#Pecyn Cymorth
Explore tagged Tumblr posts
Text
Ysbryd Gwirfoddoli Cymru - meithrin partneriaethau a datblygu gwirfoddoli mewn digwyddiadau
Dyma Reolwr Datblygu Gwirfoddoli Fiona Liddell yn edrych yn ôl ar daith ddwy flynedd Prosiect Ysbryd Gwirfoddoli Cymru.
Mae’r wythnosau diwetha’ ‘ma wedi bod fel ffair: ychwanegu dolenni a delweddau at becyn cymorth arlein newydd ar gyfer gwirfoddoli mewn digwyddiadau; golygu ac isdeitlo fideos; trefnu i astudiaethau achos gael eu dylunio’n broffesiynol a’u cyhoeddi; dadansoddi data arolygon. Mae adroddiad gwerthuso sy’n ymestyn i dros gant o dudalennau yn cael ei wirio a’i baratoi i’w gyfieithu, wrth i mi ysgrifennu.
Mae gennym (neu fe fydd gennym yn fuan) lawer i’w ddangos yn sgil dwy flynedd Prosiect Ysbryd Gwirfoddoli Cymru. Cymerwch olwg ar dudalennau’r prosiect a’r pecyn cymorth gwirfoddoli mewn digwyddiadau ar ein gwefan.
Felly sut dechreuodd y cwbl? Profiad WCVA yn trefnu gwirfoddolwyr ifanc ar gyfer Cwpan Ryder yn 2010 a daniodd ein diddordeb mewn gwirfoddoli mewn digwyddiadau. Fe sylweddolon ni nad oedd yn hawdd, a bod yna sawl maen tramgwydd. Mae gennych gyfnod penodol o amser i recriwtio ac ennyn diddordeb gwirfoddolwyr, eu paratoi at yr hyn mae angen iddynt ei wneud, a chyfleu’ch gwerthfawrogiad (gan obeithio y dôn nhw’n ôl y tro nesaf!). Does dim ail gyfle. Rhaid wrth gynllunio a pharatoi.
Felly pan gysylltodd Ysbryd 2012 â ni i drafod blaenoriaethau a darpar bartneriaid ar gyfer gwaith roeddynt yn bwriadu darparu grant ar ei gyfer yng Nghymru, roedd yn swnio fel rhywbeth yr oeddem ill dau’n teimlo ei fod yn bwysig. Fe’n gwahoddwyd i lunio cynnig am brosiect, a gymeradwywyd fis Rhagfyr 2014.
Roedd tri cham penodol i’r prosiect.
Y cyntaf oedd cynllunio a pharatoi, gwaith caib a rhaw fel petai. Fe ddaethom o hyd i chwe phartner a oedd yn bwriadu cynnal digwyddiadau yn ystod 2016 ac a hoffai’r cyfle i roi cynnig ar rywbeth newydd yn eu ffordd o weithio gyda gwirfoddolwyr. Penodwyd Sally Medlyn yn werthuswr allanol, a datblygwyd fframwaith i werthuso ein profiad a’n cynnydd tuag at amcanion y prosiect. Fe sefydlon ni grŵp o bartneriaid a rhanddeiliaid a ddaeth â safbwyntiau gwahanol at y bwrdd; o’r academaidd (Adran Rheoli Digwyddiadau Caerdydd Met), a maes polisi (Uned Digwyddiadau Mawr Llywodraeth Cymru) i ddiddordebau gweithredol y chwe phartner yn y prosiect: yr Urdd, Chwaraeon Anabledd Cymru, Y Bartneriaeth Awyr Agored, Amgueddfa Cymru, Run4Wales, Celfyddydau Gwirfoddol Cymru. Aethom ati i lunio disgrifiad o swydd Swyddog Gwirfoddoli mewn Digwyddiadau a phenodwyd Nia Ramage i ddechrau yn y swydd ym mis Gorffennaf 2015.
O’r chwith i’r dde: Morys Gruffydd, Trefnydd Eisteddfod yr Urdd, Fiona Liddell, Rheolwr Datblygu Gwirfoddoli WCVA, Nia Ramage (cyn) Swyddog Gwirfoddoli mewn Digwyddiadau, Efa Griffiths-Jones (cyn) Brif Weithredwr yr Urdd, Harris Lorrie, (cyn) Reolwr y Rhaglen, Ysbryd 2012 , David Heald (cyn) Gydlynydd Gwirfoddolwyr y Mileniwm, Ffion Davies, Cydlynydd Gwirfoddolwyr, Amgueddfa Cymru
Dechreuodd yr ail gam wrth lansio’r prosiect yn ffurfiol yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod ym mis Awst 2015. Gweithiodd Nia gyda phob un o’r partneriaid i ddatblygu eu cynlluniau, gan ganolbwyntio’n benodol ar y meysydd penodol o ymyrraeth fel y nodwyd ym mhob Cytundeb Partneriaeth. Rhwng y chwe phartner, cynlluniwyd camau gweithredu i gynnwys pob agwedd ar reoli gwirfoddolwyr: recriwtio ac amrywiaeth, rheoli a chyfathrebu, hyfforddi a chefnogi, cydnabyddiaeth a gwaith dilynol ac atgyfeirio. Gallwch ddarllen am yr hyn a wnaed a’r hyn a ddysgwyd yn y chwe astudiaeth achos sydd wedi’u cyhoeddi.
Goruchwyliodd Nia ddatblygiad cerdyn sgorio sgiliau a thystysgrif gwirfoddoli mewn digwyddiadau sy’n rhan o waddol y prosiect, maent ar gael i’w defnyddio yn ehangach. Aeth Nia ati i gasglu straeon unigolion a phartner-fudiadau, mewn cyfres o erthyglau. Cynhaliwyd arolwg sylfaenol o fudiadau ledled Cymru ym mis Medi 2015, i gael gwybod am eu harferion wrth reoli gwirfoddolwyr mewn digwyddiadau a rhoddwyd arolygon cyn ac ar ôl digwyddiad i wirfoddolwyr a oedd yn cymryd rhan yn y chwe digwyddiad peilot. Mae’r adnoddau hyn ac adroddiadau’r arolygon i gyd ar gael ar ein gwefan.
