#egniol
Explore tagged Tumblr posts
Link
2 notes
·
View notes
Photo
Chroma - ‘Weithiau / Caru. Cyffuriau.’ (Libertino)
Chroma's fantastic new double a side single 'Weithiau / Caru. Cyffuriau' is out now via LIbertino REcords and has already received support from Circuit Sweet, For The Rabbits, Loud Women, God Is In The TV, Who Music Magazine, Y Selar, Huw Stephens on BBC Radio Wales, Adam Walton on BBC Introducing, Lisa Gwilym on Radio Cymru, Georgia Ruth on Radio Cymru and last but not least been featured on Sub Pop Records one’s to watch playlist! Mae ‘Weithiau’ yn gân emosiynol bwerus sydd yn rhan o seng Ddwbl-A Chroma ‘Weithiau / Caru Cyffuriau’. Dyma’r gerddorieth gyntaf ir grwp ryddhau ar ôl ymuno â’r label Libertino. Recordiwyd y canaeuon yn fyw i ddal sain amrwyd ac egniol y triawd o'r Cymoedd gan y cynhyrchydd Kris Jenkins (Cate Le Bon, SFA, Gruff Rhys). “Mae Weithiau yn gân am orffen perthynas gyda rhywun ti’n caru a’r prosess o ddod i deall bod pethau ddim yn gweithio. Mae am rhoi dy hun gyntaf.” - Katie Hall, Chroma Mewn cyferbyniad perffaith cerddorol i felancholy diwyro ‘Weithiau’ mae ‘Caru Cyffuriau’ yn gân punk ddi-stop ‘in your face’ am fod yn dy arddegau yn y cymoedd, de Cymru. “Mae ‘Caru Cyffuriau’ am ‘naughty’ teenagers yn y cymoedd yn mynd lan y mynydd i cymrid ‘drugs’ ac arbrofi gyda rhyw achos does dim lot I neud. Fi’n meddwl does dim digon o adnoddau i pobl ifanc mewn ardal fel y cymoedd. Mae angen mwy o adnoddau a pethau i pobl ifanc neid rhag i nhw deimlo mor ynysig. O ni moen sgweni trac pync yn y Gymraeg, sydd yn adlywychu profiad go iawn pobl heddiw.” - Katie Hall, Chroma 'Weithiau' (Sometimes) is an emotionally powerful song that is one half of Chroma's Double-A single 'Weithiau / Caru Cyffuriau'. This is the group's first release after joining the Libertino label. The songs were recorded live to capture the versatile and energetic sound of the Valleys trio by producer Kris Jenkins (Cate Le Bon, SFA, Gruff Rhys). “‘Weithiau’ is about ending a relationship with someone that you love deeply. The process of coming to terms with the fact that the relationship doesn’t work, and putting your self first in that situation.” - Katie Hall, Chroma In perfect musical contrast to the sometimes melancholy 'Weithiau', 'Caru Cyffuriau' is a non-stop 'in your face' punk song about being a teenager in the South Wales Valleys. “Caru Cyfffuriau is a song about being a naughty teenager in the valleys experimenting with drugs and sex because there’s not much else to do. I think there needs to be more stuff going on so young people don’t feel so isolated. We wanted to write a welsh language punk song that reflects young people's lived experience today.” - Katie Hall, Chroma
Stream: https://soundcloud.com/libertinorecords/chroma-weithiau
0 notes
Text
HOYFEST 2017.
Ble: Mae Hoyfest yn cael i lleoli yng Nghanolfan y Gate, Caerdydd. Mae’r wyl ei hun yn ei ail flwyddyn, ond mae eisoes weid denu rhai o’r enwau mwyaf yn y siratiau indie cyfredol. Yn gosod mewn edgwlys idylic, Gradd II yn cael i gwasgaru dros 24 awr brysur, lle fydd fandiau yn ceisio creu argraff ar y torfeydd. Isod rydym wedi mynd i’r afael a rhai o’r bandiau osod i chwarae yn Hoyfest 2017, gyda fwy o weithredoedd i’w cyhoeddi yn dechrau 30ain o Fehefin.
