#digartrefedd
Explore tagged Tumblr posts
Text
Tried to make a post on Instagram about this too but it decided to glitch out on me for some reason.
But the gist of it is :
I really need your help.
I pay rent on the 20th of each month and only just managed to pay it yesterday. I'm a queer disabled transmasc artist and writer struggling to survive in this cost of living crisis. I used a food bank for the first time yesterday and will be relying upon it regularly from now on.
It's my 24th birthday next week and I've put all my prints at half price - any purchase (link in my bio) or sharing this post will help a ton.
#cost of living#costio byw#rent crisis#housing crisis#homelessness#(legit have been homeless before and don't really wanna repeat that experience)#digartrefedd#rent control#abolish landlords#food bank#queer artist#queer writer#disabled artist#disabled writer
54 notes
·
View notes
Text
Pontio, Ysgol Friars a Hostel y Santes Fair yn dod at ei gilydd i adrodd straeon go iawn am fod yn ddigartref
Mae’n siwr fod pawb, ar ryw adeg, wedi gweld rhywun ar y stryd a dychmygu sut wnaeth yr unigolyn hwnnw ddarganfod ei hun yn digartref. Ar Nos Iau 16 Mai, bydd drama newydd sbon air-am-air yn rhoi mewnwelediad prin i gynulleidfaoedd Pontio, Bangor o’r sefyllfaoedd go iawn sy’n arwain at ddigartrefedd.
Wedi ei gydlynu drwy gynllun ieuenctid BLAS Pontio, ariennir drwy’r Loteri Genedlaethol, dros bum wythnos bu deg myfyriwr o Ysgol Friars, ac sy’n astudio Drama ac iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn ymweld â hostel Santes Fair ym Mangor i siarad gyda defnyddwyr y gwasanaeth. Recordiwyd y sgyrsiau a gafwyd yno a’u datblygu’n ddrama air am air gan y bobl ifanc dan gyfarwyddyd Branwen Davies, dramodydd ac ymarferwr theatr.
Dywedodd Branwen, “Mae’n hawdd cael rhagdybiaethau ynglyn â phobl digartref, ond pur anaml ‘rydym yn clywed eu lleisiau. Dyma adrodd yn ddi-flewyn-ar-dafod hanes digartrefedd ym Mangor heddiw, hanes sydd ar brydiau yn anodd i’w glywed ond sydd hefyd yn llawn hiwmor a chariad. Gofynnodd y disgyblion gwestiynau gonest ac roedd y preswylwyr yn hael ac yn agored iawn wrth rannu eu straeon a’u profiadau.”
Mae’r rhai sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect yn amrywio o wynebau cyfarwydd ar Stryd Fawr Bangor i rai sydd erioed wedi siarad am eu sefyllfa o’r blaen.
Ychwanegodd Hayley Owen, Rheolwr yn Hostel Santes Fair gan Tai Gogledd Cymru,
“Mwynhaodd Ddefnyddwyr y Gwasanaeth y profiad o fod yn rhan o’r project a siarad gyda’r myfyrwyr yn arw. Cawsant gyfle i roi eu hochr nhw o’r stori am sut iddynt ddarganfod eu hunain yn ddigartref ac angen cymorth Hostel Santes Fair a chefnogaeth Tai Gogledd Cymru.
“Rwyf mor falch o’r prosiect ac yn methu aros i weld y perfformiad gorffenedig.”
Meddai Mared Huws, Cydlynydd Datblygu’r Celfyddydau yn Pontio, “Mae prosiect Lleisiau/Voices yn un sy’n parhau i’m synnu i. Yn y gorffennol, rydym wedi adrodd straeon bobl sy’n byw gyda dementia ac unwaith eto, mae prosiect Lleisiau yn ceisio lleihau unigedd, pontio bydoedd a dweud y straeon hynny sydd prin yn cael eu clywed er mwyn dyfnhau ein hymwybyddiaeth o’n cymunedau ni. Ar lefel bersonol, mae fy nealltwriaeth o ba amgylchiadau sy’n arwain pobl o bob cefndir i ddarganfod eu hunain yn ddigartref wedi ei wella drwyddi draw gan ddewrder yr unigolion sydd wedi cymryd rhan yn y cynllun arbennig hwn.”
Ychwanegodd Gabrielle, myfyrwraig sy’n cymryd rhan yn Lleisiau’r Stryd, “Mae’r profiad yma wedi gwneud i mi werthfawrogi y pethau a’r pobl sydd gen i yn fy mywyd. Gobeithio y byddaf yn gwerthfawrogi’r pethau hynny am weddill fy mywyd.”
Bydd y ddrama, ynghyd â’r sesiwn holi ac ateb gyda’r bobl ifanc a gymerodd ran, yn cael ei gyflwyno gan Gwion Hallam, sydd wedi bod yn rhan o Lleisiau / Voices ers dechrau project yn 2017. Mae’n ddigwyddiad dwyieithog.
Mae tocynnau’n £3 gyda chyfraniad o’r elw yn mynd i Hostel y Santes Fair. Anogir y gynulleidfa, gan Hostel y Santes Fair, i ddod â chyfraniadau megis bagiau cysgu, dillad, tentiau ac offer gwersylla. Gallwch archebu tocyn drwy gwefan Pontio www.pontio.co.uk neu 01248 38 28 28 neu galwch mewn i’r ganolfan.
