#gwleidyddiaeth Cymreig
Explore tagged Tumblr posts
escxelle · 5 months ago
Text
WE DID IT !!!! NOT A SINGLE TORY OR REFORM SEAT IN THE WHOLE COUNTRY !!! CYMRU AM BYTH 💪🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 RAHHHH 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🫶
Tumblr media
we will worry about the labour majority later but for now we ride !!!!
(fyi the green seats are plaid cymru not the green party)
578 notes · View notes
mariocki · 2 years ago
Text
Tumblr media
2 notes · View notes
licollyfrelot · 6 years ago
Text
Codi Llais
Tumblr media
Codi Llais: Bywyd merched yng Nghymru heddiw Menna Machreth (gol.) (Y Lolfa, 2018)
“We should all be feminists”: neges yr awdur Chimamanda Ngozi Adichie yn ei Ted Talk o 2012. Mae’r cyflwyniad gwych hwn, a gyhoeddwyd yn hwyrach fel llyfr, yn mynd i’r afael â diffinio ffeministiaeth i’r unfed ganrif ar hugain, ac yn dadlau fod angen i bawb i ddiffinio eu hunain fel ffeministiaid, er mwyn i ni gyrraedd gwir gydraddoldeb. Ers cyhoeddiad y fideo, mae cyfrolau, podlediadau, a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol wedi ymddangos fel rhan o’r bedwaredd don o ffeministiaeth. Gweler bodlediad The Guilty Feminist gyda Deborah Frances-White, y cyfri twitter Everyday Sexism sydd wedi arwain at ddau lyfr gan y sefydlydd Laura Bates, a’r gyfrol ddiweddar Feminists Don’t Wear Pink (and Other Lies) gan Scarlett Curtis, i enwi rhai yn unig. Mae Codi Llais yn rhan o’r canon cyffrous hwn, yn cyflwyno yr ‘F-word’ i’r cyfryngau prif ffrwd.
Casgliad o ysgrifau a geir yn Codi Llais rhan fwya, gydag ambell stori fer a chyfweliad yn y mics hefyd. Agorir y gyfrol gyda chyflwyniad difyr gan y golygydd Menna Machreth, sy’n pwysleisio perthnasedd y pynciau a drafodwyd i gyd i’r Gymru sydd ohoni ac i’r menywod sy’n byw ynddi. Mae’r gyfrol yn rhoi sylw i nifer o wahanol feysydd: gwleidyddiaeth, gweithredaeth (activism), cerddoriaeth, newyddiaduraeth a mamolaeth, i nodi rhai yn unig, ac mae’r ymgais i gynnwys profiadau cymaint o wahanol fenywod Cymreig a phosib yn amlwg, ac i mi, yn talu ar ei ganfed. Mae amrywiaeth yn rinwedd gwerthfawr i’n cymdeithas, a rhoi platfform i leisiau o wahanol gefndiroedd a phrofiadau yn angenrheidiol.