Pryd: 30 Medi, 2017. Tocynnau yn unig £16.50
Llun gan anhysbys
Pwy: Pretty Vicious, band yn wreiddiol o Ferthyr Tudful, 4 darn sy’n swnio fel fersiwn ifanc o’r Arctic Monkeys. Mae’r band sy’n byw hyd at ei enw, ar old bod ar y sin ers 2014. Mewn dim ond tair flwyddyn byrion, mae Pretty Vicious wedi caeli chodi i fewn i’r sin gerddoriaeth brif ffrwd, yn cael ei cynning contract efo label, Virgin EMI.
Mae’r rhyddhau mwyaf poblogaidd y fand, can or enw “Cave song” EP sydd wedi cyrraedd dros 400,00 o drawiadau ar Youtube. Efo’r enwogrwydd cymharol a daeth yn gynnharach na dychmygodd aelodau Pretty Vicious, a gyflawnwyd oddi ar gefn un gan. Cymaint felly, naeth troi lawr slot i chefnogi Muse, oherwydd y fyddai wedi fod ei pumed gig ac nad oeddent yn meddwl eu fod yn barod. Efo HOYFEST a osodwyd ym mis Medi, ni fyddwch yn cael i wrando’r i albwm cyntaf sydd yn rhyddhau ym mis Rhagfyr, ond efallai y byddwch yn cael ychydig o ganeuon newydd!
Llun gan awdur
Pwy: ESTRONS, yn ffyniannus oddi wrth ei sengl diweddaraf, “Strobe Lights” mae Estrons wedi cael blwyddyn i dathlu hyd yn hyn. Ar ol cael y cyfle i weld y fand yn chwarae slot cefnogi i Slaves yn Hobos flwyddyn diwethaf, mae shwt gymynt wedi digwedd ers hyny. Dwy band hwn nid yn un i golli allan ar.
Llun gan Sony
Pwy: Redface o Sheffield. Mae eu sengl cyntaf newydd cael i rhyddhau, dan y teitl, “Wise Up” a gaeth i saethu yr un pryd tra bod y band yn chwarae y Great Escape Festival. Lladd dau aderyn ag un garreg fel maen nhw’n dweud. Mae Redfaces yn hoff iawn o’r Beatles, felly dychmygwch sut mae nhw’n swnio! Band gritty sy’n nodweddiadol o chwarae pop punk a gerddoriaeth Indie! Fydd nhw’n chwarae HOYFEST eleni, ar ol gwerthu mas eu slot ar Live yn Leeds.
Llun gan anhysbys
Pwy: Himalayas, band sy’n wreiddiol o Gaerdydd. Mae band Indie yma yn cynnwys riffs gitar trwm, yn debyg i gerddoriath garej o’r 60degau. Mae nhw wedi rhyddhau sengl newydd fel pawb arall, “Thank God I’m Not You” sydd yn gadarnhau y honiadau uchod. Y band uchaf y byddwch yn glywed yn HOYFEST. Mae da nhw penchant go iawn ar gyfer roc clasurol. Nid ydynt yn osgoi geiriau dadleuol ac yn sicr o roi set egniol, yn llawn chwys ac alawon da.
Llun gan anhysbys
Pwy: VIDA, yn swnio fel Jake Bugg ac Oasis efo rhywfaint o’r Verve ymgripiol ei ffordd drwodd. Bydd Vida yn y band eleni sy’n mynd i dennu “melting pot” o oedrannau wahanol i HOYFEST. Yn caeli dylanwadu gan 90′s Britpop a gyda’u diweddarah sengl, “Beth sy’n Mynd O Gwmpas” sef yn deyrnged addas i’r cyfnod, VIDA yw’r band sy’n darparu cerddoriaeth ar gyfer eich famau a tadau sy’n sicr yn fynd i wisgo hets bwced, yn ceisio esgus fod yn gig Stone Roses. Ond, hefyd y fydd y band yn gallu tynnu cynulleidfa iau, yn ceisio drwy ddod a’u cerddoriaeth i mewn i amgylcheddau modern.
