw bod cynifer o’r rheiny’n diflannu o flaen ein trwynau, a ninnau’n gwneud dim ond ysgwyd pen a dwrdio’r rhai sy’n gyfrifol am ddileu neu newid yr enwau gwreiddiol.
Am ryw reswm does dim cymaint o newid bwriadol i’w weld yn digwydd gydag enwau ffermydd. Ai am nad yw ffermydd yn cael eu codi o’r newydd i’r un graddau â thai annedd, efallai? Ynte ai oherwydd mai disgrifio nodweddion y tir y mae’r rhan fwyaf o enwau ffermydd? Tybed?
Gallaf feddwl am lond dwrn o ffermydd sy’n gyfarwydd i ddarllenwyr papur bro y Gambo ac sydd i gyd o fewn rhyw filltir a hanner i’w gilydd, bob un yn disgrifio natur y tir, fel Pant-glas, Rhos-wen, Fron-las, Pant-coch, Dôl-werdd, Llwyn-du, Gors-lwyd. Hynny yw, rhyw fath o ymgais i gyfleu tir gwlyb, sur neu ambell ddarn tir gwell na’i gilydd fel Pant-glas, Fronfelen.
Mewn mannau eraill fe gewch enwau sy’n nodi tyfiant naturiol yr ardal, yn enwedig y coed amlycaf, fel Maesyderi, Rhydonnen, Helyg Fawr/Helyg Fach, Fronfedw, Maesyfedwen, Dolgelynen, Llwyncelyn. Ac wrth geisio cyfleu disgrifiad o leoliad fferm (waeth dyna oedd diben enwi ffermydd gan mwyaf yn wreiddiol), roedd yn bwysig iawn nodi unrhyw nodweddion daearyddol - afonydd a nentydd, bryniau, dolydd, pantiau ac yn y blaen. Cymerwch y ffermydd niferus sydd ar hyd glannau rhai o’r afonydd sy’n llifo i’r môr yng ngwaelod Ceredigion. Rhwng tua Tre-main a’r Ferwig fe welwch Nant-mawr (gwrywaidd, sylwch, nid ‘nant fach’), Nantycroi, Ffynnon-cyff, Ffrwdwenith, Ffynnon-wen, ac ati.
Mae’r gair ‘esgair’ yn eithaf cyfarwydd, hefyd, sef cefnen gymharol uchel o dir, yn cyfateb i ‘ridge’ yn Saesneg. Fe welwch Esgaireithin, Esgaironnen, Blaenresgair, Esgairwilym ar hyd y cwm i lawr i Dre-saith. Sgwn i pwy oedd y Gwilym hwnnw, waeth mae ei enw i’w weld ar fwy nag un tŷ yn ardal Blaen-porth, er enghraifft, Dolwilym, Caerwilym.
Yn aml iawn hefyd fe gewch enwau ffermydd sy’n gwneud dim mwy na dweud yn union beth yw eu lleoliad, fel Dyffryn,Troed-y-rhiw, Penrallt, Pen-lan, Pen-cnwc. Neu eu prif weithgarwch, fel y Felin neu’r Efail.
Ond erbyn hyn dydy pob enw ddim mor hawdd inni geisio’i esbonio. Ymhlith yr enwau ffermydd mewn rhan o gynefin y Gambo fe gewch Canllefaes (Fach a Fawr), sef ‘canllef’ a ‘maes’, Hen air yw ‘canllef’ am frwydyr, felly, maes y frwydr. Heb fod ymhell wedyn mae Cytir Mawr a Cytir Bach. Ystyr ‘cytir’ yw ‘cyd’ a ‘tir’, hynny yw, yr hen arfer o rannu tir yn lleiniau gweddol fach a theuluoedd yn ffermio’u llain eu hunain. Mae Crugmor ym Mhen-parc, wrth gwrs, yn dod o ‘crug mawr’ drwy ddatblygiad naturiol yr iaith. Ac mae Cryngae Mawr ym Mlaenannerch hefyd wedi datblygu’n naturiol o ‘crwn’ a ‘cae’, sy’n rhoi disgrifiad perffaith o natur y fferm yn yr hen ddyddiau. Ond beth yw tarddiad gwreiddiol Castell Pridd a Chastell Nadolig? Fe wyddom nad ystyr bresennol y gair ‘nadolig’ sy yma, ond beth?