Cyfeiriais uchod at y ffeministiaeth prif ffrwd sy’n datblygu ar draws bob cyfrwng ar hyn o bryd, ac un o’r enghreifftiau o hyn yw #MeToo. Caiff y symudiad hwn, a ymddangosodd ar wefan Twitter ym mis Hydref 2017, ei grybwyll gan Machreth yn ei chyflwyniad, wrth iddi gyferio at y pwer a roddodd yr hashnod i bobl o bob math i rannu eu profiadau. Mae nifer o’r dynion a enwyd bellach yn cael eu herlid am eu gweithredoedd, a nifer o adroddiadau o aflonyddu rhywiol yn dal i ddod i’r fei. Cysyllta hyn yn uniongyrchol gydag ysgrif Elliw Gwawr, sy’n trafod gweithio yn San Steffan fel newyddiadurwr, gan gyfeirio at fwy nag un achos lle y bu’n rhaid iddi ddelio gyda gwleidydd yn ymddwyn yn “amhriodol” tuag ati. Mae’r byd gwleidyddol, sy’n llawn ego, statws, a chystadlu am rym a phwer, dywed, yn gallu bod yn gartref cysurus i bobl digon annymunol sy’n gweld rhyw a phŵer rhywiol fel ffordd arall o ymdrin a dylanwadu ar bobl. Er hyn, mae hi’n pwysleisio nad pob gwleidydd gwrywaidd sydd fel hyn o bell ffordd, a fod y rhan helaeth ohonynt yn trin menywod yn y gweithle fel y dylsent: fel pobl broffesiynol sy’n gweithio’n galed. Daw’r datrysiad, meddai, o ethol mwy o fenywod, ond er mwyn annog mwy o fenywod i ymgymryd â’r byd gwleidyddol, rhaid wrth gwrs sicrhau ei fod yn le croesawgar iddyn nhw. Fel y mae Elin Jones AS yn cydnabod yn ei hysgrif hithau, digon hawdd yw meddwl am wleidyddion benywaidd dylanwadol, ond dywed nad oedd yr un o’r enwau y mae hi’n eu rhestru wedi bod yn ddylanwad arni hi yn bersonol wrth iddi ddechrau diddori mewn gwleidyddiaeth. Yn ei hysgrif mae hi’n dathlu a chydnabod yr holl fenywod o bob plaid y mae hi wedi gweithio gyda nhw’n bersonol, ac mae hynny yn rhywbeth gwerthfawr: nid cystadlu pleidiol yw’r pwyslais, ond parch a chydweithio, hyd yn oed pan fo unigolion yn anghytuno. Mae na wers yn fynna i bawb, ddim jyst i wleidyddion!
Uchafbwynt arall i mi yn y gyfrol hon oedd ysgrif Rhiannon Marks, wrth iddi ysgrifennu at ei merch am y byd y mae’n gobeithio y bydd iddi hi. Mae diddordeb ei babi mewn llyfrau yn sbarduno myfyrdod ar yr holl lyfrau y bydd y fechan yn darllen ar hyd ei hoes, a’r byd llenyddol benywaidd fel y mae’n sefyll heddiw. Gobeithia Marks y bydd ei merch yn cael cymaint o flas ar sgwennu’r menywod a ddaeth o’i blaen ag a gafodd ei mam, tra’n cyffwrdd hefyd ar gysyniad cymdeithas o rhywedd sy’n esblygu ac yn bwnc trafod diddorol ar hyn o bryd. Yn fwy na dim, dywed, cyflwyna i’w merch y rhyddid i wneud ei phenderfyniadau ei hun. Dyma ddatganiad pwerus yn wyneb canrifoedd o orthrwm ar fenywod.
Un darn ffuglennol a geir yn y gyfrol, sef stori fer Siân Harries, Y Dihuno. Mae’r stori, dwi’n amau dim, yn tynnu ar ei phrofiad personol mewn stafell sgwennu, lle mae’r stafell yn llawn o ddynion a hithau’n brwydro iddynt glywed ei llais. Mae hi’n stori ddoniol ac ysgafn o ran tôn, sydd yn cuddio nodyn mwy difrifol o phwysig oddi mewn. Gwnaeth uchafbwynt y stori i mi chwerthin dipyn, a dwi’n edmygu cymeriad Megan yn fawr am gael y gyts i godi ei llais, a dweud y peth dwi’n siwr ma gymaint o fenywod wedi teimlo dweud mewn stafell llawn dynion. PERIOD.