Lleisiau’r Stryd / Street Voices, Nos Iau 16 Mai, 7pm, Stiwdio Theatr Pontio
0 notes
Text
Anrhegion Nadolig sy’n dal i roi
Peidiwch â gwneud eich siopa Nadolig eleni heb fwrw golwg dros y rhestr yma o bethau ychydig yn wahanol gan Simon Dowling, Swyddog Marchnata a Chyfathrebu Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
Mae hwyl yr ŵyl ar fin dechrau, a gyda phob cartref yng ngwledydd Prydain yn gwario £800 yn fwy ar gyfartaledd yn ystod mis Rhagfyr (yn ôl Banc Lloegr), mae arferion gwario pob un ohonon ni yn ystod yr amser yma o’r flwyddyn yn cael effaith fawr.
Nid yn unig rydyn ni’n gwario mwy – gyda’r holl becynnu a’r milltiroedd cludo oherwydd siopa ar-lein, mae effaith fawr ar yr amgylchedd hefyd.
Os ydych chithau’n teimlo, fel finnau, y byddai’n braf gallu prynu anrhegion a nwyddau Nadolig heb wneud mwy o ddrwg nag o les, dyma restr arbennig i chi o anrhegion o Gymru sy’n dal i roi!
Cefnogwch bobl i wneud gwahaniaeth drwy brynu’n gymdeithasol gyfrifol y Nadolig yma
Mae’r awgrymiadau isod ar gyfer anrhegion a nwyddau Nadolig yn helpu’r economi leol, ond hefyd yn cefnogi elusennau a mentrau cymdeithasol ledled y wlad sy’n mynd i’r afael â gwahanol broblemau.
1. Luxury toiletries and gifts from Myddfai Trading Co
Menter gymdeithasol yw Myddfai Trading Company Limited sy’n darparu cyflogaeth a chyfleoedd gwirfoddoli yn y gymuned leol yn Sir Gâr. Mae eu cynhyrchion ‘arloesol, ecogyfeillgar a gwreiddiol’ yn cynnwys persawr cartref, sebon, jel cawod, siampŵ a sebon llyfnu, hylif golchi dwylo, hylif golchi’r corff, bomiau bath a chynhyrchion sba, sydd hefyd ar gael mewn setiau anrheg Nadoligaidd.
Defnyddir yr incwm gwerthu o’r siop arlein a masnach i adfywio cefn gwlad yn lleol gan gynnwys gweithio’n agos gyda Phrosiect yr Arfordir a Choleg Elidyr yn Rhandirmwyn i roi profiad gwaith i oedolion ag anawsterau dysgu.
2. Anrhegion ac addurniadau Nadolig ar gyfer y cŵn yn eich bywyd
Elusen fach annibynnol yn y de-ddwyrain sy’n canolbwyntio ar les cŵn yw Hope Rescue, ac maen nhw’n mynd o nerth i nerth. Mae eu siop ar-lein yn cynnig pob math o anrhegion ac addurniadau wedi’u gwneud â llaw ar gyfer eich ci, gan gynnwys rhubanau tymhorol, conau Nadoligaidd blasus, a dewis hyfryd o ategolion i gŵn.
Gallwch hefyd brynu calendr Hope Rescue sy’n cynnwys lluniau o’r cŵn annwyl sydd wedi’u hachub gan yr elusen. Mae’r elw yn helpu Hope i achub cŵn mewn angen ar draws y de-ddwyrain ac yn cynnig cynllun seibiant ar gyfer cŵn i gefnogi perchnogion mewn argyfwng (e.e. perchnogion sy’n wynebu cam-drin domestig, digartrefedd neu gyfnod yn yr ysbyty) i allu cadw eu cŵn anwes.
3. Canhwyllau o waith llaw gan Beacons Creative
Mae Beacons Creative yn gwmni cymdeithasol unigryw sy’n cynhyrchu canhwyllau a chynhyrchion cysylltiedig wrth roi cyfleoedd gwaith i bobl ag anawsterau dysgu a’r rheini sydd bellaf o’r farchnad lafur.
Mae’r fenter gymdeithasol ym Mannau Brycheiniog yn gwerthu llu o gynhyrchion cwyr megis canhwyllau hyfryd a thanwyr moch coed moethus, ac mae’n defnyddio deunyddiau sydd wedi’u hailgylchu pryd bynnag bosib. Ewch ar wefan Beacons Creative i brynu ar-lein, neu os byddwch chi yn Aberhonddu, beth am alw heibio’r Gegin Fach, sef caffi barista a deli cwmni Beacons sy’n gweini amrywiaeth o ddiodydd a phrydau blasus, neu prynwch yn uniongyrchol o siop Bwydydd Cyflawn Beacons.
4. Pecynnau het a sgarff i atal digartrefedd rhag ‘gwau-thygu’
Ar ôl dau Nadolig llwyddiannus o gynnal ymgyrch ‘One Knit Wonder’, mae’r elusen digartrefedd a chysgu ar y stryd The Wallich have once more teamed up with John Lewis to ‘knit homelessness in the bud’.