Dydy enwau pobol ddim mor gyffredin mewn enwau tai a ffermydd, er eu bod nhw i’w gweld weithiau, er enghraifft, Treddafydd, Castell Hywel, Beddgeraint. Mae Hewl y Bowls ym Mlaen-porth wedi’i henwi ar ôl asiant un o stadau mawr yr ardal, a dywed rhai bod ardal Gogerddan wedi’i henwi ar ôl codi’r Neuadd i ferch Plas Gogerddan ger Aberystwyth ar ei phriodas. Mae yna ddamcaniaeth hefyd fod Lôn y Ladi ym Mlaen-porth wedi’i henwi ar ôl un o ladis y plas.
Mae enwau seintiau ar ffynhonnau yn gyffredin iawn, a ffermydd wedi cymryd yr enwau hynny. Mae yna nifer o enwau diddorol ar ffermydd yn ardal Ponthirwen (neu Ponthirwaun neu Ponthirwern?). Mae rhai ohonyn nhw’n awgrymu eu bod yn gysylltiedig ag arfer y pererinion o deithio o ffynnon i ffynnon ar eu ffordd o’r mynachlogydd, er enghraifft Ystrad Fflur, i Dyddewi, waeth roedd Tyddewi yn ganolfan bwysig ar raddfa genedlaethol yn y blynyddoedd cynnar. Yn wir, roedd dwy bererindod i Dyddewi yn cyfateb i un i Gaersalem fawr ei hun. Mae’r enwau Ffynnongripil a Thafarn y Bugail yn awgrymu bod i’r ffynhonnau hyn rinweddau pwysig iawn i wella afiechydon. Mae Ffynnon-fair, Ffynnon-gog, Ffynnon Fendigaid, Ffynhonnau, Ffynnon-wen a Ffynhonwen yn adnabyddus i bawb, mae’n siŵr.
Er yr holl gyfoeth enwau sydd o’n cwmpas ni bob dydd, a ninnau heb fod yn eu gwerthfawrogi nhw’n llwyr bob amser, efallai, mae’n drist dweud bod rhai hen enwau ffermydd wedi diflannu yn ystod ein cyfnod ni, ddarllenwyr y Gambo, ac yn gwneud hynny o hyd, debyg iawn. Mi fydda i weithiau’n dyfalu pryd aeth hen dyddyn bach y Crucwyn ym Mlaenannerch â’i ben iddo? Roedd yna lôn fach i lawr at y fferm o’r ffordd fawr gyferbyn â’r Capel, ond gan fod y cloddiau wedi’u dymchwel i greu perci mwy o faint, mae’r lôn a’r enw hefyd wedi mynd.   Crug gwyn oedd yr ystyr wreiddiol, mae’n debyg, ac wedi datblygu’n naturiol yn Crucwyn. Ac mae Pwll Melyn ar ben Hewl Tanyreglwys hefyd wedi’i sychu a’r enw wedi diflannu. Ond diolch byth, mae rhai o’r enwau hyn yn parhau yn enwau’r perci.
Chwilotwr (Mary Jones, Hoddnant)
  Cyfansoddi emyn ar gyfer  Cymanfa Ganu Gyd-enwadol 
O gyfeiriad yr ucheldir
Llifa’r nentydd glân i lawr
Gan ymuno gyda’i gilydd
I roi grym i’r afon fawr,
A daw’r afon yn ei thro
I ddiwallu angen bro.