Fel sy’n amlwg, mae’r gyfrol yn newid rhwng y dwys a’r doniol, yr ysgafn a’r difrifol: ac mae na bynciau eitha’ dyrys yn cael eu codi. Mae ysgrif Lisa Angharad, er enghraifft, yn mynd i’r afael â phwnc anodd i’w drafod, wrth iddi drafod datblygu addysg rhyw mewn ysgolion i drafod porn a chaniatâd. Mae caniatâd yn bwnc sydd wedi bod yn fy meddwl yn ddiweddar, wrth i mi wrando ar gyfres fechan y podlediad Radiolab o’r enw ‘In the No’, sy’n trafod hyn mewn ffordd ddidwyll gan beri i rhywun feddwl eto am yr hyn maen nhw’n ei gredu. Un o’r pethau sy’n fy nharo i wrth ystyried y pwnc yma, ac yn wir ystyried y gyfrol yn ei chyfanrwydd, yw sut mae popeth yn gysylltiedig, a sut y mae’r strwythur batriarchaidd yn cael effaith andwyol neu anffafriol ar fenywod (a dynion!) ymhob agwedd o’n bywydau. Yn yr achos benodol hon, mae’r pwysau cymhleth ar fenywod i fod ar yr un llaw yn ddeniadol, a mesur eu gwerth yn ôl y modd y mae dynion yn eu gweld (awgrym ar gyfer the male gaze plis - y drem wrywaidd?!), ac ar y llaw arall i aros yn ‘bur’ ac yn wyryfol. Mae’r pwysau hyn, ynghyd â‘r delweddau fwyfwy graffig ac eithafol y mae pobl ifanc yn eu gweld arlein - ffilmiau yn llawn menywod sydd byth ddim eisiau - yn creu disgwyliadau a norms afrealistig, a pwysig iawn yw eu trafod, er gwaetha (ac yn wir oherwydd) yr awks factor.
Mae’r cwestiynau cymhleth hyn, a’r ffaith fod strwythur batriarchaidd ein cymdeithas yn cyffwrdd pob rhan o’n bywydau ni i gyd, yn cael ei adlewyrchu yn amrywiaeth y gyfrol hon. Er na fwynheais i bob ysgrif gymaint â rhai eraill, mae pob un yn haeddu’i lle ac yn cynnig rhyw safbwynt ychydig yn wahanol ar greadur amlochrog a chymhleth ffeministiaeth fodern. Dyma gyfrol werthfawr sy’n dangos fod y profiad o fod yn fenyw Gymreig a Chymraeg yn un sy’n haeddu cael lle yn nhon ddiweddaraf ffeministiaeth.
0 notes
drudwen · 6 years ago
Text
Annie Powell
Tumblr media
Ganwyd Annie Powell yn mis Medi 1906, yn y Rhondda. Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Ramadeg Pentre. Datblygodd ei diddordeb mewn gwleidyddiaeth yn ystod ei chyfnod yng Ngholeg Hyfforddi Glamorgan yn yr 1920au.
Hyfforddodd fel athrawes yn ystod cyfnod y Streic yn 1926, a phan gychwynnodd ddysgu yn Nhrebanog, gwelodd raddfa’r dlodi oedd yno.
Ymunodd â’r Blaid Lafur, ond roedd egwyddorau’r Blaid Gomiwnyddol yn well ganddi. Er ei bod wedi cael magwraeth grefyddol anghydffurfiol, ymunodd â Phlaid Gomiwnyddol Prydain Fawr (CPGB) yn 1938.
Roedd Powell yn athrawes Gymraeg oedd yn siarad y Gymraeg fel iaith gyntaf. Fe ddaeth yn weithgar yn Undeb Cenedlaethol yr Athrawon, a safodd mewn sawl etholiad gyffredinol yn nwyrain y Rhondda dros y CPGB yn 1955. Yn etholiad cyffredinol 1959 sicrhaodd Annie Powell 4580 o bleidleisiau. Eisteddodd ar bwyllgor Cymreig, a phwyllgor menywod y CPGB. Yn ôl pob sôn, cyfarfu hi â Nikita Khrushev mewn cenhadledd pleidiau Comiwnyddol yn Moscow.
Yn 1955, wedi iddi drio 13eg o weithiau, etholwyd Annie Powell yn gynghorydd Comiwnyddol ar gyfer Penygraig. Collodd hi’r sedd yn 1957. Yn 1961, fe’i hail-etholwyd hi’n gynghorydd yn y Rhondda. Roedd hi’n aelod o’r cyngor am yr 20 mlynedd nesaf, ac yn 1979 penodwyd hi’n Faer.
