#hofrennydd
Explore tagged Tumblr posts
thehelicopterclub-blog1 · 6 years ago
Photo
Tumblr media
Bell UH-1 in action 🚁👍🏼 . . . Tag your helicopter buddy 👨🏻‍✈️👩🏻‍✈️🚁 | Feature on our instagram by tagging @theheliclub | Credit: @military_helos 📸 . . . #Пілот #pilots #pilotos #heli #вертолет #hélicoptère #helikoptéra #ελικόπτερο #helikopteri #elicottero #héileacaptar #þyrla #hofrennydd #пилот #peilot #pilota #aviazione #aviacao #eliporto #whyifly #vitamind #avgeek #helipad #militaryaircraft #militaryhelicopter #armyaviation #armyhelicopter https://www.instagram.com/p/BqMuHYVHOmT/?utm_source=ig_tumblr_share&igshid=1elz33lwii4e3
0 notes
bethanruth · 8 years ago
Text
Rotterdam
Fuodd Mam yn byw yn Rotterdam yn ei hugeiniau am rhai blynyddoedd, felly rym ni wedi bod i’r ddinas bob ryw bum mlynedd i ymweld â ffrindiau fel teulu. Ro’n i wastad yn teimlo bod fy mhrofiad o’r ddinas wedi bod yn un o ddilyn ôl-traed fy mam, ac felly ddim wir yn gwneud amserlen fy hun a ddim wir wedi dod i adnabod y ddinas.
Penderfynais ymweld ben fy hun ac aros gyda ffrindiau mam, a hefyd fy ffrind Cisem a oedd yno’n astudio’r fiolin er mwyn cael blas o’r sîn ifanc yn y ddinas.
Wnes i gwrdd â Cisem sy’n wreiddiol o Dwrci mewn parti ar dram yng Ngwlad Pwyl a wnaethon ni yrru ymlaen yn syth bin! Roedd hi’n astudio’r fiolin ac yn rhoi gwersi, ynghyd â theithio gyda cherddorion o dro i dro. Roedd hi’n teithio ar hyn o bryd gyda perfformwraig o’r enw ‘Karsu’. Roedd hi’n byw bellach yn Koningin Emmaplein yn ne’r ddinas, mewn fflat a oedd yn eiddo i A.D. Donker, awdur llyfrau academaidd i ysgolion enwog yn yr Isel Diroedd. Roedd ei fab yn byw lawr grisiau i Cisem - artist . . . mi dynnais rhai lluniau o’r tu fewn hefyd. . . 
Tumblr media Tumblr media Tumblr media Tumblr media Tumblr media
Roedd hwn mewn bocs gwydr a tua’r un maint a fy llaw.
Tumblr media Tumblr media
Celf mab Donker.
Tumblr media Tumblr media Tumblr media
Cefais groeso Twrceg yn fflat Cisem, gyda choffi Twrceg yn fy nisgwyl.
Tumblr media
Drws nesa’ i’r fflatiau roedd amgueddfeydd hanes natur, galeri gelf enwog y Kunsthall, parc del ac ysbyty wedi eu henwi ar ôl Erasmus.
Ysbyty Erasmus
Tumblr media
Cariadon ym Mharc Het
Tumblr media Tumblr media
Yn un o’r coed roedd ‘na barot gwyrdd diddanu ei hun trwy bigo’r hadau coed ‘na sy’n twyrlio i lawr fel hofrennydd gyda’i big, ac yna’n eu gollwng a’u gwylio’n disgyn i’r llawr.
Tumblr media
Tŵr teledu Rotterdam
Tumblr media Tumblr media
Clirio addurniadau’r Hydref o’r parc yn barod i’r Gaeaf!
Tumblr media
Ymlwybro wedyn i’r amgueddfa hanes natur gydag anifeiliaid a thrychfilod.