 O gyfeiriad Ebeneser,
Capel Mair a’r eglwys blwy’
Anfon neges mae’r cantorion
Am eu cydweithrediad hwy
Drwy ymuno yn un côr
I glodfori enw’r Iôr. 
Aeron (Dai Rees Dafis)
  Gwobr am y gerdd orau oll: Philippa Gibson (Gw. uchod ‘Gŵyl Gerddoriaeth Gymraeg’)
  Gwobr am y darn o ryddiaith orau oll: Hywel Rees (Gw. isod)
 ENCIL 
Petai Kirsty Young wedi digwydd fy ngwahodd i, yn lle David Beckham, i gymryd rhan yn nathliad pen-blwydd ei rhaglen radio Desert Island Discs yn 75 oed yn ddiweddar, rwy'n siwr y buaswn wedi ei siomi'n arw. 'Bydde'n well gen i aros gatre, diolch yn fowr i chi', fyddai fy ateb.
Nid sarhau yr holwr na'r BBC fyddai fy mwriad, cofiwch, ond, yn fy myw, ni fuaswn yn gweld unrhyw bwrpas o gwbl i fynd i'r ynys ddychmygol a phell honno. A'r rheswm? Mae gen i fy ynys fy hun yn barod. Oes, a fi sydd biau hi – pob darn ohoni. Mae'n rhagori ar ynys Kirsty oherwydd lle real ydyw, man y byddaf yn mynd iddo'n aml ar fy mhen fy hun, ac aros yno heb deimlo unrhyw bang o unigrwydd o gwbl. Anamal y bydd unrhyw un yn tarfu arnaf yno, a chan fod gennyf lond cwpwrdd o ddisgiau, gallaf ddewis unrhyw wyth record o'r pentwr a'u chwarae pryd y mynnaf, a pha mor uchel a fynnaf, yn ôl fy mympwy.
 Sied yw'r ynys. Ac wrth ymgolli yn yr amryfal weithgarwch a wnaf yno y darganfyddaf fy hoff encil. Roedd yr hen Gymmrodorion wedi'i deall hi i'r dim wrth annog yn eu harwyddair: 'Cared doeth yr encil'. Cytunaf â hwy bob gair. 
 Mae'r sied yn agos gyfleus i'r tŷ, lle byddaf yn ymroi i amrywiol waith llaw am oriau lawer – gwaith tra gwahanol i oruchwylion swyddfa y bûm yn ymhel â nhw gydol fy ngyrfa. Efallai mai dyna'r prif reswm paham bod gwaith llaw yn gymaint o bleser i mi. Pwysleisiaf nad dianc yno y byddaf yn ei wneud. Nid noddfa na lloches rhag y byd a'r betws mohoni. Ac nid ceisio llonyddwch gorffenedig yw'r bwriad, chwaith, nac ymhyfrydu yn y mwynder hwnnw y soniodd un bardd mor lesmeiriol amdano wrth gyrraedd canol rhyw gwmwd tawel. Ond pan fydd yr offer ar y fainc, a'r drws wedi'i gau, 'does unlle yn y byd yn well gennyf wrth ymroi'n llwyr i ba dasg bynnag fydd o'm blaen.
 Defnydd gwahanol iawn oedd gennyf i'r sied pan brynais hi. Caban aml-bwrpas ydoedd bryd hynny, lle gallwn i ar teulu fwynhau ymlacio a thorheulo ar y patio y tu allan iddo. Dodrefnwyd ef yn addas hefyd, a phrynwyd gwely bocs a matresi fel bod ein hwyrion bach cyffrous yn gallu cysgu ynddo. Ond o dipyn i beth wrth i hwyl y plant bylu, daeth y lle wedyn yn fan cyfleus i storio'r trugareddau oedd dan-draed yn y tŷ. Y pryd hwnnw, gwelais fy nghyfle. Prynais fainc ac offer trydan i drin metel a phren, a thrawsnewidiwyd y caban yn weithdy. 