Bu farw ar y 29ain o Awst 1986, yn 79 mlwydd oed. Darllen Pellach:
https://www.nytimes.com/1986/08/29/obituaries/annie-powell.html
Communist Fortnightly Review, Volume 5 – Central Books Limited, 1967.
A New Kind of Bleak: Journeys through Urban Britain – Owen Hatherley. p236-7
 The Companion Guide to Wales – David Barnes. P154 
https://cy.wikipedia.org/wiki/Annie_Powell
https://web.archive.org/web/20060713113822/http://graham.thewebtailor.co.uk/archives/000088.html E. Lois yw arlunydd Rhithganfyddiad, Crysau T Golau Arall, ac arlunydd a churadur Prosiect Drudwen.
0 notes
pontiobangor · 7 years ago
Text
Gŵyl Cymru-Tsieina i gael ei chynnal yn Pontio, Bangor
Tumblr media
Bydd Gŵyl newydd wedi ei chynhyrchu a’i churadu gan Gwmni Theatr Invertigo a Pontio yn cael ei chynnal yn ystod penwythnos dathliadau blwyddyn newydd Tsieina (16-18 Chwefror 2018), a bydd yn archwilio’r cysylltiadau creadigol rhwng Cymru a Tsieina.
Bydd perfformiadau eclectig, digwyddiadau, ffilmiau, bwydlen arbennig Tsieinïaidd ym mwyty Gorad a gweithgareddau addas i’r teulu yn arddangos diwylliannau, ieithoedd a chelf y ddwy wlad. Y cyntaf o’i bath; bydd yr ŵyl amlieithog hon yn cynnig llwyfan i straeon newydd ac yn galluogi cydweithio rhwng cerddorion, dramodwyr ac artistiaid Cymraeg a Tsieineaidd.
Caiff Gwyl Cymru-Tsieina ei gefnogi gan nawdd loteri drwy Cyngor Celfyddydau Cymru ac mae’r partneriaid yn cynnwys Pontio, Cwmni Theatr Invertigo, Sefydliad Confucius Bangor, Coleg Menai, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Prifysgol Bangor a Chymdeithas Myfyrwyr ac Ysgolheigion Tsieiniaidd Prifysgol Bangor.
Ymysg uchafbwyntiau’r Wyl mae:
Cabaret Pontio: The Gentle Good yn perfformio eu halbwm arobryn (Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2014), Y Bardd Anfarwol, gyda’r cerddor Tsieineaidd lleol, Zining Wang – gan blethu synau gwerin Celtaidd a Tsieineaidd i adrodd straeon hudolus am y bardd Tsieineaidd o’r 8fed ganrif.
Tumblr media
Darlleniad prynhawn gan Francesca Rhydderch o’i nofel arobryn (a Llyfr y Flwyddyn 2014) The Rice Paper Diaries, wedi ei ysbrydoli gan daith ei theulu o Hong Kong yn 1940 i bentref arfordirol yng Nghymru. Yn ymuno â Francesca am sgwrs fydd Yan Ying, sydd newydd gyhoeddi ei chyfieithiad o’r llyfr i’r Mandarin.
House of Absolute yn perfformio eu dawns ddiweddaraf, Orlando Warrior, i gerddoriaeth fyw, gan archwilio hunaniaeth groesryw drwy chwedl fodern Mu-Lan a chrefft ymladd wu-shu.
Tumblr media
House of Absolute - Orlando Warrior 
Llun: Zsuzsa Zicho
Steffan Donnelly yn cyflwyno ei addasiad o ddrama Hao Jingfang Lladron a Llanc, golwg byd-eang trawiadol ar anghydraddoldeb mewn cymdeithas fodern. Hao Jingfang yw’r fenyw Asiaidd gyntaf i ennill Gwobr Hugo yn 2016 am ei nofel fer Folding Beijing (mewn cystadleuaeth yn erbyn Stephen King!).
Tumblr media
Llun: Douglas Hook
Gosodiad sain, Cysylltiadau - dyma gyfle i gynulleidfaoedd glywed straeon ac atgofion y gymuned Cymru-Tsieina leol, wedi ei greu yn arbennig ar gyfer yr Wyl gan y cynllunydd sain Jethro Cooke a’r ffotograffydd lleol Karolina Konior.