Eleni, yn ogystal â het wlanog, mae’r One Knit Wonder ar gael fel sgarff am gyfnod penodol. Mae’r pecynnau gwau yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch i wau eich het wlân neu’ch sgarff eich hunan, ac maen nhw ar gael am £13.50 neu £15.50 o siop John Lewis a'i Bartneriaid Caerdydd.
Ar ôl gorffen eu het neu sgarff, bydd dewis gan y gwëwr – gwisgo’r dillad eu hunain, ei roi’n anrheg i rywun, neu fynd allan a’i roi i rywun mewn angen (ac mae’r pecyn yn anrheg gwych i rywun sy’n dechrau gwau am y tro cyntaf).
5. Siopa di-wastraff yn y Barri
Awesome Wales yw siop ddi-wastraff gyntaf Bro Morgannwg, yng nghalon y Barri. Mae’r fenter gymdeithasol yn cynnal siop goffi a siop ddi-wastraff sydd â’r nod o helpu siopwyr i ddiogelu’r amgylchedd, arbed arian a bwyta’n fwy iachus, a hynny i gyd wrth wneud eu siopa wythnosol.
Mae Awesome yn brofiad siopa di-blastig, heb ddim pecynnu plastig diangen, gwellt plastig, caeadon plastig ar gwpanau coffi, ac yn sicr dim bagiau siopa plastig! Mae’r siop yn cynnig cynnyrch sy’n eco-gyfeillgar ac wedi’u creu mewn ffordd foesegol. Os ydych chi yn y cyffiniau, beth am alw yn y siop i brynu eich hanfodion Nadolig, neu gallwch brynu cwpanau amldro, teganau pren ac aelodaeth o Glwb Awesome o’u siop ar-lein.
Mae’r elw’n mynd yn ôl i mewn i’r cwmni er mwyn helpu i gyflawni ei nodau cymdeithasol, ac mae hefyd yn cael ei fuddsoddi mewn gweithgareddau a grwpiau cymunedol lleol, gan ganiatáu i fwy o bobl gymryd rhan a lleihau unigedd cymdeithasol.
6. Anrhegion tymhorol gan Vision 21
Menter gymdeithasol yw Vision 21 sy’n cynnig ‘cyfleoedd hyfforddiant realistig yn y gweithle i bobl ag anghenion dysgu’. Caiff holl gynhyrchion Vision 21 eu gwneud gyda chyfraniad llawn hyfforddeion ac mae’r elw i gyd yn mynd yn syth yn ôl i’r elusen.
Yn ogystal ag anrhegion tymhorol mae Vision 21 hefyd yn gwerthu cynhyrchion pren, crochenwaith a chardiau, yn ogystal â phlanhigion, perlysiau a llysiau. Mae siop Vision Made ar Heol Albany yng Nghaerdydd, ac ewch ar wefan Vision 21 i gael gwybod mwy am eu cynhyrchion eraill.
7. Cynhyrchion ‘molchi moethus o Gymru
Menter gymdeithasol o Gymru yw Good Wash sy’n rhoi ei helw i brosiectau lleol sy’n gwella bywydau anifeiliaid a phobl. Mae gan wefan Good Wash lawer o gynhyrchion ‘molchi moethus o’r radd flaenaf (gan gynnwys ‘Woof wash’ i’ch ci!) sydd wedi’u gwneud o’r cynhyrchion naturiol gorau posib sy’n rhydd rhag creulondeb.
Mae elw Good Wash yn cynorthwyo elusennau, grwpiau neu unigolion i gynnal prosiectau sy’n gwneud pethau fel; cynorthwyo’r digartref i ddod o hyd i gartref, a gwella eu rhagolygon bywyd; cynorthwyo’r rheini sy’n wynebu tlodi neu allgáu cymdeithasol i ddod o hyd i waith, hyfforddiant neu gyfleoedd gwirfoddoli; gwella lles anifeiliaid; darparu atebion iechyd a llesiant arloesol, sydd ar gael i bawb; hyrwyddo hylendid, a rhoi mynediad at ddŵr glân a glanweithdra; a gwarchod a hybu bywyd ar y tir ac yn y môr.
Mae cynhyrchion Good Wash ar gael mewn sawl siop ac arlein.
8. Rhowch ymweliad â ‘Rhyfeddod Cymru’ yn anrheg i rywun
Elusen yw Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru sydd wedi’i hymrwymo i ymchwil a chadwraeth bioamrywiaeth, cynaliadwyedd, dysgu gydol oes a mwynhad ymwelwyr.
Dyma’r ardd sy’n denu’r nifer mwyaf o ymwelwyr yng Nghymru ac mae llwyth o bethau i’w gweld a’u gwneud y tu hwnt i’r gerddi bendigedig gan gynnwys gweithgareddau amrywiol a’r Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydeinig.
Chwilio am ragor o syniadau ar gyfer #PresantauGydaPhwrpas?
Mae’r criw gwych yn Social Enterprise UK wedi creu Canllaw Anrhegion #PresantauGydaPhwrpas, cylchgrawn cyfan yn llawn syniadau ar gyfer anrhegion Nadolig gan Fentrau Cymdeithasol ledled gwledydd Prydain. Ewch i gael cip ar y canllaw defnyddiol yma ar-lein yn socialenterprise.org.uk/campaigns/christmas.
Who did we miss? Know a socially conscious Welsh gift that didn’t make the list? Let us know! Please email [email protected].