   Rwy'n cyfrif fy hun yn fachan digon llawdde o hyd wrth daclo rhai o ryfeddodau technolegol a chyfrifiadurol diweddar y cartref. Ond rhowch i mi fecanwaith bob tro. Mae mecaneg yn rhagori ar gyfrifiaduraeth yn fy marn i.  Hyd yn oed pan oeddwn yn blentyn,  byddwn wrth fy modd yn mynd i berfedd unrhyw ddyfais fecanyddol a ddeuai i'm llaw. Rwy'n credu i mi dynnu'n rhydd beiriannau weindio pob tegan a gefais erioed. A phan oeddwn dipyn yn hŷn dechreuais ymddiddori mewn clociau. Clociau wedi torri oedd rhain, a'r gamp oedd llwyddo i dynnu pob olwyn allan o'r casyn a'u hailosod. Mae'n gamp mor anodd â datrys Ciwb Rubix . Rhaid cyfaddef, serch hynny, imi ddiflasu lawer gwaith wrth ganfod olwyn neu ddwy yn 'sbâr' ar ddiwedd y dasg.
A minnau wedi bod yn gweithio ar bethau mor fân â chlociau, mae'r hyn sydd ar y gweill ar hyn o bryd yn y sied, oherwydd ei faint, yn waith tra gwahanol. Fel hyn y bu: daeth cymydog i'r drws yn ddiweddar a chynnig annisgwyl. A oeddwn am gael ei feic mynydd– am ddim? Roedd wedi diflasu, meddai, o'i weld yn segur yng nghornel ei sied. Gwyddwn ar unwaith bod y cynnig yn fargen heb ei hail.
 O fewn dim o dro roedd y beic yn ei gartref newydd wedi'i lanhau'n lân o'r caglau mwd ystyfnig oedd drosto. Gosodais ef i bwyso y tu allan wrth wal y sied. Roedd yn rhaid cael munud neu ddwy yn awr i'w lawn werthfawrogi. Yn haul y bore pefriai'r fframyn aluminiwm ar sticeri gloyw. Ymestynai'r corn gyrru yn heriol syth fel cyrn tarw, gyda'r set o ddwy gliced bob tu iddo i reoli'r un gêr ar hugain. A dyna'r teiars trwchus, rhychiog: bydd rhain yn barod i wynebu'r llwybrau garwaf ar eu siwrneiau.  Y sedd bigfain wedyn, â'i gwddf hirgul. A'r olwyn gefn - rhyfeddod pennaf y beic gyda chymhlethdod y derailleur, sy'n caniatáu i'r gadwyn lithro o gog i gog i hwyluso'r gwaith pedlo, boed ar riw serth, neu ar ffordd wastad. Yn wir, yn yr haul y bore hwnnw edrychai'r beic mynydd yn hynod o osgeiddig a soffistigedig.
 Cofiais yn sydyn am rybudd fy nghymydog cyn i mi ymadael ag ef yn gynharach.
 'Yr unig nam sy ar y beic 'ma yw bod un sbocen fach wedi torri. Mae'n hongian yn beryglus ar yr olwyn gefen. Bydd yn rhaid i ti dynnu'r teiar bant i fynd ati cyn reidio'r beic'.
 'Jobyn bach hawdd', meddwn i wrtho'n hyderus. 'Fydda i ddim chwinciad wrthi.'
 Ond gwyddwn y cymerai'r gwaith rhai oriau wrth i mi fwynhau ei ddatgymalu'n llwyr ac yna ailosod pob dernyn ohonno yn ȏl – fel yn achos y clociau 'slawer dydd.