Bydd yr ŵyl hefyd yn cynnwys amrywiaeth o weithdai a digwyddiadau am ddim i’r cyhoedd mewn partneriaeth â Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor, gan gynnwys arddangosfa o Tai Chi yn man perfformio tu allan Pontio ar lefel 2, Cerddoriaeth Tsieinïaidd ar y bont ger bwyty Gorad, gweithdai caligraffi Tsieinïaidd, Paentio Masgiau Opera Beijing, Seremoni De Tsieinïaidd a Dawns y Ddraig liwgar. Bydd cynllun cyfranogi Pontio i bobl ifanc, BLAS, hefyd yn perfformio darn ar y safle wedi ei ysbrydoli gan lên gwerin Cymru a Tsieina. Ar dydd gwener cyntaf yr Wyl, bydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn cynnal gweithdy i’r diwydiannau celfyddydol a chreadigol am Weithio yn Tsieina.
Bydd celf weledol hefyd yn cael lle blaenllaw, gydag artistiaid o Gwrs Sylfaen Celf Coleg Menai yn ymateb i’r thema, animeiddiadau Catrin Davies ar y sgriniau digidol a première comisiwn cyntaf ‘Wal Wen’ Pontio, tafluniad digidol ar wal wen enfawr cyntedd Pontio o’r enw ‘Cydbwyso Rhwng Dwy Ddraig’ gan yr artist Ronan Devlin.
Fel rhan o’r Wyl, bydd Sinema Pontio yn dangos nifer o ffilmiau wedi eu dewis yn arbennig ar gyfer yr achlysur, gan gynnwys clasur Disney Mulan, y stori serch Mountains May Depart, y ffantasi epig The Great Wall mewn 3D, rhaglen ddogfen flasus am fwyd Tsieina A Bite of China a ffilm ddiweddaraf Ai Weiwei am yr argyfwng ffoaduriaid rhyngwladol, wedi ei saethu dros 23 gwlad, Human Flow. Dim ond £5 yw cost bob ffilm.
Mae poblogaeth Prydain-Tsieina fawr ym Mangor a’r ardal leol, ac mae 700 o fyfyrwyr o Tsieina yn cofrestru i astudio yn y Brifysgol bob blwyddyn. Mae gan y Brifysgol ei champws ei hun yn ninas Changsha, Hunan ac mae Cymdeithas Tsieina Gogledd Cymru a Sefydliad Confucius hefyd wedi eu lleoli yn y ddinas.
Dywedodd Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Invertigo, “Mae’n arbrawf uchelgeisiol i daflu’r holl ffurfiau celfyddyd at ei gilydd (o ddawns i gelf ddigidol), ieithoedd (Cymraeg, Mandarin, Saesneg, Cantoneg), gwahanol syniadau a materion cenedlaethol – gan wneud iddynt ryngweithio o dan un to. Bydd yn addysgiadol, yn lot o hwyl ac o bosib yn eithaf syfrdanol. Mae curadu a chynhyrchu’r ŵyl hon gyda Pontio, gan weithio gydag artistiaid gwirioneddol dalentog, y cymunedau lleol a myfyrwyr Tsieineaidd Prifysgol Bangor, wedi fy atgoffa o’r pleser sydd i’w gael o ddarganfod ein gilydd, a phwysigrwydd rhannu ein safbwyntiau aml-ddiwylliant. Mae hefyd wedi gwneud i mi sylwi bod sŵn gwleidyddiaeth yn boddi pobl a’u realaeth. Y gobaith yw y bydd yr ŵyl hon yn rhoi sylw a ffocws ar bobl.”