Felly ymlaen at y trydydd cam. Cynhaliwyd yr olaf o’r chwe digwyddiad, yn anffodus, wrth i Nia symud ymlaen at swydd newydd. Penodwyd Celfyddydau Gwirfoddol Cymru i ddatblygu pecyn cymorth ac ynddo adnoddau ar gyfer gwirfoddoli mewn digwyddiadau. Janina Kuczys aeth ati i wneud y gwaith yma, yn seiliedig ar yr adnoddau a gasglwyd a phrofiad y partneriaid. Penodwyd Sandy Clubb fel ymgynghorydd i gwblhau cyfres o astudiaethau achos er mwyn eu cyhoeddi. Aeth staff WCVA ati i roi’r pecyn cymorth arlein a chynhyrchu cyfres o fideos byr o bartneriaid y prosiect yn trafod eu profiadau, er mwyn ategu’r adnoddau ysgrifenedig.
Beth a ddysgwyd o’r holl weithgarwch yma? A beth yw’r cam nesaf? Dwi’n meddwl bod y rhain yn bynciau ar gyfer blog arall, felly mwy yn y man! Yn y cyfamser, cymerwch olwg ar yr adnoddau ar y wefan. Os hoffech weld adroddiad gwerthuso llawn y prosiect, ewch ar y wefan mewn ychydig o wythnosau neu cysylltwch â [email protected].
#WCVA#Gwirfoddoli#Gwirfoddoli Ysbryd Cymru#Pecyn Cymorth#Pecyn Cymorth Gwirfoddoli Ysbryd Cymru#Ysbryd 2012#Gwirfoddoli Mewn Digwyddiadau
0 notes
Text
Promotional material: Pecyn cymorth y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE: Cymraeg (Welsh) http://dlvr.it/RZwpNr
0 notes
Photo
AWGRYMIADAU AR GYFER CONFRA LANSIO 2017
Rydym newydd lansio Cronfa Lansio / Launchpad, lle gall cerddorion ac artistiaid yng Nghymru fanteisio ar grantiau hyd at £2,000 tuag at eu cerddoriaeth. Mae’n rhan bwysig o brosiect Gorwelion, gan fod cymorth ariannol yn hwb ymarferol iawn i’r byd cerddoriaeth yng Nghymru. Oherwydd y gronfa, mae llawer o'r bandiau wedi gallu recordio a chreu fideos ac mae’r gronfa hefyd wedi cyfrannu at ariannu swyddogion cyhoeddusrwydd (pluggers) i hyrwyddo’u cerddoriaeth yn y wasg neu ar y radio.
Mae artistiaid o bob cwr o Gymru wedi manteisio ar y Gronfa Lansio / Launchpad yn y gorffennol, ac maent i gyd wedi gallu defnyddio’r gronfa mewn ffyrdd ymarferol iawn. Gyda llawer o gerddorion yn ystyried gwneud cais unwaith eto eleni, roeddwn yn awyddus i ysgrifennu rhai awgrymiadau ymarferol a all helpu gyda’r cais. Bydd panel o arbenigwyr yn mynd drwy’r ceisiadau a bydd angen i chi ddangos i’r rhain y bydd y gronfa’n cyfrannu at brosiectau ysbrydoledig a fydd yn wirioneddol helpu’ch band i ddatblygu.
Beth sydd ei angen arnoch chi a sut gallwch brofi hyn?
1. Eglurder.
Atebwch y ffurflen gais mewn ffordd mor syml a chlir â phosibl.
Os ydych chi angen arian i deithio i gigs, peidiwch â gwneud cais am grant i'ch helpu chi i gael gitâr newydd. Os ydy’ch gitâr chi wedi torri, peidiwch â gwneud cais am grant i deithio i gigs.
2. Meddwl am brosiect.
Does dim rhaid i chi gael syniad mawr, ond a fydd creu’r un peth hwn yn gwneud gwahaniaeth i’ch blwyddyn chi? Roedd Estrons eisiau gwneud fideo, ac yn sicr mi wnaethon nhw fideo gwreiddiol a gwych. Mae fideo yn ffordd wych o hyrwyddo’ch cerddoriaeth - ond cofiwch feddwl am sut y byddwch yn ei hyrwyddo, beth fydd yn digwydd iddo, ydy'r fideo yn cefnogi gwaith newydd sy’n cael ei ryddhau? Pwy fydd yn gwneud y fideo, pryd, ydych chi wedi sgwrsio â'r cyfarwyddwyr, ydych chi wedi cael amcan-bris ganddyn nhw?
“Rydyn ni eisiau recordio gyda cherddorfa ar ben yr Wyddfa”. Bydd rhaid cael llond sach o arian i ariannu hynny. Gwnewch y syniad yn un creadigol ond yn realistig hefyd.
3. Cyllidebu
Hyd yn oed os yw’r symiau’n syml iawn, rhowch amser i ddangos faint y bydd rhywbeth yn ei gostio a gwnewch ychydig o ymchwil. Peidiwch â thanbrisio rhywbeth a rhowch ffocws i’ch cais. Er enghraifft, mae’n debyg ei bod yn well gwneud cais am un peth yn hytrach na chael sawl math o gostau.
Llwyddodd Reuel Elijah i rannu ei gyllideb yn dair rhan i gefnogi’i amser mewn stiwdio, recordio fideo cerddoriaeth a chyhoeddusrwydd ar gyfer sengl newydd.
4. Cyfarpar.
Mae cerddorion yn mwynhau prynu offer newydd, ac yn sicr mae’r Gronfa Lansio / Launchpad ar gael i helpu i ariannu eitemau fel hyn. Ond mae angen i chi ystyried sut y gallwch ddangos bod angen y drwm/cit/gitâr/allweddau newydd hyn arnoch chi.
Defnyddiodd Baby Queens eu gwobr i brynu microffonau newydd, er mwyn gallu mynd â nhw i gigs. A hwythau yn cynnwys 5 o gantorion, mae’n rhan bwysig o’u perfformiadau byw.
Defnyddiodd y Samoans arian y gronfa i brynu allweddellau gan eu galluogi i symud i gyfeiriadau newydd gyda’u gwaith cyfansoddi caneuon.
Ystyriwch, ai dyma’r peth pwysicaf mae’r band ei angen? Ydy hyn yn datblygu’ch cerddoriaeth neu a fyddai hyrwyddo/recordio mewn stiwdio yn fwy gwerthfawr yn eich sefyllfa?
5. Swyddogion Cyhoeddusrwydd (pluggers)
Os ydych chi wedi cael rhywfaint o lwyddiant yn barod gyda’ch cerddoriaeth, dyma rywbeth da i’w ystyried ar gyfer yr hyn y byddwch yn ei ryddhau nesaf. Pan ddewch o hyd i’r hyrwyddwr neu’r swyddog cyhoeddusrwydd iawn i gydweithio ag ef, gall eich helpu i gael rhywfaint o sylw yn y wasg neu ar-lein a allai eich helpu i lunio portffolio o adolygiadau, neu fe all ‘swyddog cyhoeddusrwydd radio’ (radio plugger) eich helpu i gael mwy o amser ar yr awyr y tu allan i Gymru. Ceisiwch ddod o hyd i swyddog cyhoeddusrwydd a fydd yn hoffi’ch cerddoriaeth, oherwydd eich bod yn edmygu’i restr o gleientiaid. Nid ydynt i gyd yn derbyn pob math o gerddoriaeth, gan y bydd ganddynt sioeau y maent yn cydweithio â nhw ac yn ymddiried ynddyn nhw ac felly mae angen iddynt gadw’u safonau cerddoriaeth eu hunain.