 A minnau'n synfyfyrio ar ȏl datod y nyten ar wasier olaf un, cofiais fel byddai Mam wrthi'n gwau siwmper i mi'n blentyn. Byddai'r gweill yn clician, clician yn ddyfal ddi-stop am oriau. Ac yna, sylweddolai iddi wneud camgymeriad bach yn y patrwm. Rhyfeddwn wrth ei gweld yn tynnu'r ddwy weillen allan o'r gwead a datod cannoedd ar gannoedd o bwythau nes dod at y gwall. Yna, heb yngan na 'Drato!' na 'Daro!',  roedd ganddi'r amynedd mawr i ailgydio yn y gwau.
 Mae'n rhaid fy mod i wedi etifeddi'r gynneddf honno gan Mam, oherwydd mae gennyf amynedd Job pan fyddaf yn ymlafnio â gwaith llaw sydd o ddiddordeb i mi. Cyn mynd ymhellach mae'n bwysig fy mod i'n rhoi pwyslais ar y geiriau 'sydd o ddiddordeb i mi', rhag creu camargraff. Y gwir yw fy mod yn greadur digon diamynedd tuag at liaws o weithgareddau beunyddiol, yn enwedig y dyletswyddau bach y gellir yn hawdd eu diystyrru am gyfnod - tan iddynt chwyddo'n broblem fawr gan greu stŵr a diflastod yn y diwedd.
 Wrth gwrs, digwyddai hyn yn aml pan oeddwn yn grwtyn. Gosodai Mam restr o ddyletswyddau i mi i'w cyflawni'n gyson yn y tŷ. Ond ar foreau Sadwrn, pan oedd pob plentyn arall allan yn chwarae, roedd yn rhaid i fi wneud ychydig o siopa iddi. Roedd yn gas gennyf y gwaith. Cas perffaith! Ond, daeth gollyngdod. Un dydd daeth Mair, y ferch drws nesaf, i'r drws a gofyn a garwn gael ei beic am ei bod yn gadael cartre i fod yn fyfyrwraig ym Mangor. Gollyngdod, ddywedes i? Na, roedd hwn yn un o'r digwyddiadau mwyaf cyffrous a brofais ar hyd fy llencyndod.  O'r dydd mawr hwnnw ymlaen, fuodd dim pall ar fy mharodrwydd i nôl negeseuon dros Mam.
 Beic merch oedd beic Mair. Ongl isel y bar oedd y peth amlycaf a wnai'n wahanol i feic dynion. Nid oeddwn yn hoffi'r siâp o gwbl. Gwthiais y Raleigh i mewn i sied Nhad ac euthum ati ar unwaith i'w wneud yn un mwy 'gwrywaidd' yr olwg. Tynnais i ffwrdd y fasged flaen, y gard cadwyn a'r ddau gard olwyn; codais y sedd ryw bum modfedd yn uwch, a datodais y corn â'i handlen uchel a'i droi drosodd fel bod yr handlen yn is o lawer. Roedd yn debycach i feic rasio nawr, ac roeddwn yn fodlon iawn ar ei wedd newydd.
 Bu'r Raleigh a minnau yn gyfeillion anwahanadwy am flynyddoedd. Cariodd fi i bob cwr o'r byd a oedd o fewn cyrraedd i ni ein dau. Bûm yn ei drwsio, ei iro, ei beintio, ei addurno, ac, wrth gwrs, ei ddatgymalu laweroedd o weithiau yn ystod dyddiau gwyn fy llencyndod. A nawr, drigain mlynedd yn ddiweddarach, a minnau heb fod ar gefn un beic yn y cyfamser, dyma fi 'n cael cynnig un arall am ddim am yr eildro.  
 Roeddwn yn hynod gyffrous wrth feddwl am ei reidio. Prysurais i ddodi pob rhan ohonno yn ôl i'w le, ac ymhen dwyawr roedd yn barod. Agorais ddrws y sied a'i hebrwng yn seremonïol allan i'r stryd. Tybed a oedd fy nghymydog yn fy ngweld? Neidiais ar y sedd, ond roedd hi dipyn yn rhy uchel. Hongiai fy nghoesau fel pendiliau cloc. Yn ôl â fi i'r sied i addasu'r uchder.