Ychwanegodd Elen ap Robert, Cyfarwyddwr Artistig Pontio, “Wrth galon ethos Pontio mae pontio bydoedd gwahanol, rhwng diwylliannau a rhwng cymunedau ac felly mae’n briodol ein bod yn cyd-guradu tridiau o gyfnewid diwylliannol Cymru-Tsieina. Mae’n arbennig o gyffrous i ni ein bod yn gwneud hynny gyda’r cwmni arloesol Invertigo, ein cwmni cysylltiol cyntaf a hynny yn ystod yn ein hail flwyddyn fel partneriaid. Mae’r ŵyl yn addo i fod yn un gyffrous fydd yn archwilio’r cyfnewid rhwng dau ddiwylliant cwbl wahanol, a bydd tîm Artistig Pontio yn dod a’u meysydd arbenigedd i’r parti – mewn ffilm, celf ddigidol, creadigrwydd technegol a chymryd rhan mewn perfformiadau. Bydd rhywbeth i bawb – teuluoedd, myfyrwyr a’r gymuned leol. Trwy archwilio’r posibiliadau o ran bwydydd gyda chydweithrediad ein myfyrwyr Tsieineaidd a bwyty Gorad, bydd bwyd Tsieineaidd hefyd ar gael, canolbwynt i unrhyw ddathliadau Tsieineaidd – efallai y bydd tro Cymreig arno hefyd!”
Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro John Hughes: “Rwy’n hynod o gyffrous am sefydliad yr Ŵyl Cymru-Tsieina uchelgeisiol hon gyda’i ymdriniaeth ffres a beiddgar o gyfnewid diwylliannol – mae’n ddigwyddiad sydd i’w groesawu fel rhan o arlwy Pontio.”
I weld yr amserlen gyfan, ewch i www.pontio.co.uka’r wefan meicro Cymru-Tsieina, ffoniwch 01248 38 28 28 neu gallwch bigo taflen i fyny o’r swyddfa docynnau.
0 notes
wcva · 7 years ago
Text
Gwaith Ieuenctid yng Nghymru - CWVYS yn troi’n 70
Tumblr media
Keith Towler, Cadeirydd CWVYS (Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol) yn trafod gorffennol, presennol a dyfodol y mudiad, a ‘chymunedau cryf’ mewn perthynas â gwaith ieuenctid.
Mae 2017 yn flwyddyn arwyddocaol iawn i CWVYS. Mae nid yn unig yn nodi pen-blwydd arwyddocaol ond hefyd yn argoeli i fod y flwyddyn y bydd siâp gwaith ieuenctid yng Nghymru yn cael ei osod a'i gadarnhau ar gyfer cenedlaethau pobl ifanc y dyfodol.
Pan i mi gytuno i fod yn Gadeirydd annibynnol CWVYS, roeddwn yn ymwybodol bod hwn yn fudiad gyda hanes hir a llewyrchus, mudiad sydd erioed wedi bod, ac y dylai parhau i fod, yn rhan bwysig o waith ieuenctid yng Nghymru. Dim pwysau felly i fod yn Gadeirydd pan fo rhai rhannau o'r aelodaeth, yn ogystal â CWVYS ei  hun, yn wynebu nifer o heriau yn y cyfnodau anodd hyn. Mae geiriau fel 'cynaladwyedd', 'ariannu' a 'goroesi' wedi dominyddu nifer o'n trafodaethau eleni.
Fe ddeilliodd CWVYS o'r gynhadledd sefydlog ar gyfer gwasanaethau ieuenctid gwirfoddol Cymru fel y corff ymbarél ar gyfer gwasanaethau ieuenctid gwirfoddol. Gellir dweud bod gwasanaethau ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru a Lloegr wedi cychwyn cyn belled yn ôl â'r bedwaredd ganrif ar bymtheg gyda Ragged Schools. Ysgolion am ddim oedd y rhain a oedd yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr ac wedi'u hanelu at bobl ifanc nad oedd yn gallu cael mynediad at fathau eraill o addysg oherwydd tlodi.