Gwnaeth grant Ellie Makes Music ariannu swyddog cyhoeddusrwydd cenedlaethol o safon uchel yn y maes recordio , a chafodd ei gwaith ei chwarae am y tro cyntaf ar yr awyr ar Radio 2 a BBC 6Music. Bu hefyd yn Artist yr Wythnos ar BBC Radio Wales.
6. Pwy sy’n malio?
Pwy sy’n hoffi'r band ar hyn o bryd? Faint o bobl sy’n dod i’ch gigs; pa mor bell oddi cartref fyddwch chi’n chwarae; pwy sydd wedi bod yn ysgrifennu amdanoch chi, yn chwarae’ch cerddoriaeth, yn cefnogi’ch gigs, yn mynd â chi ar daith fel band cefnogi? A gafodd y tocynnau eu gwerthu i gyd ar gyfer sioe yn y dref lle rydych yn byw? Os gallwch chi ddangos eich bod wedi cael cefnogaeth gan wahanol bobl yn y diwydiant cerddoriaeth, dyfynbris efallai oddi wrth hyrwyddwr gigs, cyflwynydd radio, newyddiadurwr, blogiwr, bydd hyn i gyd yn helpu’ch cais.
7. Syniadau
Rydym wrth ein bodd yn darllen am syniadau creadigol a diddorol. Yn ogystal â'r enghreifftiau uchod, dyma syniadau eraill am sut y gallai’r grant eich helpu chi:
Pecyn hyrwyddo proffesiynol neu ‘epk’
Logo/gwaith celf gan artist penodol ar gyfer cerddoriaeth newydd yr ydych am ei rhyddhau
Decor llwyfan ar gyfer gigs a gwyliau
Deunydd gweledol mewn gigs byw
Cymysgu gyda pheiriannydd proffesiynol
Amser mewn stiwdio
Llogi lleoliad ar gyfer ysgrifennu
Fideo proffesiynol
Cwmni Hyrwyddo
Cerddorion ychwanegol ar gyfer recordio neu berfformiad
Recordio neu drefniannau cerddorfaol
Hyrwyddo a threfnu gig lansio arbennig
Cydweithio artistig
Cyfarpar
8. Rhaid i'r cais fod amdanoch chi neu eich band
Rhaid i'r cais ddod oddi wrth yr artist ar gyfer yr artist. Caiff pobl broffesiynol, cwmnïau, stiwdios neu labeli wneud cais ar ran yr artist ond nid ar gyfer y cwmni rheoli/stiwdio/label yn gyffredinol.
9. Bob lwc!
Gobeithio bod hyn wedi helpu ryw ychydig wrth i chi ystyried eich cais – gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y canllawiau a’r telerau ac amodau yn llawn. Maent ar gael ar wefan Gorwelion. www.bbc.co.uk/horizons
#Horizons#Gorwelion#Estrons#Launchpad#Violetskies#tibet#funding#wales#music#support#babyqueens#houdinidax#tenderprey#artscouncilwales#adwaith#bbcwales#Afrocluster#AledRheon#bbc#cadno#festivalNo6#casi#samoans#mellt
1 note
·
View note
Text
Platfform || Pontio - Galw am Geisiadau
Partneriaeth newydd rhwng rhaglen Platfform Theatr Iolo a Pontio ar gyfer artistiaid sydd am ddatblygu gwaith yn yr iaith Gymraeg gyda, ac ar gyfer, teuluoedd yng Ngogledd Cymru.
Rhaglen dair-blynedd arbrofol Theatr Iolo yw Platfform gyda’r bwriad o gefnogi gwaith ymchwil gan artistiad sy’n dod i’r amlwg ac i ddatblygu theatr a digwyddiadau i blant, pobl ifanc a theuluoedd mewn partneriaeth â chanolfannau celfyddydol a theatrau. Un o prif amcanion rhaglen Teulu Pontio yw cyflwyno mwy o waith yn Pontio yn y Gymraeg i deuluoedd, nod sy’n cydfynd â ffocws Platfform. Drwy hyn, bydd y prosiect yn tynnu at ei gilydd profiad, adnoddau a rhwydweithiau y ddau sefydliad i greu rhaglen gryno a phwrpasol o ddatblygu artistiaid.
Ar y cyd â phreswyliadau trydedd blwyddyn Platfform yn Ne Cymru a Phowys, bydd Platfform||Pontio yn ffocysu ar weithio gydag artist sydd yn gweithio yng Ngogledd Cymru (neu sy'n gallu dangos ymrwymiad cryf at yr ardal â'i chymunedau) o fis Medi 2017 hyd at Fai 2018 i ddatblygu gwaith yn y Gymraeg ar gyfer, a chyda, teuluoedd a phlant rhwng 4 a 7 oed.
Bydd yr artist llwyddiannus yn derbyn pecyn o gymorth pwrpasol a fydd yn cychwyn ym mis Medi 2017 ac yn cynnwys cefnogaeth Cynhyrchydd Prosiectau Cymraeg Platfform Megan Childs, a staff Pontio, i gyflawni syniadau, cymorth gweinyddol, marchnata a thechnegol ynghyd â help i wneud cysylltiadau â theuluouedd. Bydd yr artist yn ogystal yn derbyn pecyn hyfforddiant ac ymweliadau, gan gynnwys cefnogaeth mentoriaid proffesiynol o’r diwydiant ynghyd â chyfleuoedd i rhwydweithio gyda rhai eraill yn y maes. Bydd yr artist yn derbyn tâl dyddiol yn unol â chyfradd safonol y diwydiant, ynghyd â chyllideb artistig (i’w rheoli ar y cyd â’r cyhyrchydd) o £3,000 ar gyfer tri bloc o dri diwrnod o waith ymchwil a datblygu rhwng Ionawr 2018 a Mai 2018 a fydd yn arwain at gyflwyniad cyhoeddus yn Pontio. Mae Platfform yn derbyn cefnogaeth ariannol hael gan Gyngor Celfydyddau Cymru a sefydliad Esmée Fairbairn.
