#newyddion cymreig
Explore tagged Tumblr posts
Text
Ymddiheuriadau am y dolennau tabloid (Express, ych a fi) ond nid yw hyn yn cael llawer o sylw. Hollol ffiaidd. Landlordiaid Seisnig yn camddefnyddio tenantiaid Cymreig heb ail feddwl. Creulon, barus, contiau
79 notes
·
View notes
Text
Pum munud gyda... Seiriol Davies
Beth yw’r cynhyrchiad a gafodd yr argraff fwyaf arnoch erioed?
Dwi’n useless yn pigo petha fel hyn, so dwi’m yn mynd i drio pigo un! Oedd y sioeau cerdd oedd Mam a Dad (Eleri Cwyfan a Gareth Glyn) yn neud i blant pan oeddwn i’n fach fach, fel Seren Newydd, yn ddylanwad anferth, wedyn Magdalen nath Dad efo Glanaethwy. A dwi’n cofio llwythi o bits o sioeau o Theatr Fach a Theatr Gwynedd a’r Steddfod pan oeddwn i’n hogyn - dwi’n cofio rhwbath efo Cefin Roberts in drag, efo wal yn cael ei adeiladu dros ganol y llwyfan yn ystod y sioe, a’r gynulleidfa wedi ei rhannu yn ddau, a bob hannar yn gwylio’r hannar arall yn diflannu - i gyd oedd yn ymestyn be oeddwn i’n feddwl oeddat ti’n ‘cael’ neud ar lwyfan.
Wedyn hynna di’r thema wedyn efo y petha sy’n cal yr argraff fwya: petha sy’n ymestyn. O dop ym mhen: Mr Burns gan Anne Washburn yn yr Almeida ma gael y strwythyr mwya anghredadwy o cwl, Eraritjaritjaka gan Heiner Goebbels yn yr EIF (oedd yn dechra efo ty dol ar y llwyfan, ac yn raddol allan ohono fo ddoth, ymysg pethau eraill, dyn, llond llaw o robots, criw camera, mwy o robots, cerddorfa, a thy llawn faint); fersiwn Sam Mendes o Cabaret yn Efrog Newydd (cefn y llwyfan yn dymchwel ar ddiwedd y sioe a mae o’n torri dy galon di) ayyb ayyb. Yn fwy diweddar nesh i weld un chunk o 24-Decade History of Popular Music gan Taylor Mac yn y Barbican, ac os gewch chi gyfle i weld hwnnw, blimey, mae o’n ysgubol: drag angerddol, doniol, gwyllt; sort of deud hanes America o berspectif is-ddiwylliannau a rebals, ar ffurf cyfuniad o ddarlith, sioe gerdd, sioe drag, noson lawen a game show. Flipping gwych.
Eniwe, un o rheina, mwn.
Pan yn ysgrifennu/creu cynnyrch neu sioe newydd, beth sy’n eich ysbrydoli?
Unrhywbeth yn gallu. Sioeau fel yr uchod. Stori gre. Dwi’n mwynhau delio mewn eironi a’r abswrd, a’r amseroedd pan ma’ be da ni’n ddeud yn glir wrthwyneb i be da ni’n feddwl. Felly mae unrhyw newyddion neu stori sy’n amlygu hynny i fi fatha stec amrwd i gi.
Dwi’n licio cyplysu y byd cyffredin efo lefeloedd uchel ffantasi llwyr hefyd, so dwi’n wrth fy modd yn chwara gemau fideo. Mae chwedloniaeth yn ddyfais nathon ni greu i drio neud synnwyr o’r byd banal, so pam ddim dod â’r ddwy lefel at ei gilydd eto.
Plys ti’n cael y costiwms gorau pan ti’n neud hynny.
Pan dwi’n sgwennu rwbath ma rhaid i fi ffindio rhywbeth yn ei graidd o sy’n fy ngwneud i’n anghyffyrddus rywsut: rhyw gwlwm i fi ymladd efo fo drwy’r cymeriada. Gosa dwi’n gneud hynny fedrai’m cysylltu efo unrhyw gymeriad na thema: dwi’m yn credu fod o’n bosib; mae o gyd yn aros yn abstract ac yn ddi-enaid.
Fatha, efo fy sioe nesa i, Milky Peaks, fydd yn agor ar ol y Gofid Mawr, nesh i gychwyn efo cwestiwn o Gymreictod. Gesh i’n magu yn Genedlaetholwr Eisteddfotol “Gormes a Brad” Cymreig, yn sôn am amddiffyn ein ffyrdd ni be bynnag a ddel, mewn termau hollol ddigymleth. Ond wedyn wnes i ffindio fod Nick Griffin, y gwadwr Holocaust ac arweinydd y BNP ar y pryd, wedi symud i fyw i galon Cymru ac yn magu ei blant i siarad Cymraeg, er mwyn osgoi “Prydain Aml-Ddiwylliannol”, gan fod o’n uniaethu efo’n brwydyr ni o “ni versus yr allanwr”. Awtsh roedd hynna’n brifo. Felly roedd sgwennu Milky Peaks yn broses mewn ffordd o drio gweithio’r gwenwyn yna allan o’r sustem, drwy ddelio efo fo.
Ddylswn i ddeud hefyd fod o yn sioe sy’n dunnell o hwyl! All-singing-all-dancing, glitter-yn-ffrwydro-allan-o-doilet, noson allan hwyl. Ma gweithio’r gwenwyn allan yn gallu bod yn reiat!
A oes unrhywbeth cyffrous ar y gweill gennych? Boed yn y dyfodol agos neu pan fydd ein theatrau wedi ailagor?