Are you involved in a social enterprise? WCVA funds Social Enterprises through our Social Investment Cymru team, please get in touch to find out more.
0 notes
Text
Cranogwen - L. Ifor
Tasg anodd yw crynhoi mewn ychydig eiriau pam ei bod hi’n bwysig cofio am hanes Cranogwen (Sarah Jane Rees), a hithau wedi cyflawni cymaint a dylanwadu ar gynifer o ferched Cymru yn ei gwaith fel ysgolfeistres, bardd, darlithydd, pregethwr, golygydd ac ymgyrchydd.
Ganwyd Sarah Jane Rees (a enwyd ar ôl ei mamgu) ym mis Ionawr 1839 ar fferm Dolgoy Fach ym mhlwyf Llangrannog, “bwthyn bychan to gwellt allan o’r ffordd … ar waelod cwm” fel y’i disgrifiodd yn ei hunangofiant. Derbyniodd addysg gyda’i dau frawd yn Ysgol Huw Dafis, oedd mewn hen ysgubor leol, ac wedi cyfnod byr yn astudio gwnïo yn Aberteifi, cytunodd ei thad y câi fynd gydag ef i weithio ar y môr, a hithau ond yn bymtheg oed ar y pryd. Bu’n gweithio fel morwr ar longau masnach y glannau am tua dwy flynedd, cyn dychwelyd i fyd addysg, gan astudio mewn nifer o lefydd cyn cael ei Thystysgrif Meistr mewn mordwyo o Lundain, llwyddiant tra anghyffredin i ddynes ar y pryd.
Yn 1860, a hithau bellach yn 21 mlwydd oed, dychwelodd i fro ei magwraeth i weithio fel ysgolfeistres yn ysgol pentre Pontgarreg. Er bod rhai wedi beirniadu’r penderfyniad i roi’r swydd i ferch, yn enwedig merch mor ifanc, buan yr enillodd barch am ei gallu i gadw disgyblaeth, a’r hyfforddiant a roddai mewn mordwyo i fechgyn ifanc yr ardal oedd a’u bryd ar fynd yn llongwyr.
Er ei bod bellach yn adnabyddus yn ei hardal enedigol, ni ddaeth Cranogwen i sylw Cymru gyfan nes iddi ennill gwobr am y gerdd, ‘Y Fodrwy Briodasol’ yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1865, gan guro beirdd enwog megis Ceiriog, Islwyn a Mynyddog. Yn sgil hyn, dechreuodd ddarlithio o amgylch Cymru ar nifer o destunau gwahanol. Gan fod Cymru newydd brofi Diwygiad 1859, dyma gyfnod cyfarfodydd mawr y capeli, a daeth darlithoedd Cranogwen mor boblogaidd nes iddi roi’r gorau i’w gwaith yn yr ysgol yn 1866.
Yn y flwyddyn hon hefyd dechreuodd Cranogwen bregethu. Yn y cyfnod hwn credai’r gymdeithas mai rôl merched oedd aros gartref i fagu plant yn hytrach na bod allan yn rhannu gwaith Duw’n gyhoeddus, ac felly cododd hyn wrychyn nifer, gyda rhai dynion yn mynd mor bell â gwrthod pregethu yn yr un oedfa â hi. Efallai mai dyma pam yr oedd hi mor wylaidd am ei gwaith, gan ddadlau mai dim ond ‘dweud tipyn’ oedd hi. Serch hynny, parhau i heidio i wrando arni wnaeth y torfeydd, ac yn 1869 derbyniodd wahoddiad i ddarlithio yn yr Unol Daleithau. Bu yn yr UDA am dros flwyddyn, gan deithio hyd a lled y wlad. Bu’r profiad yn amlwg yn un bythgofiadwy, a bu’n darlithio ar destunau megis ‘Tu hwnt i’r Mynyddoedd Creigiog’ (disgrifiad o beth welodd yn ardal y Rockies) wedi iddi ddychwelyd.
Erbyn 1879, sefydlodd Cranogwen gylchgrawn Y Frythones i “ymddangos mewn bwlch ar y mur a fu drwy y blynyddoedd yn cael ei esgeuluso”, gan mai hwn oedd y cylchgrawn Cymraeg cyntaf i ferched ers i gylchgrawn Y Gymraes, dan olygyddiaeth Ieuan Gwynedd, ddod i ben yn 1852. Cyhoeddwyd Y Frythones am ddeng mlynedd o dan ei golygyddiaeth.
Yn wahanol i’r Gymraes, merched oedd y mwyafrif helaeth o gyfranwyr Y Frythones, ac mae’n amlwg fod Cranogwen yn teimlo cyfrifoldeb am addysgu ‘merched a gwragedd’ y wlad trwy gyfrwng y cylchgrawn. Roedd nifer o erthyglau’n rhoi cyngor, megis Anerchiad Hen Chwaer, Gair at Ferched Ieuainc a Gair at Ferched Cymru, heb sôn am golofn reolaidd Cwestiwn ac Ateb, lle ymatebai Cranogwen (oedd yn aml yn defnyddio’r teitl ‘Yr Ol.’) i broblemau merched ifanc Cymru.