Mae manylion llawn am y prosiect a sut i wneud cais ar ein gwefan neu cliciwch yma
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 4ydd o Orffennaf am hanner dydd.
I gael mwy o wybodaeth am Platfform, am brosiectau blaenorol a chyfredol y cynllun, a gwybodaeth am yr artistiaid sy'n cymryd rhan yn y cyfnodau preswyl hirach, ewch i www.theatriolo.com a dilynwch flog www.platfform.cymru.
0 notes
Text
Apprenticeship Opportunities BLUA47551
Deeside CH5, UK Blue Octopus Recruitment Ltd Minimum of 12 months with the potential to extend up to 2 years Cambria Apprenticeships - Real Skills. Real Training Develop your skills and grow your ambition as you work, earn and study for an apprenticeship. Our client's apprenticeships are a brilliant way to start your career and provide an exciting opportunity to gain "hands on experience" in the workplace. You will discover what you're good at, passionate about and have lots of opportunities to grow and develop your skills. As an Apprentice, you will join their other apprentices on their tailored enrichment programme, whilst obtaining recognised qualifications and gaining valuable skills and work experience to give you the best possible preparation for your future career. You will become part of a community of apprentices all sharing their experiences and learning and supporting each other every step of the way. Whether joining them from school, college or just looking for a career change, you'll be building a career that delivers you real skills and training from day one. In addition, they are recognised as an 'Excellent' College and offer a very competitive benefits package. Further enrichment activities and training opportunities may be offered in line with college needs and will enhance your knowledge and skills. They are now looking for Apprentices in the following areas; IT Equine Animal Care Business Administration Childcare Web Developer Graphic Designer Construction Engineering Finance - External Funding About You To be considered for one of their Apprenticeship Programmes, you will have a minimum of 3 GCSEs (or equivalent) in Maths and English Language at grade C or above (subject to specific apprenticeship areas) and demonstrate excellent communication skills. You should also be competent in the use of IT equipment and have examples of working in a team. The ability to speak Welsh is desirable, but not essential. And in return By undertaking the Apprenticeship Programme, you will achieve the following; • NVQ Level 2/3 • Essential skills • Employability skills • Vocational related qualifications (as appropriate) Closing Date: 12:00, 18/04/2017 This is a Blue Octopus Recruitment Ltd vacancy who are operating as an employment agency. Once you have clicked to apply for this vacancy, we will then send you more information on the role including a copy of the application form via email. Cyfleoedd Prentisiaethau Lleoliad: Pob safle Cyflog: Isafswm cyflog Isafswm o 12 mis gyda'r potensial i barhau am gyfnod o 2 flynedd Prentisiaethau Cambria - Sgiliau go iawn. Hyfforddiant go iawn Datblygwch eich sgiliau a'ch uchelgais wrth i chi weithio, ennill cyflog ac astudio ar brentisiaeth yng Ngholeg Cambria. Mae ein prentisiaethau yn gyfle cyffrous a ffordd wych o ddechrau eich gyrfa trwy ennill "profiad ymarferol" yn y gweithle. Byddwch yn darganfod yr hyn rydych yn frwd drosto nac yn rhagori ar, yn ogystal â llawer o gyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau. Fel Prentis Cambria, byddwch yn ymuno â phrentisiaid eraill ar ein rhaglen cyfoethogi, yn ennill cymwysterau cydnabyddus, sgiliau gwerthfawr a phrofiad gwaith er mwyn eich paratoi chi yn y ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Byddwch yn rhan o gymuned o brentisiaid, yn rhannu eich profiadau a'ch dysgu yn rhoi cymorth i'ch gilydd ar hyd y ffordd. Os ydych chi'n ymuno â ni o'r ysgol, coleg neu yn chwilio am newid mewn gyrfa, byddwch yn datblygu gyrfa sy'n rhoi sgiliau a hyfforddiant ymarferol i chi o'r diwrnod cyntaf un. Yn ogystal â hyn, rydym wedi'n cydnabod fel coleg 'Rhagorol' ac yn cynnig pecyn buddion hynod o gystadleuol. Yn unol ag anghenion y coleg efallai byddwch yn cael cynnig cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi a hyfforddiant a fydd yn ychwanegu at eich gwybodaeth a'ch sgiliau. Rydym yn chwilio am Brentisiaid yn y meysydd canlynol: TG Ceffyleg Gofal Anifeiliaid Gweinyddiaeth Busnes Gofal Plant Datblygwr y We Dylunydd Graffeg Adeiladu Peirianneg Cyllid - Ariannu Allanol Amdanoch Chi I gael eich ystyried ar gyfer un o'n Rhaglenni Prentisiaethau, bydd angen arnoch leiafrif o 3 TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) mewn Mathemateg a Saesneg Iaith ar radd C neu'n uwch (yn ddibynnol ar faes y brentisiaeth) gan ddangos sgiliau cyfathrebu rhagorol. Dylech chi hefyd gallu defnyddio cyfarpar TG yn hyderus gyda phrofiad o weithio mewn tîm. Yn ôl.. Trwy ymgymryd â Rhaglen Prentisiaeth Cambria, byddwch yn cyflawni'r canlynol: • NVQ Lefel 2/3 • Sgiliau Hanfodol • Sgiliau Cyflogadwyedd • Cymwysterau galwedigaethol perthnasol (os yn briodol) Dyddiad cau: 12:00, 18/04/2017 Mae hon yn swydd wag Blue Octopus Recruitment Ltd., sy'n gweithredu fel asiantaeth gyflogi. Unwaith y byddwch wedi clicio i wneud cais am y swydd hon, byddwn yn anfon e-bost atoch chi gyda rhagor o wybodaeth am y swydd a chopi o'r ffurflen gais. from Youth In Jobs https://youthinjobs.co.uk/job/42818/apprenticeship-opportunities-blua47551/
0 notes
Text
All gwirfoddoli helpu i sicrhau gwell iechyd a gofal?
Trefnwyd seminar gan Helplu ac Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru, gan ddwyn ynghyd 36 o bobl o wahanol gefndiroedd ym maes ymchwil, ymarfer gwirfoddoli, cynllunio a pholisi. Yma, mae Fiona Liddell, Rheolwr Helplu, yn ystyried y digwyddiad, y themâu sy’n dod i’r amlwg a rôl Helplu.
