#carcharorion
Explore tagged Tumblr posts
revcleo · 7 months ago
Text
This is an issue in the UK also, the lib dems tried to allow more people to vote in 2012 but were blocked by Cameron, the current rules are:
Convicted prisoners serving a custodial sentence are disqualified from voting while they are detained in custody. This has been made clear on the warrant of committal since July 2018. However, some people in prison may have the right to vote, in certain circumstances.
You may be eligible to vote if:
✓You are an unconvicted prisoner.
✓You are a convicted but unsentenced prisoner.
✓You are a civil prisoner.
✓You are serving a default term for non-payment of a fine.
✓You have been committed to prison for contempt of court.
✓You are in the community on home detention curfew (HDC) or released
on temporary licence (ROTL). *
*Prisoners on HDC and ROTL are only eligible to register to vote once they are in the community
and become ineligible again upon return to prison.
Nid yw carcharorion a gafwyd yn euog sy'n cyflawni dedfryd o garchar yn gymwys i bleidleisio tra'u bod yn y ddalfa. Gwnaed hyn yn glir ar warant traddodi ers mis Gorffennaf 2018. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd gan rai pobl sydd yn y carchar yr hawl i bleidleisio, o dan rai amgylchiadau.
Gallwch fod yn gymwys i bleidleisio os:
✓ydych yn garcharor heb ei gollfarnu.
✓yn garcharor sydd wedi'i gollfarnu ond heb ei ddedfrydu.
✓yn garcharor sifil.
✓yn treulio cyfnod penodol yn y carchar am beidio â thalu dirwy.
✓wedi eich traddodi i garchar am ddirmyg llys.
✓yn y gymuned ar gyrffyw cyfyngu i’r cartref (HDC) neu wedi eich
rhyddhau ar drwydded dros dro (ROTL).*
* Nid yw carcharorion ar HDC a ROTL yn gymwys i gofrestru i bleidleisio ond pan fyddant yn y
gymuned a byddant yn anghymwys eto ar ôl dychwelyd i'r carchar.
There's been applications to the ehrc on this by convicted prisoners as it is against human rights and it's purely ideological to disenfranchise at most 0.14 percent of the population.
Tumblr media
65K notes · View notes
wcva · 7 years ago
Text
Cydraddoldebau a hawliau dynol ym manifestos 2017
Tumblr media
Gwahoddwyd Gethin Rhys, Swyddog Polisi Cytûn, i ysgrifennu blog gwadd yn dadansoddi ymrwymiadau maniffestos y prif bleidiau gwleidyddol i gydraddoldebau a hawliau dynol.
Efallai ei bod yn syndod bod cydraddoldebau a hawliau dynol yn nodwedd eithaf amlwg ym mhob un o faniffestos y chwe phrif blaid ar gyfer etholiad 2017.  Nid yw lle yn caniatáu i mi roi’r holl fanylion yma, ond dyma rai o’r uchafbwyntiau ymysg yr ymrwymiadau sydd wedi cael eu gwneud.
Hawliau Dynol
Mae’r Blaid Geidwadol yn ymrwymo i’r Ddeddf Hawliau Dynol a’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol ar gyfer y senedd nesaf, ond mae’n ychwanegu y byddwn ni’n ystyried ein fframwaith cyfreithiol ar hawliau dynol pan mae’r broses o adael yr UE yn dod i ben (t. 37). Fodd bynnag, byddai’r lluoedd arfog yn cael eu tynnu o gwmpasiad y Confensiwn Ewropeaidd a bydd yn amodol ar Gyfraith Gwrthdaro Arfog yn y dyfodol (t. 42).
