#WythnosGwirfoddolwyr
Explore tagged Tumblr posts
wcva · 8 years ago
Text
Mae bywyd yn fyr - gwirfoddolwch
Tumblr media
Ruth (ar y chwith) gyda chyn-Faer Efrog Newydd, Rudy Giuliani, yn gwirfoddoli gyda New York Cares
I nodi Wythnos Gwirfoddolwyr mae Prif Weithredwr WCVA, Ruth Marks, yn ystyried pam mae gwirfoddoli mor agos at ei chalon.
Mae hi’n Wythnos Gwirfoddolwyr a dwi wedi treulio dipyn o amser yn meddwl pam mae gwirfoddoli yn golygu gymaint i mi. Mae bywyd yn fyr - gwirfoddolwch yw’r slogan neu’r ymadrodd diweddaraf sydd wedi dal fy llygad ynglŷn â gwirfoddoli.
Cefais fy magu gyda gwirfoddoli o’m cwmpas ym mhob man. Roedd Dad yn arfer trwsio Llyfrau Llafar i’r Deillion ac roedd e’ hefyd yn cefnogi nifer o elusennau gwahanol. Mae Mam bob amser wedi rhoi o’i hamser ac mae’n canu clodydd yr hyfforddiant a gafodd fel Samariad, y wybodaeth a enillodd yn ei helusen gofal a chymorth leol a’r cyfeillgarwch mae hi’n ei rannu drwy Age UK. Dwi’n siwr mai ei chysylltiadau cymunedol yw’r rheswm pam y cafodd gymaint o gymorth ymarferol a chefnogaeth emosiynol pan dorrodd ei harddwrn a’i throed mewn codwm yn ddiweddar. Felly dyma ymadrodd rhif dau - fe gewch o fywyd yr hyn rydych yn ei fuddsoddi ynddo.
Tumblr media
Mam Ruth yn cael ei chydnabod am wirfoddoli
Ond wrth gwrs, dyw’r rhan fwyaf ohonom ddim yn gwirfoddoli i gael rhywbeth ohono. Yr hyn sy’n ein hysgogi yw ein dyhead i weithredu, i helpu, i ymgyrchu - i wneud gwahaniaeth.
Cefais fy atgoffa o hyn yn ddiweddar wrth gyfarfod â nifer o Lysgenhadon #iwill yng nghyfarfod Pwyllgor Cynghori Step Up To Serve a gadeiriwyd gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru. Yng nghanol ysblander Palas Buckingham, daeth criw at ei gilydd a oedd yn cynnwys y Prif Rabbi, aelod o Dŷ’r Arglwyddi, Prif Weithredwr y Sgowtiaid a Chadeirydd Cyngor Ieuenctid Prydain - Anna Barker. Eglurodd Anna ei bod wedi dechrau gwirfoddoli achos ei bod yn flin. Roedd hi’n byw mewn pentref bach yng nghefn gwlad Dorset a doedd yno ddim trafnidiaeth i fynd i nunlle na gwneud dim byd. Dechreuodd Anna ymgyrch, llwyddodd i sortio rhywbeth i ddatrys y broblem ac roedd hyn yn ysgogiad mawr iddi a arweiniodd at rolau gwirfoddoli eraill.
Dydw i ddim yn mynd yn flin yn aml iawn, ond dyw hynny ddim yn golygu nad ydw i’n pryderu am bethau ac mae fy mhrofiad gwirfoddoli personol yn ymwneud yn bennaf â’m pryderon.
Yn yr ysgol roeddwn yn ymwneud â’r Brownis, y Geidiaid a’r Rangers. Roeddwn wastad yn ffafrio gweithgareddau gwasanaethu a helpu yn hytrach na’r pethau anturus, awyr agored - ffafriaeth sy’n parhau hyd heddiw.
Yn y brifysgol cefais fy mlas cyntaf o wirfoddoli ffurfiol drwy’r Undeb Myfyrwyr. Cefais fy nghyflwyno i’r Gwasanaeth Prawf a’m hyfforddi i fod yn Diwtor Llythrennedd i Oedolion. Cyfarfyddais â phobl arbennig - yn gleientiaid ac yn staff - a dysgu llawer iawn am bobl a chefndiroedd nad oeddwn erioed wedi cael profiad ohonyn nhw o’r blaen.