Llun gan Cassie Walker
Pwy: Mae pawb yn Cymru erbyn hyn yn nabod pwy yw Palomino Party. Un o’r wisgoedd Cymraeg fwyaf llwyddiannus. Gwisgo i greu argraff ac yn edrych fel y New York Dolls, er waethaf eu pinstriped extravgance, mae Palomino Party yn rhyddhau gerddoriaeth drwm anhygoel. Mae ddeuoliaeth cyflawn o ganeuon efo, “Run Palomino” yn dechrau efo llinell bass sy’n debyd i fersiwn arafach o “She’s Wicked” gan Y Fuzztones. Tra bod, “Tommy Love” efo vibes o’r Who iddo. Felly, rydych mewn am cymysgedd o gerddoriaeth efo’r band yma.
Llun gan Selma Kesedzic
Pwy: Yn dennu Psychedelia i HOYFEST flwyddyn ma fydd Y Mefus. Mae’r cerddoriaeth mwyaf diweddar yn cynnwys gan, “Fantasy Machine” sy’n cynnwys Wah Wah pedal difrifol. Yn sicrhau synnwyr ethereal flwyddyn ‘ma fydd Y Mefus. Os ydych yn chwilio i coolo lawr o’r holl Headbango a neidio lan a lawr, dyma’r fan i chi.
Llun gan anhysbys
Pwy: Does dim llawer o ddeunydd a gofnodwyd allan gan Farebrother. Ond, y llon llaw o ganeuon sydd ar gael i wrando i wedi cael i gyfansoddi yn gadarn ac yn talgrynnu yn dda. Yn marchogu oddi ar gefn eu EP, “Rapture” mae Farebrother yn newydd u’r lleoliad, ond mae ganddynt lawer mwy i roi. Yn diweddar, maer band hefyd wedi eu cofnodi yn Stiwdios Rockfield.
Llun gan anhysbys
Pwy: Misfires, fand heb ei arwyddio sydd wedi bod yn derbyn llawer of gariad trwy safleoedd ffrydio. Newydd cyrraedd 50,000 yn wrando misol ar Spotify, mae Misfires yn gweithio ei ffordd i fynny yn araf. Mae’r rhan fwyaf o’r bandiau sy’n chwarae HOYFEST wedi rhyddhau cerddoriaeth newydd allan, felly dyma’r cyfle perffaith i glywed cerddoriaeth newydd gan fandiau ifanc. Mae 3 mis i fynd hyd HOYFEST, felly pwy sy’n wybod beth sydd o gwmpas y gornel ar gyfer Misfires.
Llun gan James Wilkinson
Pwy: Fossette, efo 6 o ganeuon sydd ar gael ar-lein i glywed, bydd Fossette yn cael y cyfle i arddangos eu doniau eleni, diolch i HOYFEST. Bydd band Indie a eni allan o Fryste yn dod a’u cerddoriaeth bachog i HOYFEST, fel y gall pawb brofi eu 6-gan setlist.
Llun gan anhysbys
Pwy: Mae Chroma yng nghanol dalent mwyaf ffres Cymru. Rhwymo Medi fydd yn gweld Chroma yn chwarae Gwyl Rhif 6 a HOYFEST dyddiau yn unig ar wahan. Os ydych ddim yn gyfarwydd efo Chroma, , gallwch weld y band yn chwarae Y Parrot ar gyfer noson FEMME ar y 7fed o Gorffennaf ac yna gallwch wneud eich barn cerddorol yno. Ond, ni fyddwch yn siomedig. Fydd lyrics ofalus diriaethol Katie Hall yn cwmpasu cerddoriaeth werin Cymraeg.