Mae UKIP yn addo atal erlyn aelodau o’r lluoedd arfog am weithredoedd a gyflawnwyd wrth gwasanaethu’r Goron (t. 46). Byddai UKIP yn diddymu deddfwriaeth Hawliau Dynol y Blaid Lafur a thynnu’r DU o awdurdodaeth Llys Hawliau Dynol Ewrop (t. 41) a chyflwyno Deddf Hawliau newydd ar gyfer y DU.  Byddai’n Gwarchod rhyddid crefyddol …, ar yr amod bod y credoau hynny yn bodoli yn gadarn o fewn fframwaith cyfraith Brydeinig.  Ni fyddwn yn caniatáu unrhyw fath o ffydd sydd ei hun yn anoddefgar o hawliau dynol pobl eraill (t. 38).
Byddai Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Werdd yn cadw’r Ddeddf Hawliau Dynol, a byddai Plaid Cymru yn cyhoeddi siarter hawliau dynol ar gyfer Cymru er mwyn amddiffyn y Cymry yn erbyn cefndir o lywodraeth Dorïaidd sy’n benderfynol o danseilio’r Ddeddf Hawliau Dynol (t. 39).
Byddai Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Werdd yn ymgorffori gwarchodaethau hawliau dynol ar hyd y gadwyn gyflenwi fel rhan o fargeinion masnach ar ôl gadael Ewrop.  Bydd Llafur yn penodi llysgenhadon byd-eang ymroddedig ar hawliau merched, hawliau Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol a rhyddid crefyddol (t. 109) a bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn penodi llysgennad dros ryddid cred.
Mae maniffesto’r Blaid Geidwadol yn cynnwys polisi manwl ynglŷn ag ymdrin â chaethwasiaeth fodern, ac mae ymrwymiadau i ymdrin â’r mater yn cael eu gwneud yn ogystal gan Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol.
Ffoaduriaid a lloches
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud fod y system loches bresennol wedi’i anelu at bobl sydd … â’r adnoddau i ddod i Brydain, yn hytrach na’r rhai hynny sydd angen ein help fwyaf.  Lle bynnag y bo’n bosibl, bydd y llywodraeth yn cynnig lloches a noddfa i bobl mewn rhannau o’r byd sy’n cael eu heffeithio gan wrthdaro a gorthrwm, yn hytrach nag i’r rhai hynny sydd wedi cyrraedd Prydain.  … Byddwn ni … yn sefydlu cynlluniau i helpu unigolion, elusennau, grwpiau ffydd, eglwysi a busnesau i ddarparu  tai a chefnogaeth arall ar gyfer ffoaduriaid (t. 40).
Mae Llafur yn addo cwrdd â’n hymrwymiadau rhyngwladol ynglŷn â’r argyfwng ffoaduriaid (t. 112) a byddan nhw yn adolygu’r trefniadau gwasgaru.  Dywed UKIP y byddai’n cydymffurfio yn llawn â Chonfensiwn 1951 y CU sy’n ymwneud â Statws  Ffoaduriaid, ac yn anrhydeddu ein hymrwymiadau i geiswyr lloches dilys (t. 33).
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwneud nifer o addewidion, yn cynnwys ymestyn Cynllun Ailgartrefu Ffoaduriaid o Syria i 50,000 o bobl yn ystod y Senedd nesaf ac ailagor y Cynllun Dubs ar gyfer 3,000 o blant sydd wedi ffoi ar eu pennau eu hunain o Ewrop.
Mae’r Blaid Werdd yn addo System fewnfudo a lloches ddyngarol sy’n cydnabod ac yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros swyddogaeth barhaus Prydain drwy achosi llif o ymfudwyr drwy’r byd (t. 19).
Mewnfudo
Bydd y Ceidwadwyr yn ei gwneud yn fwy anodd i’r rhai hynny gyda dyfarniadau troseddol i ddod i mewn i’r DU a byddai UKIP yn gwrthod rhoi teitheb/pasbort iddyn nhw.  Dywed UKIP y bydd teithebau ymfudwyr sy’n cyflawni troseddau sy’n arwain at ddedfryd o garchar yn cael eu diddymu a byddan nhw’n cael eu dal tan y maen nhw’n cael eu halltudio (tt. 34, 40).  Mae UKIP (t. 33) yn cynnig cynllun pasbortau a thrwyddedau gwaith manwl yn dilyn Brexit; mae’r Ceidwadwyr yn addo system newydd, ond nid ydyn nhw yn rhoi manylion amdani.