Rhoddodd Rheolwr Tystiolaeth Helpforce UK, Dr Roland Marden, gyflwyniad ar adolygiad cyffredinol o dystiolaeth a gomisiynwyd gan Helpforce UK a rhai canfyddiadau cynnar hefyd o raglen Arloeswyr Gwirfoddol Helpforce UK. Mae Helpforce UK yn gweithio gyda 12 Ymddiriedolaeth y GIG yn Lloegr sy’n cynnal prosiectau ymyrraeth peilot (wedi’u hariannu gan GIG Lloegr) ac yn archwilio sut i drawsnewid gwirfoddoli mewn ysbytai ac o amgylch ysbytai, er mwyn cynyddu’r effaith ar gleifion, staff a gwasanaethau yn ogystal ag ar y gwirfoddolwyr eu hunain.
Mae profiad y prosiectau a’r partneriaid hyn, ynghyd â’r data a gesglir ar effaith a rhannu syniadau drwy rwydwaith dysgu ehangach, o gymorth i ni wella dealltwriaeth o sut i ddatblygu a dylunio dulliau gwirfoddoli effeithiol mewn sefyllfaoedd gofal iechyd a beth sydd angen ei roi ar waith er mwyn i hyn ffynnu. Y nod yw canfod beth yw elfennau hanfodol llwyddiant sy’n galluogi modelau gwirfoddoli da i gael eu trosglwyddo, a’r hyn sydd angen ei addasu neu ei newid yn lleol.
Mae’r cwestiynau hyn yn rhai pwysig i’r GIG cyfan, er nad ydynt yn aml o ddiddordeb mawr i’r rhai sy’n rhedeg prosiectau ar lefel leol.
Safbwynt Cymru
Ymatebodd tri aelod o’r panel i gyflwyniad Roland Marden: sef Carl Cooper, Angela Hughes a Nick Andrews, gan gyflwyno safbwyntiau cyngor gwirfoddol sirol, profiad nyrsys a chleifion ac ymchwil gofal cymdeithasol, yn y drefn honno. Paratowyd y ffordd ar gyfer trafodaethau eang iawn.
Mae ein fframweithiau strategol yng Nghymru (yn Cymru Iachach a’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant) yn ein hannog i feddwl am atal salwch, darparu gwasanaethau yn nes at y cartref ac adeiladu modelau gofal integredig sy’n croesi ffiniau traddodiadol y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a gwirfoddol.
Mae Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn gyfle i feddwl, cynllunio a chomisiynu mewn ffordd integredig a chynnwys amrywiaeth ehangach o bartneriaid yn y gwaith o lunio gwasanaethau sy’n addas ar gyfer y dyfodol. Mae potensial mawr i unigolion gyfrannu at well iechyd a gofal, fel dinasyddion yn eu cymunedau ac fel gwirfoddolwyr mewn sefydliadau gwirfoddol a sefydliadau yn y sector cyhoeddus, fel y GIG.
Oni fyddai’n wych pe gallai gwaith cynllunio rhanbarthol, fel mater o drefn, gynnwys gwirfoddoli fel dull o ddiwallu blaenoriaethau iechyd penodol, gydag adnoddau priodol yn cael eu neilltuo er mwyn galluogi hyn?
Beth sy’n peri rhwystr?
Mae dadlau o blaid gwirfoddoli fel dadlau dros ‘de a thost’. Mae pawb yn gwybod ei fod yn ‘beth da’ o ran lles unigolion a chymunedau. Mae’n cyfrannu at lawer o Nodau Llesiant Cymru; fel Cymru Iachach ond, hefyd, Cymru Gydnerth, Cymru sy’n Fwy Cyfartal a Chymru o Gymunedau Cydlynus (Lle mae gwirfoddoli yn llwybr tuag at gyflogaeth, mae hefyd yn cyfrannu at Gymru Lewyrchus a lle y defnyddir y Gymraeg, mae’n cyfrannu at Gymru â Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu).
Ond nid yw hyn yn ddigon i argyhoeddi cynllunwyr a chyllidwyr i fuddsoddi mewn gwirfoddoli nac, ychwaith, i ymddiried yn ei botensial i wneud gwahaniaeth i ganlyniadau iechyd a chanlyniadau cymdeithasol.
Mae angen tystiolaeth arnom. Mae lle i waith ymchwil academaidd, i ateb cwestiynau allweddol gyda thystiolaeth gadarn ddilys (yn mesur yr hyn y dylai ei fesur) a dibynadwy (yn cynhyrchu canlyniadau cyson). Ond mae mathau eraill o dystiolaeth hefyd - dulliau mwy ailadroddol o werthuso a allai helpu i wella ymarfer a dangos effaith. Mae’n bosibl “dysgu am yn ôl”, gan fyfyrio ar yr hyn sydd wedi digwydd, a’r hyn sydd wedi cyfrannu at y canlyniad a ddymunwyd ac a nodwyd.
Mae’r prosiect Datblygu Tystiolaeth –Gwella Ymarfer ym Mhrifysgol Abertawe yn arwain ar greu cysylltiadau rhwng gwaith ymchwil ac ymarfer ym maes gofal cymdeithasol a datblygu methodolegau ar gyfer mesur effaith ystyrlon. Mae Inspiring Impact yn cynnig adnoddau a hyfforddiant ar-lein wedi’u hanelu at sefydliadau gwirfoddol yn ogystal â chyfle i gymryd rhan mewn rhwydweithiau dysgu i gymheiriaid. Mae Helpforce UK yn datblygu pecyn cymorth Insight and Impact, yn seiliedig ar ei brofiad o werthuso’r rhaglen Arloeswyr Gwirfoddol. Pan gaiff hwn ei gwblhau, bydd ar gael fel fframwaith i eraill ei ddefnyddio.
Mae angen mwy o ystyriaeth gydgysylltiedig sy’n seiliedig ar asedau - er mwyn defnyddio adnoddau sydd ar gael eisoes, ac adeiladu arnynt. O ran gwirfoddoli, mae gan sefydliadau gwirfoddol y sgiliau, y profiad a’r capasiti ar gyfer arloesi na ellir ei anwybyddu. Ond mae’r amgylchedd y mae mudiadau gwirfoddol yn gweithredu ynddo yn fregus ac mae mympwyon cyllido a chomisiynu yn golygu bod prosiectau da, staff da a chysondeb yn cael eu colli am y rhesymau anghywir. Yr her o hyd yw llunio systemau gofal integredig gyda lle i bawb: gweithwyr proffesiynol, gweithwyr cyflogedig a gwirfoddolwyr mewn sefydliadau statudol a gwirfoddol, i greu adeiladwaith cydgysylltiedig a chynaliadwy.