Mae’r sector gwaith ieuenctid gwirfoddol wedi tyfu yng Nghymru ers y 1940au, ac mae wedi cael profiad o sawl cyfarwyddeb wleidyddol a dogfen polisi, ond bod y dasg ar gyfer gwaith ieuenctid yn parhau'r un fath yn elfennol, sef gwasanaeth sy'n gweithio i sicrhau bod pob person ifanc, beth bynnag eu hamgylchiadau, yn cael y gefnogaeth a'r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i gyrraedd eu llawn botensial
Mae gwleidyddiaeth gyda 'G' bach a mawr hefyd wedi chwarae ei ran yn hanes CWVYS. Pan roedd CWVYS yn rhan o Asiantaeth Ieuenctid Cymru, fe gyhoeddwyd ‘Papur Strategaeth CWVYS’ yn 2001 yn dilyn ymgynghoriad gydag aelod-sefydliadau. Darllena un paragraff fel a ganlyn:
‘Ar ôl blynyddoedd o ddihidrwydd ... mae'r gwasanaeth ieuenctid bellach yn cael y sylw mae'n ei haeddu ... Mae cymdeithas wedi newid yn fawr dros y 30 mlynedd diwethaf, a gyda hynny mae anghenion pobl ifanc hefyd wedi newid ... Mae'r sector gwirfoddol wedi ...ymateb i'r newidiadau hynny ac mae mewn sefyllfa dda i chwarae rôl allweddol yn y dyfodol. Bydd i ba raddau y bydd y sector gwirfoddol yn cyflawni ei botensial fodd bynnag, yn dibynnu'n fawr ar a oes modd ailfywiogi ac ailfodelu CWVYS, fel mudiad casgliadol y sector, i fodloni heriau'r dyfodol ...’
Swnio'n gyfarwydd?
Mae yn i mi.
Rydym yn sefyll ar ysgwyddau cewri a phopeth sydd wedi digwydd eisoes a dylid dathlu hyn wrth droi'n 70. Ond mae hefyd yn gyfnod i edrych at y dyfodol, er mwyn sicrhau bod gennym sector gwaith ieuenctid gwirfoddol egnïol yng Nghymru sy'n gallu gweithio mewn partneriaeth â'n cydweithwyr ym maes llywodraeth leol er mwyn bodloni anghenion pob un o'n pobl ifanc.
Yn wyneb lefelau cynyddol o doriadau i wasanaethau ac wrth i’r byd codi arian fynd yn fwy dwys ei gystadleuaeth, mae’r sector yn ymdrechu’n galed i ddarparu llu o gyfleoedd i bobl ifanc, i ysgogi a manteisio ar gyfleoedd i gydweithio (o fewn y sector a’r tu hwnt) ac i gymryd rhan mewn fforymau ac ymgynghoriadau amrywiol, gan gynnwys yr Ymchwiliad i Waith Ieuenctid drwy Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad Cenedlaethol.
Mae’r gair ‘cryfder’ neu ‘cydnerthedd’ yn un sy’n aml yn ailymddangos ar adegau o galedi. Mae’n sicr yn cael ei ddefnyddio’n amlach mewn perthynas â chymunedau ac unigolion - does ond angen edrych ar ddatblygiadau diweddar ym mholisi Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud â ‘Chymunedau Cryf’ a modelau darparu sy’n ymgorffori canfyddiadau’r adroddiad ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Fe fyddwn i’n dadlau nad yw’r materion hyn yn newydd i’r sector gwaith ieuenctid gwirfoddol: mae mudiadau’n ymgymryd â heriau o’r fath yn ddyddiol ac fel arfer yn ‘dod o hyd i ffordd’ o barhau. Mae llawer o bobl rydym yn siarad â nhw yn gweld ‘cydnerthedd’ fel rhan annatod o’u bodolaeth bob dydd a gall y profiadau hynny gynnig enghreifftiau, y mae angen mawr amdanynt, nid yn unig o ‘sut i oroesi’ ond hefyd ‘sut i ffynnu’. Mae yna lawer o enghreifftiau gwych o hyn yn y sector.
I rai mudiadau, yn anffodus nid yw goroesi wedi bod yn bosib; mae sawl un arall yn goroesi o’r llaw i’r genau ar adnoddau prin, ychydig iawn o gymorth allanol ac ystyfnigrwydd pur. Yn fwy na dim, maent yn cydnabod na fyddai yna, hebddyn nhw, ddarpariaeth adnabyddadwy ar ôl i bobl ifanc yn eu cymunedau.