Bydd Llafur yn datblygu ac yn gweithredu rheolau mewnfudo teg (t. 26).  Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn sicrhau bod y system fewnfudo yn cael ei gweithredu yn deg ac yn effeithlon, gan reoli ffiniau yn llym (t. 77).
Mae Plaid Cymru yn addo Polisi mewnfudo rhesymegol sy’n gweithio i Gymru, lle gall myfyrwyr a chrewyr swyddi ddod, lle nad yw cyflogau yn cael eu gostwng a lle mae cymunedau yn cael eu gwarchod (t. 51).
Byddai Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Werdd i gyd yn gwarantu yn unochrog hawliau dinasyddion yr UE sydd yn y DU ar hyn o bryd.  Byddai UKIP yn gwarantu hawliau dinasyddion yr UE sy’n parchu’r gyfraith a oedd yn byw yn y DU cyn i Erthygl 50 gael ei thanio (t. 34) ynghyd â dinasyddion yr UE a oedd yn gweithio mewn iechyd a gofal cymdeithasol (t. 20).  Fodd bynnag, ni fydd gan ddinasyddion yr UE a ddaeth i’r DU ar ôl 29ain Mawrth  2017 yr hawl awtomatig i aros, a phan yr ydym ni yn gadael yr UE, byddan nhw yn colli'r holl fuddion, yn cynnwys gofal iechyd nad yw’n fater brys (t. 34).
Addewid y Ceidwadwyr yw y Byddwn ni … yn diogelu hawliau dinasyddion yr UE ym Mhrydain a dinasyddion Prydeinig yn y UE (t. 36).
Integreiddio a gwrth-eithafiaeth
Mae’r Ceidwadwyr yn addo ymdrin ag eithafiaeth, yn arbennig felly eithafiaeth Islamaidd,  drwy ystyried pan dramgwyddau troseddol newydd a all fod angen eu creu, a pha dramgwyddau gwaethygedig newydd a all fod angen eu sefydlu … A byddwn ni’n sefydlu Comisiwn ar gyfer Gwrthsefyll Eithafiaeth … er mwyn dod o hyd i bolisïau i orchfygu eithafiaeth a hyrwyddo gwerthoedd lluosgaethol (tt. 52-3).  Yn ogystal, byddan nhw’n datblygu strategaeth integreiddio newydd, a fydd yn ceisio helpu pobl mewn cymunedau mwy ynysig i ymgysylltu â’r byd ehangach, helpu merched yn y gweithle yn benodol, a dysgu mwy o bobl i siarad Saesneg (t. 52).
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Werdd yn addo rhoi terfyn ar strategaeth Prevent a’i disodli gyda strategaethau cymunedol; byddai Llafur yn adolygu ei gweithredu, ac yn siarad o blaid strategaeth wleidyddol amlgenhedlig hirdymor, a fyddai’n cael ei harwain gan actorion rhanbarthol, er mwyn ymdrin â lledaeniad yr eithafiaeth (t. 108).
  Bydd UKIP yn rhoi prawf ar agweddau cymdeithasol ymgeiswyr mewnfudo er mwyn meithrin cydlyniad cymunedol a gwarchod gwerthoedd Prydeinig craidd (t. 34) a byddan nhw yn … llunio cynigion i chwalu cynghorau sharia (t. 35).  Byddan nhw’n rhoi prawf ar wahanu carcharorion Islamaidd ac yn gwrthod mynediad i garchardai i unrhyw imam, pregethwr neu unigolyn a wyddys sy’n hyrwyddo safbwyntiau croes i werthoedd Prydeinig (t. 41).