Er bod atebion Cranogwen i gwestiynau merched ifanc yn aml yn ffraeth – cafodd un cwestiwn oedd yn poeni am briodi yr ateb “Byddwch gysurus chwiorydd, a cheisiwch rywbeth i’w wneyd. Gallai ychydig o ganu fod yn gymysgedd hapus” – roedd hi o ddifrif am annog merched ifanc i ysgrifennu a darganfod eu lleisiau. Roedd colofn Ein Gohebwyr Ieuainc yn ymddangos yn rheolaidd, a roedd cystadlaethau traethawd misol hefyd. Bu Cranogwen yn angerddol am hyrwyddo talent fenwyaidd, gan ddweud y drefn yn dilyn un gystadleuaeth yn 1879 – “Deuwch ferched, ym mha le yr ydych? Bechgyn yw y rhan amlaf o ysgrifwyr, a gwyddoch mai arnoch chwi yn bennaf yr oedd ein golwg.”
Wedi camu’n ôl o’i dyletswyddau golygyddol, parhaodd Cranogwen â’i gwaith yn ymgyrchu dros ddirwest, achos a drafodwyd nifer o weithiau ar dudalenau’r Frythones. Ym mis Mawrth 1901 sefydlodd Undeb Dirwestol i Ferched y Ddwy Rondda, a newidiodd ei enw i Undeb Dirwestol Merched y De yn Ebrill y flwyddyn honno. Bu’n Ysgrifennyddes y Mudiad am bymtheg mlynedd, nes gorfod rhoi’r gorau iddi oherwydd gwaeledd. Cyn ei marwolaeth ym Mehefin 1916, roedd Cranogwen wedi cychwyn ar y gwaith o sefydlu lloches i ferched oedd yn dioddef o broblemau yfed a digartrefedd, ac erbyn 1922 roedd merched y Rhondda wedi llwyddo i gasglu’r cyllid a phrynu tŷ addas; agorwyd Llety Cranogwen er cof amdani yn y Rhondda ym mis Mehefin y flwyddyn honno.
Ni phriododd Cranogwen erioed; ei chymydog, Jane Thomas, oedd ei chymar oes, a hi oedd testun un o gerddi mwyaf personol Cranogwen, “Fy Ffrynd”, a gynhwysai linellau megis “Dy ddilyn heb orphwyso wna/ Serchiadau pura’m calon”. Roedd cyfeillgarwch rhamantaidd rhwng merched yn eithaf cyffredin ar y pryd, i’r graddau nad oedd lesbiaeth yn cael ei gweld fel petai’n bodoli yn ôl syniadau Fictorianaidd am rywioldeb. Mae geiriau’r gerdd yn awgrymu bod mwy i’w perthynas na chyfeillgarwch yn unig, ac wedi marwolaeth rhieni Cranogwen, bu’r ddwy’n byw gyda’i gilydd am ugain mlynedd olaf bywyd Cranogwen.
Difyr yw nodi fod y Parch J. Jenkyns Jones yn sôn yn ysgrif goffa Cranogwen yn Y Goleuad mai “Cymeriad ar ei phen ei hun ydoedd – yr oedd yn eithriad ymysg ei rhyw.” Digon teg oedd dweud hyn am ferched ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond oherwydd gwaith arloesol Cranogwen mewn cynifer o feysydd, fe sicrhaodd na fyddai pethau’n parhau felly, a’i gwaddol yw fod cynifer o ferched wedi eu hysbrydoli i’w dilyn i ysgrifennu ac i barhau â’i gwaith.
Yn ystod ei golygyddiaeth o’r Frythones nododd Cranogwen nad oeddynt fel cylchgrawn yn cofnodi hanes merched cyfoes oherwydd mai “Brythones yr oes nesaf a fydd yn croniclo hanes merched a gwragedd yr oes hon. Bydd yn amlwg erbyn hyny pa fodd y byddwn wedi rhedeg ein gyrfa i’r pen, a pha faint a fydd ein gwir werth.” Teg dweud fod ‘Brythones’ yr oes hon yn bendant yn gwerthfawrogi “gwir werth” cyfraniad Cranogwen i’r genedl.
Darllen Pellach
· ‘Developing Women’s Welsh-language Print Culture’ yn Nineteenth-Century Women’s Writing in Wales: Nation, Gender and Identity, Jane Aaron (Gwasg Prifysgol Cymru)
· ‘Cranogwen’ yn Mamwlad: Merched Dylanwadol Cymru, Beryl H. Griffiths (Gwasg Carreg Gwalch)
· Cranogwen: Portread Newydd, Gerallt Jones (Gwasg Llandysul)
· Cofiant Cranogwen, D.G. Jones (Caernarfon)
· ‘Cranogwen’ yn Y Goleuad, Gorffennaf 14, 1916, J Jenkins Jones (http://cymru1914.org/en/view/newspaper/3494457/6)
· Caniadau Cranogwen, Sarah Jane Rees (Dolgellau)
· ‘Hunan-Goffa’ yn Y Frythones (rhifynnau o 1883-1884), Sarah Jane Rees (ar gael yn Llyfrgell Prifysgol Bangor)
· http://yba.llgc.org.uk/en/s-REES-JAN-1839.html Mae Lowri Ifor newydd ddychwelyd i Gaernarfon wedi saith mlynedd yn astudio a gweithio yn Rhydychen a Llundain.