Mae lleisiau pobl ifanc yn rhan annatod o ddatblygu darpariaeth ac mae grymuso pobl ifanc yn nodwedd hanfodol o ddull gweithredu gwaith ieuenctid. Mae un o’r ‘Pum Piler Gwaith Ieuenctid’ (gweler ‘Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion’), ‘Grymusol’ yn cynnwys:
Rhoi’r ddealltwriaeth a’r sgiliau i bobl ifanc er mwyn iddynt allu arfer eu hawliau
Cydnabod bob gan bob person ifanc hawliau a bod hyn yn cynnwys parchu hawliau eraill
Cefnogi pobl ifanc i gyflawni eu cyfrifoldebau fel dinasyddion ac aelodau o’u cymunedau
Annog pobl ifanc i ymddiddori yn y materion personol, cymdeithasol a gwleidyddol sy’n effeithio ar eu bywydau ac ar fywydau eraill a datblygu rhinweddau eraill
Mae Ymchwiliad i Waith Ieuenctid Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad Cenedlaethol wedi darparu gwir ffocws ac mae'r argymhellion a wnaed wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Mae gennym Ddatganiad Gweinidogol cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru sy'n cynnwys manylion o adolygiad o Ymestyn Hawliau, yn addo Bwrdd Gwasanaethau Cefnogaeth Ieuenctid Cenedlaethol newydd, strategaeth gwaith ieuenctid newydd a chyfle, trwy ymgynghoriad, i bob rhan o'r sector gwaith ieuenctid leisio eu barn wrth lunio'r dirwedd newydd.
Llawer o le am optimistiaeth felly wrth i ni edrych ymlaen at y 70 mlynedd nesaf. Mae'r Gymru fodern wedi'i hadeiladu ar ymrwymiad at hawliau a democratiaeth, dinasyddiaeth a llais ac mae ganddi ffocws ar sicrhau ein bod yn adeiladu cenedl a fydd yn bodloni anghenion cenedlaethau'r dyfodol. Rhaid i waith ieuenctid a chefnogaeth ieuenctid fod yn rhan allweddol o'r dyfodol hwnnw.
Mae CWVYS yn parhau i fod yn fudiad bywiog a hanfodol oherwydd ystent ac amrywiaeth ei aelodaeth. Pan rydych chi'n ystyried yr heriau mae pobl ifanc yn eu hwynebu heddiw gyda Brexit, cyd-destun gwleidyddol byd-eang newidiol a thwf technolegau digidol i enwi dim ond ychydig, a oes unrhyw syndod bod pobl ifanc yn gosod cymaint o werth ar waith ieuenctid a chefnogaeth ieuenctid da? I gymaint o bobl ifanc, y berthynas honno y gellir ymddiried ynddi sy'n gallu gwneud cymaint o wahaniaeth, yw'r un sydd ganddynt gyda'u gweithiwr ieuenctid.
Dyna pam mae'n rhaid i ni sicrhau dyfodol y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru.
Tumblr media
Ddoe fe ennillodd Keith ‘Gwobr Arweinyddiaeth yn Sector Gwirfoddol a Di-Elw’ yn seremoni Gwobrau Arwain Cymru. Llongyfarchiadau ENFAWR i Keith ac i CWVYS, darllenwch mwy am y llwyddiant mawr yma ar wefan CWVYS.  
0 notes
mariocki · 3 years ago
Text
Tumblr media
0 notes
mariocki · 4 years ago
Text
The results in Wales are? Quietly comforting? I would have liked Plaid to gain more - and the Conservatives less - but a solid Labour victory, particularly in contrast with their significant losses elsewhere in the UK, will hopefully convince more people in the party that increased devolution is a good thing, actually.
If nothing else, the absolute dismal failure of Abolish to achieve anything whatsoever is going to warm my bitter little heart for a while yet (not to mention the comprehensive routing of Ukip, so long contau)
11 notes · View notes