Llun gan Andy Hall
Pwy: Y Americas, os allwch rhagweld dehongliad band o’r lyric “Life is a highway, I want to ride it all night long” yna dyna sut yr ydych yn grynhoi Y Americas. Rock a rol o’r Gorllewin Canolbarth efo echblyg gwladgarol am ein ffrindiau Americanaidd, mae’r triawd yn cwmpasu’r synau MC5 & RUSH. Efo’r dau gan “Cofnod Poeth” a “Diwrnod Defed o Fai” mae gen haerllugrwydd dedwydd iddynt, cerddoriaeth i strut-ian i.
#hoyfest#luckymanrecords#caerdydd#festivals#haf#blogs#blogging#welshblog#music#cerddoriaeth#prettyvicious#theamericas#chroma#festival#writing#welsh
1 note
·
View note
Text
Blog - Cyfarwyddwr / Director, Gethin Evans
Mae cyfarwyddwr Mags Gethin Evans yn nôl yng Nghaerdydd wedi iddo dreulio amser yn y National Theatre, yn gweithio ar yr anhygoel Pericles.
Dyma rai geiriau ganddo am Mags: Y bobl, y broses, y llawenydd, y bisgedi a beth y gall y gynulleidfa ddisgwyl ei weld.
Mags director Gethin Evans is back in Cardiff after his time at the National Theatre, working on the incredible Pericles.
Here are some of his words about Mags: The people, the process, the joy, the biscuits and what our audiences can expect to see.
*************************
Gydag ymarferion ein sioe newydd Mags yn dechrau ar ddydd Llun (!), rydyn ni wedi bod yn brysur yn paratoi hefo’n tîm anhygoel – Elgan Rhys (Cyd-Gyfarwyddwr Artistig Pluen) yn ddramatwrg, Cadi Lane yn dylunio, cerddoriaeth wreiddiol a sain gan CASI ac Eddy Bailhache a Ceri James yn goleuo…yn ogystal â chwestiynnu a datblygu stori a ffurf gyda’n mentoriaid hynod fedrus Cai Tomos a Hannah McPake.
Yn ystod yr ymarferion byddwn yn dod nôl ynghyd â’n perfformwyr - Anna ap Robert, Matteo Marfoglia a Seren Vickers i rannu stori menyw o’r enw Mags a’i pherthynas hefo’i chymuned a’i theulu.
Mae’r tîm yn ysbrydoledig ac yn ddeinamig, a bu ein cyfnod datblygu yn 2017 ymlith un o’r ystafelloedd ymarfer mwyaf brwdfrydig, egniol ac ymrwymedig y bum i’n ffodus i gael bod ynddi. Fedra i ddim aros i gael bod nol yn yr ystafell honno!
Yn ogystal â gyda’r tîm hwn, mae Mags wedi cael ei datblygu gyda chymuned gyfan o artistiaid ysbrydoledig – unigolion a wnaeth ymateb i’n galwad agored ar gyfer trafodaethau a thrwy weithio gyda’n partneriaid DadsCan, CAIN a Traws*Newid Cymru.
Mae’r sgyrsiau wedi bod yn llon, yn lleddf, yn ysbrydoledig, yn onest ac ar y cyd rydym wedi archwilio cwestiynnau ynglyn â chymdeithas – beth yw hi i fod yn ran o gymuned? O deulu? I fod yn ran o rywbeth mwy na ni ein hunain? Ym mha lwythi y canfyddwn ni ein hunain ynddynt – boed i ni fod eisiau bod ynddynt ai peidio? Sut mae hyn yn effeithio ar pwy ydyn ni a’r penderfyniadau a wnawn?
Bydd y sioe y caiff ein cynulleidfaoedd ei weld yn blethiad o symudiad, testun dwyieithog a cherddoriaeth fyw wrth i ni ddilyn stori Mags – ei gorffennol, ei phresennol a’i dyfodol yn y pentref bach Cymreig y mae hi’n ei garu a’i gasau ill dau. Ysbrydolwyd ei stori gan y bobl y bu i ni eu cyfarfod.