Roedd materion yn ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a gwahaniaethu yn amlwg iawn yn fy 20iau a’m 30au wrth i mi weithio yn y diwydiannau adeiladu a cheir, yn ogystal â thai cymdeithasol a’r trydydd sector. Hyfforddais fel Cwnselydd HIV Aids gwirfoddol a chefais hyfforddiant sydd ymysg y mwyaf grymus a thrawiadol dwi erioed wedi’i gael gan London Lighthouse (nad yw’n bodoli mwyach ond mae eraill yn parhau â’u gwaith gan gynnwys Ymddiriedolaeth Terence Higgins).
Mae gwirfoddoli wrth ochr pobl sy’n sâl neu’n galaru yn fraint - ac yn fy marn i mae’n rhywbeth y gall unrhyw un ohonom ei wneud yn dda am gyfnodau penodol o amser ac yna da o beth yw cael seibiant a rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol.
I mi - cefais hyd i rywbeth gwahanol yn canu mewn côr yn ogystal â bod yn rhan o grwpiau yn gweithio ar wahanol brosiectau - gwaith pwyllgor yn aml, ond does dim byd tebyg i fynd ati a chymryd rhan mewn rhywbeth ymarferol.
Elfen allweddol arall i lawer o wirfoddolwyr yw codi arian ac mae llawer ohonom yn codi arian dros achosion agos atom boed hynny drwy nawdd, gwerthu cacennau neu hel pres gyda bwced.
Y tro cyntaf i mi ddod i gysylltiad â chodi arian yn broffesiynol oedd pan oeddwn yn arwain RNIB Cymru. Doeddwn i erioed wedi cwrdd â phobl a oedd â rhif ffôn personol enwogion, a allai wneud bargeinion â lleoliadau anhygoel, a chynnal ocsiynau distaw gyda gwobrau penigamp i godi arian i gefnogi ymgyrchoedd cenedlaethol. Serch hynny, yr ymdrechion lleol i godi arian a gafodd yr effaith fwyaf arnaf. Pobl mewn cymunedau lleol a fyddai, flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn treulio amser i gynnal digwyddiadau a fyddai’n codi arian hanfodol i helpu i gynhyrchu Llyfrau Braille a Llafar yn Gymraeg a Saesneg i blant bach eu mwynhau.
Dwi’n mwynhau ac yn cael hwyl wrth wirfoddoli. Dwi wedi dysgu gymaint, cwrdd â phobl arbennig ac wedi bod yn lwcus i wirfoddoli yn yr Unol Daleithiau, Awstralia, Sri Lanca, Lloegr a Chymru.
Pryd bynnag dwi’n gofyn i rywun - sut y dechreues di wirfoddoli? Maent fel arfer yn dweud - gofynnodd rywun i mi wneud. Felly fy neges i yn Wythnos Gwirfoddolwyr eleni yw i nid yn unig ddiolch i wirfoddolwyr - ond hefyd i ofyn i rywun sydd heb wirfoddoli eto i roi cynnig arni - gobeithio y byddwch yn ei fwynhau gymaint ag yr wyf i.  
0 notes
wcva · 6 years ago
Text
Amser dathlu
Fiona Liddell yw’r Rheolwr Helplu newydd i Gymru yn WCVA. Yn y blog hwn, mae'n cyhoeddi lansiad Helpforce yng Nghymru, a'i gynllun i drawsnewid gwirfoddoli yn y GIG a'r cyffiniau.
Tumblr media
Mae hi bob amser yn amser da i ddathlu gwirfoddolwyr, ond mae Wythnos Gwirfoddolwyr (1 – 7 Mehefin bob blwyddyn) yn amser arbennig o dda i wneud hynny; mae geiriau ac arwyddion o ddiolch, cydnabyddiaeth a gwerthfawrogiad o amgylch y Deyrnas Unedig gyfan yn cael mwy o effaith yn ystod yr Wythnos nag y gallwn ei chael ar ein pen ein hunain.
Dwi am fanteisio ar y cyfle, eleni, i ddathlu cyfraniad gwirfoddolwyr at iechyd a gofal cymdeithasol ac i nodi lansiad Helplu yng Nghymru.
Mae ein poblogaeth yn heneiddio ac mae disgwyliad oes ar gynnydd sydd, ynghyd â llai o adnoddau ariannol, yn rhoi pwysau ar wasanaethau cyhoeddus. Mae llawer o unigolion yn brif ofalwyr i aelodau o’u teulu; mae eraill yn cyfrannu’n fwy anffurfiol at lesiant pobl eraill drwy wneud cymwynas â’u cymdogion a ‘chadw llygad’ ar y rheini sydd efallai’n fregus.