Deddfwriaeth Cydraddoldebau
Mae pedair plaid yn addo cryfhau cyfraith gydraddoldebau.  Byddai’r Ceidwadwyr Cymreig yn ymestyn y Ddeddf Gydraddoldeb i gyflyrau iechyd meddwl sy’n episodig ac yn gyfnewidiol (t. 54); bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn ymestyn gwarchodaeth o ailbennu rhywedd mewn cyfraith gydraddoldeb (t. 71) ac yn ymestyn y Ddeddf Gydraddoldebau i gynnwys cwmnïau gyda mwy na 250 o weithwyr a gwahardd gwahaniaethu ar sail castau, a byddai’n diogelu Confensiwn yr UE ar Hawliau’r Plentyn mewn cyfraith.  Byddai Llafur yn cryfhau mynediad at gyfiawnder ar gyfer pobl anabl drwy wella Deddf Cydraddoldeb 2010 gan alluogi gwahaniaethu yn y gwaith i gael ei herio (t. 52) a byddai’n gwneud salwch terfynol yn nodwedd warchodedig. Byddai’r Blaid Werdd yn ymestyn cydraddoldeb ar gyfer pobl LGBTIQA+ (t. 21).  Fodd bynnag, y mae UKIP yn mynegi ei gwrthwynebiad i nifer fawr o ddeddfwriaethau ynglŷn â ffydd, cenedl a chydraddoldebau (t. 32).
Mae’r Ceidwadwyr, Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol i gyd yn addo ymdrin ag anghyfartaleddau mewn recriwtio a chyflogau rhwng pobl o wahanol darddiadau ethnig, yn arbennig felly yn y gwasanaethau cyhoeddus a chyflogwyr mawr.  Mae Llafur yn cynnig amrediad o bolisïau cyflogaeth sy’n cynnwys pob maes o gydraddoldeb.
Bydd y Ceidwadwyr yn deddfu ar gyfer gorchymyn newidiadau mewn ymarferion heddlu os nad yw ‘stopio a chwilio’ yn cael ei dargedu yn well (t. 54) yn ogystal â’r defnydd anghyfartal o rym yn erbyn pobl Dduon, Asiaidd a phobl lleiafrifoedd ethnig yn y carchar, mewn sefydliadau tramgwyddwyr ifanc ac mewn unedau iechyd meddwl diogel.  Fodd bynnag, byddai UKIP yn adfer pwerau Stopio a Chwilio i’r heddlu (t. 40).
Bydd Llafur yn rhoi terfyn ar hiliaeth a gwahaniaethiad yn erbyn cymunedau Sipsi, Roma a Theithwyr a bydd yn gwarchod yr hawl i arwain ffyrdd  crwydrol o fyw (t. 102), tra y byddai UKIP yn ei gwneud yn drosedd i sefydlu safle teithwyr heb ganiatâd (t. 41).
Byddai Llafur yn gwella’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ei adolygu a byddai’r Blaid Werdd yn adfer ei gyllid.
Pobl gydag Anableddau
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn addo y byddwn yn dod o hyd i waith i  1 filiwn fwy o bobl gydag anableddau dros y ddeng mlynedd nesaf (t. 55) ac mae’n addo polisïau i wella mynediad i waith  a chyfleusterau lleol.
Mae UKIP yn addo ymestyn hawliau’r anabl (t. 31) a gwneud newidiadau i fudd-daliadau anabledd ac Asesiadau Gallu i Weithio.  Yn ogystal, mae Llafur yn addo gwneud nifer o newidiadau i’r driniaeth o anableddau yn y system Nawdd Cymdeithasol, yn cynnwys asesiad cyfannol, personol newydd (t. 51).  Dywed Plaid Cymru y byddwn ni’n cefnogi ac yn annog pobl anabl i waith, heb wynebu'r bygythiad o sancsiynau (t. 26).
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn addo cynyddu’r mynediad i leoedd cyhoeddus a thrafnidiaeth gyhoeddus a … dod â darpariaethau Deddf Cydraddoldeb 2010 ynglŷn â gwahaniaethu gan gerbydau hurio preifat a thacsis i rym (t. 71).