Tumblr media Tumblr media Tumblr media Tumblr media Tumblr media
Roedd arddangosfa ar fywyd cyfredol anifeiliaid y ddinas, yn gorfod goroesi ymysg yr holl sbwriel.
Tumblr media
Dyma nyth ‘deryn a wnaed o wifren.
Tumblr media
Roedd casgliad od o anifeiliaid a oedd wedi dioddef tynged erchyll. 
Yn ystod ailaddurno ei dy yn 1987, daeth Leo Eeuwijk o hyd i’r lygoden fawr yma yn ei dŷ yn Schiedam. Cafodd y lygoden druan ei ddal rhwng y llawr a’r tô gan y sgriw.
Tumblr media Tumblr media Tumblr media
Mi es i ymlaen i’r galeri gelf fodern y Kunsthall wedyn drws nesa’.
Tumblr media
Yn ei weithdy ym Maputo, mae’r artist Goncalo Mabunda yn casglu arfau a metel sgrap a gafodd ei ddefnyddio yn ystod y rhyfel cartre’ pymtheg mlynedd o hyd yn Mozambique - gan ddefnyddio’r hyn mae’n dod o hyd iddo mewn i seddi, gan roi ystyr newydd i’r hen ddeunyddiau. Mae ei wefan www.crise.com nid yn unig yn feirniadol am y cydsyniad bod cyfundrefnau milwrol Affricanaidd yn rhai llawn trosedd, ond mae hefyd yn gwthio’r syniad o adlewyrchu yn bositif ar y pwêr o gelf i drawsnewid gwrthrychau, enwedig mewn cyd-destun cymdeithasau sifil Affricanaidd.
http://makingafrica.net/2015/04/featured-workgoncalo-mabunda-www-crise-com/
Tumblr media Tumblr media Tumblr media
Roedd gen i ofn edrych i lawr wrth gamu ar hwn!
Tumblr media
Arddangosfa gan y ffotograffydd du a gwyn enwog Peter Lindbergh.
Tumblr media
Dyma lun Lindbergh yn 1988 yn mynegi ei syniad plentyndod o brydferthwch am iddo gael ei fagu yn yr ardal diwydiannol yr Almaen, y Ruhr.
Tumblr media Tumblr media
Yn y tô roedd arddangosfa am ddeintyddiaeth mewn celf dros yr oesoedd. Roedd yn ddifyr iawn! Gwelwch isod ‘Santa Polonia’ - Sant Apollonia 1470-1800. Pan wnaeth Apollonia wrthod rhoi’r gorau i’w chrefydd (Cristnogaeth) yn yr ymerodraeth Rhufeinig yn 248 AC, cafodd hi ei dannedd wedi eu tynnu allan gan efail a fe dorrwyd ei gên! Er mwyn rhoi terfyn i’r boen, penderfynodd hi i neidio ar coelcerth yn wirfoddol a marw fel merthyr. Fe wnaeth ei dioddefaint hi ysbrydoli Cristnogion, a fe wnaed hi’n sant ar boen dannoedd!
Tumblr media Tumblr media
Roedd galeri Witte de With ar agor yn hwyr, felly aethom i weld y celf yn fano. Mae wedi ei leoli ar stryd prysur ac ifanc y Witte de Withstraat- sy’n enwog am gael y dafarn fwyaf prysur yn Ewrop yno - De Witte Aap.
Tumblr media Tumblr media Tumblr media Tumblr media Tumblr media
Roedd y ffilm yma’n anhygoel gan ddangos adeilad gwag Le Corbusier yn India.
Tumblr media Tumblr media Tumblr media Tumblr media Tumblr media Tumblr media Tumblr media
Dawnsio a chwrw yn Witte De Aap.