Mae angen i ni barhau i ddatblygu dulliau hyblyg a phriodol o gynnwys gwirfoddolwyr. Mewn amgylchiadau ffurfiol, mae safonau ymddygiad a chysondeb wrth ymarfer yn bwysig. Ond ni ddylai hynny olygu bod ‘un dull yn addas i bawb’ o ran recriwtio a chymorth, er enghraifft. Gallai gwirfoddoli gael ei wneud yn fwy deniadol ac yn fwy hygyrch i bobl ifanc, i’r rhai nad oes ganddynt fawr o amser a’r rhai sydd â sgiliau neu anghenion penodol.
Mae arolwg diweddar o dros 10,000 o oedolion, sef Time Well Spent, yn rhoi cipolwg da ar brofiad gwirfoddoli o ansawdd da i wirfoddolwyr, a gall hyn ein helpu i deilwra ein ‘cynnig’ gwirfoddoli i amrywiaeth ehangach o wirfoddolwyr. Mae safon ansawdd Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr wrthi’n cael ei hadolygu ar hyn o bryd, ac yn cynnig fframwaith ymarferol ar gyfer rheoli gwirfoddoli.
Yn llai ffurfiol, mae ysbryd cymunedol a chymwynasgarwch yn cyfrannu’n sylweddol at ein hiechyd a’n lles, gyda llawer iawn o garedigrwydd dynol yn meithrin iechyd a hapusrwydd ar lawr gwlad!
Beth y gall Helplu ei wneud?
Sefydlwyd Helplu prin dair blynedd yn ôl. Deilliodd o’r GIG yn Lloegr, gyda’r weledigaeth o drawsnewid gwirfoddoli o fewn y GIG. Mae wedi datblygu’n gyflym ac mae bellach yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid yn y GIG a’r sector gwirfoddol. Yn ogystal â gweithio gyda phrosiectau lleol fel y disgrifir uchod, mae hefyd yn creu parodrwydd a chapasiti ar gyfer cynnwys gwirfoddolwyr drwy, er enghraifft, weithio gydag arweinwyr clinigol a thrwy ddatblygu adnoddau addysgol a rhwydwaith dysgu i gymheiriaid. Yn ddiweddar, cafodd gontract gan y GIG yn Lloegr i gefnogi’r broses o ddatblygu gwasanaethau iechyd a gofal integredig, rhanbarthol sy’n ymgorffori gwirfoddoli.
Mae Helplu yn gweithio gyda sefydliadau partner yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon sy’n datblygu’r gwaith mewn ffyrdd sy’n berthnasol i’w cyd-destun cenedlaethol eu hunain.
Yng Nghymru, mae gan Helplu, a gaiff ei gynnal gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, rôl yn y gwaith o barhau i agor y ddadl, dylanwadu ar y rhai sydd mewn grym i feddwl yn wahanol am y posibiliadau ar gyfer cynnwys gwirfoddolwyr ac annog buddsoddi mewn adnoddau ac arweinwyr sy’n cefnogi hyn. Mae’n tynnu sylw at ymarfer rhagorol, gan rannu storïau i eraill ddysgu ohonynt a chael eu hysbrydoli ganddynt. Mae’n cysylltu unigolion a phrosiectau gyda mentrau cenedlaethol (Cymru a’r DU) ac arbenigedd ehangach. Mae’n cyflwyno safbwynt Cymru i rai o ddatblygiadau Helpforce UK, gan gynnwys porth addysg ar gyfer gwirfoddolwyr a rheolwyr gwirfoddolwyr a safonau cynefino ar gyfer gwirfoddolwyr mewn iechyd a gofal. Ac yn olaf, mae wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu ychydig o brosiectau peilot yng Nghymru, fel rhan o raglen y DU gyfan gan Helpforce/Marie Curie i gydnabod, gwella ac ehangu rôl gwirfoddoli ym maes gofal diwedd oes.
Mae Helplu yn gweithio gyda Cefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC ac 19 Cyngor Gweithredu Gwirfoddol), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli er mwyn cefnogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Fiona Liddell [email protected] 029 2043 1730
0 notes
Text
Adlewyrchu ar etifeddiaeth cyllid yr UE
A hithau’n ddiwrnod Ewrop mae Dirprwy Brif Weinidog WCVA, Phil Fiander, yn bwrw golwg yn ôl ar gyfraniad y trydydd sector at roi Cyllid Ewropeaidd ar waith yng Nghymru ers i’r rheolaeth drosto symud i Gymru yn 1998 ac yn ystyried pa effaith y bydd yn ei adael at y dyfodol.
Gofynnodd aelod bwrdd i mi’n ddiweddar egluro’r ffordd y mae cyllid Ewropeaidd dros yr 20 mlynedd diwethaf wedi dod yn rhan mor ganolog o’r Trydydd Sector a WCVA. Wrth egluro hyn, dechreuais feddwl nid yn unig am y daith yr ydym ni fel mudiad wedi bod arni ond hefyd y daith y mae trydydd sector Cymru wedi bod arni.
Mae Cyllid Ewropeaidd yng Nghymru a datganoli dros yr 20 mlynedd diwethaf wedi bod yn gweithio law yn llaw ac mae’r ddau beth wedi helpu i siapio’r Gymru sydd ohoni heddiw.
Cyn 2000, roedd y mwyafrif o Gyllid Ewropeaidd yn cael ei reoli a’i ddosbarthu gan San Steffan a thrwy’r Swyddfa Gymreig yng Nghaerdydd ond yn sgil datganoli a sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol mae rhaglenni’r Cronfeydd Strwythurol yn cael eu trefnu a’u rheoli yng Nghymru.
Yn 1998 pan gyhoeddwyd y byddai Cymru yn cael y lefel uchaf o gyllid Strwythurol gan yr Undeb Ewropeaidd fe’i galwyd yn adeg dyngedfennol ac y byddai hyn, ynghyd â datganoli, yn esgor ar wawr newydd yng Nghymru.
Daeth yr arian hwn i Gymru ar adeg pan oedd popeth yn newydd a chyffrous. Roedd gennym gynulliad newydd, cyfle i’n llywodraethu ein hunain a ffurfio ein tynged ein hunain – roedd gennym ddalen wag.
Dim polisïau, gydag ACau brwdfrydig newydd o bob math yn awyddus i ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio, roedd hi’n gyfnod cyffrous i Gymru ac roedd yna uchelgais mawr dros yr arian hwn a chred y gallem ei ddefnyddio i fynd i’r afael â’r trafferthion gwirioneddol a oedd yn wynebu Cymru.
Daethpwyd â chynrychiolwyr allweddol o bob sector ledled Cymru ac Ewrop at ei gilydd i ystyried sut i ddefnyddio’r arian yma yn y ffordd fwyaf effeithiol. Roeddwn innau’n falch o fod yn un o gynrychiolwyr y trydydd sector. Am y tro cyntaf roedd y trydydd sector yn eistedd o amgylch y bwrdd ar sail gyfartal â chydweithwyr o awdurdodau lleol a’r llywodraeth. Gosododd hyn y sylfeini ar gyfer sut y dylai partneriaethau weithio a sut maent yn parhau i weithio heddiw.