Trosedd casineb, trais yn erbyn merched a thrais domestig
Bydd Llafur yn cryfhau’r gyfraith ynglŷn â throseddau casineb yn erbyn Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol a chyflwyno cynlluniau adrodd a gweithredu blynyddol ynglŷn â throseddau casineb a thrais yn erbyn pobl anabl.  Mae’r Ceidwadwyr yn addo gwthio ein cynllun ar gyfer ymdrin â throseddau casineb a gyflawnwyd ar sail crefydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth drawsryweddol (t. 45).
Bydd Llywodraeth Geidwadol yn llunio Bil ynglŷn â Thrais a Cham-drin Domestig … er mwyn cydgyfnerthu gorchmynion atal a gwarchod sifil a throseddol a darparu ar gyfer trosedd gwaethygedig newydd os yw’r ymddygiad wedi’i anelu at blentyn, sefydlu Comisiynydd Trais Domestig a Cham-drin ac adolygu’r cyllid ar gyfer llochesau a thenantiaethau ar gyfer dioddefwyr (tt. 55-6). Yn ogystal, byddai Llafur yn penodi Comisiynydd Trais yn Erbyn Merched, yn datblygu’r Cynghorydd Cenedlaethol yng Nghymru, a byddai’n darparu cyllid canolog ar gyfer llochesau i ferched a chanolfannau argyfwng trais.  Byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn adolygu’r ymchwiliad, yr erlyniad, y gweithdrefnau a’r rheolau o dystiolaeth mewn achosion o gam-drin rhywiol a domestig (t. 75).
Byddai UKIP yn trefnu gwiriadau blynyddol gorfodol  ar gyfer genethod sy’n cael eu nodi i fod mewn risg o anffurfio organau cenhedlu benywod (t. 36).
Byddai’r Blaid Werdd yn gweithredu strategaeth drwy’r DU er mwyn ymdrin â thrais yn seiliedig ar ryw, yn cynnwys trais domestig, trais a cham-drin rhywiol, anffurfio organau cenhedlu benywod a masnachu pobl (t. 19).
Ymarferion Diwylliannol
Bydd UKIP yn gwahardd gwsigo’r niqab a’r burqa mewn lleoedd cyhoeddus (t. 37) a byddai’n cyhoeddi dogfennau swyddogol yn Saesneg yn unig a (lle y bo’n briodol) yn Gymraeg (t. 38).
Byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwarantu rhyddid i bobl wisgo gwisg grefyddol neu wisg ddiwylliannol ac ymdrin â’r amlder cynyddol o droseddau casineb Islamoffobig (t. 71).
Byddai UKIP angen labelu bwyd sydd wedi cael ei ladd yn ddefodol fel halal neu shechita (t. 55) a gwahardd dulliau Iddewig a Mwslemaidd o ladd sy’n cael ei wneud gan unigolion anghymwys mewn adeiladu heb eu rheoleiddio, ac ymdrin â throseddau o’r fath yn llym.
0 notes
brodsbach-blog · 8 years ago
Text
Ymhell i Ffwrdd - Caryl Churchill
Mae'r ddrama hon gan Caryl Chruchill yn un unigryw iawn. Caiff ei ysgrifennu mewn ffordd lle mae'r llinellau yn symud yn gyflym rhwng y  cymeriadau ac mae hyn yn galluogi i'r testun newid yn gyflym o un peth i'r llall. Er ei fod yn anodd ei ddarllen ar yr olwg gyntaf fe ddaw yn ddealladwy wrth i chi darllen y ddrama un olygfa ar y tro a cheisio i'w ddeall.