Nid yw byd Mags yn bodoli heb bob paned o dê, bisged, peint, cyfweliad a gweithdy (yn ogystal ag amal i ginio gwych – o gaffi yn Cathays gyda Trans*Form i bicnic ar lanau’r Fenai gyda CAIN). Mae hi’n gynnyrch o’r Byd y cafodd ei ffurfio ynddi, fel y mae pob un ohonom. Felly, wrth i ni ymlwybro tuag at y cam nesaf yn y broses hon, hoffwn estyn diolch anferthol i’r gymuned sydd wedi creu Mags hyd yn hyn. Rwy’n gobeithio y gwnewch chi ymuno â ni yn y Sherman 25ain – 28ain Medi ac yn Galeri 3ydd & 4ydd Hydref.
Theatr Sherman - 25-28 Medi
Galeri Caernarfon - 3-4 Hydref
***
With rehearsals for our new show Mags starting on Monday (!), we have been busy preparing with our amazing team – Elgan Rhys (Pluen co-Artistic Director) as dramaturg, Cadi Lane designing, original music & sound by CASI and Eddy Bailhache and Ceri James lighting… as well as questioning and developing story and form with our incredibly skilled mentors Cai Tomos and Hannah McPake.
Rehearsals will bring us back together with our performers – Anna ap Robert, Matteo Marfoglia and Seren Vickers to share the story of a woman called Mags and her relationship to her community and family.
The team are inspiring and dynamic, our development period in 2017 was one of the most vibrant, energized and committed rehearsal rooms I have been lucky enough to be in. I cannot wait to be back in that room!
As well as this team, Mags has been developed with a whole community of inspiring artists – individuals who responded to an open call out for discussion and through working with our partners DadsCan, CAIN & TransForm Cymru.
The exchanges have been joyful, harrowing, inspiring, truthful and we have collectively explored questions on society - what is it to be part of a community? A family? To be part of something greater than ourselves? Which tribes do we find ourselves a part of – whether we want to be or not? How does this affect who we are and the choices we make?
The show our audiences will see is a fusion of movement, bilingual text and live music as we follow Mags’ story - her past, present and future in the small Welsh village she both loves and loathes. Her story is inspired by the people we have met.
Mags and her world does not exist without every cup of tea, biscuit, pint, interview and workshop (including many an amazing lunch – from a café in Cathays with Trans*Form to a picnic on the Menai Strait with CAIN). She is a product of the World she was formed in, like any one of us is. So, as we head into the next phase of this process, I would like to extend an enormous thank you to the community who has made Mags so far. I hope you come and join us at Sherman and Galeri:
Sherman Theatre - 25-28 September
Galeri Caernarfon - 3-4 October
***
Cwmni Pluen Facebook
Cwmni Pluen Twitter
Cwmni Pluen Instagram
0 notes
Text
Creu y Gweithdy
Dyma pryd dechreuon ni feddwl am gweithio fel frwp i rhedeg gweithdy. Cefais i fy rhoi gyda Georgia a Johnny, dau berson llawn syniadau ac roeddwn yn gyffrous i geisio gweld beth roedden nhw yn meddwl am gyflawni yn y pen draw. Ar y pwynt doedden ni ddim yn hollol siwr am ba thema neu neges roedden ni eisiau cyflwyno.
Yn y lle gyntaf, cawsom ni yr her o rhedeg gweithdy i hen bobl a oedd yn dioddef o dementia. Roeddwn i'n disgwyl mlan am hwn oherwydd oherwydd doedden nhw ddim yn bobl arferȏl ac fyddai wedi bod yn ddiddorol i weld sut fydden nhw wedi ymateb i wahanol gweithgareddau. Ond ychydig cyn diweddedd y tymar cafodd y grwp newyddion doeddwn ni ddim gallu gweithio gyda'r henoed ond yn hytrach grwp o ddisgyblion a oedd gyda problemau perthnasau.
Doeddwn i ddim yn siwr sut i fynd ati i wneud gweithdy a fyddai'n addas ar gyfer y disgyblion yma ond fe wnaeth pawb cytuno ei fod eisiau gwneud gwaith a fyddai'n bositif, felly fe aeth y syniad o berthnasau bositif o gwympas a dechreuon ni cael syniadau ar gyfer y prif weithgareddau.