 Er i mi fod wrthi am hydoedd yn iro, a phwyso a thynnu, nid oedd dim yn tycio. Methais yn lân �� ryddhau gwddf y sedd o'r fframyn. Roedd y rhagolygon yn dduach fyth ar ôl darllen ar y wê taw dyma'r broblem fwyaf a all ddigwydd i feic.
 Deuddydd ar ôl i mi ei adael mewn siop-trwsio-beiciau yn y dre, cyfaddefodd y perchen ei fod yntau hefyd wedi methu rhyddhau'r sedd, oherwydd roedd cyrydu drwg wedi digwydd rhwng peipen ddur y sedd a'r fframyn aluminiwm. Gallai rhagor o nerth bon braich yn y feis hollti'r fframyn a difa'r beic cyfan, meddai. Gwawriodd arnaf na fyddwn byth yn gallu ei reidio â'r sedd mor uchel.
 Ond hynny nid oedd ofid i'm, ys dywedodd y bardd. Onid oeddwn wedi cael mwynhad ohonno'n barod? Ac wedi meddwl, efallai y byddai taclo rhiwiau a llwybrau serth yr ardal wedi bod ormod o her mi. Bydd fy ŵyr pymtheg oed, sy'n dalach na mi, wrth ei fodd yn ei dderbyn yn anrheg gennyf. Cyn hir rwy'n siwr y bydd eisiau glanhau'r beic, a'i drwsio eto, a phryd hynny mi af ag ef yn ôl i lonyddwch fy encil i adnewyddu'r berthynas fer a fu rhyngom. Fe wnaf yn siwr, hefyd, y bydd angen gwneud mwy o waith arno na newid un sbocen fach.
0 notes
musicblogwales · 5 years ago
Audio
Gwrando/Listen: Papur Wal - Piper Malibu (Libertino) 
Allan ar y 13fed o Fawrth, ma Paper Wal yn rhyddhau sengl newydd sbon ‘Piper Malibu’ ar Recordiau Libertino. 
Mae gan Papur Wal y gallu o gyfuno'r dwys a’r emosiynol gydag alawon pop bytholwyrdd.  Mae eu cerddoriaeth wedi cael eu disgrifio fel “pop traeth gyda riffs gwyllt”, fel petai “Dinasour Jr yn ymarfer drws nesaf i The Beach Boys” ac fel ffisig i “gyffredinedd artistig”. Gyda’r ail sengl oddi ar eu halbym cyntaf hirddisgwylieidig wedi ei gynhyrchu gan Kris Jenkins (Cate Le Bon, Super Furry Animals, Gruff Rhys) mae Papur Wal yn plethu harmonïau arfordir gorllewinol Americanaidd, awyrgylch slacyr amharchus o cŵl gyda'u hofnau o hedfan a marwolaeth. Eglura Ianto Gruffydd, prif leisydd y band, gefndir ‘Piper Malibu’: "‘Piper Malibu yw enw’r awyren a fu farw’r peldroediwr Emiliano Sala ynddo. Cafodd y gân ei hysgrifennu’n wreiddiol am ddatblygu ofn o fflio mewn awyren a phethau eraill wrth i ti dyfu’n hŷn. Yn dilyn y newyddion am Sala, gorffennais y gân gan ychwanegu’r cysyniad o’r math o gymdeithas adolygiadol rydym yn byw ynddo, lle tydy pobl ond yn talu sylw i ti ar ôl i ti farw, neu os wyt ti’n enwog ayyb" Bydd fideo cerddiaeth a sengl 'Piper Malibu' yn cael eu rhyddhau 13.03 ar Recordiau Libertino. +++++++++++++++++++++++++++++++++++++
Papur Wal have a gift of combining the profound and the emotional with  timeless pop melodies. They have been described as “frenetic riffed beach pop”, what "Dinosaur Jr rehearsing next door to The Beach Boys would sound like", and an antidote to “artistic mediocrity”. With the second single from their eagerly anticipated debut album, produced by Kris Jenkins (Cate Le Bon, SFA, Gruff Rhys) Papur Wal take us on a journey through fear of flying and death all drenched in West cost harmonies and slacker irreverent cool. Ianto Gruffydd, the band’s singer explains the background of ‘Piper Malibu’ “Piper Malibu is the name of the aircraft that footballer Emiliano Sala died on. The song was initially written about developing a fear of flying and other things as you get older. After the news about Sala, I finished the song and added the dimension about the kind of revisionist culture we live in, and that maybe people only care about you once you die, or if you’re famous etc.” 'Piper Malibu' and its music video will be released 13.03 on Libertino Records.