0 notes
Text
Siopa Nadolig cydwybodol
Yn y blog yma, mae Simon Dowling o WCVA yn rhoi syniadau moesegol i chi wrth siopa i’ch anwyliaid dros gyfnod yr Ŵyl.
Mae’r Nadolig ar ddod ac efallai fod y rheini sydd, fel fi, yn gadael pethau tan y munud olaf yn dal i chwilio am yr anrheg berffaith i’w hanwyliaid. Wrth i ni ddod yn fwy ymwybodol o effaith plastig ar yr amgylchedd, ac yn wir ein diwylliant ‘taflu i ffwrdd’, gall siopa Nadolig deimlo weithiau fel pe bai’n gwneud mwy o niwed na daioni.
Y llynedd fe es i ati’n fwriadol i geisio prynu o leiaf rhai anrhegion o lefydd sy’n rhoi’n ôl i gymdeithas. Os hoffech chithau gefnogi pobl sy’n gwneud pethau gwerth chweil dros ein cymunedau yna dyma restr o anrhegion Nadolig o Gymru â chydwybod gymdeithasol i’ch cynorthwyo!
Dydw i ddim yn dweud na fydd yna ddim deunydd pacio nac y byddwn yn datrys problemau’r byd dros nos, ond os ydych am brynu pentwr mawr o anrhegion eleni beth am gefnogi’r rheini sy’n ceisio gwneud gwahaniaeth tra ydych wrthi? Os nad dim arall, gallaf eich sicrhau y bydd yn gwneud i chi deimlo’n gynnes tu mewn wrth herio’r tywydd mawr y gaeaf hwn...
Anrhegion Nadolig o Gymru â chydwybod gymdeithasol
Anrhegion tymhorol gan Vision 21
Menter gymdeithasol yw Vision 21 sy’n cynnig ‘cyfleoedd hyfforddiant realistig yn y gweithle i bobl ag anghenion dysgu’. Caiff holl gynhyrchion Vision 21 eu gwneud gyda chyfraniad llawn hyfforddeion ac mae’r elw i gyd yn mynd yn syth yn ôl i’r elusen.
Yn ogystal ag anrhegion tymhorol mae Vision 21 hefyd yn gwerthu cynhyrchion pren, crochenwaith a chardiau, yn ogystal â phlanhigion, perlysiau a llysiau. Mae siop Vision Made ar Heol Albany yng Nghaerdydd, ac ewch ar wefan Vision 21 i gael gwybod mwy am eu cynhyrchion eraill.
Pecyn gwau’ch het eich hun
Ar ôl llwyddiant ysgubol yr ymgyrch ‘One Knit Wonder’ yn 2017, mae’r elusen o Gymru The Wallich yn cydweithio unwaith eto â John Lewis i fynd i’r afael â digartrefedd i’w atal rhag ‘gwau-thygu’!
Mae’r pecyn hwn yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch i wau het ac mae’n cynnwys lliwiau newydd megis mwstard a gwyrddlas. Mae’r pecyn ar gael am £13.50, yn John Lewis & Partners yng Nghaerdydd am gyfnod penodol yn unig, a bydd yr holl elw o One Knit Wonder yn mynd i The Wallich i helpu pobl sy’n cysgu allan ledled Cymru.
Ar ôl gorffen eich het, cewch ddewis ei gwisgo eich hun, ei rhoi’n anrheg neu fynd allan a’i rhoi i rywun mewn angen. Ewch i siop John Lewis yng Nghaerdydd i gael gwybod mwy neu ewch i https://thewallich.com/oneknitwonder/.
Cynhyrchion ‘molchi moethus o Gymru
Menter gymdeithasol o Gymru yw Good Wash sy’n rhoi ei helw i brosiectau lleol sy’n gwella bywydau anifeiliaid a phobl. Mae gan wefan Good Wash lawer o gynhyrchion ‘molchi moethus o’r radd flaenaf (gan gynnwys ‘Woof wash’ i’ch ci!) sydd wedi’u gwneud o’r cynhyrchion naturiol gorau posib sy’n rhydd rhag creulondeb.
Mae elw Good Wash yn cynorthwyo elusennau, grwpiau neu unigolion i gynnal prosiectau sy’n gwneud pethau fel; cynorthwyo’r digartref i ddod o hyd i gartref, a gwella eu rhagolygon bywyd; cynorthwyo’r rheini sy’n wynebu tlodi neu allgáu cymdeithasol i ddod o hyd i waith, hyfforddiant neu gyfleoedd gwirfoddoli; gwella lles anifeiliaid; darparu atebion iechyd a llesiant arloesol, sydd ar gael i bawb; hyrwyddo hylendid, a rhoi mynediad at ddŵr glân a glanweithdra; a gwarchod a hybu bywyd ar y tir ac yn y môr.
Mae cynhyrchion Good Wash ar gael mewn sawl siop ac arlein.
Canhwyllau o waith llaw gan Beacons Creative
Mae Beacons Creative yn gwmni cymdeithasol unigryw sy’n cynhyrchu canhwyllau a chynhyrchion cysylltiedig wrth roi cyfleoedd gwaith i bobl ag anawsterau dysgu a’r rheini sydd bellaf o’r farchnad lafur.