Er fy mod wedi dweud ei fod yn anodd ei ddarllen, mae'n rhwydd deall beth mae Caryl Churchill yn ceisio cyfleu yn y ddrama. Ofn, yr ofn o fyw mewn byd lle mae popeth yn y byd yn rhan o ryfel lle does neb yn gwybod os maen nhw ar yr ochr 'iawn' nei beidio ond mae gan bawb barn, yn cynnwys anifeiliaid sy'n brwydro hefyd. Mae e fel petai fod y cymeriadau ar goll trwy gydol y ddrama. I mi mae'r syniad fod popeth yn brwydro yn erchyll ond yn ddealladwy oherwydd mae'n ceisio dangos byd lle mae rhan fwyaf o egwyddorion dynol ni wedi cael ei golli ac rydym yn penderfynu brwydro yn erbyn popeth i goncro'r byd am y boddhad am y teimlad o lwyddiant. Cawn weld y teimlad yma wrth i Joan, sef y prif gymeriad yn y ddrama, dweud yn ei monolog olaf am ddyfnderoedd y rhyfel.
        "It was tiring there because everything’s been recruited, there were piles of bodies and if you stopped to find out there was                                one killed by coffee or one killed by pins, they were killed by heroin, petrol, chainsaws,  hairspray,                           bleach, foxgloves the smell of smoke was where we were burning the grass that wouldn’t serve. "  
Mae hwn yn dangos felly'r pellter a'r creulondeb sydd yn medru digwydd os mae'r byd dynol yn troi ar ei hun a natur. Does neb yn hoffi'r ffordd yma o fyw ond mae pawb yn ei dderbyn.
Caiff rhan o'r ddrama ei leoli mewn ffatri hetiau lle mae pobl yn gweithio i greu hetiau ar gyfer carcharorion sy'n mynd i gael ei ddienyddio. Dyma le mae Joan a Todd yn cwrdd am y tro cyntaf a gwelwn gariad a'r unig elfen o hapusrwydd drwy gydol y ddrama ei ddangos. Yr eironi fod cariad yn digwydd mewn adeilad sy'n dod a diwedd i fywydau nifer fawr o bobl bob dydd. Gallwn weld yn y ffatri yma yng ngolygfa 5 lle does dim siarad ond mae'n fath o arddangosfa byw o'r hetiau cafodd ei greu ar gyfer y carcharorion. Mae'r gallu creadigol yn ddiderfyn yma. Y gallu i ddangos celf yn mynd i'r bedd gyda mewn ffordd grotesg yn medru fod yn rhywbeth trawiadol i weld.
Mae'r ddrama hon felly yn rhywbeth sy'n dangos beth gall fod yn ddiwedd i'r byd fel rydym ni'n gwybod, ond wrth ddweud hyn mae'r ychwanegiad o gariad yn rhoi elfen o hapusrwydd i ddangos fod gobaith yn y byd pan fod y diwedd ar fin ddod. Dywedodd Matthew Cheney am y ddrama, "It is such creation that stands against the destruction of the world, and offers what little hope we as a species deserve."
0 notes
panwalescymru · 9 years ago
Audio
(CARCHARORION) #Mered #DynyPethe 
0 notes
cymruddyfodoliaeth · 10 years ago
Audio
Carcharorion yw'r ddeuawd samplo electronig Gruff Pritchard a Huw Cadwaladr. Mae eu EP cyntaf yn cynnwys ail-ddehongliad ar nifer o alawon, barddoniaeth a recordiadau Cymreig.
Gorffennol a dyfodol yn cwrdd mewn plethiad sy'n gwneud synnwyr llwyr. 
Gweler traethawd Lindsey Catherine Cornum a'r cysyniad o indigenous futurism:
Unlike those [early 20th century] futurists, who were in an antagonistic relation with their literary and cultural predecessors, indigenous futurism is centered on bringing traditions to distant, future locations rather than abandoning them as relics. 
Cymruddyfodoliaeth - cyrchu traddodiadau i leoliadau ymhell yn y dyfodol, yn hytrach na'u rhoi o'r neilltu a'u gwrthod fel creiriau. 
1 note · View note