0 notes
musicblogwales · 7 years ago
Audio
Gwrando: Papur Wal - Siegfried Sassoon
Mae Libertino yn falch o gyhoeddi sengl gyntaf y band Papur Wal. Bydd ‘Siegfried Sassoon’ allan ar Fai 4ydd. Recordiwyd y trac gan Mellt sy’n ffrindiau i Papur Wal a  bydd y sengl hefyd yn cynnwys remix o’r gân gan Pasta Hull - y band funk, psychedelic arbrofol o Ogledd Cymru.
Mae’r sengl yn dod cyn rhyddhau EP uniaith Gymraeg Papur Wal yn ddiweddarach yr haf hwn. EP sydd wedi cael ei recordio gyda Kris Jenkins aka Sir Doufous Styles (SFA, Gruff Rhys, Cate Le Bon, H Hawkline ayb).Dyma beth ddywedodd Ianto Gruffydd, un o gyfansoddwyr y band, am y sengl - 'Dyma'r gan gyntaf wnes i sgwennu ar gyfer Papur Wal. Y tro cynta i fi dabblo mewn tunings alternate o dan ddylanwad Stephen Malkmus a Sonic Youth’.
Mae 'Siegfried Sassoon' yn arddangos deuoliaeth Papur Wal - yr ysgafn a'r dyrys yn cyfuno â'r swnllyd a'r bler - cytganau melodic yn cyferbynnu gyda breakdowns gwallgof. Mae'r gân yn agos a phersonol. Mae’n son am berthynas dau unigolyn penodol, ond gall gael ei gymhwyso i unrhyw un. Mae'r gân yn edrych yn ôl ar hanesion dau yn dod mor agos, y berthynas yn troi'n sur ac nad yw'r ddau yn dda ar gyfer ei gilydd;  er bod y ddau eisiau'r un pethau ac eisiau aros yn agos. 
-------------------------------------------------------------------------------------------
Libertino are proud to announce the release of the first ever single by Papur Wal. ‘Siegfried Sassoon’ will be out on May 4th. Recorded by the band’s friends Mellt, the single will also contain a remix/collaboration of the track with North Wales funk, psychedelic sonic explorers Pasta Hull. It’s quite a journey!
Ianto Gruffydd one of the bands two main songwriters and vocalist says of the single:  "This was the first Papur Wal song. The first I had written under the alternate tuning influence of Stephen Malkmus and Sonic Youth."
'Siegfried Sassoon' shows Papur Wal's dualism, almost bipolar songwriting, one minute light and intricate, the next noisy and raw - melodic choruses combining and contrasting with distorted breakdowns. The song is intimate and personal, sharing experiences between two particular individuals, but the beauty is that the message is a very relatable one, discussing two people becoming so close that relationships and minds turn sour - if only temporarily -  not for the want of trying to avoid this harsh reality, and wanting to stay close; good will only come once they are apart.
Spotify: https://open.spotify.com/album/3sT1MvndfhJan9NKlQpL0T
Deeper: https://www.deezer.com/en/album/62623542
https://www.facebook.com/papurval/
https://twitter.com/papurwal
0 notes