Mae’r fenter gymdeithasol ym Mannau Brycheiniog yn gwerthu llu o gynhyrchion cwyr megis canhwyllau hyfryd a thanwyr moch coed moethus, ac mae’n defnyddio deunyddiau sydd wedi’u hailgylchu pryd bynnag bosib. Ewch ar wefan Beacons Creative i gael gwybod mwy.
Crysau-t a hwdis wedi’u dylunio a’u cynhyrchu’n lleol
Menter gymdeithasol ddielw yw Antur 'Stiniog a sefydlwyd yn 2007 i ‘ddatblygu potensial y Sector Awyr Agored yn ardal Ffestiniog’ mewn ffordd gynaliadwy ac arloesol er budd y trigolion a’r economi leol. Mae’r crysau-t a’r hwdis a wneir yn lleol yn arbennig o dda i feicwyr brwd ac mae’r elw yn cefnogi’r llwybrau beicio mynydd a’r cynllun llogi beic yn Eryri.
Gallwch brynu cynhyrchion Antur ‘Stiniog yn y siop, y ganolfan wybodaeth, y tŷ coffi a’r oriel gelf yng nghanol Blaenau Ffestiniog, neu arlein ar: https://antur-stiniog.myshopify.com/
Rhowch ymweliad â ‘Rhyfeddod Cymru’ yn anrheg i rywun
Elusen yw Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru sydd wedi’i hymrwymo i ymchwil a chadwraeth bioamrywiaeth, cynaliadwyedd, dysgu gydol oes a mwynhad ymwelwyr.
Dyma’r ardd sy’n denu’r nifer mwyaf o ymwelwyr yng Nghymru ac mae llwyth o bethau i’w gweld a’u gwneud y tu hwnt i’r gerddi bendigedig gan gynnwys gweithgareddau amrywiol a’r Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydeinig.
Cynhyrchion ‘molchi ac anrhegion moethus gan Myddfai Trading Co
Menter gymdeithasol yw Myddfai Trading Company Limited sy’n darparu cyflogaeth a chyfleoedd gwirfoddoli yn y gymuned leol yn Sir Gâr. Mae eu cynhyrchion ‘arloesol, ecogyfeillgar a gwreiddiol’ yn cynnwys persawr cartref, sebon, jel cawod, siampŵ a sebon llyfnu, hylif golchi dwylo, hylif golchi’r corff, bomiau bath a chynhyrchion sba, sydd hefyd ar gael mewn setiau anrheg.
Defnyddir yr elw o’r siop arlein a masnach i adfywio cefn gwlad yn lleol gan gynnwys gweithio’n agos gyda Phrosiect yr Arfordir a Choleg Elidyr yn Rhandirmwyn i roi profiad gwaith i oedolion ag anawsterau dysgu.
Pwy ydym wedi’i anghofio? Yn gwybod am anrhegion â chydwybod gymdeithasol o Gymru sydd ddim ar y rhestr? Rhowch wybod i ni drwy ebostio [email protected].
Ydych chi’n rhan o fenter gymdeithasol? Mae WCVA yn ariannu Mentrau Cymdeithasol drwy dîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru, cysylltwch i gael gwybod mwy.
0 notes
Text
Agored democratiaeth yng Nghymru
Dyma Jessica Blair, Cyfarwyddwr ERS Cymru yn cyflwyno ‘maniffesto cymdeithas sifil’, yr ymdrech unedig gyntaf gan gymdeithas sifil Cymru i wneud democratiaeth yn fwy agored.
Sophia y robot dynolffurf a chyd-banelwyr yn trafod deallusrwydd artiffisial yn Uwchgynhadledd Fyd-eang y Bartneriaeth Llywodraeth Agored fis Gorffennaf
Pe bai modd i chi ddewis un peth i Lywodraeth Cymru ei wneud i fod yn fwy tryloyw neu i ennyn diddordeb pobl yn fwy, beth fyddai hwnnw? Yn enwedig pe gwyddech fod yn rhaid i’r llywodraeth wrando ac ymateb?
Dyna oedd sail ymgynghoriad diweddar a gynhaliwyd gennym fel rhan o Rwydwaith Llywodraeth Agored Cymru.
Mae Llywodraeth Agored yn gysyniad gweddol newydd i gymdeithas sifil yng Nghymru, ond mae’n ffenomenon byd-eang lle mae llywodraethau ledled y byd yn ymrwymo i wella atebolrwydd, tryloywder a chyfranogi yn eu gwledydd – ac yn gweithio gyda chymdeithas sifil i roi’r syniadau hyn ar waith. Y nod yw dymchwel y rhwystrau sy’n sefyll rhwng gwleidyddion a’r rheini maent yn eu cynrychioli.
Mae hyn wedi arwain at bolisïau sydd wedi gweddnewid pethau o ddifrif o amgylch y byd; dulliau cyllidebu arloesol ym Madrid a Phortiwgal lle mae cymunedau’n pleidleisio ar y ffordd o wario cyllidebau, system debyg i ‘tripadviser’ er mwyn adolygu gwasanaethau cyhoeddus ym Mongolia lle gall pobl roi sgôr i’w hysbyty lleol, a llwyfan i gasglu data torfol ynglŷn â digartrefedd yn Austin,Tecsas. Mae’r polisïau hyn wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl yn yr ardaloedd hyn.
