#sianelin
Explore tagged Tumblr posts
Text
Y Ffilm Derfynol
Gan fod y ffilm ddiwethaf wedi bod yn dipyn o her ac yn brofiad da i ffilmio rhywbeth dwys felma, penderfynom ail greu'r digwyddiad ond gan ychwanegu bachgen i’r stori. Cyn cychwyn fe wnes i wylio rhaglen ar bbc 3 Murdered by my boyfriend http://www.bbc.co.uk/programmes/b047zl98 er mwyn cyflwyno’r ffilm mewn modd sensatif. Roedd yn dipyn o her trin mater sensitif. Roedd yn fwy o her nag y ffilm flaenorol gan fod yna fachgen yn rhan ohono y tro yma, felly roedd y gwrthdaro rhwng y ddau yn lot fwy realistig y tro yma. Roeddwn am gyfleu ochr dominyddol y bachgen felly mi greuwyd sgript fechan efo rhai llinellau y gallai eu defnyddio. Roeddem yn ffodus iawn gan fod yr actorion yn broffesiynol iawn. Roeddwn yn dechrau y tu allan gan ganolbwyntio ar y ffactorau hapus cariadus. Roedd lliwiau tu allan yn weddi’n dda efo’r ffactor yma gan ei fod yn hafaidd iawn ac yn symboleiddio hapusrwydd a chariad. Wrth olygu defnyddia cerddoriaeth hapus hefyd oedd yn cadw tempo ac yn gyd fynd efo symudiad y ddau wrth iddyn nhw glymu coesau ac wrth iddo gario hi ar ei chefn. Atlanta unwaith eto oedd yn gyfrifol am y coluro a cheir effaith da iawn unwaith eto yn cyferbynnu o’r edrychiad naturiol i’r edrychiad lle bu'r ferch wedi cael ei cham-drin. Ceir onglau gwahanol o ran sefydliad camera er mwyn weld mynegiant wynebol a chorfforol.
Aethom yna y tu fewn i gegin llety’r brifysgol lle gwnaethom y golygfeydd yn fwy dwys. Roedd delfryd o mese-en-scene dda iawn yn y gegin gan ei fod yn rhoi argraff dda iawn o fywyd bob dydd, y tegell, harn smwddio. Gorfod I ni ail greu nifer o’r golygfeydd gan fod onglau ddim yn iawn, neu edrychiad y cymeriad ddim yn iawn. Teimlaf fod gwaith tîm wedi datblygu llawer ers y ffilm gyntaf gan ein bod yn gytrefol a chyffyrddus yn gwmni ein gilydd ac yn gallu dweud beirniadaeth yn hyderus wrth ein gilydd. Roedd yna olygfa lle bu troelli ‘teabag’ mewn cwpa, roedd yn bwysig iawn i ni gael ffocws yn gywir. O ran ffilmiau blaenorol teimlaf fod bob golygfa yn y ffilm yna yn dangos ffocws pendant heb unrhyw ‘blurr’.
Roedd y broses golygu yn llawn botensial. Mae’r ffilm a’r golygfeydd yn llifon slic o un i’r llall a cheir effaith sain a chynnwrf yn bob eiliad ohono. Yn anffodus teimlaf ei fod wedi gorffen braidd yn cloi. Teimlaf y gallem fel grŵp wedi ehangu ein gallu i greu diweddglo ychydig mwy cloi n lle chwarae arni yn saff a chael diweddglo agored. Dw i wedi mwynhau’r broses yn fawr iawn, ac yn falch o weld gymaint o gynnydd yn y gwaith o’r dechrau hyd at nawr.
0 notes
Photo
How amazing is this new wallpaper collection by #SianElin ?! #black&white #wallpaper #onlineshopping
0 notes
Text
Product of the Week - Horseshoe Arch Collection by Sian Elin
Product of the Week – Horseshoe Arch Collection by Sian Elin
Dydd Gŵyl Dewi Hapus or Happy St David’s Day to our non Welsh speaking friends! In honour of St David’s Day we have a Collection of Products of the Week from Welsh Designer Sian Elin.
Featured as one of the Sunday Times Top 30 Fabric & Wallpaper designers, Sian Elin is a Wales-based e-tailer selling home-wares and gifts. We love the choice of colours paired with the Horseshoe Archprint which…
View On WordPress
0 notes
Text
Y Trydydd Ffilm-Rhedeg
Fi oedd actores y ffilm rhedeg. Er mae fi oedd yr actores gymerais dal rhan flaenllaw yn y cynhyrchu. Creuwyd stori a fyddem yn gobeithio yn datblygu i fod yn rhan o’r ffilm derfynol. Creuwyd stori lle bu gam-drin yn y cartref gan fachgen a merch yn ei harddegau. Roedd yn broses heriol iawn i ymdrin ag ef. Roedd y broses ffilmio yn un a wnaeth gymerid hyd at tua 6 awr i’w wneud. Cychwynnom yn fy ystafell i unwaith eto ac yna symud ymlaen i’r awyr agored. Atlanta oedd yn gyfrifol am goluro felly mi aeth ati i goluro fy ngwyneb oedd yn llawn cleisiau. Roedd yn rhaid parchu ein bod yn delio efo amgylchiadau y gall peri gofid i rai gwylwyr, felly mi geisiom drin ar sefyllfa yn barchus. Benderfynom Mai Atlanta fyddai’n gyfrifol am y coluro gan ei fod ganddi brofiad blaenorol yn y maes. Defnyddia amryw o bethau megis gwaed ffug a cholur llygaid er mwyn gwneud y gwyneb i edrych mor ‘reial’ a phosib. Cynhyrchwraig oedd Alice ac yna Megan ar y camera. Roeddwn I ar adegau hefyd yn cynhyrchu. Roedd yn hyfryd i weithio mewn tîm oedd yn gallu deall safbwyntiau ein gilydd ac yn gallu trafod y positif ar negyddol.