Yn gynyddol, mae cyfle i bobl wirfoddoli yn y Gwasanaeth Iechyd neu fudiadau cymunedol a chyfrannu mewn ffyrdd penodol sy’n gwneud gwahaniaeth i gleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Ymysg y gweithgareddau lu a wneir gan wirfoddolwyr y mae cynlluniau teithio i’r ysbyty, cymorth cyfeillio, cymorth mewn profedigaeth, helpu mâs ar wardiau,  Gall y rhain fod yn gyfleoedd buddiol iawn i’r rheini sydd â phrofiad bywyd a thosturi i’w rhannu, yn ogystal â chynnig profiad i’r rheini sy’n ystyried gyrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.  
Mae Helplu yn ymdrechu i weddnewid gwirfoddoli mewn lleoliadau gofal iechyd. Yn Lloegr, mae’r fenter wedi bod yn ariannu arloesedd ac yn datblygu sylfaen dystiolaeth ar gyfer ymyriadau gwirfoddol effeithiol ers dros 2 flynedd nawr. Yng Nghymru, mae Helplu wrthi’n bwrw gwreiddiau ac yn datblygu rhaglen waith sy’n cyd-fynd â’n blaenoriaethau a’n cyd-destun penodol ni.
Tumblr media
Mae Cymru Iachach a’n fframwaith deddfwriaeth (Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a’r Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodolo (Cymru) yn sefydlu egwyddorion arloesedd, partneriaeth a chydweithio, a datblygu gwasanaethau wedi’u seilio ar egwyddorion cyd-gynhyrchu a’r hyn sy’n bwysig i gleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o weithio ar draws ffiniau traddodiadol er mwyn gwireddu ein hymrwymiad i integreiddio gwasanaethau. At ei gilydd, mae gwirfoddolwyr yn gyfle i roi cynnig ar ddulliau newydd a gweithio mewn ffyrdd hyblyg.
Mae angen i ni adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn digwydd, i ganfod beth sy’n gweithio’n dda a chasglu tystiolaeth i roi gwybodaeth i’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau strategol. Hoffem weld mwy a mwy, gwirfoddolwyr yn cael eu cydnabod am wneud gwahaniaeth go iawn ym mywydau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau ac yn hybu effeithiolrwydd gwasanaethau.
Hoffem ddatblygu’r offer a’r diwylliant i gefnogi twf gwirfoddoli, gan gynnwys diogelu priodol a dealltwriaeth dda gydag undebau a rhanddeiliaid eraill o rôl briodol gwirfoddolwyr. Hoffem ddysgu oddi wrth ein gilydd i wella’n barhaus yr hyn rydym yn ei wneud ac i godi llais uchel ynglŷn â’n llwyddiannau.
Rôl y Trydydd Sector ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yw pwnc cynhadledd am ddim a gynhelir ar 23 Mai yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Yn un o’r gweithdai byddwn yn ystyried sut ellir canfod prosiectau gwirfoddoli peilot neu untro, eu rhoi ar waith yn ehangach a’u prif-ffrydio yn effeithiol. Bydd y drafodaeth hon yn llywio datblygiad gwaith Helplu yng Nghymru.
Yn y cyfamser, rhaid i ni beidio anghofio am Wythnos Gwirfoddolwyr. Os ydych wedi cyhoeddi straeon am wirfoddolwyr sy’n weithgar ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, anfonwch ddolenni at y rhain ac fe fyddaf yn falch o’u hyrwyddo yn ystod yr Wythnos. Croeso i chi anfon ebost ataf drwy [email protected] neu tryddar @FionaMLiddell
Os ydych yn cynllunio’ch gweithgareddau’ch hun ar gyfer Wythnos Gwirfoddolwyr, cymerwch olwg ar yr adnoddau sydd ar y wefan.  Gallwch darganfod beth sydd yn digwydd yn eich ardal, drwy cysylltu â’ch canolfan gwirfoddi lleol.
Fiona Liddell yw Rheolwr Helplu Cymru, gan weithio o fewn WCVA. Gellir cysylltu â hi drwy ebostio [email protected] neu ffonio 029 2043 1730. 
Erthygl gysylltiedig:
Datblygu gwirfoddoli i gefnogi gofal iechyd yng Nghymru
0 notes