Wrth fod â sedd o amgylch y bwrdd, roedd modd i ni sicrhau bod llais y trydydd sector yn cael ei godi, yn enwedig ynglŷn â hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol – trechu unigrwydd a gwneud i bobl deimlo eu bod yn rhan o gymuned, cymuned y gallant helpu i’w chadw’n fyw.
Mae’r cydweithio hwn wedi bod yn un o egwyddorion sylfaenol y rhaglenni cyllido Ewropeaidd drwyddynt draw ac wedi sicrhau bod gan y sector lais yn y ffordd o ddatblygu, darparu a rheoli’r cyllid sy’n dod i Gymru. Mae helpu i roi arian Cronfa Gymdeithasol Ewrop ar waith wedi bod yn allweddol i ni, nid yn unig o ran rheoli grantiau, ond hefyd sicrhau bod swm penodol o gyllid yn cael ei neilltuo i’r Trydydd Sector, a bod hyn yn cael ei ymgorffori’n ysgrifenedig yn y rhaglenni.
Mae’r sector wedi chwarae rhan hanfodol ym mhob haen o reoli’r arian o ddylanwadu ar raglenni a’u rheoli ar lefel uchel, i ddarparu prosiectau ar raddfa fawr yn ogystal â chynnal prosiectau lleol bach iawn i fynd i’r afael ag anghenion cymunedol penodol iawn.
Mae’r trydydd sector wedi cynnal pob math o brosiectau ac yn aml wedi torri tir newydd wrth roi prawf ar ffyrdd newydd o weithio. Fel arfer, mae pobl yn meddwl am y prosiectau cyflogadwyedd a llesiant y mae gan y sector brofiad helaeth o’u darparu ond nid yw ein cyfraniad wedi’i gyfyngu i’r maes hwn. Mae’r trydydd sector wedi
Arwain prosiectau strategol i leihau gwastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi ar adeg pan nad oedd ailgylchu’n gyffredin iawn
Gweithio i leihau annhegwch rhywiol a stereoteipio rhywiol
Datblygu rhaglenni benthyg gyda chydwybod gymdeithasol i alluogi prosiectau i ariannu prosiectau na fyddai benthycwyr eraill yn eu hystyried
Cefnogi mentrau bach a chanolig i fod yn gystadleuol ac yn gynaliadwy yn eu meysydd
Gweithio gyda phlant ysgol i godi ymwybyddiaeth a gwybodaeth mewn pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg)
Gweithio gyda mudiadau ledled Ewrop i greu pecyn cymorth i helpu cymunedau i sefydlu eu harian cyfred cymunedol eu hunain
Wrth gwrs, nid yw’r rhestr hon yn cynnwys yr holl brosiectau y mae’r sector wedi bod yn rhan ohonynt ond mae’n rhoi blas gwirioneddol i chi o’r wybodaeth a’r profiad amrywiol y mae’r sector wedi’i gyfrannu dros yr 20 mlynedd diwethaf. Heb egwyddor sylfaenol gweithio mewn partneriaeth fe fyddwn yn cwestiynu a fyddai ein cyfraniad wedi bod mor amrywiol neu gyflawn.
Mae’r rhaglenni hyn, fodd bynnag, yn fwy na dim ond cyllid a phrosiectau oherwydd, a hwythau wedi dod i Gymru ar ddechrau datganoli, maent wedi helpu i siapio polisi ac ymddygiad y llywodraeth. Yn 2000 pan ddechreuon ni gyda’r darn gwag hwnnw o bapur, y ddogfen bolisi gyntaf mewn gwirionedd oedd y cynllun cyflawni gwreiddiol ar gyfer y cronfeydd hyn.
Credaf mai’r rheswm y mae gennym bolisïau llywodraethol sydd gyda’r gorau yn y byd, megis Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol, yw oherwydd bod y cronfeydd strwythurol a’r egwyddorion y tu ôl iddynt wedi gosod y sylfeini ar gyfer y pethau hyn.
Wrth i ni symud i oes newydd o ran cyllido, rydym yn wynebu llawer o ansicrwydd, ond mae’n hanfodol bod yr egwyddor partneriaeth yn cael ei chynnwys mewn unrhyw drefniadau yn y dyfodol. Mae gan bob sector werth a phrofiad i’w hychwanegu ni waeth beth sy’n disodli’r cronfeydd Ewropeaidd presennol.
Er nad oes gennym ddarn gwag o bapur fel yr oedd gennym yn 2000, mae gennym gyfle i ddefnyddio ein gwybodaeth a’n profiad cyfunol i ateb anghenion ein cymunedau amrywiol. Rydym yn swm o’n rhannau a dylai pob rhan fod yn gyfartal.
Dros y misoedd nesaf bydd WCVA yn datblygu’r map o’n taith ein hunain er mwyn ei ymestyn a dangos cyfraniad y sector ehangach. Fe fydd y map hwn o gymorth i ni ddangos pwysigrwydd ein rôl beth bynnag a ddaw nesaf a sicrhau bod ein llais yn parhau i gael ei glywed.
0 notes
Text
Heriau a chyfleoedd gwirfoddoli mewn digwyddiadau
1. Recriwtio ac amrywiaeth
Mewn blog cynharach, disgrifiodd Fiona Liddell brosiect Ysbryd Gwirfoddoli Cymru, gan gynnwys ei ddiben, ei bartneriaid a’i weithgareddau. Mewn tri blog pellach mae hi’n ystyried rhai o’r profiadau a gafwyd drwy’r prosiect, o ran rheoli gwirfoddolwyr.
Un o’r cwestiynau a gododd o brosiect Ysbryd Gwirfoddoli Cymru oedd ‘pa mor wahanol yw rheoli gwirfoddolwyr digwyddiadau, o’i gymharu â rheoli gwirfoddolwyr arferol?’
Mae yna lawer o arweiniad ac arfer da ar gael ynglŷn â rheoli gwirfoddolwyr yn gyffredinol. Fe fydd chwilio ar y we yn rhoi nifer mawr o daflenni gwybodaeth perthnasol, polisïau enghreifftiol a llawer mwy i chi; mae gan wefan WCVA adran benodol i’r rheini sy’n gweithio gyda gwirfoddolwyr. Derbynnir yn eang mai’r Safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yw’r meincnod o ran arfer da. Mae’r rhain i gyd yn ymdrin â’r maes gan dybio, fel arfer, fod yna berthynas barhaus â gwirfoddolwyr.