Roedd nifer o siotiau ar gyfer y ffilmio yn rhai agos tu hwnt. Roedd nifer o onglau yn ffocysu ar y gwyneb ac ar y llygaid.
Roedd yna olygfa lle y roeddem yn rhedeg oddi wrth y trais lawr lon y brifysgol. Benderfynom roi Megan I eistedd yng nghefn y car ac yna Alice hyn ei gyrru o flaen minnau wrth i mi redeg. Ceir hyn olygfa naturiol hyfryd, gan fod y camera a minnau’n rhedeg yn cyd-fynd yn slic.
Roeddem yn ffodus iawn gan ei bod yn ddiwrnod hyfryd y tu allan, felly nid oedd angen golau i ymwneud y ffilm yma. Gan fod ddim actor efo ni i gyfleu'r bachgen, roedd defnydd o law Atlanta yn aml yn cael eu defnyddio i daro’r ferch.
0 notes
Video
Dyma’r ffilm orffenedig!
1 note
·
View note
Photo
Dyma fi efo’r sistem ‘Boom’ a yn creu colur Nannon. Gwelwch yr effaith lle rydwyf yn ‘smyjio’r’ colur er mwyn creu cyfnod myfyrwraig wedi fod ar noson allan ac yn dychwelyd dranoeth efo colur ychydig yn aniben
0 notes
Text
Ffilm Cyntaaaf-Hwyr Eto
Gan nad oeddwn wedi bod yn rhan o ddarlithoedd Ffilm a theledu yn y semester cyntaf roedd y sesiwn cyntaf wir yn llawn cyffro. Wrth drin a thrafod grwpiau, sefydlwyd ei’n grŵp a theimlaf fod yna potensial mawr ymysg y pedair ohonom sef Fi, Megan, Alice ac Atlanta. Roedd y dasg gyntaf yn un eithaf syml ond hefyd yn un cymhleth wrth orfod meddwl am stori a syniad i gyd-fynd a’r teitl- Hwyr Eto. Wrth edrych ar wahanol syniadau ar Youtube a’r we, benderfynom greu stori efallai yn wahanol i’r strwythur arferol o hwyr efallai. Aethom ar ôl y syniad o fod yn hwyr ar gyfer misglwyf, a’r syniad ofnus fod myfyrwraig ifanc yn disgwyl babi. Teimlwyd fel grŵp fod angen cyfleu tensiwn ac emosiwn yn y ffilmio, felly mi greuwyd ‘Stori Board’ i ar law yn gyntaf i gyfleu ein teimladau a sut fyddai’r stori yn datblygu mewn cyfnod o bum munud. Rydym yn lwcus iawn i gael Megan ar ein tîm gan ei fod yn sicr yn ‘Whizz Kid’ fel petai ar yr ‘Apple Mac’ felly mi wnaeth hi ddarganfod ar yr ‘app store’ app o’r enw celtx a gwnaeth liniau eglur o’r stori a’r ffurf cartŵn fel petai. Roedd ein bwriad ar gyfer y mise-en-scene yn bwysig. Penderfynom ein bod yn mynd i ffilmio yn fy ystafell wely i yn y brifysgol. Teimlwyd fod gen fy ystafell i nodweddion blaenllaw ar gyfer ffilmio gan fod gennai olau naturiol yn llifo o’r ffenestr. Er hyn mi ddefnyddiom un lantern gan fod cysgodi yn gallu datblygu weithiau ar wyneb yr actores. Pan wnaethom fynd ati i ffilmio, benderfynais mai fi fyddai’n gyfrifol am ochr y Sain, roedd gafael yn y ‘boom’ drwy gydol y ffilmio a ffocysu ar lefel sain yn bwysig iawn, felly gorfod i ni ail greu nifer o siotiau gan fod sŵn megis pobl yn siarad â sŵn traffig yn ymyrryd ar effaith y ffilm. Fi yr oedd yn gyfrifol am wneud colur Nannon yn y ffilm yma, mi benderfynais i greu colur noson allan, drwy ddilyn y linc yma ar youtube
https://www.youtube.com/watch?v=8YOMp2XQFb0
ac yna rhoi diferyn o ddŵr a'i hwyneb i ymddangos ei fod wedi bod yn llefen. I fod yn deg yn y ffilm yma teimlaf ein bod ni gyd wedi bod yn rhan flaenllaw ym maes y cynhyrchu. Rydym yn bedair sydd â meddylfryd cryf felly roedd gwneud penderfyniadau ddim yn broblem. Roedd gyda ni amryw o siotiau gwahanol gan zwmio i mewn ar fanylder ei mynegiant wynebol. Ceir nifer o siotiau agos, hefyd siotiau lle bu’r lantern yn gornel yr ystafell ac yna wyneb Nannon ar ongl yn wynebu’r drych ac yna Alice efo’r cmera y tu ôl iddi yn cael siot agos wrth zwmio ac yna pell wrth pellau oddi wrth y drych.
0 notes
Photo
ENW: SIAN ELIN
OEDRAN: 19
CWRS: Drama ac Astudiaethau Theatr BA
0 notes