Tumblr media Tumblr media
Aethom i glwb nos WORM gan ei fod yn enwog am nosweithiau cofiadwy a celfyddydol. Roedd hi’n digwydd bod yn noson dathlu amrywiaeth rywedd, felly mewn â ni. . . yno cafwyd perfformiad ar ôl perfformiad gan y gymuned LGBTQ a oedd yn llawn rhyw! Dyma luniau o ddawnsiwr oedd y mwyaf gweddus i roi ar y blog! Ar un llaw, ro’n i’n falch o fod yn rhan o’r dathliad yma, ond ar y llaw arall roedd bach o ofarlôd o rhyw a roedd’na awyrgylch rhyfedd am bod y gynulleidfa oedd i gyd yno i ddawnsio a mwynhau mewn tawelwch yn gwylio ‘chydig rai oedd yn mwynhau sylw a ddim gyda lawer o dalent. . . !
Tumblr media Tumblr media Tumblr media Tumblr media
Cyn mynd adre’ cawsom fwyd Surinamaidd o gaffi Warung Mini - mor dda, ond mor seimllyd!
Cefais snap o’r celf stryd wrth i ni gerdded adref.
Tumblr media
Clwb nos breifat White’s rownd y gornel o fflat Cisem. Dyma ble mae’r dynion ariannog y ddinas yn mynd i gael cwmni merched meddai hi. Roedd yn y newyddion ‘chydig fisoedd yng nghynt am bod un o’r cwsmeriaid wedi cael ei saethu.
Tumblr media
Witte yn y dydd.
Tumblr media Tumblr media Tumblr media
Dyma gerflun trawiadol o ddynes Rotterdam yn dal yr awyr i fyny am i ddinas Rotterdam gael ei ddifetha’n llwyr gan fomio’r ail ryfel byd yn 1946.
Tumblr media
Markthal Rotterdam llawn stondinau bwyd a bwytai tu fewn.
Tumblr media Tumblr media Tumblr media
Cefais grempogau bach Iseldireg ‘poffertjes’ gyda siwgr, lemwn a sinamwn.
Tumblr media
Gyda’r nos aethom i weld ffrind Cisem yn chwarae’r trwmped fel rhan o berfformiad ‘The Big Easy’ yn theatr y Rotterdamse Schouwburg. Roedd yn berfformiad a oedd yn cyfuno drama a cherddoriaeth yn Saesneg a Iseldireg gan sôn am brofiadau trigolion New Orleans wedi’r trychineb corwynt Katrina. 
Tumblr media Tumblr media
Ymlwybro i weld y bariau Luchtsingel wedi i ni gael bwyd ffres hyfryd ym mwyty Sbaeneg La Cazuela.
Tumblr media Tumblr media
Gin mawr nol yn Witte De Withstraat.
Tumblr media
Am fy noson olaf mi es i at fy anti Loes ac wncwl Peter i aros yn eu fflat ar Benthuizerstraat gyda grisiau serth wrth i chi ddod mewn!
Tumblr media
Roeddynt wedi paratoi swper arbennig i mi gyda Jennifer a Fleur yn y fflat!
Tumblr media
Aethom wedyn i far. Roedd mor hyfryd bod yng nghwmni’r ddau - maent dal llwyr mewn cariad wedi degawdau o berthynas!
Tumblr media Tumblr media Tumblr media
Cysgais yn y gwely tri chwarter dan lun a wnaed gan tad Peter.
Tumblr media
0 notes
dafyddelfryn · 8 years ago
Text
Hofrennydd achub dros Trefor 😎 https://t.co/X2eE6ikCsx
Hofrennydd achub dros Trefor 😎 http://pic.twitter.com/X2eE6ikCsx
— Dafydd Elfryn (@dafyddelfryn) May 21, 2017
o Twitter https://twitter.com/dafyddelfryn May 21, 2017 at 04:23PM
0 notes
llygadbarcud · 10 years ago
Photo
Tumblr media Tumblr media Tumblr media Tumblr media Tumblr media
Llygad barcud ar hofrenyddion yn amgueddfa Weston-super-Mare
1 note · View note