Perthynas fyrhoedlog
Serch hynny, ychydig iawn sydd ar gael sydd wedi’i anelu at reoli gwirfoddolwyr mewn digwyddiadau. Mae’r berthynas â gwirfoddolwyr mewn digwyddiadau yn nodweddiadol o fyr ac felly mae angen recriwtio, cynefino a hyfforddi gwirfoddolwyr, diolch iddynt a’u cydnabod, mewn amserlen benodol sydd fel arfer yn dynn. Does dim ail gyfle os aiff pethau o chwith! Mae angen diwygio polisïau arferol i gynnwys dulliau gwahanol o recriwtio a chefnogi gwirfoddolwyr ac o ddelio gyda phroblemau, er enghraifft, er mwyn iddynt fod yn berthnasol i wirfoddoli mewn digwyddiadau.
Rydym wedi llunio fframwaith arfer da syml sydd wedi’i seilio ar y safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr ond gan ei wneud yn berthnasol i wirfoddoli mewn digwyddiadau. Ac mae ein pecyn cymorth gwirfoddoli mewn digwyddiadau yn rhannu’r profiad a gafwyd ar brosiect Ysbryd Gwirfoddoli Cymru mewn perthynas â phob agwedd ar reoli gwirfoddolwyr.
Apelio at bobl newydd
Canfu ein harolwg sylfaenol o 177 o fudiadau fod 55% o’r 36 o ymatebwyr yn cynnwys eu gwirfoddolwyr, eu haelodau neu eu cefnogwyr presennol yn eu digwyddiadau, yn hytrach nag ymestyn y cynnig i’r cyhoedd ehangach. Roedd gan y mwyafrif gasgliad o bolisïau gwirfoddoli cyffredinol a phrotocolau yn eu lle nad oedd yn ymdrin yn benodol â chyd-destun digwyddiadau.
Ond mae yna gyfle gwych yma i gynnwys mathau newydd a gwahanol o bobl mewn cyfleoedd gwirfoddoli mewn digwyddiadau, ac roedd ehangu amrywiaeth yn un o brif themâu ein prosiect.
Arbrofodd Amgueddfa Cymru drwy recriwtio gwirfoddolwyr allanol ar gyfer ei Gŵyl Fwyd am y tro cyntaf. Erbyn hyn maent wedi datblygu rhaglen gyfan o wirfoddoli mewn digwyddiadau, fel y gall unigolion wirfoddoli mewn cyfleoedd untro ar adegau rheolaidd o fewn y calendr blynyddol ac mae hyn yn ategu’r rhaglen wirfoddoli arferol.
Mae gwirfoddoli mewn digwyddiadau yn apelio at y rheini na all ymrwymo i wirfoddoli’n rheolaidd, neu’r rheini sydd am roi cynnig ar wirfoddoli. Y rheswm mwyaf poblogaidd dros gymryd rhan, yn ôl ein harolwg, oedd ‘cefnogi’r achos’. Gyda helpwyr mor gymmwynasgar, mae cyfle i fudiad ehangu ei raglen weithgareddau. Gall hyn yn ei dro gynnig cyfleoedd newydd i gynhyrchu incwm (gyda llaw, roedd gwirfoddolwyr yn cael eu denu’n arbennig at wirfoddoli mewn digwyddiadau lle mae’n rhaid i bobl brynu tocyn, yn hytrach na digwyddiadau am ddim), i godi ymwybyddiaeth (yn unol â’i ddibenion elusennol) ac i feithrin llysgenhadon cymunedol.
Diffinio’r cynnig
Un o’r strategaethau allweddol i ehangu amrywiaeth y bobl sy’n gwirfoddoli mewn digwyddiadau yw diffinio’n ofalus y gwahanol rolau y gallant wirfoddoli ynddynt. Mae’r rhan fwyaf o ddigwyddiadau angen stiwardiaid, ond yn ein harolwg sylfaenol soniodd ymatebwyr am ddim llai na 37 o wahanol rolau gwirfoddoli mewn cysylltiad â digwyddiadau.
Mae’r dyfyniad hwn gan Urdd Gobaith Cymru yn amlygu’r pwynt
“Yn y gorffennol roeddem yn hysbysebu am ‘stiwardiaid’ ond mewn gwirionedd mae rolau’r gwirfoddolwyr yn amrywiol ac yn gofyn am sgiliau gwahanol: e.e. tocynnau / y swyddfa docynnau – sgiliau ariannol; stiwardio ar y maes – rheoli torfeydd, iechyd a diogelwch; mae angen amrywiaeth o sgiliau ar bobl sy’n gweithio yn y meysydd parcio. Mae gan yr uned Crefftau, Dylunio a Thechnoleg wirfoddolwyr sy’n dehongli’r gwaith celf a’r arddangosfeydd i’r ymwelwyr felly mae ganddynt hwy wahanol fathau o sgiliau”.
Rhaid cyfathrebu’r hyn sy’n cael ei gynnig. Nodwch yn benodol nid yn unig beth yw’r rôl ond hefyd yr ymrwymiad amser a ddisgwylir, yr hyfforddiant a ddarperir a gofynion personol sylfaenol y rôl.
Yn hytrach na recriwtio mewn ffordd ddi-drefn, beth am ystyried sut y gellir defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, partner-fudiadau a thafod leferydd i agor cyfleoedd gwirfoddoli mewn digwyddiadau i wahanol sectorau o’r boblogaeth – i’r rheini a allai fod â diddordeb, a’r rheini a allai elwa o’r profiad. Mae’n sicr yn werth ystyried y rheini sydd efallai heb feddwl ddwywaith am wirfoddoli tan nawr.
Rydym wedi datblygu adran digwyddiadau ar y wefan www.gwirfoddolicymru.net lle mae modd amlygu cyfleoedd gwirfoddoli mewn digwyddiadau a rhannu gwybodaeth ynglŷn â’ch digwyddiad. Rydym yn disgwyl i’r adran hon ‘fynd yn fyw’ ym mis Medi, felly gwyliwch amdani, ac os oes gennych ddigwyddiad yr hoffech ei hysbysebu fe fyddem wrth ein boddau o glywed gannych. Mae croeso i chi gysylltu â mi drwy ebostio [email protected].
Darllenwch ran 2 o Heriau a chyfleoedd rheoli gwirfoddoli mewn digwyddiadau: Rheoli data gwirfoddolwyr
Darllenwch ran 3 o Heriau a chyfleoedd rheoli gwirfoddoli mewn digwyddiadau: Cymorth a chydnabyddiaeth
0 notes