Roedd penderfynnu beth fyddai'r prif weithgareddau yn her oherwydd roedd gan bawb syniadau a fyddai'n gweithio gyda'r grwp ond aethon ni yn y pen draw i ddefnyddio senarios. Mae'r senarios yma yn rhoi sefyllfa i'r disgyblion sydd mewn grwpiau a phenderfynon ni i gael nhw i drafod un senario gwahanol i bobl grwp. Fe fyddai'n trafod am bwy sydd o'i le yn y sefyllfa, beth ddylai digwydd a sut i osgoi sefyllfa fel hyn yn y dyfodol. Roedd y senarios yma wedi cael ei greu o flaen llaw ganddom ni ac reodd yn diddorol gweld y drafodaeth ar y diwedd gyda'r disgyblion i weld i barn nhw am rhain. Cafon ni digon o amser i drafod bob senario fel grwp enfawr lle roedd pawb yn gallu rhoi mewnbwn. Wrth drafod sylwais i fod pawb yn gytun gyda'r gwahanol senarios felly i mi fel rhywun roedd yn ceisio addysgu nhw am y pwnc yma roedd yn wych gweld oherwydd roedd pawb wedi deall y rheswm roedden ni yna yn diwrnod hynny.
Er penderfynon ni ar y brif pwnc yna cafon ni digon o weithgareddau eraill a oedd yn cyfeirio ychydig i'r thema er enghraifft creu lluniau llonydd a gofyn cwestiynau i'r grwp. Roedd rhain yn arbennig oherwydd roeddwn yn cael cyfle i ddod i adnabod y disgyblion a gweld sut fydden nhw yn ymateb. Chwaraeon ni ychydig o gemau fel golden chairs sy'n gem egniol iawn i gael pawb llawn egni ac yn barod i weithio i raddau. Roedd y trefn roedd ganddom ni ym un lle roedd yn cynyddu o rhywbeth mwy hwylus fel y gemau, yn raddol yn ychwanegu'r thema o fewn gweithgareddau ac yna yn gorffen gyda'r prif gwaith ar y thema. Pendefynon ni gwneud hyn ar bwrpas oherwydd doedden ni ddim eisiau rhoi'r thema iddyn nhw yn syth neu fyddai gormod fel gwers mewn ysgol. Roeddwn i eisiau creu rhywbeth hwylus lle roedd pawb gallu rhoi ei barn yn y gweithgareddau a'r trafodaeth ond dal yn dysgu am y thema ac rwy'n credu fe gwnaethon ni lwyddo yn y pen draw.
Roeddwn yn dod at ein gilydd yn y darlythoedd bob wthnos i drafod ac ymarfer y gwaith yma ac roeddwn yn siarad yn gyson am y gwaith yma. Wrth drafod roeddwn yn ceisio pwy fyddai'n rhedeg pob gweithgaredd ar erbyn y diwedd roedd hwn wedi newid ychydig. Doeddwn i ddim yn hollol gyffyrddus yn rhedeg yn weithgaredd oherwydd doeddwn ddim mor gyfarwydd a hynny felly penderfynnu newid fy rȏl i gyda Georgia. Roedd hwn wedi cymryd peth pwysau oddi wrthau i ac roeddwn llawer mwy gyffyrddus ar y pwynt yma. O bopeth arall yn y gweithdy doeddwn i ddim eisiau newid unrhywbeth arall.
0 notes
Link
4 notes
·
View notes
Link
1 note
·
View note
Link
1 note
·
View note
Link
1 note
·
View note
Link
#startup india registration#egniol#social media marketing myths#best startup consaltunts in In India
1 note
·
View note
Link
1 note
·
View note
Link
#startup india registration#reducing expenses#egniol#best startup consaltunts in In India#startup india registration process
1 note
·
View note
Link
1 note
·
View note
Link
1 note
·
View note