Ah, so y rhagddywededig Milky Peaks fydd yn agor yn Theatr Clwyd ac yn teithio Cymru cyn gynted gallwn ni ac sydd yn ffab (oeddan ni ar fin agor pan ddaeth lockdown!).
Wedyn amryw i beth arall cyffroes iawn i ddeud gwir, o leia i mi!
Dwi newydd orffan sioe fer hollol wirion yn ystod lockdown i’w gael ei ryddhau arlein gan HOME yn Manceinion a Lime Pictures, o’r enw ActualQuest, sydd yn gêm-rôl ffantasi ti’n chwarae ar dy ffôn, wedi ysbrydoli gan gemau ffantasi fatha Knightmare ar ITV yn y 90au, a gemau bwrdd VHS brilliantly naff fatha Atmosfear.
Dwi’n gweithio ar fersiwn secsi, ffyrnig, angerddol o Branwen fel sioe gerdd efo Cwmni’r Frân Wen, Hanna Jarman ac Elgan Rhys sydd yn mynd i fod yn ês, a pharhau i ddatblygu sioe ddrag am yr Orsedd, yr Eisteddfod a Iolo Morgannwg, Corn Gwlad efo Elgan a Gethin Evans a’r Eisteddfod Genedlaethol, a naethon ni fersiwn ohoni efo cast styning yn Steddfod Llanrwst flywddyn dwytha.
Dwi hefyd yn sgwennu sioe gerdd efo yr actores a dramodydd Maxine Peake ar gyfer y Royal Exchange yn Manceinion, sydd yn lwythi o hwyl.
Beth fyddai eich cyngor i bobl ifanc sy’n dymuno gweithio yn y diwydiant?
Triwch fod yn hyblyg, a thrio pethau. Hyd yn oed os i jyst ddarganfod, drwy brofiad, fod o ddim yn siwtio. Crëwch, hyd yn oed os da chi’n meddwl fod o’n crap, a rhannwch: newch chi ddysgu rwbath amdano chi eich hun. Mae mwy o gyfleoedd yn y byd os allwch chi greu eich cyfleoedd eich hun, a gora po leia da chi’n ista wrth y ffôn (neu be bynnag di’r fersiwn fodern… ista wrth yr internet?) yn disgwyl i rywun ddewis chi.
Mae o’n gyngor blydi frustrating, dwi’n gwbod, ond peidiwch a disgwyl am ganiatâd - ddeith o’n hwyr os ddeith o fyth - ffindiwch allan be da chi isio ddeud a sut i gal o ar draws. Dysgwch o bob profiad. Nesh i lwythi o cabaret cyn gneud fy sioe gynta: ma goroesi ar lwyfan am noson pan ti ddim wedi paratoi ddigon, a ma’r gynulleidfa’n pissed ac isio adloniant, so ma jyst raid ti dynnu rwbath allan o rwla; mae o’n dysgu rwbath i ti, prun ai ti’n llwyddo neu’n bomio!
Yn yr un ffordd ma llenwi ffurflen grant, neu sgwennu copi marchnata ar gyfer dy sioe, yn dysgu ti sut i ddiffinio dy hun a dy lais. Dy nhw byth yn hwyl, ond mae nhw’n werthfawr. A ma gwerth enfawr mewn cal peint efo rhywun sydd efo arbennigedd sgynoch chi ddim o fewn y diwydiant; dylunudd, dramodydd, cerddor, marchnatydd... newch chi weld pethau o agwedd welsoch chi’m o’r blaen.
Aroswch yn agored i’r byd; mae ymateb gonest, gloyw rhywun i’r byd yn lot mwy diddorol na thybiannau o dy fewn eu pen.
Helpwch eich gilydd; mae na rymoedd o fewn cymdeithas sydd yn gneud bywyd yn anoddach i rai nac eraill, ac mae’n bwysig neud be bynnag bosib i wrth-neud hynny.
O, a, lle’n bosib, triwch peidio cytuno i weithio i rywun am ddim os oes pres ganddyn nhw. Ddylsa nhw ddim cael get awê.
0 notes
Link
Bydd cofnodion hanesyddol gan ymwelwyr o Ewrop i Gymru’r gorffennol ar gael i ymwelwyr Ewropeaidd y dyfodol, drwy wefan newydd sydd i’w chwblhau'r flwyddyn nesaf.
Bydd arian dilynol gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) yn galluogi i ymchwilwyr sy’n gweithio ar broject llwyddiannus ‘Teithwyr Ewropeaidd i Gymru’ rannu peth o’r ysgrifau taith hanesyddol y maent wedi eu darganfod gyda thwristiaid i Gymru’r oes hon. Gwneir y gwaith dan arweinyddiaeth Prifysgol Bangor, gyda Phrifysgol Abertawe a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, ac mewn cydweithrediad â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Visit Wales. Ar ôl cwblhau’r gwaith, bydd ymwelwyr i Gymru yn medru dilyn ôl traed ymwelwyr o’r gorffennol gan ddilyn teithiau awgrymedig, gan ddarllen eu geiriau a hefyd gweld darluniau hanesyddol o gasgliad Y Comisiwn Brenhinol a chasgliadau eraill.
- See more at: https://www.bangor.ac.uk/news/diweddaraf/cipolwg-ar-y-gorffennol-i-dwristiaid-o-ewrop-32459#sthash.uwQtUAdn.dpuf
#Wales#Cymru#newyddion#news coverage#teithwyr Ewropeaidd#European travellers#project update#prosiect#cydweithrediad#Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru#Visit Wales
0 notes
Text
Siŵr, Jan 🙄 bob amser gyda'r gorthrwm dychmygol hwn. Cael dadl newydd os gwelwch chi'n dda, saes
2 notes
·
View notes
Text
0 notes