Nawr mae gan Lywodraeth Cymru y cyfle i wneud yr un peth. Eleni bydd yn cyhoeddi ei chynllun gweithredu newydd ar Lywodraeth Agored. Dyma’r eildro yn unig i hyn ddigwydd yng Nghymru – a’r tro cyntaf i gynnwys cymdeithas sifil o ddifrif.
Mae Rhwydwaith Llywodraeth Agored Cymru, dan arweiniad ERS Cymru, WCVA a Cynnal Cymru, wedi bod yn casglu syniadau i baratoi at hyn, er mwyn eu cyflwyno i’r llywodraeth gan obeithio y byddant yn rhan o’i hymrwymiadau terfynol.
Casglom y syniadau drwy weithdy a llwyfan ‘Discuto’ arlein i bobl gynnig eu hawgrymiadau eu hunain. O’r awgrymiadau amrywiol hyn fe wnaethom roi maniffesto cymdeithas sifil at ei gilydd, sydd, gobeithio, yn gosod y safon aur ar gyfer tryloywder.
Mae ein cynigion amrywiol yn cynnwys gwneud gwefan Llywodraeth Cymru yn gliriach ac yn fwy hygyrch, cyflwyno dulliau cyllidebu sy’n cynnwys pobl mewn cymunedau, a gwneud y broses gaffael yng Nghymru yn fwy tryloyw.
Mae hyn oll yn deillio o ffaith hollbwysig: mae gan Gymru ddiffyg democrataidd difrifol, gan mai ychydig iawn ohonom sy’n ymwneud o ddifrif â bywyd cyhoeddus yma y tu hwnt i bleidleisio mewn etholiadau.
A phan ddaw hi at etholiadau does gennym ddim byd i ymffrostio yn ei gylch. Dim ond ychydig dros 45% o bleidleiswyr cofrestredig a bleidleisiodd yn etholiadau’r Cynulliad yn 2016. Yn yr etholiad llywodraeth leol y llynedd, dim ond 41% oedd y ffigwr hwn.
Daw rhan o’r diffyg hwn yn sgil diffyg dealltwriaeth a chyfranogi yn y penderfyniadau a wneir yng Nghymru – a gall y llywodraeth gymryd camau i wella hyn. Bydd cymryd camau mawr ymlaen yn y meysydd yr ydym wedi’u hamlygu yn gwneud cyfraniad sylweddol at leihau trafferthion democrataidd Cymru.
Ystyrier er enghraifft un o’n galwadau: bod Llywodraeth Cymru yn cynhyrchu dogfennau mewn ystod ehangach o fformatau – gan gynnwys delweddau a ffeithluniau – ac yn gweithio gyda llwyfannau gwahanol i sicrhau eu bod yn cyrraedd ystod ehangach o gynulleidfaoedd. Mae hyn yn swnio’n weddol syml, ond gall wneud gwahaniaeth mawr mewn gwirionedd.
Pe bai ymgynghoriadau yn cael eu llunio mewn ffordd sy’n denu pobl yn fwy, gan ddefnyddio’r dulliau hyn a’u hanfon at ystod ehangach o bobl drwy gyfrwng y llwyfannau maent yn eu defnyddio, efallai y byddai lleisiau mwy o bobl yn cael eu clywed a byddai penderfyniadau ynglŷn â pholisïau yn cynrychioli ein cymdeithas gyfan yn well a’r hyn yr hoffent ei weld yn digwydd.
Maes allweddol arall yr ydym wedi’i amlygu yn y maniffesto yw cyllidebu cyfranogol. Dyw’r geiriau ddim yn golygu llawer ar eu pen eu hunain (yn wir, dwi wedi bod sawl cyfarfod lefel uchel lle doedd dim un ohonom yn gallu eu hynganu hyd yn oed), ond yn ymarferol mae cyllidebu cyfranogol yn ffordd o roi llais gwirioneddol i bobl mewn cymunedau ynglŷn â phenderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw a’u hardal.
Yn gryno, fe fyddem ni gyd yn cael cyfle i ddweud ein dweud ar ble i wario arian yng Nghymru. Mae sawl model ar gael ar gyfer cyllidebu cyfranogol. Efallai’r un mwyaf adnabyddus yw Decide Madrid lle mae trigolion yn pleidleisio bob blwyddyn dros sut i wario €100m. Pe bai’n rhaid i’ch awdurdod lleol chi benderfynu ai’r ffyrdd, yr ysgolion, ynteu’r gwasanaethau gwastraff lleol a fyddai’n cael arian ychwanegol y flwyddyn honno, oni fyddech chi eisiau cael dweud eich dweud?
Y cynigion yn ein maniffesto yw’r ymdrech unedig gyntaf gan gymdeithas sifil Cymru i wneud democratiaeth yn fwy agored.
Gobeithiwn y bydd Llywodraeth Cymru yn eu hystyried o ddifrif. Mae hwn yn gyfle mawr i Gymru ac fe allai esgor ar newid sylweddol yn y ffordd y mae’r llywodraeth yn gweithio yma er lles ni i gyd.
Gallwch ddarllen Maniffesto Cymdeithas Sifil Rhwydwaith Llywodraeth Agored Cymru yma. I fod yn rhan o’r Rhwydwaith ymunwch â’r fforwm Llywodraeth Agored yma.
0 notes